Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

At Etholwyr Bwrdeisdreli Dinbycb.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

At Etholwyr Bwrdeisdreli Dinbycb. FONEDDIGION,— Yn unol &'r addewid a roddais chwe blynedd yn ol, ac mewn cydsyniad a gwa- hoddiad calonog ac unfrydol ylcymdeithas- au Rhyddfrydig a Llafur, yr wyf yn cael yr anrhydedd a'r pleser etto o gynnyg fy hun fel ymgeisydd dros Fwrdeisdrefi Sir Ddinbych. Yn yr etholiad hon gelwir arnoch i ddyweyd, pa un a ydych yn dymuno cael Llywodraeth a ymddyga yn wahanol tuag atoch i'r Llywodraeth Doriaidd ddiweddar. Gofynir i chwi hefyd benderfynu pa un a ddygir i mewn y Trefniadau Cyllidol a'r Tollau ar Ymborth a ddiddymwyd drigain mlynedd yn ol. Dyma y prif gwestiynau yn yr ymdrechfa hon. Y Llywodraeth Toriaidd ydoedd yr un fwyaf AFRADUS a GWASTRAFFUS yn hanes y wlad. Y maent wedi cyn- nyddu y Treuliau Cenedlaethol mewn deng mlynedd i'r swm o bum cant a hanner o filiynau o bunnau. Golyga hyn FAICH CHWANEGOL o 305,000p. ar etholwyr Bwrdeisdrefi Sir Ddinbych ynunig. Igyfar- fod a'r afradlonedd a'r gwastraff hwn, y maent wedi CODI TRETH YR INCWM o 8g. i Is. yn y bunt; y maent wedi gosod TOLLAU CHWANEGOL ar DE, TY- BACO, a SIWGR,arhoddi tollols.y dynell ar y gl6 a allforir. Trwy weithrediad unol y Doll ar Siwgr, a'r Cyttundeb Siwgr fFol a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth Doriaidd i attal i Lywodraethau tramor dalu hanner pris y siwgr yr ydym ni yn .ei ddefnyddio, taflwyd 50,000 o weithwyr yn masnachau dyfroedd mwnawl (mineral waters) a'r melusion (conjectionary) yn y Deyrnas Gyfunol allan o waith. Trwy y DOLLANGHYFIAWN AR LO, gwnaed miwed difrifol i'r fasnach 16; ac yn maes jglo Gogledd Cymru y mae miloedd o fwn- wyr wedi cael eu gosod i weitbio amser byr, gan orfod dioddef trueni a phrinder mawr; ac mewn canlyniad i hyny, gwnaed niwed difrifol i fasnachwyr Bwrdeisdrefl Sir Ddinbych, trwy fod lIa wer llai o arian gan y mwnwyr i'w gwario. Yn 1900 gofynodd Mr. Dalfour a Mr. Chamberlain am archeb gan yr etholwyr i derfynu y rhyfel. Yr hyn a wnaethant wedi ei .gael oedd pasio CYFRAITH ADDYSG, yr hon oedd yn cynnwys llawer o ddarpariaethau anghyfiawn ac anniodd- efol, gan achosi tryblith ac annhrefn mawr, a gwneuthur niwed i effeithiolrwydd yr addysg; a Chyfraith Drwyddelol, yr hon, tra nad oedd yn gwneyd dim tuag at Ddi- wygiad Dirwesto] gwirioneddol, oedd er .mwyn mantais i ddarllawyr mawrion neill- Hesteirio y ddoethineb farnol a rU ai ein heddynadaeth ar hyd y blyn- y d°edd, a gosod baich annheg ary person oedd yn weithredol yn dal y drwydded. Gwnaed cam-ddefnydd or aberth ar fywydau ac iechyd ein milwyr gwrolfrydig, balchder penaf yr Ymherodraeth Bryd- einig, ac o'r draul anferth ar irian yn Neheudir Affrica, trwy ddwyn i mewn 50,000 o lafurwyr (Coolies) Chineaidd, a hyny yn peri cau allan FWNWYR GWYNION a deiliaid PRYDEINIG. Y cyfleusderau i Ddiwygio y Fyddin a waatraffwyd yn ofer gan Weinidogion Rhyfel anfedrus gyda'u cynlluniau ne- wyddion ansefydlog) y rhai a osodid o'r neilldu gynted ag yidygid hwy ger bron. Amean y Llywodraeth Ryddfrydig fydd dadwneyd gwaith drygionus y Llywodr- aeth Doriaidd ddiweddar. Yr wyf mewn modd parchus yn ceisio eich pleidleisiau, mewn llawn ymddiried y bydd i chwi roddi eich cynnorthwy yn y gwaith hwn. Yr wyf hefyd yn hyderu ac yn credu y bydd i chwi roddi dadganiad mewn modd penderfynol yn erbyn cynnygion Mr. Chamberlain, y rhai a gefnogir gan Mr. Kenyon, i adnewyddu Diffyndolliaeth a'r Tollau ar Ymborth, pa rai a achosent ddioddefaint mawr yn mysg ein dosbartb- iadau gweithiol trwy leihau swm y gwaith, a chwanegu traul byw. Os bydd i chwi fy anrhydeddu trwy fy ethol, bydd i mi wneyd fy ngoreu, trwy dalu sylw cysson i ddyledswyddau senedd- ol, i sicrhau deddfwriaeth ar y cwestiynau Cenedlaethol Cymreig, Rhyddfrydig, a Llafurol, ar hyd y llinellau ag yr wyf wedi cael cyfleusderau mor fynych i'w gosod ger eich bron. Os caf fy ethol, bydd i mi, heb gymmeryd i ystyriaeth wahaniaethau plaid, roddi jfy ngwasanaeth diflino i hy- rwyd do manteision masnachol a chysur diwydiannol Bwrdeisdrefi Sir Ddinbych. Meddaf yr anrhydedd o fod, Foneddig- ion, Eich ufudd wasanaethwr, CLEMENT EDWARDS.

TO THE ELECTORS OF THE DENBIGH…

Etholiad Seneddol 1006. ,-

Advertising