Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
 At the Cross—Wrth y Groes SACRED SONG. CANSGYSEGREDIG. In Two Keys. For Tenor or Bass. |WELSH WORDS BY The Rev. PETER WILLIAMS (Pedr Hir). ENGLISH ADAPTATION AND MUSIC BY r JOHN HENRY. Copyright. 6d. nett. Liverpool: HUGH EVANS & SONS, 356-8 Stanley Road IF YOU WANT SEASONED Oah, Mahogany, Birch, Black Walnut, Ash, White Wood, Pitchpine,?i Yellow Pine, Doors or Moulding WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD. LIVERPOOL WRTH GILIO O'RGADAIR
Sef Cadair Cymanfa Gyffredinol…
Sef Cadair Cymanfa Gyffredinol y Meth. odistiaid Calfinaidd. Anerchiad y Parch. John Williams, Brynsiencyn, yng Nghapel Stan- ley Road, Bootle, nos Fawrth. Mantais, yn ddiau, ar adeg fel hyn, fyddai defnyddio'r egwyl gymharol fer ganiateir i wneud sylwadau ar rhyw UN mater a ystyrrir yn bwysig ac amserol ynglyn õ,'r cyfundeb y perthynwn iddo. Dyna fy mwriad innau am ysbaid ond yn raddol, mi deimlais fod am- ryw faterion yn haeddu sylw, a rhai ohonynt yn hawlio ein sylw fel y bernais mai fy nyledswydd oedd dywedyd gair ar rai ohonynt -er i hynny feddu'r anfantais o Roi angen un rhwng y naw. Mae rhai pethau perthynol ir Cyfundeb ei hun y dymunwn alw sylw atynt. Mae per- thynas y Cyfundeb a chyfundebau ereill yn un o bynciau'r dydd. Mae perthynas y Cyfundeb & rhai o agweddau'r oes, efallai, yn bwysicach na'r un ohonynt. Carwn, yn gyntaf oil, alw sylw at un neu ddau o bethau yn y Cyfundeb ei hun, sydd, yn 01 fy marn i, yn bwysig. 1.—Pwysigrwydd swydd Blaenor. Y peth mwyaf nodweddiadol a berthyn i ni fel Cyfundeb yw ystyr swydd blaenor. Nid oes swydd gyffelyb iddi mewn unrhyw gyfundeb èrefyddol yn y byd, hyd y gwn i. Diaeor,- iaid sydd gan yr Annibynwyr a'r Bedydd- .wyr "leaders" sydd gan y Wesleaid henuriaid a diaconiaid sydd gan y Presbyteriaid ond gan y Methodistiaid yn wnig y mae blaenoriaid." Beth yw ystyr hyn oil ? Mae swydd blaenor gyda ni yn synnwysdaubeth-(I) Cyfrifoldebacurddas, •yfartal, i'r gweinidog, ynglyn a holl waith ys- brydol yr eglwys (2) Cyfrifoldeb llawn ynglyn a holl waith amgylchiadol yr eglwys. Mae "blaenor gyda ni ar yr un tir yn hollol a'r gweinidog ynglyn ag agweddau ysbrydol yr achos ond" yn u 1ig nad yw i weinyddu'r eacramentau, nac i bregethu'r Efengyl. Y mae i ymweled a'r cleifion a'r esgeulus, i hyfforddi'r plant a'r ieuenctid, i ddisgyblu'r afreolus, i arwain a meithrin profiadau'r saint. etc. Mae swydd "blaenor" gyda ni yn gytart&l i swydd henuriad a diacon gyda'r Presbyteriaid. Nid oes gan ddiacon gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr hawl, beth bynnag am gymhwyster, i arwain yr eglwys mewn pethau ysbrydol hawlfraint y gwein- idog yn unig yw hynny. Gwir fod- ami ddiacon gyda'r cyfundebau hyn yn fwy na diacon, fel y mae ami flaenor gyda ninnau yn llai na blaenor. Ord son yr wyf yn awr am ystyr y swydd, ei hawliau a'i dyledswyddau. Dyma rydd gyfrif am urddas a phwysigrwydd y swydd yn amser ein tadau. Dyma, hefyd, yn un peth, rydd gyfrif am y ffaith ddarfod i ni godi mwy o leygwyr amlwg yng nghylch crefydd na'r un enwad arall yng Nghymru. Nid ymgymeryd a gwaith berthynai'n neill- tuol i'r gweinidog, am na byddai gweinidog i'w gael; y byddai'r hen flaenoriaid pan yn gofalu am yr -glwysi ond yr oedd ganddynt haw], ac fel rheol, yr hyngoedd yn bwysicach na hawl, cymhwyster arbennig i'r gwaith. Fy aorodyr, y blaenoriaid, mae eich swydd yn un bwysig ac urddasol iawn yn un unique, yn hanes holl gyfundebau crefyddol y wlad. A wnewch chwi gofio mai nid diaconiaid ydych, neu o leiaf mai nid diaconiaid ddylech fod, ond "blaenoriaid." Ni phar cono hyn i neb call yn eich plith, heb son am neb duwiol, i ymchwyddo, ond par ei gofio yn iawn i chwi sobri dan faich eich swydd, a'i mawrygu gyda pharchedig ofn. Ofni yr wyf fod y flwydd wedi dirywio yn fawr yn ein hoes ni, ac mai diaconiaid ymarferol yw mwyafrif ein blaenoriaid. Nid dawn i drafod cyfrifon, na graddau o gallineb bydol, yw nod angen blaenor," cofier. Mae hynny, pan mewn eyfuniad a buchedd deilwng, yn ddigon o gymhwyster i fod yn ddiacon ond nid yw yn ddigon i fod yn flaenor." Dylai blaenor fod yn wr crefyddol ac athraw- aidd, yn un all gymeryd ei le yn ddidram- gwydd fel arweinydd ysbrydol eglwys Dduw. Peth arall y dymunwn gyfeirio ato o dan y penawd cyntaf yma ydyw y priodoldeb i wella ffurf y gwasanaeth dechreuol yng nghyfarfodydd cyhoeddus y Saboth. Mae ein gwasanaeth yn foel, unffurfiol, anniddorol ac unbenaethol. Gwir na ddylid gwneud unrhyw gyfnewidiad i foddio mympwy anianol, neu unrhyw ysfa am newid er mwyn newid ond pan y clywir cwynion parhaus a chynhyddol oddiwrth ein haelodau mwyaf deallus a diwylliedig, nad yw ein gwasanaeth dechreuol yr' gystal cymorth ag y dylai fod i ddwyn y meddwl i dymer ystyriol ac addolgar, ein dyledswydd yw gwrando'n barchus arnynt ac ystyried yn ddifrifol beth ollir ei wneud i wella pethau. Mae agwedd gyffredinol ein cynulleidfaoedd yn ystod rhannau dechreuol y gwasanaeth, a dweyd yn gymedrol iawn, ymhell oddiwrth yr hyn a ddylai fod. Hwyr- ach y dywed rhywun mai bai'r gynulleidfa yw hynny oitha gwir, ond nid yw hynny yn ein cynawnhau i adael pethau fel y maerit, os gellir drwy ychydig gyfnewidiad wella ym- ddygiad cynulleidfa. Teg i areithiwr a phregethwr ydyw meddwl am y dull goreu i gael sylw cynulleidfa yn wir, y mae hynny'n ddyledswydd, ond cadw o fewn [terfynau priodol. Paham na ddylid meddwl am yr un peth ynglyn a'r gwasanaeth dechreuol ? Gall rhai dybio mai dibwys yw hyn oil ond teim- laf yn bur sicr yr effeithia'r diffyg hwn yn drwm arnom yn y blynyddoedd sydd gerilaw yn arbennig wedi i'r rhwystr mawr oedd ar y ffordd i lawer ymuno ag Eglwys Loegr gael ei symud ymaith. Onid yw'n ffaith ryfedd fod eglwys hollol unbenaethol o ran ei ffurf- lywodraeth yn werinol yn ei ffurf-wasanaeth tra mae'r eglwysi sydd yn werinol yn eu ffurf- lywodraeth yn unbenaethol yn eu ffurf- wasanaeth ? Dylai cynulleidfa gael rhywbeth i'w wneud heblaw gwrando am awr a hanner ar arall. Gyda ni, nid yw'r gynulleidfa yn cael gwneud dim ond canu. Tuedd hyn yw eu gwneud yn ddim ond goddefol ar hyd y gwasanaeth, tra y buasai rhoddi mwy o le a gwaith iddynt yn tueddu i'w gwneud yn fwy byw trwy'r holl wasanaeth. Paham na threfnir i'r gynulleidfa i gyd-ddarllen rhan o Air Duw ymhob cyfarfpd, a chyd-adrodd Gweddi'r Arglwydd yn ystod pob gwas- anaeth ? Byddai i bob un ddod a llyfr Duw yn ei law i dý- Dduw, ar y Saboth, nid yn unig yn ychwanegu at weddeidd-dra y gwasanaeth, ond hefyd yn foddion effeithiol i gynhyrchu'r dwyster meddwl hwnnw sydd mor anhebgorol ynglyn a'r addoliad cyhoeddus. Gwyddom am ychydig o'n heglwysi sydd eisoes wedi symud yn y cyfeiriad hwn a deallwn fod yr effeithiau yn ddaionus iawn, a diau y gwelid yr un effeithiau ymhob man pe mabwysiedid rhyw fesurau cyffelyb. Y gwrthwynebiad gan ryw ddosbarth i gyfnewidiad fel hyn fyddai ei fod yn gam yng nghyfoiriad defod- aeth. Yr un peth yn union ddywedai'r un dosbarth mewn amser aeth heibio yn erbyn dwyn llyfrau emynau a thonau ac offerynau i'r capelau. Pwy dybia, heddyw. fod yr un, na'r oil o'r pethau hyn wedi ein gwneud yn fwy defodol ? Nid defodaeth yn sicr yw gweddeidd-dra, ac nid ffurfioldeb yw trefn. Ein Cyfundeb yn ei berthynas a [Chyfun= debau Crefyddol ereill y Wlad. Ffaith bwysig a diddorol yw mai yn yr adeg y mae undeb un o'n heglwysi a'r Wladwriaeth yn cael ei dorri y trefnir i geisio ffurfio undeb amgenach rhwrg y gwahanol eglwysi a'i gilydd. Bydd yr undeb olaf hwn, os ihvyddir i'w gael, yn well na'r cyntaf, am ei fod wedi ei osod ar addewidion gwell. Oblegid yn wir, po buasai'r cyntnf hwnrw yn ddifeius ni cheisiasid le i'r ail." Mawr obeithiwn y gwolwn,, ey-n bo hir, yr eglwys a elwir hyd yma yn Eglwys Sefydledig ein gwlad yn dyfo i mewn i rwymyn yr undeb hwn. Cyrchwn hi o galon heddyw, gan ddywedyd :—■ "Tyrd i fyny o'r anialwch, Wedi aros yno'n hir Sypiau grawnwin, mawrion. addfed, Syn dy aros yn y tir, Brysia i ryfel "— —(rliyfel yn erbyn anfoeR ac anghrefydd ein gwlad)- Brysia i ryfel-.gwisg dy arfau, Cvmer galon, mentra ymlaen Ffordd nis collir, mae'n dy arwain Gwmwl r.iwl a cholofn dan." Mae arwyddion eisoes ar gael y daw hithau i mewn. Gwyddom fod un o glerigwyr adna- byddus y Gogledd, yn y rhagolwg ar rhyddhad eiEglwys o hualau'r Wladwriaeth, wedi dat- gan ffurfiol wrth rai o'n harweinwyr y carai efe weled undeb rhwng yr EglAyf- a ni. Nid wyf yn deall nad oedd y gwr parchedig yr un mor awyddus i'r undeb fod yn un cyfiredinol a'r holl gyfundebau, end mai ag un ohonom y ni siaradai ar y pryd ac nid siarad damwain, cofier, oedd hwnnw, ond daethai'r gwr da i ymweled ag un o'n gweinidogion mwyaf amlwg or mwyn cael cyfnewid barn ar y pwnc. Braint yr wyf yn ei gwerthfawrogi yn fawr ydyw fy mod ar yr achlysur presennol yn cael syLvi am y tro diweddaf o'r gadair hon at fesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru," cyn iddo j-mddangos ar ddeddf-lyfrau ein gwlad. Gwyddom yn dda "chwenyoliu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwn i, ac nis gwelsant." Wrth edrych yn ol i groniclau ein cyfundeb, yr wyf yn cael fod enwau'r tadau anwylaf ac enwocaf fu gennym, yn yr hanner canrif diweddaf, saint na welodd [Cymru eu purach na'u harddach, wedi bod yn llunio, cynnyg, eilio a chefnogi penderfyniadau cryfion, yn eich hiicliel-lyscedd. ar y mater hwn- Dyma i chwi restr o enwau a welais ynglyn a hyn, a daw awel beraroglaidd i bob cyfarfod wrth grybwyll eu henwau Y Parch. Henry Rees, Edward Morgan, John Owen (Ty'n llwyn), Dr. Owen Thomas, Dr. Saun- ders, Dr. Hughes, Dr. Charles Edwards, a Dr. James a dau o leygwyr yr erys eu coffa- dwriaeth yn hir yn wyrdd yn ein plith, sef Mr. Richard Davies, Treborth, a Mr. Edward Davies, Llandinam. Gwelwyd pob un o'r cewri uchod, ynghyda lluaws ereill, yn sefyll ar eu traed, ac yn traethu yn ddifloesgni ar berthynas anachaidd eglwys Crist a'r Wladwr- iaeth. Mewn cymdeithasfa a gynhelid ym Mangor, yn 1868, a'r olaf ybu efe ynddi, cawn i Mr. Rees ddywedyd fel hyn :— Y mae yn rhaid i ni addef fod y cymell- iadau ag oedd gennym ni a chan ein tadau o'n blaen ni, i fawrhau'r egwyddor o sefydliad eglwysig, wedi ei gwanychu yn fawr ers blyn- yddau bellach, a hynny oherwydd yr ysbryd a'r ysgogiadau tra dieithriol ag sydd wedi torri allan yn Eglwys Sefydledig ein gwlad, mewn amryw barthau o'r deyrnas hon. Gynt yr oeddym yn edrych ami, a dweyd y lleiaf, fel gwrthglawdd cryf yn erbyn Pabyddiaeth, ond prin y gallwn edrych ami felly mwyach—y mae wedi ei lefeinio'n drwm a Phabyddiaeth ei hunan. Ae o ganlyniad, yn lie cadw draw oddiwrth y Iledrith hwnnw, y mae'n peryglu yn awr bod yn gynhorthwy iddo, a throi ei manteision fel sefydliad gwladol i hyrwyddo ei ddyfodiad i'r holl dir. Mi a aIIwJJ feddwl fod Deon Alford, ac ereill, yn gweled mai yn y ffaith o'i bod yn\sefydlog y mae ei gwendid yn gorwedd, ac yn dechreu ameu a all fod ym- wared effeithiol iddi ond yn unig trwy ddad- gysylltiad odcliwrttt-y Wladwriaeth, a chael ei disgyblaeth a llywodraethiad ei hachosion yn fwy hollol i'w dwylaw ei hun. Yn awr, gan hynny, beth dybygwch chwi, Ymneilltuwyr Protestanaidd Cymru ? Onid yw hyn oil yn awgrymu i ni ymha gyfeiriad y mae cwmwl Rhagluniaeth Ddwyfol y-i-i ysgogi, a pha both a ddylai Israel ei wneuthur ? Croes i'm teimladau i bob ameer yw ymyryd yn gy. hoeddus a dim ag a fyddo yn ymylu ar y politicaidd, ond y mae'n ddyledus ar bob dyn yn y fath amser a hwn gymeryd rhyw ochr a chan fod y penderfyniadau yn sobr a chymedrol yn eu hiaith, ac yn ol fy meddwl i yn dangos i ni'r ffordd ag y dylem rodio yn- ddi, yr wyf yn eu cynnyg i gymeradwyaeth y gymdeithasfa." A wyddai un o urddasolion yr Eglwys yng Nghymru, wrth fawrhau Mr. Rees, i'w bwrpas ei hun, mewn llythyr o'i eiddo yn y Times am Mawrth 30ain, y flwydd- yn hon, mai dyma eiriau'r gwr hybarch hwnnw yn y Gymdeithasfa olaf y bu ynddi. Cyn gadael y mater hwn, carwn alw sylw yn unig at un peth. Ymddengys i mi nad yw amddiffynwyr yr Eglwys Sefydledig wedi deall, neu na fynnant ddeall, beth yw ystyr Ymneilltuaeth. Priodolant ein sel ni dros Ddadgysylltiad naill ai i ryw ddrygnaws at yr Eglwys, neu i anwybodaeth am wir sefyllfa pethau. Onid ydynt yn deall fod egwyddor fawr Ymneilltuaeth, a barn yr Ymneilltuwyr am natur eglwys, ac amodau ei nherth a'i hiechyd ysbrydol, yn eu rhwymo i bleidio r Mesur hwn ? Nid mater o dymer, na chwestiwn o policy mohono, llawer llai nid teimlad o eiddigedd a chenfigen enwadol mo- hono ond pwnc o reidrwydd i bob gwir Ym- neilltuwr. Fel hyn y mae yn rhaid i ni wneud, a phe gwnelem yn amgen,ni byddem Ymneilltuwyr ond mewn enw yn unig. Nid ymladd am degwch i ni ein hunain yr ydym yn unig, nac yn bennaf, ond ymladd am gyf- iawnder i'r Eglwys ei hun fel rhan o gorff ysbrydol Crist. Teimlaf yn sicr y gwelir dydd, a hynny heb fod ymhell, y cydnebydd yrEglwys ei hlman mai'r dynion ailw heddyw,ym mhoether y frwydr, yn lladron ac ysbeilwyr, oedd ei cyfeillion a'i chymwynas- wyr pennaf. Mae'r priodoldeb o gael yr undeb y soniwyd amdano rhwng y gwahanol gyfundebau cref- yddol yn debyg o ddod yn fuan yn bwac y byddwn yn rhwym o sefyll uwch ei ben t'i drafod. Mae symudiad eisoes ar droed i gael y gwahanol enwadau yn y Gogledd i apwyntio nifer o frodyr i weithredu drostynt yn hyn o beth a diau y cyferfydd y cydbwyllgor hwnnw cyn bo hir. Yr ydym yn llawynychu yn fawr fod teimlad fel hwn wedi cyrraedd y fath addfedrwydd yn ein gwlad. Beth byn- nag fydd cynnyrch ffurfiol ac ymarferol yr ymdrech hon, mae yr ysbryd roes gychwyniad iddi yn un amhrisiadwy werthfawr, a dylem, ymhob modd ae ymhob cylch, ei gefnogi a'i ieithrm. Napoleon, onitê 1 ddywedodd un- t ? d(i.ywedcdd ui?- waith. ynglyn ag un mudiad pwysig, The period of dangert is over, and the period of ,dl; g i?-'altie,q !ias be g ?tl??,. .ditJicultie8 has begun." Nid wyf yn meddwl fod i ninnau fel cyfundebau crefyddol nemor o beryglon, bellach, yn y cyfeiriad hwn-; ond yn ddiau y mae gennym anawsterau nid bychain. Ond cofiwn mai ennyn ysbrydiaelh newydd y mae anawsterau newyddion ymhob cyfundeb, fel ymhob dyn, cryf ac iach a hyderaf mai dyna welir yn ein hanes ninnau ynglýn a'r diwygiad pwysig hwn. Nid wyf yn meddwl fod neb sydd wedi talu sylw i'r pwnc hwn yn golygu y dylai'r holl gyfundebau gael eu dodi mewn tawdd-lestr er mwyn ffurfio o'r defnyddiau un enwad mawr cyffredinol. Yn sicr, ni ddaeth yr amser i hynny etc a byddai'r golled goid drwy hynny, yn fy marn i, yn anhraethol fwy na'r ennill. Mae i bob cyfundeb ei nodweddion gwahaiiiaethol, a'r rhai hynny gan mwyaf yn rhagoriaethau, a dyma ddefnydd yr amryw- iaeth hwnnw nodweddai holl waith Duw ymhob cylch. Perygl pob cyfundeb yn yr amser a fu oedd credu, nid fod ei neilltuolion ef yn rhagoriaethau, ond nad oedd neilltuolion pob cyfundeb arall ond diffygion a chyfeil- iornadau. Mae peth fel hyn mor ffol ag a fyddai i rywun hoff o liw neilltuol haeru, nid ynjunig fod y lliw hwnnw yn un rhagorol, ond nad oedd yr un lliw teilwng arall yn y byd. Yr wyf yn credu fod tymor y culni yna yn prysur ddiflannu yn ein plith. Gwahanol liwiau yn enfys y gwirionedd yw'r gwahanol gyfundebau, cared pawb ei liw ei hun, ond cofied mai yn y cyfuniad y mae'r harddwch a'r gogoniant. Yr hyn sydd yn angenrheidiol yng Nghymru heddyw ydyw, nid dileu'r amrywiaeth, ond sicrhau unoliaeth a fydd yn sylfaen a diogelwch iddo yna bydd i'r amrywiaeth ogoneddu yr unoliaetli, a'r unol- iaeth ddiogelu yr amrywiaeth. Mae cryn wahaniaeth yn ein credo, a mwy o wahaaiaeth yn ein ffurf-lywodraeth eglwysig, ac nid wyf fi yn credu y byddai'n unrhyw fantais i gref- ydd fod y gwahaniaethau hyn yn cael eu diddymu oblegid nid un gyfundrefn sy'n cynnwys yr holl wir, ond y gwir sy 'n cynrwys yr holl gyfundrefnau. lechyd mawr fyddai i ni gofio, heddyw, nad yw'r gwirionedd i gyd gan yr un ohonom a rhagor, nad yw gan yr oil ohonom, chwaith. Meysydd yw'r en- wadau,cyfandir yw'r gwirionedd. A newid y ffugr, Brawdoliaeth fawr yw'r ddynoliaeth, a theuluoedd yw'r gwahanol gyfundebau yn y frawdoliaeth honno. Llwythau ydynt yn perthyn oil i'r Ganedl Sanctaidd ac y mae cenfigen a chulni nid yn unig yn difwyno'r llwyth, ond yn Emiliaru undod y genedl. Credaf mai ar linellau cyfathrach amgenach rhyngom a'n gilydd yn unig y ceir undeb gwerth ei gael. Or cyfathrach hwn y tardd cydweithrediad vmhlaid pob diwygiad moesol a ehymdeithasol. Hwn symuda'r ymryson afiach welir mewn cystadlexiaeth ar linellau enwadol, i sicrhau swydd y bydd eisieu ei Ilenwi; hwn barlysa'r parodrwydd anianol a welir yn rhy fynych gan y naill enwad i dder- byn a breichiau agored rai fydd, oherwydd anfoes ac anras, wedi eu disgyblu gan enwad arall, a hwn, hefyd, ddysgai'r gwahanol enwadau i beidio ag amlhau capelau bychain ac eglwysi eiddil mewn pentrefi a chymdogaethau y mae synnwyr cyffrpdin yn dangos nad oes yno le ond i un o'r enwadau hynny. Pa le y mae y cyfathrach hwn i gychwyn ? Beth fyddai iddo ddechreu yn gyntaf oil yn ein pulpudau ? Nid yw'r cloddiau terfyn yn uwch yn unman efallai nag yn y man y dylasent fod isaf. Nid wyf am ddileu y cloddiau terfyn, o leiaf ar hyn o bryd, ond mi garwn yn fawr i byrth gael eu hagor ynddynt, fel y gellid tramwy o uchel-lecedd y naill enwad i'r llall heb i'r sawl wnelai hynny gael ei ystyried yn drespaswr. Yr wyf yn cofio myned trwy ffarm ragorol, flynyddau yn ol, gyda chyfaill oedd yn byw ynddi. Wyddwn i ddim am ei therfynau cyn y dydd hwnnw. Mewn un maes lied bell oddiwrth y t £ mi welwn borth yn agor i faes pellach alwydd pur sicr bob amser fod y macs hwnnw yn perthyn i'r un ffarm. "Eich maes chwi." meddwn, sydd dros y clawdd draw, hefyd." "Nage," meddai yntau. "Beth ynteu yw ystyr y llidiart yna ? meddwn innau. 0 meddai'r cyfaill, mae ystyr ardderchog i hwn yna. Yr oedd fy nhad a'r cymydog nesaf, tad y cymydog presennol, yn gyfeillion mynwesol iawn, a 'doedd y dwr ddim yn hwylus ar bob tymor i gae'r cymydog a phan yr oeddwn i'n fachgen, yr ydwyf yn cofio'n dda fod y gweision yn cael eu hanfon i dorri'r porth yna, fel arwydd cyfeillgarwch rhwng y ddau gymydog. 'Chymerwn i lawer a cholli'r porth yna nid am y byddwn yn ei ddefn- yddio yn fynych iawn, ond am ei fed yn symbol ardderchog i mi o deimladau da'r tadau. Mae wedi bod yn fendith i mi lawer gwaith edrych ar yr hen borth yna." Carwn innau weled y gweision yn torri pyrth eto, pe na buasai y rhai hynny yn ddim ond arwydd- ion o deimladau da rhwng y tenantiaid ar stad Duw, a theimlaf yn bur sicr y byddai'r Meistr tir ei hun yn hoffi gweled y pyrth hyn. Pan eir at y gwaith o geisio uno, gobeithiaf y ceisir am y mwyaf ac nid am y lleiaf, hynny yw, yr ymdrechir cael undeb rhwng yr oil, ac nid rhwng rhyw ddau ohonynt. Perthynas yr Eglwys" a rhai a Agweddau yr Oes. Dywedodd gwr enwog yn ddiweddar ein bod yn byw mewn amseroedd rhyfedd;" efallai nad gormod fyddai defnyddio geiriau gwr enwocach, a dweyd ein bed yn byw mewn 11 amseroedd enbyd." Mae yma'r fath nerth- oedd ar waith fel mai anodd iawn, yn enwedig ym mhoethter y frwydr, yw iawnfarnu pethau. Wrth ddarllen ambell gronicl o ddigwyddiadau'r dydd, temtir ni i gredu na bu'r byd erioed mor ddrwg ac wrth ddarllen ambell erthygl a'i gorwelion yn lletach, tueddir ni i gredu na fu'r byd erioed mor dda. Dylai'r Cristion, fodd bynnag, fod y mwyaf calonnog o bawb ar adeg fel hyn oblegid dylai ef gredu mai Gwaredwr y byd ydyw ei lywodraethwr, a'i fed yn ei lywodraethu er mwyn ei waredu, ac yn ei waredu er mwyn ei lywodraethu. Nid dau waith iddo ef yw y ddeubeth hyn, end un gwaith mawr a dwy wedd arno. Offeiriad yw Brenin y byd, a Brenin yw Offeiriad y byd. Goruchwyliaeth fawr y crynhoi ynghyd yng Nghrist Iesu sy'n mynd ymlaen mewn ffordd nas gwyddom ni. Nid a/n angof yn fuan y don o lawenydd ymdaenodd dros ein gwlad, ychydig amser yn of, pan, ar ddiwrnod tywyll a du, y eyhoedd- wyd y newydd fod ein Prif Weinidop wedi cymeryd ar ei ysgwydd gyfrifoJdeb mawr Swyddfa Rhyiel y deyrnas. Bu'r newydd yn ,4rial galoll in *]* aiial j. gaion miliyiiau. Gwyn fyd na. allai beion Duw sylweddoli }i< ddyw fod llywodr- a(,th y byd ar ysp ?,Nv fod Jlywodr- aeth y byd ar ysgwydd ei Brenin hithau, ais mai ei enw yw Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw Cadarn, Tad Tragwyddoldeb, Tyyrytoa Tangnefedd." Ni phalla Efe, ac ni ddi- galonna, hyd oni osodo farn ar y ddaear." Dylem gofio, hefyd, fod y fath beth yn bod a pheryglon pethau da. Mae modd i eglwys Dduw dderbyn dirfawr niwed oddiwrth beth- au da wrth eu camddeaH a'u camddefnyddio. A dyma, os nad wyf yn camgymeryd, un o'i pheryglon mawr heddyw. Un o nodweddion amlycaf yr oes hon yw Deffroad y Werin. Cynnyrch ei haddysg ers hanner canrif yw hyA i raddau helaeth. Mae pob deffroad yn dda, a phosibilrwydd diderfyn ynddo ond y mae yn anhraethol bwysig ei fod yn cael ei iawn- reoli a'i iawn-gyfeirio. Pan y mae cenedl neu ddosbarth o bobl mewn cenedl yn deffro, un o'r pethau cyntaf deimlant yw eu hanghenion, ac ynglyn a hynny eu hawliau ac y mae'm hawdd iawn i deimlad o hawl dyfu yn wyllt a'r hyn a'i ceidw yn war (nid yn wan, conwn. ond yn war) yw teimlad cyfatebol o ddyled- swydd. Ac yr ydym yn hyf i ddweyd mai Eglwys Dduw yn unig fedr ddysgu'r wers hoit yn effeithiol. Gorchwyl anodd, mae'n wir. yw dysgu dyledswydd i ddyn na fyn weld dim ond ei hawl, ond gall Eglwys Crist wneud hyn, a'i wneud i bwrpas o dan arweini&d an- ffaeledig ei Phen Mawr. Nid dyma chwaitk yw unig waith yr Eglwys ond dylai ei gwylwyr hi fod o ddifrif bob amser i ddehongli dyhead mawr eu hoes ac wedi ei ddehongli, i ddangos beth sydd gan grefydd Crist ar ei gyfer. Mae Cristionogaeth wedi cyfarfod & theithi pob oes a phob gwlad, a dvma un prawf o'i dwyfoldeb. Yr ydym yn arfer dweyd fod crefydd yn fuddiol i bob peth ynglyn a'r person unigol, dylcm yr un modd gredu a dysgu ei bod yr un mor fuddiol ymhob argyfwng yn hanes gwlad a theyrnas. Nid dal ymosodiadau'r byd yn unig y mae, ond datod ei glymau hefyd, a gwella ei friwiau a lleddfu ei boenau. Dylai'r EgJwys ochel dau eithaf ynglyn a'r oes bob amser. Un ydyw cadw yn rhy bell oddiwrth ffrydlif bywyd yr oes, a'r llall ydyw ystumio ei hun yn ormodol i foddio mympwy anianol yr oes. Ennill math o ffug-urddas yw effaith y naill, colli ei gwir urddas yw effaith y llall. Ni adwaenom ambell ddyn wedi ei andwyo gan ei falchter ac ambell un arall wedi ei ddifetha gan ei familiarity. Mae'n bwysig iawn i'r eglwys iawn-ddea-ll arwyddion yr amserau," meddu llygad clir i weled gwir anghenion gwlad, a chlustiau tenew i glywcd gwir riddfannau cymdeithas. Mae modd gwaeddi perygl pan nad oes berygl codi bwganodyw hynny, a chreu drychiolaeth- au. Mae'r dosbarth hwn yn yr eglwys yn eitha' gonest yn ami, ond y maent yn dioddef oddiwrth nervousness crefyddol. Mae rhyw ddarganfyddiad gwyddonol, neu gasgliad uchfeirniadol, neu honiadau rhyw ddiwin- ydd newydd, neu Igynnwrf cymdeithasol, 08 byddant yn groes i'w hen syniadau, yn peri dychryn aruthr iddynt. Gwir na ddylid bod yn rhy chwannog i dderbyn a llyncu dim byd newydd, ac ni ddylid chwaith fod yn rhagfarn- llyd yn erbyn dim am ei fed yn newydd. Dylem groesawu gwirionedd ymhob man, a chymeryd pwyll i ystyried pa fodd i'w gysoni a'n credo blaenorol. Mae pob iaith fyw yn derbyn geiriau newydd o hyd, ac y mae pob crefydd fyw yn derbyn rhyw wedd newydd ar wirionedd o hyd, a hynny nid yn unig o fyd y dysgedigion, ond hefyd o fyd gwerin gwlad a'. helyntion. Dylid, hefyd, osgoipeth arall: sef, peidio a gweled dim ond peryglon nid crew peryglon lie nad ydynt ond peidio a, gweled dim ond peryglon mewn ambell fudiad mawr, a boddloni ar lefaru yn erbyn y peryglon Y" unig. Mae o dan bob ymweithiad mawr rhyw wirionedd neu egwyddor fawr, er ei bod o dan wisg ddigon annymunol weithiau. Dylem ninnau graffu nes gweled pa wirionedd sydd y tu ol i'r berw cymdoithasol sydrl yn ein gwlad y dyddiau hyn a dyma yr unig ddehongliad. priodol ar arwyddion yr amserau." Gwel- odd Mr. Gladstone ddyhead cenedl y tu ol i droseddau ac annrhefn yr Iwerddon. Dy- wedir mai un o brif ragoriaethau Schleier- macher oedd ei fod wedi deall cri ei oes, ac iddo ddehongli'r Efengyl yn gymwys ar ei gyfer. Clywodd yr Apostol Paul ocheneidiau y creadur .fel islais dwfn, o dan holl fwstwr y byd a thrybestod ei oes. Nid crebwyll bardd greodd y syniad iddo, ond clust Sant glywodd yr acenion, a'r hwn feddai glust ddigon teneu i'w clywed, allasai ei ddehongli awyddfryd y ereadur, hefyd," meddai, sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw," ac o ddat- guddiad meibion Duw" y daw gwaredigaeth i'r ereadur yn ein dyddiau ninnau. Mae i I ddatblygiad teyrnas ei hocheneidiau a'i dyheadau hwyrach y bydd y ffurf arnynt weithiau yn frawychus cynnwrf, chwyl- droad, daeargryn a thymestl ond na thralloder eich calon," mae "Efengyl Gogoniant y bendigedigDduw "yr un mor abl i gyflenwi dyheadau teyrnas fel teyrnas ag yw i gyflenwi dyheadau'r distadla,f o'i deiliaid. Y mae i bob diwygiad cymdeithasol ei wedd foesol. Nid cwestiwn o economics yn unig, nac yn bennaf, ydyw. Nid oes a fynno trefnidedd wladol fel y cyfryw a moes a chrefydd. Cwestiwn mawr economics yw sut i gynhyrchu cyfalaf a chyfoeth, a sut i'w dos- barthu a'u diogelu, rhag iddynt leihau yn eu gwerth a'u defnydd. Nid oes a fynno & moesoldeb,mw) nag sydd a fynno amaethydd- iaeth, neu forwriaeth, neu seryddiaeth, neu ryw wyddor arall a moesoldeb. Cwestiwn pen ydyw, nid cwestiwn calon a chydwybod. 'Does dim mwy o foesoldeb yn Adam Smith's Wealth of Nations nag sydd yn llyfrau Euclid. Rhaid trafod y pwnc wrth gwrs yn ol deddfau gwyddor trefnidedd wladol ond fy mhwynt i yn awr ydyw, fod y broblem, hefyd, yn un foesol y mae a wnelo a chydwybod gwlad o bobl. Y mae cyflog byw, a thai addas i fyw ynddynt, ac amodau tir-ddaliadaeth, yn faterion mbesol, onid ydynt ? Onid yw'n ffaith fod degau o filoedd o dai yng Nghymru heddyw nad ydynt gymwys i deuluoedd fyw ynddynt ? Nid am eu bod yn swcwr i afiechydon yn unig, ond ameu bod yn feith- rinfa i anfoesoldeb. Yn wir, pa na buasent ond llochesau i hadau darfodedigaeth, yr wyf yn dal allan yn bur bendant fod a fynno hynny â'n crefydd ond gan eu bod yn llochesau i bob brynti, pwy wad nad oes a. wnelo eu eyflwr a'n crefydd. Mewn ardal hollol wledig, a adwaen yn dda, fe gondemniwyd yn ddiweddar 93 o dai fel rhai cwbl ai/ghymwys i deuluoedd frw ynddynt. Yr oedd cyflwr