Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

HANES WAUNARLWYDD AM Y DENG…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

HANES WAUNARLWYDD AM Y DENG MLYNEDD AR HUGAIN DI- WEDDAF. JSaif y pentref prydferth liwn yn sir Forgan- irag (plwyf Abertawe), rhwng Abertawe a Llanelli-tua phum milltir o'r blaenaf, a ,chwech o'r olaf, a thua hanner milltir i'r dwy- rain o Gower Road stations y Great a'r London & North Western Railways. Tir yr Arglwydd Faenorydd (Lord of the Manor) ydoedd gynt, a dyma paham y gelwir ef ar yr enw uchod. Y mae yn cael ei amgylchynu gan amaethdai o'r enwau Penyfodau, Cefngorwydd, Caer- gynnydd, Mynyddbach, ac Ystrad a chan y gweithiau glo canlynol, sef Cefngorwydd, Bishwel, Caergynnydd, Mynyddbach-y-glo, Caenewydd, &c. I, Agwbdd arwyjtebol y MiE. — Pentref iir a chul ydyw, tua thri chwarter milltir o hyd, o'r Mynyddbach yn y dwyrain hyd Nantygorsfawr yn y gorllewiu, ac wedi ei ad- eiladu yn rhanol ar diroedd y Waunarlwydd a Chaergynnydd. Yr oedd tir Waunarlwydd yn perthyn i'r diweddar Mr Henry Griffiths, Bryndafydd, yr hwn a'i pxynodd oddiwrth yr Arglwydd Faenorydd, ac y mae yn awr o dan oruchwyliaeth Mr John Evans, Bryn, Llan- elli, a Mr John Williams, Wlysfawr, sef jgweinyddwyr ewyllys Mr Griffiths dros y weddw. Tir perthynol i Syr A. K. C. Stepney, Barwnig, Llanelli, yw Caergynnydd. With edrych ar y lie ddeng mlynedd ar hugain yn 01, nid oedd yno ond un heol (ffordd plwyf) o'r fa.th waethaf ac anhawdd. ei theithio, am nad oedd neb wedi edrych ar ei hoi end y nesaf peth i ddim. Wrth ddyfod i fyny ar hyd-ddi, gyferbyn a'r Waunarlwydd Isaf, y mae heol yn troi ar y llaw ddeheu o'r enw Heol-y- Frith wen, yr hon oedd yn arwain gynt trwy yr anialwch at Felin Caergynnydd, &c., yr hwn le oedd yn enwog tua chan mlynedd yn ol. Yn y daiii uchaf drachefn y piae heol yn troi allan ar y llaw chwith, o'r enw Heoly- felen, ac yn arwam dros y Mynyddbach tua Cadle, a'r brif heol yn arwain yn mlaen heibio y Login, tuag Abertawe. 0 bob tu i'r ffyrdd hyn yr oedd coedydd mawrion, ac anialwch diffaith, yn cael eu trigiannu gynt gan gread- uriaid gwylltion, megys dalluanod, brain-y- nos, piodenau, gwiwerod, nadrodd. &c. ond erbyn hyn y mae dwy ffordd o'r fi t'l oreu yn cyrhaedd bron o'r naill ben o'r pentref i'r llall, a thair croesffordd yn arwain o'r naill i'r Hall. Yn lie y coedydd y mae gerddi; yn Ue'r anialwch, y mae blodau ac yn lie y creadur- iaid gwylltion, y mae y gath, y ci, yr iar, a'r merched a'r meibion yn canu salmau a hymnau. Cyn y flwyddyn 1847, sef deng mlynedd ar hugain yn ol, nid oedd ond pedwar ty yn y lie (heblaw yr amsethdai)," sef eiddo Evan Davies, John Higgs, ac Elizabeth Willi|unt«. Yn y flwyddyn 1847, eymmerwyd 4ar gia Mr James Morris, mochwr ac amaeth- wr, Waunarlwydd, er adeiladu tai arao ac o hyny hyd yr adog bresenol y mao yr adeiladu yn myned ar gyunydd, ncs y mae rhif y tai yn awr yn 215, tri chapel, ac ysgoldy, a'r rhan fwyaf o hoaynt yn eiddo y gweithwyr eu huuain ac wrth osod pump yn mhob ty ar jgyfartaledd, y mae trigolion y peutref yn unig, hoblaw y gymmydogaoth, yn rhifo 1,075. Y mae yr hoU Wftthmu. oddieithr tri o rai bychain, tuallan i'r lie; felly nid cyfreith- lawn titu-ad am daH-tyiit. Y eyntnf yn y Waunarlwydd oedd eiddo Henry Thomas a'i Owmpeini. Dcohreuodd yn 1863, a pharha- odd am bedair blynedd. Yr ail ydyw cangen waith Cefngorwydd, a elwir y Slent Fach, yr hwn a asrorwyd yn 1865, er gweithio y brig, ac y mae yn parhau hyd yn hyn. A'r trydydd ydyw eiddo Morgan Thomas a'i Fab, brodorion o'r lie, yr hwn a ddechreuwyd yn 1869, ac y mae yn parhau, au wedi gwneyd jrn dda. II. ÅGWEDD FASNACHOL Y LLE. — Tir -corsog, gwlyb, diwrtaeth, ydoedd Waunar- lwydd gynt, heb yr un fath o fasnach yn cael ei chario yn mlaen, oddieithr ychydig mewn amaethyddiaeth. Nid oedd yr un siop, tafarn, xia dim cyffelyb, o fewn amryw fllltiroedd, na modd i gael dim ond gan yr amaethwr a'r melinydd, heb fyned i Abertawe. Ond tor- odd gwawr ar y lie, trwy fod gweithiau newyddion yn cael eu hagor yn y gymmydog- aeth. Yn y flwyddyn 1849, agorwyd gwaith glo Cefngorwydd, gan y Meistriaid Padley o Abertawe; yn y flwyddyn 1850, agorwyd jgwaith gan y Meistriaid fctruve, Le Briton, a Whitby, o Lundain. Yn y flwyddyn 1852, agorwyd y Great Western Railway o Abertawe trwy Waunarlwydd i Gaerfyrddin. Wedi hyny dyma weithiau glo Caergynnydd, Bishwel, &c., yn cael eu hagoryd, ac o hyny allan yr ydym yn mas- nachu a rhaiiau helaeth o'r byd. Dechreuodd o y crefftwyr ddyfod yn nghyd y coedydd yn cael eu tori; y cwteri yn cael eu hagoryd; y gerddi yn cael eu cau; a'r tai yn cael eu had- eiladu; fel, erbyn hyn, y mae yma bump o siopau, a phob un o honynt (fwy neu lai) yn masnachu mewn drapery, grocery, ironmongery, &c. Y mae yma bump o dafarndai, tair siop saer coed, dwy siop gofiaid, dwysiop cryddion, un siop teiliwr, un siop eigydd, ac un siop Uestri pridd. Trwy offerynoliaeth y Parchn. Wm. Davies a John Bevan y cawd y llythyr- gludydd yma gyntaf, yn y flwyddyn 1862 a dim ond dwy waith yn yr wythnos oedd yn dyfod. Yn y flwyddyn 1864, buwyd yn llwyddiannus i'w gael dair gwaith yr wyth- nos. Yn y flwyddyn 1870, llwyddwyd i'w gael yma bob dydd; ac yn y flwyddyn 1876, cawd Post Office yma, yr hwn sydd yn bre- senol dan oruchwyliaeth y Parch. J. Bevan. Yn y flwyddyn 1868 y daeth heddgeidwad i'r lie i aros gyntaf; y mae yr up. presenol y pummed, ac wedi aros yma yn llawer hwy na'i frodyr. Gwelwn mai araf a graddol iawn yw cynnydd y lie; ond oa araf, y mae yn sicr. III. AGWBDD GYMDNITHASOL Y IiLE.—Y mae yma chwech o gynadeithasau dyngarol, sef yr Iforiaid, Odyddion, Alffrediaid (dwy gyfrinfa), Coedwigwyr, a'r Bugeiliaid. 1. Yr Iforiaid.—Agorwyd y gyfrinfa hon yn y Lamb & Flag Inn yn y flwyddyn 1854, a gwnaeth yn dda am y pedair blynedd gyntaf o'i hoes; ond o herwydd diffyg yn un o'i swyddogion, yr hwn oedd drysorydd ac ysgrifenydd, gorfu iddi ymadael a'r Lamb & Flag, ac ymsefydlu yn y Farmer's Arms, yn y flwyddyn 1860, yr hwn le oedd a'i awyr yn fwy iachus iddi. Erbyn y flwyddyn 1862, yr oedd ei holl drysorfeydd wedi eu llwyr dreulio, a rhif yr aelodau wedi lleihau o 72 i 17. Yn Rhagfyr, 1862, ymunodd y Pareh. W. Davies, ac ereill, a hi, ac o'r adeg hono yn mlaen y gellir yn briodol gyfrif gwerth ei bodolaeth. Rhif yr aelodau yn Rhagfyr, 1876, oedd 87; gwerth arianol, J6541 8s. 9c. 2. Yr Odyddion.—Agorwyd y gyfrinfa hon yn y flwyddyn 1856, yn y Farmer's Arms, ac yno y mae hyd yn bresenol, yn gweithio yn rhagorol, ac wedi gwneyd llawer o ddaioni. Rhif yr aelodau yn Rhagfyr, 1876, oedd 130; gwerth arianol, £360. 3. Yr Alffrediaid (rhif 1. )-Agorwyd y gyf- rinfa hon yn y fiwyddyn 1864, yn y Collier's Arms, ac yno y mae hyd yn hyn, yn nghanol ei llwyddiant, heb gyfarfod ond ag yehydig o stormydd. Ei rhif yn Rhagfyr, 1876, oedd 83; gwerth arianol, £250. 4. Yr Alffrediaid (rhif 2. ) Hen fudd- gymdeithas oedd hon a ddechreuwyd yn y flwyddyn 1855, yn y Mason's Arms, ac yno y mie hyd yn awr; ond newidiwyd hi yn Mawrth, 1866, o fod yn gymdeithas benefit i fod yn gyfrinfa loyal o Alffrediaid. Rhif yr aelodau yn Rhagfyr; 1876, oedd 75; gwerth arianol, JE172 12s. 6c. I 5. Yr Hen Goedwigwyr.—Agorwyd hon yn y Bird-in-Hand Inn diwedd y flwyddyn 1874; ac yn yr ail flwyddyn o'i hoedran dydddefcwid yn galed o herwydd daaiweiniau ac afiechyd. Rhif yr aelodau yn Rhagfyr, 1876, oedd 40; gwerth Mianol,jE41. 6. Y Bugeiliaid (Shepkerds J. — Agorwyd y gyfrinfa hon yn y Farmer a Arms yn y flwyddyn 1875. Cyfarfyddodd hon hefyd a gauaf du yn nechreu ei thaith. Rhif yr ael- odau yn Rhagfyr, 1876, oedd 45; gwerth arianol, JE31. Y mae gan yr Iforiaid dros S6 4s. 5&0. ar gyfer pob aelod; yr Odyddion, tua S2 13s. lc. yr Alffrediaid (rhif 1), yn agos i JE3 Oat. :k.; yr Alffrediaid (rhif 2), dros £2 6s.; y Coedwigwyr, droa £1; a chan y Bugeiliaid dros 13*. 9c. Cyfanswm rhif yr aelodau yw 460 cyfanswm y gwerth arianol, £ 1,386 Is. 3c, sef tua L3 0s. 3c. ar gyfer pob aelod. (rw barhau.)

PRYDAIN A'I HADNODDAU.

SEFYDLIAD Y PARCH. J. LEWIS…