Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
CHWAREL Y PENRHYN.
CHWAREL Y PENRHYN. Dymunem hysbysu yr ymddengys atebiad y tri Undebwr i'r tri gwrth-Undebwyr yn y Genedl am yr wythnos nesaf.
CAERNA.RFON.
CAERNA.RFON. Prydnawn Gwener aeth plant « ysgol seler" Engedi, yn nghyda'u hathrawon a'u hathrawesau, i fwynhau eu hunain i Dinas Dinlle, lie y treuliasant amryw oriau mewn gwahanol chwareuiaethau. Hefyd, diwall- wyd hwynt ft chyflawnder o ymborth danteithiol. Deallwn mai Mr J. O. Morris, commercial traveller, St. Helen's Terrace, a ddygodd y draul yn nglyn a'r amgylchiad hwn.—Hefyd, yr un adeg, talodd aelodau Ysgolion Sabbothol yr Eglwys Sefydledig ymweliad a Llanfair Hall. Ffurfiasant yn orymdaith drwy y dref tua gorsaf y rheil- ffordd, yn cael eu blaenori gan Seindorf y Gwirfoddolwyr. Ar ol cyrhaedd maes a roddwyd yn garedig at eu gwasanaeth gan Cadben Wynn Griffith, ymollyngodd pawb —o'r ficer parchus hyd y crwtyn lIelaf-i fwynhau eu hunain drwy syllu ar Punch and Judy, gwrandaw ar y seindorf, a chymerwyd rhan mewn gwahanol ddifyrion diniwed. Yn ychwanegol at hyny cawsant eu gwala a gweddill o ymborth blasus, a dychwelasant adref wedi mwynhau eu hunain yn rhagorol. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyngherdd hwyliog yn yr Ysgol Rad. ey YR ARDDANGOSFA GWN, &c.-Dyddiau Mercher a Iau, yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd arddangosfa gwn, ieir, a gardd- wrol, yn y Pavilion, a throdd yr anturiaeth wrol, yyn n Hawer gwell na'r dyagwyliad. Yr oedd nifer yr t'??'t? yn mhob adran yn lluosog, ac o ansawdd rhagorol, a thebygol y bydd i'r gefnogaeth a gafodd y symudiad ar ei gychwyniad gymell y pwyllgor llafurus ac egniol i sefydlu yma arddangosfa flyn- yddol. Enillwyd y gwahanol wobrwyon gan bersonau o bob cwr o'r wlad. Daeth nifer luosog o edrychwyr yn nghyd, y rhai a foddhawyd yn fawr gan yr amrywiolarddang- osiadau. Hyderwn ddarfod i'r symudiad droi allan yn llwyddiant yn mhob ystyr. Mae yn ddyledswydd arnom gydnabod gwasanaeth yr ysgrifenyddion-Mri C. A. Jones, G. Challinor, a Dan Rhys—yn nghyaa'r swyddogion ereill, am fod mor ymdrechgar i ddwyn yr arddangosfa i der- fyniad mor foddhaol. Difyrwya y gwydd- fodolion gan y Brodyr Leandra ar y trapeze, yn ngbyda chwareuaeth swynol Seindorf Bres y Gwirfoddolwyr, o dan arweiniad Mr Watts. YMRYSOXFAI CYCHOD.—Cymerodd yr ymrysonfa flynyddol le ddydd Llun. Cafwyd tywydd ffafriol ac ymrysonfeydd llwyddiannus, yn nghyda nifer Uuosog o edrychwyr. Yn yr hwyr cafwyd arddangosfa ardderchog o dan gwyllt yn y castell. CAPEL SEISNIG CASTLE-SQUARE.—Dydd Sul diweddaf cafodd cynulleidfa y capel hwn y mwynhâd 0 wrando ar Mr Owen M. Edwards, B.A., LIanuwchHyn, yn pregethu yn y boreu ac yn yr hwyr. Testyn ei ddwy bregeth ydoedd y geiriau a geir yn Esaiah Ix. 13-" Harddaf hefyd Ie fy nhraed." Fel ag y mae'n hysbys i luaws o'n darllenwyr, y mae efe yn dilyn ei efrydiaeth darllenwyr,? l holeg BaHiol, Rhydychain, a'i yrfa athrofaol hyd yn hyn wedi bod yn dra Uwyddiannus. Yn mysg pethau ereill, enillodd y "Brackenbury Scholarship"— gwerth 80p yn y nwyddyn, ac i barhau am dair blynedd; a phan yn cymeryd ei B.A. air Mhbrlyifnaetd hrofa lundain, safai yn mlaenaf oil mewn anrhydedd (AoMOM?s) mewn Llenyddiaeth Seisnig. Bydd Mr Edwards yn gwasanaethu yn y capel uchod y Sabboth nesaf eto, yn nghyda'r un dilynol. Wrth ystyried ei oedran a'r ffaith iddo gael ei eni a'i fagu yn nghanol sir Gymreig Meir- ionydd, nis gallwn lai na rhyfeddu at ei fawr fedrusrwydd yn yr iaith Saesneg. Os caiff oes weddol faith, diamheu y bydd yn anrhydedd i'r "wlad a'i magodd." Y mae efe yn gefnder i weinidogy capel uchod, sef y Parch Owen Edwards, B.A., yr hwn, fel y mae'n dda genym ddeall, sydd yn graddol wella yn ei iechyd, ac yn bwriadu dycliwelyd o Awstralia tua mis Mai nesaf. Deallwn y bydd masnachdai y dref hon yn gauedig ddydd Llun nesaf, yn He dydd LInn yr wythnos hon. BODDIAD ALAETHUS.—Oddeutu haner awr wedi chwech boreu Gwener diweddaf aeth Mr Thomas Jones, dyn ieuanc yn ngwasan- aeth Mr Cadwaladr Williams, Dinorwic House, i ymdrochi i afon Menai i gyfeiriad Waterloo Port. Ychydig cyn wyth o'r gloch darganfyddwyd ei ddillad ar y Ian ac ad- nabyddwyd hwynt fel yr eiddo Jones. Bernir i'r trancedig fyned i le rhy ddwfn a chael y cramp a boddi. Nid yw gorph wedi ei ddarganfod hyd yn hyn, ac ofnir ei fod wedi ei gario o'r afon i'r cefnfor gan yllanw. Yr oedd yn fab i'r diweddar Mr Edward Jones, Cornel, Caecelyn, ger Mostyn. Bwriadai ymadael a'r dref hon i gadw mas- nachdy yn Connah's Quay. Bu yma am rai blynyddoedd, ac enillodd gylch eang 0 gyfeillion, yn nghyfrif y rhai yr oedd yn dra chymeradwy, a theimlir chwithdod neillduol o'i golli mor ddisyfyd. Yr oedd yn aelod dichlynaidd yn nghapel Engedi, ac yn athraw ffyddlawn a llafurus yn yr Ysgol Sabbothol yno. CLADDEDIGAETH MR DAVID OWEN, bachgen Mrs Owen, Garnon-street, yr hwn y rhoddasom hanes y modd y darfu iddo foddi yn afon Seiont yr wythnos ddiweddaf. Darfu i'r modd sydyn a phruddaidd yr aoth David Owen o'r fuchedd hoiii greu cydym- deimlad dwfn a chyffredinol yn y dref A'r teulu trallodus Y eu profedigaeth cliwSo yn enwedig h'i ?,w y p fam, yr hon  megys newydd gael ei hanadl ati ar ol LJ mewn pryder dwys yn gwylio wrtu cystudd ei hanwyl ferch. Cymern? ?? claddedigaeth Ie am ddau o'r gloch nnX dddit Va,W? rth diweddaf, yn mynwen?? Athraw. Darllenodd y Parch R R jj ranau priodol o'r Ysgrythyr wrth y ty en cychwyn tua'r gladdfa, a wnaeth sylw? ar gymeriad yr ymadawedi* ac yra ?r odd am fendith y Goruchaf ar yr agYlch' iad. Wedi hyny cychwynwyd tua'r Sl" d y rtioddNv3-d plant ?y? rod, ? Bach i aa?nori, ar yr hon y m? ?, Thomas Owen, brawd yr ymadawedi" arolygwr ffyddlawn. Yna, yn dyfyn yr? eydxiodau David Owen yn Ysgol? bothol Siloh; ac ar 01 hyny Y cartorioil cantoresau, a thyrfa fawr ereiU 0 bob! barchus oedd wedi dyfod yn nghyd i d?? gymwynas olaf iddo ef, ac i gydyiiidej 0 chydohdio a r teulu traUodedigynmyj gotid. Ar ol cyrhaedd y fynwent dodwv1S yr hyn oedd farwol ohono i orwedd yn  un beddrod a'i dad y diweddar Vr Jo? Owen. Yna, yn nghanol difrifweh, darUM odd Mr Morris ranau o'r Ysgrythyr cilwaith a gwnaeth sylwadau pellach ar gymeriad ^VP un oedd yn cael ei ddodi yn y bedd ? dynu rhai gwersi cymhwys or amgytei?' Ar ei ol ef fe ddarfu i Mr Rowlands (An thropos) siarad ychydig eiriau ivi-p ??o fei un ag oedd wedi cael mintais i'w adnabod yn y Band of Hope. Yr oedd David Given, mae'n ddiau, yn fachgen ilofiu a dyruunol ar lawer o ystyriaethau. Byddai yn wastad yn ufudd i'w rieni, ac yn enwedig ar ol colli ei dad ceisiai bob amser gv.suro ei anwyl fam. Bu yn ffyddlawn iawn hefyd yn gweini ar ei chwaer sydd yn glaf, a geliy yn hawdd wybod y byddai yn bleser mairt iddo ef wneyd a allai er ei mwyn. Gobeithio y caiff y teulu oil sydd ar 01 gymhorth i gofio er fod cymylau a thywyllwch o'i am. gylch Ef," eto "cawllder a barn yw trigfa ei orseddfainc Ef. "—Cymydog. LLONG-FORIAD (LAUNCH)—\ chydig ddydd. iau yn ol, cafodd llestr (harqw) haiarn ardderchog ei gollwng i'r mor am y tro cyntaf erioed yn ngweithfeydd y Meistri R, a J. Evans, y llong-wneuthurwyr enwog o Lerpwl. Perthyna y llestr, enw yr hon ydyw yr Alliance, i gwmni Cymreig, yr hwn sydd dan arolygiaeth y Cadben R. H. Roberts. Ei hyd ydyw 202 o droedfeddi ;ei lied 34 ei dyfnder 20 wrth 4. Y mae wediei rhestru am 100 mlynedd gyda Lloyd's (A. 1), Er mai y Mri. R. a J. Evans ydynt y llong- adeiladwyr enwocaf yn Lerpwl gyda golwg ar lestri cadarn, cyflym, a chymwys at eario Hwythau da; yr ydym yn deall fod yr Alliance wedi manteisio yn ddirfawr trwy y ffaith fod Cadben Roberts wedi arddangos ei brofiad helaeth yn nghynlluniad a gwneuth- uriad y llong, a chydag ef fel arolygydd uid oes le i ameu na wna y cwmni fod yn llwyddiaunus iawn. Bydd yn dda gan y cyfranddalwyr ddeall fod Cadbeil Henry Thomas, Castle View, Caernarfon, wediei benodi yn llywydd ar yr Alliance. Y mae Captain Thomas yn dra adnabyddus fel dyn sydd wedi dringo yn uchel yn ei yrfa forwr- iaethol, a dymunwn iddo bob llwyddiant, yn ughyda mordeithiau dyogel a c yflym. Y mae'r Alliance yn aivi, yu llwytho yn Lerpwl am Melbourne, Awstralia. Fel y gwyr amryw o'n darllenwyr y maey Brodyr Pritchard, Coed Helen Ferry, wedi sefydlu clwb nofio. Yu ngwyneb y dam. wemiau parhaus sydd yn cymeryd lie yn y dref lion, iiii gellid meddwl am ddim mwy gwerthfawr i'r dref. Diamheu y bydd i nifer fawr o dlyt; ion ieuainc ydref gymeryd mantais ar y cyiieusdra i ddysgu y gelfyddid wcTthfawr o ¡¡,,¡iv.. Dydd Llun nesaf bydd i Ysgolion Sab- bothol Ebenezer a Chaersalem fyned am eu trip blvnyddol i Ddinbych. Gan fod yn mwriad pnf-fasnachwyr y dref gadw dydd Llun nesaf yn lie Bank.Holiday, diameu y bydd i laweroedd gymeryd mantais ar y trip uchod i fyned am dro i Ddyffryn Clwy
BtriiESDA A'R CYFFINIAU. I
BtriiESDA A'R CYFFINIAU. I CHWARELWYR DINORWIG. Gyda'r hyfrydwch mwyaf y gellir hysbysu fod yn mysg chwarelwyr y Penrhyn y cydym- deimlad mwyaf a'r chwarelwyr uchod gyda golwg ar y gorthrwm mawr a osodwyd arnynt dro yn ol. Yr ydym yn deall eu bod fel dosbarth () wYer it Kdym yn d?all eu bod fel dosbarth 0 weithwyr wedi cael eu caethiwo a'u gorthrymu yn ddirfawr felly, yn ystod y blynyddau diweddaf. Da genym ddeall nad oes yn eich plith bleidiau fel sydd yn mlith chwarelwyr y Penrhyn, ond eich bod mewn undeb cyffredinol a'ch gilydd yn berffaith gydweled a'ch gilydd yn erbyn gorthrwm a thrais ac sydd mor uchel ei ben yn ein plith fel dosbarth o weithwyr. Clywsom hefyd nad oedd yn eich plith ond saith o bersonau a wrthodasant arwyddo y bond a ddaeth o flaen y gweithwyr er cefnogi y pwyllgor yn yr argyfwng presenol. Da iawn, chwarelwyr Dinorwig, bydded i chwi barhau yn eich fifyddlondeb yn y dyfodoh PLESERDAITH. Dydd Iau diweddaf, ymadawodd tua 1200 o'r ardalwyr i'r gwahanol leoedd canlynol: Llandudno, Rhyl, a LerpwI. Cafwyd hin ddymunol, a mwynhaodd pawb eu gwahanol leoedd yn ardderchog. MARWOLAETH Y PARCH W. NICHOLSON. —Derbyniwyd y newydd galarus am farwol- aeth y bardd a'r pregethwr enwog a phoblog- aidd uchod, dydd Iau diweddaf. Yr oedd Mr Nicholson, wedi bod yn weinidog parchus ar eglwys Treflys am amser inaith. Yr oedd iddo lawer o garedigion a chyfeill- ion fyrdd yn yr ardal hon. Yr ydym yn dymuno heddwch i weddillion marwol William Nicholson hyd y boreu mawr. Mae y eydymdeimlad mwyaf a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw a ddaeth yw rhan mor 1 annisgwyliadwy. CYMDEITHAS RHYDDFRYDIG.—Nos Wener diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus o aelodau y gymdeithas uchod, yn Ysgoldy y Cefnfaes, o dan lywyddiaeth W. J. Parry, Ysw., Coetmor Hall. Daeth cynull- ad lluosog yn nghyd. Wedi agoriad y cyfarfod trwy araeth alluog yn llawn o addysgiadau gan y parchus lywydd, anerchwyd y cyfarfod gan y Parchn Griffith Roberts, Carneddi; R. S. Williams, Bethesda; John Mostyn Jones, Gerlan; Mri William Thomas, Cefnfaes terrace; Owen Williams, ysgolfeistr, Carneddi; a John Williams, Penyrallt. Cafwyd cyfarfod rhagorol yn mhob ystyr. Ystyrir ef yn un o'r cyfarfodydd goreu mewn ystyr wleid- yddol. Pasiwyd penderfyniad yn galw ar y Llywodraeth i basio mesur yn nglyn a'r llygredigaethau gyda 'merched yn y trefydd mawrion. Da genym weled y gymdeithas yn dal ei thir mor ardderchog, wedi amryw fisoedd 0 ddistawrwydd, Pram rf hyn nad ydyw Rhyddfrydiaeth i gael ei ddiiodi o n tir ar bob awel 0 wyn-t Yn Yr ardal. Diau, pan y daw adeg yr Etholiad Cyffredinol y bydd iddynt barhau yn eu sêl ail ffyddlon- deb dros eu hegwyddorion yn nydd y fr Idr  CYMANFA GERDDOROL YR ANNIBY?WYE -Sabboth diweddaf, cynhaliwyd ?<'?'? cyffredinol 0 gantonon dosbarth Bethesda, yn nghapel Bethesda, am hanner awr wedi pedwar. Arweiniwyd gan Eos Morlais. DR JOHN HUGHES, LERPWI,Sabboth diweddaf, pregethwyd i gynulleidfaoedd mawrion yn nghapel Jerusalem, gan y gwr enwog uehod. Cafwyd pregethau galluog ac effeithiol. TREBOR LLECHID. Y PARCH J. W. JONES, LLANHIDDEL.- Gwr ieuanc o'r ardal hon yw Mr Jones, wedi bod yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn am flynyddoedd, a dechreuodd bregethu yn eglwys barchus Bethesda (A.) dros wyth mlynedd yn ol, ac o hyny hyd yn awr y mae wedi bod yn Ilwyddiannus yn ei yrfa gole- awl yn ogystal ag yn ei weinidogaeth. Yr oed rn weinidog ar eglwys Seisnig Llan- hiddel er's tair blynedd. ac yr oedd ei lafur yn dra chymeradwy; ond y mae ei iechyd mor wanllyd fel y mae wedi rhoddi ei weini- dogaeth yno i fyny, ac yn ol cyfarwyddyd y meddygon yn gorfod myned Awstralia, lie y bwriada hwrlio oddeutu y 12fed 0 iedi nesaf. Nos Fawrth diweddaf cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo yn LI?Lnbiddel, ae i gynwvno anrhegion iddo. Llywydd, Mr J. Jeremiah, gan yr hwn y caed anerchiad da, ac anerchwyd y cyfarfod gan y Parchn Morris, Pont-y-gof; Griffiths, Kendl; Lewis, Tref orris; Jones, Mynydd Islwyn; Jones, Waunarlwyd; Richards, Abertileri; Carter, Abertileri; Lloyd (B.), Llanhiddel; a Evans (B.), Cross Keys; pa rai a ddygasant dyst- iolaeth uchel i Air Jones, a'u chwithdod oherwydd e: golli yn herwydd ei afiechyd. Cyfiwynwyd address album hardd iddo dros yr eglwys a'r ardal gan Mr George Harris, arolygydd yr Ysgol Sul, a phwrs, yn cynwys dros 76p, gan Mr J. Edmunds, trysorydd yr eglwys. Siarada hyn lawer am lafur Mr Jones yn ei faes gweinidogaethol, a theimlir chwithdod mawr ar ei ol. Darfu i eglwys Bethesda (ei fam eglwys) mewn noswaith bron gasglu dros lOp i ddadgan eu cydym- deimlad ag ef. Dymuniad pawb ydyw ar iddo gael adferiad buan i ddychwelyd yn ol i'w hen wlad.
Family Notices
Œ>tutbigttdbttu, Ihiabttattt II l$arfooIaft|rat:. GENEDIGAETHAU. Anthony-Gorph 22, priod W. Anthony, Man- chester House, Pwllheli, ar fab. Evans--Gorph 25, priod Mr Griffith Evans, Bryntirion, Ffestiniog, ar ferch. Ellis-Gorph 24, priod Mr Thomas Ell is, confectioner, High-street, Biaenau Ffestiniog, ar fab. Evans—Gorph 27, priod Mr John Evans, Bryn- bowydd, Blaenau Ffestiniog, ar ferch. Griffiths-Gorph 30, priod Mr William Grif- fiths, 10, Prussia-street, Lerpwl, ar fab. Joseph—Gorph 29, priod Mr Henry Joseph, Casson-terrace, Blaenau Ffestiniog, ar ferch, Peek-Gorph 30, priod Mr John Peek, 6, The Cottages, Llandudno Junction, ar ferch. Roberts—Gorph 30, priod Mr Owen Roberts, 4, Gladstone-terrace, Blaenau Ffestiniog, ar fab. W illiams-Gorph 24, priod Mr W. R. Williams, IIFron Villa, Blaenau Ffestiniog, ar fab. Williams—Gorph 30, priod Mr John Williams, Clos-y-graig, Blaenau Ffestiniog, ar ferch. GENETH FACH Y BARDD CADVAX. Ein bywiogi, bob egwyl,-y beth fach, Byth a fydd ei gorchwyl: Marged Olwen Wen, anwyl, Ddwg i ni ddigon 0 hwyl. E. PRIODASAU. Cumn.ing- Walford Gorph 28, yn eglwys St Cybi, Caergybi, gan y Parch Robert Price, B.A., curad, Mr George Cumming, morwr, a Miss Harriet Elizabeth Walford, y ddau o Gaergybi. Edwalds-Joncs Gorph 27, yn swyddfa y cofrestrydd, Caernarfon, Mr Hugh Edwards, Baptist-street, a Miss Ann Jones, Hafou- terrace, y ddau o Gaernarfon. Owen—Evans—Gorph 28, yn Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Llanlleehid, gan y Parchn Hugh Jones, y gweinidog, a Jlr Morris O. Jones, Porthaethwy, Mr. "William Owen, Ysgol Frytauaidd, Llanlleehid, a )1158 Phoebe Evans, ail ferch Mr Lewis EyaJ]S. Trefelin Works, Talybont, ger Bangor. Jones—Jones—Gorph31, yn swyddfa y cofrestr- ydd, Caernarfon, Mr Robert Jones,GIangmia» Llanrug, a Mrs Catherine Jones, Saron, Llanwnda. Williams-Thomas-Gorph 28, trwy drwydded, yn swyddfa. y cofrestrydd, Caernarfon. Mr William Robert Williams, Bangor-street, Llanfairisgaer, a Miss Mary Ellen Thomas. North-road, Caernarfon. MARWOLAETHAU. Lloyd-Gorph 26, yn 4 mis oed, Catherin Jane, anwyl blentyn Mr Evan Lloyd, Coeu- y-fron, Maentwrog. Jones—Gorph 30, Catherine Ann, anwyl briod Mr William Jones, 3, Henshaw street, R0" ney-road, Walworth, Llundain, S.E. (gyn 0 Gaernarfon.) Jones—Gorph 30, yn 56 mlwydd oed, Margaret Jones, gweddw y diweddar "bi John Jones, 16, Lower Park-street, Cacrgy it: Yr oedd iddi air da gan bawb a chan y g* ionedd ei hun. Williams—Gorph 23, Elizabeth, priod Nfr Job' Williams, New-street, Beaumaris, yn mlwydd oed.
Advertising
CEMETERY MARBLE AND ENA- MELLED WORKS, DINORWIC-ST., (ESTRYD LLYN), CAERNARFON. ROBERT WILLIAMS a ddymuna hys- bysu fod ganddo bob amser ar law amryw iaeth o Gerig Beddau, Llechfaen, Marble, &c., Chimney-pieces Plain and Enamelled. Argraphwyd ((Iros rclie.o on a'r cyhceM- ?yr-y Welsh National ?ewsMpert.? Limited) gan D. W. ?vi? & Co., yn Li. it",) New Harbour, Caernarfon, dYd4 Mercher, Awst 5,1885.
OYFARFOD MISOL MON. 1
OYFARFOD MISOL MON. 1 Cynhaliwyd yr uehod yn Seion, Goiphenaf Main a'r 28am. Llywydd-y Parch It. Jones, Nebo. Galwyd Mri Thomas, Uchel- drefgoed, a Morris, Penygarnedd, i edrych droe lyfrau yr eglwys.—Gaiwyd am lythyrau yr €«lwysi ar achos Mri John Jones, Llan- degfan, a. Richard Matthews, Brynyrefail; ac wecli i'r brodyr a fu yn eu hagor dystio fod yr eglwysi yn eu cymeradwyo ar derfyn blwyddyn en prawf, ymddiddanwyd A hwy ya oi y drefa arferol, a derbyniwyd hwy ya aelodau o'r Cyfarfod Misol.—Etholwyd Mr D. Roberts, Llangoed, yn llvwydd y Cyfarfod Jttisol am y rhan aaiweaaai or nwyaavn hon.—Coffhawyd yn barchus am y diweddar Mr Rice Owen, Rhosbeirio, a William Ro- berts, Cefndu, Gaerwen. Arwyddwyd cyd- ymdeimlad a Miss Roberts, unig blentyn Mr Roberta, ac â'i chwaer, Mrs Williams, Berw- achaf. (Cydymdeimlad a theulu Rhosbeirio wedi ei anfon o'r cyfarfod blacnorol.)--Hys- byswvd fod Dosbarth Amlwch yn bleidiol i Mr Hugh Williams, Gorslwyd, i gael myned yn mLoJ yn ei ymgeisiaeth am y weinidog- aeth. Peuodwyd y Parch J. Pritchard a Mr O. E. Jones, Amlwch, i ymweled &'r eglwys yn y Gorslwyd yn ei achos.—Penodwyd y Parch J, Williams, Dwyrain, a Mr O. H. Foulkes, Bodrwyn i fod gyda'r rhai a benod- wyd am y flwyddyn yn gynrychiolwyr i Gymdeithasfa Pwllheli.—Y Parch J. Donne a Mr J. Hughes, Llyslew,i fyned i'r gynhadl- edd yn achos yr Yagol Sabbothol yn y Bala. &!r Parchn Owen Parry, Cefnbach, a John Williams, Dwyrain i ofalu am gynrychioli y Cyfarfod Misol yn y Gynhadledd Ddirwestol yn Nghacrnarfon. Parch J. Williams, Llan- erchymedd, a Mr Elias Jones, Y.H., Owye io, i ymweled a'r eglwys yn Carmel. —Darllenwyd cofnodau y cyfarfod diweddaf a chadarnhawyd hwy a llythyrau oddi wrth y Parch R. Evans, Cassia R. Jones, Caergybi, a Mri. J. Williams, Tyd lyn To, a R. Williams, Jerusalem, yn cydnabod der- byniad cydymdoimlad y Cyfarfod Misol a hwy.—Cyfarfod Misol nesaf i fod yn Llan- rhyddlad, Awst 24 a 25. Mater Athraw, ið y Cyfrifiad." Y Parch J. Williams Amlwch, i'w agor.—Hysbyswyd fod y cyf- eillion yn Menai Bridge yn barod i dderbyn ciltion yn Menai Brid Rte lagfyr, a bod y Cyf- y Gymdeithasfa yn Rhagfyr, a bod y Cyf- aiffod Misol a benodwyd i'w gynal yma y mis hwnw i'w gynal mewn cysylltiad ar Gymdeithasfa. Amlygwyd diolchgarwch i'r cjieillion yn Menai Bridge am eu caredig- itsydd yn y peth hwn. Penodwyd Mr Roberts, Bank, Llangefni, i fod yn ysgrifen- ydd arianol cymdeithasfaoeddy sir. Rhodd- wyd caniatad i'r Parchn. S. A. Irazer, Rhoscolyn. ac 0. Parry, Cefn Bach, i fyned daith drwy sir Benfro.
!YR ANGHYDWELEDIAD YN CHWARELAU…
YR ANGHYDWELEDIAD YN CHWARELAU DINORWIG. Da genym allu hysbysu fod yr anghyd- I trelediad hwn y cyfeiriwyd ato yn y Genedl ddiweddaf wedi terfynu yn heddychol. Ym- ddengys fod yr achos a barodd i'r dynion gyfodi y diwrnod hwnw wedi tarddu o fyr- bwylldra, a thrahausder ysbryd un o'r is- o. ruchwylwyr, yr hwn, am nad oedd y dyn- ion yn foddlawn i gydsynio a'i gaia annhego roddi hvsbysrwydd iddo pwy oeddyrhaioedd ynsefyfl ar y bonccyn i'r corn ganu. Nid oedd yprif oruchwyliwr—yr Anrhydeddus W. W. Vivian yn gwybod dim am y ffaith fod yr holl ddynion oedd yn y bone wedi eu hatal l welthio, ac yr oedd yn ddrwg ganddo na buasent ar unwaith wedi apelio ato ef yn yr achos, ac heblaw hyn anogai y dynion pan y iigwyddai unrhyw achos, ac y gwrthodai yr ip-oruchwylwyr wneyd sylw ohono, iw cldwyit ger ei fron ef, ac y cai ei sylw man- ylaf. Dywedai y dylasent wneyd hyny yn yr achos hwn, ac am ei fod yn credu y gall- terfynu y cwbl mewn diwrnod, nad ganiatau mwy na chyflog diwrnod i bob un o'r rhai oedd yn y bone wedi eu hatal. Prin yr ydym yn crodu fod hyn yn deg tuagat y gweithwyr, gan fod y bai o'u hatal yn gorphwys wrth ddrn's un arall. Ai tybed fod yn deg i'r dynion oedd yn holiol ddi- Aiwed ddwyn ei gamwedd ef ? Os gellid profi fod y dynion yn feuis. hwy oedd i dwyn y canlyniad, ond o'r ochr arall, fel y mae yn holiol glir, teg oedd i'r dynion gael eu taiuam yr holl amser a gollwyd ganddynt. Bydded y mater hwn yn glir, mai anghyf- iawnder yw dal dynion yn gyfrifol am weith- rediadau byrbwyll, nwydwyllt, a, thrahaus mnrhyw oruchwyliwr, o ba radd byn tg y byddo. Y mae wedi myn'd yn ormod o'r dydd i wimbleidiadau fel hyn gaol eu cy- meradwyo. Gyda golwg ar y cospedigaethau a wein- yddid yn ngyn a dyfodiad y gweithwyr i'r ae o'r chwarel, dywedai nad oedd ef yn bwr- iadu o gwbl iddynt gael eu cario allan ar unwaith fel y gwnaed ag amryw, ond golygai eu bod yn cael eu dwyn yn mlaen yn raddol, wedi i bydd priodol gyda golwg ar esgeu- tasdra o'r ddeddf hon. Os na byddai y tros- eddwyr yn diwygio, nid oedd dim i'w wneyd ond cario y ddeddf i'w therfyn eithaf. Yr oedd yn dal yn gryf at y ddeddf y dylai dyn hysbysu, neu ofyn caniatad i ymadMl dr gwaith pan y byddai arno angen am hyny am nad oeddyn bosibl, meddai, cadw trefn yn y gwaith heb hyny, a hyd y gwyddom fod pawb rhesymol yn cydolygu ag ef yn y mater. Ymddengys fod yr helynt wedi troi allan yn fantais bwysig i'r gweithwyr, ac un xheswm arbenig am hyny yw, yr ysbryd rhagorol a ddangoswyd ganddynt yn yr am- gylchiad, ac y mae ynddo wers bwysig na Idylid colli golwg ami yn y dyfodol. Yr oedd y penderfyniad a ddangoswyd yn gryf a di-ildio, ond yr hyn y cyfeiriwn ato yw, fod y penderfyniad hwnw yn cael ei lywodr- aethu gan farn bwyllog, a dyma guddiad ei grrfder ac elfenau ei lwvddiant. Nac ang- hofier hyn yn y dyfodol. Mewn amgylch- iadau cynhyrfus fel hyn y duedd naturiol mewn flawer yw rhedeg yn eithafol o dan grnhyrfiad 'y nwydau a'r teimladau gan golli golwg ar iawnderau pawb ond hwy eu Iunaan-anghofio fod gan y meistr ei iawn- ierau a'u bod mor bwysig a'r eiddo y gweith- Iwr, ac y dylent gael y sylw manylaf. Yr eeddym yn toimlo yn hapus fod yn mhlith y chwarelwyr, ac yn wir fod y mwyafrif ohon- ynt ya ddynion oedd yn eymeryd golwg deg ar y mater, ae yn gweithreuu yn unol a hyny. Y mae gweithredu o dan lywodraeth barn a phwyll bob amser yn sicrwydd am lwyddiant, ac yn hollol angenrheidiol tuagat gael golwg glir ar iawnderau y pleidiau a rddo mewn ymrafael. Gyda golwg ar y manteision gellir nodi yn 1. Fod terfyn wedi ei roddi ar y man ddeddfau oedd yn cael eu gwthio ar y Kweithwyr fel hunllef parhaus a'r gweinydd- ),r Evarbaus a'r giveinydd-. iad llym ohonynt, yr hyn yn ddiau a fydd yn iecnyd i bob dosbarth yn y chwarel. 2. Cafwyd mantais i wybod fod y perehenog anrhydeddus yn holiol glir oddi wrth yr hyn y tybiai rlun ei fod yn euog ohono. Yr 93dd y mwyafrif o'r gweithwyr trwy y cwbl yn credu nad oedd a fyno ef a'r pethau lsel- wael oedd yn cymeryd lie, ac na wyddai ef ddim am danynt—fod gormod o anrhydedd yn perthyn iddo i weitbredu felly. Yn hyn yr oeddyut yn iawn fel y dengys y drafod- aeth, a hyderwn y bydd i bawb pan y cant eyfleusdra i hyny ddangos eu parch a u hed- mygedd ohono fel eu meistr. 3. Cafwyd mtintais i wybod yn lied glir yn mha le yr oedd ffynhonell y gorthrwm y cwyníd eymaint o'i herwydd, a pha mor bell yr oedd eu bawliau i weithredu felly yn cyrhaedd. Y amgylchiadau yn esbonio cymeriadau =Reaiiigylchiadau .1 coddimaiitais i wybod dynion, ac felly yn rhoddi mantais i wybod pwy ydyw gwir gyfaill y gweithiwr a'r meistr. "Yr hwn sydd yn gwneuthiir cyfiawnder sydd gyfiawn. 4. Cliriodd yr helynt gymeriad y prif oruchwyliwr gyda golwg ar yr hyn a wnaed, a bu yn foddion i i beri iddo roddi caniatad-mwy, anogaeth gref pan y rhoddid unrhy", achos gerbron, y gwrthodid rhoddi gwrandawiad iddo gan y rhaiy perthynai hyny iddynt, fod apeliad nniongyrchol i gael ei wneud atto ef, ac y fho^dai iddo bob sylw dyladwy ar unwaith. Tystiolaeth unfrydol v rhai sydd mewn mantais i wybod yw, fod y prif oruchwyliwr wedi ymddwyn yn yr holl drafodaeth yn deilwtig o foneddwr-yn glir a diblygion yn ei osodiadau, ac hollol ddidderbyn-wyneb :a-e, yr oedd yn caniatau yr un rhyddid i'r ddir- prwyaetn tuag ato ef ei hun, ac ereill. Y mae ei ymddygiad yn yr holl drafodaeth wedi creu ymddiried adnewyddol ynddo, yr hyn a fydd yn fantais fawr gyda golwg ar y dyfodol; gan hyny rhodder "parch i'r hwn y mae parch vn ddvledus." 5. Y mae yr is-oruchwylwyr wedi cael mantais i wybod pa fodd, ac i ba raddau y mae y deddfau yn y gwaith i gaol eu gwein- yddu; o'r blaen ymddengys eu bod wedi derbyn gorchymynion p(,n nt igario allan y deddfau; ond o hyn rhydd y drafod- aeth syniad iddynt o'r hyn a olygai y prif oruchwyliwr yn y deddfau, ac i ba raddau y g<i'y«ai eu cario allan, yr hyn a fydd yn fan- tais tawr iddynt yn ngweinyddiad eu swydd, yr hon ar lawer cyfrif sydd a llawer o anhawsder yn perthyn i'w gweinyddiad. 6. Cafodd y gweithwyr oil fantais i wybod bath yw y deddfau hanfodol sydd yn perthyn i'r gwaith, y rhai o'u cadw sydd yn nerth anorcbfygol i wrtbsefyll pan y mae mym- pwyon dynion dibrofiad yn cael eu gweithio arnynt fel deddfau. Chwi weithwyr, goddef- weh air o gyngor yn y pethau hantodol amser a threfn—byddweh yn gyflawn hyd y mae yn bosibl yn eu cadwraeth, a phan y daw pethau ereill annheg i gael eu cymhell arnoch, chwi a gewch hoU ddylanwad cym- deithas o'ch plaid i'w qwrthae yll. Mantais bwysig oil l'ch llwyddiant yn yr amgylchiad oedd eich bod yn UN ach gilydd-collwyd pob gwahaniaeth oedd yn bod rhyngoch yn y pethau bach, a chafwyd UN GWKITHIWK mawr, penderfynol, a theg yn ymsymud yn mlaen am ei iawnderau, a gwiriwyd ynoeh y ddiarheb ddoeth-"Un- deb sydd yn nerth." Pe buasech yn ymranu buasai y canlyniad yn sicr ofodyn wahanol. Meithrinwch yr undeb hwn yn eich plith, a thrwyddo, gy achos da, byddwch yn allu anorchfygol. Parchwch eich gilydd, y goruchwylwyr, ac yn arbenig eich meistr fel y byddo cydymdeimlad yr hon yw elfen fawr hanfodol llwyddiant cymdeithas yn ffynu, ac yn rheoleiddio eich holl weithrediadau.
I -CYNRYCHIOLAETH EIFION.I
I CYNRYCHIOLAETH EIFION. I MR JOHN ROBERTS YN NANTLLE. Nos Fawrth, bu Air John Roberts, Bryn- adda, yn anerch yr etholwyr yn Talysarn ar yr achlysur o agoriad cymdeithas Rydd- frydig yn y He. Cymerwyd y gadair gan Mr J T. Jones, Parciau, Cnccieth, is- gadeirydd Cymdeithas Ryddfrydig Deheu- barth sir Gaernarfon. Datganodd y cadeirydd ei ofid na buasai Mr W. A. Darbishire yno i gymeryd y Ilyw- yddiaeth. Yna darllenodd lythyr oddiwrth Mr Darbishirc yn egluro ei absenoldeb. Hefyd, darllenodd bellebyr oddiwrth Mr W. J. Parry, llywydd Undeb y Chwarelwyr, yn mha un y datganai ei ffydd yn Mr Roberts, fel cynrychiolydd teilwng dros Ryddfrydwyr Eifion, ac hyderai y gweithiai y.Rhyddfryd- wyr drosto fel un gwr. cyfeirioddycadeir- ydd parchus- yr hwn sydd yn frawd i Mr Pughe Jones-at yr anghydfod sydd yn mhlith ychydig berson au parthed dewisiad I yr ymgeisydd Rhyddfrydig dros Eifion, y rhai a haerant fod rhyw gamwri wedi ei wneyd yn newisiad y cynryehiolwyryn Pen- ygroes. Ond cydsyniai ef yn hollol ar hyn a ysgrifenodd Mr Darbishire at Mr Morgan L oyd-(clywch, clywch)—nad oedd y sail leiaf dros y cyfryw haeriada* Cariwyd pobpeth yn mlaen yn deg, didderbynwyneb ac anrhydeddus (clywch, clywch). Ni wnaed unrhyw driciau na bradwnaeth o gwbl-yr oeddynt yn gadael hyny i'w gwrthwynebwyr -(clywch, clywch, a chwerthin)—ac yr oedd yn ddrwg ganddo ef fod ei frawd- Mr Robert Pughe J ones-a Mr Morgan Lloyd yn gweithio mor effoithiol i ddwylaw y Ceid- wadwyr drwy gefnogi Mr Ellis Nanney, a gwneyd hyny o ddrwg a alient—ond yn ffodus yr oedd yn bur ychydig-(clywch, clywch)—er gwaethygu rhagolygon cyn- rychiolydd dyfodol y rhanbarth—Mr John Rooerts—yr hwn a ddewiswyd yn ymgeisydd Rhyddfrydol gan dair rhan o bedair o'r rdir- prwywyr yn Penygroes (clywch, olywch). Fel perthynas agos i un o'r ymgeiswyr siomedig ac anfoddog yr oedd yn dydraa geiswyr ef gaevcyfleusdra i ddatgan nad oedd ynddo ef unrhyw glaerineb tuagat Mr John Roberts oherwydd i w frawd gael ei orchfygu drwy ddyfarniad y dirprwywyr. Gobeithiai ef y byddai i Mr Morgan Lloyd a Mr Pughe Jones cyn hir ddyfod i weled pethau yn eu lliw eu hunain, a gweiffil. o gyda'r blaid yn lie cefnogi Mr Ellis Nanney a'r Toriaid (clywch, clywch). Ceisid dangosrhagonaeth sefyllfa Mr Nanney ar Mr Roberts, ond nid oedd a wnelo hyny a'r cwestiwn-gwleid- yddiaeth oedd y pwne. Gallai y byddai i Nanney geisio enill cefnogaeth yr amaeth- wyr drwy ddatgan ei fod yn amaethwr ei hun, ac felly mewn mantais i wybod eu hangenion fel dosbarth: ond dymunai ef adgofio iddynt fod Mr Roberts yn fabi amaethwr enwog yn sir Gaernarfon, tra yr oedd ei berthynasau yn cael eu hystyried yn mhlith amaethwyr penaf a mwyaf llwyddian- us yn Mon ac Arfon. Heblawhyny, nid. oedd Mr Nanney wedi adlewyrchu rhyw lawer arno ei hun yn ddiweddar fel tirfeddiannydd. Arferai tenantiaid y Gwynfryn ar hyd y blynyddoedd osod eu tir yn y gauaf i ddefaid o siroadd Trefaldwyn ac Aberteifi i bori arno, yr hyn a'u cynorthwyent i dalu y rhent; ond ar ol gorchfygiad Mr Nanney gan Mr Rathbone amddifadwyd hwynt o'r hawlfraint hon, a gwnaeth ei oreu i gymhell tirfedd- iannwyr eraill i ddilyn ei esiampl--(cywil- ydd)—ac eto yr oedd eisiau galw ai hun yn gyfaill yr amaethwr (chwerthin). Gydag unfryde'dd yn y rhengau Rhyddfrydol nid oedd ganddo amheuaeth nad ai Mr Roberts i'r Senedd gyda mwyafrif anrhydeddus, ac hyderai y gwnai chwarelwyr Dyffryn Nant- lle eu goreu i'w anfon i fewn (cymeradwy- aeth). Mr John Roberts, yr hwn a dderbyniwyd yn hynod groesawus, a wnaeth amryw gyfeiriadau parchus at Mr Ellis Nanney; ond tybiai fod ganddo ef un fantais arbenig ar Mr Nanney fel cynrychiolydd Eifion, sef ei fod ef yn Rhyddfrydwr, tra yr oedd Mr Nanney yn Geidwadwr, ac felly yn ang- hymwys i gynrychioli rhanbarth mor Rydd- frydig (elywch, clywch). Yna aeth Mr Roberts yn mlaen i gymharu gweithred- iadau y Gweinyddiaethau Rhyddfrydig a Cheidwadol, gan ddadgan ei syniadau ei hun ar brif bynciau y dydd, yn nghyda's cwestiynau a ddygir ac a ddylid eu dwyn gerbron yn y Senedd-dymor nesaf —ad-drefnu y byrddau sirol, cyfnewid y dull i ddewis ynadon, dadgysylltu yr Eglwys oddi wrth y Wladwriaeth, addysg uwch- raddol i Gymru,gwaddoli coleg Aberystwyth, ac felly yn mlaen, i'r oil o ba rai yr oedd ef yn bleidiwr-gwresog, ac os dychwelid ef, gwnai ei oreu yn eu trafr. Cyfeiriodd at gydweithrediad y Ceidwadwyr a'r Parnell- laid i orchfygu y Llywodraeth Ryddfrydig. ond hyderai y byddai i sir Gaernarfon fod yn gyfnerthiad i Mr Gladstone—(cymerad- wyaeth)—drwy anfon tri o gynrychiolwyr Rhyddfrydig i mewn i'r Senedd (clywch, clyweh). Ar ol i siaradwyr ereill siarad yn ffafriolI i ymgeisiaeth Mr Roberts, terfynwyd cyfarfod drwy dalu diolchgarwch i'r cad- j eirydd.
-.PWLLHELI.-I
PWLLHELI. I I WOMBWELL'S MENAGERIE.—Dydd Mercher a Iau diweddaf, talodd y menagerie ymwel- iad a Pwllheli, a 'dangosodd Owen Evans, Ysw., Broomhall, ei haelioni trwy anrhegu plant yr holl ysgolion cwmpasog, sef ysgolion Pwllheli, Llannor, Plasgwyn, Llanarmon, ac Abererch, oddeutu 1500, i weled y bwyst- filod; hefyd anrhegwyd plant y tlotty gan B. Q. Ellis, Ys w.—Gohebydd.
I ... 1CROESOSIVILT.
I 1 CROESOSIVILT. THE SALOP SCHOOL.—Ar restr y rhai lIwydditmnus yn Matriculation examination Prif Athrofa Dublin, am fis Meliefin, da genym weled enw y foneddiges ieuanc Miss Beresford, march y meddyg Dr Beresford o'r dref uchod. Parotowyd hi gan Mr John Evans, M.A., The Salop School, Croesos- wallt. Wele'r seithfed eieni fu yn llwydd- iaanus o'r ysgol hon yn y cyfryw arholiadau,
MARWOLAETH Y PARCHEDIG I WILLIAM…
MARWOLAETH Y PARCHEDIG I WILLIAM NICHOLSON. I Ysgrifena ein gohebydd o LerpwlY mae genym y gorchwyl pruddaidd yr wyth nos hon eto o gofnodi marwolaeth y Parch W. Nicholso gweinidog yr eglwys Anni- bynol yn Grove-street. Yr oedd Air Nicholson, er dyfod i ben ei yrfa ddaearol yn gymharol ieuanc, 41 mlwydd oed, wedi codi ei hun i lawer o enwogrwydd trwy Gymru i gyd, trwy ei ddoniau, ei alluoedd, a'i weithgarwch, fel pregethwr, lienor, a a'i weithgarweb, fbeyl d greegl plli yn goued a bardd, a diau y bydd ei golli yn golled a deimlir yn y tri cylch a enwyd, yn enwedig cylch ei weinidogaeth fel pregethwr yr efengyl. Yr oedd yn brogethwr melus, ac arwyddion amlwg arno ei fod yn teimlo pwysigrwydd y swydd y galwyd ef iddi. Yr oedd yn wr difrifol iawn, ac eto yn siriol a chymydogol er gwaethaf afiechyd poenus a fu yn ei nino am flynyddoedd. Ydiydig yw nifer y rhai a ymdrechasant ymdrech mor deg igyflawniei weinidogaeth, ac i wasan- aethu ei genhedlaeth mewn llawer cylch yn wyneb anfanteision afiechyd mor boenus a pharhaol. Yr oodd pobl yn synu bellach er's misoedd ei fod yn gallu myned trwy y fath waith yn y pwlpud dan y fath nychdod. Yr oedd yn siaradwr hylithr a difyrus ar bynciau eraill na phregethu yr efengyl, ac wedi enill llawer o boblogrwydd haeddiannol fel arweinydd mewn cyfarfodydd llenyddol a chystadleuol; ac nid oes un amheuaeth na chyrhaeddasai ddefnyddioldeb ac enwog- rwydd llawer mwy pc na buasai am Y peswch marwol pwysig Fu'n eriyii i'w derfyn dig, a dechreuodd ei boeni yn lied ieuanc. Brodor ydoedd o Gaergybi, ac yn yr Ysgol Frytanaidd yno, ac yn y cyfarfodydd llen- yddol lleol, ac yn y Normal College yn Mangor y cafodd yr agoriad i agor, a diwyllio ei feddwl i'r graddau uchel yr ydoedd ynddo. Yr oedd Caergybi, lIe digon dinod fel mangre lien a diwylhad meddyhol, wedi dechreu deffro ychydi felllawer tref a phentref arall yn y Gogledd, trwy adfywiad y cyfarfodydd Ili, yddol a gramadegol. gvda chynnydd y wasg newyddiadurol a chylch- gronol Gymreig erbyn fod William Nichol- son yn ddigon o facbgenyn i sylwi ar bethau Hen a drsg; a chan fod yn y dref ar y pryd eraiU o dipyn o chwylfrydedd llenyddol a barddonol, rhai,os nad y rhan fwyaf ohonynt wedi ymfudo yno trwy yr alwad am lafur at waith y Morfur Mawr, o ba rai yr oedd cyn belled ag yr wyf fi yn cofio yn awr Gwilym Alltwen yn yr un ysgol ag ef, yn cyd-ddysgu, cyd-farddoni, a chya-chwareu, a daeth W.N ihoffi Uenyddiaeth hefyd. Anturiaf ddyweyd mai yr adeg y dechreu- odd- yr adfywiad llenyddol y cyfeiriwyf ato yn Nghaergybi ydoedd yr amser yr import- lwyd yr enwog "Golyddan bach anwyl," chwedl Quellyn (a hwythau eu dau wedi ymadael a'r fuchedd hon), ac hefyd pan aeth fy hen gyfaill y Bonwr Lewis Chupat Jones, ac Evan Jones i geisio enill eu bywoliaeth yn ijuainc trwy sefydlu argraphwasg yno. Yr wyf yn cofio gweled cyfeiriad yn un o'i ys fifenia Taau dichon mai aanes ei fordaith 1 Awstralia, at ei adgofion a'i hoffder o Gaergybi, Ho y bu yn chware? ac yn dysgu, ac yn ymryson nofio glanau Of moroedd gyda ei gyfoedion. Yr oedd Caergybi yn hynod am fedrusrwydd ei bechgyn i tnofio a rhoddodd i'r byd lawer o forwyr llwydd- iannus, a ddaethant yn feistriald llongau lawer mewn llawer rhan o'r ddaear ond nid wyf yn cofio am neb o'i brodorion a ragorodd mewn gwir ragoriaeth pethau uwchaf ar y diweddar bellach William Nicholson. Daeth i Lerpwl tuag wyth mlynedd yn ol Daeth i Lerpwl tueag l ivys Annibynoi yn i wasanaethu yr eglwys Annibynol yn Grove-street, fel olynydd i'r diweddar enwog Gwilym Hiraethog, ac enillodd gyfeillion lawerlyno. Pregethodd ddwy waith y Sabboth di- weddaf yn y ddinas hon, dwyshaodd ei af- iechyd ddydd Llun, a bu farw tua chanol nos Feroher, ac y mae bellach yn mwynhau y Sabboth hwnw y cafodd gip-drem arno, ac a ddarluniodd mor farddonol pan ar ei lor- daith i Awstralia, Y Sabboth lon'd y nefoedd, Heb gwmwl ar ei hynt,- Y Sabboth ar y dyfroedd, Y Sabboth yn y gwynt— Y Sabboth sancbiudd hecldyw A ddaeth mewn distawjlef Mi dybiais mod i'n nofio Yn Sabboth nef y nef." Cleddir yr hyn sydd larwol ohono ddydd Mawrth nesaf, yn nghladdfa Smithdown- road, lie y mae rhai o enwogion Cymru yn huno yn barod, fel y diweddar Barchedigion John Hughes, awdwr "Methodistiaeth Cymru;" William Rees, Noah Steven, ac ereill. Cynhelir cyfarfod anghladdol yn nghapel Grove-street am hanner dydd, a ffurfir gorymdaith i ddilyn ei elor oddi yno i'r gladdfa tuag uu o'r gloch., Fel hyn y dywed Mr W. R. Owen, ysgrif- enydd llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol, am ei gyfaill Nicholson: Ni welais neb erioed a fedrai wneyd ei hun mor jolly, mor garedig, ac mor genial, ag ef. Yr oedd natur dda ynddo yn orlawn yn llifo dros yr ymylon elai dros ei ben i wneyd cymwynas a chwi; os deuai rhyw greadur helbulus o Gymro ato, ac wedi cael boddlonrwydd fod y cyfryw yn onest, fe droai Mr Nicholson bob careg er mwyn rhoi help iddo, a gwn ei fod wedi tynu llawer o drafferth ar ei ben ei han trwy geisio cynorthwyo arall. Un o'r pethau hynotaf ynddo ydoedd y bywiog- rwydd meddyliol ac ysbrydol oedd yn ei alluogi i weled i eithaf dirgelwch pethau crefyddol a rhyw allu anarferol i lymu ben- dithion ysbrydol hefo cyflwr nilllduol pob dyn y deuai i gyffyrddiad ag ef. Gallai siarad am grefydd a gwneyd lies i ddyn mewn ymdrafodaeth bersonol, heb dynu gwyneb llaes nac arfer iaith dduwinyddol na gwneyd awn aflafar. Gwyr pawb ei fod yn born preacher. 'Daeth gwell pregethwr erioed i bulpud. Yr oedd yn deall y natur ddynol i drwch blewyn, a gwyddai yn mha le i roi ei fys ar y glioied i or drws calon ei wrandawr yn well ond odid na neb a welais i erioed. Ond er hyn nid goglais y galon a wnai yn unig, ond wedl cael mynedfa iddi teimlech mai gwneyd ymgeledd a chwi yr oedd, a'ch bod yn well ar ol y driniaeth. Yr oeddy Beibl yn gyfan ar flaenau ei fysedd, a gwna i ddefnydd gorchfygol ofnadwy o ymadroddion yn yr Heb>I)estament na fedrai neb arall wneyd fawr ddim ohonynt. Yr oedd yn ean g iawn ei gydymdeimlad. I Gan nad pwy fyddai y blaid na'r sect na'r gredo,—rnoddai help sylweddol hyd eithaf ei allu i bob symudiad daionus, a chaiff holl gylchoedd Cymreig y ddinas hon golled an- adferadwy yn ei farwolaeth. I Er hwyrach fod 'ynddo ronynau o waed Gwyddelig oedd 3m cyfrif am lawer o'r wit and humour a berthynai iddo, ni fu Cymro mwy twymngalon, gwladgarol, a selog erioed. Yr oedd yn caru pob peth Cymreig a chalon gywir; a chas gan ei enaid fyddai y neb a c dangosai anmharch tuagat yr hen wlad. Yr adgasedd mwyaf yn ei lygaid ef oedd Die Sion Dafydd. Olywais ef yn siarad gyda dirmyg am fechgyn o Gymru yn dyfod 1 Lerpwl ac yn cymeryd arnynt golli eu Cymraeg."
BRIWSION 0 RHYL.I
BRIWSION 0 RHYL. I Tren rhad yn cymeryd yr Eglwyswyr i Bettws-y-coed ddydd Iau diweddaf, a thrên yn cyrhaedd y Rhyl boreu, yr un dinvrilod, o Bethesda. Felly mae hi yn y byd yma hyd yn hyn- Rhai i'r mor, a rhai i'r mynydd, Rhai i'r glynau, rhai i'r glenydd," chwedl Die Dywyll. Mae mam yma yn dyweyd wrtha i fod y Baptist yn swnio myn'd i Bettws-y-coed yn fuan iawn, a bod y Wesleyaid Cymreig am wneyd yr un peth yn fuan ar eu hol hwy- thau, fel y gwelweh fod holl bobl y Rhyl, waeth pa enw crefyddol fo arnynt hwy, 0 r un chwaeth eleni. Mae pawb am Bettws-y- coed; fydd yn dda gen i wel'd cymaint o'r un feddwl ar fater fel hyn. Yr oedd Mari yma yn dyweyd—ac y mae hi yn bur siwr o'i mater—fod rhyw hen lane o fardd yn Llanrwst yn dal i garu er's llawer o flynyddoedd bellach, ac heb aint ag yngan gair am briodi eto. Mae hi, ry wfodd, wedi ffeindio allan ei fod o wedi gwahodd dwy ferch ifanc i arwest Glan Ueirionydd, ac yn meddwl cael hwyl ar ben Bryn y Ca.n- iadau os deuai y ddwy yno, ac i broti fod y garwriaeth yn parhau ysgrifena ar yr amlen drwy y post To whom but to the blooming Lily of Clwyd will love cling." Yr oedd Mari yn d'eyd yn sicr y bydd y ddwy ferch ifanc wedi myn'd yn ddwy hen ferch cyn bo hir, oni bydd i'r hen lane fentro at allor Hymen gydag un o'r ddwy yn fuan. Y Blacks yn y Rhyl sydd yn myn'd it hi medda nhw. Mae yr holl gwmniau ereill yn troi i gwyno bod nhw yn myn'd a'r bobl 1 gyd ar eu hoi, ac yn eu cadw ar hyd y dydd, ond pan y bydd raid iddynt, yn Slant a phobl, ymadael am eu prydiau bwyd. Mae Tom Murray a'i Gwmni yn gwneyd drwg mawr i'r cab drivers ac i'r shopwyr a'r tafarnwyr, medda nhw, wrth gael y fath ddylanwad ar bawb. O'r braidd y mae yn well gan y bobol fod yn nghyfarfod y Nig- gers ac esgeuluso myn'd am eu bara beu- nyddiol. Mae nhw yn d'eyd fod y pregeth- wrs, blaenoriaid, ac aelodau y gwahanol YmneiUduwyr ac Eglwys Loegr, yn ym- ddangos yn mwynhau eu hunain yn fwy yn nghwmm Tom Murray a'i lu du nag mewn un moddion o ras a estynir iddynt. Ni ddylai y pethau hyn fod. Mae cab drivers y dref yma wedi anfon deiseb at y Commissioners wedi ei harwyddo gan 26 o bersonau, yn dymuno arnynt i ganiatau Hai o amser i'r Niggers ar y tywod er mwyn i'r bobol chwalu yma ac acw. a myn'd am ddreif i'r wlad. Mae son fod y dyn a'r Cwn a'r Mwnci," y Ventriloquist a'i Ddols, y Punch a Judy, y German Band, a'r Hordi Cordi, bron a myn'd ar strike," a tdael y dref i'r Blacks i chware, canu, &c. Mae Mari yma yn d'eyd mai blacks ydyw eu cynulleidfa i gyd, a bod gyni hi adnodau o'r hen Ddiarhebion i brofi hyny, megys, Pob cyffelyb ymgais," Adar o'r unlliw hedant i'r unlle, &c. Mae yr hen wraig yma yn lied agos i'w lie, yn y marn i, a fuaswn i ddim yn ei phriodi oni bai i mi farnu ei bod hi yn ddynesgall. Mae Mari yma wedi cymeryd dyddordeb mawr mewn darllen y gwahanol ysgrifau ar Ddiffygion yr Ysgol Sul yn Nghymru." Y mae hi o'r un farn a'r ysgrifenwr neu ysgrifenwyr mewn llawer o bethau, ond mi garai hi yn fawr weled rhvw un galluog a phrofiadol, a wnai gymeryd arno ei hun i dynu allan y eynllun goreu yn ei farn, a wnai ragori ar yr un presenol. Mae yn ddiau fod llawer 0 wahinol ffyrdd yn cael eu harfer mewn gwahanol leoedd, ac yn mysg y gwahanol enwadau crefyddol i gario yn miaen y sefydliad tra rhagorol hwn; mae hi o'r farn nad gormod 0 beth fyddai gofyn trwy y Genedl i ddynion teilwftg i gymeryd i yetyriaeth y mater hwn a ffuttfio trefniadati neu y cynlluniau goreu i gynal yr Ysgol Sul er eangu y wybodaeth Ysgrythyrol yn meddyliau ac ymarferiadau ei deiliaid. Beth pe byddai i gystadleuaeth gymeryd lie ar y pen hwn, ac i ymddangos yn y Genedl er mantais i swyddogion a deiliaid gwahanol Ysgolion Sabbothol ein gwlad, a bod i'r holl gystadleuwyr ddisgwyl dim mwy am eu llafur na bod a'u clod o Dduw. Mae llawer iawn o ddadleu wedi bod yn y blynyddoedd a aethant heibio, Pwy a ddylai deiliaid Bedydd fod ? Mae yn Uawn mor .bwysig yn marn Mari yma gael barn y Genedl pwy a ddylai deiliaid yr Ysgol Sabbothol fod, gan y disgwylir y byddi gystadleuaeth gymeryd lie i gael allan y cynllun goreu 1 gario allan yn etreithiol y sefydliad teilwng hwn, y bydd i'r cyfryw hefyd draethu eu barn pwy a ddylai gymeryd rhan a bod o wasanaeth, ac o dderbyn y gwasanaeth a ellir ei fwynhau drwy yr Ysgol Sabbothol. Dyna, ar air a chydwybod. vw barn Mari a V.
' KFFFSTINIOG A'I HELYNTION,…
KFFFSTINIOG A'I HELYNTION, I DIRWEST.-NTos Fawrth diweddaf yn Trawsfynydd, bu y Parch E. T. Davies yn anerch cynulliad parchus ar y pwnc uchod, a nos Iau yn y Llan hefyd. Llywydd y cyf- arfod diweddaf ydoedd Dr G. J. Roberts, Fronhaul, ac ar y diwedd cynygiodd Mr W. Jones (Ffestinfab), a chefnogodd Mr Owen Jones, Pengwern Villa, ddiolchgarwch y cyfarfod i Mr Davies. DARLITHIAu.Noson gyda Paul" ydoedd testyn darlith pur ddyddorol a draddodwyd nos Fawrth diweddaf yn Shiloh (W.), Llan, gan y Parch Hugh Hughes, Llangollen. Elai yr elw at dynu y ddyled ar yr achos yn y lie. "Y Dyn Ieuanc" ydoedd testyn darlith y Parch R. Williams (Hwfa Mon) yn Brynbowydd, Blaenau, yr un noswaith; yr elw i ddyn ieuanc sydd a'i fryd ar y wein- idogaeth. Darlith gampus, ond rhy ychydig o'r rhai y bwriadwyd y ddarlith iddynt oedd yn gwrando ami. EISTEDDFOD Y LLEcHwEDD.- Y mae prif gynulliad gweithwyr y chwarel uchod eto wrth y drws, ac y mae pob peth yn nglyn a hi yn dyweyd ei bod yn casglu nerth fel y mae yn heneiddio. Y mae yn ddwy flynedd ar bymtheg eleni, ac y mae ei rhagolygon yn fwy dysglaer nag erioed. Bydd yma eleni gystadleuaeth offerynol bwysig, a nifer o gorau, a cheir sicrwydd y bydd cadeirio y bardd chwarelyddol yn nghadair y Llech- wedd, 1885. Y mae ysgrifenyddyr Eistedd- fod hefyd wedi derbyn lluawsmawr 0 enwau cystadleuwyr ar bob testyn. Cynhelir hi nos Lun a nos Fawrth nesaf. FFESTINIOG A'R ETHOLFBAINT.—Er fod cryn lawer yn colli eu hawl i'r bleidlais newydd oherwydd diofalwch yn talu y dreth, hysbysir ni y bydd y cynydd yma yn nifer yr etholwyr drwy y mesur newydd oddeutu dwy fil. Y mae y cynydd yn Llan rhwng 250 a 280. Y FELIN FLAWD.—Y mae cyfarwyddwyr yr uchod yn bwriadu galw yr holl gyfran- ddalwyr yn nghyd i'r dyben o ystyried y priodoldeb o ddirwyn y cwmni i fyny. LLWYDDIANT.—Deallwn fod Mr Thomas Lewis, Foundry, Tan-y-grisiau, wedi myned yn llwyddiannus drwy ei arholiad rhag- barotoawl (preliminary examination) am M.D. yn Edinburgh. Erys ar hyn o bryd gyda Dr R. D. Evans, Llys Meddyg. Y BAZAAR-Nos Fawrth diweddaf cyn- haliwyd y cyngherdd mewn cysylltiad &'r uchod, a throid allan yn hynod Iwyddiannus. Gwasanaethwyd gan luaws o gantorion enwog. Llywyddid gan W. G. Casson, Ysw. Yn ystod y cyfarfod hysbysodd y Parch T. J. Wheldon fod gan y pwyllgor oddeutu lOOp at ddwyn yn mlaen yr achos wedi clirio y ddyled, 500p. Da iawn. UOHEBYDD.
[No title]
Yn Widnes, fe wneir y gelfyddyd o nofio yn rhan o'r addysg a gyfrenir i fechgyn yr ysgolion dyddioL
YMWELIAD YR YMGEISYDDI RHYDDFRYDIG…
YMWELIAD YR YMGEISYDD I RHYDDFRYDIG A LLEYN. Yr wythnos ddiweddaf talodd Mr John Roberts, Brynadda, Bangor, yr ymgeisydd dros ddeheubarth y sir, ellmweliad ag am- ryw ardaloedd yn ngwlad Lleyn, a chafodd dderbyniad tywysogaidd yn mhob man y bu ynddo. Ei fwriad yn nglyn a'r ymweliad hwn ydoedd gweled a phrofi drosto ei hun y?.dd g,"?I' dy. yldiau xreseno l ae Y ansawdd y wlad y dyddiau presenol, ac y mae yn ddo. genym ei fod wedi ei Iwyr fodd- loni yn mhob peth, a Chredw/E ddiam heuol hefyd ei fod yntau yn avourite y Rhyddfrydwyr oil. fel ymgeisydd teilwng ac addas i'w cynrychioli yn y Senedd. Cyr- haeddodd i NEFYN oddeutu saith o'r gloch nos Fercher, a chyn- haliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Drefol o dan lywyddiaeth fedrus Cadben W. Thomas, Bodlondeb, Morfa Nefyn, yr hwn a, sylwodd ar alluoedd a chymhwysderau Mr Roberts, a dywedai ei fod yn teimlo y gellir dywerd am dano heb betrusder the right man in the right place." Yna galwodd ar Mr John Roberts, yr hwn a dderbyniwyd gyda mawr gymeradwyaeth. Sylwodd fod ganddo bob calondid i fyned yn mlaen yn rhanbarth ag sydd bron yn hollol Rydd- frydig, &c., er y dymunai i bawb ddal i frydig, &cf., -eidio rho'i gormod sicrwydd yn weithio a y fuddugoliaeth, rhag ofn, drwy hyny fyned i ymddiofalhau. Eglurodd hefyd y gwahanol fesurau a basiwyd yn ddiweddar gan y Rhyddfrydwyr, ac hefyd y rhai a fwriedir ddwyn yn mlaen yn y dyfodol. Bydd iddo bleidio a chefnogi pob deddf deg, a dwyn diwygiad yn y deddfau sydd eisoes yn an- orphenol, elly gwelwn fod Mr Roberts yn wir gyfaill i'r morwyr, amaethwyr, a'r gweithwyr o bobgradd a sefyllfa. Galwyd ar y Parch W. O. Evans, Palace- street, yr hwn mewn anerchiad byr a rodd- odd y cynygiad a ganlyn 0 flaen y cyfarfod, Fod y cyfarfod hwn, wedi gwrando gyda hyfrydwch mawr ar anerchiad z?rand "0 da berts, o Fangor, yn dymuno datgan ynymodd mwyaf gwresog, ei gymeradwyaeth llwyraf ohono fel ymgeisydd cymhwys am Gynrych- iolaeth Dosbarth Eifion, sir Gaernarfon a'n bod hefyd yn y modd mwyaf didwyll a chalonog yn addaw rhoddi iddo ein cefnog- aeth, a defnyddio pob moddion teg a phob dylanwad cyfreithlawn i sicrhau ei ddychwel- iad iwddugoliaethus i'r Senedd yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf." Eiliwyd gan y Parch John Hughes, Edeyrn ac wedi ei gefnogi mewn modd gwresog gan Mr Ackland, Clynnog, pasiwyd ef ynunfrydol gan y cyfarfod. Cafwyd anerchiadau hefyd gan y Parchn E. James, Nefyn J. Jones, Pwllheli; J. Jarrett, Morfa Nefyn. Mn J. T. Jones, Parciau, Criccieth, a John Hughes, watch- maker. Yr oedd y neuadd yn orlawn, a chafwyd cyfarfod teilwng a cnanmoladwy; dengys hyn nad oes anwadalwch o gwbl yn dueddolo ymafael yn y Rhyddfrydwyr. Tranoeth (Dydd lau), am oddeutu naw o'r gloch y boreu, cyrhaeddasom i BHYDYCLAFDY -1 mewn tri o gerbydau y rhai a gynwysent y boneddigion a ganlyn: Mr Roberts (yr ym- geisydd), Parchn D. E. Davies, John Jones, Pwllheli; a John Hughes, Edeyrn; Cadben W. Thomas, Nefyn; Mri Ackland, Clynog; J. T. Jones, Criccieth W. Anthony, 0. L. Edwards, W. Jones- O wen, PwUheli; a J. Elias Jones, Nefyn. Wedi aros ychydig fynydau yma, aed yn mlaen drwy y lleoedd canlynol, Llanbedrog, Abersoch, Llanengan, Bottwnog, a'r Sarn, er na aroswyd nemawr ynddynt cafwyd ar ddeall yn ddioed fod pawb yn dymuno rhoddi eu cefnogaeth er dylanwadu yn ffafriol i gael Mr Roberts i fyny. Yna yn y prydnawn cyrhaeddasom bentref hynod ABERDARON. I A" chan nad oes yma yr un ystafell gyfleus na neuadd orwech i gynal y cyfarfod, caed man hynod o ddymunol mewn lie ffasiwn newydd-ar y draethell o dan y pentref. Cymerwyd y llywyddiaeth gan y Parch John Jones, Pwllheli. Wedi anerchiad byr gan y llywydd,siaradwyd gan Afa Roberts, a chada wrandawiad astud gan y cyfarfod, yr hwn a gynwysai yn benaf y pentrefwyr ac amaeth- wyr y gymydogaeth. Cynygiodd y Parch D. E. Davies, Pwll- Cyn7 od y cyfarfod hwn yn dymuno heli, 'Nlr Roberts fel ymgeisydd teilwng ac addas i'n cynrychioli." Eihwyd gan Mr J. T. Jones, a phasiwyd ef gyda brwdfryd- edd unfrydol Y siaradwyr oeddynt y Parchn John Hughes, Edeyrn; Robert Williams, Peucaerau; a Griffith Griffiths, Mynotho; Mri W. Anthony, W. J. Owen, a 0. Lewis Edwards, Pwllheli; Evan Hughes Aberdaron; Roberts, Sarn; a'r Cadbeniaid W. Thomas, Nefyn; a Williams, Ty Newydd, Rhydlios. Yma eto cafwyd cyfarfod gwir dda, ac y mae Mr Roberts wedi ei foddhan yn fawr yn mhawb a phobpeth drwy yr holl ranbarth hwn. GaJwyd hefyd yn Hebron, Tydweiliog, ac Edeyrn, a daethom yn ol wedi Hwy fwyn- hau ein hunain.