Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Y R Arglwyddes Yarmouth a ofynodd unwaith i'r chwareuydd enwog Garrick, beth oedd yr achos fod cariad yn cael ei arddangos bob amser fel plentyn ? "Oherwydd," meddai y bardd, "nad yw byth yn cyrhaedd blynyddoedd pwyU a doethineb." i
BEIRNIADAETII PENILLION I…
BEIRNIADAETII PENILLION I FESTRI NEWYDD BETHEL, TREFORGAN. LLUN Y SULGWYH. ANWYL GYFEILLION,—Yr oedd yn hyfrydwch mawr genyf ddarllen eich cyfansoddiadau. Gallaf eich sicrhau fy mod wedi eu darllen yn fanwl, ac wedi rhoddi barn deg a gonest arnynt o hyd a lied fy nhalent. Edrychwch dros eich cyfansoddiadau, a chewch weled y beiau wedi eu nodi genyf. Di- ameu genyf nas gallaf eich boddio oil, ond gallaf sicrhau fy mod wedi gwneud y cyfan gyda mynwes dawel. Daeth pump o gyfansoddiadau i mewn, yn dwyn y ffiigenwau canlynol: —Eryr ar y Graig, Barfog Alaw, Un a fagwyd yn Dreforgan, Llai na'r Lleiaf, ac Un o'r Plant. Nid wyf wedi en dos- barthu yn ol eu teilyngdod yn y feirn- iadaeth, ond fel y dygwyddodd i mi eu darllen. Dechreuwn gyda Barfog Alaw. Y mae yr awdwr hwn yn dechreu ei gyf- ansoddiad gyda dangos fod y festri iddo ef a'r plant Yn fantais i gael cwrdd mewn hedd, I ganu 'nghyd, o byn eawn wledd Wrth deithio anial wlad.' A dyna ydyw ei benillion bron i gyd, sef y mwynhad y mae ef a'r plant wedi ac yn ei gael. Y mae yn wir ei fod yn cyffwrdd fod y festri yn gyfleusdra i ddyn colledig i gael gras, ond y mae yn rhy emynol. Hefyd, y mae yn myned i eithafion er dangos y festri, sef 4 Pob dawn o bonot sydd yn glir, Yn harddu tref a gwiad." Ac mewn man axall, • O babell dlos, o drigfan glyd Prydferthat wyt o fewn y byd.' Y mae hynyna yn ormodiaeth am Festri Treforgan, er mor dlos a hardd ydyw. Y mae yn nodi fod yn yr adeilad rhyw feini mawrion yn y mur, a thrawstiau cryfion yn y nen. Gellid meddwl wrth y bardd fod yr adeiliad yn rhyw anferth o faintioli. Y mae y sillebiaeth yn dda ar y cyfan, rhyw wall neu ddau. Eryr ar y Graig.-Y mae llawysgrif dda gan yr awdwr hwn, end y mae ei benillion yn fwy priodol i'r capel Ra'r festri. Y mae wedi gosod y testyn uwchben y penillion, a dyna yr oil, ac yna gadawa yr adeilad. Dyfynwn yma y penill cyntaf: Hardd adail ardderchog, hoff driglo y Duwdod, Yw'r adail nas gellir gwel'd unrhvw anghydfod Porth enwog, godidog, i euraidd heolydd, A phorth yn dysgleirio fel gwlith y boreuddydd Ha gorsedd wen fawr y nef welir yno A Christ ein Gwaredwr, ein Ceidwad, i'n gwylio, Mae fel goruwch ystafell yn Ilawn o bob mawredd, Ac afon y bywyd a dardd dan ei gorsedd.' Rhywbeth o'r un natur ydyw y ddau benill arall, fel y gellir eu gosod yn fwy priodol i'r hen gapel, neu yn wir i un- rhyw gapel arall. Hefyd y mae yr awdwr hwn yn gosod llythyren arben- igol (capital letter) mewn manau nad oes an gen, ac yn gadaely cyfryw lythyren allan mewn manau y mae ei heisieu, megys yn y gair Crist, Ceidwad, yn y 6ed llinell o'r penill ddarllenasom, a'r seith- fed llinell sill yn rhy hir. Yn yr ail linell o'r penill diweddaf, dd fechan yn lie un arbenigol, ac yn y gair Iluoedd, 11 fechan yn lie un arbenigol. Y mae tor mesur yn yr un llinell, sef fry, fry. Buasai un fry yn ateb dyben. Os mai cyfansoddwr ieuanc ydyw, na fydded iddo ddigaloni, ond ymdreched i ddeall eidestyn, yn nghydag iaith briodol, a daw yn gyfansoddwr da. Un fagwyd yn Dreforgan. De- chreua yr awdwr hwn yn dda dros ben. Y mae y penill cyntaf yn gryf, ac yn arwyddo fod yna feddwl, yr hwn a ddi- fynwn: 0 fewn i hen ardal anwylaf Treforgan, Canfyddaf adeilad wir drefaus ae hardd, Ac ul llaw celfyddyd i' w gwei'd ar y muriau Sy'n denu hon sylw ac awen y bardd. Cyn rhoddi un gareg i lawr o'r adeilad Arfaethu y cynllun 'roedd meddwl y dyn.' Nid yw yr ail benill na'r trydydd gystal. Pe buasai yr awdwr hwn wedi cyfan- soddi y ddau olaf gystal a'r cyntaf, buasai yu lied debyg o dynu am y dorch; ond y mae yr un syniad ganddo yn niwedd yr ail benill ag sydd yn y penill diweddaf trwyddo, a'r penill diweddaf fel wedi ei gyfansoddi i lanw i fyny, er gwneud tri phenill i fod yn unol a'r rheol. Pe buasai dau benill yn gystadleuol yn He tri, buasai hwn yn gyfansoddiad gweddol. Y mae yr awdwr hwn yn caru treiglo llythyrenau, sef c yn lIe g yn y linell gyntaf o'r ail benill, a'r ail linell o'r un penill digryn yn lie ddigryn. Yn y gair arweinydd, i yn y sill olaf yn lie y, fel y gwelir. Hefyd y mae sill yn fyr yn y llinell gyntaf o'r penill diweddaf, a'r gair tyr'd p Z,3 yn anmhriedol. Os mai ieuanc ydyw, efe a all ddyfod ond cymeryd amser i gyfansoddi. Y mae ol brys ar y cyf- ansoddiad. Llai na'r LIeiaf.- Y mae penillion yr awdwr hwn yn lied naturiol a tharaw- iadol, eto y mae ynddynt rai brycbau yma a thraw. Y mae iill yn rhy fyr yn y seithfed linell fel y mae gan yr awdwr, o herwydd y gair gweddio. Pe gosodai ddau dot uwchben yr i er gwneud ygairyndair sill, byddai hyay yn well, canys y mae hyn yn ganiataol. Y inae ganddo sillgoll rhwng yr y'm yn y llinell nesaf, yr hyn sydd anmhri- odol. Yn y chweched llinell o'r ail benill, t yn lie d yn y gair teilwng, a sill yn rhy fyr yn y seithfed. Ond er y brychau, y mae y penillion hyn yn dda iawn. Diwedda trwy alw pawb at eu dyledswyddau er talu y ddyled sydd yn aros ar y festri. Un o'r Planf.—Dyma gyfansoddiad da, er nad yw o feddyliau cryfion a barddonol. Ar y cyfan y mae yn ddi- llyn a thlws, ac yn gymedrol yn ei weithiad allan. Dechreua yr awdwr bwn yn union ar ei destyn trwy ddangos fod y pwyllgor wedi ei neillduo. Mae ganddo ddau wall, sef i yn lie e yn y gair canmoliaeth, a p yn lie b yn y gair penderfynol. Gallasai yr awdwyr osod pethau i mewn er gwneud cyfansoddiad llawn- ach nag y mae wedi ei wneud. Nid oes yr un wedi cyffwrdd a phrif amcan adeiladu neuadd o'r fath. Amcan adeil- adu festri yn nglyn a chapel yn gyff- redin yw cynal y gwahanol ordinhadau crefyddol. Dyna un amcan mawr er addysgu y plant yn fwy effeithiol, trwy eu neillduo gyda eu gilydd, yn debyg i'r dull sydd gan yr athraw yn yr ysgol ddyddiol. Ondyn unol a'r cyfansodd- iadau sydd wedi dyfod i law, rhaid i mi ddyfarnu y wobr yn bresenol; a chan nad wyf yn methu canfod un o'r ddau ddiweddaf yn rhagori y naill ar y llall, sef Llai na'r Lleiaf ac Un o'r Plant, nid oes dim yn well na rhanu y wobr rhyngddynt. Carwn roddi pob cynorthwy i'r cyfansoddwyr i ddringo i fyny, a gobeithio y bydd fy sylwadau yn symbyliad iddynt i ymdrechu yn fwy egniol yn y dyfodol. Cymerwch bob peth yn garedig, canys ni charwn ysigo neb. Byddai yn well genyf beidio gwneud dim na bod dim o'm eiddo yn rhwystr i chwi i ddringo grisiau enwog- rwydd. Ydwyf, yr eiddoch, gyda y serchog- rwydd mwyaf, eich cydlenor, GWILYM DDU 0 WENT. -— 4
Y PHILOSOPHYDDION GROEG-AIDD.
Y PHILOSOPHYDDION GROEG- AIDD. (Parhad o'r rlufyn diweddaf.) ARISTOTLE a aned yn Stagira, dinas yn Macedonia, yn y flwyddyn 384 cyn Crist. Efe a aeth yn gyntaf i-Athen, i ddysgu Philosophyddiaeth i ysgol Plato, pan yn nghylch dwy ar bymtheg oed a thrwy ei ddiwydrwydd, daeth yn fuan y penaf yn yr ysgol hono. Wedi i Aristotle fod am flynyddoedd yn athraw i Alexander Fawr, dy- chwelodd i Athen, ac agorodd ysgol yn y Lyceum, lie y sefydlwyd y Sect a elwid Peripatetic am yr arferai roddi ei lithiau wrth gerdded neu rodio. Edrychir ar Aristotle fel y dysgedicaf o'r hynafiaid. Ei lyfrau ydynt luosog, ond y mwyaf derbyniol ydyw ei waith ar Resymeg, Areithyddiaeth, a Llywod- ddysg. Eiddigeddwyd wrth Aristotle, fel wrth bob dyn arall a ddringauwch- law y werin; acbwynwyd ei fod yn an- nuwiol; a rhag iddynt ei drin fel y gwnaed a Socrates, efe a ffodd i Eu- boea, lie y meddylir iddo farw, yn mhen ychydig fisoedd, o ofid. Antisthenes, Atheniad, ydoedd seil- ydd y Sect a elwir y Cynic. Rhoddai bob dedwyddwch mewn rhinwedd, a rhinwedd mewn diystyrwch o gyfoeth a mwynderau y bywyd presenol. Dysgai Resymeg, ac yr oedd Diogenes yn mhlith ei ysgolheigion. Pan glywodd efe Socrates, cauodd ei ysgol, a dy- wedai wrth ei ysgolheigion, Ewch, a chwiliwch i chwi eich hunain am feistr; yr wyf fi wedi cael un.' Gofynodd un o'i ysgolheigion iddo, pa beth ydoedd Philosophi wedi ei ddysgu iddo; yntau a atebodd, "Byw gyda mi fy hun." Gwerthodd yr hyn oil a feddai, ac ni chadwodd ddim ond hen hugan dyllog, yr hon a dynodd sylw Socrates^ yr hwn a ddywedodd wrtho, Antisthenes, mi a welaf dy falchder trwy dyllau dy hugan." Yr oedd Diogones yn cario twba mawr ar ei ben, yr hwn a'i cys- godai rhag gwres yr haul yn y dydd, a than hwn y gorweddai y nos. Yr oedd sylw mawr yn cael ei wneuthur o hono, a daeth Alexander Fawr i ym- weled ag ef, a gofynodd i Diogenes, a oedd rhywbeth a allasai efe wneuthur iddo. "Dim," ebai Diogenes, "ond myned o'r goleu." Trodd Alexander at ei weision, a dywedodd wrthynt, I "Pe na byddwn Alexander, mi a ewyllysiwn fod yn Ddiogenes." Bu y Sect hon farw yn fuan ar ol Antis- thenes a Diogenes. Zeno ydoedd enedigol oynys Cyprus, ac efe ydoedd sylfaenydd Sect y Stoic- iaid. Y sect hon ydoedd yr ardderch- ocaf o'r holl sectau; oblegyd y mae y Stoic gwirioneddol yn dilyn rhinwedd o reddf, ac yn ymarfer a daioni o ewyllys. Y rhai enwocaf yn mhlith y sect hon oeddynt Epictetus a Seneca. Ganed Zeno yn nghylch 300 ml. C.C. Yr Ysgol Italaidd a sylfaenwyd gan Pythagoras, yn nghylch pum can mlynedd cyn Crist. Gwnaeth anrhyd- edd mawr i Groeg, a Ilawer o ddaioni i'r Eidal. Pythagoras a ddygodd i'r gyfran orllewinol o'r byd, o'r dwyrain, yr atbrawiaeth o drawsfudiad eneidiau; sef, os byddai i ddyn arwain buchedd ddrygionus yn y byd, y byddai i'w enaid fyned i ryw greadur aflan pan fyddai marw. Pythagoras a'i ganlyn- wyr ni fwytaent gig, rhag iddynt wrth hyny fwyta eu cyfeillion a'u perthyn- asau. Ychydig a wyddom ni yn awr am athrawiaethau Pythagoras. Epicurus ydoedd Philosophydd nod- edig, a sylfaenydd y Sect Epicuraidd, ac yn enedigol o Gargettus, yn Attica. Anfonwyd ef yn ieuanc i'r ysgol, yn yr hon y daeth i sylw buan oblegyd ei athrylith. Athrawiaeth wreiddiol Epi- curus ydoedd, bod dedwyddwch dynol- ryw yn gynwysedig mewn pleser; ond nid y pleser deilliedig oddiwrth nwyd a drygioni, ond pleser oddiwrth fwyn- had y meddwl, a melusderau rhinwedd. Ond cymerodd rhai o'i ganlynwyr y peth yn y ffordd ddrwg, gan ystyried mai unig bleser dyn ydoedd cyflawnu holl ddymuniadau ei galon. At y rhai hyn y cyfeiria St. Paul, athrawiaeth y rhai ydoedd, Bwytawn ac yfwn, canys yfory marw yr ydym." Llanfair. D. +
LLYFRGELL Y BWTIIYN.
LLYFRGELL Y BWTIIYN. PENOD VI. YN 1817, pan yn 79 mlwydd oed, trall- odwyd West gan farwolaeth ei wraig, yr hon a fu am fwy na 50 o flynydd- au yn gydymaith ffyddlon. Teimlai bwysau henaint, ond parhaodd i ddilyn ei alwedigaeth. Eisteddai yn mhlith ei ddarluniau er fod ei law wedi colli ychydig o'i manylrwydd, a pharhaodd i sketcho ac i arlunio. Or diwedd, ar yr lleg o Fawrth, 1820, heb un- rhyw afiechyd parhaol na diffyg meddyliol, bu farw yn 82 mlwydd oed, mewn hoenusrwydd gydag edrychiad tawel a charuaidd. Claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol St. Paul wrth ochr- au Reynolds, Opie, a Barry. Dygwyd y pall gan bendefigwyr, prif genad- on, ac athrofawyr-ei ddau fab a'i wyr oedd y prif alarwyr; a dygwyd yr or- ymdaith ardderchog i fyny gan dri-ar- hugain o gerbydau. Nid oedd West uwchlaw taldra cyffredin, ac o bryd a gwedd teg iawn, gyda thalcen llyfn a llygad treiddgar. Yr oedd yn amyn- eddgar, trefnus, a diwyd rhyfeddol. Gadawodd uwchlaw 400 o arluniau a sketches mewn olew, llawer o honynt o faintioli mawr, heblaw y ddau cant o ddarluniau gwreiddiol yn ei portfolio. Gwnaethpwyd allan drwy gyfrifiad y buasai yn angenrheidiol i gael esgyn- lawr o 400 troedfedd o hyd, 50 troed- fedd o led, a 40 o uchder i gynwys ei holl gynyrchion. Mewn nifer mor fawr o gynyrchion, rhaid fod amryw- iaeth ryfeddol mewn perthynas i'w teil- yngdod. Os nad oedd ei athrylith o'r fath uchaf, yr oedd yn hynod gynyrch- iol, ac weithiau ymddangosai yn rha- gori arno ei hun. Y mae critics o safle uchel wedi ei restru y mwyaf enw- og yn oes yn mha un y bu yn byw. Yn y Death on the Pale Horse a baentiodd,pan yn agos i bedwarugain mlwydd oed, medd Cunningham, ac yn fwy neillduol yn ei sketch o'r dar- lun hwnw, gwnaeth fwy nag agos- hau at feistri.a thywysogion yr alwed- igaeth. Yn wir, y mae yn ddychryn anwrthwynebol i weled cerddediad buddugoliaethus y lledrith brawychus. Rliyfel ao heddwch, tristwch a gor- foledd, hen ac ieuanc, pawb sydd yn caru ac yn cash an, a ymddangosant yn ddychrynedig. The Death of Wolfe hefyd sydd naturiol ae arwr- aidd, a'r penaeth Indiaidd yn debyg i zn 'Oneida Warrior Campbell," "A < 1 stoic of the woods—a man without a tear oedd ddrychfeddwl h apus. The Battle of La Hogue clywais gan- moliaeth iddo fel y darlun hanesyddol blaenaf o'r Yegol Frytanaidd, gan un nad yw yn debygol o fod yn gwneud 8amgymeriad. Gwerthwyd picture gallery West wedi ei farwolaeth am y swm o £ 25,000. Un o'r llinellau mwyaf edmygol yn y painter mawr hwn oedd ei gymeriad moesol a di- halog. Ymddengys hyn yn ei des- tynau, pa rai a ddewisodd i ymarferyd ei bwyntel. Yr oeddynt yn destynau o fudd—gweithredoedd arwraidd, dy- gwyddiadau hanesyddol cysegredig, buddugoliaethau gwladwriaeth a rhin- wedd. Yn awr, terfynwn, gan obeithio nad yw'r darllenydd wedi methu cael yr hyn oedd yn ddysgwyl wrth ddarllen. Cei rywbeth yr wythnos nesaf eto o'r Llyfrgell.
YSTAFELL Y MYFYRDOD. --7-
YSTAFELL Y MYFYRDOD. --7- PENOD III. DIAD fod amryw o'r darllenwyr, y rhai. sydd yn mwynhu eu horiau hamddenol yn ystod tymor yr haf yma ar hyd y meusydd, yn cael eu blino gan greadur- iaid bychain a elwir morgrug, ac er mwyn cyfiroi ychydig ar chwilfrydedd y darllenydd, ni a wnawn ychydig o sylwadau arnynt. Ceir fod pedwar math neu rywogaeth o honynt. Gel- wir y cyntaf Termites -Bellicostts, neu Belligerent Termites. Gwna y rhai hyn eu nythod yn fawr a helaeth ar dyrau bonbraff brigfain, yn 12 troed- fedd oddiar y wyneb, a chymaint a hyny odditanodd. Yr ail rywogaeth yw'r morgrug angeuol (fatal termites) Nythau y rhai hyn ydynt debyg i'r lleill, ond nid mor uchel. Eu han- rhaith sydd fwy angeuol, a'u brathiad yn fwy gofidus a pheryglus. Y trydydd rhywogaeth a wnant eu nythod ar ddull twr, tair troedfedd o uchder a throed- fedd o dryfesur, ac yn debyg i dorth siwgr, a'i ben wedi ei orchuddio, a'r to yn taflu rhai modfeddi dros ei ymyl, i'r dyben i gadw ymaith y gwlaw; a'r pedwerydd rhywogaeth yw'r Termites dyfethgar, y rhai a wnant eu nythod o amgylch cangau coed. Rhyw bedair ran o fodfedd o hyd ydyw y Termites Bellicosus, tra y mae eu tai yn 12 troedfedd o uchder, y rhai a drefnant eu gwaith yn rhyfeddach na'r gwenyn, y cacwn, ac anifeiliaid ereill, o ran cyw- reinrwydd a destlusrwydd. Er fod y rhan allanol o'r adeilad yn edrych yn hardd, eto, rhagora y rhanau mewnol, megys yr ystafell freninol, y feithrinfa, trysorfa yr ymborth, y neuadd, a'r lloftydd, yn nghydag amryw fwaau yn croesi, i'r dyben o fyrhau y ffordd i am- rywiol barthau yr adeilad. Mewn rhai manau y mae eu hadeiladau mor ami a Iluosog nes yr ymddangosant yn debyg i bentrefi, lie y trigant mewn heddwch a chariad parhaus. Ceir trefniadau rhyfedd yn mhlith y creaduriaid hyn hefyd, i'r dyben o gadw trefn a chadernid eu llywodraeth. Mae eu llywodraeth yn gyfansoddedig o lafur- wyr, milwyr, a boneddigion. Mae'r llafurwyr yn lluosog iawn ceir cant o'r rhai hyn am bob un o'r milwyr, y rhai nid ydynt ond pedair ran o fod- fedd o hyd, ac ni phwysa 25 o honynt ond un gronyn. Y milwyr yw yr ail radd, y rhai ydynt wahanol i'r llafur- wyr. Tybir gan rai awdwyr enwog mai gwrywaid yw y rhai hyn oil. Y trydydd gradd yw y boneddigion, y rhai sydd yn gwahaniaethu oddiwrth y ddau ddosbarth arall. Mae gan y rhai hyn bedair o adenydd mawrion o liw llwyd-loyw; a defnyddiant y rhai hyn i hedeg ymaith er sylfaenu gwlad- wriaeth newydd. Dywedir fod un o'r rhai hyn gymaint a dau filwr, a deg ar hugain o'r llafurwyr. Dywed un ys- grifenydd am danynt Pan dorir bwlch yn mur eu dinas, y milwyr a ymddangosant yn rhodio o'i amgylch fel i weled a fydd y gelyn wedi myned ymaith, neu a fydd yno berygl: os rho'ir ergyd i'r bwlch eilwaith i'w wneud yn fwy, rhuthrant allan mewn terfysg a chyffro, gan guro a thrystio hyd y gallant. Ond os na fydd perygl ychwanegol, dychwelant hwy i'w cas- tell; ac yn ebrwydd daw'r llafurwyr, y rhai a brysurant mewn amryw ffyrdd tuag at y bwlch, a phob un a baich o gwmrwd (mortar) yn ei geg, ac er fod miliwn o honynt, ni rtvystrant eu gil- ydd. Mae milwr yn edrych ar ol pob 600 neu 1,000 o lafurwyr, ac yn ym- ddangos fel goruchwyliwr y gwaith; ac y mae un yn aros yn ymyl y bwlch, yr hwn ynfynych a wnaswn rhyfeddol, ac a atebir gan adsain oddiwrth yrhol! lafurwyr; yna, ar ol y swn, maent yn dyblu eu diwydrwydd, ac yn gweithio mor gyflym ddwywaith, a chyn hir bydd y bwlch wedi ei gau mewn amser byr." Gall dyn gymeryd gwers bwysig oddi wrth y rhai hyn heblaw y wers o ddi- wydrwydd, sef peidio chwenych eiddo ei gymydog, oblegyd nid yw y rhai hyn byth yn ymrafaelio am swyddau eu gilydd. Ni weithia y milwyr ddim, ac ni ryfela y llafurwyr er maint fyddo y perygl. Nid ymhelaethaf ragor, gan hyderu fod hynyna yn ddigon i gyffro meddwl y darllenydd ichwilio yn mhell- ach i'r mater, ac yr wyf braidd yn sicr y ca ei foddloni yn y gorchwyl. I Yr eiddocb.—CoFNODYDD.
+ MANION Y "DARIAN."
+ MANION Y "DARIAN." DIWEKOD. PEDAIR awr ar hugain yw diwrnod naturiol yn cael ei gyfrif gan genhedl- aethau y ddaear yn gyffredinol; ond nid yr un amser yr arferir dechreu a diweddu y dydd gan yr amrywiol genedlaethau hyn. Yr hen Fabilon- iaid, a'r Persiaid, a'r Syriaid, a'r rhan fwyaf o'r cenedlaethau dwyreiniol, a ddechreuant y dydd gyda chodiad yr haul. Yr ben Atheniaid, a'r Iuddew- on, &c., a ddechreuent ar fachludiadyr haul; yr hwn arferiad a ddilynwyd gan yr Awstriaid, Bohemiaid, Italiaid, Chineaid diweddar, &c. Yr Arabiaid a ddechreuant eu dydd am ddeuddeg o'r gloch yn y boreu, fel yr arferai yr astronomyddion diweddar. Yr hen Aifftiaid, Rhufeiniaid, &c., a'i dechreu- ent ganol nos, yr hwn ddull a ganlynir gan y Prydeiniaid, Ffrancod, Ellmyn- iaid, Is-Ellmyniaid, Ysbaeniaid, a Phortugaliaid. Ond pwy sydd iawn ?
"DIAREBHM.
DIAREBHM. 1 Dynion doethion a da sydd yn gwneuthur deddfau, ond ynfydion a thwyllwyr sydd yn achosi iddynt eu gwneud. 2. Y mae'r helyg yn wein- iaid, ond y maent yn rhwymo coed ereill. 3. Lie y mae'r ewyllys y mae'r gallu. 4. Pan fydd o'r tywvdd yn deg ac yn braf, gofalu y pryd hyny am fy mantell a wnaf. 5. Mae'r pren a ddeil wynt cryf, yn gwreiddoyn fwy cadarn. G. Na thafl arian da ar ol rhai drwg. 7. Y daran sydd yn rhuo, ond y fellten sydd yn taro. 8. Hadau esgyll sydd yn ehedeg. 9. Mae'th ddirgelwch yn was i ti, hyd nes y dadguddi ef, ac yna yr wyt ti yn was iddo ef. 10. Canmol ddiwrnod teg gyda'r nos.
ACABA A'R MEUDWY MAHOMETAIDD.
ACABA A'R MEUDWY MAHOMETAIDD. Penaeth JIwyth ysbeilgar yn Arabia, oedd Acaba. Yr oedd ei drysordai yn llawn obob matho nwyddau agyroedd wedi eu lladrata. Er hyny, nid oedd heddwch yn ei fynwes. Un diwrnod, daeth at Benacmet, meudw hynod am santeiddrwydd, ag oedd yn byw mewn anialwch yn Arabia, a dywedodd wrtho, "Mae genyf bum cant o gledd- yfau wrth fy arch, a chaethion yn ddi- rif i wneuthur fy nghair, a thysorfeydd llawn o arian ac aur, mynega i mi, os gelli,beth a allaf gael yn ychwaneg, feI y caffwyfobaitb am fywyd tragwyddol." Arweiniodd y meidw ei at lwybr garw a serth wrth droed y mynydd; dang- osodd iddo dair careg fawr, a gorch- ymynodd iddo eu codi a'u cludo ar eiol ef i ben y mynydd. Cododd Acaba y cereg, ond yr oeddynt mor bwysig, fel nad allasai braidd symud cam o dan lwyth mor drwm. Gorfu arno en gollwng i lawr un ar ol y Hall, ac yna dringodd y mynydd yn ddigon rhwydd. Fy mab," ebe y meudwy, wedi iddynt eistedd i lawr ar ben y mynydd, "y mae genyt faich triphlyg yn dy rwystro i rodio ar hyd y ffordd sydd yn arwain i fyd gwell. Mai genyt haid o ladron dan dy lywodraeth, caethion lawer yn dy wasanaeth, a golud anghyfiawn yn dy feddiant. Rhaid i ti ddanfon ymaith y llwyth ysbeilgar, gollwng dy gaethion yn rhydd, ac adferu yn eu hoi y trysorau a ladrateaist. Hawddach i ti ddringo i ben y mynydd uchel hwn, a'r tair careg bwysig hyny ar dy ysgwyddau, na chyrhaedd dedwyddweh yn dy allu, yn dy chwantau, nac yn dy gyfoeth." Ufyddhaodd Acaba i'r meudwy.