Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

0 CAIRO I MEMPHIS A BEDD.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 CAIRO I MEMPHIS A BEDD. RODAU SAKKARAH. ) [GAN MR. J. R. ARTHUR.] GWRTHRYCHAU r ADDOUADOL. WEDI cefnu ar Byramid y Grisiau, gwrthrych nesaf ein sylw yn ngladdfa Sak- karah oedd y Serapeum- beddrod y Teirw cyssegredig Hapi neu Abis I neu gladdfa tanddaearol y Teirw hyny fu yn I wrthrych addoliad yr Aifftiaid am ganrifoedd I lawer. Dyma y beddrod pwysicaf a gloddiwyd [ gan hynafiaethwyr yn Sakkarah, ac mae hwn fel yr oil o feddrodau Sakkarah, wedi ei dori a'i naddu mewn craig bur o'r golwg yn y ddaear. Cyfrifir y beddrod hwn yn un o ryfeddodau y byd a chyn y gellir ei ddeall yn briodol heb son am ei ddesgrifio yn drefnus a dealladwy, rhaid i'r darllenydd wybod ryw- beth am dduwiau yr Aifftiaid gynt. Sylwa an ysgrifenydd mai syniadau crefyddol ydyw y | rhai mwyaf pwysfawr a fedd cenedl. Hwynt- hwy ydyw bannau llywodraeth a phegynau gwareiddiad, a hwynt-hwy hefyd sydd yn pen- derfynu hanes a thynghed cenhedloedd." Ond prin y gellir cymhwyso yr ymadroddion a ddifynwyd at yr Aifftiaid oblegyd,—yn groes i'r Hebreaid, yr oedd yr Aifftiaid gynt yn blant mewn crefydd ac yn ddynion yn mhob peth arall. Daw'r gwirionedd hwn yn amlwg pan eir i gydmaru sefydliadau nodedig a deddfau doeth yr Aifftiaid a'r ofergoeJedd gwarthus a'r tybiau gwrthun oeddynt seiliau i'w crefydd wladol. Ni cheir fod doethineb yr Aifftiaid J yn ymestyn i'w materion crefyddol. Yr oedd afidoliad anifeiliaid, yn ei ffurf fwyaf llygredig yn bodoli yn gyffredinol yn eu plith, a chyfrifid y ffarf hwn o addollad mor ddiraddiol a dir- mygedig fel y cynhyrfodd ddigllonedd y Crist- ionogion boreuol a diystyrwch a gwawd y Groegiaid eilanaddolgar. Tra y ceid y gath a'r ci (fel y cawn achlysur ifanylu eto) yn gyssegredig yn ngolwg yr Aifftiaid un adeg. ni cheid braidd un creadur yn y wlad- yii adar, ymlusgiaid, nadrodd, epaod, crocodeiliaid- nad oedd Aifftiaid i'w cael ar Ian y Nile yn ymgrymu a'u haddoli. Mor luosog oedd y creadoriaid sanctaidd fel y digwyddai yn ami fod anifeiliaid a ystyrid yn gyssegredig yn un ran o'r wlad yn cael eu difa a'u dinystrio gan breswylwyr cwr arall i'r Aifft. Yr oedd hyn yn peri helyntion ac ymrafeilion ac yn achos o erledigaethau gwaedlyd rhwng y pleidiau, ond paham yr awn i ddanod hyn i'r Aifftiaid oedd yn byw bedair mil o flynyddau yn ol, onid yr un peth o ran egwyddor yw yr Yspryd sydd yn bodoli hyd heddyw rhwng gwahanol sectau yn Nghymru ? TARW SANCTAIDD. O'R holl anifeiliaid fu yn wrthrychau addoliad yr Aifftiaid, y mwyaf enwog ac anrhydeddus oedd y Tarw Sanctaidd yri Memphis—yr Hapi neu Apis, Serapis yn ol y Groegiaid gynt. Tybiau doethion yr Aiphtiaid, am ryw resymau fod Osiris (duw cenhedliad a chreadigaeth, yr hwn a roddodd fodolaeth i'r ddaear, haul a'r Ueuad) wedi ymostwng i ymgnawdoli yn y ffurf o darw er mwyn trigo yn mhlith dynion, Cyhoeddwyd Osiris, gan yr Offeiriaid, yn y cymeriad o darw yn wrthrych addoliad a gwarogaeth ddwyfol, derbyniwyd y gorchymyn gan y werin mewn ffydd yn ddiwrthwynebiad a daeth y Tarw Sanctaidd, nid yn unig yn ben yn mhlith anifeiliaid cysegredig, ond i sefyll, yn ngolwg yr Aifftiaid, dros y llun cyflawnaf o dduwdod yn nghorft anifail. Y sefydliad cysegredicaf yn ngolwg yr Aifftiaid oedd teulu ac fel corfforiad, medd un awdwr, o'r meddyl- ddrych hwn y syniau yr Aifftiaid am eu Duw. Cynhwysai ei credo drindod o bersonau yn Nuw-Tad, Mam, a Mab, (Osiris, Isis a Horus). Edrychid ar y tri fel un duw wedi ymgnawdoli yn y cymeriad o darw yn Memphis am genedlaethau lawer. Ceir tystiolaeth safadwy ddarfod i Alexander Fawr fyned i deml y tarw-dduw yn Memphis ac fel gorch- N fygwr doeth, ymddygodd gyda pharch at addoliad y gorchfygedig, ac efe a offrymodd aberth i'r Apis. Tueddai yr Israeliaid i'r ffurf hon o addoliad ar daith yr anial o'r Aifft i Ganaan. Pan ddiflanodd Moses ar Sinai, gwelwyd yr afael gref a gafodd crefydd yr Aifftiaid ar ddychymyg a chalon yr hen genedl troisant, yn eu cyfyngder, i addoli y daw y dygwyd hwy i ymgrymu iddo am oesoedd yn yr Aifft (Exodus 22). Bu Tarw Sanctaidd hefyd, mewn cyfnod diweddarach, yn Ninas Heliopolis ond nid oedd hwnw mor enwog a'r un fu yn Memphis a tueddir rhai i gredu i Jeroboam syrthio dan swyn y ffurf hon o addoliad (i Brenhinoedd xii, 28; Hosea x, 5). EI DRIGFAN- El GLADD- EDIGAETH. TRIGAU yr anifeiliaid ffor- tunus hyn mewn palas neu deml fawrwych yn cynwys gerddi, rhodfeydd. a chyn- teddau anmhrisiadwy yn ninas Memphis; a cheid fod miloedd o Offeiriaid a gwasanaethyddion wedieu neillduo, a'u cysegru i'w wasanaeth yn gyfangwbl. Yr oedd yr ystafellyddion i wneyd ei wely, gweis- ion i'w lanhau ac eraill i'w gribo a'i gadw yn fythol brydferth. Ceid yno hefyd dyrfa o wasanaethyddion eraill, rhai i brynu bwyd, rhai i'w goginio, rhai i'w fwýdo, rhai i'w gario a rhai i'w osod o'i flaen. Darperid ei fwyd gyda gofal brenhinol, ac edrychid a chedwid gwyliadwriaeth ddydd a nos arno yn mhob modd yn unol a'i natur. Fel. yna gweinyddid arno gyda manlynrwydd a gofal neillduol, fel nas gellir dychmygu am greadur arall yn derbyn y fath warogaeth. Disgwylid iddo fyw am bum mlynedd ar hugain a phan fyddai farw byddai yr Aifftiaid yn perarogli ei gorff yn ofalus fel pe bai yn gorff un o'u brenhinoedd. Wedi ei berarogli, claddid ef yn nghanol rbwysg a mawredd anhygoel mewn archfaen gerfiedig, a'i osod mewn beddrod neillduedig wedi ei naddu mewn craig bur hanner can Hath islaw arwynebedd y iir yn ngladdfa aruthrol Sakkarah o du y gorllewin i ddinas Memphis. Golygai defodau a seremoniau > claddedigaeth y Tarw Sanctaidd draul o again mil a bunau, ac achosai ei farwolaeth dymor o dristwch a galar cyffredinol. Cadwai y trigol- ion yn eu galar-wisgoedd hyd nes y dargan- fyddid an arall yn ei le yn dwyn yr an nod- weddion ac arwyddion. Wedi i'r diwrnod claddu fyned heibio, cynygid gwobr o c25,000 gan yr Offeiriaid i'r sawl a ddarganfyddai un newydd yn dwyn y marciau gofynol. Pan oresgynwyd yr Aifft gan y Persiaid dau Darius, rhoddwyd y swm o gan talent o aur, cyfwerth a chan mil o bunau o'n harian ni am darw sanctaidd. WEDI darganfod Tarw NODAU Y TARW Sanctaidd newydd, cyf- —Y BEDDROD. newidid y galar yn orfoledd cyffredinol; ac yn nghanol banllefau arweinid y Tarw dduw newydd mewn anrhydedd i'r deml neillduedig a feddianai yr un ymadawedig. Yr oedd yn ofynol iddo fod yn drwyadl ddu a nodau neillduol cyn y derbyniwyd ef fel ymgnawdol- iad o'r duw Osiris. Y nodau oeddynt, tairongl neu seren wen ar ei dalcen, Hun eryr ar ei gefn, cilgant (crescent) ar ei ochr dde, dau fath o flew ar ei gynffon, a dafaden ar ei dafod yn delweddu y chwilen gyssegredig (scarab). Heddyw buasem yn anfon creadur fel hyn i shou Barnum & Bailey ond y fath oedd Ilymder ei hangen, newyn a syched beunyddiol natur, a grym goleuni yr Aiphtiaid, wrth ymbalfalu ynflinderog am Dad eu hysbrydoedd, fel yr ymgryment i dalu gwarogaeth ac addoliad dwyfol gerbron y Tarw Sanctaidd. Gwnawd llawer o ymdrechion egniol a gwar- iwyd miloedd o bunau gan hynafiaethwyr Aifftiaidd i geisio dod o hyd i feddrod y Teirw Sanctaidd. Yn ol hanes a thraddodiadau yr oedd un i fod yn nghyffiniau dinas Memphis. Bu gwahanol gymdeithasau yn turio yn hir yn y gymydogaeth hon, ond ni lwyddwyd i gael hyd i'r beddrod hyd yn ddiweddar; a dyma yn fyr yr amgylchiadau a arweiniwyd i ddar- ganfod y lie. Ar y grisiau sydd yn arwain i'r Shepherds Hotel yn Cairo gwelir dwy Sphinx yn gwylio y fynedfa-Cerflun, dealler, ydyw Sphinx, corff llew a gwyneb morwyn. Hys- byswyd hynafiaethydd gwych o Ffrancwr o'r enw Marrietts a ddigwyddai aros yn y gwesty fod y ddwy gerfddelw oedd yn gwylio y fynedfa wedi eu cloddio a'u cludo yno yn ol traddod- iad o le o'r enw Sakkarah ger Memphis. Bu hyn yn symbyliad i Marrietts i durio y tywod yn Sakkarah am ragor o'r cerfddelwau. Adeiladodd dy pren (Bungalo) yn yr hwn y preswyliai i arolygu ei anturiaeth; ac un boreu, ar ol i ystorm ffyrnig o wynt gyro gwyneb y tywod yn ystod y nos- sylwodd Marrietts y boreu hwnw fod y gwynt nerthol wedi symud y tywod o gwmpas cerflun o'r un natur ag a welodd wrth y fynedfa i'r Shepherds Hotel yn Cairo. Aeth ati i roddi ei ddynion ar waith yn y fan hono i gloddio o ddifrif. Wrth wneyd y trefniadau hyn, gwawr- iodd ar ei feddwl yn sydyn gofnodiad yr hanesydd Strabo fod rhodfa o gerfddelwau yn arwain at y fynedfa i feddrod y Teirw Sanct- aidd a'i bod mewn perygl o gael eu claddu gan yr ystormydd tywydlyd blynyddol oddiar yr anialwch. Ar sail hyn daliodd ati i gloddio ac ni fu yn hir cyn dod o hyd i ganoedd o'r cerfddelwau mewn rhodfa 600 troedfeddo hyd. Wedi sicrhau y cerfluniau cawraidd o Sphinxes Ilewod, paunau ac o athronwyr groegaidd oedd yn addurno y rhodfa urddasol a mawr- eddog hono, turiodd ar antur yn mhellach a daeth y Sarapeum neu feddrod y Teirw Sanctaidd, er ei orfoledd, i'r olwg wedi bod yn guddiedig dan dywod yr anialwch am filoedd o flynyddoedd Wedi i Marrietts fyned drwy y fynedfa i'r beddrod, cafodd, mewn ystafell ysgwar anferth, hyd i filoedd o gerfysrifau, tablau a cherrig coffa oedd yn croniclo hanes o werth anmhrisiadwy-hanes oedd yn settlo dadleuon brwd yn mhlith hynafiaethwyr, ac yn penderfynu amseryddiaeth rhai o b<if deyrnlinachau gwlad yr Aifft. Wrth dramwyo ceuffordd neu inclined tunnel wedi ei dori yn y graig, cyrhaedda y teithiwr y fynedfa i'r beddrod. Gwylid y fynedfa un adeg, yn 01 hanes, gan bar o ddrvsau arian cywrain ond heddyw math o grating haiarn sydd yn ateb y pwrpas. Wedi cael llusern gan wyliedydd patriarchaidd o Arab, arweiniwyd ni drwy y fynedfa ac hyd dynel helaeth, deg-troedfedd- a'r-hugain o led ac o uchder, am yn agos i chwarter milldir o hyd. Hysbyswyd fod y pen peila o'r fynedfa yn ymestyn am dros filldir a haner yn mhellach ac nid Yankee a ddywedodd hyny chwaith! Wrth fyned yn mlaen, ar ol yr arweinydd, ar hyd y tunel, mae y teithwyr yn myned heibio i ystafelloedd neu ogofeydd yn arwain o'r tunel ar bob Haw, ond nid un amser gyferbyn a'u gilydd. Rhifa y celloedd neu yr ystafelloedd sydd yn arwain allan fel hyn o'r tynel bedair-a-thri-ugain, a mesura pob un bum'-troedfedd-a'r-hugain ysgwar. YN Y BEDDROD. II jI YN nghanol pob ystafell safai cistfaen anferth a gynwysai un- waith gonph tarw Sanctaidd- Gwelir pump ar hugain o'r arch. lemi eniawr nyn neadyw yn y gwahanol ystaf- elloedd fel y gosodwyd hwy gan yr Aifftiaid. Pwysant o gwmpas pum' tunell a thri ugain, a mesurant ar gyfartaledd dair.troedfedd ar ddeg o hyd, un droedfedd ar ddeg o led, ac wyth troedfedd o uchder. Wedi i'r Aifftiaid ddodi y gistfaen yn cynwys corff eneiniedig y tarw yn y gell, caeid hi wedi hyny i mewn a gwal. Pa fodd y cludai yr Aifftiaid y cistfeini enfawr i'r ystafelloedd hyn sydd yn ddirgelwch. Gwelir un gistfaen ar y ffordd i ystafell, a phaham y gadawyd hi yn y dramwyfa gan yr Aifftiaid nis gwyr neb. Tybia rhai Iddynt fethu ei chludo yn mhellach neu fod ryw derfysg gwladwr- iaethol wedi digwydd pan yn yr act o'i chludo fel na chafwyd hamdden na chyfleusdramwyach i'w dwyn i'r ystafell apwyntiedig. Tybir gan hynafiaethwyr Aifftaidd i'r tarw cyntaf gael ei gtaddu yno oddeutu y flwyddyn 1500 cyn Crist neu 200 mlynedd cyn i genedl Israel gychwyn o'r Aifft am wlad yr addewid, Bu y beddrod anferthol hwn felly yn gladdedig am filoedd o flynyddoedd, yn y flwyddyn 1873 y deuwyd o hyd iddo gan yr hynafiaethydd Marrietts. Dywedir fod dros drugain ogyrffyTeirwSanct- aidd wedi ei darganfod, ac yn ol un hynafiaeth- ydd perthyn i un o honynt hanes dyddorol. Wedi i Gambyses, mab Cyrus, Ymherawdwr Persia, orchfygu yr Aifftiaid, daeth i drigo am gyfnod i Memphis, ac ar ddydd gwyl ne llduol yr oedd yn arferiad gan yr Aifltiaid fyned a'r tarw sanctaidd am orymymdaith drwy y ddinas i dderbyn gwarogaeth y trigolion. Digwydd- odd i Gambyses gyfarfod a'r orymdeith yn fuan ar ol dod i drigianu yn Memphis, a chyn- hyrfwyd ef gymaint gan yr olygfa fel y tynodd ei gledd a thrywanodd yr anifail nes y bu farw. Ac fel y mae yn rhyfedd adrodd, corff y tarw hwnw oedd yr un a gafodd. Marrietts gyntaf, ac yr oedd olion y trywaniad i'w ganfod yn eglur arno. Y mae beddrod y teirw ya nghladdfa Sakkarah yn gymaint o arddanghosiad o ddiw- idrwydd a gallu celfyddydol yr Aifftiaid ag ydyw y Pyramidiau oesol; ac y mae hynafiaeth- wyr Aifftiaidd gallnog a medrus hyd heddyw yn analluog i gyfrif i foddlonrwydd sut y daeth yr Aifftiaid yr adeg hon ar oes y byd a chyda arfau mor syml i allu liunio a cherfio mewn craig galed yn fath neuaddau enfawr tan- ddaearol. Yr oil allwn ni wneyd oedd synu a rhyfeddu at aruthredd yr Apis Mausoleum.

- -- --CYNGHOR DINESIG FFESTINIOG.…