Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
WT GOSTEG.I
WT GOSTEG. I Bydd gan Mr. J. E. Owen, cyn-gadeirydd poblogaidd Cymdeithas Cymru Fydd Upper Parliament Street, ysgrif arbennig ar y Rhyfel yn Y BRYTHON nesaf.
DYDDIADURIII
DYDDIADURII I MEDI 5—Organ Recital yng nghapel Anfleld Road 19—Eisteddfod Gerddorol yn y Twr. New Brighton 28—Oyfarfod Blynyddol Cym. y Beiblau yn Bootle 28-Cyfarfod Blynyddol Cym. y Beiblau yn Birkenhead 29—Cyfarfod Blynyddol Cym. y Beiblau yn Crosshall St HYDREF S-Qynhadledd Undeb Ysgolion 12-Darlith yn Douglas Road 9, U-Qymanfa Bregethu'r Annibynwyr 14, 15-Cymanfa Ddirwestol Gwynedd yn Lerpwl 16-Darlithyn Newsham Park 11, 18-Cyfarfod Pregethu, Eglwys Rydd Birkenhead. 18-Darlith yn Eglwys Rydd y Cymry Birkenhead 28, 24, 25-Cymanfa Bedyddwyr Lerpwl a'r Cyltti TAOHWEDD 6, 7-Sale of Work Ebenezer, Prescot 7-Cyfarfod Cystadleuol, Mynydd Seion 18-Darlith gan Elfed yn Chatham Street 14-15,-Oyfarfod Pregethu Chatham Street 19-Eisteddfod Qadeiriol yn Central Hall, Ltandain] 21-11 Parsifal" gan yr Undeb Corawl Oymreig 24-Cyfarfod Cystadleuol Anfleld Road 28-Cyfarfod Cystadleuol Unedig yn Nouglas Road RHAGFYR 2-Cyngerdd Macwyaid Mrs Howard Stephens 8 4-Sale of Work yn Balliol Road (B) 19—" Y Messiah gan yr Undeb Corawl Cymreig 25-Cyngerdd yn nghapel Crosshall Street -1915.- IONAWR 80-Cyngerdd yr Undeb Corawl-Clara Butt, etc CHWEFROL Plant Bootle MAWRTH 13. 14yfarfod Pregethu Gt. Mersey Street 27—Oyngerdd yr Undeb Corawl EBRILL. 14—Cymanfa Ganu y Bedyddwyr yn Everton Village Cymru, c. Tachwedd 19—Eisteddfod Llundain
Advertising
I,/ k t ..Lost Property.. UMBRELLAS. Railway, Tramway, Police Beautiul Umbrellas & Sunshades, 1 1 /4, 1/9, 2 upwards. Walking Sticks, 2d upwards. These are good knock-about umbrellas. Northern Umbrella Deobt 28a Bold St. (upstairs), few doors from Church St
fin fienedl ym Manceinion.
fin fienedl ym Manceinion. i Dyddiadur. I MEDI 26-27—Cyfarfod Pregethu Booth Street HYDREF 14-Llew Tegid a'r Parch. T. Hughes ym Moas Side 24-25-Cybrfod Pregethu Chorlton Road 25-8ul y Beiblau 31—Dathlu Canmlwydd y Gymdeithas Fciblaidd TACHWEDD 14—Drama, "Beddau'r Prophwydi" RHAGFYR 12-Cyngerdd y Gobeithluoedd —1915— IONAWR I-Eisteddfod Chorlton Town Hall 16, 17-Cymanfa Bregethu yr Annibynwyr MA WRTH 27-Cymanfa y Gobeithluoedd Ceohadon y Sul Nesaf. I Y METHODISTIAID CALFINAIDD. I Moss SIDE-10.30 a 6.30 R R Jones. Ysbyty PENDLETON—10.30, 0 E Roberta 6. R Williams HEYWOOD ST-10-30, R Williams, 6. E Wyn Roberts VICTORIA PK—10.30, E Wyj Roberts, 6, 0 E Roberts LKIGH-IO-S0, a 6, WARRINGTON—10.30 a 6, R Parry Jones FARNWORTH—2.30 a 6, J S Roberts EARLESTOWN—10.30 a 5.45, ASHTON-UNDER LYNE-2.30 a 6, BLACKBURN— BGLWYS UNDEBOL E-CCLES-11 a 6-30, YR ANNIBYNWYR OHORLTON RD—10.30, M Llewelyn 6.15 J A Enoch BOOTH ST—10.30, J A Enoch, 6-15, M Llewelyn LD DUNOAN ST., SALFORD-10-30 a 8-15, J Morris QUEEN'S RD—10-30 a 6-15. HOLLINWOOD—10.30 a 6.15 G McDonald, Wigan WIASTE—10.45 a 6, W Washington Jones EARLESTOWN- Y BEDYDDWYR UP. MEDLOCK ST.—10.30 a 6, J H Hughes LONGSIGHT—10.30; a 6.30, ROBIN'S LANE, SUTTON—10.30 a 5.30 COLOFN Y CYFRIN. PARA'N FFYDDIOG.—Yr wythnos ddi- weddaf, eanmolais Annibynwyr Booth Street am fod mor ffyddiog yn darpar i gael Eis- teddfod y Calan tra'r ydym ynghanol ystorm y rhyfel. Heddyw, mae Methodist- iaid Moss Side i'w canmol yn gyffelyb am drefnu testynau eu cyfarfod blynyddol hwy- thau, a rhaglen eithriadol o dda ydyw. Buasai llawer Eisteddfod yng Nghymru yn falch o'i chyffelyb oherwydd ei hamrywiaeth a'i newydd-deb. Dylai Cymry o bob enwad yn y cylch hwn roddi eu cefnogaeth, gydag ymgais am rai o'r gwobrwyon. Yr unig beth a ddylid ei wella yn y dyfodol ynglyn a'r rhaglen ydyw nodi'r cwbl o'r beirniaid gyda'r hyn y disgwylir iddynt eu beirniadu er enghraifft, mae gan adroddwr gystal hawl i wybod pwy fydd ei feirniad a'r eerddor. Ond peidied hyn a tharfu unrhyw ymgeisydd. LLESGHAU NIL YW DDA.-Clywir yn barhaus fod amryw symudiadau cyhoeddus yn debyg « gael eu hatal neu eu hoedi y misoedd nesaf. Diau y bydd tristwch mawr yn gordoi y wlad, a galar megis galar Hadad- rimon' yn dwyseiddio popeth ond gwell i ni fydd peidio ag oedi ein cylchoedd cym- deithasol. Aed ycymdeithasau a'u trefniadau arferol ymlaen a gwell fyddwn o'r herwydd, er newid eu cywair os bydd raid. Os atelir rhywbeth, atalier cyngherddau neu gyfar- fodydd achlysurol a'u hamcan i ddim ond gwneud elw. Mae y Saeson wedi esgymuno eisoes bopeth sydd a sglein Germanaidd arno, heb eithrio'r gerddoriaeth. Colled ddifrifol fydd hynny, ac nid oes a wnelo cyfansoddiad- au hen gerddorion ardderchog y wlad anffodus ddim a'r rhyfel. Ped aem ni mor gul a hynny, byddai raid troi cefn ar nifer o donau hyddysg ein llyfrau cysegredig. Yn hytrach, da fyddai cael papurau yn ein cymdeithasau ar y gwahanol donau sydd yn ein llyfrau a gafwyd o'r gwledydd sydd ynghanol y berw difaol presennol. Yr ydym bawb yn astudio daearyddiaeth y gwledydd hyn yn fanwl,ac oni allwn ehangu ein gwybodaeth mewn cylch- oedd eraill perthynasol i faes y rhyfel ? Ni all pawb ohonom fyned yn filwyr, er fod y perswad wedi bron droi'n orfod eisoes; ond bydd ein myfyr parhaus ynglyn a'r terfysg, a cheisiwn dynnu budd a daioni o'r cyfeiriad hwnnw oblegid ar waethaf melltith y rhyfel tra pery, daw Ilawer bendith o'i sgil wedi iddi ddarfod. Cafodd Samson fel o ysgerbwd Hew. EIN CAPEL -VA-P.Afae percheiiog- ion y Daily Mail, sydd a'u swyddfeydd a'u hargraffdy yn Deansgate, wedi awyddu am- ryw weithiau yn y blynyddoedd diweddaf am gael capel y Wesleaid, Hardman Street, yn eiddo iddynt i helaethu eu hadeiladau. Mae'r capel a'r argraffdy bron yn gysylltiedig. Methu cydweld am y pris a tharo'r fargen fu hyd yn hyn. Mae'r cwmni hwn eisoes wedi cael rhai o'r tai tucefn i'r capel i'w meddiant, ac un ohonynt yn dy'r gofalwr am y cyfryw. Mae'r capel hwn mewn lie cyfleus ynghanol y dref, ac ar dir sydd yn myned yn fwy o werth bob blwyddyn. Mae bron y cwbl o aelodau'r lie yn byw ymhell oddiwrtho, ond mae'n ganolfan rhagorol iddynt hwy er hynny, ac hefyd i Gymry'r dref pan yn ymgynnull i gyfarfodydd neu bwyllgorau undebol. Hwn yw'r capel Cymraeg hynaf yma,—mae bron yn gant oed. Cynhaliwyd moddion Cymraeg ynddo yn gyson er gwanwyn 1817. Dech- reuwyd gddoli yn Gymraeg gan y Wesleaid yn y dref ychydig cyn 1804. Dechreuwyd achos gan yr Annibynwyr yn 1816 gan y Bedyddwyr yn 1812; gan y Methodistiaid Calfinaidd tua 1788. Agorwyd capel cyntaf y Methodistiaid yn Oak Street yn 1799; capel cyntaf yr Annibynwyr yn Gartside Street yn 1826 capel cyntaf y Bedyddwyr yn Granby Row yn 1835. Mae'r Bedyddwyr yn eu capel presennol ym Medlock Street er 1867; capel hynaf yr Annibynwyr yn bresennol yw Booth Street,—agorwyd ef yn 1863; capel hynaf y Methodistiaid Calfinaidd yn bres- ennol yw Heywood Street,—agorwyd ef yn 1871. Dilynwyd ef ag un ym Moss Side yn 1874, ac un arall yn Pendleton yn 1879. Gwelir fod urddas neilltuol yn perthyn i gapel y Wesleaid, Hardman Street, o ran ei oed ond y mae hanes diddorol iawn ynglyn a'r capel hwn yn ei gyfnod cyntaf, a cheisiaf ei I drefnu erbyn yr wythnos nesaf.
Advertising
COF A CHADW am Eisteddfod Fawr Llan- gollen, 1858. Y prif fuddugwyr, eu lion a'n gorchesi. Pris, 3c. Swyddfa'r f* Brython," LERPWL. I NEW BRIGHTON TOWER, Saturday, 19th Sept,, 1914, AFTERNOON AT 2. EVENING AT 7. Fourteenth Annual Challenge MUSICAL EISTEDDFOD AND TOURNAMENT OF SONG. Entries comprise upwards of 1,200 Competitors. g MIXED VOICE CHOIRS—Accrington, Colne Valley, Hanley and District, Liverpool, Providence (Upper Hanley), and Nottingham. -S ? MAm VOICE OHoms Accrington, Blackheath, Brierfield, Holme Valley *| l O M* Liverpool, Llanrwst and Trefriw, Manchester, Nelson, Runcorn, St. Helens and Todmorden. 6 CHILDREN'S CHOIRS—Birkenhead (2), Bootle, Ellesmere Port, Llanfihangel and Stretford. 3 ACTION SONG PARTIES and a host of Soloists and Reciters. Admission to each meeting, 2/6, 1/6 and 1/- (including admission to Tower Grounds). Reserved Stalls (2/-) can be booked at Crane & Sons, Church Street, Liverpool, or Tower Offices, New Brighton.
I Ochel Prinder Bwyd
I Ochel Prinder Bwyd Gall Pawb Gynorthwyo. Y MAE Prydain wedi myned i ryfel, ac nis gall neb, ar hyn o bryd, ragweled beth fydd y diwedd. Beth bynnag a fydd, mae'n ddiam- eu yr achosir llawer o ddioddef, bydded y rhyfel yn hir neu yn fyr, a rhaid cyfarfod yr amgylchiadau gyda gwroldeb. Y mae'r wlad wedi codi fel un gwr, a phawb yn awyddus i gynorthwyo yn yr argyfwng presennol yn hanes y deyrnas. Amser yw nid i roddi ffordd i ofn ond i baratoi yn ddewr a darbodus ar gyfer yr hyn a all fod o'n blaen. Dylai pob moddion dichonadwy tuag at gyfarfod anawsterau'r gaeaf-a phrin hwyrach yr, ydym i gyd yn gallu eu sylweddoli hyd yn hyn,— gael eu cymeryd ar unwaith, a rhaid i bob cynllun gael ei gario allan gyda phenderfyn- iad. Yn wyneb yr angen sydd yn debyg o gael ei achosi oherwydd yr aflonyddweh mewn masnach, ac achosion eraill, mae'n ddyledus arnom roddi ystyriaeth, a hynny'n ddiymdroi, i'r cwestiwn o gael digon o ymborth i'r bobl. Amcan yr ysgrif hon i'w dangos fel y gall pawb, hyd yn oed mewn ardaloedd anghysbelj a theneu eu poblogaeth, roddi cymorth ynglyn. a hyn, a thrwy hynny ddangos eu gwlad- garwch yr un mor wirioneddol a phe'n ymladd yn y frwydr. Dylem wneud pob ymdrech nid yn unig i gyfarfod ag anghenion Ileol, ond hefyd i gynorthwyo'r mannau poblog hynny yn y wlad lie gall, ymhen ychydig, fod angen am bob tamaid o fwyd a ellir ei hebgor gan y rhannau llai poblog. Ni raid i'r anhawster ynglyn a'r gost o ddanfon ymborth gyda'r rheilffyrdd atal neb rhag gwneud yr hyn a all yn yr amgylchiad presennol, oblegid mae'r moddion i gyfrannu ymborth eisoes dan ystyr- iaeth y Llywodraeth, ac mae'r rheilffordd hefyd at eu gwasanaeth. GEL LIE CYNlLO YN OGYSTAL A CHYNHYDDlJ ECN HADNODDAU. CHYNHYDDU ???7 J??4DA?Z)D.4? (1) Y mae bod yn gynnil o bob math o ymborth yn ddyledswydd ar bawb, ac ni ddylai bod gwastraff o unrhyw fath mewn: na thy na fferm. Gall y rhai sydd yn cadw anifeiliaid gynorthwyo yn sylweddol trwy gynhilo'r mathau hynny o ymborth anifeiliaid a ellir eu defnyddio fel ymborth dyn. Dylid hau cnydau cyflym eu tyfiant, megis mwstard, rhag blaen, lie mae hynny'n bosibl. Gellir trwy hynny sicrhau cyflenwad o ymborth ar gyfer rhai anifeiliaid yn yr Hydref, ac felly arbed cnydau fel sweds (rwdins), y rhai sydd yn ddefnyddiol fel ymborth i ddyn yn ogystal ag i anifail. Hefyd, dylid bod yn gynnil o'r pytatws, a 17heidio a'u rhoddi i'r moch pan y gallant fod yn ddefnyddiol i lawer o dlodion. Drachefn, geliid hwyrach eleni wneud mwy o ddefnydd o ddail maip a sweds i anifeiliaid er arbed y gwreiddiau. Yn wir, dylid, hyd y gellir,beidio a defnyddio unrhyw beth at borthi anifeiliaid a all fod o werth fel ymborth i ddynion. Drwy gadw anifeiliaid hyd y mae yn bosibl ar bethau nas gellir eu defnyddio fel ymborth dyn, gellir ychwanegu at fesur ein hymborth ein hunain yn anuniongyrchol. Ymaeo'rpwysigrwyddmwyafi amaethwyr i beidio a lleihau eu hanifeiliaid magu. Os aiff pris y cig yn uchel, gall hynny fod yn dem- tasiwn gref i lawer werthu pob anifail ar y fferm sydd yn gymwys i'w ladd, ond os gwerthir anifeiliaid ifeinc a rhai cymwys at fagu i'r pwrpas, yma, nis gall hynny, tra y gall fod o fantais ar y pryd, arwain ond i anhawster dybryd yn ddiweddarach. (2) Yn ffodus, nid yw yn rhy ddiweddar ar y flwyddyn i ni allu ychwanegu yn sylweddol at ein hadnoddau. Dylai pob darn o dir, pa mor fychan bynnag, a pha un bynnag ai yn yr ardd ai ar y fferm y byddo,gael ei ddefn- yddio, a chael ei hau neu ei blannu a rhyw gnwd ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Gellir plannu cabaits gaeaf ar raddfa gymharol eang mewn llawer man ar ol pytatws cynnar, er enghraifft, ac y mae nifer o fathau o faip ag y gellir eu hau gyda mantais. Hefyd, y mae mathau o wynwyn i'w cael at eu rhoddi yn y ddaear yn Awst, a buddial fyddai gwneud hynny. Drachefn, y mae amryw o fathau o foron y gellir gyda mantaieu hau yn awr. Peth arall hefyd a deilynga sylw yw gwneud caws. Yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, y mae trafnidiaeth dramor wedi peri lleihad mawr yn swm y caws a wneid ar un adeg, ond y mae llawer o ffermydd lie y gwneir caws etc at wasanaeth y teulu, a llawer eraill lie y mae'r celfi ganddynt er nad ydynt yn eu defnyddio. Yn yr holl leoedd hyn, er ei bod yn ddiweddar ar y flwyddyn, geliid, yn wyneb yr amgylchiadau presennol, ddefnyddio rhan helaeth o'r llaeth at wneud caws yn hytrach na'i gorddi, oblegid y mae caws yn ymborth ag iddo fanteision na pherthynant i ymenyn. Wrth derfynnu, dymunwn argymell ein darllenwyr, nid yn unig i fabwysiadu'r awgrymiadau hyn eu hunain, lie bynnag y mae hynny'n ymarferol, ond i ddefnyddio eu dylanwad ar eraill i wneud yr un peth. Y mae pob ychydig yn cynorthwyo, a gall nifer o fan ymdrechion fel hyn fod o'r cymorth mwyaf i'r wlad yn y cyfwng presennol. Y mae dyled- swydd ar bob un ohonom i wneud yr hyn a all, ac i wneuthur hynny'n ddiymdroi. Aberystwyth. Aberystwyth. C. BRYNER JONES, I Dirprwywr Amaethyddol dros Gyniru. I
Advertising
Capel M C Aofield Road, LERPWL. I ddathlu Agoriad yr Organ Newydd ac ail-agariad y Capel. Cynhelir Ip Hal gan Dr. CARADOG ROBERTS, MUS. DOC. (OXON). Nos Sadwrn nesaf Am 7 o'r gloch. Cadeirydd WM. VENMORE, Ysw. Mynediad i mewn yn rhad. Dim Casgliad. Capel Wesleaidd PUMSOLL ST., Edge H3L Cynb.ur CYFARFOD PREGUTHU + + ynl"y capel uchod Nos Sadwrn a Saboth, Medi 5 a'r 6) 1914 Gwananaethir fel y canlyn-Nos Sadwrn am 7 a'r Saboth am 10-30, Parch. R. W. Jones, Port- dinorwic. Saboth am 2-30 a 6, Parch. J. Roger Jones. Manceinion. CAPEL Y WESLEAID, SERPENTINE ROAD, EGREMONT. CYNHELIR CYFARFOD PREGETHU YN T CAPEL UCHOD, Nos Sedwrn a'r Sul, MEDI Sed, a'r 6ed, 1914. Gwasanaethir fel y canlyn—Nos Sadwma am 7-30, Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. Sul am 10-45, Parch. Edward Davies; am 2-30 a 6, Parch. D. T.- Evans, B.A. Casgliadau at Drysorfa'r Trust. ..B4SAR GYMREIVOIDO. WOLVERHAMPTON. oedd i'w chynnal HYDREF 20, 21 a 22, 1914. Drwg iawn gan y Pwyllgor hysbysu eu bod, oherwydd y rhyfel presennol, wedi bod o dan orfod i obirio y Basår uchod hyd ryw amser a nodir eto. RHAG-HYSBYSIAD. CAPEL CHATHAM STREET. Nos Wener, Tach. 13eg, 1914 Tir DARLITH yn y Capel uchod ar Williams Pantycelyn gan EtFED. Cymerir y gadair am 7-30 o'r gloch, gan WILLIAM JONES, Ysw., A S., Anon. Tocynau Chwe cheinlog a Swllt yr un. Nos Sadwrn a'r Saboth, —— TACHWEDD 14-15. —— Cynhelir CYFARFOD PREGETHU g gan y Parchedigion H. EL VET, LEWIS, M.A., Llundain a W. E. PRYDDERCH, Abertawe. Gwahoddied Cynnes i bawb. SITUATION WANTED. LADY (Welsh) age 30, desires a position JLj as Housekeeper, 3 years and 7 months reference.—E. "Brython Office, Bootle. JOHN JONES, UNDERTAKER, 19 Preston Grove, Rocky Lane, Liverpool. Funerals Furnished on terms combining economy with best Quality. Satisfaction Guaranteed. Printed and Published by the Pro prletors, Hugh Evans and Sons, 35.8 Stanley Road, Liverpool, In the County of Lancaster, Tel, 591 Bootle. j
Gyhoeddwyr y Cymod
Gyhoeddwyr y Cymod Y Saboth nesaf. Y METHODISTIAID OALFINAIDD PBI90XS RoAD-10 a 8, H Harris Hughes DAVID STKHBT—10.30 a 0. J Hughes FITZCIIARXHOB ST—10 a 6. D E Jenkins, Dinbych DOUGLAS ILOAD-10 a 6, D Jones CHATHAM ST—10-30 a 6, W 0 Jones OKOSSHALL ST.—10-30 a 6, J Knowles Jones, Abergele AKFIBLD ROAD-10.30 a 6, L Lewis NIWSHAX PARK-10 a 6, BOOTLE-10 a 6. J Daniel Evains PAUFIELD-lo-SO a 6, D F Roberts BI. Ffestiniog SBAOOMBE—10-30 a 6, J Owen GABSTON-lo-30 a 6. O Lloyd Jones RooK FERRY—10.80 a «, W Owen WALTON—10.30 a 8. E J Evans WATERLOO—10.30 a 6, W Henry PEEL ROAD-10.30 a 6, R W Roberts BOOB LANE—10.30 a 6, G W Griffith WEBSTER ROAD—10-30 a #, 0 J OweR LAIRD STREET—10.30 a 6, R Aethwy Jones WOODCHTJROH RD—10.30 a 8, R R Hughes NEW BRIGHTON-10.30 a #, J A Hughes, Widnes WEST KIBBY-ll a 6-S0, SOUTHPOBT—10.30 a 3, R Davies HUTTON QCABRY-10.30 a 6, WHISTON—10.30 a 6, J Eiias Ellis, Manceinioa 8. HnJIINS-G Jones, Lerpwl ST. HELENS JUNOTION-E P Roberts, Golan BANKHALL—0.15, BLLESKERE PORT—10.30 a 6, H H Chambers, Lerpwl R", CORN-10 a fl, T Hughes Stockport UPPER WARWICK STREBT-6-15. ASHTON IN MAKERMLD-10 a 6, E Griffith, Lerpwl WIGAN-2-30 a 0, Owen Jones SMITH STREET—6-15, Ivor Hael Jones LOWER IVY ST—6, BKELHERSDALE—10.30 a 6, MIDDLESBROITOH—10-30 a 6, R P Jones SUNDERLAND—10.30 a 6, J Jones, Easingfcon SPENNYMOOR—10-30 a 6. ELDON—10-30 a 5-30 W Williams BASINGTON-lo-SO a 6. M R Moses YR AOHOSION SEISNIG. OAK PI KID ROAD-10.45 a 6.30.D D Williams, Manceinion BTIRTON BROW—10.45 a 6.30, D W Morgan CATHARINE ST—11 a 6-30, J Talog Da vies SPELLOW LANE—11 a 6.30, G R Jones BREEZE HILL—11 a 6.30, H Ridehalgh Jones ORRELL, BooTLim-11 a 6.30, LISCARD—10.45 a 6.30 Robert Williams, Llanrng WlLLHER ILD-10.45 a 6.30, J H Howard YR ANNIBYNWYR TABERNACL—10.45, W Roberts 6-30, 0 L Roberts PARK RD-10.30, T Price Davies, 6. J Vernon Lewis GROVE ST—10.30, J 0 Williams, 6-15, D Adams OLDfTON RD-10.30 a 6-15, T M Roderick, Cwmgors GT. MERSEY ST.—10.30 Albert Jones, 6, R T Williams MARSH LANE—10.30, R T Williams 8, Albert Jones KENSINGTON—10.30, D Adams, 6, J 0 Williams TRINITY RD—10.30, 0 L Roberts, 6, W Roberts LISCARD-10-45, J Vernon Lewis. 6-15, T Price Davies VICTORIA ST—10-30 a 6-15, G J Williams BALMORAL RD—10 30 a 6. E H Roberts. Liscard HEATHPIELD RD—10-30, Ysgol 2-30, D Adams BARLESTOWN—10.30 a 5.30, ElEvans, Golborne PJulsOOT-2,15 a 6, R R Owen, Connah's Quay BOUTHPOItT-11 a 6-30, GOLBORNE—10-30 a 5.30, David Hughes, Bootle ASHTON-IN-MAKERPIILD—10-30 a 5-30, Cyfarfod Gweddi THATTO HEATH—5-30, J Owens Y WESLEAID. OAXPIXLD—10.30, J E Williams 6. John Felix SPELLOW LANE—10.30, Edwin Ellis, 6 G Evans BOOTLE—10.30, G Evans 0, Edwin Ellis BooJl HILL-10.30. T 0 Jones, CI, J Ellis Williams KNOWSLBY ROAD—10.30, John Felix, 6, T 0 Jones MYNYDD SEION—10.30, L Edwards, 6, W 0 Evans BIRKENHEAD—10.30, T I-fryn Hughes, 6, L Edwards WID10.30 a 6, W Davies GARSTON—2.30, W 0 Evans, 6, PAUMMONT-10-45, W 0 Evans, 0. T Isfryn Hughes Y BEDYDDWYR. BTERTON VMLAGII-10 80, a 6, D Powell WINDSOR ST—10.30 a 6 BOUSFIXLD ST—10.30, a 6, M Griffiths WOODLANDS—10.30, a 8.15, J Davies BDQB LANE—10.30 a 0, H R Roberts BALLIOL ROAD—10.30 a 6, P Williams SEACOMBE—10.45 a 6.15, R Lloyd PALMERSTON Dun-10-30, L W Lewis, 6, W Wynne EGLWYS RYDD Y OYMRY. CANNING STREET-10-30, W 0 Jones 6 Hugh Jones HIGH PARK ST-10-30, Hugh Jones, 6, D Davies BOOTLE-10-30, R Thomas, 6, W 0 Jones RM ENIrEAD-10.30 a 6 D D Jone". Treffynnon DONALDSON ST-10-30, D Davies 6, E Evans YR BGLWYS SEFYDLEDIG DEWI SANT-l1, a 6.30, R D Hughes ASAPH SANT—10.45 a 6.30. William Owen DEINIOL SANT-11 a 6.30, W Williams, WINIPRED SA.-ll a 6.S0, J Davies
Ffetan y Gol. I
Ffetan y Gol. I Cofied pawb fo'n an/on i'r Ffetan mai dymalr gair sydd ar ei genau:- I NITHXO'B GAU A NYTHU'R GWIR. I I Cenedt, o ddefaid. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR.—Rai blynyddoedd yn ol, digwyddais fod mewn tref Seisnig, a cholli'r tren. Tref fechan ydoedd, ond yr oedd y pryd hwnnw yn ganolbwynt pwysig i'r Gwirfoddolwyr. A chan fod gennyf deirawr o amser i aros am dren arall, i ladd amser ymunais a thorf o bobl oedd yn prysur gyrchu i'r un cyfeiriad ac yn fuan, cefais fy hun mewn ystafell eang yng nghanol tyrfa fawr a nifer helaeth ohonynt yn Wirfoddolwyr. Deallais fod swyddog yn y Fyddin Brydeinig, sydd erbyn hyn yn gad- fridog enwog, i draddodi darlith ar Y posibilrwydd i allu tramor oresgyn Prydain." Yr oedd y darlithydd yn siaradwr hyawdl a llithrig; ond rywfodd, ychydig iawn o ddi- ddordeb a gymerwn yn yr hyn a ddywedai, nes y clywais y gair Wales, ac ar amrantiad dechreuais ysgwyd fy ngblustiau a gwrando a'm ho,l tgni. Ac mor be! I ac yr wyf yn cofio, fel y canlyn y dywedodd Yn Ne Orllewin Ynys Prydain y mae gwlad fechan ramantus, y gwyddoch i gyd amdani i'r wlad brydferth hon y byddwch yn mynd am eich gwyliau, ac ynghanol ei phrydferthwch a'i thawelwch ar lannau ei moroedd ac yng nghysgod ei mynyddoedd yr ydych yn ceisio mwyniant ac adnewyddiad nerth ac iechyd. Rhyw nefoedd ar y ddaear i chwi drigolion y trefi yw'r wlad fechan hon ei henw ydyw Cymru (cym.). Wei, gyda byddin o bum can mil o Gymry, dynion wedi eu geni a'u magu yn y wlad, ac yn gwybod am bob modfedd ohoni, a'r rhai hynny wedi eu disgyblu yn drwyadl, a digon o'r arfau goreu, a chyflawnder o fwyd, yr wyf yn mentro dweyd, a siarad o safbwynt milwrol, y byddai Cymru yn anorchfygol" (cym. mawr). Damcaniaeth oedd hyn Beth yw y safle heddyw ? Mae'n amheus a oes ugain mil o Gymry, dynion wedi eu geni a'u magu yn y wlad," yn gwybod sut i ddefn- yddio arfau rhyfel a rhyfela, ac y mae'n sicr fod Cymru y rhanbarth mwyaf diamddiffyn yn y deyrnas, mor belled ag y mae a fynno'r Cymry a'r peth. Yr oedd ein hen deidiau yn myned allan i'w gorchwylion yn y bore o dan arfau, ac ni wyddent a ddychwelent ai peidio os digwyddai i Gorn Gwlad ganu, ymaith a hwy i'r frwydr i amddiffyn eu gwlad yn yr amseroedd hynny yr oedd pob Cymro yn barod ar y wys. Am ganrifoedd, bu'r hen genedl yn un o'r cenhedloedd mwyaf milwrol yn Ewrop, ond heddyw mai hi'r genedl fwyaf diofal, didaro a dafadaidd yn yr Ynysoedd Prydeinig mewn ystyr filwrol. Dro yn ol, yr oeddwn mewn ffair mewn tref yng Nghymru, ac yr oedd yno oriel saethu fechan, a nifer o lanciau yn ceisio saethu a tharo llygad y tarw." Sylwais fod y ferch ofalai am yr oriel yn gorfod dangos bron i bob un ohonynt hyd yn oed sut i ddal y gwn yn briodol, heb son am anelu'n gywir. Yr oedd yno lane go swil yn sefyll gerllaw, llanc hardd, heinyf, talgryf, cydnerth, un fuasai'n anrhydedd i gatrawd y Life Guards. Daeth yntau ymlaen, a thalodd ei geiniog a chyfarwyddodd y ferch ef sut i saethu, ond yr oedd y gwn yn gomedd tanio, a'r achos oedd fod y llanc yn tynnu yn y morthwyl. Dangosodd y ferch y glicied iddo, a dywedodd wrtho am bwyso ei fys ar honno, a gwnaeth yr hurtyn hynny ar unwaith, ac aeth yr ergyd allan. Wrth lwc, yr oedd ffroen y gwn ar i fyny ond er hynny aeth y fwled trwy ffenestri ty cyfagos. Beth pe buasai byddin o Ellmyn yn glanio yng ngwlad gwyr ieuainc y ffair, byddai'r trigolion megis craswellt o flaen tan. Heddwch ? Ie fel yr afon, a brysied y dyddiau pryd na ddysgir rhyfel mwyach ond mae'r dyddiau hynny heb wawrio eto, a thra byddo teyrnas- oedd mawrion Ewrop sydd wrth ein drysau yn foddlon i roi awdurdod bywyd a marwolaeth yn nwylaw ychydig o arglwyddi rhyfel tra- hausfalch, creulon a gwallgof, mae'n ddyled- swydd ar bob dyn fod yn gwybod digon am arfau rhyfel a rhyfela i allu amddiffyn ei wlad" ei ardal, ei deulu a'i gartref.—Yr eiddoch, etc. DOLDIR. I'r Gad, Gymry At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR.—Bum yn Sefton Park neithiwr yn gwrando ar Gor Meibion Princes Avenue yn canu, ac mae yn ddiameu i'r miloedd gwrandawyr gael gwir wledd. Mae clod mawr yn ddyledus i'r Cor hwn am ei ymdrechion, a hyderaf i gronfa Tywysog Cymru (at yr hon y casglwyd) gael elw da drwyddynt. Y don gyntaf a ganwyd ydoedd y Marseillaise. Onid oes rhywbeth yn enaid- gynhyrfiol yn hon ? Credaf pe buasai modd i'r Cor hwn ei chanu ar faes y gwaed, y byddai i'r Ffrancod eofn ymdeithio trwy leng o ellyllon heb son am Germaniaid Sylwn fod un o aelodau'r C6r mewn diwyg filwrol; a tharawodd y syniad fl, beth fyddai i'r BRY- THON a Chymry Lerpwl sythu am gatrawd Gymreig ? Cyflwynaf yr awgrym i'ch ystyr- iaeth, Syr. Yn sicr, fe ddylem i gyd fod yn barod i wneud rhywbeth a allom yn yr am- gylchiadau difrifol presennol. Hanes dych- rynllyd yw hwnnw geir yn Y BRYTHON diweddaf am y galanas a'r difrod a wnaeth y rhyfel ym Melgium. Afon o waed a fu yn wir Yn rhedeg yn ei brodir O hyllaf for nid all fod Dyfais nac un pridd dafod A fedr yn heinyf adrodd Rhan fer. am y gerwin fodd A welodd Belgium wylawg, 0 ddyfnder, chwerwder ei chawg Yna y Llew, yn hyll iawn, Gan saeth yr alaeth creulawa, Drwy'r awyr a dro'i ruad I lwyr gynhyrfu y wlad, I gychwyn i'r dig achos Cyn dyfod anorfod nos. Wel hai ati, fechgyn !-Yr eiddoch yn ddi- dwyll, DANIEL O. JONES. I Sefton Square, Lerpwl.