Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
CEREDIGION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CEREDIGION. Yn y dyddiau picesenol, wrth glywed s6n am yr holl Eisteddfodau yma, gellir meddwl fod beirdd, Ilenorion, a cherddorion y cymydog- aethau yma yn lluosogi yn fawr. Dyna'r berw sydd bron yn mhob man ya awr, sef son am yr Eisteddfodau o'r bron. Wel ynte, yr ydym yn cael ar ddeall fod pwyllgor wedi ei ffurfio yn LIanbedr Pontstephan, er cael Eisteddfod Gerddorol; ac y tuaent yn gweithioac yn cario cynlluniau allan gyda brwdfrydedd. Y prif ddernyn ydyw Datod mae Rhwymau Caeth- iwed," gwobr, ^12]; ac y maent am gael Llew Llwyfo j ma i wasanaethu yn y cyngherdd. Srobeithio y gwnaiff droi allan yn llw^ddiannus. Wele eto y mae rhyw gorn yn rhuo draw tua Pbumpsaint fod yno ryw Eisteddfod gerddorol, farddonol a chelfyddydol; ond ym ae rhyw si wedi dyfod allan fod Eisteddfod Goronog i fod yn Llanybyther, ac y bydd yno ryw £ 100 o wobrwyon yn cael eu rhoddi. Wel, ynte, wrth y swn yna am yr boll Eisteddfodau, y mae yn ddigon priodol i ni gyineryd yn gan- iataol nad yw yr amser yn wan, ac nad yw y farchnad yn isel yn y cymydogaethau yma ond ar y cyfan, fodd bynag, y mae'r gair fod pwyllgorau'r Eisteddfodau yma yn teimlo. Nid wyfyn meddwl y troant allan mor llwydd- iannus agygwelwyd yr amser; ond ar y cyfan y mae rhyw dyniad rhyfedd i'r Eisteddfodau bob amser. Y mae nhw yn dweyd y codir cor yn Llanbedr er cystadlu ar y Datod mae Rhwymiu Caethiwed." Hefyd y mae nhw yn dweyd fod Llanfair a Chellan yn uno er cael cor undebol. Brysied Llanybyther ddod a'r testynau allan mewn pryd, rbag ofn i Llanfair, Llanbedr, a Ffaldybrenin fyned a'i corau i Gaerdydd i ymofyn am y £100 acw. Mae yn debyg nad: oes fawr o chwant ar Eryr Eryri ddyfod a'i gor yno; ond peidiwn a synu dim, efallai y daw a'i gor i Lanbedr-Pontstephan. -T.R..
• ' LLANDILO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
• LLANDILO. Yr v 5ed o Fawrth diweddaf, bu farw Mr David Jones, ail fab Mr u; Mrs Thomas Jones, adeiladydd, Heol Newydd, yn ei 17eg flwyddyu o'i oedran. Yr oedd ein cyfaill ieuanc yn -egwyddorwas gyda Mr D"; P. Davies, Ironmonger, o'r dref lion (braw d. v Parch W. Davies, Tabernacl). Gladdwyd ef y LInn canlynol, a daiigoswy(I parch anarferol i gymeriad X llanc drwy luosogrwydd y cyfeillion a dalasant y deyrnged olaf iddo ar ddydd ei angladd. Gwei- 11 y nyddwyd yn y ty cyn cychwyn allan a'r corph mewn modd trefnus a theimladwy iawn gan y Parch W. Davies, Tabernacl. Yna' cychwynodd yr orymdaith alarus tua'r gladdfa; ac ar y ffordd tua'r llecyn goiidus hwnw gwelid arwyddion o barch a chydymdeimlad tuag at y teulu. galarus o bob tu i ni. Yr oedd y lleni yn gorchuddio y ffenestri, yn nghyda'r arwyddion arferol ereill a amlygir ar amgylchladau prudd- glwyfus o'r fath. Wedi cyrhaedd y Tabernacl, dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch D. Morgan, gweinidog y Methodistiaid yn y dref, drwy ddar- llen rhan bwrpasol o'r Ysgrythyr; ac wedi iddo weddio, traddododd y Parch W. Davies anercliiad effieithiol a ttieimladw_y iawn oddiwrtli 1 Bren, xviii. 12, "Ond v mae dy was di yn ofni yr Ar- glwydd o'm mebyd." Yr oedd ei sylwadau yn darawiadol ac yn ymarferol iawn, ac yn neillduol felly i'r rhan ieuengaf o'r gynnulleidfa luosog, a'r pwys mawr oedd iddynt "gofio," fel y gwnaeth eu cyfaill ieuanc David Jones, eu Creawdwr yn nyddiau eu hieuenctyd." Hyfryd iawn ydyw genym gofnodi bob amser, gyda golwg ar ciii han- wyliaid sydd yn blaenu arnom yn barhaus drwy hen lyn cysgod angeu, fod. pobpeth yn all, right yno Diwedd y gwr ieuanc siriol ac anwyl livvn oedd tangnefedd Mae yn dda i ni gofio, yn nghanol ystormydd a thywydd garw y byd hWll, mai yr oclir sydd tuag atom ni' o'r cymylau ty- wyman sydd yn ddu; y mae yr 'ochr draw' iddynt yn oleuni—yr ochr sydd tuag at yr haul! Wel, cymhorth ynte i'r cyfeillion hyn sydd yn eu galar a'u gofid i edrych ar y goleuni sydd yn ty wyyn y tu draw i holl gymylau gofidus a blinderus y byd -t,Y hwn, ydyw dymuniad eu ffyddlawn a'u serchus gyfaill- O! Dafydd bach, ymwylo Mae f' awen yn ddihedd, Am na chaem ysgwyd dwyIo Cyn iti fyli'd i'tli fedd! Oe't deg, oe't dlos, oe't hawddgar— O! prydferth oe't yn wir- Oe't angel bach i'r ddaear, A'i ysbryd yn rhy bur. O! Dafydd hoff—Na! byth mwy Ca'i wel'd dy wyneb cu; Ain liyn yiiiwylo 'rwv' Dan gwmwl adgof du; Y wen -oleiiai'tll i-u(l(-I, Dy lygaid byw a'th wallt, A wna ein bron yn brudcl, A'n dagrau'n ddigon haUt! Mae'th anwyl dad yn wylo Am na ddoi fyth i'vv gol, A'th frodyr sy'n prudd gwyno Am na ddoi di yn ol; Taweled Duw eu calon, Waith gwyddant na chei gam Gan fyd a'i holl liulbulon Yn mynwes ein hen fam. Breuddwydiais wei'd angylcs Ar aden wen y wawr, Yn d'od ar nefol neges, Pan oedd dy boen yn fawr; Sisialai eiriau cariad, A'illawroidandyben; Nefoli wnaeth dy deimlad Pan welaist glirach nen Yt Iesu a ddangosodd I ti a'i euraidd fys, Ac yn dy glust. sibrydodd- "0 Dafydd, dacw'r llys Sydd fod it' fyth yn gartref, Er dy fod 'nawr mor glaf, Dos genyf tua'r wiwnef I wlad ti-ag'wyddol liaf O! fedd, tryloew wydr wyt i lygad ffvdd, A goleu lwybr i wlad trag'wyddol ddydd; Mi welaf arall wlad, a llawer gloewach nef, 0 ddwyfol degwch drwy ei waelod ef A haul trag'wyddol yn ei ffurfafenau, Ac harddwch bythol yn eofleidio'r brynian: filorteiiog lwynau, deildai byfcliol wyrildioll, A didran'c. haf yu rigwlad yr anfarwolion s Na. wylwn unvy! na roildwn le i deimlad— Nid yw y bClhl ond gardd yr adgyfodiarl Ein plant a heuir yn ei oerhyd i'ynwe.s, Yn wiw,yn wan, lIygrcdig, ac anghynes, A dd'ont i fyny'n ilodeu teg, anniflant, Yn glaerwyn engyl fry i fro'r gogoniant. Ail i wybren daen y dydd Yw y lanerch ddu lonydd—- Lie gorwedd llu y gweryd, Dawelaf fan hyd ail fyd; Ei ser gwyl sy' o'r golwg, A du ei nhef fel dan wg. Nes daw'r deg adeg i gódi-i glir Ddysgleirio mewn mawrfii, I wag nen ein hwybren ni Yn fydoedd dirifedi! Drwy ddrych addewid, ah mi welaf ddydd Y tefiir rhydlyd fyllt dy fedd yn rhydd, Pan ddoi di, Dafydd hoff, yn iach i'r lan, Ac anfarwoldeb yn dy wyneb can. TEILO,
URDDO CENADWR YN NGWYNFE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dymunem rwydd hynt a phob rhwyddineb iddynt ar eu taith. Y mae y Parch W. C. Pickersgil!, cenadwr o Madagasgar, yn dyfod i'w cyfarfod i Zanzibar, a dechreuant n,r eu taith hirfaith a pheryglus, taith oddeutu chwech i saith can' milldir, trwy lwyni o ddrain a mieri, a glaswellt gwlithog agos cyfuwch a'u hysgwyddau. Bydd niintai o gludwyr, oddeutu cant mewn nifer, yn cael eu cyflogiganddynt yn Zanzibar, i'w cynorthwyo i gatio y nwyddau a'u pitching tents gyda hwy i letya ynddynt ar y ffordd. Y mae yn wlad fras, a phoeth iawn. Ond y mae Uj'ji yn lie iach a thymerus, oherwydd ei fod tua thair mil o droedfeddi uwchlaw levely Y mae yn lie prydferth, a llyn mawr y Tanganyika, tuathri chan milldir wrth gantr a haner, ger- Haw idtlo, a dynion deon yn preswylio y wIaI, heb wybodaeth am Geidwad ac heb Dduw yn y byd. Dydd Mawrth a dydd Mercher, y iaf a'r 2il o'r mis hwn,^ynaliwyd cyfarfod i urddo ein cyfaill ieuanc. Yn nghapel y Waen, am ddau ddydd Mawrth, dechremvyd gan D. M. George, Hermon, a phregethwyd gan J. Rees, Cwmllynfell, oddiar loan iv. 29; a chan J. Thomas, Bryn, Llanelli, Zech. xiv. 20, 21. Am chwech yn yr hwyr, dechreuwyd gan J. Thomas, Pontardulais, a phegethwyd gan J. Stephen, Llwynyrhwrdd,.odd!ar Psalm cxix.ll; T. Davies, Llanelli, oddiar 1 loan iii. 2 a E. A. Jones, Castellnewydd Emlyn, oddiar Math. xxvi. 75. Am ddeg boreu dydd Mercher, dechreuwyd gan J. Hughes, Llangadock, a phregethwyd gan D. A. Griffiths, Troedrhiw- dalar, oddiar Marc xvi. 15. Wedi hyny, aed drwy y gorchwyl o urddo. Gofynwyd y cwestiynau i'r gwr ieuanc gan E. H. Jones, Llundain, un o swyddogion y Gymdeithaa; a chan na fedrai ef siarad y Gymrae;?, gofynwyd yn Gymraeg gan y Proffeswr Jones, Caer- fyrddin; wedi hyny pregethwyd gan y Profleswr Morgan, Caerfyrddin. Dyrehafwyd yr urdd-weddi gaa W. Thomas, gweinidog y He. Am ddau, dechreuwyd gan E. H. Davies, Bethania, Llanon; yna cafwyd anerchiadau byrion ar y testynau canlynol:—T. G. Jones, Gwernogle, ar Deilyngdod y cwrdd gweddi cenadol; T. Johns, Llanelli, Pa fodd i feithrin yspryd cenadol yn ein hieuenetyd sydd yn codi i bregethu T. Davies, Siloa, ar Hanes y genadaeth yn Nghanolbarth Affrica er y dechreuad W. Davies, Llandilo, ar Ddylan- wad gwareiddiol yr efengyl; J. Ossian Davies, Llanelli, ar Ragolygon y Cenadwr ieuane yn Nghanolbarth Affrica. Hefyd, cyflwynwyd cod yn cynwys o bymtheg i ugain punt i'r Oenadwr ieuanc yn v cyfarfod hwn. Am chwech, dechreuwyd gan fyfyriwr o Gpleg Caerfyrddin, a phregethwyd gan ProSeswr Jones, Caerfyrddin, oddiar Esiah ii. 44, 45 J. Ossian Davies, oddiar Psalm cii. 16; a J. T. Evans, Heol Awst, Caerfyrddin, oddiar Galatiaid iii. 1. Cafwyd bin hyfryd, cynulliad Iluosog, a gwenau Duw ar yr achlysur. Y mae llawer o amgylchiadau a throion o'r gorphenol mewn cysylltiad I'm cyfaill pan yn ieuane nad anghofiaf bythmo honynt. Cyfan- soddais yr ychydig linellau canlynol, ac fealiai na fyddant yn annerbyniol yn y CELT. Mae llawer o adgofion mwyn, Yn dod yn fyw gerbron, O'r vsgol ddyddiol lie gwnaem gynt Fwynhau'n boreuddvdd Don O'r Ysgol Sol yn Nghapel mae n Cyfoda gwruchion byw, A'r dosbarth hwnw lie y gwnaem Fyfyrio geiriau'n Duw. Am gwrdd y bobl ieuainc mae Adgofion melus 'nawr, Lie buom, gydieuenctyd cun, Yn plygu glin i lawr A'r weddi f er a archem at Jehofa, Brenin nef, A'r eyntaf dro i'n fod ar g'oedd, Wrth ei orseddfainc Ef. Ond dydd a ddaeth i'n gwasgar fel Estrysod yma a thraw, I tithau, rhaid oedd myn'd dros for, I wlad y pagan draw Tydi, 0 bydd dawel iawn, Boed werdd, boed lefn dy don, A thithau wynt saf yn dy gell, Na ddos i derntio hon. Ond ymwrola, bydd yn ddewr, Wrth fyn'd i Affric bell A'r newydd am Waredwr bycl Ac am y wlad sydd well A phan gyrhaeddi ben dy daith Ar ranbarth Ujiji, Boed yno'n goron ar dy wai Hi Fendithion nefoedd. fry. Mae Caidwad Daniel eto'r un, Ni chyfnewidia Duw, Dy oglud—rho'n ei aim Ef, Yr Hollalluog yw 0 gyfyngderau fil a mwy Ehodd it' ymwared gref, Ac eto'n dal ar ben dy daith Cci wobr ganddo Ef. Ffarwel, fEarwcL fy nghyfaill hoff, Ymadael raid i ni, Pan fyddi'n hwylio'r moroedd maith 0 cadwed- DLlW dydi Yr lien, hen hanes pan 'n ei dweyd, Mewn pell estronol wlad, 0 boed dy lwydd, a boed dy gorff, Dan nawdd dy anwyl Dad. Bronyglyn, Gwynfa, R, DAVIES.