Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
.TRAWSFYNYDD. -----! ......…
TRAWSFYNYDD. 1;?ll., I SPECTOLS.—Os bydd rhywbeth allan o lie ar eich Spectols, gellir ei gwneyd yn foddhaol gan Mr. Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog, yr nnig Optician yn Sir Feirionydd, sydd wedi pasio Arhol, iadau yn y cyfeiriad hyn. ADDYSG.-Llongvfarchwn Mr. W. E. Jones ar ei waith yn enill tystysgrif fel athraw yn yr Arheliad rhagarweiniol gynhaliwyd y dydd o'r blaen. PRIÕbAS .-Dydd Mercher diweddaf Mehefin 23, yn Nghapel Princes Road, Lerpwl, cym- erodd priodas le cyd-rhwng y Parch. R. W. Roberts, B.A., B.D., Peil Road, Bootle, a Miss Maggie A Williams, 3, Evesby Street, Liverpool. Gweision y priodfab ydoedd Parch Mr. Rowland, M.C Amwythig, M. R. Morris, Trawsfynydd, a Edward Roberts, brawd y priodfab. Morwynion, Misses Edith Williams ac Ellen Williams, chwiorydd y briodasferch a Mrs Williams, Granly Street, Lerpwl. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Griffith Ellis, M.A., Borth, a John Hughes, B.A., B.D., Pwllheli. Ar ol y sere- moni aethpwyd i dy tad a mam y briodasferch Ile yr oedd gwledd wedi ei pharatoi. Cynyg- iwyd y llwnc destyn gan y Parch. Griffith Ellis, M.A., ac ategwyd gan y Parch John Hughes B.A,, 8,0., M. R, Morris, a Dy, Williams. Ymadawodd y par !euangc i dreuli? eu mis me! am Scotland. Yr ydym yn falch o Mr. Roberts fel brodor o Drawsfynydd, ac yn llawenhau yn ei ddyrchafiad i safle mor anrhyd- eddus fel gweinidog ar un o Eglwysi M.C., yn Lerpwl. Yr ydym yn dymuno pob llwydd- iant i'r par ieuangc yn eu bywyd newydd.
. y y y y - - - PENMACHNO.
y y y y PENMACHNO. Mewn Eisteddfod a gynhaliwyd yn Humboldt I Park, Chicago, dydd Sadwrn, Mai 29ain, en- illodd Cor Humboldt Park, (o dan arweiniad Mr. Will H. Davies) y wobr gyntaf. With roddi ei feirniadaeth, rhoddodd y Beirniad, Proffesor T. S. Lovette, ganmoliaeth uchel i'r arweinydd ieuanc. Brodor o Benmachno ydyw Mr. Davies, ac y mae yn frawd i'r cerddor ad- nabyddus Mr. D. Pryce-Davies. Yr oedd tri o gorau yn cystadlu ar y dernyn, The long day closes," sef Hebron Male Choir (Mr. Griffith Williams), Harmonic Club (Proff. T. W. Owens) a Humboldt Park Choir (Mr. Will Davies). Bu y Parch. W. Lloyd Davies, gweinidog y Wesleyaid yn gwasanaethu mewn cyfarfodydd pregethu yn Sir Ddinbych a Sir Gaernarfon yn ystod y bythefnos ddiweddaf. Llawenydd digymysg i'r holl ardalwyr yw gweled Dr. W, Michael Williams wedi gwella o'i hir gystudd fel ag i aUu ymaflyd yn ei waith Y mae y Dr, yn boblogaidd a chymeradwy iawn yn ein mysg. Y mae Cwmni Dramayddol wedi ei ffurfio yma, ac yn brysur iawn gyda dysgu y Ddrama Gymreig Aelwyd Angharad," a bwriedir ei hactio yn fuan yn y Neuadd Gyhoeddus. Dydd Sadwrn, yn hynod ddisymwth, bu farw Mr. James Hughes, Machno Terrace, yn 58 mlwydd oed. Ymddengys ei fod gyda'i orchwyl arferol ar y fferm yn y boreu, a dych- welodd i'r ty tua wyth o'r gloch gan gwyno nad oedd yn teimlo yn dda, ac aeth i'w wely. Bu farw yn mhen chwarter awr, a chyn i'r meddyg gyrhaedd. Boreu dydd Llun, bu farw Mrs. Evans priod Mr. Jarett Evans, yr Efail, yn 50 mlwydd oed. Cydymdeimlwn a'r ddau deulu yn eu galar. Yr Ysgol Eglwysig: Ymchwiliad. I Ymwelodd yr aelodau canlynol o Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon, dydd Iau, i gynal ym- chwiliad yn nglyn a pharhau yn mlaen yr Ys- gol Genedlaethol,-y Milwriad Darbishire, Mri. D. P. Williams, W. J. Parry, H. Fisher, ac Evan R. Davies (clerc). Y Parch. Ben Jones, Rheithior y Plwyf, a gyflwynodd ei adroddiad. Dywedodd fod enwau -IS o blant ar lyfrau yr Ysgol, a chyflwynodd ddeiseb oddiwrth rieni y plant a fynychant yr Ysgol yn ffafr ei pharhau. Cad- arnhaodd y rhieni y ddeiseb ymhellach trwy roddi tystiolaeth bersonol. Galwodd y Rheith- ior ar Mr. Trench, goruchwvliwr Arglwydd Penrhvn i gefnoei narhad vr Yserol.—Mewn atebiad i Dr. W. M. Williams dywedodd Mr. Trench nad oedd wedi ymgyngori ag Arglwydd Penrhyn yn nghylch y mater, ac na wyddai ei farn bersonol ef am dano.-Rhoddodd y rhai canlynol dystiolaeth yn ffafr parhad yr Ysgol, Mrs. Jones, Mri. John Richards, a H. P. Rob- erts. Cynrychiolid yr ochr wrthwynebol gan Mri, Hugh Hughes, Llys Caradag; E. Daviesjones; G. Davies, R. Thomas, W. Pierce, Dr. W. M. Williams, Edward Roberts, y Parch. T. J. James a'r Parch. W. Lloyd Davies. Pan oedd yr Ymchwiliad bron ar derfynu, cyflwynodd y Rheithor ddeiseb arall yn ffafr yr ysgol wedi ei harwyddo gan nifer o dreth- dalwyr.—Y Cadeirydd a sylwodd ei fod braidd yn anheg i roddi deiseb i mewn tra yr oedd yr Ymchwiliad wedi myned mor bell yn mlaen, ond o dan yr amgylchiadau yr oedd yn can- iatau iddo gael ei roddi i mewn.—Dr. Williams a ddywedjdd nad oedd yn hollol deg i dderbyn deiseb o'r fath heb yn nghyntaf roddi cyfle i rieni agos i ddau gant o blant a fynychent Ysgol y Cyngor i arwyddo deiseb gyffelyb. Yr oedd ef yn pwyso am i'r Ymchwiliad gael ei ohirio i'r amcan hwnw.-Penderfynodd y Cad- eirydd fodd bynag i gymeryd pleidlais y treth- dalwyr oeddynt yn bresenol, ond ni wnaed yn hysbys ganlyniad y pleidleisio.-Ar gynygiad Dr. Williams a chefnogiad y Rheithor diolch- wyd i'r Cadeirydd ac aelodan eraiJI o'r Ddir- prwyaeth. AAAWWWVN^VVSAAAAAAAAAAAAA
[No title]
Fob math o ddefnyddiaJII Ysgrifenu j'w cael j yn Shop y Rhedegydd." 
BLAENAU FFESTINIOG. \|
BLAENAU FFESTINIOG. \| M&e un dos o EASINE yn fwy effelthlot ? na dim arall at Gur yn y Pen, Niwralgia, a'r f ^j Ddanodd. I'w gael gan Hugh Jones, j JMedical Hall, Blaenau Ffestiniog. « -jjMM You've tried the rest Now try the BEST. If you want a piece of the best Smoked of Plain Bacon Gorgonzola, Cheddar, or Amer. ican Cheese, and all kinds of Provisions, try wKK PARRY'S New Shop. PHONOGRAPHS.—Dymuna G. R. DavieS# Manod Studio, Bethania,wneyd yn hysbys ei fod wedi ei benodi yn Oruchwyliwri'r National Phonograph Co., a bydd yn barod i dderbyJ* unrhyw archebion am Phonographs, &c. Mae 1 ganddo gyflawnder o Records diweddaraf, a i bydd yn bleser ganddo gyflenwi pwy bynag a anfono ato am list yn rhad.—ADV. GWAELEDD.-Bydd yn dda gan ein darllet1 wyr ddeall fod Mr William Hughes, LlyS Eilian, Lord Street (Ty Capel Seion, gynt), yd gwella yn rhagorol. Y mae yn awr yn y 5e£" ydliad yn y Rhyl, ac yn teimlo lies anarferol 0 awelon iachus y lie. Eiddunwn iddo adferiau buan i'w gynefin iechyd. ADDYSG.—Wrth edrych dros restrau yr 'I' Ysgoloriaethau a'r Exhibitions cysylltiol 0 |JJ Choleg Bangor ag a Choleg Aberystwytb, I gwelir fod ein pobl ieuaingc wedi gwneyd yC I odidog iawn. Llongyfarchwn hwy yn galonog Hefyd gwelwn i Miss Myria Roberts, GIao-y pwH basio ei harholiad rhagarweiniol am dyst- ? j ysgnf fel kibia*69, L| Y TAN GATEAWD.—Aetli Cadbeh JobC 'H Jones, ac wyth o aelodau y Gatrawd i Llao" I dudno i'r Arddangosfa Genedlaethol perthynol i'r Tan Gatrodau. Gresyn na fuasai yt offerynau, etc., yn gyfaddas i'r Gatrawd ymddangos yn y cystadlaethau. Pa bryd f 1f;;J. xaii M'l.dSLJ. • ouiiis. am Y Sctuc wnii uwiw- ygwynt, Beth am ddiogelwch y lie? Dls- gynodd maen mawr wrth ochr y peirianydu syd.d yn gofalu am y Traction pan oedd y dodi y peiriant yno dro yn ol, a chafodd ddiangfa wyrthiol. Dylai pethau felly gael ell cymeryd i ystyriaeth cyn codi adeilad ar y lld yn ogystal a'r ffaith i'r Cyngor wrthod rhoddi caniatad i godi adeilad arno pan wnaed caiS atynt. 1 MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MRS. ANN LOTT, FRONOLEU.-Fel y crybwyllasOM yn ein rhifyn diweddaf, bu farw y chwaefi garedig uchod am 5 o'r gloch, prydnawn LlnØ, Mehefin 21ain, yn ei 58 mlwydd o'f hoedrafl; yn hynod sydyn, ac anisgwyliadwy, ar ol tn diwrnod o gystudd caled, Un o'r hen deultf parchusaf yr ardal ydoedd yr ymadawedig.- merch i'r hen gymeriad diddan y diweddaf Evan Morris, Crydd, a phriod hawddgar Yt hynaws John Lott, Crydd. Ni chafodd Mr9:. Lott, fel amryw eraill, wenau Rhagluniaeth heulo llwybr ei bywyd ar ei hyd tra yma, na fe chwythodd croes-wyntoedd afiechyd lawBf gwaith ar ei phabell frau yn ystod ei hoes, one dioddefodd y cwbl bob amser yn siriol, SI amyneddgar, yn y gobaith y byddai iddi )'y?< ddydd, gael mynediad helaeth i'r deyrnas nao oes neb o'u mewn yn dweyd Claf ydwyf, >■ Yr oedd ganddi air da i bawb, a byddai bob amser yn cael gair da gan bawb, a chwith fydd gan amryw na chint ei gweled byth mwy "tit yma i'r bedd." Bu yn wraig dda i'w phriod hoff, ac yn fam dyner i'w hunig fab, gan geisio bob amser weinyddu cysur iddynt ar yr aelwyd pan y deuent gartref. Yr oedd yn wraig rin- weddol, fel y dywedasom o'r blaen, ac yø, aelod dichlynaidd yn Nghapel y Tabernacfj Cafodd ei hebrwng i "dy ei hir-gartref" Fethesda, prydnawn dydd Iau, gan dyrfa fawt yn llawn cydymdeimlad, pryd y gwasanaeth wyd yn effeithiol gan ei gweinidog-y Parclli, R. R. Morris.
TREFN OEDFAON Y SUL',
TREFN OEDFAON Y SUL Y METHODISTIAID. ENIGEDI.-Parch. E. Hughes. PENIEL.-Parch. J. R. Jones. GWYLFA.—10, Parch. D. Hoskins. 6, Parch. J. J. Roberts, Portmadog. BETHESDA.—10, Parch. J. J. Roberts, Port' madoc. 6, Parch. D. Hoskins. TABERNACL.-IO, Parch. David Jones, Llatfc egryn. 6, Parch. R. R. Morris. MAENOFFEREN.—10. Parch. R. R. Morrisu 6, Parch David Jones, Llanegryn. GARREGDDU.—Parch. Joseph Jenkins. BOWYDD.-Parch John Owen. RHIW.—Parch. Thos. Hughes. BETHEL.—Pa^ch. R. Silyn Roberts. CAPEL SEISNIG (English Chapel).-Rev WI, G. Owen, Beumaris. YR ANNIBYNWYR. BETHEL.—Parch. R. T. Phillips. HYFRYDFA.—Parch. J. Williams Davies. BETHANIAp-Parch. J. Rhydwen Parry. JERUSALEM.— BRYNBOWYDD.—Parch. George Davies. SALEM.-6, Parch. Thomas Griffiths. CARMEL.—Cyfarfod Ysgol. Y WESLEYAID. EBENEZER.—10, Cyfarfod Gweddi. 6, Parcft P. Jones Roberts. DISGWYLFA.—10, Parch P. Jones Roberts} 6, Cyfarfod Gweddi. SOAR, RHIW.—Parch. J, Maelor Hughes. TANYGRISIAU.—2, Parch. J. Maelor Hughes. D.O.Jones. FFESTINIOG.-Pregethwr Dyeithr. Y BEDYDDWYR. SEION.—Parch Isaac James Rhuthyn. Calfaria.— "t" MORIAH. 21 CS.ERSALEM.-IO, Mr. William Humphreys, The Square. Pisgah.—Mr. Richard S. Williams, Maea offeren.
YSGOLDY LLENYRCH..I
YSGOLDY LLENYRCH. I At Olygydd y "RHEDEGYDD." I Anwyl Syr.—At y rhai gydnabyddwyd eisoes dymunaf eich gofod a'ch hynawsedd i gyflwyn- o enwau talfyredig y cyfranwyr a ganlyn, sydd wedi bod mor garedig a chynorthwyo er adgy- weirio ac adnewyddu ysgoldy Llenyrch Di. H., 41-; H. J., 4/ O. 6., 2/6; Capt. W., 5/ Thos. W., 2/6; Mrs. E., 1/ Mrs. Rt. H., 31-; Rt. Rts,, 5/ M. R. M.. 2/6; Mrs. J., 2/ M. W. M.,1/6; D. H., 2/6; R. D. R., 10/ SI. J., 2/ E. H.,2/ Mrs. J., £1; Miss Js., 2/6; Mrs. P. J., 2/ H. J., 1 Mrs. Th., 2/6; Wm. RIO 2/ E. T. R., 2/6; Mrs. E. D. H., 2/6; D. Rts, 2/6; T. R, J., 2/6; W. T., 1/ H. E. J., 2/ Ffrynd, 2/6; H. Js 5/ Mrs. J. E. Hs., 1/6; J. Thos., 2/6; Miss L, S. O.. 2/ H. 0., 2/6; Miss 0., 2/6; J. R. J., 4/ Mrs. Thos., 5/ Ev. 0., 2/6; D. Rts., 5/- a Mrs, Rts., 51- E. M. 0., 2/ O. D., 2/6; J. C. J., I/ Thos. Rds., 1/6; E. Js. a W. Js., 4/6; T. H., 216; J.P. J., 2/6; H. A. H., 716; J.B. W., 2/ Mrs. Wms,, £1; Mrs. Thos., Fron, 5/ Miss E., 2/6; Rd. H., 21r Ed. Wms., 5/ Rd. J., 5/ Cyfaill Ed. T., 1/ Yr ydym gyda diolcb, 2,]6; cydnabod haelioni a chymw Oarwch yn brodyr a'r chwiorydd ucbr -.f-lfasgarweh y ychydig eto o addewidio- A., Wedi derbyn ar yr adgyweiriadau -*5 law bydd y ddyled bydd gennym rr ei chlirio dichon y rhifyn nesaf enwau i'w cyfiwyno yn eich fyny. C yaa byddwn yn cloi y rhestr i ^Orphwysaf anwyl Syr. Yr Eiddoch, &c, H. ELLIS. Y GYFEILLACH A DISGYBLAETH I EGLWYSIG. Mr. Gol.-Erfyniaf eich hynawsedd i draethu ychydig ar y penawd uchod. Sicr genyf na fydd pawb o'ch lluosog ddarllenwyr yn cyd- olygu a mi. Gyda gostyngeiddrwydd y dy- munaf ddiosg fy esgidiau, oherwydd mae y tir yn gysegredig. Nid oes nemawr wahaniaeth yn mysg y gwahanol enwadau ymneillduol gyda ffurf y Gyfeillach, a'r modd y disgyblir. A dyna un o'm rhesymau dros anfon hyn o lythyr i'r Wasg yn hytrach na cheisio traetbu mewn congl. Nid golwg gyfyng enwadol a gymeraf, ond cyffredinol, fel y mae yn mysg y gwahanol enwadau. Nid wyf am geisio ol- rhain tarddiad y Gyfeillach, na'r daioni dir- fawr a ddaeth trwyddi yn yr amser a fu. Duw yn unig all fesur eangder y bendithion hyny, Bu iddi amryw ffurfiau er ei sefydliad yn ddi- ameu. Ond credaf bod ei ffurf bresenol yn aros heb fawr gyfnewidiad er's amser maith. Credwn ei bod wedi bod yn gyfrwng i'r hen bererinion gael nerth ysbrydol, a bod Duw wedi ei defnyddio i wneyd gwaith mawr yn yr amser a fu, Ond amheuwn yn gryf bod ben- dithion mawrion yn deilliaw trwyddi yr oes hon. Fe lwydda crefydd Crist, a bydd ei lywod- raeth yn llywodraeth dragwyddol. Nid yr wyf yn credu bydd yr un ffurfiau yn gyfryngau bendithion trwy genedlaethau, a chanrifau i ddyfod. Fe wnaeth yr Ysbryd Glan weithred- oedd mawrion trwy gyfrwng y Gyfeillach pan oedd ei Surf wasanaeth yn cydweddu a deall, ac amgyftredion ei deiliaid. Nid oes yr un o'r hen ffyddloniaid, mi gredaf, a haerai bod yr Ysbryd yn gweithio gyda'r un nerth yn y Gyfeillach heddyw ag ydoedd gynt, gellir profi yn rhwydd nad ydyw. Mae yr oerfel a'i nodwedda, a'r cynulliadau teneuon geir ynddi yn ddigon o brawf nad yw y Gyfeillach yn cyfarfod angen yr oes. Mae yr Ysgol Sab- bothol, y pregethu, a'r cyfarfod gweddi, yn boblogaidd i raddau helaeth, a sain cAn a mol- iant yn profi bod yr Ysbryd eto'n aros, ac yn gweithio gyda'r ffurfiau sydd yn cyfateb i anghenion yr oes. Duw sydd yn rhoddi deall, agwybodaeth; mae holl ddysgeidiaeth y byd yn ei law, a than ei lywodraeth, a'i deyrnas yn cyfarfod anghenion pob oes o'r byd, ac yn aros trwy yr holl gyfnewidiadau. A baich afres- ymol ar ysbrydoedd dynion yw aros dan orfod- aeth, i lynu wrth hen arfetion y tadau, a'r teidiau, pan mae rheswm yn galw arnom symud yn mlaen o'r hen rigolau sydd wedi eu dihysbyddu o'r bendithion aagenrheidiol er ys talm. Mae yn amheus genyf a yw y ddis- gyblaeth yn dyrchafu moes, a rninwedd, fel ei gweinyddir yn y gyfeillach yn amI. Mae'r lie ei gweinyddir, y dull ei gweinyddir, yn nghyd a'r personau a'i gweinyddant ami i dro, yn fwy o dramgwydd nac o adeiladaeth, a chymorth i ddyrchafiad. Cawn yn y Testament Newydd -gyfarwyddiadau, ac awgrymiadau lied gyflawn ar pa fodd i weithredu, un yn ucig a nodaf, Yr hwn sydd ddibechod o honoch, tafled yn gyntaf garreg." Gwyr y darllenydd yn dda yr amgylchiad fu achlysur llefaru yr uchod. Nid yr hwn sydd ddieuog o gyflawni cyffelyb bechod sydd yma, ond "yr hwn sydd ddi- bechod." Mae dynion a dwylaw halop-edig yn y dyddiau presenoi yn casglu meini i labyddio eu brodyr, a'u chwiorydd, yn y Cyfeillachau. Mae y tylawd o bethau y byd hwn yn ami yn dioddef llawer o tan ddwylaw halogedig, y rhai gyfrifant eu hunain yn deilwng farnwyr ar gymwysderau dynion i fod yn aelodau yn Eglwys Dduw. Nis gall. y galon lai na gwaedu wrth gofio ambell Gyfeillach pan oedd cyhuddwr y brodyr wedi casglu ei finteioedd i gyssegr Eglwys Dduw i fwrw tan o ffwrneisiau cenfigen, a malais, ar archollion trueiniaid a gyfrifect yn bechaduriaid acfad. Os bwriad- odd Duw i ddynion ddisgyblu fel y gwneir, a diarddel o'i Eglwys gyd-ddynion, oni fuasai yn rhesymol disgwyl wedi iddynt dderbyn y fath awdurdod, nid yn unig bod ganddynt awdur- dod i ddiarddel am feddwdod, godineb, a'r cyffelyb, ond hefyd y cybydd, y cribddeiliwr, y balch a'r rhagrithiwr, pechodau y rhai mae Duw yn eu ffieiddio o hir-bell? Ac os bwr- iadodd Duw i ddynion fod yn farnwyr, oni fuasai yn rhesymol i Dduw-roddi i'r dynion hyny ei hollwybodolrwydd fel y gallont gadw ei Eglwys yn berffaith bur ? Ond a'i tybed mai trwy archollion a wneir gan ddynion llygredig, y bwriada Duw godi pechadur o'r ffos ? Er hyn oil mae'n ofid meddwl bod yn aros yn yr Eglwys bechodau yn llechu sy'n gwen- wyno crefydd, ac yn dinystrio y bywyd uwchaf. YMNEILLDUWR. [Cyhoeddwn y llythyr uchod er nad ydym yn I meddwl y buasai yn weddus i ni agor trafod- aeth ar y mater yn y RHEDEGYDD. Gwedd- ai y pwnc yn well i gylcbgrawn nag i j newyddiadur.—GOL]
-LLANRWST.-----_-__- ,,-I
LLANRWST. I TREFN Y MODDIONABBOTHOL. I Yr Eglwys Sef ;dledig. ST. CRWST-1O-30 a 6, Cymreig. ST. CRiVST-10-30 a,6 Iwiasanaeth Cymreig. IbTT MARY.—11 a 6, G ?Maeth Seisnig. Y Met AQdtetiaid. SEION.-Parch W liMn Thomas, HEOL SCOTLA-U. Parch, R. Rowlands. Yr Annibynwyr. Parch. W. Cynwyp Williams.. EBENE2ER.—2, Ysgol Sul. 1 Y Wesleyaid, HOREB.-Pa,cb. T, Gwilym Roberts. ST. JAMES (English Chapel).—Mr. Hubbarb. Bedyddwyr. PENUEL.—Parch. H. Cernyw Williams, Corwen. Y mae y Cynhauaf Gwair wedi dechreu yn y Dyffryn. Cae Mr. Griffith Roberts gyferbyn a Vale Cottage oedd y cyntaf i gael ei dori. Llawen iawn genym bob amser yw clywed am lwydd ein pobl ieuaingc. Gwelwn enwau Mr. J. QJynne Jones, mab Mr. T. R. Jones, Porthwen, a Mr. W. B. Barnwell, Llanger- nyw, wedi pasio yr arholiad rhagarweiniol (King Scholarships) yn Normal College, Bangor, y naill gyda thystysgrif a rhagoriaeth yn y Gymraeg, a'r llall mewn Daearyddiaeth. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth o haner can' punt am yr ail flwyddyn i Mr. W. Jácob Jones, B.Sc. Cafodd Miss Gwladys P. Williams, Ty'r Orsaf Exhibition o /1Q i'w galluogi i ddilyn cwrs o addysg yn ystod y Vacation. Pasiodd Miss Janet Jones, merch Mr. David Jones, Elwy House, arholiad Ysgoloriaeth y Brenin am yr ail waith, yr hyn a rydd iddi sedd yn Ngholeg. Hyfforddiadol Bangor, am y tymor sy'n dechreu Medi nesaf. Y mae yn bynod o fywiog yn y Cae Cricket y dyddiau hyn, a chwareuir amryw matches dyddorol yno. Aeth Cyfarwyddwyr Cwmni y King' Head Cafe am wibdaith ddydd Iau i Gaergybi, a mwynhasant en hunain yn fawr iawn. Y mae cydymdeimlad yr holl dref a'r ardal a Mr. Owen H. Hughes, M.A., un o Is- athrawon yr Ysgol Sirol ar farwolaeth ei dad Mr. Hugh Hughes, Teigl House, Ffestiniog. Yr oedd ei dad yn ddyn nodedig o barchus a rhinweddol, a chafodd Mr. Hughes golled fawr yn ei symudiad. Bydded cysur a di- ddanwch yr Ysgrythyrau iddo yn ei brofedig- aeth. ADDYSG.—Yn mysg y rhai ydynt wedi pasio yn llwyddianus eu harholiad rhagarweiniol am dystysgrifau athrawcn yn yr Ysgclion Elfenol, da genym weled enwau y rhai canlynol:- Bessie Evans, Gwytherin Janet Jones, W. F. Barnwell, a J. G. Jones, Llanrwst. Bu ymdrechfa Cricket rhwng y Town Second Eleven a'r Ysgol Sirol. Cafodd y cyntaf 81 a'r ail 90. Da genym weleq. fod Mr. Owen Williams, Penmachno, yr hwn a fu'n wael am dros bedair wythnos a'r ddeg, wedi gwella fel ag i allu ail afael yn ei ddyledswyddau yn swyddfa Mri. Robert a Rogers Jones, Arwerthwyr. HEDDLYS.—Dydd Llun, o flaen O. Isgoed Jones, H. J. W. Watling, E. Jones-Owen, L. W. Jelf Petit, L. 0. R..Ashley, a Wil- liam Hughes, Ysweiniaid. Ar gais Mr. Chamberlyin caniatawyd tros- glwyddiad trwydded Conway Vale Hotel, Glanconway, o enw Mr. Burgess i enw Mr, James Winstanley o'r Harp Hotel, Conwy. Mr 0. Evans-Jones a ofynodd am archeb yn erbyn John Thomas, Erw Gron, LIanfair- fechan, yr hwn oedd yn nyled y Gwarcheid- waid o 17/- ar archeb o swllt yr wythnos a wnaed yn ei erbyn i gadw ei dad. Gwnaed yr archeb Rhagfyr 14, 1908, ond yn ofer y bu bob cais am iddi gael ei chyfarfod.—Caniat- awyd gwarant atafaelu am y swm dyledus a 2/6 o gostau. Yr oedd W. Williams, yn nyled y Gwar- cheidwaid o 10/6 ar archeb o 6c yr wythnos a wnaed yn ei erbyn Mai 28, 1906. Archwyd iddo mewn 14 niwrnod, neu fyned i garchar, Gofynodd yr un Swyddog am archeb o 2/- yr wythnos yn erbyn D. Roberts, 6, River View Terrace, Llandudno Junction, at gadw ei dad Zachariah Roberts, yr hwn a dderbyniai saith swllt yr wythnos o elusen, Dywedodd y Swyddog ei fod yn enill o 28/6 i 30/- yr wyth- nos fel Saer, ac i'w dad dalu £ 60 drosto pan oedd mewn anhawsderau masnachol.-Y Diffynydd a ddywedodd iddo yntau dalu £5 dros ei dad yn yr Ariandy, a bod ganddo feichiau trymion i'w talu yn bresenol.—Archeb am swllt yr wythnos. Yr Arolygydd Wyse a gyhuddodd James Lloyd, o gadw ty drwg, Gan nad ymddang- osodd i ateb y cyhuddiad, ihoddwyd gwarant i'w gymeryd i'r ddalfa.
[No title]
Mr. Powell Edwards, ac nid Howell Edwards, j Rhos, oedd yr enillydd ar yr Unawd Baritone yn Eisteddfod Llundain. Y mae ef yn prysur wneyd enw iddo ei hun yn y byd cerddorol.
BETTWSYCOED. -I
BETTWSYCOED. I At drigolion yr ardal a'r amgylchoedd.—Dy- muna William Williams, Pontypair Shop, gyi, I Iwyno ei ddiolchgarwch diffuant am y gefnog- aeth a dderbyniodd yn y gorphenol gyda dy- muniadau am barhau o'r unrhyw yn y dyfodol. Y mae ganddo bob math o batrymau wedi dod i mewn at dymhor yr haf. Gwell dewis nag erioed Gwneir Siwtiau i fesur i ddynion am 21/- ac uchod, gwarentir fit a'r style ddiwedd- araf. Gellir ei gael ar fyr rybudd. Hefyd cedwir Siwtiau i ddynion a bechgyn a phob math o Cord Knicker i fechgyn am brisiau hynod o iself TrQwsusau i ddynion 4/6 ac lichod. Llongyfarchwn Llinos Elsie, David Charles Hughes, a Tom Roberts, Penmachno, ar eu llwydd gyda'r Triawd yn Nghylchwyl Pentre- foelas. Bydd Gwyliau yr Ysgolion yn dechreu Gorphenaf 23. Aeth Mr. R. Parry, U.H., Pendyffryn, i'r Deheudir am ei seibiant, Disgwylir Mr. H. Parry, Pendyftryn, yn ol o Chili ddechreu y mis hwn. Aeth Ysgol Sul yr Eglwys am wibdaith i Landudno ddydd Gwener, ac Ysgolion y Methodistiaid a'r Annibynwyr i'r un lie ddydd Liun, Gwneir ymdrecii arbenig gan Bwyllgor y Gwelliantau i hysbysebu y lie, ac y maent yn awr yn apelio am £ 35 er dwyn y draul o ddodi hysbysleni mawrion i fyny yn y Gorsafoedd, Bwriedir dodi mil o honynt allan. Y mae y pwyllgor eisoes wedi gwario dros, xf40 gyda rhanu Llawlyfr i'r gymydogaeth. Hyderir y cyfarfyddir yr apel yn llawen. Fel yr oedd boneddwr o Gaer, o'r enw Mr. T. A. Richards yn myned i lawr y grisiaucerig yn Fairy Glen gyda'i wraig, ei fab, ac amryw _1_:11: ro.1n_r n- 1- 1'J.1. !>y."UUUU, ayiwuuu mae y lit: llWU yu liiiung I iawn." Ar hyny Uithrodd i lawr i'r graig ddyfnder o ddeg troedfedd a'r hugain. Brys- iwyd i'w gynorthwyo, a chafodd y Rhingyll Breeze gynorthwy tneddygol ar unwaith. Gweinyddwyd amo gan Dr. Fox, yr hwn a gafodd fod archoll mawr ar ei ben, a'i fod wedi cael ysgydwad trwm. Y mae yn 55 oed, a chafodd ddiangfa wyrthiol am ei fywyd. Cafodd Mr. H. L. Kertze, sydd yn aros yn Gwydyr Hotel, hwyl ragorol gyda physgota ddydd Iau. Daliodd Sewin dau bwys a haner, ac Eog wyth pwys a haner. Ymwelodd Dirprwyaeth o Bwyllgor Addysg y Sir a'r ardal i edrych am safle i godi Ysgol newydd, a phenderfynasant argymell lie yn ymyl yr Eglwys Blwyfol. Gwneid y Ddir- prwyaeth i fyny o Mr. D. P. Williams (cadeir- ydd), y Milwriad Darbyshire, W. J. Parry, a L. J. Roberts, Arolygydd yr Ysgol.
1----NODION CERDDOROL.I
1- NODION CERDDOROL. I [GAN YR EHEDTOD], I Prydnawn Sadwrn diweddaf, yn nghladded- igaeth y cyfaill hynaws Hugh Griffith Jones, 18, Glanygors Terrace (yr hwn a gyfarfyddodd a damwain angenol yn Sutton Heath Collieries, St Helens), gwasanaathodd Gobeithlu Betb- ania, pa rai a ganasant ddwywaith yn effeithiol iawn o dan arweiniad Mr Evan Jones. Yr wythnos hon y mae genym y gorchwyl pleserus o longyfarch y datganwr poblogaidd o Glandwr-Mr. Richard Vaughan, ar ei waith yn enill yr Her-Unawd yn Uchel-wyl Gutyn Arfon a gynhaliwyd y Sadwrn diweddaf yn Rhiwddolion, pan oedd cynifer a saith o ddat- ganwyr da yn ymgeisio yn ei erbyn. Fel y gwyr llawer, hana y datganwr hwn o "Hen deulu Vaughan, Penmachno," teulu ag y mae miwsg yn eu gwaed o ach i ach. Yn yr un cyfarfod, bu i Gor y Bettws, The Choral Union gipio'r wobr am ddatganu ton o waith y Cerddor athrylitbgar Gutyn Arfon, ac yr ydym yn eu llongyfarch yn fawr. Cor anorchfygol (Invincibles) o Dolwyddelen oedd yn cystadlu a hwy, a dywedodd y beir- cerddorol na bu datganu mor ragorol, na dau gor mor gyfartal ar Iwyfan Eisteddfod erioed. Hollti blewyn oedd cydrhyngddynt. Drwg iawn genym glywed am waeledd y baritone enwog, Mr William Thomas Jones, Manou Jtvoaa. x mae y cytaili mwyn wedi ei gaethiwo i'w wely er's amser maith bellach. Da genym fod yn mwriad ei gyfeillion i wneyd Cyngherdd. Gobeithio y bydd i Iwyddiant mawr ddilyn eu hymdrechion, ac y ceir gweled llonaid ystafell y Neuadd Gynull noswaith y cynhelir y Cyngherdd hwnw. Haeddai y cyfaill oreu yr ardal am y Ilwyddiant mawr a wnaeth yn y byd cerddorol, gan fod rhai oddi-j allan i'r ardal yn ogystal ag yn yr arda! feddwl  uchel ohono fel datganwr a dyfodol disglaer iddo. Dymunwn longyfarch Mr. W. H. Davies, Chicago ar ei waith yn enill y wobr gyntaf mewn Eisteddfod yn Humboldt Park, Chicago, gyda Chor Humboldt Park. Un o fechgyn Penmachno ydyw y Marchog cerddgar llwydd- ianus, a brawd i'r datganwr a'r beirniad cerdd- orol poblogaidd Mr D. Pryce Davies. Yr oedd yn dda genym glywed mae Mr. Edward Arthur Williams oedd y beirniad cerddorol yn Nghyfarfod Llenyddol Eglwys St. Michael. Gwyddom am dano fel cyfan- soddwr galluog a chwaethus o'r blaen, ond dyma'r waith gyntaf i ni glywed am dano yn beirniadu. Arwydd dda yw fod ei bobl yn cydnabod ei dalent. Dymunwn iddo lwydd- iant yn y gwaith. Bu Mr. J. D. Jones (loan Dwyryd) a'i law ar y wobr (ys dywedir) yn y Gystadleuaeth canu penillion yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac anffawd noeth a'i rhwystrodd i'w sicrhau. Liongyfarchwn ef ar ei waith yn dyfod mor agos i'r nod. Cofus mai efe oedd y canwr buddugol y llynedd.