Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Gyda'r Clawdd,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gyda'r Clawdd, Sef Clawdd Offa. Gan GYMBO O'l GORYN I'W GARN. WRTH ADAEL Y CEFN.—Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol y Parch. Gwilym Roberts (W.), Cefn mawr. Cadeirydd y cyfarfod oedd y Parch. E. K. Jones darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. E. T. John, A.S., yn gofidio na fedrai fod yno. Siaradwyd gan y Parchn. Wm. Rowlands (M.C.), H. W. Parry (A.), D. R. Owen (B.), a'r Cadeirydd-y cwbl yn gwerthfawrogi gwasanaeth Mr. Gwilym Roberts fel Cenedlaetholwr pybyr ei waith gyda Chyngor yr Eglwysi Rhyddion, Dirwest a Rhyddfrydiaeth. Canwyd ac adroddwyd gan Mri. Charles Edwards, Edward Hughes, Miss Gladys Edwards, a Miss S. J. Roberts. Ymedy Mr. Roberts ynghanol dymuniadau da pobl Cefn mawr i'w faes newydd yn Nhowyn. Peth eithriadol, mi dybiaf, yw cyfarfod ymadawol fel hyn i weinidog Wesle- aidd, oherwydd eu bod yn symud bob tair blynedd. Llwyddiant a ddityno Mr. Roberts eto. BLAS AR CYFARFOD GWEDDIO.—Pender- fynodd Cyngor Eglwysi Rhyddion Brymbo gynnal cyfarfodydd gweddio undebol bob nos 1au am y tair wythnos sydd i ddod. Cawsant gymaint bias ar uno ddydd Gwener, diwrnod yr ymostyngiad, fol yr oedd blys amynt am ragor o ymuno. GALW I'R GAD.—Cynhelir cyfarfodydd ymhob ardal trwy'r dyffryn, i geisio gan wyr ieuainc ymuno a'r fyddin i amddiffyn eu gwlad, ac i drefnu pob cymorth ellir ar gyfer y cyni ddaw i ddilyn y rhyfel. HYAWDLEDD GLANANT.—Bu'r Parch. D. Glanant Davies, Hare Court, Llundain, yn pregethu yn Rhiw abon y Sul o'r blaen. Daeth tyrfa fawr i'w wrando. Gresyn fu colli Glanant o Gymru. Ceir atgofion melys am ei liyawdledd a'i ddoniau dihafal pan oedd yn weinidog ym Mhorthmadog. Os BEDYDD, BEDYDD DROS BEN.—Bed- yddiodd y Parch. Evan Williams, Fron cysyllte, bedwar o'i bobl yn afon y Ddyfrdwy, a llu mawr yn edrych arno. Nid dyma'r tro cyntaf iddo fedyddio yn yr afon. GOHIRIO'R DA YN LLE'R DRWG.-Darper- ir yn frwd ar gyfer croesawu Cymanfa Ddir- westol Dwyrain Dinbych i Gefn Mawr yn yr Hydref. Dylid cynnal pob cymanfa, ac undeb a chymdeithasfa a chyrddau pregethu. Ni wn o ble daeth y syniad o'u gohirio yma ac acw yn y wlad. Na. mae eu heisieu, ac fe ddylai pawb fod mewn cydgord a'u hysbryd a u hamcan y dyddiau cythryblus hyn. Ond gohirier y bel droed, a'r tennis a'r cricket gohirier y ddawns a'r gyfeddach a'r canu gwag a'r diota sydd yn y tafamau. Y mae bri arnynt hyd yn oed yn yr amser hwn, ac aiff i'n calon weled yr ysbryd ysgafn a dibris sydd yn eu meddiannu. DEWISOL BETHLEHEM.Y Parch. J. J. Jones, B.A., Llanelli gynt, oedd y pregethwr arbennig ym Methlehem y Rhos y Sul di. weddaf, a phregethau gwych gafwyd ganddo. Y mae Mr. Edgar Jones, diweddar o Riw abou, wedi derbyn galwad i fugeilio Eglwys Ann bynnol Warsah, yn ymyl Southampton maeEamryw o wyr V Rhus a 'r cylch yn y 4 lyndxii c,,j- facs y gad, ac amryw byd yn per- th; m i t fyddin sydd yn y wlad hon, yn eu bedwar o feibion Mr. Bury, Gwrecsam. • Gwelsom wraig ieuanc yn un o'r cyfarfodydd gweddio ddydd Gwener a'i phriod yn Ffrainc. Nawdd Duw fyddo drostynt i gyd. Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion. Dy gyfiawnder fyddo'i grym Cadw hi rhag Did gelynion, Rhag ei beiau'n fwy na dim. o

0 Chwarel a ShSogwyn. I

I Rhyfelgan Bechgyn Gymru.

MINION MEMAI.

EISTEDDfOD CORWEN I Awst 3ydd,…

Advertising