Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
SjrtiptySs I j)? ■ III You can SAVE 5/n the & IF YOU IIJU FURNISH FOR CASH, ?? ???t ??t A Visit to our Showrooms, or if this is H HBm ■■ impossible, a perusal of our ??j? t jtjtt ^1 LARGE ILLUSTRATED CATALOGUE ■ ??? t will conviRce you .f thia fact, ?t ? ??? ? FIFTY YEARS' REPUTATION FOR VALUE. J t? MY??tLES M?3S?'42?'?'?I?DOhRP, I t?L<jtt L? ? ?M??/??w? n?ccM?t' )  5——— II HI !■ Ill H'illi lib r nir m.-nn 1,1 11 r "■ IF YOU WANT SEASONED Oah, Mahogany, Birch, Black Walnut, Ash, White Wood, Pitchpine, Yellow Pine, Doors or Moulding WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL nwca——■rir.. ■■ 1. -=55——— Q Uais o Lu?ain YSGikIFAU IMYFYRDOD GAN PETER HUGHES GRIFFITHS 2/= nett. I HUGH EVANS A'¡ FEIBION I
[No title]
4< )(AE'r Gwanwyn yn dod Ydyw, yn sicr ddigon, y mae wedi dod. Ei arfer oedd dod yn ei amser, ymhell cyn i'r beirdd ddechreu .anu ei croeso ac mae'n bur debyg y parhai i ddod, yr un fath yn union, pe tawent bob un. Ca'r beirdd fwynhad wrth ganu a chan nad yw hynny'n dramgwydd i'r Gwanwyn, popeth yn dda. Mae'r Gwanwyn yn werth pob molawd y gellir ei phlethu iddo ae mae pob plaid' a dosbarth yn foddlon i newid llywodraeth y Gaeaf am y Gwanwyn a'r Haf. Hiraethem am hin deg, ac mae hi'n dechreu anadlu'n hyfryd arnom. Braidd nad allem ddywedyd,— Now the noisy winds are still, April's coming up the hill. Yr un pryd, rhaid peidio a dychanu'r Gaeaf. Digon hawdd oael hwyl ar ganu 0 na byddai'n haf o hyd Ond mae ftthroniaeth ddofn yn llinell cynghanedd y diweddar Ddewi Mawrth,— Mae eisieu Mawrth cyn mis Mai. Un o'r cynorthwyon cryfaf i gartrefolrwydd teuluaidd yw'r Gaeaf-y "whipper-in," fel tae. Ac onibai am ei oruchwyliaeth lemaf ami, nis gallsai y ddaear sicrhau etifeddiaeth mor gyfoethog i'w Gwanwyn. Y Gwanwyn yw plentyn y Flwyddyn, a bu raid iddi ddioddef ingoedd genedigaeth iddo. Yn awr, diolch i'r Gaeaf, a chroeso i'r Gwanwyn. Mae blagur yn tarddu o bob pren a llysieuyn byw. Gwir nad yw'r marw'n atgyfodi. Mae'r Gwanwyn yn ddatguddiad o beth sydd fvw, a pheth sydd farw. Ychydig amser yn ol, anodd oedd gwahaniaethu rhwng y byw a'r marw mewn gardd a gwig. Yr oedd y naill fel y llall yn llwm a du. Ond pan ddaeth y Gwanwyn heibio, ac y chwaraeodd pelydr cynnes arnynt, gwelwyd beth oedd fyw a pheth oedd farw. Dyma'r Drych ar goeden oedd yn llwm trwy'r Gaeaf, a llwm yw hi eto. Yn ei hymyl y mae coeden oedd mor llwm a hithau, ond mae hi'n cael ei gweddnawid. Cyffyrddodd heulwen gynnes y sypyn du, ac wele ei fywyd yn blaguro'n dlws, a'i ddail yn dechreu ei wisgo a gwyrdd- lesni. Euthom am dro i'r Pare sydd gerllaw. Yr oedd yr wybren heb gerpyn o gwrnwl ami, a'r haul yn edrych ar y ddaear heb ddim i guddio'i wen. Ei wen fawr ef a welid yn Ilond y nef a'r ddaear. Pa ryfedd i'r adar ganu ar awr fel hon Yr oedd pelydr yr haul yn eu trydanu. Tybiem eu bod yn wallgof gan fwynhad. Clywem lawer mwy o gantor- ion nag a welem yrtíguddient mewn goleuni a pharodd hynny inni fyfyrdod dwys. Yr oedd yn eu plith, fodd bynnag, rai unawdau y gwyddem yn dda pwy oedd yn eu canu. Pwy nad edwyn y fwyalchen a'r fronfraith ? Yr oedd pob coeden yn oriel can, a phob awel yn llawn miwsig. Galwasom heibio'r adardy. Carcharorion oedd yno, mewn gwahanol gelloedd. Goleuai'r haul arnynt hwythau, a chanai pob un a feddai lais. Ond teimlem nad naturiol eu cyflwr. a bod dyn wedi gwneuthur cam ag adar y nefoedd." A phan ganai yr adar man, a phor eu sain, clywid crawciadau eras drwy gigfran ffrom o gell oedd am y plane a hwy. Hyd y coed, ac yn yr awel a'r heul- wen rydd, y carasent fod. Mor ddwfn, mor ddihysbydd, mor gryf, ac mor dawel yw bywyd yn natur Ym- lochesa'n gudd yn y Gaeaf, a gellid tybio ei orchfygu, ac na chodai mwy. Ond mae'n ymorffwys, yn cysgu, ac yn deffro drachefn. Ei hanes yntau yw, Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais." Mae llanw bywyd yn y Gwanwyn, fel llanw'r mor, yn ym- chwyddo'n dawel a hollalluog. Cyfoethocach a gogoneddusach, er hynny, yw llanw'r bywyd sydd tan gyfaredd haul, na llanw'r moroedd tan gyfaredd lloer, Mor gryf yw bywyd Cryfach ydyw na rhew ac eira, gwynt a glaw. Bu holl alluoedd y Gaeaf yn gwasgu ac ysgwyd coeden sydd yng nghefn y ty yma; ond glynodd ychydig ddail yn ddiymollwng wrth y pren—hyd nes daeth y Gwanwyn. Beth bynnag, fe ddeffrodd byw. yd yn y goeden, ymdreiddiodd i bob cangen, dringodd i'w orsedd ar bob brigyn, a gwthiodd y ddeilen ystyfnig olaf o'i ffordd yn lan. Mae hi mor naturiol i'r beirdd ag i adar ganu yn y Gwanwyn. Ac y maent, fel y crybwyllwyd eisoes, yn gwneuthur hynny Mae rhai ohonynt yn ei weld o bell Ac fe ddylai fod gan fardd gymhwyster arbennig i ddeall arwyddion ei ddyfodiad Ond mae rhywbeth yn lied ystrydebol, erbyn hyn, yn yr ymadrodd, Mae'r Gwanwyn yn dod." Yn wir. mae Ilawer can a welsom ar y testyn yn ystod y blynyddoedd diweddaf yn annhebyg iawn i gynnyrch bardd a welai Wanwyn oddi ar Ben Parnassus, ac yn debyg iawn i un a'i gwelsai'n dod trwy Almanac Robert Roberts, o Ben Caergybi. Mae Tennyson, yn ei Poet's Mind, yn disgrifio dyn anfarddonol, ac yn ei wahardd yn agos ato, yn ei ardd,— Hollow-smile and frozen sneer Come not here. Mae marwolaeth yn ei drem, a digon'o rew yn ei anadl i ddeifio'r blodau. Can aderyn yng nghalon yr ardd," ond fe syrthiai i'r ddaear pe deuai'r dyn hwn iddi. Gwel "fountain yn chwarae a disgleirio'n yr haul, fel fflachiadau mellt; ond ped ymwelai'r dyn dienaid a hwnnw hefyd, ni welai ac ni chlywai ddim, So keep where you are you are foul with sin, It would shrink to the earth if you came in. Ac eto, fe fu rhyw griticiaid yn beio Tennyson am ganu cerdd i'r Gwanwyn—ei ail ar y testyn,—gan ddywedyd nad oedd yn deilwng o'i athrylith. Druain ohonynt Rhaid eu bod yn perthyn i'r dyn y caeodd y bardd lidiart yr ardd rhagddo. Ac ni fynnai Tennyson anwybyddu'r Heavenly Power mewn can i Wanwyn,- For now the Heavenly Power Makes all things new, And thaws the cold, and fills The flower with dew The blackbirds have their wills, The poets too. Gwell oedd gan Syr Lewis Morris Wanwyn na Haf,— Summer is faint, and dumb with dust and heat, This is the mirthful time, when every sound is sweet. A diwedda ei Spring-tide a'r nodau"dyrchaf- edig hyn,— Fair day of larger light, Life's own appointed hour, Young souls bud forth in white- The world's a-flower; Thrill, youthful heart soar upward, limpid voice Blossoming-time is come-rejoice, rejoice rejoice. Mae gennym yn yr ystafell yma weithiau lliaws o'r beirdd Cymreig ac y maent i gyd, hyd y gwelsom ni, yn gollwng yr awen i hedeg yn hyfryd yn awyr y Gwanwyn-Eben Fardd, Hwfa Mon, Tudno, Tafolog, Dyfed, Cadvan, Berw, Eifion Wyn, Alafon, J. M. Jones, W. J. Gruffydd, Tryfanwy, Elfyn, Llion-ond gofod a ballai i fynd ymlaen. Ebai Alafon,— Ar ei aden mae'r ehedydd- W W-" Berr ei gathl ond llawn llawenydd; Bronfraith acw hwylia delyn, Mwyalch nabl o aur rhuddfelyn. A thyma ni'n cael ein gollwng i galon y pwnc,- Beth o'n-hamgylch sy'n anadlu ? Ai rhyw ddirgel fod neu allu ? Pa ryw siffrwd, fel swn deffro ? Pa ryw ddistaw, ddi8taw gyJJro ? Canodd Eifion Wyn yn ogoneddus i'r Misoeddt Ii ac nid yw a ganlyn ond ychydig o dlysau 01 Ebrill,-— Glas yw wybyr Ebrill, Glas fel llygad Men- Mae onfys ar y cwmwl A blagur ar y pren Croesaw fis diferion A phelydr bob yn ail Tyred gyda'th flagur, A thyred gyda'th ddail. Er hyn oil, rhaid peidio gwallgofi ar fwynder Gwanwyn. Yn wir, dyma inni rybudd chwyrn rhag hynny. Wedi credu ohionom i'r Gaeaf encilio, troes yn ol yn sydyn, fel i beltio tipyn yn chwaneg arnom. Rhuthrodd ei wyntoedd a'i lawogydd oerion ar y Pare, a pharodd i adar can dewi. Braidd nad ellid newid y cwpled oedd gennym ar y cychwyn,— The noisy winds are with us still, Winter's coming up the hill. Waeth yn y byd, y Gwanwyn fydd drechaf. Er hynny, nid digon y Gwanwyn cyfoethocaf i ddyn. Disgyn ei belydr cynnes ar lawer deurudd curiedig, a llaith gan hiraeth. Nid wrth yr un ddeddf y try daear i Wanwyn ag y try calon dyn i ddedwyddwch. Ac mae cofio hynny'n peri inni feddwl am Y Gwanwyn Du, gan W. J. Gruffydd,- Mae'r llwyn yn magu blodau Yn brysur ar bob llaw Ca'r haf wrth ddrws ei chartref Gan' croeso serch, pan ddaw. Meddyliem y doi'r heulwen A gwrid i ruddiau'r claf, Ond gwrid o flodau mudion Mewn mynwent ddaeth yr haf. Yr ydym yn ymyl Gwyl yr Atgyfodiad a'r Bywyd ac os cywir ein proffee, mai enni ffydd mewn Gwanwyn gwell na'r un a greodd haul a daear erioed-Gwanwyn Anfarwoldeb. Onid yw ei flagur yn tarddu, a'i adar yn canu yn ein hysbrydoedd ? Croeso, Wanwyn -0
"SOClALlAETH A'R BEIBL." I
"SOClALlAETH A'R BEIBL." I Sosialaeth yng ngoleuni y Bibl. Pris, 1\1il Ceiniog. 48 tud. I'w gael oddiwrth yr awdur, T. Phillips, Bod Awel, Newby Street, Stanley Park, Liverpool. OBLEGID y gefnogaeth garedig a roddwyd i'w draethawd buddugol ar Sosialaeth yng ngoleuni Cristionogaeth y cyhoeddodd yr awdur y traethawd hwn ar yr un pwnc yng ngoleuni'r Beibl. Diddorol yw'r gwaith hwn am o leiaf ddau reswm. Dengys, yn un peth, beth yw osgo lleygwr meddylgar a galluog fel Mr. Phillips--sydd yn flaenor dylanwadol yn Eglwys Great Mersey Street, dinas Y BRY- THON yna—at Feirniadaeth ddiweddar ar y Beibl. Eglur yw fod yr awdur yn hyddysg yn yr hyn a ddysg ysgolheigion am gyfan- soddiad ac ystyr y Bsibl, a'i fod yn croesawu casgliadau'r rhai mwyaf cymedrol a theg ohonynt. G.velir hyn yn amlwg oddiwrth y bennod gyntaf ar Ddatblygiad Mo.sol a Chymdeithasol yr Hen Destament," lle'r olrheinir yn fedrus ddatblygiad y genedl Iddewig o fod yn grwydriaid i fod yn genedl a goleddai fywyd amaethyddol yng Nghanan, hyd oes aur proffwydi'r wythfed a'r seithfed ganrif C.C. Yn wyneb y goleuni hwn ar Ysgrythyrau'r H.D., gwelir yn gliriach nag erioed eu bod yn llyfrau i bob oes, a bod iddynt eu cenadwri arbennig i'n hoes ni. Diddorol hefyd, yn ail, yw'r traethawd hwn am y dengys beth yw osgo'r Eglwys Gristionogol heddyw ar ei goreu at y Symudiad Cym- deithasol. Yn ystyr dywediad hyglod Syr Wm. Harcourt, yr ydym oil yn Sosialwyr heddyw, wrth gwrs, ond y mae eto gryn waith i ddeffro a thynheru cydwybod llawer ohonom yn y cyfeiriad hwn. Yn ddilys ddiameu, y mae Hyfryn Mr. Phillips yn gymorth gwerth- fawr i beri hynny. C-eir yn y traethawd hwn lawer iawn o 6. darllen eang, ac 61 meddwl diragfarn ac anni bynnol.6 Ymddengys i ni fod yr awdur yn wr digon diwylliedig a meddylgar i beidio a rhedeg i ormod rhysedd wrth drin mater dyrys a dreiniog ei wala. Da gennym ei weled yn pwysleisio sylw Harnack,—" Nid gwelliant cymdeithasol yw'r Efengyl, eithr prynedig- aeth ysbrydol "—heb ddiystyru dim ar welliannau cymdeithasol, eithr yn hytrach alw'n groyw amdanynt. Dysgir yma fod arweinyddiaeth ein Harglwydd yn amgylch- iadau y byd yn dod yn bosibl oherwydd Ei ddyrchafiad uwchlaw iddo,—Ei genhadaeth ysbrydol greodd Ei awdurdod gymdeithasol. Dyma don a bias y gwaith fel eyfangorff, ac yn ddiau dyma salfe'r Beibl ei hun. Rhagorol hefyd, i'n bryd ni, yw'r hyn a ddywed Mr. Phillips ar berthynas dysgeidiaeth Crist a'r bywyd cymdeithasol dangosir fod Crist yn arwain cymdeithas a gweledigaeth nefol, yn diwygio cymdeithas o'r mewnol, ac yn ei chyfeirio at yr ysbrydol. Ynfydrwydd anaele yw dysgeidiaeth Sosialwyr fel Bebel, Engels, Marx, a Belfort Bax (tud. 26), dynion a gred mai'r ffordd anhepgor i'r baradwys gym- deithasol yw dinistrio'r Gristionogaeth a effeithiodd yn fwy er daioni ar gymdeithas ar hydyroesoeddnadimarall. OblegidyMoesol a'r Ysbrydol yw'r pothau pennaf mewn bod a pha ddiben yw gwneuthur trefniadau a deddfau gwell os na fydd gan gymdeithas ddigon o ddaioni yn ei chydwybod i gadw'r rheiny ? Rhydd yr awdur ei le trwy gydol y gwaith i Uchafiaeth y Moesol, megis y gwna'r Beibl, ac megis y rhaid i bob cymdeithas a fynno Iwyddo wneuthur ac yn hyn o heth,- ar wahan i'r swm mawr o wybodaeth a geir ynddo-da odiaeth Nid yw'r gwaith yn ddifrychau, yn enwedig o ran ei wisg. Gallai ambell frawddeg fod yn eglurach, a gellid eyfleu'r meddwl weithiau mewn ffordd fwy cyrch. Pahem y dywedir Bibl yn lie Beibl ? Ceir cymeryd lie (idiom Saesneg hollol) yn lIe digwydd," darganfyddwyd yn lie darganfuwyd," Isaiah," a gor-fynyehir cael fel berf gynorthwyol, etc. Ond yn bendifaddeu, y mae sylwedd y traethawd yn dangos gallu diamheuol, a'i genadwri'n dra amserol a gwerthfawr. Argymhellwn ef yn galonnog i sylw pawb a gymer ddiddordeb naill ai yn y Beibl neu mewn Sosialaeth, ac ym mher- thynas y ddau a'i gilydd. TECWYN EVANS.
FEL BO'R HWYL.
FEL BO'R HWYL. Colofn Achlysurol. [GAN FEUDWY CAERLUDD]. VI-Torfynyglu'r Clasuron. UN o'r lleoedd hynotaf a mwyaf diddorol ynglyn a chrefydd, ac a Phrotestaniaoth yn arbennig, ydyw tref Geneva. Ynddi hi y cyhoeddwyd Sallwyr Seisnig Sternhold a Hopkins y a Sallwyr Ffrengig Marot a Beza, a adwaenir wrth yr enw Sallwyr Geneva (er mai ym Mharis yr argraffwyd ef), am yr hwn ni fyddai yn ormod dweyd na fu yr un llyfr unigol mwy ei ddylanwad ar Salmyddiaeth y byd nag ef mewn unrhyw wlad. Nid oes nemor gasgliad o bwys ar y Cyfandir nac ym Mhrydain na thlodid ef yn ddirfawr pe tynnid allan ohono y tonau ardderchog a gymerwyd o'r ffynhonell gyfoethog hon. Yn ddilys y Sallwyr Ffrengig oedd un o glasuron cerddorol mawr a bendigaid yr eglwys filwriaethus, ie, ysgatfydd, y mwyaf i gyd ohonynt, canys ynddo ef yr ydys am y waith gyntaf yn cael y tonau byd-adnabyddus dilynol, a lliaws ereill o gyffelyb nodwedd Yr Hen 100, Yr Hen 50, Yr Hen 140 (Beza), YrHen l24 (Navarre), Yr Hen 128 (Abertawe) Yr Hen 8 (Bala), ac yn olaf, y d6n fydd yn destyn hyn o lith, sef Yr Hen 42 (Berlin neu Orleans). Mesur gwreiddiol y d6n hon yw 8.7,8.7,7.7,8.8, ac arno ef y ceir hi yn wastad yn nh6n-lyfrau Ffrainc a'r Almaen; ond y mae iddi ddwy ffurf, y wreiddiol, ac un ddiweddarach. Oddigerth yn eu mydr, ychydig iawn yw y gwahaniaeth rhyngddynt. Y flaenaf a gawn gan G. von Tucher (1848), a Dr. Layriz (1854), a'r ail gan Kuhnau (1786), Dr. Filitz (1847), a Bach (1765-1769). Mewn casgliadau Ellmynig diweddar, gofelir am roddi'r d6n yn ei dwy ffurf. Yn Lloegr, y ffurf olaf a ddilynir, ond am nad oedd emyn ar ei mesur priod i'w gael, fe'i cyfaddaswyd hi I i 8.7. D a chan fod hynny'n bosibl heb newid dim ond nodyn neu ddau, ni wneid trais ar yr alaw. Yng nghorff y blynyddoedd diweddaf hyn, fodd bynnag, y mae rhai cerddorion Seisnig, gan ddilyn eu brodyr Ellmynig, wedi ymroddi i ad fer yr hen donau rnawr clasurol i'w purdeb cyntefig, a hon yn eu mysg. Fe'i ceir hi bellach mewn dau gasgliad, o leiaf, yn hollol fel y ceid hi, o ran yr alaw, yn Sallwyr Geneva, wedi ei chynghaneddu yn nullwedd y cyfnod y perthyn hi iddo, a chydag emyn, teilwng o urddas a mawredd y d6n, wedi ei gyfieiihu o'r Lladin, ar ei chyfer. Rhwydd- hynt i'r pioneers gwrolfryd hyn, yn eu dy- headau a'u hymdrechion canmoladwy i buro I a dyrchafu cerddoriaeth gynulleidfaol ond mewn cyfnod o draws-symudiad fel yr un presennol, pa both ydym i'w wneud gyda thonau fel yr Hen 100 a'r Hen 42, sydd gen- nym mewn ffurfiau dilwgr ymron, oddigerth o ran eu mydr ? Credu yr wyf fi na ddylem eu gwrthod, er cymaint gwell ydynt yn eu mydrau cysefin. Dyma fel y rhed alaw Hen Salm 42 yn y llyfrau Seisnig yn gyffredin:- Cyhoeddwyd y Sallwyr Ffrengig yn rhannau i ddechreu, ac yn y rhan a argraffwyd yn 1551 neu 1554 yr ymddanghosodd y d6n wir fawr- eddog hon gyntaf; a gwnaeth ei hail ymddang- hosiad yn y Sallwyr cyflawn a gyhoeddwyd yn 1565, gyda'r tonau wedi eu cynghaneddu i bedwar llais gan Claude Goudimel, cerddor mawr ei fri, ac athraw Palestrina. Ganwyd ef oddeutu 1510, a llofruddiwyd ef yn Lyons, Awst, 1572, yn yr alanas daleithiol a ddilynodd Gyflafan Sant Bartholomeus ym Mharis. Ar ol triniaeth farbaraidd, fe dorrwyd ei ben yn yr heol, a bwriwyd ei gorff i'r Rhone. Am darddiad Salm 42 cawn fynegiadau gwahanol, megis (1) mai o Sallwyr Goudimel y cymerwyd hi (2) mai gwaith Goudimel ei hun yw; (3) dywed Dr. Layriz mai Henri o Orleans a'i cyfansoddodd (4) Syr Robert Stewart a ddywed mai cyfaddasiad yw hi o helgan (hunting song) hoff gan Harri'r Ail o Ffrainc, pan yn Ddolffin, oddeutu 1542. Y mae haneswyr ymchwilgar diweddar, fodd bynnag, yn ceisio dymchwelyd yr haeriadau hyn i gyd, ac yn honni, ar sail dda, dybygwn i, mai gan un Louis Bourgeois- y cyfansoddwyd neu y cyfaddaswyd hi. Ymddengys fod 83 o'r Salmau wedi eu cyhoeddi gan Bourgeois yn 1561 (bedair blynedd cyn i Goudimel ddwyn allan ei Sallwyr cyflawn), gydag awelon wedi eu cyfansoddi gan mwyaf, a'u trefnu i bedwar, pump, a chwech o leisiau, ganddo ef ei hun, a bod Salm 42 yn ei gasgliad ef yn gystal ag yn eiddo Coudimel.. Anhysbys yw dyddiadau geni a marw Bourgeois, ond gwyddis mai Calvin a'i dygodd ef i Geneva yn 1541, a bod ganddo athrylith ddihefelydd at gyfansoddi alawon, canys yn ddieithriad ymron y mae'r rhai sydd yn ei lyfr ef yn arddangos y rhagor- iaeth uchaf, Yn y blynyddoedd diweddaf hyn, y daeth eu liawduriaeth i'r amlwg, drwy fanwl a llafurus ymehwil ei edmygwyr. Ei enw ef, fel awdur neu gyfaddaswr, sydd bellach wrth ben tonau na roddid o'r blaen ddim hysbysrwydd yn eu cylch, amgen na'u bod wedi eu cymeryd o Sallwyr Geneva, fieu rywbeth amhenodol eyffelyb; ac un o'r cyfryw yw Salm 42. Mewn tri o gasgliadau Cymreig, fe ym- ddengys y don wedi ei chyfaddasu i'r mesur 7au, 6-llinell, o dan yr enwau Berlin ac Orleans —a mawr yw'r anrhaith a geir yno ar un o brif donau'r byd O'r lliaws cyfaddas- iadau sydd yn y llyfrau hyn, ychydig sydd yn llai celfydd a mwy plentynaidd. Sieryd eyfaddaswyr ynV fawreddog iawn am gadw prif nodweddiou ac ysgogiadau alawon wrth sefyll wrth eu pennau, druain, a'u crymanau ysgythru yn eu dwylaw ond er pob proffes oraclaidd, mynych y gwelwn y delweddau amljicaf yn disgyn o un i urn yn llanastr wrth eu traed. Fy nymuniad i yw gweled cyfaddasiadau yn diflannu o'r tir ond os ydynt yn wir ddrygau rheidiol, yna anhebcor cyntaf cyfaddaswr yw'r reddf gerddorol ddofn honno i ganfod y prif nodweddion. Cymharor y llinell flaenaf a'r olaf ond un yn Berlin ac Orleans a'r unrhyw linellau yn 6'a? 42, a dyweder wrthyf i ba le y diangodd dau o'r symudiadau mwyaf taraw-. iadol o'r hen Salm odidog. Beth a ddywedai Ffrancwr neu Ellmyn pe digwyddai iddo glywed canu'r cyfaddasiadau Cymreig o don a gerir ac a achlesir gymaint ganddo ef a'i gyd-genedl ? Beth, yn wir ? Atebed pawb yn ei ffordd ei hun. Y mae Salm 42 yn boblogaidd yn yr Almaen -Ile y cenir hi ar ei mesur priod ac fe'i ceir hi nid yn unig yn y casgliadau Ellmynig a enwais, ond ymhob un arall o'r lliaw8 a feddaf. Y mae yn amlwg ei bod hi, fel y doa a adwaenir yng Nghymru wrth yr enw Mannheim, yn uno hoff donau Bach, canys y mae hi yn ei 371 Choralgesange (ei gasgliad enwog, sydd yn awr o'm blaen) wedi ei chyng- haneddu ganddo bum gwaith yn wahanol Weithian, dyma'r gorchwyl a osodais i mi fy hun ar ben a'm gobaith yw y deillia rhyw gymaint lies o'r hyn a ysgrifennwyd yn unig gyda'r amcan hwnnw. Cofier un peth, na roddais i ond ychydig enghreifjtiau allan o liaws mawr o donau maeddedig sydd yn gorwedd yn bentyrrau hanner marw yn ein t6n-lyfrau Cymreig, a bod gan hynny wir angen diwygiad yng Nghymru yn gystal ag mewn gwledydd ereill. Derbynied Mr. T. C. Jones (Alonydd) fy niolch diffuant am ei lythyr diddorol a phwysig ar awduriaeth y don Horeb. Nid peth bychan i mi yn bersonol ydyw fod yr hyn a ysgrifenna cerddor profiadol fel efe yn ategiad i'm golygiadau; ond ystyriaeth llawer uwch na hynny yw fod ei waith yn rhoddi ail-gyhoeddusrwydd i ffrwyth ymchwil Mr. Emlyn Evans yn wasanaeth i hanes ein cerddoriaeth eglwysig. Er mor ymwybodol ydwyf o'r gochelgarwch sydd yn ofynnol wrth geisio olrhain tonau i'w tarddiad, eto mi gredaf fod tystiolaeth unedig gwyr fel Northyn ac Emlyn yn hawlio ein derbyniad, ac na raid inni mwyach botruso cysylltu enw Dafydd Siencyn Morgan a'r hen don Horeb.
Y Gwr a'r Ambnlo Gwyrdd
Y Gwr a'r Ambnlo Gwyrdd (HYDE PARK, EBRILL 4, 1914). [Ym Medlam wallgof y Toriaid yn Hyde Park (Llundain) pwy ddydd,yr oedd yno un dyn call--hen frawd o Wydd^I, a'i wyrseb fel bwyall, ac yn welw, a'i gernflrw yn goch ei got yr Ilwyd-wvrdd, t-i liet -,n ysgwaiv a'i esgidiau yn drwm. Cerd(lpi yn ol ac ymlaen—ymhlith y milrrdd ynfydion cloehdaraidd—heb Bibrwd yr un gair, na. gwfinu na gwgu dim c Axnb '.rol Mawr wedi'i gylchu a rib- '.rai gwyrdd, uwch ei ben.] [Cyflwynir y gan i'w mawrhydi KINa CARSON a GALLOPER SMITH. I'w chanu ar y d6n Gwnewch Bopeth yn Gymraeg.] I ROL methu a llithio r 1" yddm, aeth lloiau Bonar L6, Dan ysgwyd eu cynffontiau, draw i Hyde Park am dro Ond diolch yr oedd yn o Ddyn Call ymhlith y myrdd,— Yn cario ambarelo o dan ribanau gwyrdd. Cydqan,— Wel, dyma wr o urdd-ynghi?.nol Iloi--t,,fyrdd- Yng nghysgod ambarelo o dan ribanau gwyrdd. II 'Roedd ef yn berffaith dawel,heb yngan bw" na b6," A'r Lloi-o'i gylch-yn brefu am lastwr Bonar L6; Ond ni chythryblai'r gwron—'roedd ef yn wr o urdd Yn daclus dan ambrolo o dan ribanau gwyrdd. Cydgan—Wei, dyma wr o urdd, etc. Ill Bragawthiai Smith a Balfour a Carson nerth eu C,g, Ac weithiau 'ro(-dd byamdledd Lord Charles bron torri'i rheg A'r Suffragettes ysgrechient b]ithdr?Slith hefo'r myrdd- Ond ni chythruddent fymryn mo'r gwr a'r 'Brelo Gwyrdd. Cydgan—Wei, dyma wr o urdd, etc. I TV Fe gwffiai rhai yn enbyd-a thwmblai y police—- A Walter Long yn clochdar "Good heavens, let',q hat,-e peace Ond rhodio'n dra hamddenol ym Medlam Fawr y myrdd Wnai'r gwr a'r ambarelo o dan ribanau gwyrdd. Cydgan We], dyma wr o urdd, etc. ¡ Fa rwy?wyd rhai banerau a C?rsou yn ddi- ffrwyn, A dynnodd un o'i boced yi wyllt-i sychu'i drwyn A Chontrast i jull gallop F.E. ar draws y myrdd, Oedd oerdded tawel-araf y gwr a'r Prelo gvvyrdd. Cyc(riav,-Wel, dyma wr o urdd, etc. I VI Hen Wyddol oedd y gwron, fu n gadarn yn y gha,- .,Tn gwPld y .vnwr--drwy'r storom-yn torri ar ei Wlad Mor bspiis fydd Iwerddon eyn hir,—er strywiau fyrdd, 0 dan Ambrelo Asquith, o dan ribanau gwyrdd. C'ydqan- Wei, dyma wr o urdd-ynghanol lloiau fyrdd, Yng nghysgod ambarelo o dan ribanau gwyrdd I Ebrill 6, 1914 YSBRYD ERIN,