Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Trem I-Dlsgwyl.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trem I-Dlsgwyl. I DISGWYLIASOM lawer eisoes am newyddion o feysydd yr Armagedon ofnadwymor ofn- adwy fel nad allwn weled na chlywed na meddwl am ddim ond y hi. Gwir ddarfod i lawer newydd gyrraedd hefyd ond ni chaw- som yr un, hyd yn hyn, a barai i'n hyder ymlonyddu arno. Yn hytrach, mae pob newydd a ddaw-o leiaf o Belgium a Ffrainc— yn ychwanegu ein pryder, a gwneuthur inni edrych dros ei ben am y newydd nesaf, gan obeithio y bydd hwnnw'n well. Yr ydym o'r dechreu'n eredu mai'r Kaiser anfad sydd gyfrifol am y mawrddrwg hwn, mai ei ddaros- tyngiad ef fyddai'r fendith fwyaf i wareidd- iaeth y byd, ac nad yw'n annhebyg mai dyna fydd diwedd yr helynt-pryd bynnag y bydd hynny. Ond yr ydym o'r dechreu, hefyd, yn credu ddarfod i rai sgrifennu a llefaru'n llawer rhy ysgafn am allu Germani, a bod yn rhy barod i dynnu allan fap newydd o Ewrop. Nid oes neb heddyw a amheua nerth aruthrol Byddin Germani-mewn rhif, mewn arfog- aeth, ac mewn cryfder i daro, yn gystal a gwydnwch i ddal ati i ymladd, byw neu farw. Ac nid oes neb, ychwaith, a amheua na fydd y Kaiser cystal a'i air o ran gwthio'i arfaethau ymlaen, yn hollol ddibris o ebyrth ei ddynion ei hun, ac unrhyw weithredoedd creulon, a diystyr o bob anrhydedd tuag at ereill- unrhyw beth yn ei allu er mwyn cyrraedd ei nod. Mae'r holl ryfel, hyd yma, yn ddat- guddiad eglur o'r ffaith a haerid ers talm gan rai, ond a wedid gan eraill,—fod y Kaiser a'i ddosbarth milwrol yn paratoi, ers blynydd- oedd, ar gyfer yr hyn sy'n awr yn mynd ymlaen. Ac mae'r Ffrancod yn dangos mor eglur a hynny, nad oeddynt hwy wedi ym- baratoi'n gyfatebol, a'u bod tan anfantais oherwydd hynny. Gwyr y Germaniaid eu Uwybr; llwyddant i ddallu eu gwrth. wynebwyr yn ami, trwy yrru blaen-fyddin- oedd i un cyfeiriad, ac yna beri i gorff y fyddin droi yn sydyn i gyfeiriad arall. Mae'n eglur i unrhyw un nad allai ond dynion wedi tynnu eu plan, ac yn ymwybodol o rym i'w ddwyn allan, wneuthur peth fel hyn. A'r hyn a bair arswyd i Brydain a Ffrainc yw gweld fel y mae'r gelyn yn ymwthio ymlaen, o frwydri frwydr, ac yn tynnu, ar y naill law, i'r cwr nesaf atom i Belgium ac, ar y llaw arall, tua Pharis. Mae'n wir fod y Ffrancod wedi ym- ladd yn ddewr, a'r Prydeinwyr wedi cyflawni gwrhydri anhygoel, megis y gwnaeth y Belgiaid dewr. Ni feddwn iaith i fynegi ein dyled i'n milwyr a euthant allan i sefyll rhwng y gelyn a'n gwlad a'n cartrefi, a'r ing a deimlwn fod cynifer ohonynt eisoes wedi cwympo ar y maes. Hawdd y geliwn gredu i'r gelyn gr'!l¡ mwy o ddyniiin nag a wnaeth y Cyngreiriaid, ac mai ystryw arall o'i eiddo yw peidio a chyhoeddi'r digwyddiadau anffafriolar ei ochr ei hun. 0 derfydd am einioes rheng o filwyr, darfydded, a cherdd rheng arall i'w lie, ac ni phetrusir olwyno'r magnelau trymion fcros feirw, a hanner meirw. Onid yw'r Kaiser annynol ac felly annuwiol, yn barod i aberthu hanner ei filwyr i'r amcan y mae wedi tyngu iddo ? Ac, hyd yn hyn, mae'n rhaid addef mai ymlaen y mae'n mynd A oes gan y Cynghreiriaid gyfle'gwell yn ol, ac adnoddau « mwy i'w dwyn allan ? Anodd meddwl am y posibilrwydd i'r Prydeinwyr na'r Belgiaid wneuthur mwy gwrhydri o ran gwaith nac aberth nag a wnaethant. Pan yr ydym yn sgrifennu'r Drem hon, daw y newyddion am ail frwydr y Prydeinwyr, ac am eu colledion dirfawr mewn bywydau. Dywedir fod sefyll- fa'gvffredinol y Cyiighreirwyr ar gyfer y gelyn yn foddhaol A dry y llanw o'r diwedd ? A geir iawn am aberth ein brodyr ? Ai, ynte, a fydd i'r Germaniaid ddyrchu eu baneri ym Mharis ac Antwerp-a phle wedyn ? Ni wyddom ni. Mae hi'n awr yn hwyr nos Wener, ac yr ydym yn pryderu am y fory- yn disgwyl! + + +

Trem II-Punch and Judy.

Trem III-Dros y Sul. I

Trem IV—Yn y Cwm I U liig.

Trem V-Dal i Ddis-I gwyl !

I Trem VI—Mor yGogleddI

Ysbytty Cymreig i'r ClwyfedigI

AR GIP. I