Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEIGr.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ganddi hawl i gau y Beibl allan ? A fyddai yn deg i wlad sydd yn priodoli ei mawredd a'i dyrchafiad i Air Daw wahardd y Gair hwnw rhag cael ei ddjsgu i'r plant ti'wy holl ysgolion y deyrnas ? Beth fyddai yn fwy gorthrymus a chreulawn? Yn awr, trwy adael y peth yn agored, dysgwylir i'r Byrddau Ysgol wasanaethu y cyhoedd, ac os bydd y bobl dros.to, dylai gael ei ddysgu. Nid ydym er dim am ei wtbio i fewn, ond hoffena argyhoeddi pob dyn fod hyn yn fuddiol, yn ddoeth, ac yn dda; ac os bydd gan rywrai wrthwynebiad i'r addysg, y mae rhyddid i'r cyfryw gadw eu plant o'r ysgol ar yr awr y dysgir y gwirionedd. Mae graddau helaeth o ryddid yn y mater, a dvweyd y lleiaf ac o dan yr amgylchiadau, efallai nas gellir dysgwyl mwy. 3. Dyvjedir fod ei ddysgu yn groes i'r egwyddor wirfoddol o gynal crefydd. Ni charem wneyd dim yn erbyn yr egwyddor hon sydd wedi gweithio mor ardderchog yn y gorphenol, ac i wneyd mwy yn y dyfodol. Yr ydym yn credu y cwbl ddywed y Beibl am dani. Mae yn un o egwyddorion penaf crefydd, ond nid y benaf. Credai yr Ymneilldu- wyr ynddi o'r dechreu, er nas gellir dyweyd iddynt. ymneillduo er ei mwyn. Eu ffyddlondeb i Air Duw—yr holl wirionedd—oedd yr egwyddor fawr. Ymostyngent i'w awdurdod ef yn unig yn erbyn pob defodau, a glynent wrtho er colli eu cyflogau, a chymerent eu hysbeilio yn llawen o'r hyn oedd ganddynt, pan oedd ereill yn Brptost- aniaid beddyw ac yn Babyddion yfory, fel y byddai y gyflog. Yn y gwirionedd yr oedd ffynon gynaliad yr egwyddor wirfoddol. Cynaliodd hwy yn eu tywydd garw, a dygodd bwy trwy y 'stormydd i gyd. Hanes Ymneillduaeth yw yr un godidocaf yn hanes yr egwyddor wirfoddol. Weithiodd hi ddim yn amser Mosey a Solomon cystal; a pbe buasai pob egwyddor arall mewn crefydd wedi gweitbio cystal, buasai y byd i gyd bron a'i enill i Grist. Nid oes dim a wneir trwy gyfraith a ddeil gymhariaeth. Wel, y mae lie iddi weitbio llawer yn nglyn a'r mesur hwn. Os bydd y bobl dros y Beibl, ac y mae eisieu eu cael, maent yn wirfoddol yn yr oil a wnant. Mae lie hefyd i roddi gwobrau ynddynt, fel y gwneir yn ysgolion Llundain ?—rhoddion gwirfoddol. Yr oedd 172,000 o blant yn cynyg am y gwobrau hyn eleni—15,000 mwy na llynedd a, thystiola'eth Mr Mundella oedd, fod eu gwybodaeth o nodwedd uehel, llawer uwch nag a geir yn y national schools ac mewn ysgrolion sectol. Dyna brawf, ac y mae yn siarad cyfrolau, fel y dy wedir, a da hyny pan nad oes amser i siarad. 4. Honir fod y g waith yn cael ei wneyd yn yr Ysgolion Sul, cfc. Mae tri dosbarth yn yr Ysgolion Byrddol—1. Dosbarth o blant rhieni crefyddol a deiliaid yr Ysgol Sul, y gellir ystyried eu gwybod- aeth Feiblaidd yn foddhaol. 2. Dosbarth sydd yn cael rhai manteision, ond eu gwybodaeth yn mhell o fod yn foddhaol. 3. Dosbartb. heb fanteision crefyddol o un math. Darparwyd Deddf Addysg i870 yn benaf ar gyfer y plant a esgeulusid, miloedd ohonynt. Fel y bu gweled plant yn chwareu ar y Sabboth, a gweled dynion yn byw mewn tywyllwch heb Air Duw, yn acblysur i gyffroi meddyliau dynion i sefydlu Ysgolion Sabbothol yn Nghymru a Lloegr, felly y bu gweled yr esgeulusdra hwn yn achlysur i ddwyn allan y Ddeddf Addysg." Yr oedd y dosbarth a esgeulusid folly mewn addysg fydol yn lied gyffredin yn amddifad o addysg Feiblaidd. Os addysg fydol yn unig a roddir iddynt, mae yma ddiffyg pwysig. Teimlir hyny. Yn Bir- mingham, trefnwyd ar gyfer hyn ryw fydol, hanesiol, foesol addysg, ond yn hollol ofer. Mae ysgolion Birmingham wedi mabwysiadu y Beibl, ac nid oes berygl i ryddid crefyddol na gwladol godi yno yn ddiau. I'r plant sydd yn cael addysg grefyddol dda, ni wna darllea y Beibl ddrwg iddynt. Maent hwy ya ddyogel. I'r dosbarth canol, gall wneyd llawer o les; ac i'r trydydd dosbarth, gall fod o ddirfawr les, am na wydd-ant ddim am y Beibl trwy un cyfeiriad arall. Wrth ystyried pwysigrwydd yr amser a dreulir gan y plant rhwng pump a phedair-ar-ddeg oed, dylid gofyn y cwestiwn, Pa un ai drwg ai da wneir trwy ddysgu y Beibl yn yr ysgolion hyn? Trwy. ddysgn J Beibl, a ellir effeithio yn foesol ar y geneiil sydd yn codi P Yr oeddwn yn son am egwyddorion mor bwysig a'r egwyddor wirfoddol. Y diieddi foesol oedd y bwysioaf yn nphrefydd yr Inddew. Hon oedd sylfaeu f], safon y ddeddf wladol a'r seremoniol. Os byddai y bobl yn earu hyn oedd yn hael, pobpeth or daioni; ond os byddent yn hael, a'r ddeddf foesol dan droed, gofynai Duw, "Beth yw lluosogrwydd eich aberthau i mi?" Yr oedd y Phariseaid yn elegymu llawer yn wirfoddol, ond cynawnder, trugaredd, a barn-y ddeddf foesol—dan droed. Peth da yw cael rhoddion gwirfoddol, os bydd yr enillion wedi eu cael ar byd llinellau gonest- rwydd a iawnder; ac y mae un trosedd moesol yn tafia blank ar ganoedd o roddion da. Pe byddai iawnder a gonestrwydd mor uchel ag haelioni yr oes hon, byddai dylanwad yr Efengyl yn an- orchfygol. Mae canoedd o weithwyr diwyd yn cyfranu o'u henillion gonest i ledaenu y Beibl, a mawr fydd eu gwobr. Yr ydym yn dyweyd y gwna dysgu y Gair neu beidio yn yr ysgolion effeithio ar foesoldeb yr oes sydd yn codi. Yr ydym yn credu yn nylanwad y Beibl ar blant. Mae yr boll enwadau yn eu dysgu yn ieuainc. Mae rhai o'r dynion goreu welodd y byd wedi bod dan ddylanwad y Gair cyn bod yn 13 oed. Mae addysg yr ysgolion wedi effeithio yn dda ar y plant. Wedi pasio y Mesur, mae y troseddwyr yn mhlith y plant wedi lleihau o dros 10,000 i 5,000 Yr ydym yn credu nad oes dim fel y Beibl i wneyd hyn. Felly, os cauir ef allan, bydd mwy o dyngu, mwy o gymeryd enw Duw yn ofer, a mwy, os nad yn dilyn Bradlaugh, yn hollol heb ddylanwad Gair Duw ar eu calon. Gyda hyny, dangosodd mwyafrif v cyfarfod nad oedd Mr Charles, yn ol eu barn hwy, yn siarad ar y penderfyniad, a'i fod out of order. Yn herwydd hyny cododd y Parch O. Evans, Llundain, i eilio y penderfyniad yn lie Mr Charles. Cododd y Parch S. Evans, Hebron, i gynyg gwelliant. Cafwyd dadl frwd ond llawn 0 natur dda, ac yn y diwedd cydunwyd i wneyd un penderfyniad o ran o'r penderfyniad gwreiddiol a'r gwelliant a phasiwyd ef yn un- frydol fel y canlyn Fod y cyfarfod hwn, wedi gwrando gyda dydd- ordeb ar Bapyr cynwysfawr clir, ac awgrymiadol y Parch L. Jones, Ty'nycoed, ar "Y Beibl ac Addysg Orfodol yn ngoleuni Ymneillduaeth," yn hyderu yn fawr y bydd i'r gwrandawiad ohono heddyw, yn ngbyda'r darlleniad helaetbach ohono eto, ddeffroi meddyliau i bwysigrwydd y mater, creu awydd adnewyddol mewn llawer i astudio y cwestiwn yn ei holl agweddau, a'n cynhyrfu oil i wneyd ymdrechion egniol i wreiddio y do sydd yn codi yn y gair ac yn y ffydd. DIRPRWYAETH ODDIWRTH Y METHODISTIAID. Galwodd y Cadeirydd ar y Ddirprwyaeth a anfonwyd gan Gymdeithasfa y Methodistiaid i longyfarch yr Undeb, i ddyfod yn miaen. Yn nghanol y gymeradwyaeth uchaf, ymddangos- odd Mr Rowlands, Bank, Ffestiniog, a'r Parch Mr Wheldon o'r un lie. Darllenodd Mr Rowlands telegram a dderbyniasai y boreu hwnw oddiwrfch y Parch Dr O. Thomas, Liver- pool, yr hwn oedd un o'r rhai a benodwyd i ffurfio y Ddirprwyaeth, yn hysbysu ei anallu gan waeledd iechyd i fod yn bresenol. Dy- munai Mr Rowlands longyfarch yr Undeb ar ei ymweliad cyntaf a Ffestiniog, yn neillduol felly wrth weled brodor o Ffestiniog yn y gadair, a dymunai iddo ddyfodol hir a thawel. Da oedd ganddo fod yn bresenol i wrando y dissensions, fel yr hon oedd wedi newydd basio. Yr ydym ni, y Methodistiaid," meddai, dipyn yn oerach na chwi, ac yn fwy araf, ond yr ydym yn bur safe." Y rheswm dros y Ddirprwyaeth oedd, eu bod yn credu fod yr Annibynwyr yn eglwys i lesu Grist, a thrwy hyny fod cydymdeimlad rhwng y Methodist- iaid a hwythau. Mae y pwnc mawr oedd cael y bobl yn ddynion da. Dywedai Penry, "Rhaid magu cydwybod mewn dynion cyn cael gwlad o ddynion da a'r ffordd i gael hyny yw, cael prcgethu Crist gan ddynion yn teim- lo'r Efengyl eu liunain." Gan eu bod yn cyd- wcled ar lawer o bynciau, dymunai ar iddynt ofalu am yr adeg hon gyda golwg ar gyfansodd- iadau a rheolaeth. y Colegau yn y Goglcdd a'r De, ar eu bod yn gyson ag egwyddorion cyd- raddoldeb a rhyddid Ymneillduaeth. Y Parch Mr Wheldon a ddywedai: Yr wyf yn codi i gadarnhau yr hyn a ddywedodd Mr Rowlands, ac i ddymuno Duw yn rhwydd i chwi, a da gcnyf pc buasai Dr O. Thomas yn gallu bod yma. Yr oedd yn hoff genyf wrando Anerchiad y Cadeirydd, ac i glywcd cich (lutcussion yn y cyfarfod livrn, Yr ydyclv chwi wedi eich geni mewn ystorm, Nid felly y Methodistiaid. Mewn ystorm y mellt a tlia- ranau. Yr ydych chwithau VSredi bod mewn llawer o honynt yn ymladd dros ryddid cy- ffredinol a chrefyddol. Mae ystormydd etc yn ol, fel y cewch ddigon o waith i fyw, ond ewch yn mlaen gyda'r gwaith er pob ystorm, gan gi,edli y bydd i gydvvybodo^wydd orchfygu pob rhwystrau. Cofus ganddo ddarllea am fachgcnyn wedi bod mewn ystorom gyda'i fam, yr hon a'i hanfonodd i ystafell o'r neilldu i weddio am i Dduw faddeu iddo a gwneyd ci dymher yn well. Aeth y bychan a gweddiodd megys ag y gorchymynwyd iddo, ac ychwan- egodd, Make Mas temper better too." Cynygiodd y Parch. S. Evans, Hebron, y penderfyniad canlynol:— Ein bod, fel Undeb, yn llawen dderbyn y ddir- prwyaeth oddiwrth ein brodyr y Methodistiaid Calfinaidd, ac yn hyderu y bydd i ymweliadau fel hyn fodyn foddion i gynyddu cyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad y ddau enwad yn mhlaid ffydd yr Efengyl, ac y byddem yn egniol uno yn rnhlaid cydraddoldeb crefyddol, ac yn erbyn arferion anghymeclrol ein gwlad, ac yn mhlaid pola symud- iad sydd a'i duedd i feithrin cariad, cydymdeim- lad, a phob rhinwedd yn gymdeithasol a chref- yddol. Dywedodd Mr Evans mai hon oedd y drydedd waith i'r Undeb dderbyn dirprwyaeth oddiwrth y brodyr Methodistiaid fod hyny yn dangos eu bod yn dyfod i ddeall eu gilydd yn well—eu bod wedi arfer cydweithredu gyda llawer o bethau, ac y gwnant hyny eto. Wrth eilio y penderfypiad, dywedodd y Parch E. Stephen, Tanymarian, fod yn dda iawn ganddo eu gweled, ac y buasai yn dda ganddo gael haner awr i siarad, ond nid oedd amser yn caniatau. Gwir mai mewn ystorm y ganed hwy, ac ar ol i'r awyrgylch glirio y cod- odd y Mcthodistiaid. Fod mellt a tharanau yn clirio yr awyr, ac felly yn gwneyd lies. Gwelwch," meddai, mor nolle a jolly yr ydym yn awr, wedi clirio tipyn ar yr awyr. Dywedai Williams o'r Wern mai dim ond ty ar dan yw ystorm yn mysg yr Annibynwyr, ond mai dinas ar dan yw ystorm yn mysg y Methodistiaid." Terfynwyd y cyfarfod gan y Cadeirydd. CYFAEFOD CYHOEDDUS. Yn yr Assembly-room, am 6.30, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch J. Davies. Cadle. Wrth agor y cyfarfod, dywedodd y Cadeir- ydd, Mr W. J. Parry, Maesygroes:— FONEDDIGESAU A HONEDDIGION,Hen ddy. wediad gan ryw ddosbarth yw hwnw—" Mai melldith Cymru yw ei Hymneillduaeth." Nid ydym heb sail i gredu fod hyn yn cael ei gol- eddn gan ryw bobl y dyddiau presenol, a drwg gcnym ganfod fod un gwr Eglwysig yn ei Esboniad ar Efengyl Matthew wedi cymeryd traff'crth yn y gymysgfa hono i brofi ei fod ef yn ddwfn yn y grediniaeth. Goddefwch i mi ddyfynu rhai sylwadau ohono, gan mai un am- cani'r Undeb yw gosod ein hunain fel Enwad yn iawn ger bron y wlad, a bod yn bwysig i ni fel Cynulleidfaolwyr ac Ymneillduwyr i fod yn hyddysg o'r syniadau sydd yn cael eu coleddu am danom yn y dyddiau hyn gan rai mewn awdurdod yn yr Eglwys Sefydledig. Pan yn rhoi esboniad ar ddiftyg llwyddiant Eglwys Crist ar y ddaear, dywed,—" Ffugflaenoriaeth Rhufain, ac anhrefn yr enwadau sydd yn gwrthod yr Urddau Apostolaidd, ydyw y ddau allu a gydweithiant i rwystro adnewyddiad undeb yn nheyrnas Crist." Pan yn esbonio y drydedd demtasiwn dywed,—" Y mae y plcid- iau a geisiant wellhau eu sefyllfa fydol a chym- deithasol trwy ysbeilio yr Eglwys, ac a geisiant gryfhau eu dylanwad gwleidyddol trwy amddi. fadu plant y genedl o addysg grefyddol, yn syrthio i lawr i wneyd gwaith yr anwir, ac yn cerddcd yn 61 traed yr Herod a geisiodd sicr- hau ei deyrnas trwy aberthu llu o blant bach ar allor'ei uchelgais." Yn ei esboniad ar "efrau y macs," dywed fod yr Ymneillduwyr "yn codi alior yn erbyn allor trwy weinyddu ordin. hadau heb urddau swyddogol," ac fod yn amhvg" i bawb nad ydynt hwy ddim yn cydym- ffurfio ag Eglwys Crist, nac yn dwyn nodau gwenith gwirioneddol." Yclivranega mai trwy ddiol'aiweh y gwylwyr sydd yn cysgu y mae clyuiun yu cyfpdi i bregethn ac i weinyddn yn aireoiaidd, ac yu groes i gyfraith undeb Eglwys Crist. Ac yna pan fydd eu dylanwad yti ym- ddangos, a ffrwythau eu ilafur yn dechreu dyfod i'r golwg yn mpdolaeth cymdeithasau dyeithr, y rhai nid ydynt wedi tarddu o had reolaidd y Weinidogaeth Apostolaidd, y mae swyddogion CParhad y¡j tudi<10a 10.)