Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y PRIFWEINIDOG AR LANAU Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PRIFWEINIDOG AR LANAU Y FERSWY. Nos Fawrth, bu Syr HENRY OAMPBELL BANNERMAN yn anerch torf a rifai filoedd yn y Sun Hall, Liverpool. Dywedodd, yn mysg aneirif lu o bethau daionus eraill, ei bod yn rhaid i'r blaid Ryddfrydig gario y dydd yn yr etholiad sydd yn awr wedi ei dechren, o herwydd fod y tri nerth cryfaf yn bossibl o'u plaid: Cydwybod y cy- hoedd, Ymdeimlad y cyhoedd o iawnder, a Ohariad y cyhoedd at egwyddor chwareu teg.' Am nerth y tri hyn ar wahân, ac yn enwedig mewn undeb, nis gall yr ammheu- aeth lleiaf fod yn meddwl neb am foment. Ar yr un pryd, nid ydynt bob amser yn nertboedd digon cryfion i ddarostwng y buddiannau ag y mae dynion fel Arglwydd ROTHSCHILD, er enghraifft, yn gynnrychiol- ydd teilwng ac ymlyngar iddynt Geilw penaeth y pendefigion Iuddewig ei hun yn Rhyddfasnachwr. Am ddim ar a wyddom ni yn amgenach y mae efe yn Rhyddfas- nachwr gonest a flyddlawn. Ond nid ar bwys y ffaith ei fod ef newydd roddi ei fend!th Abrahamaidd i Dori ac aelod o'r hen Weinyddiaeth a wnaeth ac a bender- fyna barhau i wneyd ei oreu i ddinystrio y trefniant cyllidol sydd wedi dwyn ei gyf- oeth i deulu y ROTHSCHILDS y buasem yn casglu ei aiddgarwch ef dros Fasnach Rydd. Y mae yn d3byg mai rheawm ei arglwydd- iaeth dros fendithio y gweinidog Tormidd ydoedd ei gred mai Toriaeth fydd yn debyg o roddi yr achles oreu i gyfoeth ar ol ei gasglu. Ond pan wel gweithwyr, a mas- nachwyr bychain, a dosbarth canol Pryd- ain Fawr, uH o'n goludogion enfawr fel Ar. glwydd ROTHSCHILD yn rhoddi ei gefnog- aeth i Lywodraeth wedi colli pob ysgrepy- o gymmeriad, yn sicr hwy a ddylent weled, hefyd, mai yn nwylaw Llywodraeth Rydd- frydig y bydd buddiannau neillduol gwerin y wlad yn fwyaf diogel yn mhob ystyr. Ond prin y mae yn werth gwastraffu am- ser ar y pen-Iuddew. Gallasem ddisgwyl iddo, ef o bawb, gofio mai i'r Rhyddfryd- wyr y dylai ef a'i genedl ddiolch am fod dorau y senedd-dy wedi eu hagor idd- ynt o gwbl. Yn awr, at y cyfarfod a'r araeth. Rhifai y gynnulleidfa yn y man lleiaf chwe mil. Y nodwedd a dynai sylw pawb ydoedd t6n uchel ac urddasol yr holl weithrediadau. Hyd yn oed yn ei gerdd- oriaeth yr oedd yn uchel. Nid y baledi di-chwaeth a chyffredin arferol mewn cyf- arfodydd o'r fath a genid. Cerddoriaeth uchraddol C6r Philmarmonig Port Sunlight yn hytrach, yn cael ei gynnorthwyo gan gerddorfa ragorol. Y gynnulleidfa ei hun, yn ogystal, ydoedd wahanol i'r un a geir yn gyffredin ar achlysuron o'r fath. Y gair masnachol.' neu gyllidol' yn hytrach na'r gair 1 politicaidd,' ysgatfydd, a fyddai yr ansoddair mwyaf priodol i'w dis.,riflo. 0 dan nawdd Oymdeithas Diwygiad Cyllidol' (' The Financial Reform Association') y cynnelid y cyfarfod; a llywydd galluog y gymdeithas hono, Mr. E. K. MUSPRATT, ydoedd y cadeirydd. Hufen Rhyddfryd- iaeth siroedd Oaerhirfryn a Chaerlleon, yn nghyd a'r Mri, SAMUEL SMITH, HERBERT LEWIS, a SAMUEL Moss, oeddynt ar y lJwyf. an. Y mae yn debyg na ddylid synu ddarfod i'r merched awyddus am bleidleis- iau beri cyffro yn y cyfarfod hwn, fel mewn llu o gyfarfodydd tebyg yn ystod y pythef- nos diweddaf. Buont yn dawel hyd nea y cododd C.B.' ar ei draed. Nid yn swp gyda'u gilydd y ceid hwy, eithr yma ac acw, ar lawr ac yn yr orielau ond er hyny, amlwg ydoedd eu bod yn deall eu gilydd. Dynes ganol oed, yn firynt un o'r orielau, a ddechreuodd ar yr aflonyddweh, a. diau mai nid pwysig o gwbl yn ei golwg hi yd- oedd andwyo un of rawddegau mwyaf te)aid yr arawd. Gwaeddodd y fenyw I A ydych chwi am gymmeryd pwngc y merched mewn Haw heno ?' Y diwedd fu ei bwrw hi allan. Pan beidiodd y cyffro dywedodd yr ar- eithydd yn hamddenol y buasai efe, pe cym- merasai hi bwyll, yn tawelu nerfau y fon- eddiges,' trwy ei hysbysu ei fod ef yn eithaf pleidiol i estyn yr etholfraint i ferched. Ond, er dywedyd o hono hyn mynodd chwaer orselog arall greu aflonyddwch drachefn trwy gyhwfanu baner wen, ac arni yn argraphedig mewn llythyrenau duon, I A rydd y Llywodraeth Ryddfrydig bleidlais i'r merched sydd yn gweithio l' Heb fym- ryn o gydymdeimlad a hi, nac a'i hachos, cipiodd y dyn a eisteddai agosaf ati y Hum- an o'i llaw, a hithau, yn ad-daliad, a roddodd iddo ddyrnod yn ei wyneb. Disgynodd y faner o'r oriel i'r llawr, a throwyd y fenyw 'wrol' allan. Yr un modd gyda thrydedd a phedwaredd. Arferid pob tynerwch wrth eu gosod dan yr oruchwyliaeth, bid siwr; ac am yr hanner awr olaf o'i arawd ni flinwyd dim ar Syr HENRY gan y merchetos. Par- haodd ei araeth am awr a phum munyd, a chymmeryd i mewn yr amser a wastraffwyd trwy ddadwrdd y benywod. Hwyrach nad oedd efe, o ran 11 ais, yn yr I hwyl' oreu; ond, ar y cyfan, rhaid dyweyd fod yr arawd yn orchestgamp o'r tath fwyaf meistrolga.) j Yr oedd yn glir, ac yn arddangos gallu yn I resymiadol cryf. Dywedodd bethau cryfion am haeriadau dibetrus ei wrthwynebwyr oed, ar y cyfan, nodweddid ei eiriau gan gymmedrolder mawr. At Mr. CHAMBER- LAIN ni wnaeth ond prin gyfeiriad wrth basio. Talodd lawer mwy o sylw i'w rag- flaenor fel Prifweinidog. A ydoedd hyn yn arddangosiad o'i farn bersonol ef am bwys- I igrwydd cymmhariaethol y ddau ddyn, nis gwyddom. Ar adegau ehedai yn uchel mewn areithyddiaeth ac ar hyd yr araeth 1 efarai yn obeithiol am ganlyniadau yr etholiad Diau y carai y darilenydd i ni roddi prif bwyntiau yr araeth mewn ychyd- ig CI frawddegau byrion, fel y canlyn:— Trefnwyd y cyfarfod hwn amser maith yn ol, os ydys i'w feiur wrth y digwyddiad- au sydd wedi cymmeryd lie Y pwngc pwysig ydyw fod Senedd 1900 wedi ei dadgorphori. Mae y Senedd ddryg- ionus hono weithiani'w rhifo yn mysg y peth- au a fu Ac nid oes neb o honom yn colli deigryn ar ei hoi. Bydd natur cyfansoddiad y Senedd new ydd yn cael ei benderfyna yn ymdrechfa fawr y pythefnos nesaf. Mae holl nerthoedd plaid rhagorfreintiau a buddiannau dosbarthiadau neillduol vji ein herbyn-naill ai yn edrych yn gilwgJpr. arnom neu ynteu yn ymladd eu goreu ar Wr ochr wrthwynebol. A rddengys ystrywiau ein gwrthwynebwyr ymdeimlad byw o wendid eu hachos. Arweinir hwy gan feistr mewn ystrywiau dichellgar. Nid y pwngc o flaen yr etholwyr yn awr ydyw y cwestiwn Gwyddelig, na'r cwestiwn Ysgotig, na'r cwestiwn Cymreig, ond yn unig ac yn syml Cwestiwn Masnach Rydd. Mae y wlad wedi penderfynu na chymmer hi byth na rhan na chyfran mewn unrhyw gynllun i drethu ymborth. Yr ydym ninnau yn golygu cynnildeb, ond nid ar draul effeithiolrwydd, eithr trwy gwttogi y treuliau, yr hyn a wna gynnildeb yn fwy sicr. Mae ysbryd gwastraff yn groes i egwydd orion gweinyddiad priodol ar amgylchiadau y WIadwriaeth. Ni chewch byth werth am eich arian os bydd genych filiwn neu ddwy o bunnau i'w taflu heibio. Dyledswydd gyntaf y Llywodraeth, er mwyn diogelu buddiannau y genedl, ydyw adferu rheolaeth drwysdl ar y cyllidoedd. Ar bWDge llafur y Chineaid yr ydym yn sefyll at bob gair a ddyweiwyd genym sr hyd y misoedd diweddaf yn ein condemniad ar drefniant y credwn ei fod yn un annatur- iol, anfoesol, a diraddiol. Yr ydym wedi rhoddi attalfa ar roddi trwyddedau i ddwyn chwaneg o Chineaid i'r Transvaal; a buasai yn dda genym pe gall asem attal dyfodiad rhai yno yn union gyrchol; ond, yr oedd y rhai hyny wedi eu trwyddedu i'w dwyn drosodd cyn i ni ddyfod i swydd. Yn gynnar yn mis Tachwedd pasiwyd nifer aruthrol o'r trwyddedau hyn. Gwnaed hyny yn sydyn ac annisgwyliadwy. Mae hwn yn beth ag yr wyf fi yn meddwl y dylid cael eglurhad arno. Gyda golwg ar pa un a oes ai nid oes angen am lafur Ohineaidd yn y Transvaal, yr ydym yn aros am gynghor a barn Deddf- wrfa wir gynnrychioliadol a chyfrifol wedi ei hethol gan bobl y Transvaal eu hunain 0 dan Ddiffyndolliaeth byddai lleihEld yn swm ein dadforion ac os felly, pa fodd y gall perchenogion y llongau sicrhau llwythi i'w llongau i ddyfod gartref 1 A ydyw yn bossibl y bydd Liverpool, yn etboliadau y deng niwrnod nesaf, yn rhoddi ei dedfryd o blaid y fath berygl andwyol i'w diwydiannau ac i'w bywyd hi ei hun 1 Yn nghostrel syml a diniwed ymddang- osiadol Ad-daliad ceir gwin coch Birming- ham. Ni bydd pleidlais i BALFOUR mewn gwir- ionedd yn ddim ond pleidlais i CHAMBER- LAIN. Glynwch yn ffyddlawn wrth Fasnach Rydd. Cynnorthwywch ni i gael ein traed ar dir cad^rn gweinyddiad cyllidol uniawn a chyfrifol. Rhydd y dyfyniadau hyn syniad gweddol glir i'r darllenydd am y bwyd cryf' aarlwyid gan y Prifweinidog o flaen ei gynnulleidfa fawr. Yr oedd y gwrandawiad, oddigerth yr ychydig eithriadau a nodwyd, yn bob peth y gallesid ei ddymuno. Nid yw yn hawdd meddwl pa fodd y gall gwrandawiad a darlleniad araeth o fath hon lai na chario dylanwad yn mhell ac yn agos. A fyddai yn ormod i ni ddisgwyl iddi beri peth cyf- newidiad yn nghynnrychfolaeth y ddinas fawr ar Finion y Ferswyl Oni argyhoedd- ir ei myrddiynau gweithwyr gan beth o'r fath yma, ni phetrusyn ddyweyd nad oes obaith am eu hargyhoeddi byth. A gawn ni wneuthur appSl at ein cyd-genedl yn ar- benig yno 1 Os nad ydym yn camgymmeryd yn ddirfawr y mae yn mysg etholwyr Liver- pool ddigon o Gymry yn unig, pe ceid hwy yn unol, i eSeithio cvfnewidiad trwyadl yn y itynnrychiolaeth yno. Er mwyn eu gwlad a'u cenedl, yr ydym yn eu tynghedu yn ddifrifol i wneuthur yr oil sydd o fewn eu gallu i attal dychweliad y Weinyddiaeth sydd wedi gwaradwyddo y Dywysogaeth yn waeth nag un wlad arall o fewn y Deyrnas Gyfunol i swydd etto. Ni phasiwyd Deddf Gorfodogaeth ganddi ar yr un o'r cenedloedd eraill fel y gwnaeth hi ar genedl y Cymry. Ai tybed y rbydd unrhyw Gymro o fewn dinas Llynlleifiad ei bleidlais i gefnogi y Llywodraeth a driniodd wlad ei enedigaeth ef mor fwystfilaidd ? Na, na yn hytrach o lawer bydded y bleidlais Gymreig yn ffyddlawn ac unplyg yn mhlaid y Weinydd iaeth sydd yn ymrwymo, fel ei gorchwyl cyntaf, i symmud ymaith faich gormes a sarhad oddi ar I yr hen wlad.' Ac yn rhoddi i ni ei gair sicraf am y pwngc sydd ddyfnaf yn nghalon y Cymro-Dadsefydliad yr Estrones. Nyni ihwng y bryniau ac ar y dyffrynoedd a fyddwn yn disgwyl am eu help hwy i sicrhau ein rhyddid unwaith yn rhagor; a thrwy ddewis Rhyddfrydwyr yn unig y gallant hwy wneyd hyny yn effeithicl. j;

MR. LLOYD GEORGE YNI NINBYCH.I

Y FRWYDR FAWR A'I BUDDUGOLIAETHAU.

YR AIL DDYDD.

[No title]

TRA MO R,