Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

GVNOOR DINESIQ FFESTINIOG.…

Yr EISTEDDFOD GENEDLAETUOLj

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Yr EISTEDDFOD GENEDLAETUOLj Cynhaliwyd yr Wyl Genedlaethol eleni yn Llundain ar hyd yr wythnos ddiweddaf, a gan- lyn oedd y dyfarniadau Canu penillion gyda'r delyn, parti o bedwar, dan 16eg oed, gwobr 4p. J. Williams,sOwen J. Williams (Lerpwl), Freda Williams, a Cerid- wen Williams, Birkenhead. Myfyrdraeth, gwobr lOp. W. J. Gruffydd, Tongynlais (Bethel gynt). Drama fer, gwobr lOp. Mr. T. O. Jones (Gwynfor), Caernarfon. Cyfieithiad o'r Saesneg i'r Gymraeg gwobr 5p. Parch. Tecwyn Evans, B.A., Felinheli, a Mr. E. Morgan Jttumphreys, Swyddfa'r "Genedl," CaernarfW, yn gyfar- tal. Pedwarawd, 4p. 1, Mri. a Misses Thomas, Hackney. Cywydd, gwobr 7p. 1, Alafon. Traethawd. Cymry yn Rhyfel y Rhosyn- au," gwobr 30p. Mri W. J. Griffith a Myrddin Evans, Caerdydd. Cyfansoddiadau cerddorol, gwobr, 5p. Mr. E. T. Davies, F.R.C.O., Merthyr Tyd- m. Pedwarawd, gwobr 5p. Mr David Chubb a'i barti. Unawd tenor, gwobr 5p. Mr. Tom Dunnell, Pentre, Ystrad. Unawd mezzo-soprano, gwobr 3p. Elizabeth Hall, Burry Port. ADRAN CELF. I Group in plaster, gwobr 15p a medal; 2il, 5p. 1, J. H. Malcolm, Lerpwl. Plaster model, gwobr laf, 8p ail, 2p. 1. Mr. W. Pierce Roberts, Hoole, Caer; 2, Mr. H. E. Bennett, Aerefair. Plaster model, gwobr 5p. Mr T, Wedmore, Bristol. Plaster model, gwobr laf, 8p ail, 2p. 1, Mr. W. Pierce Roberts, Hoole; 2, Miss Gwendolen Williams, Y Ficerdy, Notting- ham. Cyfieithiad o'r Ffrancaeg i'r Gymraeg, gwobr 5p. Mr. Llew. Hughes, Kent Road, Llundain. Datganu ckneuon gwerin (anghyhoedd- edig), gwobr 5p. Miss Cordelia Rees, Llan- dudno. u Llandscape in oil (gwobr laf, 8p; 2il, 2p. 1, Alfred Oliver, Capel Curig 2, MrsGirardot Tougham, Surrey. Landscape in water-colour, gwobr laf, 8p; 2il, 2p. 1, Miss C. Lilian Shepherd, Fulham; 2, Miss Richards, Penzancer Study of head, gwobr laf, 5p 2il, 2p. 1, Margaret Williams, Barry 2, O. M. Lloyd, Cheadle, Hulme. Painting in water-colour, gwobr laf, 5p; 2il, 2p. 1, Cliflord Morgan, Ebbw Vale; 2, Oliv- er Thomas, Stockton-on Tees. Plaster model of a study of a head, gwobr laf, 8p; 2il, 2p. 1, W. P. Roberts; 2, Miss L. G. Williams, Leesbury Vicarage, Nottingham. Hysbyslen, gwobr 5p, W. P. Roberts, Hoole, Caer. Englyn, Cenin Pedr" (89 o ymgeiswyr). Neb yn deilwng. Hir-a-Thoddaid, gwobr lOp. Eifion Wyn, Porthmadog. Cyfansoddiad Cerddorol, gwobr 5p. Henry Challet, Munich. Can i Denor. Neb yn deilwng. Traethawd, Bywyd a gwaith y Myddleton- iaid," gwobr 25p. D. R. Jones, Ffestiniog, a W. J. Griffith, Ysgol Sirol, Caerdydd, yn gyfartal. Unawd ary delyn droedawl, gwobr 3p. Tudor Powell, Pontypridd, a Taliesyn Merfyn Morgan, yn gydradd. Unawd Contralto, gwobr 3p. Mrs. Spry, Caerdydd. Deuawd Soprano a Contralto, gwobr 4p. Miss Madge Baker a Miss Eva Phyllis Jones, East Croydon. Unawd Bass, gwobr 3p. D. Aeron Parry, New Tredegar. Rbestr o ddarluniau a gweithiau eelfyddydol ereill, yn Llundain, gan Gymru, neu yn dal perthynas a Chymru, gwobr 25p a thlws yr Eisteddfod. Morgan Jones. Traethawd, Casgliad o enwau lleoedd yn Sir Fflint," gwobr lOp. Parch. D. D. Wil- liams, Manceinion. Casgliad o Len-Gwerin Sir Faesyfed. gwobr lOp. Mr. D. Cynon Davies.Aberdar. Unawd Baritone, gwobr 3p. Mr. Powell Edwards, Rhosllanerchrugog, II Unawd ar y Crwth, gwobr 3p. Miss Tilley Thomas, Ton, Peritre. Coloren o Addurnwe, gwobr lp. Miss Kate Williams, Rose Hill. Caernarfon. Taenlen gwely, gwobr 5p; 2il, lp. Mary Powell, Mynwy; 2il, Eliza Evans, Serpentine road, Liscard. Unawd ar yr Organ, gwobr 3p. R. J. Jones, Penarth. Baled, Owain lawgoch," gwobr 5p. Parch. E. Wynn Roberts, Manceinion. Penillion, Calan Gauaf," gwobr 5p. Bryn- fab, Pontypridd. Morthwyl drws mewn unrhyw fetel, gwobr 2p. Edward Cartwright, Nannerch. Canwyllbren-copr neu bres, ail wobr a lp. E. Thomas, Morriston, a Jonathan Thomas, Gwrecsam. Stol Haiarn, gwobr 4p. 0. J. Jones, Ful- ham. Llidiart gardd o Haiarn, gwobrau 6p, 3p, a lp. 1, Edward Cartwright, Nanerch 2, D. J. Williams, Bontnewydd; 3, J. Roberts, Gwrecsam. Chwech o ddarluniau Iliwiedig o blanhigion a blodau, gwobr laf, 2p; 2il, lp. 1, David Watkins, Llanfairfechan; 2, Roberts, Gwrecsam. Cadair Dderw ar gyfer y Cadeirio, 15p a thlws, Mr. David Thomas, Aberdar. Cist dderw, prif wobr 2p, ail, lp. Mr E. Wyberg, Ellesmere; 2, Mr D. Cure, Caer- fyrddin. Tair llwy bren, lp. Mri E. R. Jones, Llan- brynmair, a Thomas Williams, Felin Bach. Ymenyn nodydd, lp. Mr D. Cure, Caer- fyrddin. Ymyl gerfiedig i ddrych, prif wobr 8p, ail 2p. 1, Mr Thomas, Aberdar; 2. Mr D. Cure, Caerfyrddin. Bugeilgerdd ar fesur tri thrawiad, gwobr lOp Brynfab, Pontypridd (haner y wobr). Telenegion, 7p. Mr W. Evans, Rhydychain. Canu gyda'r tannau, 2p. Ehedydd Alaw, Llangefni. Parti Madrigal, 30 i 40 o leisiau, gwobr 15p. Liverpool Glee and Madrigal Society. Unawd Soprano, 3p, Mrs Edith Gunter Wil- liams, Abertillery. Traethawd, "Carolwyr a Charolau Cymreig." gwobr lOp. Neb yn deilwng. Pedwarawd, 5p, y brodyr Lewis, Bootle (Llanberis gynt). Nofel Hanesyddol, 25p, dyfarnwyd 15p i Mr E. Morgan Humphreys, Swyddfa'r Genedl," Caernarfon. Pedwarawd Offerynol, gwobr 5p, Parti Miss Grace Morgan, Caerdydd, Unawd ar y delyn deir-rhes, 5p, Nancy Rich- ards, Penbont Fawr. Adroddiad, 2p, Tom Davies, Bangor. Traethawd Bywyd Cymdeithasol y Mabin- ogion," gwobr 20p, Mr W. O. Lester Smith, Caer, a Mary R. Williams, Paris (gynt o Aber- ystwyth. Cynllun o dy at y manddaliadau, gwobr lOp, G. S. T. Stemp, Casnewydd. Chwech o ddarluniau amlinellol oddiwrth natur o blanhigion a blodau, 2p; ail, Ip. 1, W. F. Lloyd, Caerfyrddin; 2, David Watkin, Llanfechan. Y GORON. I Y testyn oeddyr Arglwydd Rhys," a'r wobr yn 20p a Choron Arian. Y beirniaid oeddynt y Parchn R. Silyn Roberts, a Ben Davies, Ystalfera. Bardd Coronog y flwyddyn hon yw Mr W. J. Gruffudd, M.A., Prif Ysgol, Caer- dydd, ond genedigol o Bethel. Caernarfon. Y mae Mr W. J. Gruffudd yn fardd ac ysgolor adnabyddus, ac addysgwyd ef yn Ysgol Sirol Caernarfon. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, efe oedd yr ail ar y goron, Y mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o fardnoniaeth a chasgliad o gywyddau. Ar hyn o bryd y mae'n ddarlithydd yn Mhrif Ysgol Caerdydd. Y GADAIR. Testyn yr awdl eleni oedd Gwlad y Bryniau." Cynygid gwobr o 20p a chadair dderw gerfiedig am awdl heb fod dros 600 llinell. Y beirniaid oedd yr Athro J. Morris Jones, Bangor, a'r Parch. J. J. Williams, Pentre (bardd cadeiriol Caernarfon a Llan- gollen) Yr oedd un a'r hugain wedi cystadlu, ond anfonodd un, ohonynt awdl Saesneg i'r gys- tadleuaeth. Y goreu oedd Hiraethus," sef Mr. T. Gwynn Jones, Swyddfa'r "Genedl." Caer- narfon. Y CORAU. J PRIF GYSTADLEUAETH :—Y darnau cys- tadleuol eleni oeddynt Come, ye daughters (Bach); (b) "The Tempest" (Cornelius) (c) "Cwsg, filwr. cwsg" (J. H. Roberts); a'r wobr oedd 150p i'r cyntaf, a^50p i'r ail. Daeth chwe' cor yn mlaen, a safent fel y canlyn o ran rhif y marciau allan o 300 posibl :-Carnarfon. 273 Llanelli, 243 Caerdydd, 236; Rhymni Gwent 220; Pen- broke Dock, 213; Rhymni, 200. Felly aeth y wobr gyntaf i Caernarfon, a'r ail i Llanelli. AIL GYSTADLEUAETH :—Y darnau eystad- leuol oeddynt "Oh, Snatch me Swifft (Dr. Callcott), heb gyfeiliant; 2, Yr Arglwydd: yw fy Mugail (Harry Evans). Enilliodd y corau fel y canlyn allan o 220 o farciau:—Southport, 121; Willesden, 175 Cefnmawr, 160; Briton Ferry, 158; Nantile, 150; Colesford, 150; Pentre a Treorci, 146; Portsmouth, 140 Fisbgard Bay, 130 Skiwen, 125 :—Southport yn gyntaf, Willesden yn ail, a Cefnmawr, yn drydydd. Enillodd Nantile y gini am drefnusrwydd yn dod i'r llwyfan. CORAU MERCHED. I Y darnau cystadleuol oeddynt, (a) The Spanish Gipsy Girl" (Lassen) (b) "Souud Sleep" (R. Vaughan Williams) (c) "The Skylark" (J. E. McLean). Y wobr gyntaf oedd 25p, ar ail lOp. Enillasantymarciau canlynol o 229 :—Gitana, Birkenhead, 195 Barrow, 191; Chelsea, 175; Bangor, 173; Llanbradach, 163 Troedyrhiw, 152 Moel- wyn, 150; Pontypridd, 145. Enillodd Chel- sey y gini am drefnusrwydd yn myned ar y llwyfan. I CORAU MEIBION. l Y darnau cystadleuol oeddynt--(u) Fair Semele's high-born Son" (Mendelssohn), (b) It The Reveille" (Elgar), (c) 0. Peaceful Night" (Edward German). Y ddau ddiweddaf heb gyfeiliant. Y wobr gyntaf oedd 75p, a'r ail 25p, a gini i'r arweinydd drefna'i gorgyntaf ar y llwyfan. Enillasant fel y canlyn:— Dowlais, 279; Abertawe, 256; Newcastle, 243 Bargoed-Teifi, 226; Mid-Rhondda, 222; Ebenezer (Abertawe), 220; Lanelly, 195; Maesteg, 192. Dowlais yn gyntaf, Abertawe yn ail, a'r gini i Bargoed, ¡ NODIADAU. Wrth gyfeirio at y safle arianol, dy wedodd Mr. Vincent Evans mai gwaith anhawdd oedd rhedeg Eisteddfod yn Llundain yn ystod ras- Ascot, ond yr oedd yn falch o gael dweyd eu bod ya abl i glirio'r treuliau. Amcangyfrifir fod y costau tua 3,500p., a'r derbyniadau tua 3,650p. Y mae clywed i'r Wyl gadw ei phen niewn ystyr arianol yn beth dymunol. Cafodd gryn lawer o gynorthwy i wneyd hyn trwy waith y Beirniaid yn atal gwobrwyon ar gynifer o bethau. Gyda llaw, paham y rhaid atal y gwobrwyon gynygir gan y Gymdeithas eilw ei hun yn "Gymdeithas yr Eisteddfod Genedl- aethol ?" Gwneir hyn o flwyddyn i flwyddyn, a dylid cael esboniad ar y peth bellach. Llawenydd i ni fel Gogleddwyr oedd gweled y prif wobrwyon yn dod yma. Cor Caernar- fon yn fuddugol yn y brif gystadleuaeth, a Chefnmawr yn drydydd yn yr ail gystadleu- aeth. A dyna Mr. T. Gwynn Jones, Caernar- fod yn enill y gadair; Mr. W. J. Griffith, B.A. (Bethel gynt) yn enill y goron, y Fyfyrdraeth, ac yn gyd-fuddugol ar y ddau brif draethawd. Hefyd Mr. D. R. Jones, Blaenau Ffestiniog, yn gydfuddugol ar Draethawd. Tra yn llongyfarch fel hyn raid i ni gael datgan ein gofid am na chawsom weled rhagor o wobrau yn dod i'r Cylch agosaf atom. Mr. D. R. Jones a Mr. Oliver, Capel Curig yw yr unig dda y sylwasom ar eu henwau yn mhlith y gorchfygwyr, Er cael urddasolion a gwyr blaenaf y deyrnas yn Llywyddion, a'r Arweinyddion goreu a W:Idwn fel cenedl i gario y gweithrediadau yn mlaen, cwyno digymysg a glywsom oblegid diffyg yn y trefniadau, ac mai hon oedd yr Eisteddfod fwyaf an-Eisteddfodol gynhaliwyd oddiar ail gychwyniad yr Wyl Genedlaethol. Ofnwn yn fawr fod y sefydliad yn colli ei nodweddion Cymreig, ac yn myned yn fwy o Arddangosfa Leol a Phersonol nag ydyw o Athrofa talent.

YSGOLDY LLENYRCH.

Yr "American Jubilee Singers."

--LLANBEDR, MEIRIONYDD.

IMAENTWROG.