Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MASNACH YR HAIARN A'R GLO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MASNACH YR HAIARN A'R GLO. RHAID bod yn fyr yr wythnos hon, heb un math o ragymadrodd. Wrth daflu golwg dros sefyllfa fasnachol SIR FYNWY yn ystnd yr wythnos, nid oes llawer o betbau newyddion i'w hadrodd mewn cysylltiad a masnach yr haiarn. Mae gweithfeydd y sir yn parhau mewn gwaith cyson a rheolaidd, ac y mae yr ae zoddiadau o'r gwahanol sefydliadau gweithfaol jr y cyfan yn dra boddhaol. Yr oedd yr at: ioriadau yn ystod yr wythnos o Gasnewydd ychydig yn Hai, ond y mae hyn i'w briodoli i brinder llongau yn hytrach na dim arall. Nid oedd yr un cyfnewidiad yn y prisoedd, gyda'r eithriad fod rhai gwneutbur- wyr yn gofyn codiid yn yr haematites, ond nid ydym dan awdurdod i ddweyd fod codiad wedi cymeryd lie. Am y gweithfeydd alcan, nid oes dim yn wahanol i'w adrodd am danynt i'r hyn a adroddasom yr wythnos ddiweddaf. Nid yw y teimlad gwell a fodola yn rhoddi yr un I mymryn o gyffroad yn y prisoedd. Mae mas- nach y glo ager yn sefydlog, a glo at wasan- aeth tenluol wedi codi swllt y dunell yn y pris. Yn adran MERTHYR TYDFIL, dim ond rhyw ychydig o gyffro oedd i'w ganfod yn masnach yr haiarn yr wythnos ddi- weddaf; ond vtnddengys mai yn y glo yr oedd mwyaf o fusnes yn cael ei wneyd, o'r hwn y mae symiau arutbrol yn cael eu hanfon ymaith o'r Plymouth a'r Gyfarthfa. Mae y rhes newydd o coke ovens, deugain mewn nifer, yn y Gyfartbfa, yn awr wedi eu gorphen, gyda'r eitbriad o ychwanegiad at y gwaith haiarn. Mae hyn yn warantiad adnewyddol fod Gweith- feydd y Gyfartbfa yn dechreu ar yrfa newydd. Tua Dowlais, nid oes yr un newydd i'w adrodd. Gweithio cyson yn cymeryd lie, fel y mae tamaid yn cael ei gadw yn safn y gweithiwr. Nid oes ond yr anobaith fwyaf gaddugawl yn gordoi Gweithfeydd Haiaro y Plymouth, Abernant, Hwydcoed, Gadlys, ac Aberaman. Nid ydynt yn amgen na phethau a fu, ac nid ydynt. Yn adran ABERTAWE, mae y bywiogrwydd sydyn a gyfododd ycbydig fisoedd yn ol yn y staple trades wedi marw yn mron yn bollol. Y mae er hyny gryn lawer o waith yn cael ei wneuthur, ond fod y prisoedd yn fwy acsefydlog. Allforiwyd, yr wyth IOS ddiweddaf, 9,921 o dunelli o lo, 3,120 o dunelli o batent fuel a golosglo, a 237 o dunelli o gopr. Mordroswyd i mewn 1,135 o dunelli o fwn haiarn o Bilboa, 800 o dunelli o ftfn copr o Betts' v ovey, a 1,037 o dunelli o'r unrhyw o leoedd ereill, 1,151 0 dunelli o goed ffawydd o Quebec, a 1,000 o dunelli o goed pyllau glo o Ffrainc. Mae prinder llongau yn y porthladd hwn yn gosod gwell arwydd am y cyflogau iddynt. Gyda ni yma, yn UGHAERDYDD, mae masnach yn bywiocau. Allforiwyd, yr wythnos ddiweddaf, yn ol cyfrif y Cyllid-dy, 104,842 o dunelli o lo, 5,000 o dunelli o haiarn a dur, 3,540 o dunelli o batent fuel, a 2,021 o dunelli o olosglo. Mordroswyd i mewn 8,788 o dunelli o ftfn baiarn o'r Yspaen, a 497 o leoedd ereill. Mae y gweithfeydd glo yn gweithio yn fywiog a rheolaidd drwy yr adran eangfawr bon, ond nid oes eyfnewidiad yn y prisoedd a dderbynir am y nwydd du. Mae y cais am lo ager yn adfywio o wythnos i wyth- nos. Llyfrau y marsiandwyr yn dra llawnion o archebion, ac ychydig yw yr achwyniadau yn y pyllau glo fod y gwaith yn llac. Parhad o hyn yn ddiau a wna gyffroi y prisoedd. Mae y gweithfeydd alcan, haiarn, a dur, fel arfer, yn gweithio yn gyson. Ar y Gyf- newidfa yn MIDDLESBRO, dydd Mawrth, yr oedd y cynulliad yn Iluosog, a'r lleihad yn mhrisoedd yr haiarn bwrw yr wytbnos flaenorol wedi ei enill yn ol. Rhif 3 o haiarn bwrw yn gwerthu am o Ip. 19s. 6c. i 2p. y dunell. Prisoedd platiau yma, yn ogystal a lleoedd ereill, yn 6p. 15s. y dunell. Haiarn-onglau yn 5p. 17s. y dunell; bariau haiarn, ac archebion da, am 5p. 12s. 6c. y dunell. Yn masnach y glo yn LLUNDAIN, mae adfywiad yn y prisoedd yn cymeryd lie. Ceid yno, yr wythnos ddiweddaf, o 15s. i 18s, y dunell am dano, yn ol ei ansawdd, ac, yn wir, 19s. y dunell am y goreu. Arwyddion adfywiol sydd yn awr ar holl weithfeydd haiarn, glo, ac alcan y deyrnas. Yn y FORFST OF DEAN, mae y puddlers a'r melinwyr a weithiant yn forges Cinderford wedi derbyn five per cent o ostyngiad yn eu cyflogau. GOHEBYDD MASNACHOL. Caerdydd, Tach. 9fed, 1880.

[No title]

Hanes Llenyddiaeth yn Merthyr:

Mr. Ap Dick, alias "Candid…

Adolygiad Barddonol.