Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
" G." A'l GABLDRAETH.
G." A'l GABLDRAETH. MR. GOL.Er fod Judas y bradychwr wedi ymgrogi, a'i gorff wedi pydru yn y ddaear ddu er ys rhagor na deunaw cant o flynytldau bellach, eto. mae ei epil mor ddiwyd yn bradychu y diniwed heddyw ag erioed. Y maent mor barod i gablu a gwarthruddo dynion gan nad pa mor enwog y byddout am eu diniweidrwydd a'u hunanymwadiad. Mewn gwirionedd, ni cha yr un dyt. lonyddwch ganddynt os meddylient eu bod yn ddigon o ddyn- ion i'w drechu mewn iaith gableddus ac enllibus. Dyna G.' yn eich rhifyn di- weddaf yn fy nghablu i, a hyny am ddim. Fachgen, well i ti edrych ati. Beth sydd a fynot ti a fi ? A ydwyf fi wedi §W1J6J1(^ acho» 1 g°di dy lef, ac i fal- aorddan anwireddau ar faes y byd 1 Cofia na elli ddysgwyl cael Ilonyddweh tra byddot yn myned yn mlaen yn y cy- feiiiad hwn. i frewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd,' medd y I gwr doeth, a'r wialen gei dithau hefyd os na ddiwygi, a hytiy ar frys. Yr ydwyt yn ddigon haerllug a beiddgar i unryw beth. Nid oes yr un weithred yn rhy iselwael fel na fedri di ei chyflawni, ond bvdded hysbys i ti, a phawb ereill o'r Frenhines gyfoetbog ac urddasol ar ei gorsedd i lawr hyd at Peter Junk y car- dotyn dinod, nad wyf yn prisio fawr am dy enllib, gwarthrudd, na'th ymgrewc- ian. Nid yw dy lol a'th faldordd yn aflonyddu dim arnaf. Sonia 'G.' ryw- beth am ryw nifer o fechgynos yn cynal cyfarfod bychan nad yw o un pwys i neb wybod dim yn ei gylch ond hwy eu hun- ain, <fec. Dim pwys, cofier. Rhaid cyfaddef fod y didduw yn rhy gibddall i weled fod pwys hyd y nod mewn cynal cyfarfodydd o duedd dda, ac efallai mai un o'r boblach hyn yw G.' Yr oeddwn i wedi arfer meddwl nad oedd golygydd- ion newyddiaduron yn caniatau i gymaint a llinell gael ymddangos ar eu tudalenau os na fuasent yn gweled rhyw bwys yn y linell hono. Ond wele yr archolygydd am fy ngorfodi i gredu yn wahanol. oblegyd dywed ef fod tri golygydd wedi caniatau i gofnodiad or cyfarfodydd 'dibwya' hyn gael ymddangos ar eu tu- dalenau llachar. Ond beth yw barn tri golygydd galluog yn ochr barn gul a chrabachlyd Mr. 'G.' Yn nesaf daw yn mlaen at res 0 ffugenwau. Yn wir, nis gallaf lai na thalu teyrnged o ddiolch- garweh iddo am y ffugenw newydd yma, sef4 Elan Aeron,' gallaf ei sicrhau na ddarfu i mi weled yr enw fel y mae uchod o'r blaen. Ond nid oes gwahan- iaeth yn y byd am hyny. Nid yw o fawr pwys gan Mr.' G.' pa un a'i gwir neu an- wira ysgrifena. Ar ol trin a thrafod tipynary cyfarfod 'dibwys' a gynal- iwyd yn Llwynhendy, ac arllwys ei gyn- wysiad gwenwynig ar draws y cadeirydd, -ie, y cadeirydd sydd yn ei fiino, cof- iwch—dechreua ymosod ar lane o ganwr, sef y byd-enwog Alaw Hendy. Oni bae hwn, cawswn i a'r cadeirydd, Morgan, lonydd. Bu dadl frwdfryaig rhwng Alaw Hendy a David Jones, o barthed merch fechan D. Jones, yn y Llanelly Qua/rdian yr wythnos ddiweddaf. O'r diwedd, aeth y ddadl yn rhy frwd a phersonol, fel y gorfu ar y golygydd parchus folltio y drws yn eu t erbyn. A chan na chawsant arllwys digonou llys- nafedd yn y Ckwdian gwelaf fod 4 G.' am ddwyn yr un hen ddadl anfuddiol eto i'r D ARIAN. Fe allai mai dadleuon o'r natur hyn gyfrifa Mr.' G.' yn bwys- ig.' Wrth derfynu, yr wyf yn gofyn i'r mawreddog Mr. 'G.' ddyfod allan o dan ei enw pnodol, os oes ganddo air i'w ddweyd neu i ofyn ac os na chydsynia Mr.' G.' a'r amod hon, credaf na ddylas- ech chwi, Mr. Gol., roi eich maes yn agored iddo. Ni ddylasai dyn gael bradychu dyn arall o dan gysgod ffug- enw. DANIEL JAMES (Daniel Ddu.) [Dim gair yn ychwaneg arypwnc.-Gol.]
CYFARFOD Y GLOWYR YN LLANFABON.
CYFARFOD Y GLOWYR YN LLANFABON. MR. GOL.,—Wedi gweled hanes y cyf- arfod uchod yn eich rhifyn dyweddaf, a darllen y penderfyniadau a basiwyd yn- ddo, y mae arnaf awydd, drwy eich can- iatad, i ddweyd gair ar y mater. Rhyfedd mor ddall y meddylia dynion hunanol, uchelgeisiol, fod pawb ond eu hunain. Nid wyf am wadu na ddylem, fel tai- lowyr, gael ein cynrychioli ar y Bwrdd, ond nid wyf am wadu chwaith nad ydym wedi ein cynrychioli i raddau pell o'r dechreu. Cydunwn fod angen am gy- nrychiolaeth mwy cafartal na'r hyn sydd yn bresenol; ond sarhad gormodol ar y rhai sydd ar y Bwrdd yn bresenol yw dweyd nad ydym yn cael ein cynrychioli arno o gwbL Os mae cynrychiolaeth gyfartal deg oedd yn yegogi y rhai a alwodd y cyfarfod hwn yn nghyd, rhyfedd mor bell y darfu iddynt wyro oddiwrth hyny yn ei dewisiad o'r dynion i'n cy- nrychioli. Yn wir, y mae hyn yn myned yn mhell i brofi i mi, mai nid lies cyffred- mol y tai-lowyr oedd wrth y gwraidd, ond mai eu dyrehafiad eu hunain ydoedd yn eu golwg, yn yr hyn y maent wedi llwyddo, mor belled ag y mae a wnelo y cyfarfod hwnw a'r mater. Pe cynrychiolaeth gyfartal deg fuasai yn eu golwg, ni fuasent byth yn caniatau ey- meryd eu hethol ill dau i fod yn gy- nrychiolwyr. Oblegyd, yn laf, dau o'r un group ydynt; beth fydd group No. 3 yn well o'r ddau hyn 1 Ai tybied fod rhywbeth yn un o'r ddau yn fwy addas i gynrychioli y group hwn na rhai o'r sawl sydd ar y Bwrdd yn bresenol1 Na choel ia i fawr. Onid yw group No. 3 a'i gysylltiadau yn cyrhaedd o Ffynon Taf i Lanelly, sir Gaer 1 A dweyd y lleiaf am dano, gwelir wrth y glofeydd a enwir ynddo, ei fod yn cyrhaedd o Bontypridd i Abertawe. A ydyw yn bosibl, ynte, nad oes yn y cylch eang hwn neb yn alluog i'w gynrychioli, heb fod yn rhaid cael un o group arall; os nad ydym yn cael ein cynrychioli yn bresenol, beth fyddwn gallach wedi cael y ddau hyn 1 Os mae cynrychiolaeth uniongyrehol sydd angen- rheidiol, sut na fuasai un o'r ddau, neu yn wir, sut na fuasai y cyfarfod yn peri i un o'r ddau i dynu yn ol, er mwyn rhoddi He i'r un oedd yn cael ei gynyg gan y ddau oedd o'r group hwn yn y cyf- arfod. Pa le mae grym eich apel at wyr y glo agerdd, a chwithau mor ddiystyr o honom ni yn group No. 3 ? Os mae gan wyr y glo agerdd y mae'r gallu i ben- derfynu pwy fydd yn eistedd ar y Bwrdd. gobeithio y bydd iddynt gofio fod cystal hawl gan group No. 3 i gael un ar y Bwrdd ag sydd gan group rhif 2, a mwy 0 lawer genym i gael UIA nsc sydd genych chwi i gael dau. Yn 2il. Dau o'r un adran yn group rhif 2 ydynt—ie, a dau o'r adran hono ag sydd wedi bod yn achwyn am ryw gam dirfawr maent wedi ei dderbyn ar draul cymhwyso yr adran arall o'r un growp. Pe caffai y ddau eu hethol, a bod gan- ddynt rywbeth i wneud ar y Bwrdd, y mae lie i ofni y gallai yr adran arall ddymuno gyda hwnw gynt, Save me from my friends.' Os mae diwygiad yn nosbarthiad y seddau sydd yn angenrheidiol, onid gwell fyddai ymdrechu am ddiwygiad trwyadl 1 Cyn y gwnefr hyny, bydd yn ofynol teimlo fod yna ran fawr, ie, rhan mwy o sir Fynwy i'w cbymeryd i ystyriaeth na'r hyn y mae y cyfeillion hyn yn ymdrechu myned i mewn erddynt; ac hyd y byddo yr ychydig hyn yn teimlo fod lies ychwaneg na hwy i'wystyried, gobeithiaf na fydd i'r cyfarfod cyffredinol roddi yr hawl o'u llaw i benderfynu pwy fydd yn eistedd dros bawb. bhif 3.
GLYNNEDD.
GLYNNEDD. MRI. GOL.- Y r ydym yn dymuno, ar ran Eglwys Annibynol Glynnedd, i gyf- lwyno ein parch i olygyddion TARIN Y GWEITHIWR, ac i'w hysbysu hwy a'r cyhoedd fod yn ddrwg genym fod dan yr angenrheidrwydd 0 wneud sylw o ysgrif yn gynwysedig o gymaint o an- wiredd, o gam-dystiolaeth, ac 0.enllib, a'r ysgrif a ymddangosodd yn eich rhifyn diweddaf, wedi ei lawnodi gan un a eilw ei hun 4 Gohebydd o Glynnedd.' Ein teimlad cyntaf oedd, gadael cyf- ansoddiad mor anfedrus a gwrthddywed- iadol islaw ein sylw, gan hyderu y bu- asai i'r cyhoedd ganfod yn rhwydd amcan Judasaidd yr awdwr. Ond gan fod ein gweinidog parchus yn penderfynu peidio ymostwng i wneud sylw o ymos- odiad mor iselwael-ac y gallai rhyw- rai dynu camgasgliad oddiwrth y cyfryw benderfyniad, meddyliasom mai gwell fuasai i'r cyhoedd gael cyfle i ddeall teimlad yr Eglwys yn ngwyneb yr ymos- odiad. Anwiredd fod drws y capel wedi ei gau yn erbyn neb, ac mae yr hwn a ysgrifenodd y Ilith yn gwybod hyny yn dda. Gobeithio y gwna ystyried mae nid peth dibwys yw ceisio pardduo cy- meriadau swyddogion eglwysig a gwein- idog yr Efengyl. Nid yw y cyfeiriad at dori y lease ond ymgais i greu cyffroad yn meddyliau rhai anwybodus a choelgar. Gall ef a Ehawb ereill orphwys yn dawel ar y pen wn. A phe buasai rhyw sail i'r haeriad uchod, mae gan eglwys yr 4 Addoldy' ddigon o ymddiried yn anrhydedd y boneddwr parchus o Aberpergwrn (fel yn ei dad o'i flaen) na fydaai iddo byth gymeryd mantais ar hyny. Un gair yn mhellach, mae yr hwn a ymosoda ar gymeriad ei gymydog mewn dw papyr cyhoeddus. dan gysgod ffugenw, yn debyg i'r Gwyddelod a arferant saethu teithwyr heddychol o'r tu ol i berth. < Nid oes ynddo y gronyn lleiaf 0 1 ddynoliaeth. ETAN EVANS, ) YX. ROWLINS DAVIES, J oniaid.
[No title]
Cyrhaeddodd y cyn-Arglwydd Grant i L'erpwl ddidd Llun diweddaf, ar fwrdd yr agerlong Indiana. Cyfar- fyddwyd ag ef ar y dirfa gan Faer L'erpwl^ yr hwn a gynygiodl iddo dderbyniad croesawgar yu Mhrydain.
Advertising
FE-EU-ki NA Ey I PATENT I I A i, Yn uniongyrchol iachaa y Dropsy yn ei bo ga&ghenau, megys Dififyg ar y Dwfr, Gwynt yn y Cylla, Perfedd, &c., Poen yn y Cefn a'r Pen, Grafel, Cbwydd yn y Traed, Cluniau, a'r Ymya- faroedd, Cariad y Galon, Dififyg Anadl, Asthma 'enytgafnder, &o., Traed Oer, &o. Registered Trade Mark—44 Dropsy Pills." Y mae'r Pelenan hyn wedi an Megistro ao yn Patent. Coepir pob d^nwarediad. GofUer OMI enw JACOB HUGHES ar stamp y Llywodraetb. Ar werth gan holl Chemists y deyrnas am lie., 2?. 9c., a 4a. 6.gyda'rpoai la. 2c.» 2a. Ilo., a 4a. 9c. oddwnrthy Patentee— Jacob Hughes, Apothecaries' Hall Llcmelly. London Agents—Barclay & Sons, Sntton, ft do., Mewbnrjr, Sanger, fioyandon. Bri«tol— Pearce ft Co., Warren & Co. Liverpool-' Evans & Sons, Baimes & Co. Cardiff— Kernick< Manchester- Mather. Birmingham-Southall. CYFABFOD LLENYDDOL PBlff. GRAIG. BYDDBD hysbys i bawb y oynelir 017- D AKFOD LLEYNDDOL yn old Bry- onaidd, Penygraig, dydd lurohar, Meheml MM, 1877. Beirniad y Faridoniaeth a'r Adroddiadan, ao.: 11-. T. OUDLDf BBXYAMIN, Gilfaoh Gbotu Beirniad y Gerddoriaeth: MR. THOMAS DA. nil, Llantrieant. T Qyiarfod i ddechrea am chwech o'r glech; synediad i =own, thwe' ohainiog. NSTYLTAV. 1. I'r cor heb fod dan 3 o rif a gano yn ore* Hail, Jadea happy land/ o'r Jodas Maooabaeos,' y chorus yn unig 2 0 0 t. I'r cor o blant heb fod dan 80 o rif, a gaao yn orea I Croomw bawo a ddel,' o 8wn y J awbilf I o 3 Am y ddau englvn goreu yn Fedd- argraff i Thomas Joshua a Gwilym John, dan faban Daniel a Margaret Thomas. Penygraig 0 7 G 4. I'r sawl a adroddo yn oreu ddarn Awdl Bben Fardd ar 'lob' ..000 Y daman adroddiadol i'w cael yn y pro- rØfmø; y programmes i'w cael gan yr Ysgrif- enydd, JOHN J. EVANS Weigher, Penygraig, Pontypridd. C Tejhmg gwobrwyo talent.' TEMPERANCE HALL, CWJdTWRCH. I > YDDED hysbys y oynelir Eisteddfod yn J X) He uchod, dydd Sadwrn. Qorphenaf 28ain* 1S77, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwydd- anus mewn JEthyddueth, Eardiioniaeth, Caniad- aeth, &c. PRIF DDARNAU. S S. a- I'r Cor, heb fed dan 40 mewn nifer, a gaco yn oren Clyw, 0 Dduw. ty lief- ain,' allan o'i Gerddcrfa, gan D. Jen- kins Am y Traethawd goreu ar 'Ardderch- awgrwy4d yr Iaith Gymraeg' 1 0 0 Am y Bry ddeet oren, heb fod drop 1 0 linell, ar Llywydd Dr. REES, Tirbach. Arweinydd: Mr. L. REES, Brynhenllysg. Beiruiad: MVNVDDOU. Y gweddill o r teetvn*u, yn nghrda phob maP- yHon, i w gweled ar y ProgrammA, r hw* vdd yn b-^rod tr fyr, ac i'w gael trwy y Post »r ade bynlii tri stamp dinaai gau yr ysgrif )Cydi» WM JONES (Gwitym Wyn), Brynhenllysg Colliery, Swansea Valley, Cwmtv, rot Ya awr yn barod. pris 2s. GOLWG ar DEYRNAS CRIST Crist yn bob peth, ao yn mhob pe^ JJl sef Caniad mewn dull o agoriad ar Col' fli. 11; 1 Cor. xv 25. Gan y diweddar B'1rcb. William Williims, Paotycelyn. At ba an 1 William Williims, Paotycelyn. At ba an f obwaoegwy N->diadt>u Beirniadol ar y ao ar athrylith yr awdwr W Bardd van v Pat eh.. William Rens, D.D', (Gwilf1* Hirafthog). Argraffwyd a chyhoeddwyd 90 Griffith Dovies, Stamp Office, Yatlyfera.
GLOWYR MYNWY A DEHEUDIR CYMRU.
GLOWYR MYNWY A DEHEUDIR CYMRU. MRI. GOL.Tybed fod angenrheid- rwydd i neb ymddiheuro am gynyg tori ar y dystawrwydd presenol yn ei gysyllt- iad a'r uchod, ac a sefyllfa gyffredinol y Sarthau a enwyd. Y mae cydwybod a yledswydd yn dweyd na, dyweded g^lynioa a chyfeillion yr hyn a ddywed- ant. Dywedasom bythefnos yn ol ein bod yn cyflym ddynesu i'r sefyllfa yr ooddem ynddi yn 1866 a 1867; ond oddiwrth betliau y cawsomwybodaeth o honynt yn ddiweddarach, ymddengys y byddwn yn loan yn waelach ei n sefyllfa nag oeddem yn y blynyddoedd hyny. Os cymer fostyngiad arall o ddau swllt y bunt le, ydd yr huriau ar yr un safon. Ond gydag /rnborth, ac yn neillduol dillad a thai tri swllt y bunt yn uwch nag yn y blynyddoedd hyny, o angenrhaid bydd ein sefyllfa yn waelach. Bod y gostyngiad bygwthiedig wedi cychwyn ei ymdaith sydd ffaith anwad- adwy. Derbyniwyd ef eisioes yn y Blaenau a Nantyglo, S.C.; Glyn Ebwy, B.C.; South Wales Pit, Abertillery, S.C.; South Wales Level, Abertillery, H.C.; ac mewn rhai glofeydd ereill llai eu pwys. Beth ond hyn sydd wedi ei dderbyn yn y 'Bwllfa,' Aberdar, nid ydym yn proffesu gwybod; ond hyn a wyddom, fod ei effaith andwyol wedi croesi dros Gwm Rhondda., ac wedi cyrhaedd clustiau y eyfeillion yn Tondu a Maesteg; ac os ca ei gwrs gyda hwy, mor wired a bod y Ilinellau hyn wedi eu hysgrifenu, fe C, 2 ffeindia ei ffordd yn ol trwy fwlch y gwynt, ac wrth droed y mynydd fe gyll ei ddisguise, ac fe'i aduabyddir yn noeth- lymyn yn ddau swllt y bunt o ostyngiad cyfFredmol. Cyfarfyddodd dan aelod seneddoI yn y Ty yr wythnos cyn y diweddaf—y naill yn Gymro a'r llall yn Sais—a chanddynt eill dau weithfeydd mawrion y.i Nghy- mru. Hysbysodd un o honynt y llall fod ei weithwyr ef yn Nghymra wedi caniatau derbyn dan swllt y bunt o os- tyngiad. Sut y mae hyny yn bosibl o dan y trefniadau presenol? meddai'r llall. Eithaf, meddai'r cyntaf, i'r rhai hyny nad ydynt wedi eu rhwymo wrth eich trefniadau. Aeth y siarad yn llawer pellach; ond y canlyniad oedd i'r un a dderbyniodd yr hysbysrwydd i anfon brysgenadwri at yr awdurdodau uchaf o dano, a'r foment y ceir allan fod y peth yn wirionedd, bydd rhybuddion i'w gosod 1 fyny i derfynu yr holl gytundebau pre- senol, a down geos y trefniadau oil, a'r eanlyniad naturiol fydd, y bydd yn rhaid i'r naill feistr gael ei weithwyr ar yr un safon a'r llall. Y mae yn wybyddus hefyd fod glowyr Plymouth ac Abernant wedi cael cynyg ar y ddau swllt y bunt o ostyngiad, i ddechreu ar y laf o Mehefin. Beth a wna'r cyfeillion sydd eto yn anhysbys ond os derbynjr ef, bydd yn agoriad pell- ach i'r drws sydd eisioes wedi ei agor yn gilagored gan ereill. Snt y byddai y cvfoil^on hyn ac ereill fv w pegwrthwyn- eWit nid wyf yn credu fod un bod meidrul yn aliuog i ateb y cwestiwn. Ond nid yw hyny yn symud y ffaith a nodwyd. Pe o'r tu arall y byddai i'r gweithwyr ganiatau gwneud trefniadau er mwyn cynorthwyo y meistri hyny y gellid profi uwch law amheuaeth eu bod yn colli wrth gadw eu gweithfeydd yn agored, y mae mor lleied o gydymdeim- lad rhwng y meistri a'u gilydd, fel na fyddai methiant y naill yn un rheswm i'r llall dros beidio a thynu ei weithwyr ynteu i lawr i'r un level; ac o'r tu arall, i'r lluaws deuai yn fater o angenrheid- rwydd, am eu bod yn gwerthn glo vn yr un farchnad. Os na wnelent hyny, wedi unwaith ganiatau i ni fyned i lawr, ni fyddai ganddynt farchnad i'w nwyddau, ac heb hyny ni allent gadw eu gweithfeydd yn agored. Bydd yn rhaid gwynebu y mater hwn yn fuan iawn. ac felly gwell fyddai cymeryd y pwnc i ystvriaeth yn nghyfarfod Merthvr, a cheisio cael rhyw ffordd i ni ddeall ein gitydd, onide bydd y gostyngiad wedi ei dderbyn gan gynifer o lofeydd, fel na fydd o un dyben 1 r gweddill i ddweyd gair yn ei erbyn pan y cynygir ef iddynt. Yn ei berthynas a phwnc y Sliding Scale, y mae iddo yr effaith hon—y man y derbynir ef, bydd y safon wedi ei di- fodi; bydd yn fater wedi ei benderfynu y tuallan, ac ni fydd un gallu yn hon yn aros i'w adenill byth. Dichon y gall rhai fod o'rfarn mai annoethineb ydyw medd- wl am dreulicychwaneg o arian i geisio cadw y scale i tyny yn ngwyneb y pethau hyn a gymerant Ie. Yr wyf finau o'r fant mai gwell fyddai ethol cyntychiol- wyr, a dal ein hochr ni i fyny yn anrliyd- eddus, oblegyd dau reswm neillduol yn gyntaf, tra byddn y meistri heb dori y scale i fyny yn rheolaidd trwy chwe' mis o rybudd, bydd grym cyfraith y tu cefn i'r award; yn ail, beth bynag fyddo'r can- lyniadau a'r amgylchiadau yn y dyfodol, ni ellir tafiu i'n gwyneban mai y ni a ddifododd y trefniant. Gower Road. MABON.
! GOSTYNGIAD PRIS ETO.
GOSTYNGIAD PRIS ETO. Caniatewch i mi gyfran fechan o'ch TARIAN yrwythnos hon, ermwynhysbysu 1 cyhoedd y cynllun newydd o ostwng pris sydd ar gyich y dyddiau presenol, ac wedi eymeryd lie yn y gweithfeydd canlynolMynydd Bach.—Tua mis yn ol,darfu iddynt, yn y gwaith hwn, dynu pris y rhai oedd yn gweithio wrth y dydd, trwy roddi un diwrnod o rybydd yn unig iddynt; a darfu i'r rhai oedd wediei gael, yn ogystal a'r rhai nad oedd wedi cael dim, weithio yn mlaen heb ddweyd dim yn ei erbyn. Worcester, neu Fforest.Fach. Nos Iau, pythefnos i'r diweddaf, darfu i chwech or dynion sydd yn gweithio wrth y dydd gael eu tynu i lawr 4c. y dydd, sef o 4s. 4c. i 4s.; a'r un fath yn y Weig Fach, ac ar yr un dydd, a phawb yn gweithio yn mlaen yn eithaf difater o'u cyd-ddynion, y rhai oedd yn gorfod dyoddef. Ond aroswch chwi ychydig, daw nos Iau, y 24ain o Fai, pryd y ceir gweled sut y try pethau allan y pryd hwnw. Daeth nos Iau j do, a gorfu i bawb deimlo y pryd hwnw eu bod oil i fod yn gydraddd, a'r ddau le yna yn ei gael heb yr un foment o rybydd. St. Pit. Gweithredu yma eto yr un fath, ond eu bod yn debyg o gymeryd tri chynyg ami. Cafodd yr un nifer, sef 6, eu gostwng yn y lie hwn nos Wener di- weddaf, a thebyg y bydd y pedwar sydd ar ol yn debyg o'i chael nos Wener nesaf, os nad oes gwahaniaeth i fod rhyng- ddynt ag ereill. Cofier mai yr un scale oedd yn y gwaith hwn ag oedd yn y ddau waith blaenorol. Cofier hefyd mai yr un sydd yn lly wodraethu 3m y tri. Ond rhywfodd neu gilydd y mae gweith- wyr y gwaith olaf y tro hwn yn fwy ffodus nag ereill, trwy eu bod wedi codi cyfrinfa undebol er ys amryw fisoedd yn ol, ar yr egwyddor o undeb lleol, a digon tebyg eu bod erbyn hyn yn ddigon cryf i sefyll mis neu ddau o strike, ond fod yn well ganddynt yr amser presenol i weithio yn mlaen ar y gostyngiad, gan fod pethau yn myned yn mlaen mor araf, er rhoddi mantais i'w meistri wrthwyn- ebu arafwch masnach. Wel, fy nghydweithwyr, nid yw hyn yn ddim amgen na chenfigen yn lladd ei pherchenog. Gwyddoch yn eithaf da, yn ogystal a minau, ein bob ni wedi bod yn cenfigenu y naill wrth y llall, ac amrvw wedi cael eu haberthu genym ar allor cenfigen; hefyd, yn ol y siarad sydd ya ein plith, nid yw'r cenfigen wedi darfod etoj canys fe ddywed rhai pe byddai i'r meistri dynu 6c. v dydd eto, y byddai iddynt hwy weithio yn mlaen heb golli yr un foment ar eu gwaith. Cofiwch, fy nghydweithwyr, nad oes yr un swyddog undebol yn ein plith yn bresenol-nad oes eisiau i ni genfigenu o herwydd y rhai hyn, er, ar yr un pryd, yr ydwyf o'r farn yn bersonol y buasai yn rhatach i ni gadw swyddogion ac undeb na bod fely mae yn bresenol, o herwydd yr ydym ni yn colli 6c. y dydd, neu 3s. yr wythnos, neu 12s. y mis o leiaf; ond gellir ei rifo i'r mwyafrif yn 14P. y mis, o herwyf fod y mwyafrif yn gweitkio saith turn yr wythnos. Nid oes neb yn ein plith, debygwyf, all brofi nafuasaiyn rhatach i gadw undeb a swyddogion na cholli yr arian a nodwyd. Ond dyna, nid ydym yn gwneud dim amgeu 11a medi yr hyn a hauasom,' Beth bynag a hauu ayn, hyny hefyd a fed efe.' Un gair bach cyn terfynu at Mr. Llwynog. Gan ei fod wed cael ei dywys gan ragluniaeth o fewn rhyw dair mill- dir i'n cymydogaeth, a'r fan Ile yr ydoedd yn meddwl cael gwaith wedi stopio yr ydwyf yn rhoddi gwahoddiad iddo ddyfod hebio i ni am dro, ac os na fydd yn dewis myned i weithio ar y gostyngiad pris, dim ond iddo alw gydag Ap Thomas, bydd iddo gael defnyddiau i fy w am am- ryw wythnosau. Ap THOMAS.
EISTEDDFOD TREFORGAN.
EISTEDDFOD TREFORGAN. Cynaliwyd eisteddfod yn y lie uchod dj dd Mawrth y Sulgwyn. Llywyddwyd fn y Parch. Thomas Rees, Ffynon Taf. beirniad ydoedd Mr. Jacob Davies (Arthur Fariog), Canton. Dechreuwyd y cylarfod trwy ganu yr Hen Ganfed gau y gynulleidfa o dan arweiniad y beirn- iad. Aethpwyd yn mlaen fel y canlyn. Canu 4 Yr Eos Bach:' goreu, E. Llewelyn, Treforgan. Adroda 4Morfa Rhuddlan goreu, Harry Edwards, Tongwynlais. Canu Home over there,' gan gor oblant. goreu, Gobeithlu Treforgan. Adrodd "Pregeth Fach y Plant;' cydfuddugol, M. Davies, A. Thomas, ac E. Hughes, Tre- forgan. Araeth ar 'Y Dyn Dedwydd j' goreu, W. Morgan, Tongwynlais. Canu 'Y Bwthyn yn nghanol y Wlad;' cyd- fuddugol, D. Llewelyn, Treforgan, a J. Thomas, Ffyuon Taf. Adrodd 'Troi'r Cleddyfau'n Sychau goreu, J. Samuel, Treforgan. Araeth ddifyfyr goreu, T. Lewis (Talwyson), Treforgan. Am y penill goreu, M.N., 8 llin. 8au, ar y testyn i'w ganu ar yr un don ac o flaen 4 Wrth gofio'i ruddfanau yn yr ardd;' goreu, T. Jenkins, Treforgan. Darllen cerddor- iaeth ar y pryd buddugol, J. Thomas, Ffynon Taf. Canu deuawd, Howel a Gwen;' goreu, J. Howells a Mrs. H. Howells, Tongwynlais, a chawsant gan- moliaeth uchel gan y beimiad. Can wyd amryw ddarnau yn ardderchog gan Miss Hattie Davies, U.C.W.; Miss C. Davies, Canton; a Mr. O. Davies, Canton. Yr elw tuag at leihau dyled y capel. J. S.
HANES RHYFEDD.
HANES RHYFEDD. —Tcnydig throe it yr. ol f daekhuai i'1 gyiuy«u>K>eth hun, pan ewe is ci.iyT. Y71 ^>lln.>g i weithio sew 5 ml/rvod gan y Dr pay, CLwydd yn f CitS, 'r G- lor. yn euro, Dittyg ary Dwft* ac yr Anndl, Ac. Yr oedd wedi bod u Mwaith yn berchen ar Serm, ord gorfu iddo worthu y cwbl i dalu y doctoriaid, ac yr oedd wedi bod gyda holl feddygwyf gymydog aeth, pa rai a dystiant ei fod yn rhy bell i wellhad. Er yowbl, mi a ddanfonais am eich Pills, sef "Ra hoW Patent Dropsy Pills," a chymerodd dri blychaid o honynt, y rhai a effeithiodd arno i'r fath raddau nes ei allnogi i weithio bob dydd, ac yn teimlo ei han yn boliol gryf, ac yn mawr ddioloh i ohwi am ei wellhad rhyfedd.—B. J. BOWLASDS (BryniogI., National sobodt Dolgelly.
GWELLHAD HYNOD.
GWELLHAD HYNOD. STB,—Yr wyf wedi bJd yn cael fymiioo yn fawr gan y "Dropsy Wynt" am 80 0 flynyddau. Wedi clywed am eich Pills hynod, "Hughes' Patent Dro ay Pills," at y Gwynt, y Dwfr, &o., mi a'u cymer- ftis hwynt; ac yr oedd y rhyddhad II gef. ais ar ol un blychaid mor hynod, fel nad allaf fod yn ddystaw rhag tjstiolaetha i'w daioni, a ohynghorwn bawb yn gryf i'w cymeryd hwynt rhag y Gwynt yn y 1 Cylla a'r Perfedd, Poen yn y Pen ao yn y Cefn, Cariad y Galon, &c. Yr ydyeh at eich rhyddid i wnewd y dofnydd *t fynoch o hwn.—JAKES JOBSS, Dew-street Htive/fordwest. Gwirionedd heb ddim twyll yw'r Tyat- olaethau uChod; os angenrhaid, danfoner at y personau uchod er prawf e'r gwir- ionedd. Y mae
YR HYN A ^LY^WAIS.
Clywais fod cwmni neillduol wedi cyt- ttno a chyhoeddwr newyddiadur Cymreig i gyhoeddi cyfres o ysgrifau yn erbyn y dosbarfch gweithiol, ac mai y tal ydyw eymeryd haner cant o gopiau o'r cyfryw newyddiadur bob tro yr ymddengys yr ysgrifau ynddo-y cyfryw copiau i'w cario i swyddfa y gwaith gan Mr. D. Beth ddywed Twmi'r Pedlar am hyn ? Clywais, uc yr oedd yn dda genyf ei gly wed, fod testeb gafferyddol i'wgwneud lgyhoeddWr eich cydwythnosolyn am yr amddiffyn parhaus a thalentog y mae y eyfryw newyddiadui yn ei roddi i'r gaff- eriaid yn ngwyneb yr erledigaeth lwyn- ogaidd syddarnynt: Twmi'r Pedlar i fod y drysorydd! Mwre! Twmi. NAI Twxfp. PEDLAR.