Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. Y SENEDD. MESUR Y MEISTR A'R GWEITH- IWR. RHODDASOM ddesgrifiad o'r mesur hwn o'r blaen, fel y gosodwyd ef ger bron Ty y Cyffredin gan Mr. Cross, pan y darllenwyd ef y waith gyntaf. Dar- llenwyd ef yr ail waith yn y Ty yr wythnos ddiweddaf, pryd y bu dadl go eglnrhaol ar ei natur a'i duedd. Siaradodd Arglwydd Montagu fel y gallesid dysgwyl i Babydd Ultramon- tanaidd wneud. Ceisiodd ddangos mai amcan y mesur yw dyfetha undeb- au gweitbwyr. Nid oes dim yn fwy twyllodrus na siarad Pabyddion yn nghylch hawliau gweithwyr. Y mae gwadiad "right of private judgment" yn hanfodol i Babyddiaeth; ac nid oes neb wedi gormesu gweithwyr yn holl oesau amser yn fwy na'r Pabyddion. Nid oes braidd un ffurf o ormes, mewn arfer na deddf, trwy holl Ewrop yn bresenol nas gellir ei olrhain i ffynon- ell Pabyddiaeth. Y mae y Pab ei hun wedi melldithio pobl Rhufain filoedd o weithiau am gymeryd y rhyddid i ddewis llywodraeth Victor Emmanuel o flaen ei lywodraeth ef; ac y mae yn gwneud ei oreu y 'mynyd hwn i osod cadwynau tynion am gydwybodau gweithwyr a phawb yn Spain. Y mae wedi gwneud ei oreu i ddyfetha gwerin- lywodraeth ryddfrydig Spain, yr hwn a weinyddid am amser gan un o wleid- iadwyr goleuaf Ewrop. Y mae yn ymdeimlo a'r ymgeisiwr mwyaf gor- mesol yn Ewrop yn ei ymdrech i osod ei hun ar orsedd Ffrainc ac ymladda a'i holl egniynerbyn pobrhithianto ryddid gwladol a chrefyddol yn Itali, Awstria, a Germani; ac yn wir, yn mhob gwlad lie y gall efe ddylanwadu. Y mae offeiriaid Pabyddol yn y deyrnas hon ar y School Boards," acyn mhob cysylltiad, yn cydweitbio yn egniol a Thoriaid gormesol yn mhob peth. Y mae, gan hyny, yn dan ar gnawd un dyn sydd a llygad yn ei ben, i sylwi ar ragrith Jesuitaidd Pabyddion, fel Ar- glwydd Montagu a Cardinal Manning, pan y proffesant gydymdeimlad a gweithwyr a'u hundeb. Digon tebyg y byddai yn dda ganddynt hwy ber- swadio gweithwyr i fod yn Babyddion, er mwyn eu cynhyrfu fel y Gwyddelod i wrthryfela yn erbyn llywodraeth Prydain, tra y byd do y llywodraeth yn un Brotestanaidd, fel y ceisia y Pab a'i blaid ryfela yn erbyn Ymherawdwr Germani, am ei fod yn Brotestant. Arfer y Pab a'i blaid yn mhob oes, yw cefnogi gwrthryfel yn mhob gwlad, os nabydd efe yn dalawenau llywodraeth ywladhono. Felly y gwna yn awr yn Spain. Felly hefyd y. gwna yn awr yn Ffrainc hyd y gallo. Er fod Mr. Lowe yn cymeradwyo mesurau y llywodraeth gyda golwg ar feistri a gweithwyr mewn llawer o bethau, dangosodd fod diffygion yn- ddynt. Dywedodd efe," Y mae rhoddi i lys gwladol awdurdod i orfodi dyn i weithio i feistr am flwyddyn, yn egwyddor caethwasiaetli, cwbl groes i ysbrydiaeth ein deddfau a'n sefydliadau ni. Y mae y llywodrath yn dileu yr egwyddor hon o'r gyfraith. Eto, fel j mae y mesur yn sefyll, os gwneir ef yn gyfraith, bydd yn bosibl cafcliaru gweithiwr fel am ddyled, os na cheidw efe at ei gytundeb, os bydd yn methn talu i gwrdda cholled y meistr yn ei waith. Yr oedd efe, Mr. Lowe, am ddileu y gosp o garcharu yn hollol mewn cysylltiad a'r gweithiwr na byddai yn cadw at ei gytundeb. Gwrthwynebai efe gyfreithiau a ffafr- iant un dosbarth o ddynion yn fwy na'r Hall. Dywedodd ei fod yn erbyn picketing, sef gorfodaeth gweithwyr ar eu gilydd i'w cadw allan o waith* Dangosodd fod y fath ymddygiad yn ormes ar ryddid dyn i weithredu yn ol ei gydwybod ei hun." Dywedodd Arglwydd Elcho mewn atebiad i Arglwydd Montagu, nad oedd gweithwyr yn y wlad hon yn credu yn anffaeledigrwydd Trades Unions mwy nag yn anffaeledigrwydd y Pab. Mr. Macdonald a ganmolai y llyw- odraeth am y mesurau a ddygodd i mewn yn nghylch y meistri a'r gweith- wyr. Cwynai fod y gyfraith fel yr oedd o'r blaen yn arwain y gweithiwr, a dorai ei gytundeb a'i feistr, i gar- char. Gobeithiai efe y byddai y llyw- odraeth yn gofalu i wneud cyfraith a ataliai weithwyr a meistri i rwystro dynion i weithio os ewyllysient. Mr. Cross, awdwr y mesurau, a ddy- wedodd, pe gallai efe ddwyn meistri a gweithwyr i ystyried a chredu fod elw y naill yn elw i'r llall, y byddai rhyw ddaioni yn cael ei gyflawni. Ystyriai efe fod yr hyn a ddywedodd Arglwydd Montagu yn anwireddus, anghyfiawn, a chrintachlyd a cbafodcl uchel gymer- adwyaeth y Ty pan y dywedodd hyn. Ei farn ef oedd fod gweithwyr yn dy- oddef yn anghyfiawn trwy y gyfraith sydd yn gwneud eu cytundeb hwy a'u meistri yn wahanol i gytundebau ereill. Yr oedd efe yn erbyn "criminal con- tracts," sef cytundebau ymae cospper- sonol am eu tori. Yr oedd efe am edrych arnynt fel civil contracts yn unig. Ymddangosai y ddwy blaid yn y Ty yn llawen fod y mesurau wedi cael eu cynyg. Pasiwyd hwynt yr ail waith yn unfrydol. Diau y byddant yn gyf- reithiau yn luan. Byddai yn fuddiol i weithwyr Cymru i ddeall y mesurau hyn yn eu hiaith eu hunain. Ymdrechwn iddynt gael y fantais hon. +
CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR Y GLOWYR…
CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR Y GLOWYR YN MERTHYR. Boreu dydd Llun diweddaf cychwyn- asom tua Merthyr, er bod yn bresenol, os ceid caniatad, yn nghyfarfod cyffred- inol Cynrychiolwyr Glowyr Deheudir Cymru a Swydd Fynwy. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ethol swyddogion am y dydd, ac wedi i'r rhai hyny gael eu hethol a chymeryd eu gwahanol leoedd, cynygiwyd gan un fod caniatad yn cael ei roddi i gynrychiolwyr y wasg i fod yn bresenol. Erbyn hyn yr oedd dau neu dri yn cynyg i'r gwrthwyneb, gan ddwyn eu rhesymau dros hyny. Ei byn rhoddi y cynygiadau i'r cyfarfod cafwyd fod y mwyafrif o ddigon yn erbyn caniatau i'r cynrychiolwyr fod yn bresenol, a gorfu i ninau o ganlyniad adael yr ystafell. Modd bynag, yr ydym wedi lloffa yr ychydig canlynol o'r naill fan a'r llall. Yr oedd yn bresenol dros gant o gynrychiolwyr, y rhai a gynrychiolent rhyw 41,628 o lowyr perthynol i'r glo mor a'r glo tai. Wedi galw llechres o'r rhai oedd yn bresenol, awd yn nilaen gyda. siarad ar y pynciau ereill oedd i ddyfod yn mlaen, ac i bleidleisio arnynt. Wedi cael ar ddeall fod pwyllgor o naw wedi ei ethol gan lowyr y glo tai i benderfynu safon eu cyflogau yn y dyfodol, y rhai a gyfarfyddent yn Llan- fabon, dydd Mercber, etholwyd tri-ar- ddeg gan lowyr y glo mor ar eu rhan hwy. Bydd i'r pwyllgor hwn gyfarfod dydd Gwener nesaf, yn y Bute Arms Inn, Aberdar. Niddygwyd dim i derfyniad y noson gyntaf, ond gohiriwyd hyd y boreu canlynol. Ail gyfarfyddwyd boreu dydd Mawrtb, a. dechreuwyd pleid- leisio am naw o'r gloch. Yn mhlith y penderfyniadau a bas- I iwyd gan y cyfarfod, yr oedd y rhai canlynol:— Fod chwe cheiniog o levy i'w osod ar bob gweithiwr yn ac o gwmpas pob glofa yn Neheudir Cymru a sir Fynwy at dreuliau Bwrdd y Sliding Scale. Fod Mr. Edward Williams, Bute Arms Inn, Aberdar, i fod yn drysor- ydd y drysorfa hon. Fod Mr. Joseph Price, Bute-street, Aberdar, is-gadeirydd presenol Adran Aberdar, i fod yn Ysgrifenydd y Dry- sorfa. Fod yr arian i ddyfod i mewn mor gynted agy mae yn ddichonadwy, ond nid yn ddiweddarach na diwedd y mis presenol. Fod y cyfarfod hwn yn teimlo yr angenrheidrwydd mwyaf am gael Undeb yn ei lawn nerth eto ynNeheu- dir Cymru, ac yn taer ddymuno ar yr holl lowyr i ymuno eto yn un cyfan- gorff undebol. Fod y pwnc o ba fath Undeb sydd oreu a chyfaddasaf i'w ohirio hyd ar ol y gynadledd yn Leeds. Mai y personau canlynol sydd i wneud i fyny Bwrdd y Sliding Scale, a rhoddwn hefyd rif y pleidleisiau a gafodd y naill a'r Hall o honynt:— Mr. W. Abraham, Gower Road <0. 24,227 H. Mitchard 19,524 T. HalUday 16,368 A. Macdonald 16,148 J. Prosser, Trecynon 9,690 D. Morgan, Mountain Ash. 8,200 Y nesaf o'r ileill a gynygiwyd oedd Mr. Lloyd Jones, yr hwn a dderbyniodd 8,061 o bleidleisiau. Safodd Merthyr, Dowlais, Tredegar, a Sirhowy yn an- mhleidiol (neutral), ac ni anfonodd Nantyglo, Beaufort, a'r Blaenau gyn- rychiolwyr o herwydd eu bod yn per- thyn i weithfeydd nad ydynt yn Undeb y Meistri. Y mae yn amlwg oddiwrth y rhestr uchod fod glowyr y gweith- feydd haiarn a Chwm Ehondda heb yr un cynrychiolydd.
PRIF YSGOL CYMRU.
PRIF YSGOL CYMRU. YR ydym bellach w£i dyfod yn hys- bys o weithrediadau Cyngor diweddaf y Brif Ysgol. 0 barthed y Gadair Geltaidd, bwriedir cynal un dosbarth yn wythnosol, a thraddodi darlith ar y pwnc yn achlysurol. Awdurdodwyd y. Llywydd i gyflogi ysgolfeistr trwydd- edig, heb fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth gydag unrhyw enwad, i ddysgu egwyddorion cyntaf rhifydd- iaeth, am y gyfiogheb fod dros X 1.5 o y flwyddyn. Y mae y cofrestrydd a'r llyfrgellydd i gael eu rhyddhau o fod ag un llaw yn y gorchwyl addysgol. Y mae dysgyblaeth y coleg i gael eu rhoddi mewn gweitbrediad gan ddeoii. Y mae Mr. Buckley wedi cael ei wa- hodd i dderbyn yr apwyntiad o atliraw Ilebraeg., ac egwyddorion Groeg a Lladin, a hyny am y gyflog o £250, a'r swydd o ddeon am y gyflog o £100, gydag ystafelloedd a gweision. Y mae y llywydd yn ymgymeryd a dysgu Saesoneg a Llenyddiaeth yn ychwanegol at yr hyn oedd eisioes dan ei ofal. Wedi gorchymyn cael cynllun o'r holl adeilad, a rhoddi byfforddlaiit o barthed gorpheniad nifer o ystafelloedd, mab- wysiadwyd y rheolau canlynol :— 1. Fod pob person a ddymunai gael un neu ychwaneg o fyfyrwyr i letya, i wneud c-ais am hyny trwy gofrestrydd y coleg, fel y gellir rhoddi y cyfryw dy ar y rhestr o letydai cymeradwy. 2. Y bydd yn ofynol i bob myfyriwr letya yn y coleg neu ynte yn un o'r lletydai a gy- meradwyir gany pwyllgor lleol. 3. Fod pob myfyriwr i fod yn ei lety cyn 11 o'r gloch y nos, ac i beidio ymadael o'i lsty wedi yr awr hono. 4. Nad oes yr un myfyriwr i fyned i dafarn i'r dyben o yfed diodydd meddwol. 5.' Fod pob lletywr, ty yr hwn fyddo wedi ei gynler- adwyo gan y Pwyllgor Lleol, i ymgy- meryd ag adrodd i'r awdurdodau nnrhyw ddiffyg mewn cysylltiad a'r rheolau ar j ran y myfyriwr a fyddo yn lletya gydag ef. 6. Fod y myfyrwyr i ymddangog yn yn eu gwisg golegol yn y darlithoedd W 'th eu hymborth, ac ar fin y nos y tu allan i'r coleg. 7. Fod y myfyrwyr a lety- snbyn y coleg i gymeryd eu boreufwyd m 8, ciniaw am 1, te am 5, a swper am 9; drysau y coleg i'w cau am 10, wedi pa amser ni chaniateir i'r un myfyriwr fyn ed allan. Unrhyw fvfvriwr a ddaw i mewn i'r coleg wedi hyny, a hysbysir i'r deon. Y glo a roddir allan trwy docynau gan y cofrestrydd, am y pris cyffredin; a'r myfyrwyr i barotoi eu gjleu eu hun- ain i'w hystafelloedd. Ni chaniateir i un o hcnynt fyned i'r gegin ar un telerau. p.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN. (Allan o'r DAILY News, Llundain.) Mehefin 2G, Middlesborough.Y mae ton masnach yn well nag y bu. Gofynir mwy am pig iron ac y mae gofyn cryf am finished iron." Pan y setlir cyflogau, ac yr aiff prisoedd mor isel ag y gallant fyned, dysgwylir y daw rhagor o waith. Mewn rhai sefydliad- au, y mae llawer o waith mewn llaw. Y mae gohebiaeth yn myned yn miaen rhwng Gogledd Lloegr a Stafford- shire yn ngbylch cyflogau, gan feistri a gweithwyr. Boddlona y meistri i roddi 9s. y dynell i bydleriaid am y tri mis nesaf. Os na chymeradwya y gweithwyr y cynygiad hwn, fod y mater yn myned i gyflafareddiad. Ond y mae y gweithwyr wedi cyfarfod yn Wolver- hampton yr wythnos ddiweddaf, ac wedi penderfynu na dderbyniant lai na 9s. 6c. y dynell am waith "puddling," os nabydd yn cael ei benderfynu i fod yn llai gan lwrddo gyflafareddwyr. Penderfynwyd yr wythnos ddiweddaf gan y meistri yn Staffordshire i leihau pris glo ffwrnesi 2s. y dynell, -gef o 18s. i lis. Y mae y lleihad wedi dechreu er Gorphenaf 1. Penderfynwyd hefyd ar leihau cyflogau glowyr a pheirian- wyr—rai o honynt oddeutu 6c. yn y dydd o leihad. Gorphenaf 1, Birmingham.—Y mae penderfyniad gweithwyr haiarn yn y parthau hyn, gyda golwg ar eu cyfiog, yn debyg o effeithio yn niweidiol. Ofnir y bydd gweithfeydd haiarn yn cael eu can i fyny mewn rhan. SÆ- jdlwyd Bwrdd Cymod, cyfansoddedig y o gynrychiohvyr y meistri a'r gweith- wyr, yn gyfartal mewn nifer. Gwnawd hyn amser yn ol. Yr oedd y Bwrdd hwn i setio pob dadl yn nghylch cyfiog. Ymddengys nad oes gan .gynrychiol- zn wyr y gweithwyr awd urdod i weithredu. Gwrtbodir cynygion y meistri. Gofyna y gweithwyr am gyflafareddiad; ond ofnir, os penderfyna cyflafareddwyr yn eu herbyn, na wnant ymostwng, ac y bydd i strike" gymeryd lie. Tybiry terfyna Bwrdd y Cymod ei fodolaeth. Y mae gló i ddyfod lawr 2s. y dynell. Dysgwylir i bris yr haiarn ddyfod lawr £1 y dynell. —
TREISIO MENYW AR FYNYDD ABERDAR.
TREISIO MENYW AR FYNYDD ABERDAR. Y mae tri dyn ieuanc wedi cael eu trosglwyddo i sefyll eu prawf yn sesiwn nesaf y Sir, am ymosod yn auweddaidd ar fenyw, ar fynydd Merthyr, nos Lun diweddaf. Enwau y troseddwyr ydynt Thomas Thomas, John Evans, a Rhys Nicholas. Enw y fenyw ydyw Re- becca Stevens, gwerthwraig pysgod yn Mertbyr. 4.
COED-DUON.—WEDI EI GAEL YN…
COED-DUON.—WEDI EI GAEL YN FARW. Boreu dydd Sul diweddaf, yn agos i'r llythyrdy yn y lie hwn, cafwyd corff glowr o'r enw Charles Holder yn gor- wedd yn y clawdd, a'i ben yn pwyso ar ei law ddeau. Nid oedd unrhyw ar- wydd o gamchwareu arno. Gadawodd wraig a thri o blant ar ei 01.
DAMWAIN OFNADWY MEWN GLOFA…
DAMWAIN OFNADWY MEWN GLOFA YN CWM RHONDDA. PRYDNAWN dydd Sul diweddaf, cym- erodd damwain ofnadwy le ynNglilofa y Great Western, trwy yr hon y collodd dan ddyn hynod am eu cymeriad da n'u diwvdrwydd, eu bywydau, sef Isaac Williams, nen Isaac Cribyndu, a John Prosser, tanwr. Yr oeddynt ar y pryd yn adgyweirio y ffordd sydd yn cario yr awyr a'r gwres oddiwrth y peiriant i waelod yr upshaft. Yr oedd y gorchwyl yn un peryglus, a guifouid hwynt yn fynych i fyned allan i'r awyr iach. Yr oedd tri eieill yn ymyl yn eu cynorthwyo. Pan yr oedd y ddau fel hyn wrth eu gwaith, daeth cWJmp arnynt, yr hwn a laddodd Prosser yn y man, a chladdwyd y ddau o dano. Rhuthrodd y tri ehyfaill tua'r lie, ond ymataliodd dau o bonynt drachefn. oherwydd trwst cracio yn y top. Modd bynag, aeth David Morgan yn mlaen, a chlywodd Williams yn erfyn am gynorthwy. Yr oedd ei ben allan, ond eigorfr yn rhwym o dan y cwymp. Oydiodd yn ei ben, gan geisio ei lusgo allan. Ar unwaith daeth cwymp arall, a gorfu i Morgan encilio, ond lladdwyd ei gyfaill Williams. Buwyd am rhai oriau cyn cael y cyrff allan. —
CYFARFOD 0 LOWYR YN Y "BRISTOL…
CYFARFOD 0 LOWYR YN Y "BRISTOL TAVERN," LLANELLI Nos Fawrth, yr wythnos ddiweddaf, eynaliwyd cyfarfod gan lowyr Llanelli. Penodwyd Mr. W. Abraham (Mafcon) yn gadeirydd y cyfarfod. Gan fod yr amser yn brin, ac un o'r areithwyr yn rhwym o fyned gyda'r tren, galwodd y cadeirydd ar Mr. Prosser, Aberdar, i anerch y cyfarfod. Mewn araetli fer a gwresog galwodd Mr. Prosser sylw ei wrandawyr at bwysigrwydd yr amser presenol, a'r angenrheidrwydd am Un- deb nerthol i fod yn amddiffyn i ni yn ngosodiad safon y sliding scale. Yn nesaf galwodd y cadeirydd ar Mr. S. Davies, Aberdar, ac aeth Mr. Davies yn fyr drwy hanes y strihe ddiweddaf. Galwodd yntau eu sylw at yr angenrheidrwydd o gydweith- rediad. Ar ol y ddau hyn aeth y cadeirydd dros helynt dyfodol y sliding sccdet a'r hyn sydd yn angenrbeidiol er bod yn barod i gyfarfod y meistri ar y pwnc. Cafwyd cyfarfod rhagorol, a byderwn y bydd ei effaith i'w ganfod ar ol hyn. —
YM WE LI AD MR. EDWIN ROBERTS,…
YM WE LI AD MR. EDWIN ROBERTS, PATAGONIA. DEALLWN fod Mr. Edwin Roberts, un o sylfaenwyr Patagonia, wedi dyfod ar ymweliad a'r wlad hon eto. Er mai Cymro o waed coch cyfan ydyw Mr. Roberts, fel y cly som efyn dwcyd ei hun, cafodd ei ddwyn i fyny yn America, yn mhlith yr Indiaid cochion. Ymwel- odd Mr. Roberts a Chymru o'r blaen yn 1860, er ceisio sefydlu y mudiad. Y mae yn bwriadu aros yn Nghymrir am rai wythnosau, ac yna myned i America a'r yr un neges, sef ceisio dar- bwyllo y Cymry i gymeryd gafael o'r fantais a rydd y wladfa yn eu dwylaw. ♦
TRI 0 DDYNION WEDI EU LLADD…
TRI 0 DDYNION WEDI EU LLADD MEWN GLOFA. DYDD Mawrth diweddaf cymerodd damwain alaethus le yn Nghlofa Coppicefield, Worsley, Manchester. trwy yr hon y collodd John Rushton, James Mallallen, a Peter Morris eu bywydan. Yr oeddynt ar y pryd yn trefnu pa un o honynt oedd i aros yn y lofa, gin fod ganddynt ddigon o lo i'r gyrwyr, a daeth cwymp disymwth arnynt, gan ladd y tri.