Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

GOGLEDDBARTH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GOGLEDDBARTH. LLANDUDNO.—Nos Fercher, y 4ydd o'r mis hwn, cyn- naliwyd cyngherdd ardderchog yn yr Assembly Room per- thynol i'r Baths yn y lie hwu, gan Gymdeithas Gynghan- eddol Llandudno Mr. W. Hayden, organydd: St. Sior, yn Ilywyddu. Yr oedd tua 80 o bobl yn bresenol, a dywedir fod y canu oil wedi rhoddi boddlonrwydd cyifredinol, DYGWYDDIAD HYNOD.- Y chydig amser yn ol, cymmer- odd y dygwyddiad canlynol le mewn plasdy nid can milltir o Ruthin. Ymddengys i'r gwr boneddig fyned oddicartref er mwyn ei iechyd, oblegid yr oedd yn teimlo^rn wael er ys tro. Yn fuan wedi iddo fyned ymaith, daeth rhywbeth i flino y bobl yn y plas, ac ofnai y teulu fod y boneddig wedi marw, a bod ei ysbryd wedi dyfod i'w blino. Rhyw ddiwrnod, anfonasant am ddau warcheidwad, y rhai a aeth- ant yno gyda brys, ac a chwiliasant y plas. Yn yr ystafell olaf yr aethant iddi, canfuasant yr ysbryd, yr hwn a ddal- iasant, a phenderfynasant fyned ag ef i'r carchar. Felly aed ag ef trwy y dref, gan ei gario yn eu dwylaw, ac ni welwyd y fath beth yn Rhuthin erioed 0" blaen. Yr oedd cannoedd o'r trigolion yn edrych arnynt yn myned ag ys- bryd i'r carchar. Wedi yr holl lafur, ymdrech, a'r ofn mawr a gafodd y teulu a'r cymmydogion, nid oedd yr ys- bryd ddim amgen na dwy ddalluan !—IORWERTH. CAERNARFON.—Y Wladychfa Gymreig.-Nos Fawrth, Chwef. 10, cynnaliodd y gymdeithas hon ei hail gyfarfod ynjsjoldy Glanymor, pan y daeth lluaws o'r aelodau yn nghyd, ac y cafwyd araeth oleu a gwladgar ar yr achlysur gan Cad fan Gwynedd. Gan fod amrywiaeth barn yn y cyfarfod o barthed i'r wladychfa, penderfynwyd cael ewrdd drachefn ar y 24ain o'r mis hwn, i'r dyben o gael cyfle i ystyried y priodoideb o fyned yn miaen gyda'r anturiaeth, yn nghyd a manteision ac anfanteision Patagonia fel lie i ymsefydlu ynddo. Dadleuir y cwestiynau hyn gan dri o bob ochr. ° TOWYN.—.Nos Lun, yr ail o'r mis hwn, ymgasglodd lluaws mawr i'r lie hwn o'r dosparth defnyddiol hwnw ag sydd yn cyfansoddi rhan mor bwysig yn y gadwen ddynol, sef cryddion, i'r dyben o sefydlu pris ychwanegol ar eu nwyddau, yn ngwyneb y mawr godiad sydd wedi cymmer- yd lie yn y lledr. Cafwyd benthyg ystafell at ddwyn y cyfarfod yn mlaen, yr hyn a wnaed yn rheolaidd a threfn- us, gan Mr. Robert Edwards, College-green. Etholwyd w-i- t, Vau«han> Towyn, yn gadeirydd a Mr. W. Williams, Llwyngwril, yn ysgrifenydd. Gosodwyd y gwa- hanol,benderfyniadau a basiwyd ar y pryd i lawr mewn 12 o benau, fel safon i rodio wrthynt; gan hyny fe fydd pob crydd, yn y ewr yma o'r wlad, fodd bynag, yn dilyn yr un pris, y naill fel y Hall. Gosododd pob un ei law wrth yr hyn a gadarnhawyd ar y pryd, i fod yn arwydd parhaol a diymwad o'u ffyddlondeb i'w gilydd fel brodyr. LLANIDLOES.- Y n eisteddiad diweddafyr Ynadon yn y dref hon, cafodd y personau canlynol eu dirwyo :—Mr. R. Elias, gwlanwr, gan Inspector y Factories, o X12 12s. am gadw suith o blant dan oed yn y weithfa. John Mor- ris, Tafarnwr, New Inn, plwyf Trefeglwys, o 41 a 1 s. o gost, am bump o wydrau yn rhy fachofesur. R. Hughes, LIawryglyn, o jEl 10s. a 12s. o gost, o herwydd fod ei Jwysau yn rhy ysgafn. John Evans, Nantmel, swydd raesyfed, o £ 1 8s. am ommedd talu ceiniog yn Nholl- borth Bryndu. Dyna i'r gwalch taeog geiniog ddrud. Fe ddiangodd boll dafarnwyr a maelwyr y lie hwn y waith hon, a hyny o braidd. Y mae amryw o fasgnachwyr Sion Ieidden, a'r Corn Factors, yn ddigon prin o'u mesur a'u pwysau; ond cyn sicred a bod Tabor yn y mynyddoedd, a Channel yn y mor, fe ddaw awr euhamryfusedd hwythau 1 ben ac i'r golau, oddieithr iddynt ddiwygio yn eu dull o fasgnachu.—GOHEBYDD. BYWTD-FAD POINT AYR.—Mae y tanysgrifiadau er cynnorthwyo y dyoddefwyr yn y ddamwain hon wedi cyr- haedd y cyfanswm o £3,834 9s. 10c. Yn ol yr hanes a gawsom, derbyniwyd tanysgrifiadau fel y can!yn :—Hun. dain, £398 13s.; Llynlleifiad, £2,889 7s. 6ch.; Man- cemion, iCII6 2s. 6ch.; Belfast (Cwmni y Goleu-nwy), *20 Treffynnon, £ 181 10s.; Rhyl, R152 6s. ii GLASINFRYN.—Lladron ac Yspeilwyr.-Drwg genyf hysbysu am ryw ddyhirod sydd yu yr ardal hon vn yspeilio pobl o'u meddiannau. Fe ddygwyd o fferm o'r enw Blaen- ywaen, amryw ieir, a hyny oddiar hen wreigan weddw Hefyd, o Ty'nyffridd, oddeutu 40, rhwng ieir a hwyaid ac hefyd o Dyddyn Heilir. Y mae yr arferiad yn yr ardal er ys amser bellach. Gobeithio y daw y perchen- ogion i wybod pwy yw y dyhirod. BETHESDA. Darlith.—Nos Wener, y 6fed cyfisol, tra- ddodwyd darlith wir gampus, a hyny i gynnulleidfa dra luosog, yn Ysgoldy Glanogwen, ger Bethesda, ar "Natur Eglwys Crist," gan y Parch. E. Lewis, curad Llanllechid. Yr oedd ar ei ddeheulaw y Parch. J. C. Vincent, curad Gianogwen, ac ar ei aswy, y Parch. D. Thomas, ficer Dwy- gyfylchi. Ar ddiwedd y cyfarfod, cyfododd Mr. John Morris, Ffestiniog gynt, i ofyn a oedd caniatad i adolysm y ddarlith; i'r hyn yr atebodd Mr. Vincent, nad He i ddadleu oedd yno, ond mai darlith ydoedd wedi ei bwriadu yn hytrach er addysgu yr Eglwyswyr nag er mwyn dadleu. Dywedodd Mr. Lewis, os oedd rhywbeth yn y ddarlith yn dywyll i rywun, am iddynt ddyfod ato ef yn bersonol, a byddai iddo yntau roddi iddynt bob eglurhad a allai; neu y byddai yn rhydd iddynt gyhoeddi eu hadolygiad ami vn y ffordd a ddewisont hwy. Wedi talu diolchgarwch i'r dar- lithydd parchus, ymadawodd pawb yn dawel a thangnef- eddus.—LLECHIDON. ABERDYFI.—Anffawd.—Chwef. 2, bu merch ieuane, un ar bumthcg oed, o'r enw Jame Hughes, yn agos a cbolli ei bywyd, yn ffermdy Dyffryn Glyn Cul, drwv i'w dillad ymgylymu wrth werthyd y peiriant dyrnu. Trwy drugaredd, canfyddwyd hi gan un o'r gweithwyr, ac attal- iwyd yr olwyn ddwfr yn uniongyrchol, onite buasai wedi ei drylho yn ddarnau. Awd yn ddioed i ymofyn am Dr. Pughe, o Dy PenheJyg, yr hwn a ddaeth yn fuan. Wedi ymchwilio, canfu ei bod wedi tori asgwrn ei morddwvd asgwrn trybeddyr ysgwydd, yn nghyd a dadgymmalu ei phenehn. Rhoddodd asgwrn y penelin yn ei le yn ddioed, ac yna trefnodd yr esgyrn toredig, a gosododd hwynt yn eu hiawn osgo, gan eu diogelu yn ol arfer cejf- yddyd. Er fod y niwed a dderbyniodd mor fawr etto y mae yn dda genym ddywedyd ei bod yn gwellhauyn rha- gorol hyd yn hyn. Dymunem ddirwasgu ar ein darllen- wyr y pwysigrwydd o ymddwyn gyda'r gotal mwy.fpan yn dcfnyddio peiriannau. Gweinidog grymus yw y peir- iant, a ffyddlawn i arweiniad y synwyrol; ond mor fawr yw ei ufydd-dod, fel na syfl ronyn o'r osgo a roir iddo gan y rhai a'i llywydda. RHIWLAS, SIR DDINBYCH.—Nos Iau, y 6fed cvfisol cynnahwyd cyfarfod canu yn Nghapel y Trefnyddion Cal- finaidd yn y lie hwn. Cymmersvyd y gadair ffan Mr T EdWs, Glanogau. Y d,r„a„ J.Lyd Wyddgrag,' IJrwydr y Groes," Y Cyliawn a ,]rig y?y^{' r^ Trewch y Symbal," a "Molwch yr Ar- glwydd. J ychwanegu at ddyddordeb y cyfarfod, daeth pump o lanciau o Dregeiriog yno i gymmeryd rhan yn y ganiadaeth. darnau a ganasant hwy oeddvnt Beth sy'n Hardd," Mordaith," "Mercurial," Llawenydd Merch Seion," Y Bwthyn Mynyddig," a Long Time Ago." Arweinydd y gerddoriaeth ydoedd Mr. John ™ef ^ion.Dd^)- Anerchwyd y gwyddfodolion gan y Mrd. E. Lewis, T. Grifliths, J. Davies, ac ereill. Caw- som gyfarfod tra dyddorawl. » ——————_

BRAWDLYSOEDD Y GWANWYN.

[No title]