Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

- Belrniadaeth.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Belrniadaeth. AWDLAU GOBAITH,"—EISTEDDFOB Y PASG, LLANGEFNI. TAIR awdl ddaeth i law ar y testyn rhagorol hwn. Gwir i lawer o ga-au fod arao, ac mai nid dyma y tro cyntaf iddo fod yn destyn Awdl Cadair; er hyny, mae Gobaith yn newydd bob dydd, ac yn Y8 gogydd bywyd pob dyn a enir i'r byd,—yn enwedig- pob dyn a ymegnia am orchest mewn bywyd. Mae yn mhob un o'r cyfansoddiadau hyn bwyntiau can- moladwy, ac mae dau ohonynt yn dda ar amry w gyfrifon. Cred yr oes hon mewn phrophwydi byrion a ber hefyd fydd ein beirniadaeth ninau, er ddarfod ini gael hir ddirwsst" i ddarllen ac efrydu y tair awdl. H?Ider. -Mae gaa yr awdwr hwn awdl feddylgar iawn, a barddonol hefyd ond nid yw yn feistr ar y gelfyddyd brydyddol. Afrwydd iawn yw rhanau helaeth o'i gyfansoddiad, ac arwyddion ymdrech yn rhy amlwg yn nghynghaneddiad ei waith. Ychydig iawn o wallau cynghaneddol sydd ganddo, a phe buasai ei saerniaeth mor naturiol ag ydyw yn ami o gywrain buasai yn rhagorol. Ceir yma, fodd bynag, amrai linellau eiddil ryfeddol, megys- Wyt trwy'r oesau yn cryfhau ffydd. I'w froydd cain fe ai'n fod. Yn gwneud byd yn gain Eden. Engyl lion hyd ei gliniau'n dringo. Ceir ganddo sain lusg mewn dwy linell nesaf i'w gilydd. Dyma engraifft o gywreinrwydd a gwall cynghanedd- Erchyll Aphwys! dwys destyn-ydwyt ti Erioed tost yw dilyn. Hawdd, hefyd, fyddai dyfynu lluaws o benillion dof a thraethodol, megys- Llona wrth weled planedau-hirion, A chyrph eraill weithiau Yn mydoedd y comedau At deyrn dydd sydd yn nesau. Peredttr.-Awdl bur dda ydyw hon yn ol ei rhywogaeth, yn cael ei nodweddu gan dlysni yn hytrach na nerth, a chau ddarluniadaeth yn fwy nag ymdreiddiad i egwyddorion a hanfod y testyn,—fel y ceir engraifft yn ei Iiaellau agoriadol— Ar febyn, mae tirf obaith Fel boreu yn dechreu'i daith I wawr hwn egyr einioes 0 fwynhad hyd derfyn oes. Yna darlunia y fam mewn myfyr hyfryd uwchben ei phlentyn, a'i gobaith yn Uewyrchu hud i'w ddy- fodol- Ni wel i'w phur anwylyd, Eilun bach, ond heulwen byd. Er hyny, gwna ymgais at ymsyniad deffiniadol o'i bwnc yn awr ac yn y man, a cheir ganddo ambell gwpled a phenill tarawgar a hapus yn mhob ystyr. Gallasai, fodd bynag, gynllunio yn well, a gwneud ei symudiadau yn iwy naturiol a chynyddol ar hyd y ffordd. Buasai ei ragarweiniad yn fwy pwrpasol yn mhellach yn mlaen. Nid yw ei gynganeddiad yn gwbl ddifai, fel y dengys y llinellau hyn- Tirf iechyd ar ei fochau. Ar hyd ei dir yr had da. Damniol wlad a'i mewnol oes. Mae ganddo rai tor mesur, a gedy ambell air allan sy'n bylchu brawddeg. Er hyn oil, mae yn yr awdl hon lawez o geinion barddonol y testyn, megys :— Y llafurwr,— Ac heb gymhelliad Gobaith Ni waria un awr o waith. Cyffredinolrwydd Gobaith,— Drwy ing y dwr angau du Ar ei heithaf sy'n rhythu Y gwanegau yn agor, A aaw'r mellt i wrido'r mor:— Trwy ei gwibiad tyr Gobaith Ar frig gwyn y moryn maith 1'1' du alar a dolef Mwynhad yw ei amnaid ef. Dyna ddigon i brofi fod gan yr ymgeisydd hwn hawl i gynyg am Gadair yn yr ymdrechfa hon. Alastor.-Mae yr awdl hon yn bur debyg o ran nodwedd ei barddouiaeth dlos a'i phertrwydd cyng- haneddol i eiddo Peredur, ond yn rhagori arno ei mewn cynllun ac unoliaeth a meistrolaeth fel cyfan. soddiad. Golyga Obaith fel cydymaith bywyd,— Yn gydymaith, Gobaith gaf Ar ddydd o dywydd duaf Efe a'i swyn dyfnaf sydd Yn fireiniaf arweinydd: Dwg i wywiant dig anaf Headyw dyn addewid haf; Gwawr ei fri a ddwg i'r fron Frwd, yfory difyrion; Garedig- aer, daw i gol Dyn i siarad yn siriol; Goleua'i wen brif-ffordd glir Draw i frodir hyirydol. Gyda'r Cydymaith dyddan hwn a y bardd yn mlaen drwy wahanol gyfnodau ac amgylchiadau ac anghenion bywyd dyn, a theimlwn wrth ei ddilyn fod y llwybr yn oleu a'r daith yn gynyddol, ac nid ydym nemor byth yn" troi a throsi 11 yn ein hunfan, nac yn crwydro 0'1] cyfeiriad. Nid yw Alastor yn cymeryd mautais ar y tes tyn," ac yn dwyn pethau anmherthynasol neu bellgyrchedig i fewn. Mae cynghaneddiad yr awdl hon yn gel- fydd, a phur naturiol ar y cyfan. Modd bynag, tuedda weithiau at or-gywreinrwydd, megys yn y llinell,- Mewn dymuniadau mae yni hudol. Galwai rhai beirniaid linell fel hon yn un gywir digynghanedd;" a diau nas gellid cael ei gwell fel testyn dadl drosti ac yn ei herbyn. Modd bynag, credwn am dani, os cywir yw, ei bod yn fwy di- beroriaeth na chynghanedd lusg. Hefyd, gallasai yr ymgeisydd hwn fforddio cymeryd mwy o bwyll i feddwl ambell syniad cyn ei gynghaneddu. Ceir ganddo rai llinellau pur ddibwynt, megys,- Dring yn uchel i fyd tawel; Fry heb awel cefnfor bywyd. Cyn hir mewn hwyl cynarol Eu heulwyd hwy ddaw fel dol. Obaith Dwyfol,—hyd byth, di-auafau Yw'r fro a ddengys, trwy froydd angau Cawn weled haddef canliw dueddau. Cyfarfyddir a'r gair gwyn yn yr awdl yn bur fynych, ond heb gymaint o reswm ag sydd iddo yn "Ngwynfydau" yr Efengyl. I ddod at y dyfarniad, ein cred yw fod y dorch yn amlwg rhwng Peredur ac Alastor. Mae gan Peredur rai darnau hafal i ddim svdd gan Alastor, os nad gwell. Ond fel cyfansoddiad, trwyddo draw, ac ar y testyn, credwn mai Alastor yw y goreu, ac mai ganddo ef y mae yr hawl deg i Gadair Mon y tro hwn. Ar air a chydwybod, BWLCHYDD, PEDKOG.

Diddymiad y dreth ar Bapur.

--Y Barnwr Rowlands a'i blaitt.

Advertising

--------.Dail Te (Hen a Newydd).

Mwnwyr yn cymodi.I

is Newydd ei Gvhoeddi, Pris…