Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
B&TED$FOD TfifiHERBERT NADOLIG,…
B&TED$FOD TfifiHERBERT NADOLIG, 1874. BbC8NIADA £ TH AB YCYPAJ*6QD0IADA¥ SAIl DAFYDD MOR€L^Stra. GCCYWYM (It CflNJLDWJl." WELE gywydd "Gweddiwr Drooo." f Y CENADWR. V O'i hoff wlad. i Cenhadwr Yr lesu da dros y dwr, At dduon blant y ddaiar, I dir gwyllt heb frodor gwar. Un car nid oes i'w roesaw Ag ael lion—i eiglo llaw, A siriol ag ef siarad Weithiau i'w les, iaith ei wlad, Yn myeg duon estroniaid, Na'r un i weini i'w raid. Adtlolwyr y mud ddelwau Yw praidd hwn, ond heb briddhau, Yn y man annymunol, Rhwng duwiau, a ffurfiau ffol, Dengys, drwy nodau, angen Dyn brau am well Duw na'i bren Yn nawdd—i'w ogoneddu A mawl gan yn ei deml gu. Dengys a'i fys ei feusydd, Yna y ser uwch ben sydd, Yr haul a'r lloer eilwaith, A'r mor eangfawr a maith; Yna fe geisia yn gall Ro'i Duw ar lwybr eu deall, Fel eu Tad nefol a'u Twr, A'u hanwylaf Gynaliwr. Yn raddol drwy ymroddiad Hir a glew, dysg eiriau'u gwlad; Ac yng Ngair Ne' cynghora Hwy yn ddwys parth y drefn dda I'w hachub rhag cosp pechod, A'r farn sy'n eglur i fod. Manwl y d'wed am einioes Crist i gyd o'i gryd i'r groes Ei arw gur, ei fawr gariad, A'r modd y talodd i'r tad Hael lawn, nes llwyr foddloni, A'i swm, y nef drosom ni; Trwy y Gwr fod trugaredd, A'i llais o hyd yn llys hedd! Fel hyn y mad Genhadwr Drwy air Duw, tu draw i'r dwr, A gyfyd fawl o gafell Annyddan y pagan pell; Yn gynhes hwy gydganant, Ac yn eu plith can y plant, Hen donau hynod anwyl, Yn eu hiaith eu bun mewn hwyl; Eu duwiau gau adawant- Eu taflu o'r neilldu wnant; Nid Ilu'r nef," a'r hen grefydd, Mwy, ond son mai Un JPttw syda.' y Gwr a'i einioes bob gronyn 0 dan y gwaith yw'r dyn gwyn I'w Arglwydd mewn peryglon, Ar ei daith a ddyry don; Ac o thaw mewn caethiwed A loes, yn y Groes mae'i gred; Try bob peth i bregethu Daioni ei Dad i'r dyn du. GWEDDIWR DROSTO.
UAEN ADRODDIADOL.
UAEN ADRODDIADOL. Anfonwyd 30 o ddarnau yn brydlon i gystadlu ar y testyn hwn, a daeth amryw i law ar ol y cyntaf o Ragfyr. Buasai yn ddymunol genyf sylwi yn fanwl ar bob un o honynt, ond palla amser ganiatau hyny. Y mddengys fod y rhan fwyaf o'r darnau hyn wedi bod yn cystadlu yn flaenorol, ond nid oedd eu hanfoniad yma yn un trosedd, gan fod y testyn yn agored. Mae yn mhlith y rhai hyn luaws o ddarnau eithaf cymhwys i'w hadrodd mewn cyfarfodydd adlonol: tra y mae yma rai lied gyffredin. Cofied y cystadleuwyr ar y testyn hwn nad yw eu safle o ran trefn yn y sylwadau canlynol yn un dangoseg o deilyngdod cyferbyniol y darnau; ond y maent yn sefyll yn y rhes yn ol fel y cawsant eu darllen genyf: "Heddychlon." Testyn hwn yw Rhyfel. Nid wyf yn hoffi rhyfel un amser; ond teg yw dweyd fod « Rhyfel" hwn yn lied ddiniwed. "Parthsyllydd." Y Ferch Bryd- weddol. Mae eiddo hwn yn lied gyfaddas i'r gwrthddrych. Awdurwr o Aberdaron. "YRhew." Mae hwn yn lied dda o ran bod yn ddesgrifiadol. Christmas. Mae'r Iesu'n eiriol ar fy rhan." Penillion tyner, pert, a da. Calon Drist. "Teimlad yr Am- ddifad uwch bedd ei lieni." Lied dda fel cyfansoddiad, ond y mae'r awdwr wedi gosod dwy linell yn un trwy'r cyfansoddiad, er mwyn ei gael yn 30 llinell. Mesur 8 a 7 sydd ganddo, ond yn lie hyny y mae pob Ilinell yn 15 sill ganddo. Nid yw hyn yn iawn. Dylasai y darn hwn fod yn 60 llinell vn ol y mesur. -0 Demetrius. "Y Meddwl." Arfer- iad gwallus yw dweyd Nag fax, &c. Cofied yr awdwr mai menyw yw oenig, ac felly nid priodol dweyd oenig bach, ond oenig fach, ac oen bach. Er y cwbl darn da yw hwn. "Y Bardd yn ei Aweix" Y Gyd- wybod." Mae hwn yn lied anystwyth yn ami; a chofied yr awdwr mai nid gwaedd naturiol cydwybod dda yw, "aladdoaleddir." A "A yw y gan werth haner gair." "Temlyddiaeth Dda." Ydyw, ac yn fwy o werth na'r un darn yn y gys- tadleuaeth o lawer, ond eto nid yw yr awdwr i gael y wobr am fod ei gan yn 60 llinell yn lie 30, yn ol.amodau y gystadleuaeth. Nid am ei fod yn ddarn dirwestol, a'm bod inau yn hen ddirweatwr y canmolaf hwn, ond o herwydd ei deilyngdod fel cyfansodd- iad addas a pbriodol i'w adrodd. Gallai hwn wneud daioni mawr pe argreffid ef ar ffurf tract bychan, a'i wasgaru wrth y miloedd trwy holl barthau Deheudir Cymru; a pliob man arall lie y mae glowyr Cymreig. "Lladmerydd." Ymson y falu i'w phlentyn." Mae'r llinellan hyn yn ddestlus a chwaethus ddigon; ond y mae'r penawd yn hollol anmhriodol. Ymddengys nad yw yr awdwr yn deall ystyr y gair ymson, onide ni fuasai yn ei ddefnyddio yn y fan yma. Ymson yw bod un yn ymddyddan ag ef ei hun. "Llais o wlad y cystudd mawr." "Yr amddifad wrth fedd ei rhieni." Gwell geiriad i hwn fuasai "Yr eneth am- ddifad wrth fedd ei rhini." Mae yn ddarn da ddigon, ond ei fod fel Calon Drist, wedi gosod y llinellau yn 15 sill, yn lie 8 a 7, a hyny er mwyn gwneud 60 llinell yn 30. "Neifion." "Y llanc bach a'r Beibl." Llinellau wedi eu seilio ar hanesyn yn Nhrysorfa y Plant; ac y mae yn ddarn lied dda hefyd. "Syn Fyfyriol." Y Groes." Darn melus a phriodol ddigon. "Livingstone." 0 dywed y gwir." Dyma ddarn da iawn, dim ond caboli ychydig arno, ac y mae yn hawdd gwneud hyny. Yr wyf yn sicr fod elfenau myn'd yn hon. +
MEISTRI A GWEITHWYR. I
MEISTRI A GWEITHWYR. Mae pob dyn ystyriol yn barod i addef ar unwaith mai dau ddosbarth pwysig mewn cymdeithas yw meistri a gweith- wyr, ac un o gwestiynau pwysicaf yr oes yw penderfynu natur perthynas a hawliau y ddau ddosbarth yma. Mae gan y ddau hawlian arbenig, ac y mae eiddo y nail mor gysegredig a'r llall. Nid jn iawnderau y gweithiwr i gael eu sathru am mai cyffredin yw ei sef- yUfa, na hawliau y meistr i gael eu gwadu am ei fod yn wr o urddas a chyfoeth. Nis gall y ddau ddosbarth yma fod yn bollol annibynol ar eu gilydd. Mae cyfalaf y meisiryn fantais i'r gweithiwr, a llafur y gweithiwr yn cyfoethogi y meistr. Un o brif ddi- fiygion yr oes, os nad y prif, yw nad ydyw y meistr a'r gweitbiwr yn teimlo y dyddordeb dyladwy yn lleshad a llwyddiant eu gilydd. Dylai yr ym- ddiried Uwyraf ffynu rhyngddynt. Mae yr effeithiau sydd yn canlyn anghyd- welediad rhyngddynt yn cael eu teimlo mor ddwys gan gymdeithas yn gyff- redinol, fel y mae yn hen bryd cael rhyw gynllun er gosod y meistri a'r gweithwyr ar delerau mwy cyfeillgar a heddychol a'u gilydd. Mae y meistri yn ofni y gweithwyr, a'r gweithwyr yn drwgdybio y meistri. Prifdestyn yr anghydfod drwy y blynyddoedd yw y gyflog. Mae y meistr y dyddiau hyn yn barnu oddiwrth sefyllfa masnach nod yw yn bosibl iddo ddal ei ffordd heb ostwng y cyflogau. Mae y gweith- wyr dracheln yn edrych ar yr un mater, ond odd;ar safle hollol wahanol, ac yn dyfod i'r un penderfyniad na ddylid gwneud un cyfnewidiad. Dylai y meistri gael y gwasanaeth a'r parch dyledus iddo a theilwng yw i'r gweith- iwr gael cydnabyddiaeth ddigonol am ei lafur. Ond ai fel byn y mae yn dygwydd yn gyffredin o'n hamgylch ? Mynych y gweithreda y meistr cyf- oethog fel pe byddai wedi llwyr anghofio hawliau y gweithiwr, a pha ryfedd o dan amgylchiadau felly fod y gweith- iwr yntau yn edrych i fyny at ei gy- mydog goludog gyda theimlad o an- ymddiried, os nado ddygasedd chwerw. Ychydig iawn ydyw nifer y meistri hyny a ddygant gweistiwn cyflogau y gweithwyr i gael ei benderfynu yn deg yn Ilys y gydwybod. Gresyn fod cy- nifer o feistri ein gwlad yn ddynion mor ddigydwybod. Y maent yn barod i fyned i unrhyw eithafedd os gallant hwy wneuthur cyfoeth. Dyma amcan mawr eu bywyd,. ac nid yw enw da, egwyddor, pwyeigrwydd, cymeriad, na thynerwch teimlad i gael pwyso dim yn y gldrian. Gwneud cyfoeth yw eu pwnç. Mae pob rheswm yn oymhell y gweithwyr i ymiSurfio yn gymdeithasau er cadw gwanc tyrant felly o fewn terfynau. Mae sefyllfa pethau yn ein gwlad y dyddiau yma yn gwneuthur hyn yn wir angenrheidiol. Bu adeg pan nad oedd gweithwyr yn gafalu dim am eu hawliau. 0'1' braidd y credent fod y fath bethau a bawliau yn perthyn iddynt, ond erbyn heddywy mae pethau wedi newid. Mae gweithwyr yn gwyl- ied eu hawliau y blynyddoedd diweddaf gyda mwy o fanylrwydd nag erioed. Un rheswm am hyny ydyw fod eu haddysgiaeth yn fwy eang, eu coethder yn fwy sylweddol, eu dyrchafiad mewn rhinwedd yn fwy trylwyr nag a welwyd yn un oes o'r blaen. Pa uchelaf y byddo dyn yn dringo mewn moes a dysg, y mae yn myned yn fwy eiddig- eddus dros eu hawliai. Ond tra yn cymeradwyo eu sel dros eu hawliau, credwn eu bod yn fynych yn gamsyniol yn y llwybr a ddewisant i'w hamddi- ffyn. Ychydig mwy o arafwch a phwyll a arbeda lawer iawn o galedi mewn amgylchiadau a chwerwder ysbryd. Peth anhyfryd ynddo ei hun yw angbydfod, ac y mae yn fynych iawn yn arwain i ganlyniadau anny- munol, ac nid y lleiaf felly ydyw anghydfod rhwng meistri a gweithwyr. Dyoddefir tlodi a theimlir ingoedd rhy ddwfn i'w darlunio gan ganoedd o deuluoedd. Gwawried y gyfnod dded- wydd hono ar ein gwlad pan y bydd perffaith ddealldwriaeth rh wng meistri a gweithwyr. Pan fydd y meistri yn arddangos mwy o baelfrydedd a chyd- ymdeimlad tuag at eu gweithwyr, yn ymdroi mwy yn eu mysg, yn sylwi mwy ar eu cyfyngderau, ac yn ym- drechu i wella eu sefyllfa. Deued y meistr cyfoethog yn gyfaill ac yn gy- mwynaswr i'r gweithiwr, ac ymdreched wneuthur ei anedd yn fangre heddwcb, ac yn drigle bapusrwydd a llawnder. Byddai gwaith meistriaid ein gwlad yn arddangos y cyfryw ysbryd yn foddion i newid gwedd cymdeithas, a dwyn ar y byd gyfnod dysgleiriach na'r un a gofnodir gan hanesiaeth byd yn hyn. Gellid rhifo y strikes a'u cymdeithion annedwydd yn mhlith y pethau a fu.
1' CYNYDD MEDDYLIOL YR OES.
1 CYNYDD MEDDYLIOL YR OES. GAN NATHAN WYN, YSGRIF V. GAN nad ydym yn meddu adnabydd- iaeth o Lenyddiaeth gyffredinol yr oes- au, nid ydym heb deimlo ein bod yn sangu ar dir cysegredig tra yn dat- gan ein barn ar amrywiol ganghenau llenyddiaeth yr oes hon.
BARDDONIAETH.
BARDDONIAETH. A gadael o'r neilldu feirdd y Beibl, a'r beirdd Groegaidd a Lladinaidd— gyda phob dyledus barch 1'r Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd Cymreig, a beirdd Seisnig, Cymreig, ac Americanaidd yr oes ddiweddaf. Yr ydym yn wylaidd a gostyngedig gredu fod nifer luosog iawn o wir feib yr awen i'w cael yn yr oes bresenol. Pell ydym o dybied fod beirdd yr "oes oleu hon" yn rhagori yn mhob ystyr ar feirdd yr oesau gynt. Yn fwy dysglaer eu talentau. yn fwy cyfoethog o grebwvll ac awen, ac yn fwy pur a choethedig euchwaeth. Eto y maent yn llawer lluosocach eu nifer: rhyw ambell un yma ac acw ganfyddid gynt, fel ymddangosiad comed yn awr ac eilwaith, un mewn rhyw oes arbenig, ac mewn rhyw wlad neillduol. Yr oeddynt ynfew and far between. Ond yn yr oes bresenol y maent yn dra lluosog eu nifer; ceir engrheifft- iau lawer o hyn yn nghwahanol wled- ydd y Cyfandir, yn America, ac yn neillduol yn Ynys Prydain. Fel y mae yn Nghymru lan, gwlad y gan," luaws mawr o feib yr awen wir, y rhai a fedrant roi meddwl a grym iddi yn mhob llinell, ac yn gallu cerdded yn rhydd a dilyfethair hyd yn nod yn y caethaf o'r caethfesnrau, a hyny heb deimlo yr anhawsder lleiaf oddiwrth gywreinrwydd y gyngh anedd.
ATHRONIAETH.
ATHRONIAETH. Gyda phob dyledus barch i'r hen ath- ronwyr enwog fu yn synu y byd a'u hyawdledd, credwn fod yma flodau prydferth i'w cael yn ngwyfddion faes- ydd Athroniaeth, y rhai ydynt wedi bod dan leni o dywyllwch oesol, nes i rai o feddyliau galluocaf yr oes hon eu dadleni i olwg y byd, a danges eu prydferthwch a'u rhagoriaethau. Y mae lluaws o'r meddyliau mwyaf ath- ronyddol yn yr oes hon wedi gwneud iddynt eu hunain enwau anfarwol, ac yn debyg o dderbyn anrhydedd a bri oesol oddiwrth y syniadau dwfn- dreiddiol a chyrhaeddbell a draethwyd ganddynt,
DUWINYDDIABTH.
DUWINYDDIABTH. Pa fwyaf o wybodaeth dduwinyddol a gyrhaeddwn, mwyaf i gyd fydd ein hawydd a'n syched am dani, a chryfaf oil fydd ein galluoedd i'w derbyn a'i mwynhau. Y mae hyn yn wirionedd gyda golwg at bob gwybodaeth, ond yn fwy neillduol felly yn ei berthynas a gwybodaeth ysgrythyrol; mae hon yn abl i oleuo y meddwl, a gwneud y galon yn ddoeth i iachawdwriaeth. Dicbon ar yr un pryd nad ydyw cynydd meddyliol yr oes yn cyfateb yn bollol i fanteision a rhagorfreintiau yr oes yn ei gysylltiad a duwinyddiaeth. Ond er nad ydyw y cynydd mor fawr ac amlwg ac y gallesid yn naturiol disgwyl iddo fod, diameu yr addefa pawb fod yma gynydd graddol wedi ei wneud yn y cyfeiriad hwn yn ystod yr oes bresenol. Y mae y meddwl dynol yn ystod yr oes hon yn tywynu gyda y fath ddys- gleirdeb tanbaid yn ffurfafen loew llen- yddiaeth yn gyffredinol, nes dadblygu i olwg y byd ysbrydolrwydd dwyfol ei haniad. Fel hyn y mae y meddwl o hyd yn amlygu ei nerth a'i addfedrwydd i ddy- fod allan o'r plisgyn clai, i ehedeg yn rhydd yn awyrgylch glir anfarwoldeb, yr hyn sydd brawf eglur a diymwad nad oes derfyn ar y gorchestion a ellir gyflawni trwyddo ond ei gadw mewn cyfeiriad priodol. Ond er yr holl orchestion a gyflawnodd, y mae ei awyddfryd angherddol am ymsymud yn mlaen at berffeithrwydd yn cynyddu yn ddidor. Cynyddu a myned yn mlaen o nerth i nerth, ac o berffeithrwydd i berffeithrwydd y bydd y meddwl yn ddiddiwedd yn y byd a ddaw; gan ychwanegu gwybodaeth at wybodaetb, a rhinwedd at rinwedd, gan ymdebyg- oli fwy-fwy iddo ef yr hwn yw safon fawr pob perffeithrwydd a dedwydd- wch yn dragywydd.
YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.
YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG. UN o brif destynau ymddyddan ac ys- grifenu y deyrnas yn y dyddiau hyn yw y "cauad allan;" ac fel mae trymaf y trueni, dyma sydd yn awr yn gwasgu fel hnnllef dirboenus ar anadlfrhyw chnech ngain mil o weithwyr gwrol ac anturiaethus, heblaw gwragedd a phlant. 0! adeg warthruddus, ysgethrin, ac anaele. Bu llawer aceldama waedlyd yn Nghymru cyn hyn, Qnd dichon na fu cythrwfl mwy sarhaus a bydredicach erioed na'r ymgyrch presenol rhwng cyfalaf a llafur. Modd bynag, y mae hi wedi dyfod yn amser calonrwygol ar fasnach ein gwlad am ryw ysbaid o amser yn ddiau. Ac yn gymaint a bod y meistri yn gwrthod dangos trwy brof- ion diymwad fod y gostyngiad-yn deil- wng yn ngwyneb sefyllfa y farchnad, ac hefyd yn nachau rhoddi y mater i gyf- lafareddwyr, y mae pob dyn o farn gywir ac addfed yn rhwym o gyfaddef fod eu penderfyniad yn mhell o fod yn un rhesymol a theg. Nid oes amheu-. aeth yn fy meddwl na allesid ysgoi y trybini hwn ar ein gwlad pe buasid wedi bod mor ddynol ag arfer ychydig synwyr cyffredin. Clywsom ddywedyd mai nid am fod y gostyngiad yn deilwng gymaint yr oedd y meistri yn cauad y gweithwyr allan, ond am eu bod dan ddylanwad y cyflogau uchel wedi myned mor anfoesol, anufydd, ac aflywodr- aethus, fel nad oedd modd yn y byd gael trefn arnynt. Cyhuddiad brwnt ydyw hwn, a buasai yn dda genym pe buasai modd ei wadu yn llwyr ond er gwaethaf y.modd, y mae yn wirionedd diamhetiol fod llaweroedd o weithwyr yn euog o wario eu cyflogau mewn oferedd a ffolineb, ac o dan ddylanwad meddwdod yn cyflawni pethau hollol annheilwng ofodau gwareiddiedig, pany buasai yn fil gwell er eu lies i edrych atynt eu hunain, a pharotoi gyferbyn a'r dydd drwg, fel y gallasent sefyll ac enill buddugoliaeth anrhydeddus; ond yn He hyny y maent yn hollol anmharod i sefyll y fath ymosodiad, ac y mae yn hawdd gweled fod eu gwendid anghyd- marol hwy yn gryfder anorchfygol i'r meistri. Ond eto, nid yw fod y meistri yn dal ar anfanteision y gweithwyr yn cyfiawnfoau eu hymddygiad yn y mesur lleiaf; oblegyd nid yn unig y mae hyn yn anhegwch, eithr y mae yn ormes o'r fath ffieiddiaf. Er bydrediced oedd ymddygiad rhai o'r cymeriadau iselaf perthynol i'r dosharth gweithgar yn amser yr "arian mawr," eto y mae gwaith y meistri o ddial eu Ilid ar yr oil, y da a'r drwg,' ac ymddwyn tuag ai y goreu a^r gwaethaf yn ol egwydoor melldigedig "Y cyfra* treised a'r gwana.- i' gwaedded" yn sicr o fod yn waith peryglus gyda golwg ar demtio gwerin- dyrfaoedd i afreoleiddiad anwarantadwy. Gorchwyl bawdd ddigon oedd cy- hoeddi loch-out; ond fel cyneuad tan, neu doriad dyfrddor, gall y canlyniadan niweidiol fod yn fil helaethach na'r achos o hono. Gwaith ofiiadwy beryglus ydyw cyffroi y bobl i roddi ffordd i'w nwydau, ac y mae cyfrifoldeb anrhaethol fawr yn gorphwys ar y cyfryw a wnant hyny. Bu adeg pan yr oeddys yu medru trin y dosbarth gweithgar fel pe na buasent yn ddim amgen nag anifeiliaid direswm; ond y mae yr amser hwnw wedi myned heibio bellach, ac nis gellir mwy ddwyn pethau mawrion yn mlaen heb ym- gynghori a'r bobl. Ac os na wel- odd y meistri yn dda i gydnabod hawliau eu gweithwyr gyda golwg ar eu cyflogau, sicr yw y deuant, hwyr nen hwyrach, i orfod cydnabod fod yr amser wedi dyfod pan y mae yn rhaid eu trin fel bodau dynol yn meddu rheswm, teimlad, a hawliau fel eu huwchafiaid. Digon tebyg fod hyn yn beth gwrthun yn ngolwg gormeswyr chwyddedig ein gwlad; ond gwrthun neu beidio, fel hyn y mae, ac fel hyn y bydd yn rhaid iddi fod o hyn allan. Tuag at gael trefn ar bethau mwy, bydd yn rhaid i bob gradd a sefyllfa o ddynion wrando ar lais cyfiawnder, tegwcJi, a gwirionedd. Y mae gan y meistri a'r gweithwyr eu hawliau neillduol, ac ni ddylai y naill ochr ddysgwyl cael mwy o chwareuteg na'r ochr arall. Y mae hyn yn eglur i bawb. Y mae y meistri yn anturio eu cyfoeth, ac y mae y gweithwyr yn an- turio eu bywydau. Ar un Haw, y mae pryderon y meistri yn fawr; ac ar y Haw arall, y mae peryglon y gweithwyr yn fawr. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng cyfoeth yn cymeryd ei adenydd a glowr yn cyfarfod a'i ddiwedd yn y gwaith o ganlyniad, nid i'r ochr ymae y manteision a'r cydymdeimlad i redeg. Y mae yn rhywle fan canol yn bod, lie y cyferfydd hawliau teg y naill ochr a'r llall. Ond, fel mae gwaethaf y trueni, y -ffaith yw hyn, tra y mae un dosbarth yn ynalrechu i gael gafael yn y ffin sydd yn rhanu rhwng eiddo cyfiawu y meistri ag eiddo cyfiawn y gweithwyr, y mae y dosbarth gwrthwynebol yn dyfeisio pob cynllun er ei gadw mewn tywyllwch. Bygythiant, dirmygant, a gwnant bob peth braidd er enill y dydd. Anrhefuus, llwfr, a gwangalon yw y gweithwyr wedi arfer bod, a hyny o herwydd prinder angenrheidiau bywyd, ac felly fynychaf yn gorfod cymeryd yn y diwedd yr hyn a wrthodent ar y dechreu. Os ydynt yn arfaethu gwneud yn wahanol y tro hwn, bydd yn ofynol iddynt sefyll yn sythion ar eu traed, ymarfogi i bwrpas, meddu gwroldeb cadarned a chreigiau callestr, gwneud pob aberth, a phenderfynu enill y frwydr neu farw ary maes. Ond Ow! a ydyw sefyllfa y gweithwyr y fath fel y gallant wneuthur felly, a hyny gyda gradd helaeth o ddoethineb ? Y mae pawb yn gollwng eu penau, ac nid oes atebiad. Wel, da chwi, weithwyr diwyd a ffydd- .lawn, mabwysiadwch ryw gynllun yn uniongyrchol er cael allan meddyliau pendant eich gilydd, gan gofio mai gwell o bob drwg yw dewis y lleiaf. Eos WYN. f
POBLOGAETH TREFEDIGAETH.AU…
POBLOGAETH TREFEDIGAETH- AU PRYDAIN. Oddiwrth adroddiad swyddogol sydd newydd ei gyhoeddi ceir mai poblogaeth India Brydeinig ydyw 196,663,623 Ceylon, Straits Settlements, a Lubuan, 2,718,282 Gogledd America Pryd- einig, 3,748,897 Awstralia, gyda New Zealand, 1,978,282; yr Indias Gorllewinol, Honduras, a Guiana Pryd- einig, 1,280,268; Penrhyn-Gobaith-Da, a Natal, 855,931 Trefedigaethau Gorllewinol Affrica, sef Gold Coast, Sierra Leone, Gambia, a Lagos, 539, 654 Mauritius, 318,584 Hong Kong, 124,198 St. Helena, 6,241; Bermuda, 12,121 Ynysoedd Falkland, 811 Malta a Gibralter, 141,918, a 16,454. Y cyfanswm ydyw, 202,405,690.
Advertising
"PE goddafid i fenywod fyned i bar- adwys," meddai meddyg y dydd o'r blaen wrth foneddiges afiach, "gwnelid y lie mai purdan." Ac yn mhellach," ebai hithau, "pe goddefid i raimedd- ygon fyned yno, buan y gwnelent y lie yn anmhoblogaidd."