Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK DWYRYD TEA. The Tea of Old Time flavour, —
Advertising
USE i KEENORA SELF-RAISING FLOUR The ideal Flour for every kind of ¡ fancy Bread and Pastry Scones, &c., Ac.
Advertising
Beaty Bros no. THE CELEBRATED TAILORS THE PREMIER LIVERPOOl" FIRM FOR Good Class Tailoring, AT REASONABLE PRICES. I ==—==———— I ONLY ADDRESSES: I London Ret. and Church St., LIVERPOOL. I Closed on Wednesdays at 1 p.m. Open all day Saturdays. A y w'ch Llygaid yn eich blino? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y Uygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen i eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gyda'n hoffer gwyddonol ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyfleawi a'tl rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwcn heddyw: ARCHER & SONS, Eyesight Specialists, 73 LORD STREET. I Sefvdlwvd 1848. LIVERPOOL- 'Phono-3925 Bank. W. mm & SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AISO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for dotting and Fishing, 'Phone-S8G Bootle Mr. H. W. HELYTI I DANNEDD GOSOD Tynntech Dant, heb yr ias leia o boen efo ftordd Lloegr a'r Amerig. PRISIAU CYMEDROL Y eyngor S'r telerau yn rhad ac am ddim Foneddlgesau I welnl Tellr cludlad cwsmerlald o'r wlad 13 Norton Street, Liverpool (oongl London Road). Orlau,-9 i 7. m 'Phone, i486 Royal. COOK & TOWNSHEND. Special Value in BOYS CLOTHING.. READY TO WEAR. Boys' Sports Suits, J In Smart Tweeds '?/ Boys' Strong Rugby 1^ Q Suits in dar? shades ? ™ For College wear. Boys' and Youths' I 7 9 Waterproofs t <?? ? /(<?) All sizes. Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. KING OF THE MEADOW (Brenin y Maes). A Song for Bass Voice. Yn y ddau nodiant. Geiriau Cymraega Saesneg. GAN JOHN HENRY, R.A.M. AIL ARGRAFFIAD. Is. Swyddfa'r "Brython," Lerpwl. 4BK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles SODA WATER. POTASH WATER. SBLTXBR WATER. LEMONADB MILT OINGAR ALa. lito., eta, IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL ROBERTS & EDWARDS ESTATE' AGENTS, a j4 KfrEdale Rd., Liverpool Telephone: SjM Royal.
Clasuron Cyoqhanedd
Clasuron Cyoqhanedd [C AN GWRTHEY RN. ] GWYR KRIKETH YN GOFYN I WYR HAR- LECH AM FEXTHYG COED I WNEUD STOCKS' PA nifer o ddarllenwyr Y Bbython a welodd yr offeryn penydiol a elwid y stocks ? Un o deulu r Pillory ofnadwy ydoedd, end mai meilyngau y dioddefydd, ac nid ei arddyrnau a'i wddf, a sicrheid ynddo. Y tobyg yw eu bod wedi diflannu o'r wlad yn llwyr ers blyn- yddau bellach. Yr wyf yn cofio un ar ganol Han Gwythenn, Sir Ddiobych, ac un arall, fwy o lawer, ar ben heol Love Lane, tref Ddinbych. Yr oedd stocks Gwytherin bron yn ymyl porth y fynwent, rhwng y ddau dv tafarn a wynebent ei gilydd, un o bob tu i'r lawnt oedd rhyngddynt; ae nis gallai cws- meriaid y ddau dy lai na'i gweled trwy ffen- estri y cegirau lle'r yfent. Pan yn hogyn bach tua 9 oed, gwelais ddyn ieuanc oryf ac ymladdgar yn cael ei roddi ynddi. Yr oedd y cerddwr mor afreolus a pheryglus fel y bu raid anfon am Mr. Edward Williams, Dol- adyn, cwnstabl y plwyf (cyn bod nemor blis- mon yn y wlad) i gymeryd gafael cvfraith ynddo. Yr oedd yn lIed anodd gan y cwnstabl ddod at y gwaith cas, ond wedi ail wys, arwyddedig gan Mr. Jenkins y person, daeth yno, a galwodd ar bump neu chwech o ddynion ato i'w helpu. Cydiwyd yn y llanc gan bedwar ohonynt, a rhoddasant ef ar ei gefn ar lawr, ac aeth y ddau araU i morol agoriad y stocks, datgloisant y ddau glo clap trymion, codasant y plane uchaf i fyny, a rhoisant goesau y creadur truan rhwng y ddau blanc, a'i ffcrau yn yr banner tyllau oedd yn yr isaf, ac yna gollyngasant yr hanner uchaf i'w lo, a chloisant yr hual erchyll i fyny, gan adael y truan yno hyd nes y deuai ato ei hun, neu ynteu hyd nes y tvbiai'r cwnstabl a'r person fod rhyw gymaint, beth bynnag, o'i synnwyr wedi dychwel. Ymrwyfai ac ym- nyddai, bytheiriai a rhegai yn ofnadwy, am ddwyawr neu dair, a rhaid fod ei goesau yn gleisiau duon, ac yn friwiau dolurus, onid oedd ei half-boots cryfion yn amddiffyniad iddynt. Crenadlaethau lawer yn ol, yr oedd yng Nghriketh stocks, a chryn lawer o daro ami oanys pan oedd yr hen ddiwydiant pysgotawl yn ei anterth, galwai llf wer o gychod dieithr heibio'r porthladd,—glaniai'r pysgotwvr, collent y llanw, ac arhosent yno i yfed a meddwi,ac i greu cynnwrf, nes mai yn. y stocks y eaent eu hunain yn y diwedd. Rhwng y draul oedd arni, a'r diffyg gofal amdani, ar ol gwasanaethu'r bwrdeisiaid am ddegau o flynyddoedd, fe aeth un o'r Hinach yn bur gandryll collwyd vr agoriadau, a braerodd y coed di baent, fel y llwvddodd dau droseddwr a osodwyd ynddi un min nos i ymryddhau ohoni ac, megis SamRon gyda phyrth Gaza, gwnaethant faich bob ur o'r gwyryfil, a ffwrdd a hwy, nid tua'r mynydd, ond tua'r m6r, ac i'w cychod, codasant hwyl, ac yr oeddynt ymhell ar y m6r cyn i'r Kriketh- iaid wybod eu colled. Cawsant goed tan am lawer o ddyddiau. Bore drannoeth, yT oedd hi yn wbwb mawr yn y ddinas galwyd y bwrdeisiaid ynghyd i gydymgynghori beth a wneid. Y mddengys nad oedd masnach y lie yn flodeuog iawn y pryd hwnnw, canys yr oedd y gorfforaeth yn rhy dlawd i fedru prynnu defnyddiau, a thalu am wneud stocks newydd felly apeliasant at fardd yn y gymdogaeth, am iddo wneud cywydd goreu fyth allai, i'w gyflwyno i wyr Harlech, yn ol penawd y Uith hon. Uflldd- haodd y bardd, enw yr hwn oedd Gruffvdd Ddu ap Howel, a chanodd gvwydd gofyn teilwng i'w restru gyda'r gweddill o gywyddau felly. Fel pob un o'r cywyddau gofyn," mae rhan fawr o hwn hefyd yn gynffon ysgwydedig ryfeddol canmolir tref Harlech, clodforir ei chastell, a gorfolir ei thrigolion. Yr oedd rhywbeth febyg iawn i ysbryd pro- ffwydoliaeth wedi disgyn ar yr hen fardd pan yr ysgrifennai y cwpled canlynol Plas ag urddM i gerddawr, A thref wych gj-da'i thorf fawr. At beth y gall hwnyna gyfeirio ond at y eylchwyliau cerddorol diweddar, er ei fod wedi ei ddweyd gannoedd o flynyddoedd yn ol ? Ys gwn i pa un o'r tri dull canlynol yw yr un cywir o sillebu enw'r drel—Harddlech, Arlech, ynteu Harlech ? Mae ystyr amlwg i'r ddau gyntaf, ac fe fu cyfnod maith pan mai Harddlech yn unig a ysgrifennid. Dyna fel y dywed Gruffydd Ddu yn y cywydd hwn :— Herwydd adail hardd ydwyd, Hir ddeliwch wledd Harddlech lwyd. Ac eto,- Harddlech hob edech y bydd Fawr enw i Feirionydd Brenhinlle. ni sudde'i sail, Bryn teg iawn, braint a gynail, Tref gall rhag tyrfa gwilliaid, Tre fwy i'r luirfl tra fu raid. Ac am y castell efe a ddywed :— Kastell yw'n kell rhag ofn cas, Klyd arno, klo y deyrnas. Nyth euraid a wnaeth eryr Yn ei non i Gadpen gwyr Huw Lewis draw yn nhal stryd, Hawk, a dwrn y kadernyd. Gwyliwr ac ymladdwr y gallu gwladol. Ymddengys fod trigolion y dref y pryd hwnnw, megis eto, yn fwrdeisiaid hael a chroesawus iawn. Wrth gwrs, yr oedd yn rhaid i'r hen fardd ddweyd hynny pa un bynnag ai gwir ai gau ydoedd, canvs at eu haelfrydedd yr oedd efe ar fedr apelio 0 dewiswn fwrdeisiaid A wna kost, yno eu caid Eu canu a 'u rhost cawn ar hynt— Ymwaredwyr mawr ydynt Kawn yn y dref gynefiri, Gwrw a medd, ag annedd gwin. Parch i'r dref a'i "thangnefedd, Pawb o'r wlad i'w pybyr wledd. Ei linell olaf a thlysaf o ffwl i'r dref ydyw, "Haf erioed fu'r hyfryd fan "—wyddost ti, ddarllenydd, mai oddiwrth y llinell yna y cafwyd 0 na byddai'n haf o hyd "'? Er mor hyfryd oedd y lie, honna y bardd y byddai'r dref yn fwy felly, wedi iddo ef ddweyd ei negs, ac iddynt hwythau o'u mawrfrydigrwydd gydsynio a'r hyn a ofynnai ganddynt.- Haf erioed fu'r hyfryd fnn- Hwy yn well o hyn allan, Os doedaf heb ysdudiaw Achwyn y dref fechan, draw Krikieth, Camweth y cwynai > Eisie twr yn nryse'u tai. Ar ol colli'r hen stocks ymddengys fod y bwrdeisiaid wedi ap-lio at yr awdurdodau. am gael defnyddio'r castell (Krikieth) i garcharu gwyr chwerwon," ond iddynt gael eu naca. Nid oedd hyn yn siomedigaeth fawr iddynt, canys yr ondd y castell dipyn yn anghyfleus oherwydd ei bellter o ddryse'r tai," sef eu tai cyhoeddus, mae'n ddiau, ac eddyf yr hen fardd mai tipyn gyda digon fuasai llusgo y moch meddwon i le mor dwt ag oedd castell bychan Krikieth,— Ki cher, o goed, garchar gwell, Na gwal cystal o'u castell. Ie, ond carchar coed oedd o, a phe reswm fuasai carcharu m-wn lie folly fechgyn gwallgof yr hen Dafydd Jones t Ni cheir y llys-garchar lion I garcharu gwyr ohwerwon felly 'doedd dim i'w wneud ond ymdrechu cael stocks iawn yn rhywle yn agos i'r taffi,rn- dai—"Eisie twr yn nryse'u tai." Wrth twr y golygid carchar, a hwnnw mewn lie cjrfleus i roi'r rhai anhowaith ynddo ac fel hyn y mae Gruffydd Ddu yn dyfalu pa fath stocks fuasai yn boddio gwyr Krikieth :— Erchi yr wy' dderi i ddys, A'u rhoi i dario rhai dytys- Dwy ddar yw'r cymar o'r coed, Dodrefn i rwvmo deudroed, Da fu'r gof di ofer gynt, A'u priodee, par ydynt Ymeulyddion, ddewrion ddau, I roi gwyr ar eu gwarrau. Ac wedi eu cael, druain, i'r sefyllfa honno Ni thynnart, profant o'r pren, Ddwy grimog, yn ddigramen- Kath-lygad y medd-dod maith, Hual ar rai anhowaith Gweision ni pheirch goes na ffer, Gwyrjrfil i ddal gwyr ofer- I dd--l a wvdde elvn Fwriad waeth i ferre dy'Il- hynny yw, os oes gan rywun elyn yn rhywle illai fwriadu rhywbeth gwaeth i goesau y rhywun hwnnw, wpl, i dd 1 a fo. Gwelais fod bwrdeisiaid presennol Krikieth yn bwriadu apelio am feiithyo, deng mil o bunnau i geisio dadeni yr hen ddiwydiant pysgotawl yn y lie. Gobeithio na ddadenir yr angen am nifer o stocks yn y lie yr an pryd.
I Heddyw'r Bore
I Heddyw'r Bore set bore Dydd Mercher, QWYWO'N OYNNAR.—Bu Mr. Herbert Jones, cyfreithiwr, Connah's Quay, farw nos Lun ddiweddaf, yn wyth ar hugain oed. Mab ydoedcf i'r Parch. Rd. Jones, bugail eglwys M.C. Seisnig Mancott, ac yn ddyn ieuana gweithgar gyda Dirwest a Rhyddfrydiaeth. PRUN YW'N DA U BECHOD-PAROD —Y mae'r Parch. Edwin Jones, ficer Caer- gybi, yn arferol o ddywedyd pethau gwahanol i'r cyffredin ac os yw'r adroddiad Saesneg a welais yn gywir, dyma ddywedodd yn ei bregeth o bulpud Eglwys St. Seiriol y Sul di- weddaf Y mae'r cyfundebau ereíydd drwy Gx-mru wrthi beunydd a byth yn pasio pender- fyniadau yn galw sylw at feddwdod a haliogi'r Saboth, a gallai'r dieithriaid ddaw atom yr haf, wrth ddarllen ein papurau gyda'u brecwest, gam-feddwl mai dyma ddau bechod parod v Cymro. Ond dim o'r fath beth yn hytracli, dau bechod parod y Cymro ydyw anonestrwydd ac anniw^ir- deb. A byth y clywch am ein cyfundebau crefydd yn pasio pendorfyniadau parth y ddeubeth hyn a hynny, y mae'n ddiau, am eu bod yn rhy agos iddynt. A'r dyddiau hyn, fe glywir crvn lawer am chwarae go Iff ar y SuI, ac ymddifyrru ar y Saboth. O'm rhan i, nid wyf yn gweled mwy o ddrwg mewn golffa ac ymddifyrru ar y Sul na mynd am dro ar hyd y traeth neu sefyllian yn bendwmplyd hyd yr heolydd, fel y gwelweh rai'n gwiaeud, eyd ag yr elont i foddion gras fore a hwyr, ac na byddont yn cyflogi ereill gyda'u chwarae. Yr oedd i bob dyn berffaith hawl i ryddid y Saboth, ac a ddylai gael dydd o orffwys,—dyna'r- prif wrthwynebiad i'r golff E-. ar y Sul. Yr ydym ni yng Nghymru yn clsgar o hyd am Saboth y Cyfandir ond a ddarfu i chwi feddwl erioed fod pobl y Cyfandir- yn dechreu'u moddicn gras am bump ar gloch bore Sul, ac nid am ddau ar gloch y prynhawn neu chwech ar gloch yr hwyr, prun bynnag a fo fwyaf hwylus ganddynt, fel y bydd y Cymry'n gwneud ? Bydd, fe fydd pobl y Cyfandir wrthi'n defosiyna yn nhy Dduw oriau cyn i'r Cymry ddarfod chwvrnu yn eu gwelyau ac a fyddant wedi gorffen eu haddoli cyhoeddus erbyn hanner dydd, neu'n fuan wedi hynny. Y mae'r Cymry'n tybio mai'r ffordd i gadw'r Sul ydyw ymdreiglo ac ystwyrian yn eu gwyly- au tan berfeddion y bore, bwyta gorlwyth o girio, ac yne., ar ol ymbincio mewn siwt newydd, fynd am dro'r pryrihawn. Os djna'n syniad am y Saboth, wel, yr oedd bywyd y bobl gyfoethog a diorchwyl yn UJ) Saboth ar ei hyd. MWYA' GANT, MWY A' GWYNANT. —Wrth gyfarch cyfarfod blynyddol Rhydd- frydwyr Sir Drefaldwyn yn y Drefnewydd, ddydd Mawrth yr wythnos hon, sylwodd Mr. David Davies, A.S., fod y Llywodraeth wedi ildio'n sylweddol eisoes i'r Blaid Eglwys- ig yn narpariadau Mesur y Dadgysylltiad a'r Dadwaddoliad ond nid oedd hynny, i bob golwg, yn peri i'r ochr arall wneud dim ond llidio fwyfwy, ac ni setlir dim byd byth mewn ysbryd felly. -.0- DRWY'R AIL DDARLLENIAD- Pasiodd Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddol. iad yr Eglwys yng Nghymru ei ail ddarlleniad yn Nhy'r Cyffredin nos Fawrth yr wythnos hon fel hyn:— O'i blaid 349 Yn ei erbyn, 265 Mwyafrif 84 Un Rhyddfrydwr, Syr E. Brauchamp, fotiodd yn ei erbyn. Cymerwyd rhan gan y ddadl yn Mr. Hayes Fisher (T., Fulham), yr D. Bryn- mor Jones, Mr. Balfour, Mr. Asquith, Mr. Ormsby Gore, Mr. McKenna, Mr. J. Will- iams (Gorllewin Morgannwg), Mr. Cassel (T., St. Pancras), Mr. Haydn Jones, a Mr. Bonar Law. Traethiad athronyddol ar ystyr cenedlaetholdeb a gafwyd gan Mr. Balfour, fel arfer, ond oeraidd a diystyrllyd o hawl Cymru i'r peth hwnnw. Fe'i hatebwyd yn bur effeithiol gan y Prif Weinidog, yn dweyd' na waeth faint a wingid yn erbyn y symbylau, fod etholiadau Cymru'n dangos yn ddiwrthdro fel yr oedd y wlad honno am ei rhyddid, ac mai ei chynrychiolwyr yn y Senedd oedd y mynegiad i farn a dyhead pob Sir a rhanbarth. Y PERSON A'R PLAS YN DOD AT Y DRWS.-Dywedodd Mr. Haydn Jones