Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
RHYBUDD O'R SVMUDIAD. DYMUNA RICHARD JONES, DILLEDYDD, 36, CARDIFF STREET, ABERDARE, Hysbysu ei gwsmeriaid a'r cyhoedd ei fod yn awr wedi symud o'r cyfeiriad uchod i 48, CARDIFF STREET, A thra yn diolch am y gefnogeeth haelfrydig y mae-wedi ei dderbyn am y blynyddoedd a/aethant heibio, taer obeithio am barhad o'r unrhyw am y dyfodol. G-werthir ganddo ddillad parod i wrywod a bechgyn mor rhated a chan unrhyw un yn Aberdar. ArchebiQn am ddillad o bob math a gant ei sylw buanaf. Cedwir stock dda o frethynau a defnyddiau ereill ar law bob amser. ANOTHER GREAT CLEARING SALE OF WINTER GOODS AT WILLIAMS'S, Compton House, Aber- dare, to commence FRIDAY, Jan. 22, 1875. The repute of our ANNUAL SALES is so well known to our customers, that they re- quire no exaggeration or high colouriug, which is so common in the Trade on such occasions, but may state that I make it a practice to reduce all goods in most departments down to Cost, and even under in many cases, so as to effect room for coming Seasons' Goods. In addition to my regular STOCK, I have just returned from the Manchester Markets, where I made very extensive Purchases at less than half the Original cost, the benefit of which will be given to"the public. The following are a few of the many lines which will be offered 2736 Yards Super Wincey, 4fd., worth 7!d. 2713 Yards Super Wincey, 6§d. worthed. 5639 Tarda Super Wincey, 8Jd.. worth 12?d. 2741 Fards Super Wincey, 9§d., worth 14zd. Special Purchase. 15 doz. Gents Silk Windsor Scarfs, 61d. and 8id. worth Is. lid. to 2s. 6d, 2 I anticipate that this lot will be cleared out in less than half an hour after opening.) doz. Ladies Black Quilted Skirts-slightly spotted, 49. lid., worth 12s. 6d. doz. Fancy ditto, 2s. lid. and 3s. lid., worth 6s. lid. to 12s. 6d. doz. Ladies Seal Jackets trimmed Otter, 2s. lid., worth 6s. lid. In addition to the above, there will be some ssperately cheap lines in Fancy Dress Materials, r ntles, Water-proof Cloaks, Ladies and Chil- iu's Jackets, Shawls, White and Coloured c- nterpanes, Blankets,, Bleached and Unbleach- Cotton Sheets and Sheetings, also a large Stock i White and Fancy Flannels very cheap. Special.-The remainder of our Stock of Muffs -d other Fur Goods will be cleared out regard- 4 of cost. 2ome early so as not to be disappointed. D. WILLIAMS, Commercial place. Aberdare, ISTEDDFOD 1FORAIDD D ABERDAR. AN mai yn Aberdar y cynelir Cynadledd JT Flvnvddol yr Undeb Iforaidd am y flwydd- nesaff bydd i EISTEDDFOD FAWREDD- ygael ei chynal gan Iforiaid y Dosparth y id blaenorol i'r Gynadledd, sef y LLUN cyntaf GORPHENAF. Prif Destynau. 1'r Cor, heb fod dan 150 o rif, a gano yn u "Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw lei," gan J. Thomas, Blaenanerch. Gwobr ) yn nghyda baton ardderchog i'r arweinydd. 1'r Cor o'r un gynulleidfa, na enillodd dros I, a gano yn oreu "Y Gwlithyn," gan fAlaw 1. Gwobr £20.. I Gor o Blant, heb fod dan 40 mewn rhif, na is 15 oed, a gano yn oreu "Nis rhoddwn i y'r Beibl," gan Gwilym Gwent. Gwobr £6 )reu, £ 3. (Caniateir i wyth mewn oed i 'gy- !hfr°Pftrtl o 20 a gano yn oreu Y Gwan- i," gan Gwilym Gwent. Gwobr £ 5. Am y Traethawd goreu ar Safie y Gweith- yn y Cyfansoddiad Prydeinig." Gwobr 10s. Am y Chwareugerdd oreu ar "Amgylch- u yrnweliad Owen Glyndwr & Syr Lawrance ferolles," gwel y Gwyddoniadur Cymreig. )br ZIO 10s. Am y Duchangerdd oreu "I'r Siaradwyr fsorifenwyr hynv sydd mor hoff o orfeicbio y ke, iraeg a geiriau Saesonaeg" -dim dros wyth 11. Gwobr zC2. Testynau Ychwanegol. 1'r Seindorf a chwareuo yn oreu (y testyn iwi yr wythnos nesaf.) Gwobr L7 7s. Am y Traethawd goreu ar "Ddyledswydd ) i ymuno a'r Cymdeithasau Dyngarol, yn 'da'r lies deilliedig oddiwrthynt," £5. BEIRNIAID: :anu.—J. PARRY, Ysw., Aber- vyth; J. THOMAS, Ysw., Blaen- anerch. Craethodaul a'r Farddoniaeth,— CYNDDELW. ELIR CYNGJIERDD AEDDERCBOG YN YR H fVYR. fanylion'pellach, gwel y programme, yr hwn r ei gael am geiniog (trwy y post, l2c., r Yegrifenydd,— D. R. LEWIS, 33, Wind-street, Aberdare. NEW INN, MERTHYR TYDFIL. ( Closee to the Vale of Neath. Sttltion.) THE above Inn is replete with every accommodation. Burton, Bitter, and Mild Ales; Wines and Spirits of the best quality. Well-aired Beds and Good Stabling. T. JONS, Proprietor. lliVo2- o gan yw Cymru gyd." CROSS INN, R.S.O, SOUTH WALES. BYDDED hysbys y cynelir Eisteddfod Gerdd- orol Fawreddog yn y lie ucbod ar ddydd GWENER Y GBOGLITH nesaf, pan y bydd uwchlaw JE60 o wobrwyon yn cael eu rhoddi i'r buddug- wyr. Bydd y programmesvn barod yn fuan. I'r Cor, heb fod dan 101to rif, a gano yn oreu "Y Danchwa," gan Alaw Ddu; gwobr, £20, a harmonium i'r Arweinydd. Cadeirydd y Pwyllgor: JOHN LLOYD, Yaw., Trysorydd Mr. D. DA VIES, Compton House. MORGAN MORRIS, ) EVAN HUGHES, J *8gn' STOCK FJLAIVING SALE. GREAT BARGAINS IN DRAPERY Commencing MONDAY, Jan 18, 1875 H. LEWIS, 11, Commercial Place, ABEBDARE. AT Y DOSBARTHWYR. Dymunem gydnabod yn gyhoeddus ffyddlondeb ein gwahanol ddosbarthwyr mewn cysylltiad a lledaeniad y DARIAN. Yn ystod y mis a aeth heibio, derbyn- iasom amryw genadwriaethaa gwefr. yddol, yn gofyn am ychwaneg o honi. Dan le yn unig yr ydym wedi clywed achwyniad nad oes digon yn cael eu cadw, ac nid oes genym ddim i'w wnend yn y lleoedd hyny, os na chedwir digon i'r gofyn sydd am dani, ond penodi dosbarthwr arall yn y cyfryw leoedd. AT EIN GOHEBWYR. Y mae yr ysgrifan sydd ar law yr wythnos hon y lleng, y rhan fwyaf o ba rai a gant ymddangos yn ein nesaf, ac yn euplith eiddo Gomer Bach, Gwiliwr, Seneddwr, Hu Gadarn, William Jones, Etholwr, Eryr, Ni ddaeth y diwedd eto, &c. Pob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, "Tariall y Gweithiwr" Office, Aberdare. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r DARIAN i'w cyfeirio :H Editor of TARIAN Y GWEITHIWR, Aberdare."
AGORIAD Y SENEDD.
AGORIAD Y SENEDD. AGORWYD Senedd Prydain Fawr ddydd Gwener diweddaf. Ni theimlodd ei Mawrhydi y FRENINES ei fod yn cyd- weddu a'i thrallod teuluol—oblegyd afiechyd peryglus un o'i meibion ychy- dig wythnosau yn ol-i agor y Senedd. Da genym ddeall fod y cwmwl du o berygl bywyd ei mab, o dan gystudd trwm, wedi cael ei ysgubo ymaith a bod awyr glir eto uwchben ei Mawr- hydi. Hyderwn, a gweddiwn am hir oes iddi, i deyrnasu ar Brydain mewn heddwch a llwyddiant. Y mae hi wedi dangos mewn llawer iawn o engreifft- iau fod ei llygaid yn troi yn gyflym i sylwi ar angen a. gofidiau ei deiliaid, ac ar gyfyngderau gweithwyr; a'i chalon bob amser yn llawn o deimlad tostur- iol at bawb mewn trallod a'i llaw yn barod i wnend yr hyn a all i sychu dagrau cystudd oddiar wynebau tlod- ion mewn caledi, trwy ddangos cydym- deimlad tyner, a chyfraniT rhoddion teilwng o frenines, o dan arweiniad TAD y trugareddau. j Darllenwyd ei haraeth hi yn Nhy yr Arglwyddi gan yr ARGLWYDD GANG- HELIJYDD, fel arferol, pan y byddo hi yn absenol. Dealla pawb mai araeth ei gweinidogion hi yw yr araeth ac fel y cyfryw y beirniadwyd ami yn y ddau dy seneddol nos Wener. Iarll GRAN- VILLE a feiodd y Weinyddiaeth yn fawr am adael allan o araeth y FRENINES y pwnc pwysig sydd wedi bod o flaeri y Senedd o'r blaen, sef y Trethi Lleol (Local Taxation). Eglur yw fod llawer o'r Toriaid yn cael cynhauaf llwyddianns yn annibendod trafodaeth y trethi lleol. A digon tebyg nas gall Mr. DISRAELI fforddio digio y morfrain gwancus, y rhai a wnant byrsau llawn- ion argefntrethdalwyr—trwy ddiwygio y gyfundrefn bresenol. Ond diau y bydd y blaid Ryddfrydol yn gorfodi y Toriaid i ystyried y mater. Gwnaeth Ardalydd HARTINGTON-blaenor new- ydd y blaid Ryddfrydol yii Nhy y Cyffredin-sylwadau grymus iawn ar y mater hwn. Cofied darllenwyr y DARIAN mai aelod seneddol dros fwrdeisdref fechan yn Nghymru, sef Maesyfed Newydd, yw Ardalydd HARTINGTON. Efe yw yr hwn a ddewiswyd gan y blaid Rydd- frydol i'w harwain yn nhy seneddol y bobl. Yr oedd ei araeth gyntaf yn ei sefyllfa newydd yn y Senedd, nos Wener, yn llawn o ysbrydiaeth fywiog, ac ymresymiad nerthol, ond yn amddi- fad o addurniadau dysgedig a dychy- mygiaeth gyfoethog-y cyfryw a hynod- ant areithiau Mr. GLADSTONE a Mr. BRIGHT. Eto yr oedd yn berffaith rydd oddiwrth y finegr talentog a hynoda areithiau Mr. LOWE, ac oddiwrth y beiddgarwch hunanol, dibris o gyd- wybod a theimlad pawb ereill, tebyg i bobl swydd York, y rhai a neillduolant Mr. FoRSTER. Ni allodd Mr. DISRAELI ateb ymresymiadau yr Ardalydd, ond fel ei arfer, difyrodd ei blaid a'i arabedd gwawdlyd djfrïo1. Gan mai efe ywprif awdwr araeth y FRENINES, teimlodd ei fod yn beth angenrheidiol iddo wneud pob amddifFyn ag a allai o honi. Un o'r pethau hynotaf yn yr araeth yw cyffesiad cyhoeddus Mr. DISRAELI ynddi mewn effaith, ei fod ef a'i blaid, wedi treulio blynyddoedd maith mewn ymdrechion hollol niweidiol i'r deymas, wrth amddiffyn Protection yn erbyn Free Trade. Yn araeth y FRENINES y mae efe wedi mabwysiadu egwyddor masnach rydd, er ei fod ef a'i blaid wedi melldithio PEEL, BRIGHT, a COBDEN, am flynyddau lawer am bleidio yr egwyddor hon. Cyfododd DISRAELI ei hun i flaenoriaeth y blaid Doriaidd trwy ei arcitbiau ffyrnig yn erbyn masnach rydd! Ond pwy sydd yn awr yn ymflrostio mwy ynddi nag efe a'i blaid, yn un o frawddegau cyntaf anerchiad y FJCBNINES at Dy y Cy- ffredin. Dywed fod lleihad trethi ar angenrheidiau bywyd wedi peri cynydd yn eu defnyddiad, fel ag i chwanegu at swm trysorfa y deyrnas." Hon oedd egwyddor COBDEN a BRIGHT, ac a fab- wysiadwyd gan PEEL, pan yr oedd DISRAELI a'i blaid yn eu rhegn am hyny o ben-bwy-gilydd i'r deyrnas. Nid oes ond ychydig rhagor nag ugain mlynedd er hyny. Ond er fod DISRAELI wedi troi i fendithio yn lie rhegu, nid yw eto wedi dangos y gwroldeb o gyd- nabod ei fai mawr yn gwrthwynebu am flynyddau y policy daionus yr hwn yn awr a ganmola efe. Dengys araeth y FRENINES fod y Toriaid am dreulio senedd-dymor y flwyddyn hon mor ddigynwrf ag sydd yn bosibl., Y maent wedi cadw y pethau mwyaf pigog allan o honi; a dywedodd DISRAELI wrth ei hamddiffyn, os deuai pethau cynhyrfus ger bron y Senedd, nas gallai efe fod yn gyfrifol am hyny. Yn wir, yn ol yr awgrymiadau nos Wener, gan wahanol aelodau, o'r hyn a fwriadant ei ddwyn ger bron y Ty, y mae yn eithaf eglur na fydd perygl i aelodau y Ty gysgu o eisieu materion i'w cadw yn effro. Y mae Mr. ADDER- LEY a Mr. PLIMSOLL wedi. rhybuddio y Ty y bydd iddynt ddwyn i mewn fesurau ar faterion cynhyrfus iawn mewn cysylltiad a morwriaeth. Y mae Mr. NEWDEGATE wedi rhoddi rhybudd, fel y gwnabob blwyddyn, y geilw efe sylw y Ty at y priodoldeb o wneud ymchwil- iad i'r modd y mae Mynachdai a Lleiandai Pabyddol yn cael eu rheol- eiddio yn y wlad hon. Rhoddwyd rhybudd gan Mr. AGNEW yu nghylch dileu treth yr Hypothec yn Scotland a Mr. CAMERON yn nghylch dileu y Dreth. Eglwys yn Scotland. Dygir materion cynhyrfus i mewn gan yr aelodau Gwyddelig. Dwg Mr. O. MORGAN ei fesur cladduger bron y Ty. Dygir mesuran i mewn gyda golwg ar ddiodydd meddwol gan Mr. NORWOOD a Mr. IJAVvsON. Diau y bydd cynygiad Mr. SALT i reoleiddio yr addoliad yn Eglwys Loegr yn fater cynhyrfus. Ond er fod llawer o gwestiynau yn dwyn perthynas a'r gweithiwr i ryw raddau i ddyfod ger bron, nid oes fawr o arwydd fod y Toriaid am gynyg dim fydd yn ymyraeth ag awdurdod y meistri. Rhyddfrydwyr yw cyfeillion y gweithwyr.
TRHYDDID GWEITHWYR.
RHYDDID GWEITHWYR. UN o gamsyniadau penaf eyfreithiau masnachol HARBI VII.-er ei fod wedi astudio ac amcanu gwneud masnach yn llwyddianus—oedd, ei fod wedi rhoddi breintiau masnachol i ryw yehydig o gorfforaethau, gan wahardd y breintiau hyny i bawb ereill. Egwyddor ddrwg y fath gyfraith, yw, ei bod yn gyru gallu a medr personol i segurdod—gallu a medr, ar faes cystadleuaeth, a fuasent yn cyfranu moddion eyfoethogiad y wlad yn gyff- redinol. Gosod parlys — marwhau galluoedd, a allent fod yn ddefnyddiol iawn yn nghynyrchiad llwyddiant eyff- redinol mewn gwlad, fyddai yr un peth a phe bae brenines y cwch gwenyn yn gorchymyn i rai o'i deiliaid beidio casglu mel, ond byw ar y mel a gesglid gan wenyn eraill, i'r rhai y rhoddasai y frenines y fraint eithriadol i gasglu y mel. Byddai y fath ddeddf yn llei- hau cyfanswm y mel yn y cwch yn ddwbl. Ar un Haw byddai yn rhwystro i'r gwenyn diwaith gasglumeliddynt eu hunaint nac i eraill; ar y llaw arall byddent yn byw ar y mel a gasglai eraill. Monopoly, trwy awdurdod cyfraith, yn meddiant ychydig bersonau, o freintiau, y rhai a arweinient i gyf- oeth, a greodd segurdod yn y lluaws, yr hwn a ddygodd i fodolaeth ddos- barth helaeth o boblogaeth o dan yr enw TLODION YMDDIBYNOL AR ERAILL. Y mae eyfoeth mawr rhai yn cy- nyrehu dwfn dlodi yllawer. Gofynai ROUSSEAU yn ei Let Nouvelle Heloise "Paham y mae y tlodion—mewn dinas yn llawn o lwyddiant—mor druenus,, pan nad oes tralJod mawr braidd byth mewn gwledydd lie nad oes dynion cyfoethog iawn i'w cael?" Yr egwyddor eglur a welir yn y iraith-fod y gwledydd yn mha rai nid oes neb yn gyfoethog iawn, ac eto pawb uwchlaw dygn dlodi-yw, eu bod wedi mabwysiadu rheolau mas- nachol a chymdeitbasol, yn ol pa rai y mae pob dyn yn cael cyfartaledd o fanteision i sicrhau bywiolaeth iddo ef ei hun a'i deulu ag y mae arall yn ei gael. Diau fod y gwahaniaeth dirfawr sydd rhwng sefyllfa y cyfoethogion a sefyllfa y tlodion mewn trefydd mawr- ion yn Lloegr wedi creu profedigaeth- au sydd wedi cynyrchu llawer o droseddau y wlad hon yn erbyn medd- ianau. Byddai rhinweddau cymdeith- asol yn llawer uwch nag y maent pe bae Ilai o dlodi dygu yn y wlad, a mwy o gariad yn y cyfoethogion tuag at y tlodion. Y mae amddifadrwydd o gydymdeimlad trugarog yn creu cas- ineb at ddynion a barchant eu cwn, ac a'u porthant gyda llawenydd, pan na roddant grystyn bara haidd i ddyn tlawd. Dwrdiant ef am beidio gweithio, er fod cyfundrefn gormes- wyr yn ei gau allan o waith pan y mae efe yn gwneud pob egni, ac yn cynlluuio pob dyfais, i'w gael. Y mae Eglwys Rufain wedi gwneud mwy nag un sefydliad arall i rwystro gweithwyr y deyrnas hon i gael chwareu tegi sierhau enillion eyfartal i'wgwaith. Trwy osod i fyny gorfforaethau, yr orders, a mynachdai, a thwyllo medd- ianwyr tai a thiroedd ar wely angau, i drosglwyddo bron yr oil a feddent i'r Eglwys, at bwrpas mynachdai, &c., er mwyn achub eu beneidian rhag bod yn uffera byth, llusgwyd eymaint o'r wlad hon i feddiant yr Eglwys nes achosodd y brenin Pabyddol HARRI VII. wneud eyfraitb, sef y Mortmain Act, i rwystro meddianau y trigolion 1 fyned i ddwylaw offeiriaid segur,^ moethus. Gwnaeth y Diwygiad Pro- testanaidd ehwildroad benditbiol yn y mater hwn. Y mae Brenin Itali, Victor Emmanuel, wedi gorfod troi cyfoeth y wlad allan o sianel fudr. farwaidd, offeiriadaeth ymhongar, i fod yn ddefnydd bywiolaeth i werin Itali. Y mee wedi gwneud hyn er ei fod yn Babydd, o waethaf y Pab a'i Gardinaliaid. Cyn gwawr y Diwygiad Protestan- aidd yr oedd offeiriaid Eglwys Rufain yn meddianu saith ran o bob deg o holl dir y deyrnas hon. Ond HARRI VIII. a'u cymerodd oddiarnynt, ac a'll rhoddodd i ychydig o arglwyddi, er mwyn sicrhau eu cefnogaeth iddo ef i daflu jau y Pab oddiar ei war. Yn nglyn a chyfoeth y mynachdai, &c., yr oedd llawer iawn o bethau, y rhai oedd yn dylanwadu yn erbyn y gweith- iwr, rhyddid ei waith, a sicrwydd ei gyflog am ei waith. Yr oedd y Pab- yddion, trwy feddu cymaint o gyfoeth, yn ddylanwadol iawn mewn cym- deitbas. Yr oedd perygl mawr i'r gweithiwr ddweyd fod ei feddwl na'i gydwybod yn eiddo iddo ei hun, ar unrhyw fater, rhag iddo golli pob mantais i gael tamaid o fwyd trwy gael ei gyhuddo o fod yn heretic. Yr oedd y chwil-lys yn ei wylied yn fanwl. Yr oeddy gyffesgell yn llusgo holl ddrigel- ion personau a theuluoedd o galonau ei gyfeillion a'i berthynasau agosaf, y rhai a orfodid i ddadguddio ei olyg- iadau o dan boen colli eu heneidiau byth. Ar bob Haw yr oedd rhwystr i'r gweithiwr ddyfeisio a gweithredu yn y modd goreu at ei lesoldeb ei hun. Yr oedd o dan orfod i dwyllo, rhag- rithio, a dweyd celwydd bob dydd, er mwyn sicrhau iddo ei hun yr ychydig fanteision a adewid yn ei lwybr i sicr- hau bywiolaeth iddo ei hun a'i deulu. Yr oedd hefyd yn cael ei amddifadu o amser digonol i wneud llawer o waith, am fod yr Eglwys Babaidd yn ei rwymo i dreulio rhan fawr o'i amser mewn gwyliau i gadw coffadwriaeth am hen seintiau; rhai o honynt mor ddrwg a bod yn warth i ddynoliaeth. Pan ddarfyddai efe ar "Ystwyll" rhaid" iddo wasanaethu y Septuagesima," y "Sexagesima." a'r ^<Quinquagesima. Wedi hyny y "Grawys," y "Pasg," "Dyrchafael," "Sulgwyn, "Y Drin- dod," "Dydd y GAvirioniaid," "Dydd yr Enwaediad," "Troad St. Paul," "Puredigaeth Mair Forwyn," "Dydd St. Mathias,' Cyfarchiad ein Hargl- wyddes Mair," "St. Mihangel," "Yr boll Saint," &c. Yn Ionawr rhaid iddo dreulio llawer o'i amser i dalu parch i'r Seintiau Lucian, Hilari, Prisca, Ffabian, Agnes, Vincent, Siarls- I., &c. Yn Chwefror i Blassius, Agatha, Valentine, &c. Yn Mawrth i Dafydd, Cedde, Perpetua, Gregory, Edward, Benedict, &c. Yn Ebrill i Richard de Wiche, Ambrose, Alphege, St. George, &c. YnMai i "gatfaei y groes" gan Helena (hen chwedl ddisail a berchir yn Llyfr Gweddi Cyffredin Eglwys Loegr yn awr yn y Calendar)y. ac yn agos ddeugain o seintiau ac amgylchiadau eraill cyn diwedd y flwyddyn. Ysbeilid y gweithiwr fel hyn o yn agos haner ei amser gan ei ormeswyr Pabyddol cyfoethog. Buasai ei fywyd mewn perygl pe buasai yn esgeuluso rhoddi ei amser i'r Eglwys yn ol y Calendar. Gosodid o'i flaen mai bywyd segur fel bywyd y mawrion, ar draul eraill, c e Id yr un mwyaf ei anrhydedd, ac nad oedd dim mor isel mewn cymdeithas a bod dyn yn enill ei damaid trwy weithio a'i ddwylaw ei hun. Os byddai y gweithiwr mewn angen, am ei fod yn cael ei ysbeilio o'i amser gan yr Eglwys gyfoethog, caffai elusenau bychain—i gadw enaid a chorff gyda en gilydd—o ddwylaw ei ormeswyr Mynachol, Pabyddol. Cy- nyddodd nifer y gweithwyr y rhai a ymddibynent ar elusenau eu gorthrym- wyr yn llu mawr iawn. Pan y cymer- odd HARRI VIII. gyfoeth y mynachdai i'w law ei hun, a phan y trodd efe y mynachod allan, aeth haner can' mil o'r segurwyr Pabyddol hyn i ymddibynu —eu hunain—ar elusenau y llywodr- aeth. Gyda hyn taflwyd canoedd o- filoedd o weithwyr ar eu hymdrechion; eu hunain. Gofidus oedd ganddynt adael bronau elusenau, a'r chwareu fei plant a fwynhaent. Teimlent waith- yn faich. Bob yn dipyn derhreuasant garu yr habit o weithio, yn enwedig O dan ddylanwad ei lwyddiant i sicrhau cyflog a ddygai doraeth o fwyd a dillad,. y rhai a fwynhaent fel eu beiddo eu hunain, heb fod neb yn ymyraeth a'u; ■ rhyddid i weithio, i'r graddau y byddid yn gwneud a hwy o'r blaeu, er fod gormod o ymyraeth a'u rhyddid i weithio yn parhau hyd y dydd hwn. Pe caffai egwyddorion Protestaniaeth chwareu teg byddai eu rhyddid yn ber ffaith a'u gwaith yn dra llwyddianus.
[No title]
BOBETJ dydd Sul diweddaf, cymerodd gwrthdarawiad dinystriol le ar y mor, rhwng Point Lynas a'r Skerries. Daeth yr agerlong Magnet o Dublin, ar ei thaith o L'erpwl, i wrthdarawiad. a Ilestr Dutchaidd. Suddodd y llestr ar unwaith, ac aeth y cadben a chwech o ddwylaw i lawr- gyda hi. Bu farw larll Yarborougli ddydd Gwener diweddaf, yn 40 oed. Y mae ei fab, Arglwydd Worsley, yr hwn a anwyd yn 1854, yn dyfod i feddiant o'r etifeddiaeth a'r teitl. DINYSTRIWYD y Theatre Royal yn Edinburgh nos Wener diweddaf trwy dan. Dinystriwyd yr holl adeilad mewn llai nag awr o amser.