Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
CASTELLNEDD A'R CYLCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CASTELLNEDD A'R CYLCH. Bethesda, Briton Fei-ry.-Cynhaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd pregethu nos Sadwrn a'r Sal, Gorffennaf 10fed a'r lleg, pan y gwasanaethwyd gan y Parch H. Blvet Lewis, M.A., Llundain. Nid oes neb yn fwy poblog- aidd gydag unrhyw enwad yn y cylchoedd hyn na'r bardd-bregethwr hwn. Cafwyd cyflawn- der bendith yn yr holl odfeuon. Siloh, Afelinerythan.-Noo Sul, Gorffennaf 18fed, ar derfyn gwasanaeth cyhoeddus y dydd, cyflwynwyd anthegion, yn cynnwys anerchiad goreuredig a swm sylweddol o aur, i Mr D. Bassett Davies, orgaoydd yr eglwys a'i briod, ar achlysur eu priodas Trosglwyddodd Mr Evan Jones, ysgrifennydd yr eglwys, yr an- erchiad, a Mr William Evans, y trysorydd, yr aur mown geiriau pwrpasol. Ysbyty Rhyfel Castellnedd.-Agorir hwn ar fyrder i dderbyn rhyw gannoeld o glwyfedig- ion y rhyfel, a threfna eglwysi y dref a Briton- ferry cydrbyngddynt wasanaeth orefyddol er cysur ysbrydol y trueiniaid at nos Sabothau. Deallaf y rhoddir gwasanaeth cyffelyb gan Eglwys Loegr yn y bore. Teiralir diddordeb cyffredinol yn y mudiad, a diauy gwerthfawr- ogir y gwasanaeth gan y sawl y bwriedir ef ar eu cyfer. Mae y dyddiau yn rhai enbyd, ac yn galw am orou pawb. (JOBBBYDD.
ABERAFON. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERAFON. p; I AGOUIAD^CAPKJ- NEWYDD SAI,EM, SANDl'IElyDS. | Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriadol y capel uchod dydd lau, Gorffennaf laf, a'r Sul a'r lylun canlynol. Pregethwyd am y waith gyntaf yn y capel newydd y Saboth blaenorol gan y gweinidog, y Parch Edward James, i dyrfa liosog o bobl. Am 2 o'r gloch prydnawn dydd Iau llywydd- wyd gan Faer y dref, y CynghorwrW. J. Williams, Y.H. Wedi canu emyn y tuallan i'r capel, gal- wodd ar Mrs Francis, gweddw y diweddar Barch David Francis, Glyncorrwg. ac aelod hynaf yr eglwys, yn cael ei chynorthwyo gan Mr T. J. Williams, A.S., Treforris, a Mrs Williams, i agor drws y capel newydd yn ffurfiol. I^Siaradodd Mrs Francis ychydig eiriau tyner a phwrpasol i'r amgylchiad, a dilynwyd hi gan Mr a Mrs Williams. Yna gosododd yr allwedd yn y clo, agorodd ddrws y deml newydd, ac awd i mewn yn dyrfa fawr hyd nes oedd yr adeilad prydferth wedi ei lenwi gan aelodau yr eglwys ac eraill oedd wedi dyfod ynghyd i gydlawen- hau gyda hwynt ar yr achlysnr diddorol yn eu hanes. Cyn dechren y gwasanaeth yn y capel, cyf- lwynodd Mr Hopkin Morgan, arweinydd y gan, allwedd yr organ newydd i Mrs John, organyddes yr eglwys, yr hon sydd wedi gwasanaethu am flYllyddoedd ynglyn a cherddoriaeth y cysegr yn y lIe gyda llawer o fedr a ffyddlondeb. Yna cyflwynwyd Beibl i'r eglwys at wasanaeth v pulpud gan Mrs D. James, Thoiiias-street Ilyfi-aii liyiiinau gail Mrs Jones, Pentyla bedydd- faen gan Mrs Trustier llawrlenni i'r pulpud a'r set fawr gan Mrs Evan Thomas, Alfred-street, ynghyda lliaws o roddion eraill gan aelodau yr eglwys a chyfeillion o'r tuallan. §j|Dechreuwyd y cyfarfod yn y capel trwy ddar- llen rhan briodol o Air yr Arglwydd gan Mrs Thomas Davies, diacon hynaf yr eglwys, a gweddiwyd yn effeithiol gan y Parch J. Griffiths, Wern. Wedi canu emyn cafwyd anerchiad brwd- frydig o'r gadair gan y Maer, yn llongyfarch yr eglwys ar ei llafur yn codi adeilad mor hardd at wasanaeth yr Arglwydd yn y rhan boblog hon o'r dref. Yna galwodd ar Mr T. J. Williams, A.S., i annerch y cyfarfod, yr hwn a dystiolaethai ei fod yn falch i fod yn bresennol ar aehlysur mor ddymunol yn hanes yr eglwys, a'i fod nid yn unig yn en llongyfarch fel gweinidog ac eglwys ar eu gwaith yn codi capel mor brydferth, ond hefyd am yr ymdrech egllïal oeddynt yn barod wedi ddangos i dalu am dano, gan eu bod eisoes wedi casglu £ 700 ar gyfer dydd ei agoriad a gobeithiai y byddai iddynt barhau i weithio gyda'r un ffyddlondeb yn y dyfodol fel ag i lwyr ddileu y ddyled ymhen ychydig flynydd- oedd. Credai fod dyled drom yn llesteirio eglwys i wneud ei gwaith yn briodol, ac y dylid ei symud mor fuan ag y byddo modd, Dymunai i'r gwein- idog a'r eglwys pob llwyddiant i gario y gwaith ymlaen er lleshad moesol ac ysbrydol y dref ac er gogoniant i Dduw. Yna cyflwynodd y Parch Edward James, y gweinidog, ddiolchgarwch cynhesaf yr eglwys i'r Maer am lywyddu mor ddeheuig, ac i aelodau y Cyngor Trefol ynghyda Mr T. J. Williams, A.S., a Mrs Williams ac eraill, am eu presenol- deb a'u cynhorthwy yn y cyfarfod, ac eiliwyd ef gan Mr John Daniel, Caerdydd. Gan fod galwad ar y Maer i ymadael o'r cyfar- fod at wasanaeth arbennig ynglyn a'i swydd yn y dref, cymerodd y gweinidog at lywyddu'r cyfarfod, a galwodd ar Mr Daniel i ddarllen papur ar Hanes yr Eglwys yn Sandfields,' yr hwn a gyflwynodd. mewn ychydig eiriau hanes clir, nianwl a chyflawn o'r achos yn y lie oddiar ei gychwyniad tua'r flwyddyn 1880 hyd yn bres- ennol. Byddai yn anawdd cael neb cymhwysach na Mr Daniel i ysgrifennu hanes yr eglwys hon, gan iddo fod yn golofn gref o dani, ac wedi cymeryd rhan flaenllaw ynglyn a'i holl symud- iadau bron er y eyellwyli ac er ei fod er's tro bellach wedi symud i fyw i Gaerdydd, y mae ef a'i briod yn teimlo y diddordeb mwyaf yn yr eglwys, ac yn parhau yn haelioni arferol eu blag ati ar hyd yr holl amser. Diolchwyd yn gynnesu Mr Daniel am ei bapur rhagorol, ac yna galwodd y Cadeirydd ar y Parchn James Evans, B.A., Caerdydd (cyn- weinidog yr eglwys) J. Edwards, Castellnedd a T. H. Thomas, Port Talbot, i siarad, a chaf- wyd gan y naill a'r llall ohonynt ychydig eiriau pwrpasol i'r amgylchiad. Terfynwyd y cyfar- fod trwy fawl a gweddi. Yn yr hwyr am 6.30 cynhaliwyd cyfarfod pregethu. Dechreuwyd yr odfa gan y Parch James Evans, B.A., Caerdydd, a phregethwvd yn hynod rymus ac effeithiol gan y Parchn W. Evans, B.A., Penybont-ar-Ogwy (yn Saesneg) a W. S. Jones (B), Llwynypia, yn Gymraeg. Pregethwyd y Sul canlynol, Gorffennaf 4ydd, gan y Parch G. Penar Griffiths, Pentre Estyll, a dechreuwyd y gwahanol gyfarfodydd ar hyd y dydd gan y Parch D. Pugh Bevan (B), Aber- afon, a Mr J. Lewis (B), Calfaria, Port Talbot. Am 2 o'r gloch dydd Llun dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch T. H. Thomas, Port Talbot, a phregethwyd gan y Parch D. Emrys James, Pontypridd. Yn yr hwyr am 6.30 dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch Evan Jones, Cwmafon, a phregethwyd gan y Parch D. Emrys James (yn Saesneg) a'r Parch G. Penar Griffiths (yn Gymraeg) Hyderwn nad yw y cyfarfodydd hyn ond megis blaenffrwyth o'r dylanwadau dwyfol fydd yn cydfyned a chynulliadau yr eglwys hon yn y dyfodol. Canwyd unawdau yn dra swynol yn ystod y cyfarfodydd gan Mr W. James, Mrs George, Miss iizzie James, Mrs Austin a Mrs Rowlands. Dechreua yr eglwys yn awr ar gyfnod newydd a phwysig yn ei hanes o dan amgylchiadau hynod ffafriol. Bu ei chynnydd yn amlwg iawn yn y blynyddoedd sydd wedi myned heibio ac er yn llafurio ar adegau dan gryn lawer o anfanteision, y mae erbyn hyn wedi dyfod yn eglwys o gryn allu a dylanwad yn y rhanbarth hwn o'r dref. Bellach y mae ganddi gapel eang a thlws gwerth tua ^1,700, vr hwn sydd yn adlewyrchu llawer o glod ar y cynllunydd a'r adeiladydd, Mr Thos. Evan Thomas, ysgrifennydd yr eglwys. Ceir yn Sandfields faes helaeth i lafurio dros Grist, ynghanol poblogaeth liosog, a chyfle ardderchog i eglwys weithgar wneud daioni; a chredwn fod yn Salem bobl a chanddynt galon i weithio, ac yn awyddus i weithredoedd da a diau y bydd yr eglwys hon yn ddylanwad cryf i buro a dyrchafu cymdeithas yn y cylch poblog hwn. Chwe blynedd yn ol rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch Edward James i ddyfod yma i'w bugeilio yn yr Arglwydd, ac y mae yntau oddiar hynny hyd yn awr wedi profi ei hun yn weithiwr difefl a llwyddiannus, ac yn uchel ei barch ymysg ei bobl ac yn y dref yn gyffredinol. Dymunwn iddo ef a'r eglwys yn Salem lwydd- iant mawr yn y dyfodol, gan hyderu y corona yr Arglwydd eu hymdrechion eto, er ennill eneidiau lawer at Iesu Grist o fewn muriau y deml newydd hon. T. H. T.
Mynydd Seion, Ponciau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mynydd Seion, Ponciau. Oyd abod Teilyngdod.-Da. y gwnaeth yr eglwys uchod i basio penderfyniad unfrydol ei bod yn codi cyilog ei horganydd. Anrhyd- eddodd ei hun wrth wneud hynny, oherwydd y mae Mr L Bo wen yn un o organwyr mwyaf talentog y cylch. (iOHKBYDD.
CREFYDD YN COLLI TIR.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
(r) Mae y rhyfel wedi taflu ei gysgod yndrwm ar y wlad, er nad yw yr effaith mor ainlwg efallai ag y dylai fod. Yr oedd swn a sawyr rhyfel ar yr holl weith- rediadau, ac eto mae'n amheus gennym a yw Cymru wedi sylweddoli yn hollol ddifrifwch y sefyllfa. Dywedwn hyn er fod dros 100,000 o Gymry wedi ymrestru, ac nas gellid disgwyl llawer mwy oddi- wrthym fel Tywysogaeth. (zLUn o wyr mwyaf y byd heddyw yw Mr Lloyd George. Yr oedd ei araith yn odidog o ran ysbryd a chynnwys a neges. Mae ei bersonoliaeth a'i ddylanwad, ei swyn a'i ddawn, ei athrylith a'i ysblander meddyliol yn rhyfeddol—yn colossal-ac mae eisoes wedi gwneud ei 61 ar holl hanes y byd am byth. Os oedd enw Cymro ar y Magna Charta, bydd enw Lloyd George hefyd wrth siarter fwy a arwyddir wedi'r rhyfel hwn. Mae'r byd yn falch ohono, a dylai Cymru orfoleddu yn ei oleuni. (3) Mae'r Eisteddfod yn prysur lithro o ran ei lien a'i hawen i ddwylo'r Brifysgol. Llanciau'r Colegau sy'n ennill pob camp ar gan a lien, a'r un rhai flwyddyn ar 011 biwyddyn. Aiff y Gadair a'r Goron yn eiddo hollol i ysgolheigion llyfrbryfol a gynhyrchant awdlau a phryddestau clas- urol n'a fedr neb eu darllen ond mewn dosbarthiyn y Brifysgol. Uj|Tyr beirdd naturiol y mynydd a'r mor, yr afon a'r maes, eu calonnau, ac ni welir mwy feirdd o ddosbarth Dyfed a Tudno, Hiraethog ac Eben Fardd, Emrys ac Ap Fychan yn eistedd yng Nghadair yr Eisteddfod. Gwyr y dictionary a'r gramadeg, a chopiwyr beirdd y cynfyd a'r gwledydd tramor— beirdd yr allanolion a'r cnawd, y lliw a'r llun-fydd bia bob llawryf. Yna riioddir i fyny'r Eisteddfod i'r Brifysgol, a daw yn gangen ohoni. Yn wir, yn llenyddol! mae felly eisoes. (4) Y canu a'r gerddoriaeth yn unig sy'n werinol yn yr Eisteddfod erbyn hyn. Ac y mae arwyddion fod pla niweidiol y cystadlu noeth yn marwhau, a'r gelf ei hun yn dod i'w rhan. Clywid cri croch o wersyll y beirdd a'r llenoiion ychydig flynr yddoedd yn ol fod y canu a'r corau yn mynd i ladd yr Eisteddfod, ond ymddengys erbyn hyn mai'r corau a'r cantorion fydd ei hunig wared wyr wedi'r cw bl. Bid fynno, hwynt-hwy yn unig a'i ceidw'n werinol. Warsaw. MAE Warsaw wedi cwympo. Beth nesaf ? Pryderus a thywyll yw'r cyflwr heddyw, ond daw tro r Unolwyr yn y man, a hwnnw yn dro eifeithiol hefyd dan fen- dith Duw. Ein dyledswydd fawr fel gwlad heddyw yw cadw ein pen a'n gobaith, a dal ati i gynilo a gweithio a gweddio. Mae'r cyntaf yn bosibl i bawb, a dylid atal pob gwastraff gyda llaw gref. Hefyd rhodder pob ceiniog ellir hepgor i Drysorfa y Rhyfel yn fenthyg am log da, ac i helpu'n bechgyn dewr i ennill y dydd yr un pryd. Mae meddwi enbyd ymysg v gweithwyr o hyd, fel y gwelir ymhob tref ac ardal boblog ar noson tal. Mae mamau a merched a phlant yn gorlenwi'r cinemas bob nos, a llawer yn ddibris o'r arian mawr a enillant. Gallwn oil weithio a gweddio o blaid buddugoliaeth, oblegid rhyfel i ddiogelu rhyddid a chynnydd a chariad yw hwn rhag traha a gormes a chreulondeb erchyll y gelyn mwyaf dieflig a-barbaraidd a gwaedlyd welwyd yn sarnu daear erioed.