Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

O'R DE.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O'R DE. I Cwvn Coll am Olygydd I sef y Parch. W. P. Williams, D.D. I (Ap Risiart), Glan Dwr. [GAN ALBAN.] I A MI nos Iau diweddar yn cymryd fy es- mwythdra ar bryd o de, aeth gloes drwy fy neuglust pan glywais fy mhriod yn dweyd, John a wyddochi fod Dr. Williams y Seren wedi marw ? Gyda syndod a galar mi a ddeallais am y tro cyntaf fod y gwr enwog a pharchus o Lan Dwr wedi huno yn yr Iesu ers nos Sul y cyntaf o fis Chwefrol. Daeth y newydd pruddglwyfus i mi, fel i lawer un arall, yn rhy ddiweddar i feddwl am bicio i'w gladdedigaeth. Yr oedd y Haw a fu yn llywio y pinysgrif mor ddiwyd am gynifer o fiynyddoedd ymhlaid ei genedl a'i grefydd wedi ymlonyddu yn yr angau, ac yn gorffwys erbyn hyn yng ngweryd monwent Cwmgelli, ac amryw o gyfeillion yr ymadawedig wedi methu a chael y wybodaeth modd y gallasent fod yn un o'r dorf a hebryngodd ei weddillion ar nawn Iau, y 5ed. Rhaid lleoli'r bai hwn wrth ddrws y Wasg Saesneg yn y De, sydd mor ddibwys ei gwasanaeth i wir wroniaid ein cenedl. Dim ond un o bapurau dyddiol Caerdydd, prifddinas y Cymry, a hanner colofn anamlwg o'i hanes Bid siwr, pan y bo son am gaffael crug o gerrig i'w hadeiladu yn byramidiau mawrwych a swyddi o fewn eu hystefyll i laweroedd a ddanghosant sel ryfeddol o ddisymwth gyda'u gwladgarwch unnos pan feddyliant am y manteision a ddaw at ddrysau eu tai eu hunain. Yr oedd Dr. Williams yn un o blant anrhyd- eddus Ynys Mon. Ganwyd ef yn Llangefni, Tachwedd 16, 1840. Dygwyd ef i fyny, fel Gwilym Hiraethog, gyda'r Methodistiaid. Tueddwyd ef at athrawiaeth a berchid gan ddiadell o Fedyddwyr ac wedi peth aflon- yddwch yn ei feddwl o berthynas i'r pwnc, ymofynnodd am gael ei fedyddio ar ei broffes o'i ffydd yng Nghrist gan yr hybarch Ddafydd Thomas (tad Mrs. Richard Roberts, y cyfreith- iwr, o Gaernarfon). Ceir ei fod yn fuan yn gweithio ei ffordd fel aelod defnyddiol a chymeradwy gyda'r brodyr yn Llangefni, ac yn 1860 dechreuodd bregethu. Oddeutu'r amser hyn yr oedd mudiad ar droed i gael athrofa i'r enwad yn y Gogledd. Pender- fynwyd ar dreflan ar fin y Ddyfrdwy—sef Llangollen, ac y mae i mi yn bleser persrnol i feddwl fod fy nhaid, Allen Emerson Evans, o Lanrhaeadr-ym-Mochnant (yr hwn a'm mag- odd er pan oeddwn yn febyn maeth blwydd namyn mis) yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn sefydliad yr Athrofa hon. Mynychai gyfarfodydd yr Athrofa, a phrofodd ei hun yn gefnogydd selog i'r sefydliad a'i fyfyrwyr. Monwysiaid pybyr a dysg,"dig a benodwyd yn athrawon, sef Dr. Prichard, yn ben athro, a gwr ieuanc a'i ddechreuad o Fodedern, y di- weddar Hugh Jones, M.A., D.D., yn gyd- athro ag ef. Yr oedd Dr. Williams yn un o'r fintai gyntaf o fyfyrwyr y Coleg pan y'i hagor- wyd yn 1862, a myfyriodd yn galed ac yn llwyddiannus am dair blynedd. Ymsefydl- odd yn weinidog ym Medwas, Swydd Fynwy, yn 1865. Buan yr enillodd lygad y wlad, ac aeth son amdano fel gwr o alluoedd grymus a choethter chwaeth. Daeth yn drefnydd blaenllaw a hunanaberthol ynglyn a mudiadau cyhoeddus ei enwad. Elfen bwysig yn y boneddwr hwn ydoedd ei farn ddiysgrg ar egwyddorion safadwy crefydd, ac yr oedd ei wasanaeth gwerthfawr yn amlhau, a hawdd- garwch ufudd-dod i nodweddion neilltuol ei enwad yn teilyngu iddo'i le dyladwy fel un o arweinwyr diogelaf ei oes gyda'r Bedyddwyr. Daeth yn wr o ddylanwad yng nghynad- leddau ei enwad, ac hefyd y tuallan i'w enwad yr oedd yn ffyddlon i achos dysg a diwylliant. Derbyniodd alwad o'r Bryn mawr, ac yno y bu am naw mlynedd yn gwasanaethu y cyhoedd yn onest trwy ddiwydrwydd ac egni. Yn 1876; daeth i Abertawe, a sefydlwyd ef yn Weinidog Eglwys Dinas, Glan Dwr-Eglwys y mae cydymdeimlad yn dylifo ati heddyw yn ei galar o'i golli. Yma y daeth i'w anterth. Cododd gapel sy'n glod i'w lafur a'i wroldeb diguro. Erys yr adeilad yn deml harddwych i'r oes a ddel. Danghosodd gymwysterau cyhoeddus fel aelod o Fwrdd Addysg Ysgolion Abertawe. Yr oedd ei fedr fel trefnydd a'i ddawn fel- llenor yn gymhleth ac fel edefyn Cymreig o'r we oreu yn ddwy gainc sengl yn cael eu rhedeg yn un. Dyna lie mae nerth a rhagor- iaeth y wlanen Gymreig ar yr un Saesneg. Yr oedd y ddwy scain o droell Llangefni yn gryfdwr iddo ymhob cyfyngder. Rhwng 1881 ac 1883, cafwyd papur wyth- nosol, Seren Cymru, yn feddiant cwmni cyfan- soddedig o gyfranddalwyr. Penodwyd y Doctor yn ysgrifennydd i'r cwmni llanwodd y swydd yn anrhydeddus, a daeth yn ei dro yn un o gyfarwyddwyr y Cwmni. Gwyliodd fal Galileo ei goleuni syber, tan ofal John Jones, Felin foel, arweinydd hybwyll a doeth ar faterion gwleidyddol. Dilynwyd y gwr hwnnw gan Fenjamin Thomas (Myfyr Emlyn) gyda'i wreichion dawnus a rhyfygus. Wedi marwolaetli y Myfyr yn 1893, derbyniodd Dr. Williams yr olygyddiaeth y teilyngodd ei dalentau amlwg ei pherchenogi. Wedi der- byn uchelgamp ei alwedigaeth, bu fyw yn hir ymhob ystyr o'r gair. Nodweddwyd y Seren gan ei allu meddwl ac addfedrwydd barn. Yr oedd yn elyn anghymodlawn i weriniaeth wyllt ac anghadarn ac yn ei erthyglau, wythnos ar ol wythnos, safai fel breakwater yn erbyn morymglawdd dylanwadau Seisnig- aidd arweinwyr Sosialaidd a'r bendro cyff- redin. Ef oedd wleidydd i'w ddydd iach, Ni ddaw'r ail rinweddolach. Yr oedd yn enghraifft rhagorol o Gymro, a phopeth Cymreig yn ddwfn yn ei galon. Derbyniais yr anrhydedd o gydlafurio a'r Doctor yn nygiad allan Seren Cymru pan y'm penodwyd yn ysgrifennydd ariannol y Cwmni yn 1906. Cefais ddigon o gyfle i weled gar- ediced ydoedd fel dyn a Christion ar ein hym- weliadau mynych a'n gilydd yn rhinwedd ein oysylltiad a'r newyddiadur, a bu rhyngom lawer ymgom ar gwestiynau llenyddol y dydd. Erys yr atgof yn hir am ei gyfeill- garwch cu. Llanwodd le pwysig yn ei enwad. Efe oedd llywydd yr Undeb yn 1902. Yr oedd yn arholydd Groeg a Hebraeg Athrofa Bangor. Ers blynyddau bellach, yr oedd ei ben gwyn yn gosod gwedd bendefigaidd iawn arno. Gresyn na chawsai weled y Sul cyntaf o Ebrill nesaf, pan yr oedd tymor o 38 o flyn- yddoedd ei weinidogaeth yn Dinas yn dod i ben. Aeth i Abertawe ar fusnes ynghylch y Seren, a anwylai'n fwy na dim, ychydig ddyddiau cyn ei farw. Wedi iddo gyrhaedd ei gartrefteimlodd gryd, a chan ei fod yn mynd ar ei oedran, daeth ei ddiwedd yn gyflym. Hunodd yn hedd y Sul am chwarter wedi pump ar gloch yr liwyr, a phobl ei ofal ar fin hwylio i'r capel, yng nghymdeithas ei briod, boneddiges o Wlad yr Haf, a fu'n ym- geledd gymwys iddo am flynyddoedd gyda'i fab Idwal, a'i ferched syber, sydd wedi eu gadael i alaru ar ei ol. Yr oedd pawb yn ei barchu ac yn ymostwng yn ewyllysgar i gymeryd eu harwain ganddo. Y mae Cymru'n dechreu sylweddoli fod y pregethwyr per a goethwyd ynhen athro- feydd bugeiliol, megis Llangollen a mannau ereill, yn cael eu galw oddiar y muriau. Onid allwn uno ag Owain Gwynedd wrth weled rhagorion arbennig a feithrinwyd ar lethrdir Dinas Bran yn cilio i'r cysgodau ac irlais yr hen hwyliau Cymraeg yn difiannu o'n plith yn nyddiau y ddinas, a'i hawyrgylch faterol. Gwae'r hen a gae hir einioes, Adwaenai wyr da 'n ei oes Ddarfod pennod pawb honnyn' Ymhob lie ond ymbell un. Teimlaf fel Walter Savage Landor pan y canodd am ei gyfaill Lamb Of all that ever wore man's form, 'tis thee I first would spring to at the gate of heaven! Aed f'annerch hyd i fyny, Atto'n ei fraint i ne' fry. Yn iach ir Uawen bennaeth, Yn iach bob glendid a wnaeth Ymaith yr aeth oddiyma, At Grist i le didrist da I'r nefoedd da oedd y daith, Gwlad heb orffen, glod berffaith. -0--

Advertising

Family Notices

HOT GOSTEG.

DYDDIADURt

Cyhoeddwyr y Cymod Y Sabothlnesaf.

Advertising

I Ein Genedl ym Manceinion.

Advertising