Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

BWRDETSDREFI FFLINT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDETSDREFI FFLINT. Y GWIR ANRHYDEDDUS D. LLOYD. GEORGE YN NHREFFYNNON. BOREU ddydd Gwener talodd Mr. Lloyd George ymweliad brysiog & Threffynnon; a thraddod- odd araeth yn yr Assembly Hall, yr hon oedd yn orlawn, er na roddwyd ond ugain munyd o rybudd am y eyfarfod. Yr oedd Mr. Lloyd George wedi dyfod o Wyddgrng, mewn cerbyd modur, y boreu hwnw, yngkyd & Mr. Herbert Lewis, Mr. Clement Edwards, a Mr. Howel Idris. Rhoddwyd iddo dderbyniad rhagorol. Talodd Mr. Lloyd George deyrnged uchel i Mr. Ho-wel Idris, fel yr ymgeisydd Rhyddfryd- ig dros y bwrdeisdrefi, am y gwaith oedd wedi eiwneydyn Llundaiu. Yr oedd Mr. Idris yn ddyn oedd mewn llawn gydymdeimlad a meddyl- ddrychau Cymreig, a'r math o ddyn oedd gan- ddynt hwy ei eisieu i gyunrychioli Cymru yn Nh? y Cyffredin. Rheswm arall dros iddynt roddi eu cefnogaeth i Mr. Idris ydoedd, mai brwydr Gymreig fawr ydoedd hon. Dyma y waith gyntaf i gwestiynau Cymreig fod ar ddechreu y rhaglen Ryddfrydig. Pa ham y gofynid i fwrdeisdreii F flint adael ei Rhydd- frydiaeth yn awr, pan yr oeddynt wedi glynu ati, trwy y tew a'r tenau, mewn oriau o farw- eidd-dra? Pa ham y gofynid iddynt adael Rhyddfrydiaeth yn awr, pan yr oedd yn ei buddugoliaeth? (Cymmeradwyaeth). Wrth siarad ar y cwestiwn cyllidol dywedodd fod yr Ymherodraeth Brydeinig yn ffaith. Yr oedd yno cyn i Mr. Chamberlain gael ei eni (cym- meradwyaeth). Sylfaenwyd hi gan ddynion mwy na Mr. Chamberlain-dynion oedd wedi eu gwreiddio yn ddwfn yn egwyddor Ymreolaeth a rhyddid, ac oedd wedi gwneyd yr ymher- odraeth heddyw yn adeilwaith na allai un ystorm ei siglo (cymmeradwyaeth). Pan yr oeddym ni mewn trafferth yn Neheudir Affrica, vr hyn a ddygwyd oddi amgylch gan Mr. Chamberlain, estynodd y Canadiaidgynnorthwy i ni, rhoddodd New Zealand ac Awatralia help i ni. A ddarfu iddynt ein cynnorthwyo am ein bod yn rhwym wrthynt hwy trwy gyttttndeb masnachol, neu am ein bod yn rhoddi toll fechan iddynt,dyweder, arwlan? Dimo gwbl, estynasant gynnorthwy i ni, am ein bod wedi rhoddi rhyddid ac ymlywodraeth iddynt, ac o blegid eu serch tuag at eu mam-wlad (cymmer- adwyaeth). Dyrchafwyd banllefau o gymmeradwyaeth, ar ei waith yn cychwyn o'r dref, yn ei gerbyd modur, i Ddinbych.

YMWELIAD MK. LLOYD-GEORGE…

YR ETHOLIAD CYFFREDINOL A…

LLYTHYR SYLWEOYDD LLANGOLLEN.

ANGLADD EMHYS AP IWAN.

DINBYCH.

CAPEL Y BEDYDDWYR,

MARWOLAETH MRS. NOTT.

M B I F 0 D.

CANOLBARTH CEREDIGION.

TORWR BEDDAU YN CAEL EI GLADDU…

DIGWYDDIAD HYNOD MEWN TRENGHOLIAD.

[No title]

Advertising

Family Notices

[No title]