Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Y mAH anfoniad Arglwydd Wolseley i'r Aipht i arwain y fyddin a fwriedir i waredu y Cadfridog Gordon o Khartoum yn destyn mawr ymddiddan. Nis gall fod dau feddwl o berthynas i fedrusrwydd a gallu Wolseley fel cadfridog. Yn y flwyddyn 1870 ar- weiniodd fyddin o 1,400 o wyr i fyny y Eed Eiver yn Canada,< a chwblhaodd yr amcan mewn golwg heb golli un bywyd dynol. Ond y mae, pa fodd bynag, swn ansicrwydd a diffyg penderfyniad yn iaith y Llywod- raeth o hyd. Yn y cyfarwyddiadau i'r Cad- fridog sonir am yr ymgyrch filwrol fel rhywbeth y gall fod ei eisiau."
Y CYMRY YN NHREFYDD MAWRION…
Y CYMRY YN NHREFYDD MAWRION LLOEGR. At Olygydd Y Llan." Syr,—Darllenais gyda llawer o bleser lith "Cymro ar daith," dan y penawd uchod, a chan fy mod yn ystyried y sylwadau yn rhai ag sydd yn teilyngu sylw pob Eglwyswr twymngalon, yr wyf yn meiddio anfon gair o'm profiad fy hunan o angen Cymry Lloegr o gael addoli yn iaith eufmam ac yn Eglwys eu tadau. Ac fel un ag sydd wedi cael y fantais o dalu "ymweliad ag amryw o drefydd a phentrefydd yn Ngogledd Lloegr, lie mae y Cymry wedi ymsefydlu, gallaf dystio fod gwir angen arnynt am i rywun gymeryd sylw o'u hangenion crefyddol. Yn swydd Durham yn unig, mae canoedd o Gymry i'w cael, ond nid wyf yn gwybod am, ond yn unig un Eglwys Gymreig (Newcastle) yn y sir. Ond ewch i'r pentrefydd o gwmpas y gweithfeydd glo a haiarn, if, chewcli weled amryw gapelau Ym- neillduol heb fod neppell oddiwrth eu gilydd. Ond nis gall yr Eglwyswyr gael yr un Eglwys Gym- raeg i addoli ynddi. Beth yw yr achos o'r difraw- der ysbryd a'r esgeulusdra yma ? Wel, mae yr Eglwyswyr eu hunain yn rhy ddifraw. Nid ydynt yn teimlo mai eu dyledswydd hwy yw gwneyd eu hangenion yn wybyddus i'r neb alleu cynorthwyo, a gwneyd yr hyn a allant eu hunain i godi Eglwys Gymreig yn y lie. Mor fuan ag y daw haner dwsin o Fethodistiaid at eu gilydd, gwelwch hwy, yn y mynyd, yn dechreu meddwl am godi capel, ac y maent yn ymladd nes ei gael. Ond mae yr Eglwyswyr wedi arfer gweled eu Ficer yn cymer- yd pob cyfrifoldeb i'w law ei hun, a thrwy nad oedd ef pan yn Nghymru yn cael rhan na chyfran yn nhrefniadau y cysegr, mae wedi myned i feddwl nad oes cyfrifoldeb i fod ar y lleygwr i wneyd ei ran i gael oddiamgylch, a chynal Eg- Ily lwys; ond fod yn rhaid aros yn ddistaw am ryw amser anmhenodol, hyd nes y daw rhyw Ficer i wybod eu hangenion ysbrydol, ac yna y cymer hwnw yr holl gyfrifoldeb ar ei ysgwyddau ei hun. Fel ag y crybwyllwyd eisoes mae nifer y Cymry yn Swydd Durham yn fawr, ac y mae y nifer yn fawr yn y sir nesaf ati, sef Cumberland. Pe byddai i'r Eglwyswyr Cymreig yn y gwahanol bentrefydd yn y ddwy :8ir yna fod yn zelog, a chael cyfarfod a'u gilydd, ac ond odid na fyddai rhywun yn barod i adael ei dy at eu gwasanaeth am ychydig Suliau i gychwyn, ac yr wyf yn gwybod lod amryw o ddynion ieuainc Cymru yn Ngoleg St. Bees, Cumberland, ac yn Mhrifysgol Durham, a fuasai yn barod i ddod i bregethu iddynt. Sicr genyf hefyd y byddai i'r Parch. E. H. Evans, Canon yr Eglwys Gadeiriol, Newcastle, mab yr Hybarch Archddiacon Evans, Llanllechid, Bangor, wneyd ei oreu er eu cynorthwyo. CYMRO ANWYL O'I FAM.
BYWIOLIAETH LLANGATTWG A CHYM-RAEG…
BYWIOLIAETH LLANGATTWG A CHYM- RAEG YN YR EGLWYSI. At Olygydd Y Llan." Da iawn genyf glywed fod Arglwydd Esgob Ty Ddewi, sydd wedi cael llawer o'i ddwrdio yn ddi- weddar ar bwys pethau a edrychant fel siomedig- aeth a chenfigen, wedi bod yn ddigon hyf a chydwybodol i ddilyn esiampl ei frawd o Landaf drwy wrthod caniatau i reithoriaeth Llangattwg gael ei rhoddii i estron i'r Ynys Werdd, un an- wybodus o'r iaith Gymraeg, iaith Cattwg ddoeth, a hoff iaith trigianwyr presenol cymydogaeth Llangattwg. Gresyn na fuasai yr Eglwys a'r Wiadwriaeth wedi agor eu llygaid yn gynt ar y felldith fu yn rhy drom i'r Cymry ei dwyn. Ond dymunwn alw sylw yn fwyaf neillduol y tro hwn at wirionedd a ddylai wneyd i bob calon Gymreig waedu ac anfon gwrid dygn gywilydd i'r wyneb. Nid ydyw yn ddigon fod y rheithor a benodir yn gwybod Cymraeg os na sicrheir yn mhellach y bydd iddo wneyd defnydd o'r wybodaeth hono. Peth gyffredin o lawer, ie mewn rhai o fanau mwyaf Cymreigaidd y Dywysogaeth, ydyw naill ai esgeuluso y Gymraeg yn gyfangwbl, neu ynte ordeinio fod i gurad ieuanc ac anmhrofiadol i
[No title]
PRIF bwngc yr wythnos yn y byd gwleid- yddol yw ymweliad Mr. Gladstone a, Mid- lothian. Bum' mlynedd yn ol talodd y Prif Weinidog ymweliad a'r dref hon o'r blaen. Traddododd y pryd hwnw gyfres o areithiau meithion, y rhai o ran eu hyd a'r llafur a ofynid i'w traddodi a barodd syndod i'r holl wlad. Cymerodd hyny le ychydig cyn yr etholiad cyffredinol diweddaf, a'r farn gyff- redin yw i'r areithiau hyny effeithio i raddau helaeth ar ganlyniad yr etholiad. Nid oedd Mr. Gladstone mewn swydd y pryd hwnw. Yr oedd ar yr ochr ymosodol, ac felly yr oedd ei areithiau yn ffyrnig ac eithafol. Llwyddodd yn ei amcan, cwympodd llyw- odraeth Arglwydd Beaconsfield, dewiswyd Mr. Gladstone yn Brif Weinidog. Y mae'r areithiau eleni yn fwy dof a thawel, yr hyn sydd i'wlbriodoli, ond odid, i'r ffaith fod y boneddwr anrhydeddus yn teimlo y lly- fetheiriau swyddogol yn pwyso arno. Yn ei araith gyntaf, yr hon a draddodwyd ganddo nos Sadwrn yn y Corn Exchange, Edinburgh, ymdrinodd a mesur Helaethiad yr Etholfraint ac ymddygiad Ty yr Ar- glwyddi yn gomedd ei basio ar wahan i Fesur Ad-drefniad yr Eisteddleoedd. Mewrf un man yn ei araeth dywedodd fod yn Nhy yr Arglwyddi bentwr o opiniwn pob- logaidd iachus a chydymdeimlad poblog- aidd." Mewn man arall yr ydym yn ei gael yn dyweyd ei fod yn edrych gyd ag an- foddlonrwydd ar y gwaith o ymwneyd a chwestiynau yn dwyn perthynas a chyf- newidiad cyfansoddiadol y wlad, oni ddaw y mynyd, ac hyd nes y daw, pan nas gall mwyach wrthod hyny." Rhyw fygythiad boneddigaidd i Dy yr Arglwyddi yw > geiriau hyn, nid annhebyg i fygythiad yr hen Gwacer gonest gynt. Gyfaill," ebe'r Cwacer, nid wyf yn dymuno dy saethu, ond cymer rybudd, os na bydd i ti symud o'r lie yr wyt yn sefyll arno, bydd i mi danio yn y cyfeiriad yna."
[No title]
NID oes hyd yn hyn ddim argoelion adferiad heddwch rhwng Ffrainc a China. Beir yn fawr ar y modd didrugaredd yr ymddygodd y Llyngesydd Courbett tuag y Chineaid pan yn tanbelenu arfdy Foochow. Tebygol yw fod y Ffrancod yn chwenychu sefydlu Ymer- odraeth Chineaidd yn debyg i'r eiddom ni yn India.
[No title]
BETH bynag a wna yr Eglwys, y mae'r Dad- gysylltwyr yn sicr o ganfod bai arno. Os tybiant eu bod yn gweled difaterwch, gwaeddant am ei thori i lawr fel diffrwyth- ydd y tir. Or ochr arall, os gwelant weith- garwch a hunan-ymwadiad, nid yw hyny ychwaith yn boddloni. Ychydig fisoedd yn ol codwyd ystwr anferth o berthynas i'r gyfrifeb grefyddol yn Abertawe. Prof odd y cyfrifwyr i'w boddlonrwydd eu hunain nad oedd Eglwyswyr Abertawe ond un o bob pedwar o'r addolwyr ar y Sul. Yna cyfod- wyd y waedd fawr, "Rhaid wrth Ddad- gysylltiad-y mae'r Eglwys yn fethiant." Yn awr, y mae'r gwyr hyn wedi clywed fod Esgob Ty Ddewi yn casglu L30,000 tuag at ddarparu Eglwysi newyddion yn Abertawe a'r cyffiniau.. Y mae hyn eto yn peri blin- der iddynt. Y mae un o honynt yn malu ewyn mewn natur ddrwg yn y Carnarvon and Denbigh Herald, ac yn gwaeddi am roddi yr arian i Dr. Bernardo. Unwaith y gogodir offeiriaid yn y manau hyn, ebe fe, anmhosibl fydd cael ymwared o honynt. Y mae hyn yn dwyn i'n cof araeth y meddwyn wrth fyned tua chartref o'r dafarn tua haner nos. Ai tybed," ebe fe, fod fy ngwraig wedi myned i orphwys ? Os ydyw, mi a'i curaf am iddi beidio aros i fyny i'm disgwyl gartref. Os nad ydyw, mi a'i curaf am aros ar ei thraed ar oriau mor anamserol."
[No title]
YN ei siars deirmlwyddol, yr hon a draddod- wyd ganddo yr wythnos ddiweddaf, gosod- odd Esgob Bangor bwnc y Dadgysylltiad mewn goleuni rhagorol. Yr ydym o bryd i bryd wedi dyfod i gyfarfyddiad a dynion a drwythwyd mor llwyr yn nysgeidiaeth ath- rawon Cymdeithas Rhyddhad fel ag i gredu y byddai Dadgysylltiad yn ben ar yr Eg- lwys ar unwaith na byddai esgobion, na byddai offeirjaid, na byddaiEglwysi mwyach. Yr ydym yn Eglwyswyr," ebe'r Esgob, nid o herwydd bod yr Eglwys yn Sefydl- edig, ond o herwydd ein bod yn credu mai hi yw y wir Eglwys yn y wlad hon. Dad- sefydler a dadwaddoler yr Eglwys yfory, bydd ein hymlyniad wrthi a'n cariad tuag ati yr un ag o'r blaen." Os felly ynte, a oes angen gwrthwynebu Dadsefydliad o gwbl ? Oes medd yr Esgob. Ein dyled- swydd," ebe fe, yw amddiffyn y dreftad- aeth a dderbyniasom, a'r hon a gymun- roddwyd i ni er lies y bobl. Y maedal eiddo Eglwysi yn ymddiriedaeth ddifrifol er gogoniant Duw ac adeilaeth ei bobl, ac ni ddylid penodi dynion i fywoliaethau er mwyn cyfeillgarwch personol."
[No title]
ODDIWRTH yr adroddiad byr a welsom yn y Morning Post o'r siars dan sylw, deallwn i'w Arglwyddiaeth wneyd sylwadau ar y fantais a ddeilliai o gael gweinidogion nad ydynt yn ymddibynu am eu cynhaliaeth ar y rhai ag y bydd yn ddyledswydd arnynt eu ceryddu am eu pechodau." Dyma un o brif ragoriaethau cyfundrefn Eglwys Sefyd- ledig ar y drefn wirfoddol. Cof us genym glywed hen weinidog Ymneillduol yn myned drwy yr anhawsderau a deimlai ef i weinyddu disgyblaeth yn y capel o dan y gyfundrefn wirfoddol. Yr oedd boneddiges o gryn gyfoeth yn aelod o'r gynulleidfa, a'i chyfraniadau hi oedd yn gwneyd i fyny y rhan fwyaf o gyflog y gweinidog. Dechreu- wyd taenu son annymunol am fuchedd y foneddiges yn yr ardal, a chyrhaeddodd y swn hwn glustiau y pregethwr. Teimlodd yntau at unwaith mai ei ddyledswydd oedd arfer disg)blaeth. Aeth i ymweled a hi, gan obeithio y byddai i ychydig ymddiddan cyfeillgar ateb y diben, ac na byddai yn rhaid mabwysiadu y cwrs poenus o ddwyn y mater o flaen y frawdoliaeth yn gyhoeddus. Y mynyd y crybwyllwyd y mater poenus gan y pregethwr, tynodd y foneddiges ei phwrs allan a daliodd ef yn ngwyneb y gweinidog. Ymhen ychydig ddyddiau clywyd fod y foneddiges wedi gwneyd ei meddwl i fyny i leihau ei chyfraniadan. Nis gallai hyfforddio mwyach roddi ond haner y swm a arferai gyfranu. Agorwyd llygaid y pregethwr. Gwelodd fod rhywbeth pwdr iawn yn y gyfundrefn y gweithiai ef o dani. Dechreuodd chwilio i mewn i egwyddorion a chyfundrefn yr Eglwys, ac y mae heddyw yn offeiriad yn yr Eglwys yn Nghymru.
[No title]
YMHLITH eraill sy'n gwneyd gwaith da ymhlith tlodion Llundain, yr ydym yn deall fod y Gymraes adnabyddus Mrs. Watts Hughes yn gwneyd gwasanaeth rhagorol yn y cyfeiriad hwn. Y mae ganddi Gartref i Fechgyn diymgeledd yn 183, Holloway Road, Llundain. Y mae'r Cartref o dan riawdd Duces St. Alban. Dechreuwyd y gwaith yn mis Tachwedd, 1881, drwy ddarparu dwy ystafell i fod yn gysgod i fechgyn bach a arferent gysgu allan. Yn mis Mawrth, 1882, eangwyd y gwaith a chymerwyd ty, yr hwn sydd yn ddigon mawr i gynwys 30 o fechgyn, ac y mae y rhan amlaf yn llawn. Deallwn fod Mrs. Watts Hughes yn cynal cyngherdd yr wythnos hon yn Merthyr Tydfil er budd y Cartref,
[No title]
YCHYDIG amser yn ol cynhaliwyd angladd Brenin y Sipsiwn. Gan nad oedd y Brenin yn perthyn i'r Eglwys, nac i un enwad neillduol, cymerwyd y corph yn gyntaf i'r Capel Ymneillduol, a chladdwyd ef yn ddilynol yn nhir yr Eglwys. Y mae 1 rhai i'w cael eto yn Nghymru, er bod eu nifer yn llawer llai nag oedd, a arferant fyned i'r Eglwys un rhan o'r Sul ac i'r capel y rhan arall. Pa bryd bynag y clywn am y cyfryw yn y dyfodol, naturiol iawn fydd eu rhestru gyd a'r Sipsiwn.
MESUR PRIODAS GYDA CHWAERj…
MESUR PRIODAS GYDA CHWAERj GWRAIG DRANCEDIG. ERTHYGL II. Yn ein herthygl yr wythnos ddiweddaf gosodasom i lawr brif benau ein hymchwil- iad i'r pwnc hwn, gan fwriadu dechreu gyda'r cwestiwn, Beth ddywed Gair Duw arno ?" A Gair Duw yn uchaf." Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion." Erjjjmwyn eglurder ein hymresymiad, cawn ranu y cwestiwn yn ddau, a gofyn, 1. Beth yw athrawiaeth y Beibl ar Briodas ynddi ei hun ? 2. Beth yw ei athrawiaeth ar y briodas amcanedig hon ? Priodas ynddi ei hun.-Genesis i. 27, Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun— yn wryw ac yn fanyw y creodd efe hwynt." Genesis ii. 23, 24, Hon sydd asgwrn o'm hasgwrn i, a chnawd o'm cnawd i-o Nvr y cymerwyd hi,"—" a hwy a fyddant un cnawd." St. Matthew xiv. 6, Nid ydynt mwy yn ddau, ond un cnawd." Ephesiaid v. 28, 29, Yr hwn a garo ei wraig sydd yn ei garu ei hun, canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun." Defnyddir yr undeb priodasol gan St. Paul fel engraipht i egluro dirgelwch mawr undeb Crist a'r Eglwys. Yn ol y Beibl gan hyny mae yn amlwg fod priodas yn rhyw- beth mwy na chytundeb cyfreithiol a chym- deithasol. Y mae yn undeb, yn uniad, naturiol. "Nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd." Pa fodd ? Ai drwy osod- iad dyn ? Nage, eithr drwy allu y Crewr. Duw a greodd y dyn-yn wryw ac yn fanyw y creodd efe hwynt. Priodas y dyn ydoedd pprffeithiad a chwblhad ei greadigaeth- deddf uchaf ei natur fel rhan o'r greadig- aeth faterol. Ac y mae y ddeddf hon yn ei grym fyth, a gallu'r Crewr yn dwyn oddi- amgylch yr un effeithiau-" hwy a fyddant yn un cnawd." Yn ol y ddeddf hon gan hyny, pan briodir, y mae perthynas y gwr yn berthynas y wraig, a pherthynasau y wraig yn berthyn- asau y gwr. Y mae y gwr a'r wraig yn un, yn ol deddf priodas; nis gall, gan hyny, perthynasau yr un fod yn wahanol ar y naill law i'w berthynasau ar y llaw arall. Dyna egwyddor fawr priodas yn ol y Beibl, ac y mae gwyrni oddiwrthi yn drosedd ar ddeddf natur ac ar ordeiniad sanctaidd Duw. Y Briodas amcanedig hon.-Nid Blue Book ydyw'r Beibl, wedi ei ddosranu yn ofalus yn sections a sub-sections, fel y gellid difynu o hono, wrth fesur, osodiad ar fater ein hym- chwiliad. Dadguddiad o egwyddorion ydyw egwyddorion mor fawr er hyny fel ag i gyr- haedd i'r manylion lleiaf. Pe gofynid pa faint o'r Beibl sydd yn gyfeiriadwy at y mater hwn ni raid ofni dweyd fod yr oil o hono. Y mae cysondeb y Beibl ag ef ei hun y fath fel y buasai un adnod ynddo ar y pwnc yn ddigon er diogelu fod yr holl Feibl arno. Ac felly y mae ar y mater mewn Haw. Y rhan o'r Gair Dwyfol y cyfeiriwn ato ydyw Lefiticus xviii. 6-18. Yma cawn ddeuddeg o briodasau yn cael eu gwahardd, gydag egwyddor y gwaharddiad yn cael ei gosod i lawr ar ben y rhestr. Yr egwyddor hono ydyw (adnod 6) "Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd, myfi yw yrArglwydd." Yna canlyn y gwaharddiadau neillduol hyd y 18fed adnod. Mae yn amlwg fod y rhai hyn yn seiliedig ar ac yn tarddu oddiwrth yr egwyddor uchod, a'u bod oil hefyd yn gyson a Deddf Priodas, ac yn rhoddi goleuni pellach arni. Os felly, yna, wrth y fraw- ddeg "cyfnesaf ei gnawd," rhaid deall perthynasau yn nghyfraith yn gystal a pherthynasau o waed. Allan o ddeuddeg gwaharddiad y mae saith yn gyfeiriedig at berthynasau yn nghyfraith, sef llysfam, llysferch, modryb- yn-nghyfraith, merch-yn-nghyfraith, a'r ddwy chwaer-yn-nghyfraith, sef gwraig brawd, a chwaer gwraig. Ac y mae hyn yn gyson a deddf bell-gyrhaeddol Priodas, ac yn rhoddi eglurhad arni, A hwy a fyddant un cnawd." Cyfnesaf ei gnawd," ydyw pwy bynag sydd berthynas drwy briodas yn ol gallu ac ordeiniad Duw. Nis gellir eithrio gan hyny yr un o'r saith perthynas hyn— cyrhaeddir hwynt oil gan Ddeddf Priodas. Cyfnesaf ei gnawd yw y llysfam fel y llysferch, y ferch-yn-nghyfraith fel y fodryb- yn-nghyfraith, a'r chwaer-yn-nghyfraith ar; mhr y wraig fel y chwaer-yn-nghyfraith ar ochr y gwr. Y peth gan hyny a gysyllt- odd Duw, na ysgared dyn." Y mae Gair Duw yn gyson ag ef ei hun o'r dechreu hyd y diwedd. Tuag at yr hyn a ymddengys yn wahanol yn marnedigaethau Moses, esbon- iad cyflawn hyny ydyw mai goruchwyliaeth anmherffaith ac anghyflawn ydoedd yr eiddo ef. Moses a orchymynodd ebe'r Pharis- eaid Moses a oddefodd," ebe'r Deddf- roddwr ei hun, St. Matth. 19. Y mae Gair Duw yn ddifloesgni gan hyny yn condemnio y mesur hwn.
ABERDYFI.
ABERDYFI. Mae lliaws mawr o ddieithriaid wedi ymweled &'n tref ni eleni, fwy feallai nag yn ystod un flwyddyn yn fiaenorol, ac er fod y Methodistiaid wedi parotoi gwasanaethau Saesneg ar eu cyfer ac o dro i dro wedi sicrhau gwasanaeth ami i Great Oun, eto yn hen Eglwys eu Tadau y maent yn hoffi addoli. Yr oedd Eglwys St. Pedr y Sul diweddaf, yn y gwasan- aethau Saesneg (y gwasanaethau Cymraeg wrth gwrs fel arferol), yn orlawn o ddieithriaid awyddus i dalu diolch am yr ami ddaioni a dderbyniasent ar Ei law Ef, &c., a chafwyd gwasanaethau hynod o lewyrchus. Traddodwyd pregeth odidog yn y gwas- anaeth boreuol gan y Parch. E. T. Davies, B.A., y parchus ficer, oddiar y geiriau, Ac er fod cymaint ni thorodd y rhwyd," ac yn y gwasanaeth pryd- nawnol cafwyd pregeth wir flasus gan y Parch. J. Greenland, ficer Netherfield, Swydd Nottingham, addiar y geiriau, Canys awydd-fryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw." Dylem nodi hefyd i'r Ficer draddodi pregeth penigamp ar Ganiadaeth y Oysegr yn y gwasanaeth Cymraeg hwyrol. Hyderwn y gwelir hi yn argraffedig.- Eglwyswr.
CYNHADLEDD EGLWYSIG BANGOR.
(Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) CYNHADLEDD EGLWYSIG BANGOR. At Olygydd "YLlan." MR. GOL.Erfyniaf am ychydig ofod yn y LLAN i geisio cadw yn fyw o flaen eii-i Ilygaid y pynciau pwysig a fu dan ystyriaeth yn y gwahan- ol gyfarfodydd yn Bangor. Erbyn hyn mae y gyn- hadledd hon fel eraill sydd wedi ei rliagflaenu, wedi rhestru yn mysg y pethau a fu. Cofier nad oes dim ffrwyth i'w ddisgwyl heb ddwyn allan i weichrediad yr hyn fu dan sylw. Dyna'r ffordd i wneyd y cyfarfodydd hyn yn fuddiol. Hyfryd i'r glust yw gwrandaw ar ddynion galluog yn siarad ar wahanol bynciau, i bigo'r gwallau, nodi'r diffygion, canmol y da, dyrchafu'r rhagorol, ac y mae hyny yn angenrheidiol ar yr esgynlawr a'r wasg. Mae llais lleygol yr Eglwys wedi bod ac yn wir yn bod i raddau mawr yn ddistaw yn eu golygiadau a? faterion o bwys. Credwn, pe caem mewn gweithrediad yr hyn a fu dan ystyriaeth yn ein cynhadledd eleni, y byddai gwedd wahanol a hyny yn fuan ar ein heglwysydd a'n cynulleidfa- oedd. Cyn y ceir bywyd mae yn rhaid cael rhediad o'r gwaed drwy yr holl gorff, ac nid mewn rhan o hono. Gwnaed sylwadau da gan y Parch. D. Lloyd, Llandrygarn, o berthynas i roddi llais i'r eglwysydd yn newisiad eu gweinidogion. Dad- leuir gan lawer nad yw hyn yn bosibl heb gyfraith i orfodi; ond credwn y gellid ei gael yn llawn mor effeithiol. Pe bae yn cychwyn drwy ein Hesgobion, pe dechreuent hwy byddai i noddwyr eraill eu hefelychu, ond rhaid gadael i'r Esgob arfer ei ddoethineb yn hyn. Dylai yr Esgobion, pan mae unrhyw le yn myned yn wag fyned yn bersonol i'r plwyf hwnw, wedi rhoddi rhybudd ymlaen llaw o'i ddyfodiad, er ei alluogi i wybod teimladau yr Eglwyswyr yno. Terfynaf ar hyn y tro hwn. HORAN.