Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
IF OR PUW O'R EENBLAS: NEXT…
IF OR PUW O'R EENBLAS: NEXT Y Cymro Llwyddianns yn un o Drefydd. Lloegr. AT Y DARLLEFYDD. Anfonwyd y Ffuglianes canlynol i gystadleuaeth Eisteddfod Gordofigion Liverpool a Birken- head, Dydd Nadolig, 1876. Cyhoeddwyd hi yn ail oreu a'r prif fai ynddi ydoedd ei bod 'yn cynwys gormod o gelwydd. Nid ydyw yr awdwr am honi mai ei gyfansoddiad ef ydoedd y goren, ond creda nad ydyw yn cynwys y cyhuddiad a ddyga y beirniac1 i'w erbyn. Gan obeithio y gwna les moesol i feddyliau darllen- wyr lluosog y GWLA'DGARWR,—YR AWDWR. I. YN un o ddyffrynoedd mwyaf hynod a rhamsntus Cymru, ar y dydd cyntaf o EbriH, y ganwyd Ifbr Puw, unig blentyr; Howel a Gwen Puw, Tyllwyd. Tua thri mis cyn geni I for, cafwyd (i dad, Howel Puw. wedi marw, a hyny mewn rcoud tra anc-isgwyliadwy ac amheus; ae felly yr oedd Gwen, Tyllwyd, yn weddw pan y llawenychodd ei cbalon c-herwydd geni dyn i'r byd. Ond buasai ci sirioldeb yn gryf- aJh pe buasai Howel, priod hoff ei mynwes, yn fyw i gydlawenhau a hi. Ond gor- weddai ef yn dawel a digyffro yn hen fyn went Llandyfyriog, 'gan adael Gwen yn werldw ieuanc i alaru am ei dirfawr golled. Deuai y cymydogion i'r Tyllwyd y boreu hWDW er cyfarch gwell i'r fam am mai bacbgen oedd y newyridanedig, gan y tyb- ieIJt fod gevi merch ar y dydd cyntaf o Ebrill yn arwydd sier o aflwyddiant a thr.allod, tra yr oedd jjpni barbgen yn brawf diamheuol o fawredd a llwyddiimt. Lluosog oeddynt y chwedlau a adroddwyd y boreu hwnw er cadarnbau eu tybiau. Gadawyd Gwen ar adeg marwolaeth ei phriod mewn amgylchiadau eysurus. Yr cedd Howel drwy ei ymdrech a'i ddiwydrwydd cyn ei briodas wedi erynhoi swm gweddol wrth ei gefn, yr hyn a fu yn gymhorth iddo ar ol priodi i gael y trechaf ar y byd; ac yn ystod yr ychydig amser y buont yn cyd- ddwyn yr iau, ychwanegasant at eu golud i'r fath raddau fel yr cedd yn eitbaf amlwg y buasai par ieuaicc Tyilwyd yn dyfod yn fuan yn gyfoethog iawn. I Yn mhen tri diwrnod wedi geni Ifor, daeth y newydd i'r Tyllwyd fo 1 Morgan yr Henblas wedi marw, Hen gymeriad hynod ydoeddjMorgan. Hen lane, fel y dywedir, ydoedd, ac rd fu neb erioed yn teimlo yn fwyeiddigeddus dros yr urdd hen-laneyddol; a dywedir fod ei gasineb gymaint at y rhyw deg fel na ddarfu i'r un o ferehed Efa groesi rhiniog yr Henblas fel morwyn yn ystod ei oes. Tebygai ei got o ran lliw i siaced Joseph a phan yn ddamweiniol y d; gwyddai gyfarfod a rhwygiad disymwth, yn hytrach na gwastraffu ei ariftn ar y pethau bychain afreidiol a elwir nodwyddau, gwnai ddefnydd helaeth o ddrain y berth er dwyn y darnau gwahanedig i undeb a pherthynas agosach a'a gilydd. Ni cheid un amser lanhau ei esgidiau, am y byddai hyny yn beryglus i ysi;-o ei es-ieirlau crin- il Ilyd a g\v- wed g. Noswaith y cafwyd Howel Puw yn farw, seth y si allan fod yna lawer o arian wedi eu colli o'r Henblas, ac fod cynwysiad yr hen goffr mawr, y sonid cymaint drwy y "wlad am danr. wedi ei ddxrya ymaith. Dywedai traddodiad fod Morgan wedi cynyg yr hen goffr i ddau o'r dynion cryfaf yn v piw;,f, ond iddyut ci g?mo i ben Mod y- Bwch, EC iddynt, arol ymdreeh galed, fethu a'i syflyd. Beth byriug am hyny, er fod yr hea ForgiHl wedi ei fendithio a chyfan- soddiad cawrfiluidd, gwywo a gwaethygu a wnaeth, fel yn mhen tri mis yr oedd y corff cadarn, yr hwn oedd wedi dal ystormydd a chroeswyntoedd triugain a phump o auafau wedi ei dd wyn yn ysglyfaeth i bryf y bedd. Gan mai Gwen, Tyllwyd, oedd ei berth- yeas agosaf, daeth yr Henblas yn nghyd a'i holl gyfoeth i'w rhan. Ond nid oedd y cyfryw yn agos gymaint a'r bya a dybid oedd yn ei feddiant. Yn fuan wedi marw- olaeth Morgan, symudodd Gven i'r Hen- blas; ac fel Gwen o'r lienbias yr adwaenid hi o hyny allan. Gwenodd ffawd ami, a daeth ffurfafen ei hamgylchiadau yn ddi- gwmwl. II. Dywedir fod gan olygfeydi natur ran hebictb er rhoddi ffurf i agweddiad y meddwl ieuanc, Os mai mewn gwlad wastad, ffrwytblawn, baradwysaidd, y dad- blygir athrylith, tynerwch a swyn fydd ffurf ei gwisg; ond os mai yn ngwlad y creigiau a'r mynyddau, caftref yr ystorm a'r melit,-beid "gar %,ch a gwroldeb fydd ei neillduolrwydd. Efalki nad oes yr un lanerch yn ein gwlad lie y ceir cyfuniad mwy hapus o'r prydferth a'r mawreddog na dyffryn Llawmant. Ar ei fynwes ceir y gweirgloddiau breision yn dwyn y gwenith melynwawr, ac yn llawn o'r perllanau ffrwythlon a'r rhosynau prydferth. Yn ei furio ceir y mynyddau a'r creigiau cedyrn, ar byd ochrau serth y rhai y dringa y 4iefaid a'r geifr, ac ar gopaau pa rai y nos- wylia yr ystorm, Res y deffroir hi gan ys- grechiad gorpbwyllog y dymhestl groch. Yn nghanol y golygfeydd hyn yr agorodd Ifor ei lvgaid, ac y treuliodd flynyddoedd cyntaf boreu oes. Ac 0, gyfnod dedwydd blynyddoedd bachgenaidd, pan yr oedd y meddwl heb ei lethu gan y byd a'i dra- fferthion'a'i ofidiau-paw b ar eu heithaf yn talu gwarogaetb i ymerawdr y teulu ac 0, fel bydd yr holl filwyr amddiffynol yn gwylio oddiamgylch y gwron pan yn rhoddi y cam cyntaf; a phan y waith gyntaf erioed y cyflawnir yr orchestgamp o groesi cyfan- dir mawr yr aelwyd, tardr yr holl fagnelau er anrhydeddu yr amgylchiad pwysig Dygwyddodd fod holl deulu yr Henblas yn wyddfodol pan wnaeth Ifor y daith bwysig hon y tro cyntaf, ac nid oes eisii u hysbysu fod yno lawenydd y noswaith hono. Un o'r pethau cyntaf y cofiai Ifor am dano ydoedd ei fod yn myned yn llaw ei fam tua hen frnwent Llandyfyriog, ac yno, wrth ochr hen ywen wylofus, penliniai ei fam ar fedd, gan blanu blodau ar ei fynwes oer, a'u mwydo a dagrau brwd ei bran, ac yn dywedvd mewn llais calon-rwygol wrth Ifor,—"Dyma fedd tada Ifor bach." Ychydig feddyliai Ifor y pryd hwnwam gVDwysiad yr ymsdrodd, sef fod tada Ifor Bach yn ei fedd. Er hyny, o'r adeg hono allan teimlai ryw barch cysegredig at "fan fechan ei fedd." Er nad oedd Ifor wedi gweled gwedd na chlywed llais yr hwn a gysgai farwol hun yn ei fynwes, eto an- wylai y fangre, ac yr oedd ei flodau a'i laswellt yn fil harddach yn ngolwg Ifor na boll flodau a glaswellt y greadigaeth. Ond dyna oedd yn dyrysu Ifor, fod tadau plant ereill yn dyfod adref bob nos, gan eu caru a'u hanwylo; ond beth a allasai fod y rheswm fod ei dad yn aros cyhyd cyn codi a dyfod. Un noswaith, pan wedi dyfod adref o dy cymydog, gofyrtai i'w fam gyda sydynrwydd a difrifwch,—" Mam," meddai, pa bryd y daw 'nhad adref i mi ei weled a chael cusan ganddo ? Wedi i Gwen gael amser i adfeddianu ei theimladau. dywedodd fod boreu yn dyfod pryd y cawsai weled ei dad-fod yna ddiwrnod pan y "byddai y meirw oil yn dyfod o'u beddau i gyfarfod a'r Barnwr yn yr awyr er derbyn y ddedfryd o'i law, ac fod plant da yn cael myned at Iesu Gaist i'r nefoedd, ond fod plant drwg yn cael eu hanfon i'r tan tra- gywyddol. Yn nghanol y meddyliau hyn cysgodd Ifor, a buan y dechreuodd freudd- wydio gweled ei dad yn dyfod adref, gan ei godi ar ei lin, ei anwylo ai gusanu ae 0, y fath lawenydd a lanwai ei galon pan yn canfod ei hun yn mynwes ei dad-teimlai ei fod y dedwyddaf ar wyneb y ddaear; ond Och! y fath siomedigaeth a deimlai boreu dranoeth pan yn canfod nad oedd ei dad yno. Gan nad oedd yr Henblas yn mhell oddiwrth yr eglwys, ac fod ffenestr yr ystafell lie y cysgai Ifor yn gwynebu ar y fynwent, y peth cyntaf a wnaeth dra- noeth ar ol codi o'i wely ydoedd edrych tua'r bedd ond canfyddai hwnw megys cynt heb yr arwydd leiaf fod ei breswylydd wedi aflonyddu arno. (I'w barhau.)
Mr. Gladstone a Syr H. Elliott.
Mr. Gladstone a Syr H. Elliott. Yn y Times yr wythnos ddiweddaf, ym- ddangosodd gohebiaeth a gymerodd le rhwng Syr H. Elliott' a Mr. Gladstone. Ymddengys ddarfod i Syr Henry yn un o'r bryslythyrau at y Llywodraet^, daflu allan awgrym fod y gred yn Nghaercystenyn fod Mr. Gladstone yn un o'i areithiau wedi datgon mai yr unig ffordd iddelio a'r Twrc yw ei yru allan o Ewrop. Codwyd hynv i ifr. Gladstone yn Nhy y Cjffredin y dydd arull gm Syr Stafford Northcote. Y mae yr arwr o Hawarden yn galw Syr H. Elliott i gyfrif, ac yntau yn ceisio ateb mewn llythyr egwanllyd Atebwyd hwnw gan Gladstone yn ei ddull nerthol ei hun, ac YEa daeth rhyw bwtyn byr o I)thyr oddiwrth Elliott yn dweyd nas gallai fyned i ddadl bellach ar y mater. Yn ol .pob peth a fedrwn gasglu, y mae yn dra sicr fod ymddygiad llysgenadydd Prydain yn Nghaercystenyn wedi bod yn lasdwraidd a Slsonbobochrog iawn. Pan fyddai Argl. Salisbury yn taranu yn nghlustiau y Porte, dy na lie byddai yntau, Elliot, yn cynffoni wrth odreu y Sultan a'i swyddogion, ac yn djlanwadu yn wrthwynebol i ymdrechion didderbynwjfeeb Salisbury. Y mae prif bapyrau Llundain yn cadarnhau mai fel yna yr ydoedd.
Twrci a Rwsia.
Twrci a Rwsia. Ysgrifena gohebydd y Times o "Widin, dyddiedig Chwef. 22ain, fod catrodau Osman Pasha yn ymdrefnu rhwng "Widin a Saitshar, a'u bod yn gynwysedig yn bresenol o 63 corfiiu o draedfilwyr, dwy gatrawd o feirch- filwyr a 78 o faes-ynau. Y mae 30 o'r catrodau hyn yn rai Asiaidd, a cbyrhaedd- asant yno ychydig wythnosau yn ol trwy Gaercystenyn. Y maent oil wedi eu barf ogi a'r Martini Henry rifle. Dywedir fod llawer o farwolaethau yn cymeryd lie yn eu mysg. Credir, os tyr rhyfel allan, y meddianir Katafat gan y Tyreiaid, ac y mae 5,000 o ddynion yn ddyddiol mewn llawn waith ar amddiifynieydd Widin. Dywedir, os cymer rhyfel le, fod 15.000 o Cireassiaid yn barod i ymuno a chatrodau y Sultan. Gtwneir darpariadau mawrion hefyd gan y Rwsiaid, fel, a chyfrif pob peth at eu gilydd, os na ddaw rhyw dro baan, y mae yr arwyddion yn gryf mai ei hymladd hi woa. y Twrc a'r Rwsian. Y mae byddin Rwsia yn anferthol fwy mewn rhif a nerth 'nag eiddo y Sultan, ond y mae gan y Twrc well llynges. Y mae ganddo ar hyn o bryd ugain o longau rhyfel haiarn, y rhai a gafodd yn benaf trwy arian a fenthycodd o Loegr. Paham na chymeirai barnwyr y ddaear ddysg, ac na wrteithiant fesurau heddweh yn lie astudio crefft wyllt waedlyd rhyfel. Os yn mlaen y chwythir fflam rhyfel, bydd hwn yn debyg o fod yn ryfel lie yr aberthir canoedd o filoedd o fywydau.
Cystadleuwyr Cerddorol ,ein…
Cystadleuwyr Cerddorol ein Heis- teddfodau. MR GOL.,—Y- mae amryw sylwadau wedi ymddangos yn eich pspyr yn ddi- weddar mewn perthynas a cnystadleuaeth eisteddfodol, yn nglyn a'r hyn y mae enw yr >sgrifenydd wedi digwydd cael ei ddef- nyddio. Yr wyf wedi derbyn nifer o awgrymiadau mai doeth fyddai i mi wneyd sylw o'r mater—rhyw fath o declaration of policy. Wel, yr wyf fi erbyn hyn wedi hen ddysgu gadael rhwng. "tweerile-dee" a tweedle-dum a'u gilydd ar faes ein newyddiaduron, ae yr wyf hefyd yn methu canfod fod unrhyw ddyledswydd neillduol arnaf i hysbysu pa beth a wnaf, neu a ni wnaf, gan gymeryd y "cue" oddiwrth atebiad Mr. Gladstone i poor Chaplin,- "mi a ddywedaf wrthych rywbeth, a hyny yw, ni ddywedaf DDIM." Ond gan y gwn mai eyfeillion sydd yn ymdrin a'r pwnc, a'i fod hefyd yn bwnc ag y gallai daioni ddeillio o ymdrin ag ef, efallai y caniatewch i mi ddweyd yma fy mod er's blynyddau beilach wedi ymgadw rhag cystadlu, oddieithr o dan amgylchiadau neillduol, pa rai a nodir yn nes yn mlaen. I raddau pell, eithriadau oeddynt anthemau Merthyr y llynedd. Y mylent yn agos iawn ar diriogaeth y man-wobrau; hyny yw, man wobrau y cyfansoddwr cerddorol, poor dab Serch hyny, yr oedd a fynai Rosser Beynon—enw a choffadwriaeth pa un sydd yn anwyl gan bob cerddor Cymreig-a hwynt, ac ystyriwn y byddai eymaint a hyny o deyrnged oddiwrth gerddorion ieuainc yn eithaf peth i'r beirniad, y Parch. E. Stephen, yn ngwyneb y cold shoulder a fynai rhyw ychydig fodau clicyddol droi ato am ryw ddaliadau neu weithrediadau. polit;eaidd o'i eiddo. Nid oes angen sylwi ar Wrexham, gan fod yr eisteddfod yno yn un genedlaethol, nac am eiddo y Bala a Threherbert, gan fod y beirniaid yn brif rai (Ieuan Gwyllt ac Eos Rhondda), y geiriau yn dda (yr Ysgryrhyr Lan a Mynyddog), a'r gwobrau yn deilwng. Yr wyf yn credu, ac wedi bod yn credu er's blynyddau, y dylai ein prif gerddorion dynu'r llinell" yn nglyn a'r pethau hyn. Gwrthun a gresyn o beth i gerddor a enill- odd lawer i wobr genedlaethol, cyn i'r vsgrifenydd roddi un nodyn anwyl" o'i eiddo ei hun ar bapyr, gystadlu am chweugain o wobr, ac hwyrach o dan feirn- iad trydydd radd; ac yn annibynol ar wrthuni y peth, y mae yn annghyfiawnder a'r cerddor ieuane ag sydd yn ymdrechu mor galed i ddringo i fyny. Gall y cerddor profiadol mewn un boreu ysgrifenu dwsin o donau cynulleidfaol, ac mewn prydnawn anthem neu ganig a enilla wobr o bwya, tra y byddo y decbreuydd ieuan*, er yn dalentog, yn ffurfio melodeg briodol ton fechan o bedair lUnein Eiddo v rbi bychain—ond eto pwysig-hyn yw y man wobrau^ a thra y parhao ein prif gerddorion —rhai ohonynt, o leiaf—i gvstadlu am bob gwobr fechan, ar bob testyn, ac o dan bob tipyn o feirniad. fe bery ein pwyllgorau i gynyg man wobrau, testynau dwl, ac i dderbyn gwasanaeth dynion nad oes gan- ddynt yr hawl leiaf i feirniadu. Na feid- ylied neb fod yma sour grapes i'r ysgrifen- ydd, canys y mae efe wedi llwyr olchi ei ddwylaw oddiwrth yr holl fusnes a phe gallem lwyddo i gael gan bob beirniad a chyfansoddwr o bwys i ymuno, fe suddai yr hyn a gamenwir yn eisteddfodau i'r dinodedd, y gwarth, a'r diddymdra a deil yngant, ac yn eu lie ad-dyfai yr hen sef- ydliad gogoaeddus yn ei burdeb a'i urddas- olrwyddd cynhenid. Yr wyf wedi ymhelaethu mwy nag a fwriadwn wrth gychwyn, ond nid wyf yn eich trafferthu yn fynych, ac efallai y bydd fy sylwadau brysiog o ryw fudd i'r hyn sydd yn agos at galon llawer ohonom, set' cerddoriaeth ac eisteddfodaeth bur. Chwefror 24. D. EMLYN EVANS. O. Y.—Y mae Gohebydd Llundain yn galw sylw at fater cerddorol arall o bwys. Y mae i layman galluog fel efe i drin y mater yn llawer doethach nag a fuasai i unrhyw un "within the pale of the profession."
[No title]
"SAMSON."—Mae pob rhagolygon y ceir cyngherddau llwyddianus yn Aberd&r, y Grog- lith j ao yn Nghasnewydd, LlunyPasc. Mae yr amean yn un teilwng o nawdd.
Llwynog y Daren.
Llwynog y Daren. Mr. GOL.Hiliogaeth o bobl ap bender- z, fynol yw yr helwyr ar ol iddysst wneyd am- ryw helfeydd aflwyddianus ar ol yr un llwyn- og, nid ydynt yn hidio dim, ond carlamant bant a bryn eilwaith ac eilwaith mewn yrn- chwil am yr un ffalsyn; ac odid fawr nad diwedd madyn a fydd colli ei gynffon. Er ein bod wedi cael un helfa dda ar y Llwynog uchod o'r blaen, ac er ei fod wedi ein blaenu i'r daera," penderfynwyd y caw- sai wneyd y goreu o'i draed unwaith yn ych- waneg. Nid oedd o gymaint gwahaniaeth genym pa un a fuasem yn ei ddal neu beidio, ddim ond i ni gael y pleser o'i weled yn ffoi am ei fywyd, fel "Llewpart a dart yn ei Clywsom fod Jaci o'rPelin, neu yn hytrach y Gwyddel Cymreig, yn chwerthin yn iawn, oblegyd i'r Llwynog ddianc arnom y tro .Y diweddaf. Chwardded yn mlaen, ninau a ddaliwn yn mlaen i hela, ac os na fydd i ni lwyddo i ddal, ni cha hiliogaeth madyn lawer o heddwch, a bod yn sicr. Rhyfedd fel y mae Jaci o'r Felin yn hoffi'r Llwynogod. Dywedodd Sioni Meirion yn marwnad rliyw- un fod Fod yn yr un diddysg ryw gymysg o gi." Rhyngoch chwi a minau, Mr. Gol., pe bae cynffon gan Jaci o'r Felin byddai yn fwy na haner Llwynog. Ond i ddechreu ar hanes yr helfa. Cychwynwyd fel o'r blaen tua Chraig y Cap. Yr oedd y cwn mewn awydd am waith, a chwareu teg iddynt nid oes un madyn a wna wawd o honynt, ddim ond iddo beidio cilio i'r "daera." Nid oes gwr o helwr hylon A wyr gyrhaedd eu rhagorion, Na char adrodd gwych wrhydri Y cwn enwog, mewn can i ni; Foreman, Truly heiny', hynod, Rambler, Warrior, mai eryrod, Ar ol profi traul y pryfyn Gamester llwyd a gwyd ei gudyn. Pan oeddym o fewn haner milltir i Graig y Cap, tarawodd y cwn y traul, a ffwrdd a hwy H yd y glynau, bryniau, bronydd, A thrwy dewion, wylltion, elltydd Seiniau'r cwn a swynai'r cynydd, Tra eu miwsig trwy y meusydd Yn cyniwair fel can newydd. Tynwyd y traul yn groes i'r Mynydd Bach i'r Fforch Don, ac oddiyno yn ol heibio Blaen- c-vmboy, a phan o fewn ychydig i'r Prince of Wales dyma hi yn "daliho Gwnaeth madyn y goreu o'i draed i fyny i Heol Jen- kin, a'r cwn a ninau yn gyru ar ei ol yn ddi- bardwn. Collwyd ef ar unwaith yn ymyf ty Lewsyn Nantycadno. Ar ol myned yn mlaen am dipyn, dychwelwyd i ymyl ty Lewsyn, a chafwyd "recover" arno. Yr oedd wedi ym- guddio yno, ond gorfu iddo osod ei draed yn y tir eilwaith yn ddiseremoni. Treiodd ddianc i'r daera" lie y ciliodd y tro diweddaf, ond yr oedd Shon Rhydygwreiddyn yn sefyll ar y twll, felly siomwyd ef y waith hono. Ymaith ag ef wedy'n, a'i drwyn tua chyfeiriad Aber- dar, a chyn pen nemawr amser yr oeddym yn gyru ar ei ol dros bont Aberaman ac yn ol ei gyfrwysdra arferol fe drodd i lawr gyda chornel y bont i ochr yr Aman, ond ar ei ol yr oeddem yn gyru, gan nad pa ffordd yr elai, a swn y cwn fel clycliau arian yn diaspedain y dyfiryn. Whoop Hard to, Foreman, gawr. Whoop Ni cliiywyd gwell hela er- ioed nag oedd arno heibio i'r Gasworks, dan bont y Gwr Drwg, ac yn groes i ymyl pwli Williams. Dyna lie' yr oedd yr engineer yn ei hwyliau, yn chwifio ei het, ac yn anog y cwn—swn eu miwsig wedi ei ddotio, ac ad- gofion am fytheuaid sir Benfro yn llanw ei feddwl. Oddi yno yn ol, drachefn, heibio hen feudy Williams y Pant, dros dip pwll y Plough, ac i lawr i'r Taff, a buom bron dyfod i helbul flin yma gan i'r tren ddod heibio ar y pryd, ond diangodd y cwn oil yn ddianaf. Yr oedd swn y cwn, debygwn i, wedi peri cyffro mawr yn mhlith y teithwyr,. a chredais i mi weled pen Eos Dar, a chlywed ei lais clasurol yn y pellder yn adseinio Tally ho." Allan o frenestr fourth-class carriage, hefyd, dychymygais i mi weled yn hongian benglog un o feirdd y "pentre," ac am ei wddf oedd cwd eisteddfod (yn cynwys, feallai, y wobr ail oreu am y farwnad yn Eisteddfod Iforaidd Gwyl Dewi Sant). Ond, bellach at yr helfa. Gyrwyd oddiyma i fyny gyda thaJcen 'stablau Woodward. Yn y fan hon dyma hi yn "Hot" Credai rhai ei fod wedi troi ei drwyn yn ol tua'r Cap, a dywedai rhyw grytiaid eu bod wedi ei weled yn ei heglu hi tua chyfeiriad Pen Canel; ond pan oeddym mewn penbleth, dyma hi yn recover" eilwaith, a chredai preswylwyr Aberaman fod penau eu tai yn myned yn deilchion gan swn y cwn a'r hel- wyr. Ond pan ar gyfer masnachdy yn Heol Lewis, collwyd y Llwynog ar unwaith. Er treio a threio, a chwilio a chwilio, am gryn haner awr, methwyd a'i dynu un fodfedd oddi yno, a thyngki yr hen Lansefin fod y ddaer., wedi ei lyncu Nid oedd dim i'w wneyd end gadael iddo y fan hono. Aethom i'r Swan i adnewyddu tipyn ar ein hysbrydoedd. Bachgen ffamws yw Tom Rees a boneddiges ffamws yw Mrs. Rees-dynion "piwr" of nad wy ydynt—cawsom gysta.1 tamaid o fara a chaws, a cbystal llymaid o ddiod ag a brofasom erioed a byddwn yn sicr o gael helfa arall ar y Llwynog, er mwyn galw heibio yn y Swan. Yr oedd yn digwydd bed yno ryw hen lymeitwr a chyfran helaeth o waed' heliwr yn ei wythienau, a chawsom ganddo amryw chwedleuon doniol am rai o driciau y Llwynog hwn, ac yn mhlith pethau ereill dywedodd y rheswm paham oedd yn cadw ymaith mor ofalus o'r Mount. Pan yn y lie hwn clywsom fod un o Lwynogod bychain y Daren wedi myned ar goll, ar farn gyffredinol yno oedd fod rhyw amryfusedd rhyngddo a'r teulu llwynogaidd, cyn y buasai yn absenoli ei hun mor ddisymwth. Clywsom hefyd fod Jaci o'r Felin wedi bod yn dangos ei ddanedd i ryw hen Lwynog a fu mor hyf a chymeryd meddiant o wal y Llwynog bach ond gorfu i Jaci adael llonydd i'r hen Lwynog hwnw, rhag ofn y cawsai deimlo ei ddanedd yn ei dabernacl. Rhwng pobpeth y mae yn amser pur sobr ar Jaci; a thra y bydd y ewn hela a ninau mewn bodolaeth, ac iddo yntau bar- hau mor llwynogaidd, nid ydym yn barnu ei fod wedi gweled-haner ei ddyddiau blin eto. Y mae dau neu dri o Lwynogod bychain wedi eu gweled tua Chwm Rhondda a'r Maesteg. hefyd, ac os na Iwyddwn i ddal yr hen Lwyn- og ar fyr, bydd i ni dreio beth a allwn wneyd o'r whelps. Cymaint a hyna y tro hwn. ETWART YR HELIWR.
Breuddwyd.
Breuddwyd. A mi yn gorphwys un prydnawn ar es- mwythfainc, teimlais ryw drwmgwsg yn fy ngoddiweddyd, a buan yr ymollyngais i freichiau Morpheus; a thra yn y cyflwr hwnw gwelais weledigaethau mawrion. Tar- ewais yn sydyn ar Llyfnwy tra yn ymlwybro un o ystrydoedd dinas hynafol Philadelphia, yn dwyn ar ei gefn faich trwm, ac wedi ysgwyd Haw deallais ei fod yn gwerthu ail 7 argraffiad o'r Cupid.. Y siarad cyntaf oedd ymholiad pa sut yr oedd pethau yn yr Hen. Wlad. A mi yn ateb, dywedodd ei fod yn hyderus am weled Mabonwyson wedi dyfod drosodd, am fod yr Amerig yn tra rhagovi ar Gymru am foethion a danteithion. Wedi cyrhaedd ohonom y Gwesty Cymreig ar Ian y Delaware, dyma genad gyda'r pellebyr oddiwrth yr Arlywydd Grant yn dweyd am i Tlilyfnwy frysio tuag Efrog Newydd i gyfar- fod Eryr Morganwg, yr hwn oedd ar daith fel cenad heddwch i'r Black Hills i drefnu mater- ion lieddychol rhwng yr Indiaicl a'r dynion gwynion. Da iawn, meddwn. Amen ar y mater. Ond pan ddeffroais a gweled y cwbl yn ysgrifenedig, teimlais ar unwaith nad oedd y cyfan yn ddim ond breuddwyd. Yn nghanol y tryblith ar y bwrdd cefais y llin- ellau canlynol, a rhaid fod y cwbl yn perthyn i'r breuddwyd, fel nas gellir gwneyd yn well na'u cyflwyno yn ostyngedig i sylw amynedd- gar y darllenydd. Un rhyfedd ydyw cwsg,. onide ? a rhyfeddach fyth y gweledigaethau a gawn pan o dan ei ddylanwad oblegyd pwy feddyliodd erioed y buaswn i yn breuddwydio fy mod yn yr Amerig. Wn i cldim pwy ydyw awdwr y penillion,. ond mae y llawysgrif yn debyg iawn i eiddo cyfaill o Tonypandy a gall fy mod yn »y wir, gan ei fod yn lleoli y cysylltiadau yn weddoi eglur, ac yn adnabod beirdd y Bont. Wele y penillion :— Ai gwir y newydd geir yn awr Am erch gollodion Pryd via Fawr, Fed bechgyn y talentau mawr 1"n morio i'r Amerig ] Os gwir y gair, bydd Cymru'n 11 wm 0 Bontypridd hyd Blaenycp/m 1 Adseinio wna, y newvdd trwm Am golli Hen Felinydd. Fa farw'r Fellten, folly aeth Y gwr adeiniog hwn i'w daith, Am nad oedd iddo mwyach waith Yn Merthyr fel Melinydd. Mae'r peth yn wir amhens i mi; Carnelian Fardd, a wyddost ti Am Eryr mawr oedd gyda chwi A foriodd i'r Gorllewin 1 Ar garlam rhed, er gwybod hyn, A galw gyda Dewi Wyn, Ac eilwaith gyda Mab y Bryn Ymhola am yr lieiynfc. Fe ddichon y gall Homo Ddu Roi gair neu (idau ar hyn i ti, cl Am rywun wedi croesi'r lli' Am gyrau y Gorllewin. Os na ch"\vn air o hynt y brawd, Bydd raid ymholi am ei ffawd, Rhag dygwydd iddo fod yn dlawd A gwael yn y Gorllewin. Cwtogir y penillion y tro hwn hyd ryw adeg yn y dyfodol. HEN GOLFYN 0 GRAIG Y GILFACH.
Advertising
RH YBUDD.—Y mae Mri. Reckitt a'i Feibion wedi dewis y ffurf pedair-onglog i wneyd eu Paris Blue, a hyny oherwydd fod cymaint o liwiau glas gwael yn cael eu gwneyd yn fodiau, peleni, phow- dwr; ond eto, y maent yn gorfod rhybuddio y cyhoedd yn erbyn mathau gwael o liw glas sydd yn cael eu gwneyd o'r un ffurf, yr hwn a werthir oherwydd yr elw ychwanegol a geir trwy hyny. Gofaler, gan hyny, am gael y Pans Blue pedair- onglog, yn dwyn enwau I. REOKITT A'I FEIB- ION yn nghyda'r arwyddnod masnachol, 1441.