Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CAROL BLODAU'R GWANWYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAROL BLODAU'R GWANWYN. Mae'r Gwanwyn yn y berllan, Mae'r Gwanwyn ar y ddol; A swn ei delyn arian Yn galw'r blodau'n ol. Y mae'r cymylau trymion Yn dechreu ysgafnhau; Ac mae'r boreiiau llwydion I'w gweled yn iachau. Dan fys y Gwanwyn tirion Fe egyr dorau'r dail; v Ac o ffenestri gwyrddion Mae'r blodau'n holi am haul. Ton lifa o wyrddlesni I lawr tiros lethrau'r fron; A gwyn yw blodau'r syfi Ar frig y werddlas don. Yn ngolwg pethau tlysion Mae serch yn adfywhau; Agorir yn y galon Y drws fu'n hir yn nghau. Mae yt1 y nef yn Wanwyn, Mae'n Wanwyn ar y bryn; A chlywir swn ei delyn Yng nghonglau dyfna'r glyn. Dyhidla ei lawenydd Ar fynydd ac ar ddol, A Saimau'r bywyd newydd A genir ar ei ol. Ust! tfewi mae y delyn Yn niwl y bryniau pell; A murmur ola'r Gwanwyn Yw,—Adgyfodiad! gwell! ELFED. Ciywais ar sail ddiamheuol fod gan y blaid Gyrrireig gynlluniau beiddgar, sydd yn debyg o gyraedd yn lied bell, yn barod i gario ym- laen y frwydr addysg. Araf a sicr yw'r ar- wyddair yn awr. Bydd yn ofid gan gylch eang o gyfeillion glywedi nad yw iechyd y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, wedi bod'cystal ag arfer yn ddi- weddar. Mae yn awr yn cymeryd seibiant yn nghymydogaeth Capel Curig. Bydd "Efengylwyr Seion," llyfr newydd; y Parch. James Morris, Penygraig, allan o'r J.A wasg yr wythnos hon. Mae galwad mawr am y llyfr cyn ei gyhoeddi, a'r argraffiad cyntaf bron Cael ei werthu eisoes. Cefais gopi o'r ail ran o Delyn Seion," Sef casgliad o Donau ac Emynau at wasan- aeth y cyfarfodydd Diwygiadol. Mae y casgl. iad yn un rhagorol, ac yn sicr o gael gwerth- tatit helaeth. —*— Clywais fod y rhai canlynol yn ymgeiswyr Am y swydd o Gofrestrydd Coleg Aber- ystwyth:—Mr. J. H. Davies, Cwrtmawr; rroff. T. A. Levi, a'r Parch. J. O. Thomas, M.A. Cymerir dyddotdeb cyffredinol yn y penodiad. YSgrifetia y Parch. Henry Evans, Penrhyn- bocli, erthygl i Seren Cymru,' ar y Gweithiwr a'i Feirrtiad. Yn destyn, fe gymer air Mr. Evah Roberts o berthynas i Mr. Peter Priee: Gade,weh iddo, y mae genyf fi waith l'w gyflawni." Mae Edgar Vine Hall, B.A., wedi cyhoeddi pamphledyn byehan yn adrodd hanes ei ym- Iveliad! a'r Dyffryri ac Egryn. Gair caredig, tyner, llawn cydymdeimlad sydd ganddo i'w adrodd. ac er fod yr hanes yn hen i ni, mae'n newydd iV Saeson. —• Mae Mr. Ben Davies, y dadganwr adna- bydd us, a'r dadganwyr canlynol yn dyfod ar daith drwy Gymru, o Awst 21 hyd Fedi 3ydd, --Madam Eleanor Jones-Hudson, Miss Flor- ence Hoole, Mr. Emlyn Davies, Mr. Eli Hud- son, a Miss Maggie Evans. Trefnir cyng- herddau mewn gwahanol leoedd gan Mr. Llew Wynne, Drwg genyf glywed fod Mr. W. Llwelyn 1 Lloyd, Bethel, Bodorgan, dan orchymyn caeth y meddyg, wedi gorfod dychwelyd adref am bythefnos o seibiant. Mae yn well ddechreu yr wythnos hon. Cryn siomedigaeth iddo, ydyw methu bod yn y Bala fel yr oedd'is wedi trefnu. Yn "Young Scotland,"—cyhoeddiad misol perthynol i Eglwys Rydd Ysgotland,—am y mis hwn, ceir ysgrif ar Mr. Evan Roberts gan Proff. Young Evans. Creda Mr. Evans fod y Diwygiwr yn derbyn datguddiadau union- gyrchol drwy ddarostwng ei ewyllys fwy-fwy i'r Ewyllys Ddwyfol. —4c Dyfwed gohebydd fod) y WesTeyaid wedi cydweithio yn ardderchog gyda'r Methodist- iaid drwy Genhadaeth Liverpool. Nis gwyddwn ragor rhwng y Methodistiaid a'r Wesleyaid," ebai Annibynwr craff oedd yn gwybod sut yr oedd pethau yn myn'd ymlaen wedi i'r drws gau yn gystal a phan oedd yn agored. —*— Croesawyd y Parch. Wynn Davies i Fan- gor mewn cyfarfod! cyhoeddus yn nghapel Twrgwyn nos Fercher yr wythnos ddiweddaf. Gyda'r brodyr o'r eglwys, yr oedd Iliaws o weinidogion y ddinas ac eraill yn estyn de- heulaw eymdeithas i fugail newydd Twrgwyn, gan ddymuno iddo bob llwydd a bendith ar ei waith. —j)C— Mae y Sunday School Union wedi cyhoeddi "Rheolau i Fywyd Cristionogol," wedi eu cymeradwyo gan y Parch. J. H. Jowett, M.A., a'u cyfieithu gan y Parch. Hywel Edwards. Maent wedi eu hargraffu ar garden ddestlus, i'w gosod i fyny yn "y ty. Nis gwn am ddim gwell i'w osod i fyny yn nhai dychweledigion y Diwygiad. Camp yr Adroddwr yw rhif 3 o Gyfres y Porth Prydferth, wedi ei gasglu gan Elfed a'i gyhoeddi gan Mri. Hughes a'i Fab. Deth- olwyd y d'arnau ar gyfer meistriaid y grefft o adrodd, ac hyd y gwn i dyma'r goreu ar lawer cyfrif sydd wedi ei gyhoeddi i'r pwrpas. Mae yn hwn geinion llenyddiaeth Cymru, yn fardd- oniaeth a rhyddiaeth. — Prin y mae angen dweyd wrth eich darllen- wyr fod dau Parch. John Williams yn Liver- pool, ac mai y Parch. John Williams, Fern Hill, Anfield Road, ac nid y Parch. John Wil- liams, Princes Road, a ysgrifenodd y llythyr- au a gyhoeddwyd genych ar ymweliad Mr. Evan Roberts. Ond gwelaf na wyddai y newyddiaduron a godasant y llythyr o'r GOL- EUAD hyny, gan iddynt osodj Princes Road uwch ei ben. —- Daeth Mr. Thomas Ellis, Cynlas, i mewn i gyfarfod y prydnawn ddydd y Gynhadledd' yn y Bala, a rhoddwyd iddo-, fel yr haeddai, le ymhlith arweinwyr y cyfarfod. Cefnogodd Mr. Ellis un o'r penderfyniadau. Da genyf ei weled yn edrych mor dda, ar ol myned drwy'r brofedigaeth fawr o adael yr hen gartref. Cafodd y pleser prudd o glywed enw Tom Ellis lawer gwaith yn ystod y cyfarfod! —*— Mae ffug-chwedl "0 Gorlanau y Defaid," gan Gwyneth Vaughan, wedi ei chyhoeddi yn llyfr destlus gan Mri. W. Spurrell and Son, Caerfyrddin. Adeg Diwygiad '59 ydyw amser- iad y digwyddiadau geir yn y chwedl, a dar- lunir yndd'i lawer agweddi i fywyd crefyddol a ehymdeithasol y tymor hwnw. Yr oedd y llyfr wedi ei ysgrifenu cyn toriad allan Ddiwyg- iad 1904 a 1905, ac felly mae ei safbwynt yn fwy naturiol nag yw un y ffugchwedlwyr sydd yn awr yn rhuthro i'r wasg. —*— Derbyniodd y Parch. R. J. Jones, Rhiw- abon, lythyr yr wythnos ddiweddaf oddiwrth ei dad, y Parch. R. Jones (gynt 01 Dreuddyn, Wyddgrug), yn dweyd fod adfywiad grymus wedi tori allan er's tua mis yn ol, yn eglwysi Bryngwyn a Gaiman, Dyffryn y Gamwy. Gweinidogaetha y Parch. R. Jones yn y lie cyntaf, a'r Parch. J. C. Evans (gynt o Ddow- lais) yn y lie diweddaf. Mae nifer liosog o ddychweledigion yn y ddau Ie. Cynhelir cyf- arfodydd yn gyson bob nos er's dros fis, ar yr un cynllun ag yn yr Hen Wlad, Yn yr Hoylake Institute y noson o'r blaeri eyflwynwydi Mr. Eleazar Roberts, U.H." ddarlun o hono; ei hun wedi ei fframio1 yn hardd, fel amlygiad o'r gwerth a roddid at 2 iain mlynedd o wasanaeth ffyddlon gydaV Hoylake Gospel Temperance Society. Gosodir y darlun i fyny yr un o ystafelloedd yr In; stitute,—adeilad gwerth £5,000 sydd wedi er godi gan y Gymdeithas a enwyd. Da genyf allu dweyd1 fod1 y rhoddion tua^ at dysteb y Parch. E. Phillips, Castellnewy^d Emlyn, yn dyfod i law mewn modd canmol- adwy iawn yr wythnosau hyn; ond' d'eallaf fod llawer eto o gyfeillion i'r gwr da ac anwyl hwn pa rai sydd yn llawn fwriadu gwneyd eu rhan tuag at hyn, felly y mae y pwyllgor wedi penderfynu ei gadael yn agored am ryW gymaint o amser yn mhellach. Teimlent yn dra diolchgar i bawb os byddant mor garedig ag anfon eu cyfraniad i law mor fuan ag Y byddo yn gyfleus iddynt-fel pan y bydd hyn. wedi ei gwblhau, y bydd y dysteb hon yn arwydd lied sylweddol o fawr werthfawrogf" iad ei gyd-genedl o'i lafur a'i weinidogaeth feddylgar a bendithiol iddynt am flynyddaU lawer bellach. —*— Daw yr ail ran o Efrydiau yn Efengyl Luc, gan y Parchn. W. T. Ellis, B.A., B.D., a J. T. Jones, B.A., B.D., allan o'r wasg tua diwedd y mis hwn. Dyma fraslun o gynwys y llyfr: 1. Y Damhegion; 2. Y Cableddi yn erbyn yr Ysbryd Glan; 3. Y Sabbath; 4- V Publicanod; 5. Tair Dameg y colledig; 6. Dyfodiad Mab y Dyn; 7. Digwyddiadau yr Wythnos Olaf. 8. Glanhau'r Demi; 9. Crist ac Awduriaeth y Salmau; 10. Dinystr Jeru- salem; it. Swper yr Arglwydd; 12. Amser y Croeshoeliad; 13. Dydd yr Arglwydd:; 14* Adgyfodiad Crist; 15. YmddanghosiadaU Crist wedi adgyfodi; 16. Yr Esgyniad; i7' Nodiadau Daearyddol. Telerau pryniant llyfrgell Peniarth gan Syt John Williams ydynt: Fod y llyfrgell ar marwolaeth Mr. W. R. M. Wynne, a'i frawd, Mr. Owen Slaney Wynne, i'w symud i Goleg Aberystwyth neu i Lyfrgell Genedlaethvt Cymru, os sefydlir honor yn Aberystwyth. Cedwir ei henw yn "Hengwrt and Peniarth Collection." Os collir neu os dinystrir rhy^ ran o honi fydd yn werth £20, bydd y Llyfr* gell ar unwaith i'w chyflwyno drosodd 1 r Amgueddfa Brydeinig, i Lyfrgell Bodleia^' neu i Lyfrgell Prifysgol Caergrawnt. Gwehr felly nas gall cartref y Llyfrgell anmhrisiadwy hon fod yn unman yn Nghymru ond yn Aber- ystwyth. Goddefwch i mi roi ar gof a chadw air gan y Parch. Hugh Evans (Cynfor), gweinidogf gydag enwad arall, am gyfarfod bythgofiad- wy Mr. Evan Roberts yn nghapel Chathan1' Street, Liverpool :—Dyma y cyfarfod y g\ve ais fwy o DduW nag a welais mewn unrhy^ gyfarfod erioed. Nid dyna'r cyfarfod mwy^t ysbrydol o safle'r bobi a gefais; na, cefalS ddegau lawer yn y cwmpasoedd hyn a m^y o ysbryd gweddi, ac afiaethn ysbrydol ynddynt- Ond ni welais Dduw erioed yn nes at unrhyw un o'i weision nag ydoedd at Evan Robe'r^ y noson hono. Yr oedd efe yn berffa^*1 hunan-feddianol hyd ddiwedd y cyfarfod., ac aeth o'r pulpud a gwen ar ei wyneb. Gwnaetn i mi feddwl am yr adnod hono 'Y rhai trwJ ffydd a gauasant safnau llewod.' fod y Diwygiwr ieuanc hwn yn anfoneuig Duw." Weithiau bydd dyn yn ameu a ydyw addysf. yn gwneyd llawer mwy i rai dynion na1 gwneyd'yn ymladdwyr tipyn mwy medrus 113 phe byddent ddiddysg. Gallai fod amheuaetn am hyny, ond beth am yr ohebiaeth rhwng Principal Griffiths o Gaerdydd a Syr Marchan Williams ynghylch priodas Syr Isamba^ff Owen? Mae hanes i'r ohebiaeth nad yw ei ysgrifenu. Pe buasai y ddau frawdl yn perthyn i'r Methodistiaid fe fuasai eu hacho" yn y Cwrdd Misol nesaf, a phe buasent y Ffrainc buasent wedi ymladd gornest.. dull y byd hwn o gweryla yw ysgrifenu llyt^y at ei wrthwynebwr, a gyru'r llythyr i'r PaP^j newydd Dim ond1 arall-eiriad1 o'r hen ddu, o fyn'd i'r comins i'w chael hi allan. cofiwch mai boneddigion ac nid gwrachO^ oedd1 wrthi y tro hwn.