Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
CANTu DYFFRYN ABERDAR.I
CANTu DYFFRYN ABERDAR. I DIGON tebyg fod son am gami dyffryn Aberdar* trwy jG-ytnru benbaLidr, ond yn fwyaf neillduol, efaliai, y canu corawl, a hyny am eu bod wedi dyfod allan yn fuddngoliaethus o lawer yrndrechPa galed; ond y maent bellach fel wedi cael digon ar gystadleuaeth, ac wedi troi eu talectau i vaddau i gyfeiriad arall—cyfeiriad ng sydd, yn ol barn y dynian mwyaf clasurol. yn well ao yn fwy adoiladol i ddynion ieuainc, trwy eu dwyn i chwaeth burach a mwy clasurol yn y gangen werthfawr a phwysig hon o Yroedd y cyrsgherddau' hyn yn profi fod yr ardal yn gwerth- fawrogi canu da, a chanu cysegredig —yr oedd anil i un o hen gerddorion yr ardal yn ymfalchio wrth weled y garigen hon yn myned ar ei chynydd—cangen ag y buont hwy yn ymdrabaeddu llawer yn ei chylch cyn geni ein haner; ond er cyma-bt y mac wedi gwella, gellir dy- wedyd, er hyny, ond eto, mae lie." Ond y mae lie i ofni fod y canu cor- awl, i raddau pell, yn llyncu y canu cynulleidfaol. Esgeulusir y rhan hon o wasanaeth crefydd trwy ladrata yr amser i ddysgu pethau ereill. A ydyw ddim yn bosibl cael rhywbeth yn y dyffryn hwn tebyg i'r hy'n sydd yn cael ei gynal yn ami mewn gwahanoi fanau yn y Gogledd, sef rhyw fath o gymanfa gerddorol, neu debyg i'r hyn fu wrth balas Mr. Fothergill yn amser priodas Tywysog Oymru—yr boll ysgolion yn cydganu nes oedd yr boll ddyffryn yn diaspedain gan eu lleisiau soniarus." Dywedais a yw yn bosibi. Y dyw y mae yn bosibi, ond cael blaenoriaid ein canu a blaenoriaid ein cynulleidfaoedd i gymeryd v-l)ivii- mewn llaw. Mae yn drueni na fyddai mwy o sylw yn cael ei dalu i'r c.nu cynulleidfaol: ar yr un pryd, nid oes augen esgeuluso y canu cora-wl. Gyda gofal ac ymdrech, gellid cyflawni y ddau orchwyl. Beth po caem gan holl gorau dyffryn Aberda,r-o Hir- wain i Mountain Ash—i gynal un gy- manfa gerddorol yn yr "L--f dyfodol. Peth a ellid ei wneud yn rhwydd yw, dim ond cael ewyllys at byny. Gailai rhywbeth o'r fatb fod yn symbyliad i'n canu cynulleidfaol. Beth pe byddai holl gorau Mountain Ash yn myned yn un cor, Aberaman yn un cor, Aberdar yn un cor, Trecynon yn un cor, a Hir- wain yn un cor. Yr ydym yn cael ei bod i fod yn wyl fawr gyffredinol yn Am erica. Beth pc baera ninan yn cael gwyl yn Aberdar? Beth ddywed ein blaenor- iaid canu am rywbeth fel yr uchod gyda chwanegiad ato, neu dyniad oddiwruho ? Dyna ni wedi taflu rhyw awgrym. Beth ddywed R. Morris, Hirwaun; D. John, Trecynon Rees Evans, Gwi- lym Cynon, neu Daniel Griffiths, Aber- dar; Hywel CYDon a'i frawd, Aber- aman; ac Eos Ilefin, Mountain Ash, am hyn ? A fyddai hyn neu rywbeth tebvg vn symbyliad i'n canu cynulleid- faol ? U Terfynaf ar byn yn bresenol, gan hyderu y cymer rhai o'r cewri y pwnc dan eu hystyriaethau. Yr eiddoeh yn rhwymau awen a cbaa.—IIojfwe Canu.
LEO, MOUNTAINASH, A'I GYDBLEIDWYR.
LEO, MOUNTAINASH, A'I GYDBLEIDWYR. MAE dfa-Ilen y DARIAN am yr wythnos ddiwjddaf wedi rhoddi esboniad cyf- lawn ar yr hyn sydd yn cael ei gredu gan filoedd y dyddiau hyn, sef fod an- wybodaeth yn gosod dynion i gyflawni yr hyn sydd yn hollol groes i'r hyn y dylai pethau fod. Gwelwch mor hyf y mae Leo wedi traethu ei farn. Ond pa fath farn yw, rhaid barnu wrth ei lefer) dd. Mae yn ymddangos mai ar- wynebol iawn yw'r dosbarth yna, os yw pav/b o'r un dalent ag ef; a mawr y fatb broffiwyd yw Leo Er mwyn gwel- ed a deall, rhaid i chwi brynu y Daman am yr wythnos ddiweddaf, a gobeithio y bydd i Mri. Gol rod yn fwy gofalus yn y dvfodol i adael beidio hud-dwyllwyr i ymyraeth dim ond a'r hyn a berthyn idd- ynt. Beth a olygai wrth y gwr sydd yn defnyddio y nodwydd ? Mae ei frawddeg yn hynod aneglur, gan fod yma ddau ddvn o'r cymeriad y sonia am danynt- un yn byw yr ochr ddeau i afon Cynon, a'r llall yr ochr aswy—un o honynt yn awr yn byw ar yr hyn a enilla trwy'r nodwydd, a'r llall wedi rhoddi heibio defnyddio y nodwydd, ac wedi ymgy- meryd a swydd arall—un yn gwneud ymdrech i ymddyrchafu trwy ei allu ei hun, a'r llall wedi gwneud yn hollol wahanol; ac y mae llawer un o'i bleid- wyr yn canu o'i flaen, fel y rhai hyny gynt, ac yn gwaeddi "gwelwch ddyn!" Yn awr, Leo, rhaid ay gyfnewid di a'th gydbleidwyr—nid trwy ddwfr, oblegyd y mae hyny wedi methu, ond trwy elfen sydd lawer eryfach, ac yn Jlawer iawn gwell, a mwy, yn ol trefn y Bod Mawr. Leo,oni fyddai yn ddoethach i ti yn y dy« fodol wneud penderfyniad i edrych mwy i wirionedd yr achos cyn ysgrifenu dim ar y pwnc. Ti weli, erbyn hyn, y fath ffyliaid ydygh un ac oll-hyny yw, y blaid Leo loliaid. Yr ydych yn destyn gwawd pob creadur o ddyn sydd wedi teimlo erioed ei fod felly mewn gwirionedd. Y mae gan bob dyn farn, ae efe ei bun fydd yn gyfrifol am hyny; ond y mae Leo a'i gydymhonwyr wedi cyhoeddi nad oes a fyiio neb a barn ond hwy, ac y maent yn honi hefyd nad rheol gwlad a chynideithas yw'r rheoli weithredu wrthi. Bydded hysbys i ti, Leo, a"th frodyr, nad gelyniaeth bersonol tuag atoch a acbosodd i mi ddweyd goir, ond eich an wybodaeth o'r achos ydych wedi ym- yraeth ag ef. ISTa ryfeddwch i mi ddy- wedyd y pethau byn wrthych; ond y mae yn rhaid eich ffiangellu a gwialen gwirionedd, gan byderu y gwna ateb dyben i'r hyn fwriadwyd idao fod. Ern-E, x Goedwig.
TYSTEB I MR. J. JAMES (IOAN…
TYSTEB I MR. J. JAMES (IOAN IAGO), CROWN HOTEL, ABERDAR. Yn y Crown Hotel, nos Eawrth, y 4ydd cyfisol, cyfarfu Cyfrinfa Meillionen Glan Cynon, ac aelodau o gyfrinfaoedd ereill o urdd yr Odyddion, er cyflwyno tysteb o dlwb aur i'w thrysorydd, am ei ymdrechion diflino i ddyrchafu a llwyddo y gyfrinfa a gynhelir yn ei westy. Am 8 o'r gloch, cymerwyd y gadair gan y Parch. D. Brythonfryn Griffiths, a'r is-gadair gan y difyrus frawd Gwron Dar. Yn ystod y cy far fod, siaradwyd am rinweddau, ymdrechion, a diwyd- rwydd Mr. James er llesoli y cyfrinfa, gan y cadeirydd, yr is-gadeirydd, y Mri. Thomas John, Medlicot, D. Griffiths, Dr. Walters, Trecynon; G. ab loan, Parr, Joseph Price, Wm. Denis, a Dan John. Anrhegwyd Mr. James a'r Tlws ■ •Aur gan Mr. Davies diolchoddyntau am dano mewnaraeth wresogaphriodol. Ac er dlfyru y gwyddfodolion, dadgan- odd y Mri. Huw Roberts, S. Hewes, Johnny Thomas, a Mor gan Evans, adar- llenodd G. ab loan yr englynion can- lynol o'i waith ei bun. libin a geir yn y Goron,—llawenydd Nes lloni pob calon Pwv'n ail sydd i'r Odyddion, 0 ran serch drwy'r ynys hon. Onid iawn y dyvvecydd,—a'u bri yw Gwobrwyo'r trysorydd Gwr i ni yw'n garenydd, Ga air da tra gwawrio dydd. Hhyw Dlws AnI' hudolwi yw,-i'r siriol Ur3'Sorydd difryfryw Mai od barch, neu deimlad byw Ei frodyr,—un pefr ydyw. Nid rhyw aur wedi oreuro.—aur pur Yw er parch mawr iddo A rbodd weeh yn arwydd o Bur degwch y brawd lago. Am ei riniau ef, hefyd—ei gariad, Ai rngorol fy wyd Y sit iol Dlws Aur sieryd, Ei werth, a'i barch wrth y byd. Hwn erys yn anr pan wyro—i'r bedd, Yn wir barch o hono Yn daenawl got' fltn dano, Ei adael fcdd a'i awdl ro. I waered o wyr i wyyon-nr bynt, A rhes hdyc1dion; Ar hoedd yr a rhodd aur lion, Tra Gwalia'n nawdd trigolion. Wedi bir a diwy4 bau—vn y byd Hwn, a byw'n llawn rhiniau Driugsd UWCil rhandir angau, 1'r nef bur dirionaf bau. G, AB lOAN.
!TRWMSARAK
TRWMSARAK Adnabyddir y lie hwn wrth yr enw uchod er yr eilfed ganrif ar bymtheg, a hyny o herwydd y weithred anfad a gyflawnwyd yn yr hen balas ar yr etif. eddes, gan ddynion barbaraidd oedd wedi cynllunio i'w gwneud yn ddiepiliad, er sicrhau yr etifeddiaeth iddynt eu I hunain ar ol ei dydd hi. Ond trodd y weithred yn angau iddi, ac nid yw y gair Trwmsaran ond llygriad o Trwm y daeth ar Sarah Ann,' o herwydd v weith- red ysgeler a gyflawnwyd ar foneddiges o'r enw uchod. Hen enw cyntefigy lie cedd Gellyglyd. Hefyd, yr oedd traddoaiad yn mhlith ein henafiaid fod y foneddig es, pan ar ymadael a'r byd, yn gobeithio y buasai i ryw felldith ganlyn y lie hwn, fel cosp am yr ymdclygiad tuag ati, a hyny hyd saith o gyfnewidiadau. Hyderem fod yr adeg hono ar ben pan y daeth i feddiaftit y percheIlogion presenol. Bu llawer o ddymuno i'r gweithiau ail gychwyn yn ystod y blynyddoedd y buont yn sefyll; ond y mae yr un myn- wesau erbyn heddyw yn melldithio dydd eu cychwyniad. Yr oedd ganddynt y pryd hwnw cwbyrddan llawniouo ang- enrheidiau bywyd; ond yn awr y maent yn weigion, a drysau masuachwyr wedi eu cau yn ein h erbyn, a newyn yn ein bygwth ni a'n teuluoedd. Hyderwn fod y wawr ar dori ar fasnach y glowr, fel y gallwn droi ein gwynebau i ryw gyf- eiriad o'r lie hwn. M. o
LLANSAMLET. "
LLANSAMLET. Cxnaliwxd cyngherdd ardderchog yn nghapel y Cwm, nos Fawrth, Ionawr 4, pryd y gwasanaethwyd gan y personau canlynol:—Mri. D. R. Thomas (Dewi Samlet), J. Williams, J. Thomas (Alaw Samlet;1, W. Thomas, W. Abraham (Mabon), W. R. Williams (Ap Rhys,) a Miss Beddoe. Gweinyddodd hefyd dos- barth y Tonic Solfa, a chor y lie, o dan arweiniad Ap Rhys. Accompanist, Miss M. Gower, a Mr. E. Hughes, yr ysgol- feistr, yn llywyddu. Aeth pawb trwy eu gwaith i foddlonrwydd. Elw y gy- ngherdd yn myned at gynorthwyo Mr. Lewis Morgans, dyn ieuanc teilwng o'r eglwys, yr hwn sydd wedi dechreu cy- hoeddi y newyddion da, ac yn bwriadu 1 ymbarotoi i'r swydd orbwysig y wein- idogaeth. Llwyddiant iddo, a Duw yn rhwydd yw gwir ddymuniad-Gou.
DIARHEBION CYMREIG.
DIARHEBION CYMREIG. ME. GoL.—Yr wyf yn eofio clyvrecl yr ymadroddion canlynol pan yn fachgen- yn bychan, yr oeddynt yn cael en Jiar- feryd yn y wlad lie magwyd fL Wele hwynt gyda ychydig esboniad ar rai o honynt. Nid araddiffyn ond Tarian. Gwell gwr a ddaeth ar ben-y flwydd- yn, na'r gwr ni ddaw byth. Gwell cael gwraig a fo da ganddi, na gwraig a fo da iddi. Cadarnach yw'r edau yngyfrodedd, nac yn uncorn, neu cryfach yw'r edau dwbl na'r sengel. Bwrw allan ac un Ihw, cais i fewn a dwy law, neu bydd yn fwy ymdrechgar i wneud daioni nac i ymddial. A garo ei gwr cared ei chwegr, sef a garo ei gwr cared ei mam-yn-nghyf- raith hefyd. Arian a bryna ac arian a wertha, sef o eisieu arian y gwerfchir, ac ag arian y prynir. Achos heb achos o bono, sef y mae llawer yn tynu gofid lseb achos. Y cyfoethog i wert-hu, y tlawd i brynu, ond yn fwyaf cyffredin y tlawd sydd yn gorfod gwerthu i'r cyfoethog. A wreiddio mewn drygioni, anhawdd fydd ei gynghori. Ni bydd moesgar merch a glywo geiliog ei thad. g el 0 lymaid i lymaid y darfu'r cawl, neu nid oes para mewn dim os naofelir am dano. Cenad hwyr drwg ei neges, neu y mae pob dyn da yn gofalu am amser prydlawn. 0. for ac o fynydd, ac o waelod afon- ydd y denfyn Duw dda i ddedwydd. .md'cyfoeth ond iechyd, neu diwerth yw pob peth os na fydd iechyd yw fwynhau. Nid edrych angeu pwy decaf ei daicen, ond ymfoddlona ar bob cymer- iad heb wahaniaeth. Ni char buwch hesp lo, neu peth anhawdd yw gweithio teimlad mam i fynwes gwraig anmhlantadwy. Nid twyll yw twyllo twyllwr, ond talu dyn yn ei arian ei hun. Goreu meddyg, meddyg en aid. .9 Nid hyfrydwch ond gyda Duw. TYSILIO.
TRECYNON.
TRECYNON. Diolch i chwi am y rhyddid ydych yn ei roddi i ddadieu teilyngdodag anheilyng- dod pynciau ar dudalenau y Daeian. Ond wfft byth i'r ffraeo personol yna; yr wyf yn methu a deall beth yw y genfig- en sydd gan ohebwyr at eu gilydd. Yn sicr y mae dyn yn mhell o'i bwyll pan yn anghofio ei bwnc mewn dadl, ac yn ymosod ar y person. Ymddangosodd llythyr yn y DARIAN am Rhagfyr 23ain, yn dwyn y penawd "Marweidd-dra Masnach," gan J. M. Trecynon, yn yr hwn y mae brawddeg hollol anheilwng o Daman Y Gweithiwk, yn herwydd ei bod ai thuedd yn uniongyrchol iniweidio ,,y amddiffynfa fawr y gweithwyr, sef yr Undeb. Dywed, "Pan yn darllen y DARIAN, yr wyf yn gweled fod rhai per- sonau yn teimlo fod angen Uudeb, fel y ga,llom, trwy nerth yr Undeb, gael ein hiawnderau a'u cadw rhag syrthio i dylodi ac angen." Yr wyf yn methn gweled beth all fod mewn Undeb i'n dyogelu rhag y fath beth, gan mai nid gan nerth undeb na gwendid undeb y mae marchnad yn cael et llywodraethu, ond prinder a llawnder sydd yn rhoddi gwerth ar bob peth fel rheol." Gwir- ionedd, Mr. J. M., yw fod personau yn achub pob cyfleusdra i siarad ag ysgrif- enu ar. werth Undeb, ac arferant bob dylanwad sydd ynddynt er cael dyn- ion yn Undebwyr, am mai mewn undeb y mae nerth. Pan yn gwadu Undeb, rhaid iddynt wadu yr hanfod dwyfol, gwadu mor a thir,gwadu eu bodolaeth eu hunain a phob peth arall. Am mae Undeb ydyw pob peth, a dylech chwith- au uno ag Undeb Cenedlaethol y Mwn- wyr." Yna dewch i weled beth sydd mewn Undeb i'n diogelu. Addefwn mae prinder a llawnder sydd yn rheol- eiddio y farchnad, ond pell ydym o gredu mae dyna fel y dylai pethau fod. Can- iatawn i nwyddau gael eu rheoleiddio felly, tra mewn perthynas i'r bobl y mae pethau yn hollol wabanol. Yr ydym yn aelodau cymdeithas ac yn fodau cyfrifol. Dylem gael digon o ymborth, gwisgoedd, yn nghyd a phob angenrheidiau bywyd a chysuron bob amser, prinder neu lawn- der, fel cynyrchwyr cysuron y byd, a dylai ein plant gael gwell addysg. Aw- gryma J. M. hefyd fel y c::mlyn Yr ydym yn teimlo dipyc yn ddigrif wrth y personau hyny sydd yn arfer eu dylan- wad i gymhell arnom i ymuno a'r undeb; ond yr wyf yn credu mai hunanles sydd mewn golwg gan y personau hyn yn benaf, ac nid lies cyffredinol i'r werin." Yn enw synwyr cyffredin, paham yr ydych yn gwneud y fath amryfusedd a hyn ? Os ydych am ddyrchafu y Gym- deithas Ymfudol," pa. angen i chwi ein diraddio ni mewn modd mor greulawn. Darllenwch ein Rheolau, yna deallwch mae un o'n hamcanion yw ymfudo i wledydd ereill, lie y mae manteision nad allwn ni fel gweithwyr ei cael yn y wlad yma. Ond cofiwch gyfaill, nid ymfudo yw yr oil o'n h.a'mcanion, na, yr ydym am gael trefn a cliwarea teg i'r rhai ci fydd yn avos ar ol yn y wladymahefyd. CLYWEDOG.
URDD YR HEN FRYTANIAID.
URDD YR HEN FRYTANIAID. AGORWYD cyfrinfa newydd o dan nawdd yr urdd uchod,. dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, yn Ysgoldy Brytanaidd, Cadle, gan swyddogion Adran Glyn. nedd a Thawe, sef Mr. John John, Llansamlet, Uwch-lywydd, a Mr. C. Williams, Is-lywydd, o'r un lie, a Mr. Rees Hopkins, Glyn-nedd, Ysgrifenydd yr Adran, yn cael eu cynorthwyo gan Mr. John Williams, Ivorites' Arms, Glandwr, ac ereill. Mae rhagolygon y gyfrinfa yn addawol, am fod yn agos i 50 wedi rhoddi eu henwau yn barod. Mae cyfeillion mewn amryw fanau yn y cymydogaethau cylchynol yma yn casglu enwau er sefydlu cyfrinfaoedd newyddion eto o'r un urdd anrhydeddus. Ychydig sydd wedi bod o son am weith- rediadau dosbarth Glyn N edd a Thawe, er hyny mae yn eglur na fuont yn segur, canys y mae rhif cyfrinfaoedd y dos- barth yn 13eg, a'u hagwedd flodeuog yn dangos eu bod wedi gweithio yn orchest- ol. Ac os darfu iddynt wneud mor dda wrth mor lleied o son am danynt, credaf y gallant wneud rhagor yn y dyfodol, ond iddynt gredu yn eu gallu, a rhoddi mwy o gyhoeddusrwydd i'w gweithred- iadau. Hyderaf nad ydyw hi eto ond dydd y pethau bychain mewn cysylltiad ac Urdd yr Hen Prytaniaid yn y gor- llewin yma, fod dyfodol llwyddianus yn aros ein Hurdd yn y rhan gynyddol hon o'r wlad. Usr O'R Bkodyk.
I------IHANES TRUENUS.
HANES TRUENUS. Yr wythnos ddiweddaf, daeth tri o fechgyn bychain, rhwng pump a deg oed, y rhai a ddywedent mai eu henwau oeddynt Thomson, at orsaf heddgeid- waid Dundee, gan adrodd yr hanes truenus canlynol:—Fod eu tad, enw yr livn oedd Stephen Thomson, wedi marw, ac wedi cael ei roddi mewn coffin yn fuan wedi hyny fod y corff o hyd yn y ty, a'i fod yn sawrio yn drwm. Bod eu mam yn eistedd y tu allan i'r ty, a hyny yn feddw, ac na wyddent beth oedd i'w wneuthur. Aeth rhai o'r swyddogion i weled a oedd gwirionedd yn nhystiolaeth y bychain, a chawsant yr oil yn gywir. Pwy na thosturia wrth blant y meddwyu.
TAN YN EGLWYS YSTRADGYNLAIS.
TAN YN EGLWYS YSTRAD- GYNLAIS. BORED dydd Sul diweddaf, ychydig cyn adeg yr addoliad, cafwyd fod tan wedi tori allan yn Eglwys blwyfol Ystradgynlais. Yn ffodus, nid oedd y fflamiau wedi cael nemawr o afael yn yr adeilad, a thrwy fod yn yr ymyl gynortbwy ewyllysgar, rhoddwyd ef i lawr yn fuan. Bernir i'r tan ddechreu trwy i'r flue, a'r hwn y cynesir yr Eglwys, gael ei wresogi yn ormodol.
n ' YR ANNE ALLDWRIAETH YN…
n YR ANNE ALLDWRIAETH YN GLANDWR. Y MAE yn dda genym gael ar ddeall fod yr anghydwelediad a fodolai rhwng meistri a gweithwyr gweithiau Dur Landwr wedi cael ei ddwyn i derfyn- iad boddhaol. Y mae y gweithwyr wedi ail ddechreu gwaith.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— MH. D. W. JONES, (Dafyclcl Moryarwg), Hirwaun.
PENILLION ANERCHIADOLj
PENILLION ANERCHIADOL j Åj. gyjlwyniad anrheg i'm cyfaill ieuanc a thalentog, Mr. Thomas Richard, Hirwaun. Rhwyddineb yw barddoni Ar destyn barddol bach, Mae'r awen yn dadebru I'w gwaith yn lion ac iach Ni thmethwn i ormodiaeth, Ni chyfeiliornwn, gwn, Pe d'weawn fod barddoniaeth Yn yr amgylchiad hwn. Prif bwnc ein cyfarfyddiad A'n cydgynulliad yw, Arddangos peth o'n teimlad I gyfaill o'r iawn ryw Nid broliwr balcb, diurddau, Ymbonwr croch ei lef, Nid yw'r fath ansoddeiriau Yu ei gymeriad ef. Nodweddion cymeriadol Fy nghyfaill a fawrheir, A dwylaw cymdeithasol Yn ei aurhegu geir; Mae talent a gwybodaeth, Ac ymarweddiad pur, Yn hawlio cydnabyddiaeth Am eu gwasanaeth, wir. inyri'd ar gyrydd Ti-R yn y I,vd, A'i lalur gyda ohrefydd fwy, yn fwy (j byd; Yn wir, mHO breichiau'r eglwys O «ylch ei wddf yn awr, A'i chiirifid ato ddengya Mewn pedtiir (jyfrui fawr. I!u Craigjllyn vn gvsgod I fafu'r c(,,i(laor ]Ion, AchnfodddyRanthyNod M<ni n dyeg dan uthredd hon I iithredd 1-ion Ei enw eto dyfo Slewn rbinwedd ae mewn bri, Fet bvddo yn Waguro Ar ei gweddillion hi, Dy ymdrech mewn daioni Sydd wedi bod o werth, Pob cyneddf fyddo i ti Yn dyblu yn ei nerth, I ddringo bryn enwogrwydd, A'r nefoedd wen a bair It' wneud dy gitrtt,e'n ebrwydd ArLen eigoryn aur. Gwnafyn y pell gorpbenol Ddymuno iti hedd, Fel rhodfa gardd frenbinol Fo'th Jwybr hyd dy fedd Awelon pur y boreu Fo'n para bytb i ddwyn, A gollwng eu bendithion Ar ben dy deulu mwyn. Rhigos. GWILYM ALAW.
CARNELIAN,
CARNELIAN, Bardd y Cam Gadeiriau. Wel wel! beth wna Carnelian,—hawyr bach f Nid hir y bydd cyfan Llety'r gwr, fi'i bclltir gan Gadeiriau a'r god arian! Ar fyr byddrhifo aur bwn- ei olud Yn failure, feddyliwn; Ac er gorchest, mae'n gwestiwn, Cedwir rhif cadeiriau hwn! GWYDDERIG. Heb wad, yn I g,,ydwybodol,y mwyaf Am awen gadeiriol Yw Carnelian, meddianol Er ys taim ar bedair stol! Pc,dair st,,)] farddol a fedd,-a dalia'r Stolion ei anrhydedd; Hwn geir yn fj w'n Garn o'i fedd Yn waslad Yllla'n eistedd WATCYN Wyn.
ENGLYNION PRIODASOL
ENGLYNION PRIODASOL I James Pretheroe, Glyn-nedd. Boed llwydd ar ogwydd serch lago-i gael Mwyn gar i'w anwylo, A'i auian wedi 'i uno—gyda muu, Ei anwyl eiluu i'w siiiol wylio. IIejddol yw ein Pretheroe addas-i gael Gwraig' gu i'w gymdeithas A'i barddweh ef a'i urddas Fydd ei lawen feinwen fas. Boed iddynt gael bywyd addien,—a nawdd Y nef i'w tyngedfen; Dedwydd dan gysgod aden Lydan lor, llyw hyglod nen. J. EVANS.
BEDDARGRAFF
BEDDARGRAFF Mary Ann Phillips, merch Mr. Phillip a Mrs. Catherine Phillips, Aberaman, Aberdar. Ow roi'n y ddaear Mary Ann dduwiol o foreu 'i haddypg a'i llais gwefreiddiol; Ein bro a swynai a'i ehan berseiniol, Hon gyrhaeddasai enwogrwydd oesol; Ond yn nwyf ei dawn neiM,—uwch pob bai. I ",r a', gwaboddai i'r wyl drag'wyddol. BIGPYR.
Y DAR AN.
Y DAR AN. Erch dwrw y groch daran—a gadarn Ysgydwa fyd cyfan; Trwy wyll enfawr tor allan, A niwl tew yn ulw tan. PERLLANOG.
Y TEULU DEDWYDD.
Y TEULU DEDWYDD. Mae bod yn nghymdeithasy teulu dedwyddol Yn iecliyd i foesau pob gwron dyngarol; Ni oblywir gwrach chwedlau yn cael eu parablu, Geirwiredd digymysg yw hoft iaith y teulu. Mae'r tad yn llywyddu fel brenin urddasol, A pbawb iddo'n talu y sylw priodol; A'r fam yno'n gweini mal mwynlon athrawes, Er codi ei bychain i'fyny'n ddirodres. F e'u gwelir o unfryd yn rhoddi addoliad 0 'r allor denluol i'r Iesu ein Ceidwad; Ac ami darllenir y gwerthfawr Air Dwyfol Y n nghlyw eu hauwyliaid, er dysgn ei reol. Cant hwythou ad-daliad tudraw am eu llafur. Wrth dreulio eu dyddiau yn ddyddiau o gysur; Ni wna man drallodion eu llanw a digter, Mae 'u Datur yn wastad yn llawn o addfwynderc, Mae clywed yr adar bob boreu'n telori Yn gwnenthur fy nghalon yn ysgafn a heiny'; Ond mil yn byfrytach i mi yn wastadol Yw clywed hoff hymnau y teulu dedwyddol. Mae si yr afony dd a swn y rhaiadrau Yn rhoddi i'm beunyhd ryw lu o bleserau; Ond ni fedd y ddaear un peth mor ddymunol A dirif rinweddau y teulu dedwyddol. Dymuniad fy ngbalou yw ar i bob teulu 1 fyw mewn dedwyddweh a cheisio rbagori, A doed yr holl ddaear i feddu'r byfrydol Gymeriad mwyneiddlan, O deuln dedwyddol. Maesteg. Celynpryn.
[No title]
Cynaliwyd cyfarfod o offeiriaid ddydd Llun diweddaf yn Nghaerdydd, pryd y cymerwyd dan ystyriaeth Y sgrif Claddu Mr. Osborne Morgan; a'r penderfyn- iad a ddeuwyd iddo oedd, nad oedd nn gwasanaeth, amgen gwasanaeth yr Eglwys, i'w oddef yn mynwentydd y plwyfeydd, ac nad oedd neb ond offeir- iaid i'w weinyddu. j Y MAE Glofa Shirland, yr hon a bwr- caswyd gan Undeb Mwnwyr South Staffordshire yn Gorphenaf diweddaf yn codi 2,500 o dynelli yn wythnosol. Y mae yn gweithio yno rhwng 300 a 400 o ddwylaw. Mr. Phillip Casey yw y prif oruchwyliwr.