Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

LLANIDLOES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANIDLOES. Yng nghapel M.C. Heol China, cynhaliwyd nos Iau yr 16eg cyfisol, am 7.30 o-r gloch, gyfarfod coffa- dwriaethol am y milwyr ag sydd o'r dref a'r gymyd- ogaeth wedi syrthio dros eu gwlad yn ystod y Rhyfel hon. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. T. Davies, gweinidog yr eglwys. a'r Parchn. William Evans (A.), a J. J. Young (B.). IRoedd trefn y gwasan- aeth fel a ganlyn :—Canwyd i ddechreu'r emyn, Our God, our help in ages past," yna offrymwyd Gweddi'r Arglwydd gan y gynulleidfa. Wed'yn, cafwyd anerchiad (yn Saesneg) pwrpasol i'r amgylch- iad gan y Parch. J. T. Davies. Ac wedi'r anerch- iad gofynodd i'r gynulleidfa godi ar ei thraed, a galwodd enwau'r dewrion oeddynt o'r ardal, wedi rhoi eu heinioes dros eu gwlad :— Capten Edward W. ILloyd Jones, 1/7 Batt., R.W.F., syrthiodd ym mrwydr Suvla Bay, Awst 10; Lieut. E. A. P. Grant, 1/7 Batt., R.W.F., syrthiodd ym mrwydr Suvla Bay, Awst io; Private J. B. Mills 1/7 Batt., R.W.F., syrthiodd ym mrwydr Sulva Bay, Awst 10; Sergeant A. Albert Rowley, 1St Batt., R.W.F., bu farw o'i glwyfau Awst 8; Private Thos. Dykes, South Wales Borderers, syrthiodd ym mrwydr Marne Private Thomas Hatherjy, syrthiodd yn Ffrainc. "Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef bod i un roi ei einioes drosi ei gyfeillion." Yn neisaf canwyd "Bydd myrdd o ryfeddodau," ac wedyn darllenwyd gan y Parch. W. Evans, Salm 103, a chanwyd, "Jesus, Lover of my soul, a gweddiwyd yn Gymraeg gan y Parch. W. T. Ellis, a darllenodd 1 Cor. xv. 20. Yna canwyd, "I need Thee Oh, I need Thee," a gweddiwyd yn Saesneg gan y Parch. J. J. Young. A'r gynulleidfa yn sefyll .;ar ei thraed chwareuwyd y Dead March ar yr organ. Diweddwyd' irwygyhoeddi y fendith apostolaidd. Yr oedd cynulleidfa fawr yn v capel, ac ymh:ith y dyrfa, gwelsom y Cyrnol David Davies, A.S., Llan- dinam, Mrs. Edward Davies, a'r Misses Davies, Plas Dinam, Mr. a Mrs. J. Lloyd Jones, a Lieut. Ieuan Lloyd Jones a 'Mrs. John Owen Caer. Yr oedd yn gyfarfod neilltuol ei urddas a'i naws ddefosiynol. O leiaf dyna'r dystiolaeth ddygir iddo gan bawb oedd yn bresennol.

Advertising

Advertising

MANCOTT.

..0..-...,-"-'---.-Y GOLOFN…

GOHEBIAETHAU.