Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

"yyn erbyn yr Ysgolion. I

m■l ^ Vwy

[No title]

NODION o,'R  NODION O'R CYLCH.…

CYMANFA GYFFREDINOL Y M.C.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA GYFFREDINOL Y M.C. I RHOSLLANERCH RUQCG. Gan Ohebydd Arbenig. I Cafwyd cyfarfodydd bendithfawr yr wyth- nos hon yn nglyn a'r Gymdeithasfa. Nos Lun yn y Capel Mawr cynhaliwyd cyi- arfod y Symudlad Ymosodol o dan lywyddiaeth y Parch J. M. Jones, Caerdydd. Sylwodd y Cadeirydd ar ddyled y Gogledd i'r De mewn ystyr Gyfundebol, ac felly deuai rhwymedig,- aeth arbenig ar y Gogleddwyr i gefnogi y Sym udiad Ymosodol, ac i wneyd casgliad yr ugain miCpamau yn ddioed. Rhoddodd Miss Wat- kins a Mrs. Saunders adroddiad effeithiol am y gwalth wneir ganddynt yn y slums. Cariodd eu sylwadau ddylanwad oedd bron yn orch- fygol ar y dorf fawr. Dilynwyd y chwiorydd gan y Prif-Athraw Prys. Teimlai ei fod yn cael y fraint fwyaf wrth gael cefnogi symudiad mor ddwyfol a'r un Ymosodol. Yn hytrach na bod yn galed wrth y cymeriadau oeddynt wedi suddo mor isel i lygredigaeth, tosturio o galon wrthynt a ddvlid gan gofio fod iddynt hanes arbenig ac fod egwyddor Etifeddeg yn rhedeg trwy eu gwytheni. Dywedodd ryw Athronydd Groegaidd fod dylanwad pechod yn cymeryd gwahanol ffurfiau yn y cymeriadau enid mewn llygredd, a'i fod mor rymus a nerthol fel erbyn y bedwaredd genhedlaeth yr oedd yr holl blant a enid o'r cyfryw yn meirw. Heblaw y dystiolaeth hon, gwyddent am ryw Lyfr soniai am ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant byd y drydydd a'r bedwaredd gen- edlaeth." Paham na soniai am y burned neu y chweched genedlaeth ? Y rheswm ydoedd fod yr holl genedlaeth enid felly yn meirw. Ond da ganddo ydoedd cofio fod un cryfach na'r cryfarfog, a bod dylanwad pechod yn cael ei wrthwynebu gan Ras. Cyfeiriodd Mr Sem Josuah, yn Seisneg. at sefydliad y symudiad Ymosodol. Cofiai yn dda y boreu Sabboth cyntaf iddynt gyfarfod mewn papell. a'r adgof melusaf iddo ef, ag eithrio yr adgof am ei ar- gyhoeddiad personol, ydoedd am sefydliad y mudiod bendithiol hwn Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi tua deg o'r gloch wedi cael amlyg- iadau helaeth o wenau yr Arglwydd yn Nghyf- arfod cyntaf y Cymanfa. Cynhaliwyd y Gynhadledd gyntaf nos Fawrth o dan lywyddiaeth y Parch. W. Evans, M..A., Pembroke Dock, Uywf 3d y Gymdeithasfa.— Pasiwydd i'r Gymdeithasfa nesaf gael ei chynal yn Castellnedd, ac etholwyd y Prif-Athraw Rhys, Aberystwyth, i fod yn Llywydd fel olyn- ydd i'r Parch Francis Jones, Abergele,-Tradd- ododd y Llywydd Anerchiad campus o'r Gadair ar, Y Gweinidog a'r Gynulleidfa." Symiai yr oll oedd ganddo i'w ddywedyd ar y mater i dri gair.-Gofal, Gwaith, a Gweddi. Yr oedd yn ddyledswydd ar Weinidog i bryderu llawer yn nghylch ei braidd yn gymaint fel ag y gallai ei galw yn "bobl ei ofal." Dylai hefyd ofalu am bob dosbarth a berthynai i'r gynuileidfa,- ei chleifion, ei galarwyr, ei phobl ieuaingc, ac yn neillduol ei thlodion, Ar y Haw arall dylai y gynulleidfa ofalu am ei Gweinidog, am ei amgylchiadau, ei gysur, ac yn neillduol am ei deimlad. (2) Gwaith. Dylai y Gweinidog weithia trwy ymweled a'r galarwyr, ,y tlodioh &c. Dylai hefyd ddarparu ar gyfer gwahanol gyrddau yr wythnos, ac hyd yn nod ddarparu ar gyfer a weddi boreu Sabboth rhag i hono fyned yn deneu a llipa; ac yn sicr ddarparu ei bregeth. Gwaith, Gwaith. Gallai llawer o'r brodyr oedd yn bresenol ddywedyd Mae mwy o bleser yn ei waith, Na dim a fedd y ddaear faith." Hefyd dylai y gynulleidfa wrandaw yn weddi- gar,—gwrandaw yn y fath fodd fel ag i wneyd y bregeth yn bregeth dda. Dyledswydd pob gwrandawr ydoedd i fod iyn conductor i gludo y dylanwad daionus oddiwrth y pregethwr i eraill fyddo yn gwrandaw. (3.), Gweddi. Dylai y gweinidog weddio dros ei braidd a myned a'u holl amgylchiadau o flaen yr orsedd, a'u gosod yno yn ddestlus, fel y byddai i hyny gynyrchu y teimladau ag yntau, Yn awr y mae yn aros, Gofal, Gweddi, a Gwaith, a'r mwyaf o'r rhai hyn yw Gwajh. Mae gweddi i sancteiddio y Gofal, a'r Gwaith. Cyflwynwyd y Gadair i'r Parch. Francis Jones, y Llywydd newydd, a thalwyd diolch i'r Llywydd. yr Ysgrifenydd, a'r Trysorydd. Yna derbyniwyd Dirprwyaeth oddiwrth yr Eglwysi Rhyddion yn croesawu y Gymdeith- asfa i'r lie. Siaradwyd gan y Parchn. Robert Jones a R. Roberts (A.). Wedi i'r Llywydd ateb, terfynwyd trwy weddi gan y Parch. Thomas Lefi, Aberystwyth.

MAENTWROG.

[No title]

LLYS METHDALIADOL j FFESTINIOG.