Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
an d Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at £5 15 Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan & Co., Ld., Wales' Largest Furnishers are now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low pricel Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels, a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand with Marble Top and The Back, and Two strong Cane-seated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
Y Stori. I
Y Stori. I LLWYBRAU'R SARFF. I Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr." GAN M. H. CHARLES. I VI. I (Parhad.) Meddyliai Evan Powell lawer am ei unig blentyn, er na ddywedai yr un gair wrth neb. Buasai yn foddlon aberthu llawer bellach er cael un olwg arni. Yr oedd haen dyner yn ei galon, er yr holl ystyfnigrwydd, a deffroai ei gydwybod yntau yn fynych pan gofiai am lawer o helyntion. Teimlodd fod Caleb Jones wedi cael buddugoliaeth lwyr yn Nhroedyrarth, ac yntau wedi ei adael a'i ddiarddel o'r capel. Credodd yn sicr nas gall- asent fyned ymlaen hebddo, ond yr oedd y cyfan wedi newid. Aeth y lie yn rhy boeth o'r diwedd i Mrs Harries, yr Angel, a'i theulu, a chyn hir gwel- wyd hwythau yn llechu o dan aden dyned yr "Hen Fam." Dinystriodd Mrs Harries ei hunan yn fuan iawn drwy yfed i ormodedd. Duw yn unig a wyr ei thynged, ond dywed y Gair, "Lie disgynno'r pren, yno yr erys efe." Un hwyrddydd yn yr haf, pan oedd Ann Williams wedi dianc allan yn llechwraidd o'r ty i dorri gwanc ei blys, gwelodd ar y "square" dyrfa fawr o bobl, a dyfalai beth oedd yno. Aeth ymlaen atynt, ac wrth ei bod yn dynesu, gwelai ddynes gymharol ieuanc yn sefyll i fyny, a deallodd mai y "Merched Dirwestol oedd yno yn cynnal cyfarfod. Cofiodd gynghorion ei mam iddi, a dechreuodd wrando. Yr oedd tynerwch eithriadol yn llais y ddynes, a'i hapel yn cyrraedd ei chalon. Dywedai yr un drwg wrthi am fyned rhag ei blaen, ond yr oedd fel pe wedi ei hoelio wrth y fan, a llifai y dagrau dros ei gruddiau prudd. Canfu'r ferch ddirwestol hi, ac yn union wedi gorffen siarad ceisiodd dynnu ati drwy'r dorf, ond collodd olwg arni nes methu dod o hyd iddi. Er hynny, yr oedd y wyneb hyfryd a'r olion dygiad da i fyny yn aros o hyd yn ei chof. Ymhen ychydig wythnosau, aeth yr efengyles ddir- westol a siaradai'r noson honno i was- garu "tracts" dirwestol o dy i dy yn ol ei harfer, ac agorwyd y drws iddi'r nawn hwnnw gan Ann Williams, y ddynes y bu hi'n chwilio cymaint am dani. Cofiodd y ddwy am gwrdd dir- westol y "square," ac wedi siarad ychydig eiriau, gofynnodd Ann Wil- liams iddi ddod i fewn i eistedd, ac yno yn y parlwr bach i'r ferch a'r wyneb caredig, a'r llais tyner, yr agorodd Ann ei chalon. Adroddodd iddi droion blin ei bywyd, a helyntion chwerw ei gyrfa. Dywedodd am y modd y twyllodd ei hanwyl fam, y dibrisiodd ei chynghorion a'r dagrau a fuont yn eiriol drosti ganwaith, ac nad oedd wedi anfon gair iddi oddiar pan ddaeth oddiyno. Dywedai hefyd y carasai, pe ond er mwyn ei dau blentyn bach, fyw yn well, ac yr hoffai yn fawr gymodi a'i rhieni. Credai fod ei thad yn ei charu, er y cwbl, ond iddo hanner gwallgofi pan wnaeth hi dro mor groes i'w ewyllys. *Wedi siarad yn hir, addawodd i Mary Wal- ters-yr efengyles ddirwestol-y deuai gyda hi i "Gwrdd Dirwestol y Merched y tro nesaf, a bu yn unol a'i gair. Arwyddodd ddirwest yn ei dagrau, ac anfonwyd gweddiau taerion ar ei rhan at yr Hwn a allai gynnal y gwan a'r crwydredig ymhob am- gychiad. (I orffen yn y nesaf.)
Advertising
I ESTYN EICH OES Bwytewch ac yfwch yn gymhedrol, ond os digwydd annoethineb, gellwch ym- ddibynnu bob amser y bydd i PELEN! LLYSIEUOL KERNICK lanhau'r cyfansoddiad, cryfhau'r nerves, iachau diffyg traul a rhwymedd, a gwneud y croen yn glir a glan. Y mae miloedd na cliyraerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau l'li a 2/9 gan yr holl Fferyll- wyr.
Eisteddfod Aberpennar,I Llun…
Eisteddfod Aberpennar, Llun y Pasg. I Pwyso a Mesur. GAN BRYNFAB. Y Gwaredydd Danchwaol. I (Darn Adroddiadol.) Dau gyfansoddiad dderbyniwyd. Dichon nad oedd y beirdd yn medru deall y testyn. Ni fuasai y beirniad yn ei ddeall chwaith onibae am y nod- iad sydd dano yn y Rhaglen. Nid yw Eurwyn wedi cael cip ar y testyn, ac ni fu yr awen o nemawr gyn- horthwy iddo. Rhyddieithol iawn yw y llinellau trwy y darn. Mae ganddo chwe' llinell ofnadwy o hir i gychwyn. Rhaid rhoi enghraifft, ond i mi gael dwy neu dair llinell i wneud hynny Cerdda'r bugail yn hapus hyd ochrau y niynydd, ga'n roddi gorchymynion i'w gi." Ceisia'r ymgeisydd ddisgrifio pethau, ond curai gohebydd newyddiadurol ef, dan chwijban. Rhaid oedd iddo orffen ei ddarn fel pregeth. Deallodd Dafydd Nanmor ei destyn yn drwyadl, a cheir disgrifiad byw a chynhyrfus o'r Gwaredydd ganddo. Yn y darn hwn gwelir y gwron a'i arfau i ymladd ag angau ar ei gefn, yn myned trwy bob perygl i achub ei gyd-ddyn. Mae y gwaith yn meddu digon o am- rywiaeth. ac mae yr iaith yn gryf a di- frychau. Feallai y condemnir y gair "cas" am case ond mae llawer o eir- iau hanner estronol yn dyfod i fri yn awr, gan y bobl hynny sydd yn honni nad oes neb yn deall yr iaith Gymraeg fel hwy. Diwedda y darn dipyn yn rhyfedd, gyda llinell heb gymar iddi. Ond dichon y gall newydd-deb fel hyn fod yn effeithiol mewn darn adrodd- iadol. Dafydd Nanmor bia y wobr, ac mae yn ei llawn deilyngu. I Telyneg-11 Y Delyn." I (Cyfaddas i Gerddoriaeth.) Pum' telyneg ddaeth i law. Mae telynegion Pennar a Ffynnon y Gog yn rhy anystwyth eu corfannau i'w hieuo a cherddoriaeth. Ychydig yn hynafol hefyd yw y syniadau sydd ynddynt. Canodd Angharad benhillion ys- twyth. ond mae y mesur a ddewiswyd yn un Uipa iawn. Mae yr un gair yn rhy fynych yn yr odlau, nes ydyw yn mynd yn feichus. Ti, di yw yr odl ganolog agos ym mhob pennill, a chan fod wyth pennill yn y delyneg, gwelir fod achos i gwyno am y tramynychiad. Nid yw liudded a chyfaredd yn odli. Gormod o bentyrru geiriau sydd yn y delyneg trwyddi. Nis gwn beth yw ergyd pennill fel hwn:— Calon galed, Beirniad aeddfed Dan dy dannau di, Rydd ei dynged Llawn mor fwyned A'th gynghanedd di. Ychydig yn gymysglyd yw y syniadau yn nhelyneg yr Eos. Nis gwn beth sydd a fynno'r delyn a ihwyll a brad: Cilia twvll a brad, Cleddir twyll a brad. Nid yw gosod y delyn i floeddio-- Bloeddia "Cymru Fydd" yn hapus o gwM. Ar y meithaf yw y delyneg hon eto—chwech phennill. Pan ofynir am ddarn cyfaddas o farddon- iaeth, dylid bod yn gryno, a pheidio mynd i ymyl yr un tir ddwywaith. Canu yn rhy bell draw wna yr Eos bon. Mewn telyneg, goreu po agosaf i'r teim- lad y byddo y bardd. Pedwar pennill sydd gan Awel y De, ao mae hynny yn llawn ddigon mewn telyneg. heb son am ddarn i'w ganu. Gallasai y tine personol fod yn agos- ach yn y delyneg hon hefyd. Ond nid yw yr awdur yn gwastraffu gofod na geiriau. Llawer mewn ychydig yw nodwedd y gan. Yn ddios, dyma y delyneg fwyaf cyfaddas i gerddoriaeth. a chaffed ei hawdur v wobr-Awel y De. Englyn-" Y Breuddwydiwr." I Daeth deg englyn i law. Nis gwn beth sydd wedi dod ar draws v beirdd. Gallesid meddwl fod y testyn yn eu taro i'r dim. O'r deg, nid oes ond dau neu dri wedi cael iawn olwg ar y Breuddwydiwr. Diafael ydyw englyn- ion Sion Brwynog, Bunyan, Bardd Cwsg, Glan Cynon, Pentwyn, ac Un Wedi Deffro. Amcanodd Joseph yn lied dda, ond cauodd ei lygaid yn y llinell olaf: Daw golud y gweledydd. Ceir englyn llithrig gan Bunyan (2), ond methodd a dweyd ei feddwl yn ddigon eglur. Englyn gwych yw eiddo Caeth Fyfyr oni bae am y gair estronol sydd yn y llinell olaf: r* A'r pith ni cha o'r pethau." Mae englyn Meddyliwr ym lied dda, heb ynddo yr un gair tramgwydd. Efe yw y goreu, yn ddios. Dyma fe Dyn sydd yn y byd dansoddol-ydyw Breuddwydiwr; mae'n nghanol Gwir bethau, ond ffugiau ffol Dery'i nodau dirnadol. Traethawd—" Enwau Ffermydd, Nent- ydd, etc., Dosparth Aber Pennar." I Un traethawd ddaeth i law ar y testyn diddorol hwn, sef eiddo Hen Fynyddwr. Mae yr ymgeisydd wedi bod yn anffodus iawn mewn llawer cyf- eiriad. Nodir yn ddigon eglur ar y Rhaglen mai 6 tudalen o foolscap oedd y terfyn gosodedig. Mae y traethawd hwn cyhyd deirgwaith a hynny, a dyna ef allan o'r gystadleuaeth ar unwaith. Ond mae y pwyllgor i'w beio gymaint ag yntau. Yr oedd yn amhosibl gwneud y gwaith a ofynid mewn cylch mor gyfyng. Mae y traethawd hefyd yn anorffenedig, fel y dywed yr awdur ei hun. Mae'r amser i fyny, a'r gwaith heb derfynu," ebai ef. Felly, mae yn yr un sefyllfa a'r dyn a redai i ddal y gerbydres—a'i cholli. Buasai wedi ei dal pe cychwynasai mewn pryd. Mae traethawd Hen JFynyddwr yn un diddorol. fel ag y mae. Olion brys mawr sydd arno o un pen i'r llall. Nid yw wedi trefnu ei waith yn gryno. Neidia o un bryn i'r llall, ac o un cwm i'r llall, yn ol ac ymlaen. Gallasai gwtogi llawer ar ei sylwadau gan rlhd oedd y testyn yn galw am rai many lion sydd ganddo. Nid yw yn iawn gyda therfynau Dosparth Aber Pennar. Gesyd Gelli Lwch. Penywal, a Blaen Henwysg i fewn. Yn Nosparth Ponty- pridd mae y lleoedd hynny. Gadaw- odd amryw amaethdai allan, megys Gelli Wrgant, a Phenrhiw Caradog. Oherwydd yr holl ddiffygion sydd yn y traethawd, nis gallaf ddyfarnu y wobr i'r Hen Fonyddwr. Awgrymaf i'r Pwyllgor ddyblu y wobr erbyn yr Eisteddfod nesaf, a pheidio gosod ter- fynau i'r ymgeiswvr. Gall yr Hen Fynyddwr wneud gwrhydri wedi cael digon o amser. a digon o le iddo i ysgrifennu. (I barhau.)
Barnwr Didrugaredd. I
Barnwr Didrugaredd. I Barnwr didrugaredd ydyw y Tad Amser. O'i flaen ef el y gwan i'r gongl a'r methedig yn erbyn y mur. Dim ond y gwir a saif. Am dd wy flynedd y mae y datganiad canlynol gan un o breswylwyr Merthyr wedi dal y llymaf o bob prawf. Dros ddwy flynedd yn ol Mr Fred- erick Overbury, o 25 Ernest Street, Merthyr, a ddywedai Diau mai anwyd a gefais a ddygodd arnaf drwbl yr arenau. Ar amserau caffwn boenau marwaidd parhaus ar draws meinder fy nghefn a'm lwynau. Ambell i waith yr oeddynt o natur wanol, ac yr oeddynt yn flinderus iawn, gan fod genyf gymaint o blygu i'w wneyd wrth ddilyn fy ngorchwyl fel taniwr nwy. Blinid fi gan benys- gafndra, a phoen pen, a chaftwn ofid gyda'r dwfr hefyd. Ambell waith yr oedd y dwfr yn llwydaidd iawn, ac yn gadael gwaddod ar ol. "Yr oeddwn wedi cynyg moddion ereill, ond heb wneyd ond ychydig, os dim lies. Yna dechreuais gyda phel- enau poen cefn Doan at yr arenau. Cefais y -hai hyn y feddyginiaeth oreu a gymerais erioed at anhwylder yr arenau. Ystyriwyf hwy yn ardder- chog, ac yr wyf yn .astad yn eu cvmeradwyo. (Arwyddwyd), Frederick Overbury. Dros ddwy flynedd ar ol hynny dywed Mr. Overbury Da gennyf allu dweyd fy mod yn mwynhau icchyd da o hyd, ac yn meddu syniad uchel o belenau poen cefn Doan at yr arenau o hyd. Nid oes gennyf un petrusder o gwbl i gymeradwyo eu defnyddiad at bob anhwylder ar yr arenau. Pris 2s. 9c. y blwch, chwech o flychau am 13s. 9c., oddiwrth yr holl werthwyr, neu oddiwrth Foster McClellan Co., 8 Wells Street, Ox- ford Street, London, W. Peidiwch gofyn am belenau poen cefn a'r aren- au-g-ofynwch yn glir am belenau poen cefn Doan at yr arenau, y fath ag a gafodd Mr. Overbury.
i Eisteddfod y Caeran, Ebrill…
Eisteddfod y Caeran, Ebrill 15, 1914. AWDL Y GORON. ) Testyn: Deled Dy Deyrnas." Ymgeiswyr, saith. Yr enwau (yn ol trefn yr A.B.C.) Cludydd Arfau, Deiliad (1), Deiliad (2), Hedd, Pub- lican, Pwyll, Wrth y Groes. Cludydd Arfau: Dechreu yn dda. Swn newydd yn ei linellau. Awdl hawdd ei deall. Amryw linellau naturiol a barddonol. Iaith yr afon aflonydd Yn son am y dyfnder sydd; Murmur y mor mawr ymheU Ar drothwy aur ei draethell; Cri eigion dwfn mewn cragen deg." Nid yw y farddoniaeth o hyd yr ar- uchel, na ffurf yr awdl yn hollol ddi- nam. Nid peth cyffredin yw gadael llinell ar ei phen ei hun. Cefais bleser mawr wrth ddarllen yr awdl. Deiliad (1) (yn dechreu, "Deled Dy Deyrnas!"): Cynghaneddwr cryf. Mae ganddo amryw gypledau da. lor, Dy wlad yw Cymru dlos, Yn ei thir am byth aros!" Y mae yn anghofio ei urddas ambell dro: Gwyr y fainc fu'n segur o Fon-hyd Went, Emynau ganent mewn menyg gwyn- ion. Deiliad (2): Bardd yn ymhyfrydu yn ¡ holl fesurau'r awdl. Anodd iawn yw dweyd synwyr heb son am farddon- iaeth mewn ambell fesur. Ar y cyfan mae Deiliad (2) yn llwyddiannus. Hedd Braidd yn dywyll ar brydiau. Yn dda iawn wrth son am y pagan, etc., yn dod i'r Deyrnas I wydd y Groes rhydd ei gred Lam o ymyl Mahomed." Publican: Awdl ardderchog arall. Cyfres o englynion cryf. Ymbil a gweddi drwyddi. Methodd wneyd ei feddwl yn glir mewn un llinell: Maent hwy yn anwel, maent yn ei hunan Trueni hefyd a'r syniad mor bert. Pwyll: Mae ganddo ddarlun da o'r dydd pan ddel y Deyrnas. Ambell linell wan yma ac acw, ond ar y cyfan awdl gref. Wrth y Groes: Ceidw at y ffigiwr yn I dda. Teyrnas sydd ganddo o'r dech- reu i'r diwedd, a chan ei weddi yn hollol naturiol. Mae y saith yn dda. Pwy yw gwr y Goron? Gan bwy y mae'r farddon- iaeth uchaf? Y ddau oreu efallai yw Publican a Cludydd Arfau. Y mae y ddau yn gryf-y Publican a'i weddi a'r Cludydd a'i ryfel. O'r ddau credaf mai Cludydd Arfau yw'r goreu. W. EVANS. Penyhont-ar-Ogwr. W. EVANS. I
I Tonyrefail.!
I Tonyrefail. CWRDD SEFYDLU. Dydd Llun, Ebrill y i3eg, cynhal- 1 iodd y Bedyddwyr Saesneg gyfarfod- ydd i sefydlu y Parch. W. H. Jones, Trefforest, yn weinidog ar yr eglwys. Am 2.30 cymerwyd y gadair gan y Parch. James Rees, Tonypandy. Dar- llenodd y llywydd ran o Air Duw, a gweddiodd y brawd James Evans, Penygraig. Methasai amryw weini- I dogion ac eraill bod yno oherwydd amgylchiadau. Rhoddodd Mr David Morris, yr ysgrifennydd, hanes yr at- wad. Atebodd Mr Jones yn effeithiol iawn. Offrymwyd yr urdd weddi gan y Parch. Thomas John, Calvary, Peny- graig. Anerchwyd y cwrdd gan Mr Azaria Richards, Thomastown; Mri. J. P. George, Ainon; Williams, Salem; John Jenkins, Penygraig; J. H. Scour- field, Penygraig, ac eraill. Galwodd y llywydd ar T. Davies (y Cyfaill John) i roddi y siars i'r gweinidog. Ar ol y gwasanaeth awd i ddiwallu y corff a'r lluniaeth a ddarparesid gan y frawdol- iaeth. Am 6.30 yn Ainon pregethodd v Parch. E. Lewis, Calvary, Tre- fforest, yn Saesneg, a'r Cyfaill John yn Gymraeg a Saesneg. Wedi diolch i'r chwiorydd yn Ainon am wasanaethu ar y dieithriaid ac hefyd i'r frawdoli- aeth yn Ainon- am fenthvg y capel, aeth v dvrfa adre yn lion wedi treulio I Pasg llawcn. Bendith yr Arglwydd ar  vn yr un d eb rhwng y frawdoliaeth yn Salem a'r brawd anwvl Mr Jones. I GOHEBYDD.
Advertising
P? ? "?? Cadewch tmi aiar?d a chwi 1 g?? Ludded I ??????????? Pan y iiethir eich cyfansoddiad M '??????\???  S? gan bryder neu or-waith-pan y f mae eich ynni yn brin pan y E. teimlwch rywsut "—pan y mae'ch ) P nerfau yn flinedig-pan y blinir chwi gan yrymdrech leiaf-yr ydych KS ?? JM? ?? mewn cyflwr o ludded. Mae'ch BS??B <???? Ei cyfansoddiad fel y blodeuyn yn e gwywo gan brinder dwr. Ac 18 ■W pOs^ AH union fel yr adnewyddar dwr y t blodeuyn gwywedig-felly y rhydd ¥ f 'Wincarnis' fywyd newydd i gyfan- r A —j | B soddiad lluddedlg. Gallwch el H deimlo yn llanw eich holl gorff gydad iochyd mwydd-nerth mwydd-ynni M newydd a bywydd titwydd-hyd yn N oed oddiwrth y glasaid cyntaf. >\ > Dechreuwch fod yn lach YN RHAD Anfonwch am brawf-gostrel yn rhad o WID- oarnis'- nid yn unig cael ei nas, ond digon I wneud lies i chwi. Amgauer tri stamp ceintac (I cludiad). COLEMAN & CO.. LTD.. W. 140. Wincarnis Works, Norwich. 44GWln y Bywy4" I Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. J (fclLE^GRAVE m B MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr'hon i'w chael mewa tri ffurf. No. i. George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.—George's Gravel Pills (label las) No. 3. — Jeorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Pelerii Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blvobau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochelwch Dwyllwyr I—Gofynweh yn eglur am "tGeorge's Pills," a gwelwch eich bod yn PU cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, M.H.P.S., HIRWAIN, ABERDARE.