Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

AT OLYGYDD "Y TYST CYMREIG."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT OLYGYDD "Y TYST CYMREIG." SYR, Hen Deiliwr ydwyf fi, ni wn i yn y byd pwy ydych chwi, ond rhaid eich bod yn rhywun, ac yn rhywun mewn awdurdod i ollwng yneb a fynoch i mewn, ac i gau y neb a fynoch allan, o ystafelloedd Y TYST. mi debygwn. Pa groeso a gaf fi wrth eich porth, amser a ddengys os fy nghau allan a wnewch bydd raid i mi dreio dwyn y groes, ac ni bydd hono'n groes mor drom a llawer croes a orfu i mi ei dwyn yn ystod fy ymdaith deiliwraethol trwy'r byd yma. Fel y dywedais, hen deiliwr, a hen deiliwr o ganol gwlad ydwyf, yn arfer myned o dy i dy i gyflawni dyledswyddau fy ngalwedigaeth, ac felly wedi gweled llawer o'r byd yma yn y cylch y bum iyn troi ynddo. Y mae gan deiliwr yn y wlad fwy o fantais i wybod dirgelion cymdeitbas nag un crefftwr arall. Y,mae r gof yn gwneyd ei waith ef ar aelwyd ei efail ei hun gartref; a dyna y saer yntau, er ei fod yn myned o gwmpas o dy i dy fel y teiliwr, allan o'r ty y mae o'n gwneyd ei waith, ond y mae y teiliwr gyda'r teulu i mewn-yn nghymdeithas y gwragedd a'r merched, yn gweled pob smic, ac yn clywed pob gair a ddywedir, ac fe ddylai ef fod yn dipyn o philosopher go lew yn hanes y natur ddynol, yn ol y manteision a rydd ei alwedigaeth iddo. Ond dylwn ddyweyd i chwi fy mod yn ddi- weddar wedi retirio oddiwrth y nodwydd, a'i rhoi hi a'r siswrn, a'r labwt, a'r bwicin, a holl offerynau y grefft i gadw. Ni choelieeh chwi ddim mo'r chwith oedd genyf feddwl fy mod yn gadael yr hen grefft, pan oeddwn yn diosg fy arfogaeth, ac yn ei rhoddi i gadw am byth. Methais yn deg ac atal tori allan i wylo,—" Wel, hen gymdeithion fy mywyd," medd- wn, dyma'r dydd wedi dyfod i ni ymadael a'n gil- ydd Dyma dymor ein cydymdeithio wedi dyfod 1 ben- Tr°s ddeng mlynedd a deugain y buom gv da'n gilydd, ond wele yr amser maith hwn wedi msned heibio-wedi myned heibio! Nid yw ond fel doe genyf feddwl am y diwrnod pan aetham yn hogyn deuddeg oed yn brentis at Huw Prys, Tan y wal, er fod mwy na haner cant o flvnyddeedd er hyny. Cei di y nodwydd gysgu yn dy bincws o hyn allan. Llawer cenhedlaeth o nodwyddau a dreuliwvd ymaith yn fy Haw er pan ymaflais yn y gyntaf, hyd tydi yr olaf. Gwisgodd ami i siswrn allan hefyd, o'r a'r ff y. dlwe1dclar 5 ond chwychwi yr wydd i » a ddaliasoch ati o'r dechreu hyd v diwedd* hvn vr n§hesail ° 1 "J f M a'n ifh-J,! ,1" "'J' Ni syrthiasom allan an gilydd ezioed, ond rhaid i ni ymadael a'n gilydd yn awr. Yr ydwyf fi Wedi myned yn rhy hen ac yn y garbwl l ddal ati yn hwy. a rhaid i bobol y dydjau yma gael dynxfa^0 deiliwr, yn deall y cut ar ffaswn siwr m thai hen grefftwr fel fi ddim yn y byd ganddynt, fel mae nhw fFola druain Wei wei hen gymdeithion fy mywyd, rai'ch cad' waf yn barchus tra byddwyf fyw, ac mi gymera ofal na chaiff un teiliwr arall gyffwrdd a chwi byth. Gorphwvswoh mewn heddwch." Fel yna y bitm yn traethu uwch eu penau, wedi i mi eu gosod yn y bocs i gadw, ac yn wir, nid yohydig o ddafnau a ollyngais i'w hen- -vr lni(f cau arnynt» ac a dyweyd y gwir i chwi, ;L y .1,, cael gwaith peidio wylo y funud yma, l yr adSofion hyn. Ghwerthin am fy ]i„n ei fy1 wna l^wer un hwyrach, wrth ddar- Wplnin os gwnewch chwi ei gyhoaddi o. ^vlotS nid 0 Ws genyf fi; go& /{ngi/1?n i bynag. Y mae ad- ol a dvddn/t 6a Profiadol ynbethaudifrif- a dyddorol iawu, Yn siwr i chwi-iddo ef ei hun cofiweh nf'i y wlad w.yf yn feddwl, am dau- v^r tedwriaid y trefydd ddim yn y byd Cyn myn'd ymlaen ymhellach, goddefwch i mi ddyweyd nad yw y teiliwr yn cael y parch ddylai fo gael yn y byd yma—yn ein byd ni yn Nghymru, beth bynag. Gobeithio fod pobol bydoedd eraill, neu ranau eraill o'r by d hwn, yn gallach yn y peth yma o leia' nag ydyw'n pobol ni. Os bydd rhywun salach na'i gilydd mewn ardal, yr hen deiliwr tila," meddant am dano. Tydio'n ffit i ddim byd ond i fod yn wr bonheddig, neu deiliwr, neu berson yn deiliwr y dylase fo fod a geiriau cyffeiyb glywais i ganwaith, fel pe bai'r teiliwr yn rhyw sal- ach stwff na rhyw greadur arall. Yr wyf fi, yn enw'r holl frawdoliaeth deiliwraidd trwy Gymru a'r byd, ynprotestio yn erbyn pob syniad o'r fath yna. Yr wyf yn cofio'n dda, yn amger rhyfel Buonaparte, lawer blwyddyn yn ol bellach, i lencyn o'n hardal, a elwid Huwcyn y teiliwr, enlistio i'r fyddin, a mawr oedd y son a'r synu am y peth —teiliwr yn myned yn sowldiwr! Glywodd neb erioed son am y fath beth! A meddai un coeglanc, Mac hi wedi myn'd i'r pen ar Boni druan rwan, mi fydd Huwcyn y teiliwr yn siwr o roi pwyth iddo fo, cyn sicred a'i fod o yn Boni, a synwn i ddim na ladde fo bob Ffrencyn o honyn nhw cyn daw o yn ei ol. Mae o wedi myn'd a gwerthcoron o nodwyddau yn ei boced i wnio'u crwyn nhw." "Spite y burgyn," ehwedl yr hen barson Llwyd, oedd hynyna i gyd. A.'i chym- meryd hi ar y tir yna rwan, mi fentrwn i fyn'd a byddin o ddeng mil o deiliwriaid i'r maes yn erbyn deng mil o unrhyw ddosbarth arall o ddynion, ac yr wyf yn o siwr y curem hwy hefyd. Edrychwch chwi ar y Teiliwr-Bresident yna yn America rwan, beth" bynag feddylioch chwi am dano fo, rhaid i bawb addef fod plwc i ryfeddu ynddo—mae o'n stowt i'r pen beth bynag. A dyna deiliwriaid Llundain hefyd wedi profi ger bron y deyrnas, yn y strike yna, eu bod yn ddynion gwrol, penderfynol i'r eitha'. Nid wyf fi am geisio amddiffyn mesurau fy mrawd-deiliwr Johnson yn America, na gwaith fy mrodyr-deiliwr- iaid yn Llundain yn sefyll allan, nid dyna'r cwestiwn ar hyn o bryd; ond profi yr wyf nad yw y teiliwr ddim yn ol i neb pwy bynag mewn gwrolder meddwl, ac na raid iddo ostwng ei ben mewn cymdeithas ar un cyfrif yn y byd. Peth arall, beth a ddeuai o'r byd heb y teiliwr ? Onid efe sy'n gwisgo'r byd a. dillad? Byd noeth, llwm, barbaraidd fyddai'r byd yma heb deiliwr. Beth fyddai deun, dd dillad o werth heb y dilled- ydd ? Ni fyddai ond ynfydrwydd i chwi fyn'd a chorn o frethyn i'r efail at y gof, nac i siop y saer, chwi wyddoch o'r gore. Y teiliwr sydd yn harddu, yn cynhesu, ac yn coethi'r byd; ei swydd ef mewn gwirionedd yw yr un bwysicaf a gwertbfawrocaf o'r cwbl. Mewn gair y mae y teiliwr yn anhebgorol i fywyd a chysuron cymdeithas, adylai gael pob parch ac anrhydedd gan gymdeithas, ac nid ei ddirmygu fel bod israddol. Yr wyf wedi teimlo awydd lawer gwaith i sefyll i fynu dros urdd anrhydeddus y nodwydd. Os caiff y llythyr hwn ymddangos yn Y TYST, hwyrach y tery yn fy mhen i ysgrifenu eto. Mi derfynaf ar hyn y tro hwn beth bynag, rhag eich poeni a meithder. YB HEN DEILIWR.

AT OLYGWYR "Y TYST CYMREIG."

Y "TYST CYMREIG" A CHYNNRYCHIOL-AETH…

MERTHYR TYDFIL.—AELOD NEWYDD.

¿\dolygind a ng.

EISTEDDFOD LLANELLI.