Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD.I

Yn Fan ac yn Amal. |

1Llwynbrwydrau. I

COLOFN LLAFUR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN LLAFUR. GAN PEBEDUR. Baddonau Pen y Pyllau. Gwelwn fod Mr Henry Davies, organ- izer Addysg Gelfyddydol yn y Sir, yn mynd ati o ddifrif i gymell y gweithwyr i fabwysiadu y cynllun o ymolchi ar ben y pyllau. Apeliodd yn ddylanwadol mewn cyfarfod yr wythnos ddiweddaf er mwyn y gwragedd. Dangosodd fel y mae eu gwaith a'u gofal hwy wedi ei ychwanegu oddiar gyfaddasiad yr wyth awr. Trueni fod mor lleied o sylw yn cael eu roddi i'r mater hwn. Credwn ei fod yn Ilawn bryd i swyddogion y Ffederashwn i gymeryd y mater hwn i fyny. 0 safbwynt iechyd a glanweith- dra, heb son am arbediad llafur, y mae yn bryd gwneyd symudiad tuag yn mlaen. Peryglon yn y Glofeydd. Arwyddion yr amserau ydynt fod y gweithwyr yn dyfod yn fwy byw i'w hawliau a'u breintiau o dan ddeddf rheoleiddiad mwnfeydd. Yn' canlyn adroddiad a chymelliad archwilwyr pen- nodedig eu hunain, daeth tua 2,500 o weithwyr Glofeydd Abertridwr allan ar streic, ac yn gwrthod gweithio o her- wydd fod cyflwr y lofa yn rhy beryglus. Y mae y gweithwyr yn dadgan eu parod- rwydd i fyned yn ol i weithio ar ol i'r peryglon gael eu symud. Cais am Ragor o Inspectors. Derbyniodd Mr. McKenna, yr Ys- grifenydd Cartrefol, dydd Mercher di- weddaf, ddirprwyaeth bwysig oddiwrth Ffederashwn y Glowyr, yn gofyn am drefniant deddfol i sicrhau mwy o ddio- gelwch yn y glofeydd i fywyd a iechyd y gweithwyr. Yr oedd yn bresenol gyda Mr McKenna dri o Brif Inspectors y Lvwodraeth. 9 Mr. W. Brace, A.S. Cyflwynodd Mr Brace yr achos mew n anerchiad grymus a dylanwadol, a chydag ergydion byw ac effeithiol dy- wedodd: Yn ngwyneb hanes y colliad ar fywyd ofnadwy yn y danchwa erchyll yn Senghenydd y flwyddyn ddiweddaf, yr oedd yn sicr na fyddai yr Ysgrifenydd Cartrefol yn synu fod Ffederashwn Glo- wyr Prydain wedi gofyn iddo dderbyn y ddirprwyaeth." Lladdfa o 1571 o Fywydau. Dywedodd fod 1571 o farwolaethau wedi cymeryd lie y flwyddyn ddiweddaf mewn canlyniad i ddigwyddiadau tan- ddaearol yng nglofeydd y deyrnas hon. Golyga hyn fod mwy na phump o fywyd- au ar gyfartaledd wedi eu haberthu bob dydd gwaith drwy ystod y flwyddyn. Yr oedd y danchwa ddiweddaf a gymer- odd le yn Nghymru y fwyaf a fu erioed yn y wlad hon. Ac yr oedd hyn, cofier, yn digwydd yn rhwydd ar ol cyflwyniad gwelliantau newyddion yn Xeddf Rheol- eiddiad y Mwnfeydd. Archwiliad y Glofeydd. Achwynai y gweithwyr fod y trefnianl archwiliadol yn ddiffygiol. Ac os oedd y Llywodraeth yn wirioneddol ddifrifol am ddiogeli bywyd y glowr, yr oedd yn rhaid iddi ad-drefnu y cynllun o archwil- io y glofeydd. Nid oedd yn dwyn cy- huddiad yn erbyn yr Inspectors presen- ol, ond o herwydd lluosogrwydd y glo- feydd ,a nifer cymharol fychan yr In- spectors, yr oedd yn amhosibl gwneud y gwaith i'r perffeithrwydd gofynol. Cynllun Newydd. Yr oeddynt hwy ar ran y Ffederashwn yn awgrymu ac yn cynyg, fod yr Ys- grifenydd Cartrefol yn ail-drefnu y cyn- llun o Inspection. Dylid trefnu arwvn- ebedd mwnawl y wlad i ddosbarthiadau neillduol, a phennodi Inspector prif- raddol ar bob dosparth. Yn is-raddol, a than arolygiaeth y prif swyddog hwn, dylid penodi un arolygwr ar gyfer pob pum' mil o weithwyr, a'r pennodiadau I hyn i gael eu gwneyd drwy falot gan y gweithwyr, a'r Llywodraeth i dalu y draul o'u cadw. Gofynion y Ddeddf. I Gofynion y Ddeddf. Yr oedd y ddeddf newydd yn gofyn I arbrawfion neillduol mewn cysylltiad a phenderfynu cyflwr iachusol yr aw,yr yn y glofeydd. 0 herwydd y prinder mewn Inspectors, yr oedd yn amhosibl i hyn gael ei wneyd. Pwysleisiodd Mr. Brace y pwynt hwn i dre, fod y rheol hon, er wedi ei gwneyd, ac wedi dyfod i rym er Gorphenaf, 1912, y beiddiai ddweyd nad oedd 15 y cant o'r glofeydd yn ymarferyd yr arbrawfion hyn. Y Cost. Awgrymodd hefyd am y gost. Yr oedd tua 200,000 o weithwyr glofaol yn Xeheudir Cymru. Gofynal y nifer hwn 40 o Inspectors. Pe rhoddid £-200 y flwyddyn o gyflog bob un deuau hyny i'r cyfanswm o £ 8,000 y flwyddyn. A'r gost i gynal y nifer gofynol o'r Inspec- tors hyn dros yr oil o'r dosparthiadau mwnyddol drwy y wlad fyddai 940,000. A fyddai y pris hwn yn ormod i dalu, pe y gellid ond arbed un bywyd? Yr oedd cynllun o'r fath wedi ei fabwys- iadu yn Ffrainc, gyda'r canlyniad o lei- had mawr yn nifer y digwyddiadau angeuol. I Atebiad Mr. McKenna. I Wedi i amryw o'r ddirprwyaeth siarad, a gosod y gwahanol gwynion a. diffygion o flaen yr Ysgrifenydd Car- < trefol, atebodd yntau mewn dull hollol j gyfreithiol. Swm a sylwedd ei atebiad oedd, nad oedd angen am ragor o In- spectors. Wrth gwrs, y mae pobpeth yn dda gyda goruchwyliaeth y glowr. Y mae y swyddog mawr hwn yn gwybod yn well na chynrychiolwyr uniongyrchol y gweithwyr, nas gellir cael gwelliant diogeliadol drwy ychwanegu Inspectors. Dyma enghraifft o'r pryder a'r gofal sydd yn bodoli yn meddyliau y dos- barth cyfalafol, am ddiogeliad bywyd y gweithiwr cyffredin. Y mae y gost a'r drafferth tybiedig a osodid ar y meistri yn gorbwyso diogeliad bywydau y gweithwyr.

I Ar y Twr yn Aberdar. I

0 Deifi i'r Mor.

Nodion o Frynamman. I

Advertising