Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

ETSTEDDFOD DEWI SANT.

AT " UN O'R GWRANDAWYR."

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…

GWYNLAIS A GWRTHWYNIlB. IADAU…

Y OYMRO GWYLLT A'R GWYDDELOD

DYOHAN V. TUGHANGERDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYOHAN V. TUGHANGERDD. MR. GOL.Y mae ymdriniaeth D. Mor- ganwg, yn eich rhifyn cyn y diweddaf, ac eiddo I. Dyfed, yn eich diweddaf, yn dra diofal. Cynygia y ddau darddiadau an- naturiol ac ysmala iawn ar y gair dan sylw. Y mae ymgais D. M. i ddeillio duchan o du a chan yn ddychymyg asbri meddwl diystyr o natur ffurfiad iaith. Fel yr awgryma I. D., pe tarddai y gair o du a chan, cymerai y gair y ffurf dugan. Ffordd rwydd iawn yw trin geiriau yn null D. M. Dylid cofio nad yw cyffelyb seiniau o angenrheidrwydd o gyffelyb darddiad. Nid oes rhaid i du, drwy'r Gym- raeg, olygu du (black). Nid oes rhaid ych- waith i uch mewn gair olygu uwch. Ym- ddengys eglurhad D. M. i ni yn ysmala ddigon, ond y mae eiddo I. D. yn chwerth- inus mewn gwirionedd. Mwy tebygol yw fod y gair a'i ran fwyaf yn wreiddair-nad du a chan, nad dy-uch-gan, ond tuchan (tuch) yw ffurf eglurol y gair, ac yn golygu achivyn- llafur sur ysbryd anfoddog a chlafychus. Y mae geiriau y cyfryw gyflwr ysbryd yn llym- ion a niweidiol-geiriau gwenwynig teimlad chwerw. Priodola Juvenal ei gynyrhion i deimlad llidus wrth ganfod drygioni a llygredd ei oes, ac y mae ei frathiadau mwyaf creulon yn llawn Ilid a chwerwder. Y tuchan-y surni ysbryd hwn, yw teler awen y fath gy- nyrchion. Nis gallwn ni ganfod gwell tardd- iad i'r gair na tuchan, ac y mae yn llawer mwy tebygol na du a chan a dy-uch-gan. Ymfoddlona I. Dyfed ar y syaiad fod can uchel neu gref yn cydweddu a'r gair satira (gorlawnder neu ormodedd). Anhawdd iawn yw dweyd beth yw ystyr satira. Golyga saturitas lawnder, digonedd, nid gorlawnder na gormodedd. Golyga satura ddysglaid o amrywiol ffrwythau a offrymid i'r duwiau, a dywedir mai y rheswm y gelwid y duchan- gerdd yn satira oedd am y defnyddid amryw- iaeth mesurau yn ddiwahaniaeth ynddi. Gelwid cyfraith o amrywiol adranau yn lex satira neu satura. Y mae I. D. wedi cy- mysgu satira a saturitas. Felly, y mae gair oedd yn golygu amrywiaeth mesur ar y cyntaf wedi troi i gynwys nodwedd feddyliol y cyfan- soddiad, sef chwerwder neu lymdra. Yr un modd y ceir comical, sydd yn golygu yn wreiddiol pentrefol-y pentrefol wyliau hyny yn mhlith y Groegiaid ag y byddai pawb yn llawen a difyr ynddynt-yn bresenol yn gyf- ystyr a chvoerthinus. Ond mwy na thebyg yw mai gweddillion y chwareuaethau Satyr- aidd yw y satira-y gair wedi myned dan ychydig gyfnewidiad i gyfateb llythyreniaeth y Lladin. Cymeriadau oedd y Satyri yn y chwareuaethau yn debyg i gymeriadau Twm o'r Nant, yn dal i fyny gerbron y werin ffaeleddau dynion cyhoeddus a chyfrifol cym- deithas, a'u gwneyd yn aberth i ffraethebion a chellweiriadau gwarthruddol a didrugaredd. I-Yr eiddoch, D. R. Ion. 21ain, 1881.

TUOHAN, DYGHAN, DUOHAN.

[No title]

Advertising