Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
? dBolofu etrtllxorol._
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
? dBolofu etrtllxorol. GEORGE FREDERICK HANDEL. XXIX. Diweddwn gydo. Handel trwy roddi disgrifiad o 1 berson ae esiamplau o'i ffraethineb, &c. A ganlyn ydyw y disgrifiadau a rydd gwahanol b6r- son an ag oeddynt wedi ei weled ac yn gydnabyddus ag ef Y,r oedd gan Handel gorff mawr, ac r edd braidd yn dew ac ya anhwylus yn ei symudiadau ond yr oedd ei wynebryd (yr hwn yr ydwyf yn ei gofio mor berffaith a gwynebpryd unrhyw ddyn a welais ddoe), yn llawn o dan ac urddas, a'r fath ag ydoedd yn rhoddi argraff o un yn feddianol ar ragoriaeth neill- duol, ac athrylith anghyffredin." Eto, Golwg drym- aidd a sarug oedd ar Handel yn gyffredin, ond pan y ewenai, byddai ei weniadaa fel yr haul yn chwalu y cymylau dnon." Arferai Burney ddweyd fod Han- del's smile like heaTen." Hawkins a ddywed Yr oedd Handel o ran ei berson yn fawr a chorfforol iawn. Yr oedd ei ddnll o gerdded yn ddiofal a dilun. i His features were finely marked and his countenance placid, bespeaking dignity attempered with benvol- ence, and every quality of the heart that has a tend- ency to beget confidence and insure esteem." Awdwr arall a ddywed fod tri pheth yn hynod yn ei features, set bychandra y trwyn, disgleirdeb y llygaid, pa rai oeddynt yn agoryd yn llydain iawn, ac hefyd yn fywiog, wrol, ac yn arildangos dyn tanIlyd a phender- fynol. Yr hynodrwydd arall ydoedd aelian ei lygaid yr oedd y rhai hyn yn fyr iawn, ae yn hynod o promin- ent. Dywedir fod y diweddaf yn gyffredin yn arwydd neillduol o feddylwyr cryf a dwfn. Y mae hyn wir am Handel, Bach, a Beethoven, bid a fyno. Dywedir fod cyfansoddwyr cerddorol, yn gyffredin, yn ddyn-ou hynod o ffraeth (witty.) Felly Handel, fel y dengys yr ychydig engreifftian a ganlyn.Ymddengys fod ganddo ddull hynod o'i eiddo ei hun o adrodd chwedlan, hanesion, &c. "Gwnai i'r mwyaf dwys, a prndd ei natnr chwerthin yn galonog, a hyny heb byth chwerthin ei hunan." Nid oedd neb a allai ragori arno am adrodd ystori, ond tuag at ei ddeall a'i fwyn- hau yr oedd yil rhaid i'w wrandawyr fod yn hyddysg mewn o leiaf bedair o ieithoedd, sef Saesneg, French, Italian, a German, oblegid pan yn adrodd unrhyw hanesyn byddai yn defnyddio y pedair iaith. Yr oedd ei stock o wits a humour yn fawr iawn." Pan mewn cyngerdd un Iro yr oedd gan Dabourg, y Violinist, Coda ad libitum i'w chwareu. Ba yn crwydo yma ac aew, ae ymddangosai oi fod wedi dyrysa yn hollol. O'r diwedd, daeth i'r diwedd, a hyny yn Iled ddeheuig eg ysty'ried fel y bu yn crwydro, pryd y gwaeddodd Handel yn ddigon uchel i'r gynnlleidfa ei glywed, Yoa are welcome at home, Mr. Dubourg." Pryd arall, cododd cweryl rhyngddo ag un Gordon, canwr enwog. Triniai hwn Handel yn enbyd am nad ydoedd, meddai ef, yn ei aecompanio yn debyg i ddim. Aeth yn bur boeth rhwng y dd >u, a tawodd Gordon gyda'r geiriau os na fyddai iddo chwareu yn well, y byddai iddo ef neidio ar ei harpsichord a'i main yn ddarnau." Oh," atebai Handel, gadewch i mi wyLod pa bryd y bydd i chwi wneyd hyny, ac yna bydd i mi wneyd hyny yn hysbys, oblegid yr wyf yn sicr y daw mwy o bobl i'ch gweled yn neidio nag a ddaw i wrando arnoch yn canu." Pan y digwyddodd iddo glywed y serpent am y tro cyntaf, arswydwyd ef gan harshnessy swn a gynyrchid gan yr offeryn hwnw, a gwaeddodd allan" Vat be dat ?" Hysbyswyd ef mai offeryn newydd ydoedd, ac aelwid 'serpent' 0," meddai, "de serbent, aye; but it not be de serbent vat setuceed Eve." Pan y collodd ei olwg, gofynodd ei feddyg iddo a ydoedd yn alluog i barhan i chwareu yr organ yn gy- hoeddus yn y dstganiadau o'i Oratorios. Atebodd Handel yn nacaol. Yna cymeradwyodd y meddyg iddo un o'r enw Stanley (dyn dall), fel person cymwys ac un oedd yn gallu chwareu yr organ yn hynod o fedrus, a chwanegai na fyddai ei gof byth yn methu. Ar hyn, torodd Handel allan i chwerthin dros bob man, a dy- wedodd, Mr. Sharp (meddyg), a ddarfn i chwi erioed ddarllen yr Ysgrythyrau ? Ai onid ydych yn cofio, 6 as v dal! a dywys y dall, hwy a syrthiant ill dan i'r ffos.' Gyda golwg at ei grefydd dywed Hawkins:—"0 ran ei grefydd perthynai i a chredai ddaliadau yr eglwys Lutheraidd, er nad oedd gymaint penboethyn ag i beidio cydymffurfio ftchrefydd y wlad a duewisodd i fyw ynddi." Yn mlynyddoedd diweddaf ei fywyd talai sylw neill- dnol i grefydd a'i hordinhadau. Newidiodd drwyddo pan gollodd ei olwg, cyfnewidiodd o ran ei dymer a'i gymeriad yn gyffredinol. Dywed Burney A.m amryw ddyddiau cyn ei farwolaeth datganai ei ddy- muniad o gael marw ar ddydd Gwcner y Groglith, gyda'r gobaith, meddai ef, o gael cyfarfod ei Dduw daionus, ei sweet Lord and Saviour on the dLy of his resurrection. Cafodd ei ddymuniad fel y dywed- wyd o'r blaen. BUQEILIAID BETHLEHEM.—Dymaytestyn addewis- oid Mr. R S. Hughes, awdwr y" Oolomen Wen," i gyfansoddi Cantata gysegredig arno. Mae rhyw swyn 1lbnsical yn Y testyn hwn. Hyfryd genym fod gwr ieuanc talentog fel N-r. Hughes yn troi ei dalent yn y cyfeiriad hwn, ac nid gwario ei allu a'i fedr i gyn- yrchn caneuon salw a difudd. Galirsai awdwr y Cantata hon, yn ddian, gael mwy o elw arianol wrth gyfansoddi caneuon felly. Mae y libretto wedi oi gyfansoddi a'i drefnu gan Thomas Howells (Hywel Cynon). Cynwysay c.yfanwaith ddwy ran. Mac.yny Rhan 1. bedwar o gydganau, un pedrawd, dwy alaw, dau adroddgan, ac un solo. Mae dau gydgan wedi eu cyfansoddi i leisiaa cymysg, a'r ddau arall i leisiau gwrywaidd (T.T3.B,) Rhaid cael Tenors ala lleisiau p ansawdd da i wneyd cyflawnder ft'r rhai hyn, Oyno wvsa Rhan II. drieydglm (dau 0 bonynt i T..13B.), nn pedrawd, nn <?«MM!, tri adroddgan, a tan alaw_ Dylai ein coiau gymeryd .ti i ??S" y Gantah hon yn dclioed bydd,i yn llafur a atebai ddiben dda. Gall ein corau bychain .gwtedig ei dysgu yn lawon' a gallant ei dadgann heb artistes. Mae yr alawon yn gyfryw ag y gall aelodan o'r corau ea canu. Mae wedi ei cbyhoeddi gan y cyhoeddwyr anturiae us o Gwrecsanwy Meistri Hughes a'i Fab. ANTHEMAO CYNULLBIDFAOL.-Dyms gynyrehion gwir werthfawr a defnyddiol wedi eu cyfansoddi gan y Proffeswr Parry, Aberystwyth. Y maent mewn ardduIl hollol Gymreig, ac wedi eu eyfaddasu at wasanaeth y oysegr a chymanfaoedd cerddorol, ae i hyny y maent i'r dim. Ymddengys fod Mr. Parry yn bwriadu cyhoeddi nifer o ranau, a'r gyntaf o'r cyfryw sydd ger ein bron yn awr. Cynwysa hon dair anthem. Maent oil yn dda, ac yn neillduoI V gyntaf. Yr ydym wedi ein Ilyneu i fyny yn hollol ganddi. Mae hon yn oict. o ddyfod ynbobbgaidda gwir ddefnyddiol. Gobeithio y bydd y rhanau dyfodol eystal a hon.
IPORTHMADOG. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PORTHMADOG. MEDDYGOL.-Bydd yn dda gan gyfeillion Mr. Henry Evans, M.R.C.S.. Tuhwnt-i'r bwlch, Porth- madog, ddeall ei fod ar y 7fed cyfisol wedi pasio yn llwyddianus yr arholiad am y graddau o L.R.C.P., ae L.M., Edinburgh; ac ar y 15fed cynsol, yr arholiad am y gradd o L'S.A., Llundain. *° TEML Y PLANT.—Trwy ffyddlondeb Mri. John Owen, Bank Place; Peter Owen, High-street; J. Jones, Snowdon-street; Cadben John Owen, Wini- fred,' Porthmadog, a Mr. William Jones, Borth, y mae cyfarfodydd y Temlwyr leuainc yn cael eu cyn a. yn wythnosol trwy y flwyddyn. Fel arfer, cynhal. iwyd eu oyfarfod cystadleuol cyhoeddus, nos Fawrth, y 13eg cyfisol, yn nghapel y Garth, o dan lywyddiaeth Mr. John Owen, Bank Place- Yn y prydnhawn, rhoddwyd te a bara brith i'r plant yn yr Ysgoldy Brytanaidd, lie y gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y Misses Catherine Jones, Ellen Jones, Janett Jones, Eliza Jones, Margaret Roberts, Kate Roberts, M. J. Jones, Eliza Humphreys, Ellen Davies, Ellen Wil- liams, Mary Evans, Anne Williams, Susannah Wil. liams, a Sarah E. Morris. Yr oedd golwg brydferth ar y plant yn myned yn osgorddiu yn eu coleri gwyn- ion o gapel y Garth i'r Ysgol Frytanaidd. Declireuwyd y cyfarfod cyhoeddus trwy ganu t6n gyffredinol gan y plant, o dan arweiniad Mr. William Jones, Garth. Wedi hyny darllenwyd a gweddiwyd gan Mr. William Owen, Borth. Anerchiad gan y llywydd, Mr. John Owen, Bank Place. CAn gan Anne Dorothy Morris. Adroddiad gan D. M. Roberts, Berlin House. Can gan y plant. Beirniadaeth Mr. David G. Davies ar y llawysgrifau; goreu, WillliamM. Jones; ail, David Owen Roberts. Adrodddiad gan Tryphena Roberts, Spelling Bee goreu Elizeus Williams. Can gan A. D. Morris. Tôn gan y plant. Beirniadaeth Mr. E. Davies (Iolo Meirion), ar y traethodau ar Hanes Samson;" gwobrwywyd Phillip Jones. Llawysgrifau ganferched; goreu, Anne D. Morris; ail Tryphena Roberts. Adroddiad gan Jane Jones, Chapel-street. Beirniadaeth ar y dramimgi goren, David Owen Ro- berts ail, Richard P. Lewis. T6n gan y plant. Anerchiad gan Mr. E. Davies (Iolo Meirion). Adrodd- iad gan David Jones, Gas Works, a John Williams, Clogyberth. Beirniadaeth ar y traethawd ar y Pwys- igrwydd i blant ymuno yda dirwrst;" goreu, Phil- lip Jones; ail, D. M. Egberts. Adroddiad gan Ro- bert Jones, ae Owen Owens. Cyflwynwyd anrhegion i Mri. John Owen, Bank Place, a William Jones, Borth, gan Owen Owens, a D. M. Roberts, dros y Temlwyr leuainc am eu llafur gyda'r cyfarfodydd. Adroddiad gan John Davies, Evan Thomas, ac Anne Roberts. T6n cyffredinol gan y plant. Cafvvyd cyfarfod difyrus, ac y mae llawer o ddaioni yn cael ei wneyd i'r plant trwy ymdrechion y brodyr a enwvd.
I - '- RTRKENHEAD,I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I RTRKENHEAD, LLADD EI GARIAD.-Digwyddodd amgylchiad tor- calonns a dychrynllyd le yn Transmere, ger y dref hon, nos Lun, y 5ed cyfisol, drwy i un o'r enw Benjamin Howard, saer llongau, saethu at ei gariad, merch ienanc 30 mlwydd oed, o'r enw Miss Strong. Yr oeddid yn deall fod y dyn yn talu sylw i'r ferch ieuanc hon mewn ffordd o garwriaeth ond nid oedd y ferch ieuanc yn rhoddi derbyniad iddo, ond yn hytrach yn gwrthod rhoddi ei chydsyniad iddo yn y ffordd hono. Ymddengys fod y ddau yn sefyll y noson hono wrth ddrws shop Mr. Pitt, brawd-yn-nghyfraith y ferch ieuanc, a thra yno clywid swn ergyd yn myned allan o lawddiyll; ac yn fuan ar ol hyny, deallwyd fod y ferch ieuanc wedi ei saethu yn ei gwddf, a ehariwyd hi i mewn. Galwyd ar y meddygon yno, y rhai a fu gyda hi drwy'r nos. Cymerwyd y dyn i'r ddalfa y noson hono ar y cyhnddiad o saethu Miss Strong, a dywedodd. Cynorthwyed Duw fi, cajigymeriad yd- oedd." Yr oedd ganddo yn ei (eddiant lawddryll six chamber. Yr oedd yn ddrwg ganddo iddo wneyd, ac amlygodd nad oedd ganddo y bwriad lleiaf i'w llcdd, ond ei fod yn cario y lIawddryll am ei bod yn 5ed o Tachwedd. Cynhaliwyd trengholiad ar y corff, dydd Llun, y 12fed C) lisol, a dychwelwyd rheithfarn o Lofrnddiaeth wirfoddol," yn erbyn y carcharor, ac anfonwyd ef i'r carchar i sefyll ei brawf yn mrawdlys ncsaf Caer. Y CYNGOR TBEFOL.—Y mac y Cyngor Trefol erbyn hyn wedi ei ethol. Yr oedd v ddwy blaid, y Toriaid a Rhyddfrydwyir, wrthi yn ymdrechgar ac egniol i sicrhau eisteddleciedd yn y Cyngor. Rhwng y ddwy blaid yr oedd yno 87 o ymgoiswyr,45 yn Doriaid, a 42 yn Rhyddfrydwyr. Allan o'r 42 hyn, nid allodd ond dau fyned i mewn, yr hyn oedd yn rhoddi buddug- oliaeth fawr i'r blaid Doriaidd. Er mai Tor'iaidd iawn ydyw Birkenhead, eto, yr oeddwn yn dilgwyl y buasai cryn lawer mwy na dau o Ryddfrydwyr yn eiaill eisteddle yn y Cyngor. Siomedig iawn ydyw y Rhyddfrydwyr; ac y mae y Toriaid ar uchel-fanau y maes. Yr oedd yn llawen iawn genyf weled Rhydd- frydwyr trwyadl yn gwrthod y swydd o henaduriaid, yr hon oedd yn cael ei chynyg iddynt gan y blaid Dorïaidd. Yr oedd yn dda iawn genyf hefyd weled enw y Oymro a'r Methodist zelog Mr. Edward Jones, Albert House, ar restr yr ymgeiewyr; ao er nad oedd yn llwyddianus i gael eisteddle yn y Cyngor, yr oedd wedi dringo yn uchel iawn; efe a gafodd y mwyafrif o bleidleisiau ymhlith y blaid Ryddfrydig, Y mae yn anrhydedd i ni fel Cymry ac fel Method- istiaid, fod un o honom yn sefyll mor uchel ar restr yr etholiad trefol yn Birkenhead. Na fydded iddo ddigaloni. Try again a hyderaf mai y flwyddyn nesaf y c&f yr anrhydedd o ddweyd wrth ddarllenwyr y GOLEUAD fod y Cysnro a'r Methodist hwn wedi ei ethol yn anrhydeddus i eistedd ar Gyngor Trefol Birkenhead.— Gohebydd.
Y RHYFEL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y RHYFEL. CWYMP KARS. CYMERIAD YR HOLL AMDDIFFYN- FEYDD, 300 0 GYFLEGRAU, A 10,000 0 GARCHARORION. 5,000 0 DYROIAID WEDI EU LLADD A'U CLWYFO. Gan nad beth all ddigwydd eto yn hanes y rhyfel gwaedlyd presenol, bydd nos Sadwrn a boreu Sabbath, yr 17eg a'r 18fed cyfisol, yn un o'r adegau mwyaf nodedig yn ei hanes, oblegid rhwng "yth o'r gloch y noswaith a enwyd ag wyth boreu dranoeth, cymerodd y Rwsiaid un o'r amddiffyn- feydd eadarnaf-amd(liffynfeydcl a ystyrid gan rai yn anorchfygol—trwy ruthr, a hyny gyda gallu nad oedd yn rhifo, a dweyd y lleiaf, ddim mwy nag a rifai yr amddiffynwyr eu hunain. Mae Kars yn enwog ymhell cyn hyn ynglyn a'r cwerylon rhwng Rwsia a Tllwrei. Mae ei gwarch. aead a'i chwymp sydyn y waith hon yn dwyn ar gof ryfeloedd 1829, ao 1854. Yn y rhyfel gyntaf, cymerodd y Rwsiaid y He ar ol tri diwrnod o warchae, er yr ymddengys y gallasai ddal allan gryn lawer yn hwy pe,, ineddasai y Ilywodraethwyr galon i ymladd. Mae banes Kars yn 1855 yn dra chofiad- wy i lawer. Yr oedd y gwarchodlu wedi dal allan am ysbaid eisoes, pan wnaeth y Cadfridog Williams ei ymddangosiad yn y lie i gymeryd gofal ei amddi- ffyniad. Dangosodd Williams ar unwaith na ddaethai i'r lie i segura, trwy ddechreu heb oedi ar y gwaith o gadarnhau yr amddiffynfeydd. Ar y 29ain o Fedi, yn y flwyddyn hono, penderfynodd y Cadfridog Rwsiaidd Mouravioff, wneyd cais i gymeryd y lie trwy ruthr. Yn ystod brwydr o saith awr, cymerodd ao adgymerodd amryw o'r gwarchgloddiau:a'r cyflegrfeydd allanol, ond yn y diwedd bu raid iddo gilio ymaith, wedi colli yn drwm a dibynu ar y cynllun mwy arafaidd o newynu y gwarchodwyr. Maejhanea y dioddefiadau. yr aeth y Tyrciaid-milwyr a dinaswyr—trwyddynt yn un o'r penodau mwyaf cyffrous. Yn Nhachwedd, nid oedd ond ychydig o gig ceffylau i'w gael, a'r dogn ydoedd ychydig fara, ajgruel o flawd a dwfr. Gwertbai cig cathod yn ol haner coron y:pwys, acjwynwyn yn ol pum' swllt y pwys, a da oedd gan y rhai a feddant arian eu cael am hyny. Bwyteid gwraidd glaswellt, a bu rhai feirw trwy fwyta gwreiddiau gwenwynig. Amgylchid y Cadfridog Williams yn yr heolydd gan famau truenus, gyda phlant curiedig yn eu breichiau, i erfyn arno eu saethu, yn hjtrach na'u newynu yn raddol. Ac er yr holl ddioddef, nid cynt y rhoddodd Wiiliams i fyny nag y jderbyniodd genadwri trwy tyw ffordd ddirgelaidd, yr hon a ddy. wedai, Na ddisgwyliwch gymorth ni ddaw dim o Erzeroum." Ond yn yr amgylchiad presenol ni ddioddefai y gwarehaedig oddiwrth brinder. Yr oedd y lie wedi ei gadarnhau yn ddirfawr er rhyfel y Crimea, fel ei hadnabyddir. Yr oedd yr hen gastell yn y dref, mae'n wir, wedi ei godi mewn adeg pryd nad oedd un dychymyg am yr arfan ymosodol presenol, ond eto yr oedd yn nodedig o gadarn o'r math ag ydoedd. Ond nid oedd neniawr bwys yn cael ei osod ar yr hen gastell gan y gwarchodwyr. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, coronwd bron bob bryn o amgylch Kars a chyflegrfeydd aruthrol, o dan arol- ygiaeth Saeso, ac Ewropeaid eraill. Cysylltid y rhai byn oil &'u gilydd gan gadwyni o warchgloddiau, a chwblheid yr holl ddaipaiiaeth gan dri chant o gyt- legrau Krupp yr offeryn amddiffynol mwyaf ar- uthrol a ddyfeiaiwyd hyd yma. Nid oedd unrhyw agorfa o un cyfeiriad i'r dief nad oedd rhai o'r cyf- legrau hyn wedi eu good mewn sefyllfa gyfleus i gawodi pelenau dros ei hwyneb, ac eto mewn un nos. waith syrthiodd y lie, er yn cael ei amddiffyn gan 15,000 o filwyr proSadol, i dlwylaw 16,000 o Rwsiaid a'r hyn sydd yn gosod y fath arbenigrwydd ar y ffaith yw iddo gael ei gymeryd trwy ruthr, ae nid ei ddaros- twng trwy dan-beleniad. Cofir i'r Rwsiaid sefydlu rhyw fath o warchae ar Kars yn nechren y rhyfel presenol, ond dyryswyd hwnw yn hollol gan yr an- ffodion a'u dilynodd am dymor yn Armenia. Ar ol brwydr Aladja. Dagh, dechreuasant warchae y lie drachefn. Yn uniongyrchol bron ar ol sefydln ei hun o flaenly lie, gwysiodU y Cadfridog Melikoff Lywydd yr amddiffynfa i roddi ei ymddiriedaeth i fyny-i roddi ei hun a Kars i fyny. Edrychid ar hyn gyda