Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU CYFUNDEBOL.-I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU CYFUNDEBOL. I (Gan LL YFRBRYF). I Derbyniwyd yr wythnos ddiw- eddaf i Drysorfa Canmlwyddiant y Genha daeth Dramor 4,334p 12s 5c. Mae'r cyfanswm yn awr yn 236,71f i 16s Ie. Ardderchog, onide ? 1 Llongyfarchwn ein cyfeillion yn yr Wyddgrug ar gliriad eu dyled oddiar dy y gweinidog, ac i ddathlu hynny penderfynasant godi pum' punt yn stipend yr ail weinidog. Esiampl gwerth ei hefelychu. Mae ei Fawrhydi y Brenin wedi cael ei foddhau yn ngwahoddiad Llywodraethwyr y Leys Schools, Caergrawnt, fel yr addawodd yr ymwelai a'r ysgol yn ystod Ebrill. Anrhegwyd Eglwys Caersws, Trefaldwyn, a Individual Com- munion Service hardd gan Mr Edward Rees, U.H., a'i fab Dr Davies Rees. Mae y ddau fonedd- wyr hyn yn adnabyddus am eu haelioni. Gofidus iawn genym ddarllen fod y diweddar Mr Thomas Morgan Harvey, wedi mynegu yn ei ewyllys olaf nad oedd wedi gadael dim i amcanion elusengar, gan ei fod wedi rhoddi cymaint o dro i dro yn ystod ei fywyd. Gadawodd ar ei ol 42,942p. 'Roedd yn dda genym ddarllen fod copi o Reolau y Gymdeithas Wesleaidd wedi cael ei roddi i bob aelod eglwysig yng Nghylchdaith Wakefield. Cafodd gwrandawyr Capel Brun- swick, Macclesfield, amser da yr wythnos ddiweddaf, pryd y preg- ethodd y Cyn-lywydd yn y pryd- nawn, a darlithiodd yn yr hwyr ar Lyfr Hymnau Wesley a'r Diwyg- iad efengylaidd." Darfu i aelodau Eglwys Lough- borough roddi cyngherdd yn yr ysgolion eglwysig, pryd y codwyd chwe' phunt tuagat gapel bychan y Wesleaid. Darfu y periglor helpu yn bur galonog. Bu Llywydd etholedig y Gyn- hadledd, y Parch Dinsdale' T. Young, yn darlithio a phregethu yn Margate i gynulleidfaoedd mawrion. Testyn ei ddarlith oedd The Town Clerk of Ephesus." Mae yn hynod boblogaidd fel darlithydd. Bu y Parch D. Dargue, Carlisle, yn cynal cenhadaeth am wyth niwrnod yn y Bermondsey Central Hall, gyda chanlyniadau rhagorol. Gwelwyd dros gant yn rhoddi eu hunain i'r Arglwydd. Pregethwr arbenig ar yr achlysur o gynhaliad Cylchwyl Flynyddol Ysgol Sul Soar, Bagillt, ydoedd y Parch D. Gwynfryn Jones. Cynull- eidfaoedd mawrion a phregethau galluog. Adroddwyd fod dros ddeucant o bersonau wedi proffesu yn gyhoedd- us eu dymuniad am eu cadw yn ystod cenhadaeth y Parch Colin A. Roberts, yng Nghapel Gravel Lane, Manchester. Our people die happy," meddai John Wesley, ac felly yr oedd gyda'r hen chwaer barchus Mrs Ashton, o Carno, a hi yn croesi yr afon yri ei 84ain mlwydd oed, pan y dywedodd It is now that religion pays." Er dathlu ei 70ain dydd-blwydd darfu i Mr William B. Quarmby, o Edgerton, Huddersfieid, roddi birthday present' o 70p. i'r Ysgol SuI, ac 20p. i Ysgol Sul arall. Dadorchuddi wyd cof-lech hardd yn Nghapel Spellow Lane, Lerpwl, er coffawdwriaeth am y diweddar Mr William Davies (Gwilym Daf- ydd), yr hwn ydoedd fab-yn-nghyf- raith i'r diweddar Clwydfardd. Bu yn aelod egl wysig am 61ain o flynyddoedd, ac yn fiaenor am haner canrif arall. Bu'n weithiwr difefl a blaenllaw gyda'r achos dirwestol. Ar yr achlysur cafwyd anerchiadau gan y Parch D. Tec- wyn Evans, B.A., a Mr Ellis Owen. Yn y golofn ddarlunedig, sef Men of the Day's March," yn y i £ Methodist Recorder," yr oeddym yn falch o weled darluniau a nod- iadau bywgraffyddol o'r lleygwyr blaenllaw a gweithgar, Mri Wm. Hopkins, Llandilo, a David Davies, o Southsea, Cylchdaith Coedpoeth. 'Roedd yn dda genym weled fod y Parch R. Lloyd Jones, Cadeirydd y Dalaeth Gyntaf Gymreig, wedi bod yn Llanfyllin yn cynal cyfres o gyfarfodydd adfywiadol, ac wedi cael amserau da yn yr oedfaon. Felty y bu gyda'r Parch J. W. L avies, Rhos, yn Broughton. Da fcnym hysbysu fod y Parch John 1 ugh Jones wedi gwella, fel y bu yn pregethu yn Llan Ffestiniog gydag arddeliad neillduol yr wyth- nos ddiweddaf. Darllenasom fod y Parch J. Wes- ley Felix, mab y Parch John Felix, Ysgrifenydd Talaeth Gyntaf Gog- ledd Cymru, wedi cvfansoddi Drama- Gymreig, yr hon sydd i gymeryd lie yn Neuadd y Brifysgol. Lerpwl. Gwyr ein darllenwyr fod Mr Wesley Felix yn ymgeisydd derbyniedig ac yn efrydydd yn Mhrifysgol Lerpwl, ac i'r hwn mae dyfodol disglaer a llwyddianus. Mae ymweliadau Llywydd y Gynhadledd a Gipsy Smith yn parhau i tod yn special events yn y trefi y maent yn myned iddynt. Nid oes addoldai yn ddigon hel- aeth i gynwys y cynulleidfaoedd a ymdyrant i'w gwrando. Dywedir fod y ddau efengylydd hyn wedi anerch dros 70,000 o Fethodistiaid Wesleaidd er dechreu y flwyddyn hon. Wedi cystudd byr bu farw y Parch Wesley Guard, yn Belfast, yn ei 75ain mlydd oed. Ymneill- duodd Mr Guard o'r weinidogaeth yn Mehefin diweddaf, ar ol Slain o flynyddoedd o lafur egniol a ffydd- Ion. Adeg ei farwolaeth yr oedd yn Gadeirydd Synod Belfast. Bu deirgwaith yn Is-lywydd y Gyn- hadledd, yn gynrychiolydd i'r (Ecumenical Conference yn 1888 a 1901, ac yn aelod o'r Cant Cyf- reithiol yn 1891. 'Roedd Mr Guard yn adnabyddus a phoblogaidd iawn fel dyn a phregethwr. 'Roedd ei dad a ddau frawd iddo'n weinid- ogion Wesleaidd. j Diameu genym mai gyda phleser y gwelodd ein darllenwyr enw y Parch Hugh Hughes yn ein new- yddiadur yr wythnos ddiweddaf, wrth yr ysgrif yn dwyn y penawd Cenhadaethau Efengylaidd: Ad. gofion cysurlawn." Dyna feddian- odd y Llyfrbryf," a phan gafodd hamdden buddiol darllenodd yr ysgrif gyda diddordeb dwfn a llawer o fudd. Mae'n gyfroddiad gwerthfawr, gan un o'r efengylwyr mwyaf nodedig Cymru, ac yn un o feistriaid y gynulleidfa. 'Roedd yn hyfrydwch i ni ddarllen fod yn mwriad Mr Hughes gyhoeddi cyfres o'r Adgofion" yn y G.N. Hyder- wn y bydd l'n darllenwyr wneud yn hysbys yn eu gwhanol gylch- oedd, gan y bydd y cyfryw yn werth darlleniad ystyriol. Cafwyd cyfarfod bendigedig a gorfoleddus yn Nghapel John Wes- ley, Llundain, pryd yr ymgynull- odd dros dri chant o filwyr a morwyr Wesleaidd o bob parth o'r wlad i gynal eu Confensiwn yn yddol. 'Roedd Llywydd y Gyn- hadledd yn bresenol, a chyfranwyd o Ordinhad Swper yr Arglwydd, a thraddodwyd anerchiad wresog ac effeithiol ganddo. Yn yr hwyr cafwyd Seiat Brofiad, ac yr oedd y milwyr a'r morwyr ar eu traed am y cyntaf i adrodd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i'w heneidiau, ac i fynegu am allu yr efengyl i droi dynion ymhob gwlad. Siaradodd tua deg ar hugain ohonynt. Yr oedd yr olwg yn un atdyniadol, gan fod pob un ohonynt yn gwisgo eu uniforms. Yn ystod y cyfarfod derbyniwyd' telegrams' o wahanol barthau y wlad yn dymuno am iddynt gael cyfarfod llwyddianus a bendithiol. Ymhlith yr adranau rhagorol a geir yn y "Joyful News" (Golyg- ydd pa un ydyw'r Parch Samuel Chadwick), y mae Notes of the Week, gan y Ilenor llygadgraff H.T.S. llythyrenau sydd yn cynrychioli enw y Parch. Henry T. Smart. Mae ei baragraffau yn gyn wysfawr a darllenadwy. Mae yn Rhyddfrydwr o'r rhyw oreu. Caw. som bleser wrth ddarllen y para- graft canlynol o'i eiddo o dan y penawd Elbow room for the Poor," am ba un yr ysgrifena yn y geiriau canlynol:—"This phrase was used by Mr Lloyd George in his speech at Glasgow last week on the land proposals of the Govern- ment. Of course the Opposition Press condemns the whole pro- nouncement, as it would con- demn the millennium if the Chan- cellor of the Exchequer were to announce it. But if there is one thing which the poor of this United Kingdom need more than another, and which justice requires should be conceded to them, it is more elbow-room and that was the key- note of the speech. Wc, are in a greater or less degree fairly famil- iar with nearly all the largest towns of England, Scotland, Wales and Ireland, and we are sorry to have to say that all over the Brit- ish Isles, not excepting the most beautiful parts of them, the poor are huddled together in back streets and slums and hovels and back" to. back houses and have no elbow-room, so that decency and comfort are out of the question. If the writer or the reader were doomed to live in a one-roomed tenement, such as a hundred thou- sand people live in in Dublin, would either the one or the other be likely to live a righteous, sober, and godly life ? We doubt it. Yes, the poor must have elbow-room.

NEWYDDION WESLEAIDD.

Advertising

IAdroddiad PWynor y Tir.