Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HYSBYSIAD. YSCOL Y CWYNFRYN AMMANFORD. Sefydlwyd 1880 PRIF ATHBO: J. Gwili Jenkins, Nl. A. Anfoner am y Telerau a'r Bbaglen a hanes y Llwyddiant at y Prif Athro.
Advertising
W. Williams < Co. JEWELLERS, Ac.. 29 Castle St., Swansea. Specialities tSet. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewoh at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aur, Orisdaron ac awrleisian, Gemau a chadwynan elser: Yspectol gelfydd, bin fynegydd, Gwrfes-fesurydd, Cwmpawa mor Geir gan WilliamB, Heol y eutell Trowch i mewn i welld ei Mir.
.Y CYNHWYSIAD.-I
Y CYNHWYSIAD. I Gwlad a Senedd Tud. 1 Colofn Llaftir 1 James Jarvis yn Aberdai I Llwybrau'r Sarff 2 Beirniadaethau Rogers a W. Evans 2 Eisteddfod Moriah, Bedlinog 2 Colofn y Bobl leuainc. 3 Colofn y Beirdd 3 Awdur Hen Wlad fy Nhadau.. 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Tipyn o Bopeth o Bontardawy 5 0 Wy i Dywi >, 5 Cyngor Eglwysi Rhyddion Abertawe 5 Nodion o Abertawe Colofn y Plant 6 Taith i Lydaw 6 Pwv gyfvd dai i'r bobl yn Nhrecynon 6 Braslun 'hanee y Parch. J. Caerau Rees, Ph.D., D.D., a'i ddarlun, „ G Eisteddfod Aberpennar: Beirniad-' aeth Brynf at) 7 Pant y Coblin ,,7 Ar Lannau Tawe 8 0 Bant i Bentan 8 Thomas Hughes, Treforis 8 Arholiad Ysgolion Sul yr Annibyn- wyr 8
Gwlad a Senedd.j
Gwlad a Senedd. Bygwth y Balch. Y mae ein Seneddwyr, a ninnau gyda hwy, wedi cychwyn ar chwarter olaf un o'r Senedd-dymhorau pwysicaf yn hanes Prydain. Baich araith olaf Gladstone cyn ymneillduo o Dy y Cyffredin oedd, mai gorchwyl nesai y blaid Ryddfrydig fyddai gosod terfyn ar arglwyddiaeth Ty yr Arglwyddi. Ar ol yr araith honno, bu Toriaeth ar yr or- sedd a Rhyddfrydiaeth yn yr anialwch am ugain mlynedd. Yn lie llareiddio ac ymbaratoi ar gyfer cyfodiad y werin, aeth yr arglwyddi yn fwy ffroen-uchel a thrahaus. Dysgasant gymeryd yn gan- iataol mai hwy, a hwy, yn unig, oedd i lywodraethu. Oni ddywedodd Mr. Bal- four y byddent yu rheoli y wlad pa un a fyddent mewn swydd ai peidio? Os mewn swydd, pob peth yn iawn: nid oedd neb i'w llesteirio. Os byddai y Rhyddfrydwyr mewn swydd trwy eu mwyafrif yn Nhy y Cyffredin, yna, llywodraethent hwythau, y Toriaid, j trwy Dy yr Arglwyddi! Rhagolygon dymunol i werin gwlad onite 1 Cyhoeddi Rhyfel ar yr Arglwyddi. Pan gymerodd y llifeiriant mawr Rhyddfrydol le yn lonawr, 1906, ych- ydig iawn o Doriaid ddychwelwyd i Dy y Cyffredin. Yr oedd y wlad wedi hen alaru ar eu haddewidion gau, ac ar y difrod a'r gwastraff a'r musgrellni en- byd arddangoswyd gan Ryfel De Affri- ca. Er hyn oll, nid oeddynt wedi dysgu gwers gyntaf eu darostyngiad. Ymroddodd y Llywodraeth newydd gydag afiaith i basio mesurau newydd- ion. Aeth Mesur Addysg, 1906, a Mesur Dirwestol 1907 trwy Dy y Cyffredin ac i Dy yr Arglwyddi, ond nid cynt yr aethant i'r lie olaf nag y taflwyd hwynt allan gyda dirmyg. ,Yr oedd geiriau Gladstone wedi eu gwireddu: nid oedd dim am dani ond cyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Arglwyddi yn ddiym- droi. Ond peth pwysig yw i gadfridog ddewis ei dir a'i adeg. Y cynllun gy- merodd y Prif-Weinidog, Mr. Asquith, oedd gosod Mr. Lloyd George a'i Budget ar flaen ei fyddin: Dafydd oedd i fyned allan i herio cawr mawr y Philistiaid. Hynny fu. Dygwyd Budget 1909 i fewn, a thrwy honno cyd- iwyd yng ngwarrau arglwyddi y tir; rhoddwyd Haw ar wddf y Fasnach Feddwol, a chyfeiriwyd bys yn arwydd- ocaol at goffrau trymion y miliwnydd- ion. Aeth y Mesur Arianol yn wisgi trwy y Tir Isaf, ond byr fu ei hoedl yn y Ty arall. Taflwyd ef allan gyda dir- myg. Dyna yn union ddymunai Rhydd- frydwyr. Gwyddent fod hynny yn golygu dirymu yr Arglwyddi am byth yn ein gwlad. Heb yn wybod i ni ein hunain bron, yr oeddynf ynghanol rhyfel wleidyddol hanesyddol a phwysig. Brwydr ac Ysgarmes. Nid oedd bwrw arfau i fod mwyach. Apeliwyd at y bobl, a'u gorchymyn hwy oedd, fod yn rhaid pasio y gyllideb yn ddiymdroi, a hefyd rhoi ffrwyn gref yn safn Ty yr Arglwyddi. Nid oedd y wlad mewn tymer i chware gyda hi nac i ddioddef ei llesteirio yn ei hymdaith gan ryw ddyrnaid o feilchion, ariannog, ac arglwyddaidd. Cawd etholiad ar ol etholiad, a'r diwedd fu pasio Deddf y Senedd, yr hon a ddywed fod pasio Mesur deirgwaith trwy Dy y Cyffredin yn ei wneuthur yn ddeddf, beth bynnag wnai yr Arglwyddi. Mor bell, dyna brophwydoliaeth Gladstone wedi ei sylweddoli, ac awdurdod gwirioneddol wedi ei osod yn Haw y bobl. Bellach yr Ydym fel gwlad yn dechreu byw o dan delerau Seneddol newyddion. Ond, attolwg, sut y gweithia pethau allan ttewn ymarferiad? Y Tri Mesur. Yr ydym heddyw yn nyddiau prawf Deddf y Senedd. Hyder a disgwyliad gwerin yw y gweithia yn rhwydd a di- ddig, ond diofryd lliaws o fawrion y tir yw fod yn rhaid rhoi atalfa arni. Hyd yn hyn, gwireddwyd y geiriau: Trech gwlad nag arglwydd," ar hyd y maes. Er's dros ganrif, pan ddygwyd ei Sen- edd oddiarni trwy dwyll a llwgrwobrwy, y mae yr Iwerddon wedi dyheu a deisyf ac ymladd am Ymreolaeth. Y mae y bobl wedi hen foddloni caniatai rhoddi iddi y fraint; ond gomeddwyd gan yr Arglwyddi. Felly daw Mesur Ymreol- aeth a Deddf y Senedd i'r prawf. Pas- iwyd ef yn 1912, ac eilwaith yn 1913. "Y drydedd waith yw'r goel." Pan el trwy Dy y Cyffredin bydd y ddeddf ar ljfrau y wlad. Felly y mae gyda Mesur Eglwys Loegr yng Nghymru Bu dadlu dros Ddatgysylltiad yn ein plith ganrif yn ol. Yn 1847 cymerodd y j mudiad ffurf, ac o'r adeg honno hyd yn j awr nid ydym wedi peidio ag ymdrech j o blaid cydraddoldeb crefyddol. Ein J hanfantais yw mai gwlad fechan ydym. Nid oes gennym ond 34 o aelodau Sen- eddol allan o 670. Ac am Dy yr Ar- glwyddi, hyd yn ddiweddar iawn ni ddychmygodd neb am weled Anghyd- ffurfiwr Cymreig yno. Bellach y mae yno un—Arglwydd Pontypridd. Er hyn oll, pasiwyd Mesur y Datgysylltiad trwy Dy y Cyffredin yn 1912 a 1913, ac y mae yn awr ar lawr y Ty am y dryd- edd waith. Lwc dda iddo yntau, ac onid oes "Tri Chynyg i Gymro?" Y trydydd fesur ddynesa at ei dro olaf yw yr hwn gyfynga bob dyn i un bleidlais. Gwyddys am rai gwyr mawr feddent gynifer a deg-ar-hugain o bleid- leisiau Seneddol. Gesyd y trefniant newydd derfyn ar yr anhegwch hwn. Ond trwy anffawd yn 1912, mesur dwy- flwydd fydd hwn eleni. Rhaid fydd iddo ef gael ei basio yn 1915 cyn y gall fyw a ffynnu. I Datgyssylltiad. j Dyna Fesur Datgysylltiad a Dad- waddoliad Eglwys Loegr yng Nghymru wedi myned trwy ei ail-ddarlleniad yn Nhy y Cyffredin am y tro olaf bellach. Cymerodd y ddadl ddau ddiwrnod, ac ail-adroddid hen bethau yn ddiball. Gwnaeth Syr John Simon, y iwrne Cyffredinol, araith rymus a dylanwadol. Gwyr efe trwy brofiad personol beth yw teimlad Cymru ar y cwestiwn. Di- ddorol oedd sylwi ar Mr., Balfour yn jpwrando ar Syr John hyd nes i'r areith- iwr gyfeirio at y ffaith fod y gallu i basio y mesur a'i wneud yn ddeddf o'r I diwedd yn nwylaw y bobl. Cyfeiriodd at y ffaith mai dyna'r bedwaredd waith i Fesur y Datgysylltiad weled ei ail- ddarlleniad yn y Ty, ond fod Ty yr Ar- glwyddi wedi bod yn rhwystr mawr a therfynol ar ei ffordd hyd y tro hwn. Caledai a gwelwai wyneb Mr Balfour pan adgofid y Ty o'r pethau hyn. Amlwg yw mai caled yw i "wyr mawr" ein gwlad weled fod eu grym wedi ei dorri. I Yr Ornest. N I Cymerwyd rhan yn yr ornest eiriol gan y Prif Weinidog, Mr. McKenna, Syr John Simon, Syr D. Brymnor Jones, Syr Alfred Mond, Mri. Llewelyn Williams, John Williams, Haydn Jones, Hugh Edwards, T. H. Parry, a Keir Hardie ar un ochr, ac ar y Hall gan Mri. A. J. Balfour, Bonar Law, Walter Long, Ormsby Gore, ac Arglwydd Robert Cecil. Ychydig o bethau newyddion ddywedwyd, ac nid oes hanes fod neb wedi ei argyhoeddi y naill ochr na'r Hall. Ond beth ellir ddisgwyl yn new- ydd ar bwnc sydd wedi bod gynifer gwaith o flaen y Ty, 'ac wedi cael ystyr- iaeth gwlad am o leiaf dri-ugain-a-deg o flynyddoc dd 1 Y mae barp Cymru yn sefydlog a therfynol am ddatgyssylltiad er o leiaf y flwyddyn 1868. Chwiliwyd hanes gwaddoliadau eglwysig y wlad gyda manylrwydd mawr. Eglurwyd ys- tadegau yr enwadau a'r darpariaethau crefyddol yng Nghymru gan y Ddir- prwyaeth Frenhinol. Gwyddom hefyd effeithiau gwladwriaeth ar sefydliadau crefyddol yn mhob oes a gwlad. Bell- ach nid oes gennym ond disgwyl wrth Ddeddf y Senedd i wneud ei .gwaitb. Pleisleisiodd 349 dros y mesur, a 285 yn erbyn; mwyafrif o 84 dros y Llywodraeth a Datgysylltiad. I I Gwaddoli y Sect Newydd. # Llawer o siarad y sydd fod y Llywodraeth yn debyg o roi ffordd ym mhellach ynglyn a'r gwaddoliadau. Gweithia rhai Eglwyswyr Seisnig yn eg- niol i ddylanwadu ar Ryddfrydwyr Lloegr i'r perwyl hyn. Fel y saif peth- au, gadewir popeth i'r sect newydd ond i y degwm.a'r glebe lands. Ni chyffyrdd- ir a dimai o gyflog un dyn yn yr Eglwys tra fyddo byw. Y mae pob esgob, deon, ficer a rheithor yn sicr o'i inewni hyd y diwedd. Arferid gwasgu ar v fintai fechan o aelodau Cymreig, ac ar ol iddynt roddi ffordd, chwerddid am eu pennau. Da gennym allu dweud eu bod y tro hwn wedi sefyll wrth eu gyn- nau fel dewrion, ac felly wedi cryfhau cefnau a breichiau aelodau y Llywodr aeth. Y cwestiwn nesaf yw: Beth wna Ty yr Arglwyddi?. Y mae y cwmni hwnnw mewn tipyn o benbleth. O. cynhygiant welliantau o gwbl rhaid fydd iddynt felly bleidleisio dros ddat- gyssylltiad. Ar y Haw arall, os taflu y mesur allan, yn swrth a diseremoni, a wnant, yna daw yn ddeddf fel ag y saif yn bresennol heb le i son ymhellach ani gyfaddawd na chyfyngiad o gwbl. Croeso felly i'r arglwyddi wneud yn ol eu harfer at fesurau gwerinol a Rhydd- frydig. Y Diweddaraf. j Dydd Llun, ar ol dadl frwd yn y Ty, cafodd y Llywodraeth fwyafrif o 77 i'r Mesur i gyfyngu Etholwyr i Un, Bleid- lais. Dan y drefn bresennol gall cyf- oethogion bleidleisio mewn lliaws o etholiadau yn ystod yr un etholiad ji cyffredinol, am fod eu heiddo yn was- garedig. Mewn rhai etholiadau yn YII gorffennol gwelwyd nad oedd y mwy- afrif a gawsai'r Toriaid ond prin cymaint a nifer y gwyr ariannog oedd- ent yn byw mewn lleoedd eraill, ond yn dyfod i'r etholaeth i bleidleisio. Y mae'r cyf oethogion felly, yn unig ar gyfrif fod ganddynt eiddo mawr mewn Ilawer lie, yn gallu gorchfygu Uais y werin a llesteirio ei buddiannau. Hen I ddadl o blaid pleidleisau lluosog yw fod I buddiannau ynglyn ag eiddo, ac y dy- lasai perchennog gael llais lie bynnag y bo. Ond beth am fuddiannau y rhai I nad oes ganddynt eiddo? Nid yw llawer o eiddo'r cyfoethogion ond prawf fod buddiannau'r lluaws wedi eu h, geuluso. Hoff ddadl gan yr Arglwyud Hugh Cecil yw y dylai dyn o ragoriaeth meddyliol a moesol gael mwy nag un bleidlais. Ond pwy a benderfynai pwy yw y rhagorolion? Gellid rhoddi dwsin o lowyr yn un pen i'r glorian a dwsin, neu ddau ddwsin os mynner, o ar- glwyddi yn y pen arall, a phwysai y glo- wyr hwynt i'r llawr mewn moesau da, synnwyr cyffredin, ac egwyddor Grist- ionogol. Os llwyddir i gael y Mesur i ddileu pleidiau Iluosog yn ddeddf bydd yn un o'r mesurau gwerthfawrocaf a gaf\yyd hyd yn hyn. ■ '■ "J
INodion o Aberafon a'rI Cylch.
Nodion o Aberafon a'r Cylch. Llongyfarchwn y cyfeillion, Mri. Rees Llewelyn a Richard Evans, ar eu dyrchafiad yng Nghyngor Dosbarth Margam, un yn gadeirydd, a'r llall yn is-gadeirydd. Cynrychiolwyr Llafur yw y brodyr hyn, ac y mae yn llawn bryd i Lafur i gael ei gydnabod gan urddasolion cvmdeithas. Cafodd y brawd parchus John Nicholas, Port Talbot, ei anrhegu gan ei ddosbarth yn Ngharmel (M.C.), Aberafon, ag oriawr a chad wen aur am ei ymdrech gyda'r dosbarth am 33 o flynyddoedd. Prawf hyn ei ddiddor- deb yn yr Ysgol Sul. Adroddwyd y ddrama, "Adfywiad Crefyddol (Mynyddfab) gan Ddos- barth o'r Ysgol Sul yn Ebenezer, Aberafon, nos Sabboth, Ebrill IgCg. Cyfarfod rhagorol. Perfformiwyd y ddrama, Rhys Lewis," gan Gymdeithas Ddramodol y Rock, Cwmafon, yn y Neuadd Gyhoeddus yn Aberafon nos Fawrth, Ebrill 2 iain. Yr oedd Cymrodorion y cylch wedi myned yn gyfrifol am dreuliau y neuadd. Cafwyd cyn- hulliad lluosog, a boddlonwyd y lliaws. Bwriada y gymdeithas hon berfformio Die Shon Dafydd yn fuan. Pob llwydd iddynt. Cynhaliwyd cyngerdd fawreddog yn Nghapel y Dyffryn, Taibach, nos Iau diweddaf, pan yr aethpwyd trwy un o weithiau ardderchog Handel o dan arweiniad y cerddor profiadol, Mr. J. Singleton, T.T.S.C. Llongyfarchwn y ddau Fedyddiwr o'r Bryn ar eu llwyddiant yn y byd cerddorol, sef y Mri. Tom Davies, A. Mus., L.C.M., a T. Jones, G. & L.T.S.C. Y maent yn gyfan- soddwyr rhagorol. Llwyddiant iddynt. j I I MAB Y MYNYDD.
COLOFN LLAFUR. I
COLOFN LLAFUR. I GAN "PEREDUR." Dydd y Pethau Mawrion. Dydd Iau diweddaf cyfarfu cynrych- iolwyr y tri Undeb mwyaf o weithwyr y wlad yma yn Llundain, er trefnu cyd- ddealltwriaeth ac unoliaeth yn eu gweithrediadau yn y dyfodol. Y trin- dod hyn yw y Mwnwyr, gyda 700,000 o aelodau; Gweithwyr y Relwes, 280,000; a'r Gweithwyr Cludol, 300,000; yn gwneyd cyfanswm o 1,280,000 o weith- wyr unedig. Penderfynwyd yn gyntaf fod dealltwriaeth a chynllun cydweith- redol rhwng yr undebau hyn yn beth dymunol a llesol. Yn ail, fod pwyllgor j i'w benodi o gynrychiolwyr y tri undeb, i'r amcan o dynnu allan gynllun a'i gyflwyno i ystyriaeth cyfarfod yn y dyfodol. Yn drydydd-fod ysgrifen- yddion, un o bob undeb yn cael eu dewis, a'r rhai hyn i geisio gwybodaeth j a manylion oddiwrth yr holl undebau er eu galluogi i drefnu cynllun cyfaddas. Cynrychiolid Mwnwyr Cymru gan y Mri. W. Abraham (Mabon) A.S., W. Brace, A.S., V. Hartshorn, a G. Barker. Cafwyd cyfarfod hynod heddychol a llwyddiannus. I Ymchwiliad Achos Senghenydd. I Y mae dyfarniad yr ymchwilwyr i achos Tanchwa Senghenydd wedi dyfod allan. Noda Mr Redmaynes, prif arch- wiliwr y Llywodraeth, amryw ddiffyg- ion pwysig yn ngweithiad y lofa. Y mae ef o'r farn fod y danchwa wedi cychwyn ar y Mafeking Incline, drwy i nwy ddaethai gyda chwymp danio naill ai oddiwrth wreichion o'r gwifrau signal, neu o'r cerryg ddaethent i lawr yn y cwymp. Gobeithio y bydd i'r adroddiad o'r ymchwiliad hwn i achos y danchwa gael sylw neillduol gan bob glowr, ac y bydd yn foddion i gael gwelliantau, fel y bydd yn atnhosibl i'r J. Lli dcVilr^wl .u- fywyd i gymeryd He eto. Llywodraethiad Lleol ar y Gronfa I Gynorthwyot. Da yw gweled fod cynrychiolwyr Ileol Senghenydd yn gwneyd ymdrech neill- duol i gael meddiant a llywodraethiad mwy uniongyrchol ar y gronfa ddarpar- edig i'r perthynasau-gwragedd, plant, tadau a' mamau-sydd yn awr o dan Ivwodraethiad Arglwydd Faer Caer- dydd. Y mae yr amcan yn ddigon thesymol. Nid oes neb yn fwy priodol i rannu yr arian, a phenderfynu teilwng- uod yr achosion, na dynion sydd yn gyf- a-rwydd a'r amgylchiadau, ac yn meddu gwybodaeth bersonol o anghemon y teuluoedd. Gobeithio y gwel yr Ar- glwydd Faer resymoldeb y cais, ac y penodir cynrychiolwyr lleol i drafod yr arian. Mantais swyddogion uchel daledig, fynychaf ga'r ystyriaeth flaen- af yn llywodraethiad cronfeydd o'r natur hyn, ac yn gyffredin, gadewir y gweinyddiad a'r rhannu yn gyfangwbl yn nwylaw swyddogion mympwyol a di- deimlad, a feddyliant fwy am eu pwys- I igrwydd personol a'u hunan-les nag am I linghenion y gweddwon a'r amddifaid i-ydd o dan eu gofal. j Streicwyr a Milwyr. Pan ddaeth Mesur Cynhaliaeth y yddin o flaen Ty y Cyffredin yr wyth- iios ddiweddaf, cynhygiodd Mr. Keir Hardie welliant gyda golwg ar defn- yddio milwyr mewn achosion o streics. Ei amcan oedd sicrhau na elwid allan filwyr ond ar archiad dim llai na thri o "1 nadon Heddwch, a hynny ar ol methu o bob ymdrech ar ran yr Heddlu. Ni I ddylai y milwyr gael arfau tan o gwbl, dim ond yr un math o arf ag a ddefn- yddir gan y cwnstabliaid. Dywedodd Mr. John Ward, A.S., wrth gadarnhau, fod milwyr wedi eu galw allan yn y blynyddoedd diweddaf yma, un-ar- j bymtheg o weithiau, ac wedi saethu ar weithwyr. I Symud Ymlaen. j Cawn fod gweithwyr Glofeydd y I Llannerch, Sir Fynwy, wedi pleidleisio gyda 411 o fwyafrif, i sefydlu baddonau I ar ben y pyllau. Nid yw y perchenog- I ion yn cymeryd y cyfrifiad yn foddaol, ac of nir y gwrthodant. Bydd rhaid cael esboniad mwy clir ar ddarpariaeth Deddf y Mwngloddiau yn yr achos hwn.
[No title]
Etholwyd y Parch. J. D. Harris, Adulam, Bonymaen, yn gadeirydd Bwrdd Gwarcheidwaid Abertawe. Wrth gymeryd i fyny'r awenau dyrnunai arnynt siarad unwaith yn unig ar yr un pwnc a pheidio siarad yn rhy hir. Gobeithiai hefyd y rhoddent heibio smocio, am y credai yr arbedai hynny o leiaf hanner awr o amser ymhob cyfarfod, a thair awr ar ddeg mewn blwyddyn. Dysgesid trwy brofiad fod smocio yn arwain i glebran.
" James Jarvis " yn AberdarII
James Jarvis yn Aberdar I Ger bron cynulliadau lluosog yn Neuadd Trecynon nos Lun a nos Fawrth, yr 2ofed a'r 2iain cyf., bu Cwmni Dramodol Siloh yn perfformio y ddrama, "James Jarvis neu "Y Tadau dros y Gwir." Aeth yr actwyr drwy eu gwaith gyda medr a hwylus- ( dod, a'u gwaith yn glod iddynt eu hunain ac i'w hyfforddwr dihafal, Mr. William Jenkins (Meirionydd). Cym- erwyd y gadair nos Lun gan Mr. E. Pugh, M. E., Cwmdar, a nos Fawrth, yn absenoldeb ei phriod, gan Mrs. R. R. Davies, Aberdar, Cwmaman gynt. Yr oedd yr awdur ei hun yn bresennol yr ail noson, a chaed gair ganddo. Dywedai: Mai hwn oedd y tro cyn- taf i'r ddrama honno gaelei gosod ar yr llwyfan; fod yr holl actwyr wedi gwneyd eu gwaith yn dda rhyfeddol, ond ei fod yn gofidio fod rhai yn y cynhulliad, yr ieuengaf, fe ddichon, yn vmddangos fel pe na baent yn sylweddoli yr amgylchiadau bortre- adid gan y chwareuwyr o gwbl. Yr oeddent yn gwenu a chwerthin pan ddylasent fod yn drist ac wylofus wrth ganfod y driniaeth arw a'r creulonder- au enbyd yr aethai ein tadau drwydd- ynt er mwyn y gwir ac er cael rhyddid crefyddol, fel y gosodid ger bron yn y I ddrama hon." Chwareuid y gwahanol gymeriadau gan y personau canlynol:—Y Brenin j Charles II., Mr. David Davies; Y Prif- weinidog, loan Alcan; Esgob, Mr. Thomas Teifi Evans; y Parch. James I Jarvis, Mr. William Jenkins; Myrddin, Gwas yr Esgob, Mr. John James Wil- liams; Wmffre yr Heliwr a Rhydd- II frydwr ei oes, Mr. David Llewelyn; Robert Hugh a Dafydd ap Meurig, Proffwydi eu hoes, Mr. Handel Davies a Mr. John J. Evans; Mrs. Adams, Gwraig yr Offeiriad, Miss Rachel Llewelyn; Henry y Felin, Mr. Arthur > Jones; Esboniwr Cydwybodol, Llexy I; Dafydd; Gwraig James Jarvis, Miss Llan John; Gomer ei Mab, Mr. I Johnny Jones; Ceridwen ei Merch, I Miss Blodwen Jones; Deborah, un yn gweled yn mhell, Mrs. Ellen Wil- liams; Matilda, un ffyddiog, Miss Winnie Jones; Ceidwad y Carchar, Mr. Jenkin Williams; Lleidr Pen- ffordd, Mr. John Beynon; Angell Gwarcheidiol, Mr. Handel Jordan; Cennad o Wlad y Gwawl, Mr. Albert Wyatt. Gwarchodwyr a Cheisbwliaid, I Mri. Ben Williams, Albert Davies, Edward Rees Parry, Thomas J. Wy- att, J. J. Williams, Arthur Jones, Wil- liam Jones. Y mae pobl ieuainc Siloh wedi arddangos medr a thalent ynglyn a dramodau o'r blaen, pan berfformi- wyd ganddynt Jack y Bachgen Drwg ac "Owen Llwyd," etc., ond y waith hon yr oeddent yn rhagori hyd yn oed ar eu hymdrechion blaen- orol. Methwn ymatal heb nodi rhai cyffyrddiadau byw iawn a gafwyd ar y Ihvyfan y waith hon Dyna ymadrodd- ion dwysion ac edrychid' sanctaidd James Jarvis, a'r cwbl yn wir natur- iol; geiriau toddedig a theimlad dryll- iog Phylis ei briod, pan dderbyniodd y newydd o'i farw yn y carchar; dar- lleniad y llythyr mewn modd tyner gan y lleidr achubedig; ymsom neu freuddwyd y Brenin hefyd yn dra chywir a chyffrous; areithiau meistrol- gar ac hunanfeddianol y Prif-weinidog a'r Esgob yn urddasol ger bron y Brenin; donioldeb a ffraethineb yr heliwr, hollol "true to nature"; y modd cartrefol yr aethau Mrs. Adams, Deborah, Matilda, Robert Hugh, Dafydd ap Meirig, ie, a'r lleill oil drwy eu gwaith heb anghofio mwynder yr angelion, ie, a gerwinder ceidwad y carchar a'r chwipiwr.
Llwydcoed.I
Llwydcoed. I Ddydd Mawrth, Ebrill y I4ydd, yn 43 mlwydd oed, bu farw Hopkin Hop- kin, Gelliuchaf, mab y diweddar Dafydd a Marged Hopkin, fel yl, adna- byddir hwy gan yr hen drigolion, o'r Amaethdy Bryncarnau. Cafodd gys- tudd maith a chaled. Gwr tawel a siriol oedd Hopkin, ac yn dra pharch- us gan bawb a'i adwaenai. Yr oedd yn hoff o gerddoriaeth. Bu'n aelod o Gor Meibion Llwydcoed am flynydd- oedd. Cymwynaswr o'r iawn ryw ydoedd, ond erbyn heddyw gwag yw ei le yn y teulu ac ym Moriah. Ddydd Sadwrn daeth tyrfa fawr ynghyd i hebrwng ei weddillion i'r Gladdfa I Gyhoeddus. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Margam Jones, Moriah. Nawdd y nef fo dros y ddwy chwaer a'r brawd sydd yn ei galar ar ei ol. Danfonodd Mr. Windsor Lewis, perchennog yr amaethdy, dorchbleth hardd a chostus i osod ar ei arch. Heddwch i'w lwch.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID G0F^jy|i ?? Y '"? NTH. Esgeuluadod 0 unrhyw niwai I rhil hyn drwy ddamwaill II." glafyi «H aehoii Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddygiftiaeth Efleithiol. Er mwynyagol P«ryH rhaid of ymiarldw mewn pryi. 'DOES DIM Molt LLWYODIAMUS A 8ICR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn Oso' "i gydambse gan filoedd 'el y ineddyalin mwyae sicr a diogel a mddar/g/"JB,vyS<,U-twf*tTJ* enoed at "e' Clwyfau, Archollion, Tardd- lantau y Cnawd, Eczema, Crach a Nedd yn Mhenau Plant, Llosgiad. au, Ysgal. d a n a u Sou r v y, L lug r ad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, C 0 u t, Cymalau Poenus, Sheumat- (es, Poen Cefn, Piles. Hynod 0 oftelthlot at CLWYFAU ar COESAU. Yr oedd PeR 11 mlf*" tyn mewn ltat eohryalom. Gwetlhaodd Gomw Balim hi yn bur faMt. Mitoedd yn tystlo Effe/thlau RhyfedtM. RHODDWCH BRAWF ARHO G we It had sydd slor Ar werth gan bob Chemi't & 8tcrMM. 1/H. Gobner am Ce'"?'S'?".?? wch we!? enw J*Mt HMghM *r  blwch. Heb hyn nidyw ??.J?"' danfoner ei gwerth (P.O. nen Stamp.} at Jaoob HughM. Min"J"VL cCSa!rldJ!l5*. 1st, M.P.B., L.B.S., ronarth, MfOW. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. F. WelchTacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed to Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris Tien prynwyr yma ? y°° on iddynt enwi TAMAN Y GWBITHIW^ B. YN AWR YN BAROD. 'Social Problems in Wales.' 163 Pages 1/- net; Post free 1/3. Addresses delivered at the United of Social Service for Wa es." A book eevvee^ry Patriot shonld read. Send toithout delay to the Publishers MORGAN & HIGGS, Publishers, Printer, .0., 18 Heathfield Street, Swansea.