Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
SERGH DELYNEG.
SERGH DELYNEG. Mi sylwais fod Gwen Yn rlioi am ei phen A gwisgo ei mantell i gychwyn, Ni wenai y lloer Y noson oedd oer A'r ffordd yn bur unig i'w bwthyn; I Nos da, meddai Gwen, ac aeth alian; Nos da, meddwn inau yn fuan. Os ydoedd y nen Yn dywyll uwcli ben Nid oeddwnlieb un seren siriol; Rhwng gobaith a braw Gosodais fy lIaw I'w synu ar fraich yr un swynol; Gofynais a feiddiwn ei hebnvng Yn mhellach? a'm llwynau'n yn.ollwng. Ai'm calon gynt, gynt, Nes rhwystro fy ngwynt, Odaid! dyna deimlad ysinala, Pan gym'rodd fy mraich Fath fynydd 0 faich A gollais, a theimlwn yn gwella; Aeth gwefr o'i braich i fy nghalon, Cusenais y Uances yn union. Fy ngahv'n fy nghlyw Yn angel neu'n eldnw 0 ganmol ni fyddai yn gymaint, Ond uwch yn ddiau Na phob un o'r ddau Y gwiriwn fy uchel ragorfraint; Dystawrwydd ac arwydd o gariad, Un siriol sydd lfl mwy na siarad. Cyn hir daeth fy Ngwen I godi ei phen, I A siarad, a gwenu i'w Morgan; A tlieimiais cyn hir Mae cariad yn wir A deimlwn at hon yn myn'd allan; Myfi a fy Ngwen bach dirion, Y'm beunydd fel brenin a banon. ATHRYWYN. — # HI
[No title]
—Cloddiwch flynonau cyn bod yn sych- Idig.. -Pan oedd geneth ieuanc un diwrnod yn lsgubo ystafell, rhedodd at y ffenestr a JJiynodd i lawr y 8hade, am fod yr haul yn 'lenwi yr ystafell a llwch, gan feddwl, Jruan, mai llewyrchiadau yr haul oedd yn ynyrchu y llwch, tra mai dangos y gron- mau oeddynt yno o'r blaen yn unig a wnai r pelydrau disglaer. -Tra yr oedd "pregeth elusen" yn cael i thraaaodi yn ddiweddar mewn eglwys K1 -E'^d, Llundain, syrthiodd un o'r enwog —i rflis Wyn P^dH ys d7wedai ^iiis vv yn. ±-an ddaeth y dvn a'r blwch v c°assfw!Uhyr 0 ^d- Rhodd* ilwch; ac ebai'r cj sgwr &'r jdeifro a chael brith-o^wg ar y box yddaf yn 'smocio, diolcS I chwi teddyliodd mai y cigar-box ydoedd —Un tall a gysgodd yn yr eglwysy3 'y d™ Wiiw oedd yn bortcr yn ngoraafyrhral fordd am chwe diwrnod o'r wvthr>n= ii Vy seithfed dydd y chwythaKS yn V eglwys. Pan y traddodid y bretreth Vsgodd; ac ar ei therfyniad deflrowvd ef la sydyn gan ei gymydog. Neidiodd ar ei iraed, cyn gallu agor ei lygaid, a. chroch- tfodd, "Change here for Ruthin, Denbigh udCorwen!" s
PERWYDDIAD AC ENW.
PERWYDDIAD AC ENW. lVIRI. G-OL.-Tra yn edrych dros file y DRYCH am 1875, yn y swyddfa heddyw, daethum ar draws "Gair at Lewys Glyn Dyfi," gan fy nghyfaill caredig "Ehisiart Ddu o Fon," wedi ei ysgrifenu yn agos i ddau fis yn ol. Dygwyddodd ddianc heb gyraedd fy sylw ar y pryd. Mae fy nghyf- aill yn camgymeryd fy meddwl am y llin- ell flaenaf o'r Englyn yn hollol. Gwyr pawb mai nid rhyw lecyn i ddangos cyw- reinrwydd celfyddgar cynghanedd yn unig yw Englyn a fwriedir i fod yn fuddugol. Dylai fod ynddo nerth, eglurder, a chroew- der, meddwl a chynghanedd, nes y mae pawb ar unwaith yn ei gymeryd i'w medd- iant fel diareb. Peth i oglais yr ychydig yw Englyn o gudd gynglianeddion, ac nid peth a afaela ar unwaith yn y Iluaws. Mae un pwys o nerth ac eglurder mewn meddwl a chynghanedd yn werth tunell o gywrein- rwydd sycli, a dim ond hyny. Os derbynia fy mrawd air o gyngor, lioffwn ddweyd wrtho, am wneyd mwy o ymdrech rhag- llaw i wneyd pob llinell yn drom o awen ac atlirylith yn hytrach nag yn engraifft o gywreinrwydd yn unig. Hawdd iawn yw llithro i eitliafedd yn hyn, yn enwedig i un o glust deneu a cliwaetli dda fel Hhis- iart Ddu. 0 berthynas i'r ferf, mae yn rhyfedd genyf na fuasai llygad craft fy nghyfaill yn cariforl ar unwaith fod yr engreifftiau a roddodd yn holiol anmliriodol. Nfae yr "amryfus- edd" ar ei du ef yn hollol, ac nid ar yr eiddof fl. Nid wyf yn credu fod cyd- nabyddiaetli fy nghyfaill S'r iaith Saeson- aeg mor anmherlfaith ag i dybio fod "Her i ti" yn gyfieithiad cywir o'r gair "Defy." Ilerio—dyna gyfieithiad llythyrenol y gair. "Y gwir yn erbyn y byd." Am yr eng- reifftiau ereil], maent oil naill ai yn ferfau naturiol, a dim arall, neu yn cael eu gwneyd yn berwyddiaid cywir trwy gy- morth y rliagferfau cysylltiedig a hwy. Nid felly am "her." Pe buaswn i yn per- thyn i'r dosbarth herfeiddiol, buasai yn hawdd siarad llawer ar hyn. Digon yw dweyd, unwaith am bytli, mai aflwydd- ianus fydd lioll ymdrechion fy nghyfaill i wneyd dim o her ond enw; gan liyny, yr wyf yn dymuno ar ei ran, iddo ddal yn ei uniondeb i enill enw gwell na meibion ac na merclied." Ei gyfaill cywir, Utica, Qor. 13. LEWYS GLYN DYFI.
NID MOR DDRWG.
NID MOR DDRWG. Traddododd y Brawd Raymond ane:ch- iad orsanteiddiol atliuclianllyd dros ben yn y cyfarfod gweddi yn nghapel Plymouth, yn erbyn newyddiaduron y wlad, o her- wydd eu sylwadau ar brawf Mr. Beecher. Diau fod y newyddiaduron yn ddrwg; ond pa fodd y gallesid yn rhesymol ddisgwyl iddynt fod mor ddallbleidiol ag i addoli y Brawd Beecher, fel y gwna y Brawd Ray- mond? Ni ddarfu y newyddiaduron ys- grifenu llythyrau edifeiriol a hunan-gon- demniol Mr. Beecher; ac ni ddarfu iddynt ymddarostwng o flaen Theodore Tilton mjgis o flaen eu Duw. Ni ddymunasant chwaith eu bod wedi marw; ac ni roddas- ant y Brawd Beecher ar y ragged edge." Ni thybiasant yn angenrheidiol i weddio ar Dduw am iddo droi calon Theodore Tilton, fel y gallai faddeu i Beecher. Ni ddarfu iddynt ysgrifenu at Mrs. Tilton fod yn ddi- ogel iddi alw gydrtJr Brawd Beecher, gan fod Mrs. Beecher wedimyned i'r De; ac ni feddyliasant am gusanu Mrs. Tilton, Tilton na Mrs. Moulton. Ni ddymunasant chwaith am lythyr oddiwrth Mrs. Tilton yn llawn o true inwanlness;" ac ni ddarfu iddynt ei hegwyddori mewn nest-hidings." Er mor ddrwg ydyw y newyddiaduron, y maent yn ymgroesi rhag cyflawni rhai petli- au, a gwneyd eu hunain yn gyS chwerthin i bob dynsodach.-O'r-Y. Y. I-Ierald.
FFOLINEB ANESGUSODOL.
FFOLINEB ANESGUSODOL. MRI. GOL.—Ychydig amser yn ol, ym- ddangosodd englynion yn y DRYCH o waith J. R. Jones, Hendref, er coffadwriaeth am Mrs. Breese, yr hon a orphenodd ei gyrfa yn y byd hwn Hydref diweddaf. Dywed J. R. J. yn un o'r englynion—"Nid marw wnaeth." Eto, yn y DRYCH am Meh. 17, cawn hanes fod Trahaiarn wedi gorphen ei yrfa yntau, a dywed B. C. Jones, Wiscon- sin, yn un o'r englynion a gyfansoddodd ar yr amgylchiad hwnw—"Marw wnaeth. Gan mai amgylchiad o'r un natur gyfar- fyddodd y brawd a'r chwaer, rhaid fod un o'r ddau fardd yn ddychrynllyd o gyfeil- iornus. Ai nid ydyw pobl yn marw pan y maent yn peidio byw ? Ai nid ydynt yn peidio byw pan y maent yn marw? Yn- fydyn yn unig a daera mai goleuni yw ty- wyllwch. Cysondeb, bobl anwyl. Cambria, Gorph. 5. SYLLWR.
CHWAEKU TEG I BA WB.
CHWAEKU TEG I BA WB. MRI. GOL.-Diau eich bod chwi fel gol- ygyddion gonest a rhyddgarol yn barod i ganiatau i bawb yr anrhydedd a berthyn iddynt. Nid oes arnaf finau eisiau dim yn rhagor; ac os caf hyny, byddaf getynuwch law rhyw bytiau y gwn fy mod yn uwch na hwy o fy ysgwyddau i fyny, ac yn teil- yngu mwy o barch na'r pethau bach, bach pigfain hyny sydd yn hela ysgrifau i'r DRYCH, ac yn fy mhigo at yr asgwrn, am fy mod wedi cymeryd mewn llaw wneyd tipyn o drefn ar y wlad o Brooklyn i La Crosse, ac am fy mod yn ystyried fod o bwys i'r byd gael gwybod fy marn am Mr. Beecher, yn gystal a gwybod fod mosquitoes yn amgylchoedd Kingston. Nis gwn yn y byd sut y mae rhyw bytiau o bobl mor ffol a cheisio cwnu eu hunain o fewn 59 gradd i'm huchder I; ac yn sicr i chwi, y mae yn lied anhawdd pasio heibio y pethau bach, bach, pigog hyny, heb eu diystyru, am iddynt aflonyddu arnaf, ameiddio cym- ylu disgleirdeb fy syniadau. Markesan, Gorph. 10. ROSOCOLAX.
UNDEB CREFYDDOL.
UNDEB CREFYDDOL. MORRIS RUN, P A.-Rhag i neb gael eu camarwain i gredu ensyniadau haerdybiol a ffol Mr. Jones, Morris Run, am danaf,sef nad oes fy math mewn dweyd anwiredd a llunio celwyddau, crefaf am ychydig o ofod yn y DRYCH i ddweyd gair eto. Yn y DRYCH am Chwefror, 1875, crybwyllais am ddau fath o gymdeithasau ag oedd yn bod- oli yma-Dyngarol, sef rhai i ddarparu ar gyfer dyn yn gorfforol ac amgylchiadol-y lleill, rhai meddyliol a moesol; rhai Ilen- yddol, ercoethia dyrehafu y Imeddwl mewn gwybodaeth a dysg; rhai dirwestol, er sobri y bywyd; yr Ysgol Sabbothol, er dysgu moes-wersi y Beibl, a chrefyddoli yr enaid; dyma y cymdeithasau a olygid. Mae natur a, theithi yr iaith yn dangos hyn. Mae rheswm a rhediad yr ymadroddion, yr an- soddeiriau llenyddo], dirwestol, a meddyl- iol, yn nghyd a'r undeb a geisid ei ffurfio, sef un eglwysig a chrefyddol, yn ddigon i brofi i'r hwn sydd yn meddu ar ryw faint o amgyffrediad, na feddylid y rhai dyngarol ogwbl; y rhai hyn ydynt yr antecedent, neu yr enwau pertliyiiol i'r "cymdeithasau er- aill." Dyma y rhai olaf y sonid am danynt yn y penawd; a gwyddoch, J., mai am un- deb crefyddol ac eglwysig y sonid, neu dy- lasech wybod. Pa fodd y darllenvvcliV Ai nid fel eglwys y rhoddwyd gwahoddiad i chwi uno ag cglwysi eraill? A gawsoch chwi fel eglwys neu gynullcidfa ddim gwa- hoddiad i uno a'r enwadau eraill, mewn cydweithrediad o blaid llenyddiaetli, dir- westiaeth, a chanu y cysegr, &c. ? A unas- och? Nid oedd genyf feddwl am wadu eich undeb fel unigolion a'r cymdeithasau dyngarol. Gwyddwn eich bod yno, ac yr wyf yn addef hyn eto. A plialiaiii y cy- huddwcli ti o ddweyd anwiredd'? Gwel pawb nad wyf ddim yn euog o ddweyd an- wiredd. Os mai cystrawen yr iaith oedd yn eich arwain i dynu y casgliad, paham na fuasech fel boneddwr yn awgrymu hyny, yn He darostwng eich hun i ddefnyddio y fath eiriau enllibus? Dywedais y gwnaeth- wn enwi wrthych chwi yn bersonol y cyf- ryw bersonau, ac yr wyf yn sefyll at fy ngair—cant hwy brofi y gosodiad, sut y bu rhyngoch chwi a hwynt. Dywedir hefyd, Na ddwg gam-dystiolaeth yn erbyn dy gymydog." Dyma un 0 honynt; ondliyn- od mor esgeulus ydym o hono. "Degymu yr ydych y mintys a'r anis, a gadael lieibio y pcthau trymach or gyfraitli. Hyn am byth, oblegid mae undeb eglwysig a chref- yddol wedi ei ffurtio yma rhwng y gwa- hanol enwadau ar y Fourth. Dyma betli newydd spon—dechreu da; ac y mae Jones a minau yn Dawenhau. Hir y parhao yw dymuniad-Syl,a,e(ty(1,1. }
PAHAM ?
PAHAM ? MRI. GOL —Dymunwyf gyfeirio gair at Bwyllgor Eisteddfod Ganolbarthol Penn- sylvania, a gynaliwyd yn Shenandoah:- Foneddigion— Yn eich adroddiad o hanes gweithrediadau a phenderfyniadau perthyn- ol i'r Eisteddfod uchod, hysbysasoch y byddai i chwi gyhoeddi y ddau draithawd cyd-fuddugol ar Hanfodion cysur teulu- aidd," gan Dwyfor a Gwerfyl-y naill yn y DRYCI-I, a'r Hall yn y Faner. Ond er fod blwyddyn a haner er pan esgorwyd ar y pendcrfyniad, nid yw wedi dyiod yn ffaith eto yn nghyhoeddiad y traithodau. Nid yw y ffuantrwydd hwn yn ychwanegiad at eich urddas. Nid yw yn ymddangos. yn ddymuiiol iawn cyhoeddi rhyw bcndcvlyii- iadau j'mffrostgar, a byth heb eu cyflawni. Diau y byddai yn dda gan y newyddiadur- on uchod gyhoeddi y cyfansoddiadau, yn enwedig os ydynt, fel y dywedodd y beirn- iad, Cefni, wedi dvhysbyddu y pwric.- Byddent felly yn adlewyrchu anrhydecld eu hawdwyr, heblaw fod y testyn yn fater dy- ddorol a llesol i'r ddynoliaeth yn gyffredin- ol, ac yn neillduol penau teuluoedd, ac yn foddhad i'r cyd-gystadleuwyr. Credwyf eich bod dan rwymedigaeth i'r cyhoedd hyd nes y cyflawnwch eich addewid. "Pan addunedecli, tal." Yr eiddoch—Ilomo.
AT ELLIS E. ELLIS (GLAN DVri).
AT ELLIS E. ELLIS (GLAN DVri). AN WYL SyU- liVrth geisio amddiffyn eich hun yu ngwyneb y cyhuddiad o lenladrad it. ddygais yn eicli erbyn dro yn ol yn y DRYCII, dywedwch fod cyfeillion i chwi wedi bod yn chwiHo y rhifvn a nodwy". o Flodau yr Oes am Cdii y "Cryd," a'u bod wedi ffaelu, er chwilio yn bwyllog, gael o hyd iddi. Yr wyf finau yn dweyd yn gan- lynol i hyn fod yn rhaid eu bod yn ddall hollol. Yr wyf unwaith eto yn gofyn i chwi, eich cyfeillion, a phawb o ddarllen- wyr y D-iiycii, gymeryd Blodau yr Oes am Tachwedd, 1873, a throi i dudalen 324, a chwi gewch weled Can y Cryd yn argraff- edig, ac enw Ellis E. Ellis (Glan Dyfi) yn llawn uwch ei plien; ond loan Maethlu yw ei gwir awdwr, ac y mae yn argraffedig yn ei lyfr. Dywedasoch hefyd na ddarfu i cliwi enoed anfon manuscript i Flodau yr Oes. Os gwir yw hyn, mae yn canlyn ynte mai cyn-olygwyr Blodau yr Oes a ddethol- odd y dernyn dan sylw o lyfr loan Maeth- lu, ac a roddasant eich enw mawreddus chwi uwch ei phen. Os gwirionedd yw hyn, meddaf eilwaitli, y maent i'w beio hyd gosb am gymeryd y fath hyfdra cywil- yddus. Nid oes genyf ddim iliii cyfiawn- liau dros ameu eich geirwiredd; ond ar yr un pryd y mae yn anichonadwy genyf grcdu fod cyn-olygwyr Blodau yr Oes mor ffol ag y gwnaent y fath weithred ddisynwyr. Nid oes genyf ddim i'w wneyd ond gadael i chwi a hwythau amddiffyn eich hunain, neu derfynu y mater a'ch gilydd, ac yna ni gawn weled gyda phwy mae cythraul. Nid amcanu at gyhoeddusrwydd yr oedd- wn, fel y crybwyllasoch yn eich amddiffyn- iad, pan yn eich cyhuddo o'r drygwaith hwn, ond yn hytrach amcanu yr oeddwn at amddiffyn cynyrch awenyddol un o berlau barddonol y genedl, yr hwn sydd wedi ym- adaw i wlad lie nad oes llen-ladron. Na, gyfaill anwyl,nid wvf mor awyddus am gy- hoeddusrwydd ag yr awn i ladrata er ei gyraedd. Yr wyf yn caru bod yn ormod o foneddwr i gweryla dim a chwi. Os ydych yn euog, deuwch allan fel dyn,a syrthiwch ar eich bai, ac yna dwys weddiaf ar i Ger- idwen roddi maddeuant i chwi, ac ar i Hu Gadarn eich sancteiddio. Gwnaethum ychynig o gamsyniad yn y cyhuddiad, sef ysgrifenu Glyn, yn lie Glan yn y ffugenw; ac yr oeddwn yn meddwl fy mod yn iawn pan atebais nonsense 'Pererin' yn y DRYCH amser yn ol, tae waeth am hyny. Prospect, N. Y. EILON Mos.
PERYGLON YR OES.
PERYGLON YR OES. A ganlyn oeddynt sylwadau y meddyl- iwr galluog y Parch. D. C. Davies, M. A., Llundain, yn Nghymanfa Porthmadoc; Yr oedd yn amlwg i bawb oedd yn sylwi, mai peryglon yr oes hon, a'r nesaf yn fwy na hon, oeddynt un ai anffyddiaeth ai def- odaeth. Fe geir ambell un mewn perygl oddiwrth y ddau. Yr oedd llawer o bobl heb weled fod gogoniant yr efengyl yn ei geiriau, ac nid mewn; rhywbeth heblaw geiriau. Yr oeddynt yp meddwl fod yn rhaid cael rhywbeth i'r llygad ac i'r glust. Nid oedd ef am ddweyd dim yn isel am gerddonaeth, ond yr oedd yn ofni fod mwy o bwys yn cael ei roddi yn ami i'r gerddonaeth nag i'r geiriau. Credai fod perygl yn y fan yna. Yr oedd rhai yn credu lod yn rhaid i ni wrth bregethu ddy- 2 1 y ^°bl) a bod yn rhaid cael rhywbeth heblaw geiriau, rhywbeth i'r llygad ar glust. Yr oedd yr oes hon i lesur mawr y n ddiystyr o'r efengyl, oblcgid na welsant ei gogoniant mewn geiriau. Nid oedd ef yn cyfeirio cymaint at yr hyn a ysgrifenid i'r papyrau, ond nid oedd dim lie i wadu mai cred llawer yn yr oes hon yw, mai gogoniant uchaf pregeth yw ei byrder, ac mai goreu po gyntaf y byddai drosodd. Yr oedd i'w gael yn mhlith llawer o'r oes sydd yn codi. Cyffesai am- bell un fod pregeth dros chwarter awr o hyd yn annioddefol. Haerai eraill nad oeddym yn myned yn ddigon agos at y bobl, a chwynid os byddai y bregeth yn gofyn am feddwl. Yr oedd yn rhaid cyf- addef fod perygl yn bod. Yn nglyn a hyn- yna yr oedd perygl arall. Ofnai nad oedd y Beibl yn ddigon uchel yn ein golwg, nad oeddym yn rhoddi digon o bwys ar ddar- llcn y Beibl. Yr oedd perygl rhag i ni wneyd hyny, hyd yn nod wrth weddio ac wrth ganu. Yr oedd y fath awydd am rywbeth allanol i'n cynyrfu, fel yr oedd y darlleniad syml o'r Beibl yn yr Y sgol Sab- bothol mewn perygl o fyned yn ddiflas. Yr oedd eisiau brwdfrydedd. Nis gallem fyned yn mlaen heb frwdfrydedd, ond dy- lai gyfodi oddiar fod y gwirionedd yn dy- fod i gyfarfyddiad a'r meddwl, ac nid yn cyfodi oddiar gynyrfiad mewn pethau am- gylchiadol."
GOFYMADAD,
GOFYMADAD, MR. GOL.-Pa rai yw y Dramas neu y chwareu-farddoniaeth mwyaf arferedig heblaw Shakspeare? Beth yw enw y chwareu oedd yn cael ei chyflawni yn Washington pan laddwyd yr ArJywydd Abraham Lincoln? Gobeithiaf y cymer rliywun y drafferth i roi atebion, er mwyn —Yr eiddoch-Anwybodus. DIm. GOL.-Ga,n fod y DItYCH yn rhoddi lie i ofyniad ac atebiad, dymunaf arnoch gyhoeddi y gofyniad canlynol: Pa sawl gwaith y safodd yr haul ar ganol dydd? Byddaf yn ddiolchgar i rai o ohebwyr y DRYCII am atebiad. Yr eiddoch-Bliydwen.
- -------- --------Y BEIBL.
Y BEIBL. Y mae'r Beibl yn rhyw drysor, Ac mae'r byd heb wel'd ei ail, Ynddo cawn y iiorad i'r bywyd, Ai-iio gallwii roddilil sail Olid i'n ddilyn ei reolan, Cadw'r deddfau ynddo sydd, Felly denvvu oil i edrych. Ar yr Iesu, gwrthrych ffydd. Yn y Beibl ceir yr hanes Am drefn cadw dyn yn fyw, Arn y gras sydd eisiau i'n cyual Fel y byddoni byw i Dduyv; Y mae hwn yn dywedyd wrthym Cred yn unig cedwir di, Felly awn yn dra hyderus Er maim llygredd caion ddn. Yn y Beibl hefyd clywir Am y farn a'r cyfri mawr, O'n meddyliau a'11 gweitliredoedd (iyllawnasom ar y llawi; Pawb fydd yno yn bersonul Yn rlioi cyfrif bob yr UIl, 0 flaen Barnvvr mawr y bydoedd, 'llhwii osododd Duw ei hun. • Dylem ddilyn bywyd duwiol, Codi'n goiwg uwcli y llawr, Fel y oydUom fwy ysbrydol Yn ngwasanaeth iesu illawr; Rhoddwn glust o ymwrandawmd i'r hyn ddywed iesu Grist, Deuweh ataf bavvb sy'n llwythoo- Deuwch pan y byclclWCll drist. Lledwigan- JOHN J. JONES. 'II"
SIOMIANT.
SIOMIANT. Hawdd yw swnio y gair siomiant; Ond mae llawer iawn 11a wyddant Betli y w cyuwys gair mor fychau Ufferii ydy w y iidclu'i liunait. Menyw lan yn cywir garu Lachgen sinol, yntau n eefnu Ar ol portlii nwydau ailan, Uiferu ydyw yiiddo'i hunan, Cyfaill pur mewn llwydd im' dilyn, Mewn ailwyddiant, cuirnu wocl-vix; bioimaut, Its, gwenau Sataii, Lliern ydyw ynddo'i hunan. Rhoi ymddiried llwyr mewn arall. Uvvae erioed im1 wueyd mor anghall; 1 wyllodd ii, yr ellyli aflan,— Lliern ydyw yuddo'i liunan. Ond mae un a gadd ei siomi, Syad bob amser yu cytlawm; Credaf iddo o hyn allan, Nefoedd ydyw ynddo'i hunan. Granville, N. Y. IFOII IVYN.
TELlfLAD Y BARDD AR OL EJ…
TELlfLAD Y BARDD AR OL EJ GAPIAD. 'Rwy'n caru'r anedd feclian hardd Lie magwyd Emma Wyn, 'Rwy'n hoilo rodio llwybraa'r ardd Y bwthyn bychan gwyn Oud caru rwyf yn fwy y Haw A wasgais at fy mron, 'Does dim a leddfa'r poen a'r braw Sy'ii curio'r fyuwes lion. I 'Rwy'n caru'r drlerwen fawr ei bri Sy'n esgyn fry i'r lien, 0 dan ei brigau buom ui 'C Y'iigoleu Ileuid well; Ond caru 'rwyf yn fwy y gwallt Fel aur o felyu liw, Wrth gofio hwn rwy'n wylo'n hallt Am calon fach sy'n friw. 'Hwy'n caru'r ddol sydd ger y llyn Lie tyf y meillion man, Hyd hon y rhodiodd Emma Wyn Mewn hwyl yn seinio can; Ond caru 'rwyf yn fwy na'r byd Y galon bur a'r froii; A dweyd mae nghalon fach o hyd, Augyles lan oedd hon. 'Rwy'n caru'r llanerch fechan dlos Lie gorwedd gwyryf lâll, o gylch ei bedd mae gwrych o ros A gwair a greian man; Ond caru 'rwyf yn fwy y ferch Sy'n Uechu'u llwch y bedd, A chofio wnaf y blodau serch Oedd yn addurno ei gwedd. Quincy, Mass. Ar DAFYDD
Adolygiad y Wasg.
Adolygiad y Wasg. LL YFBA U AG A TVD UPi ON. MAE Trysorfa y Plant yn cynyddu mewn poblogrwydd o dan olygiaeth y Parch. THOMAS LEVI. Gwnaed'$3,300 o elw clir oddiwrthi y flwyddyn ddiweddaf—er nad yw ei phris ond un geiniog y rhifyn. YN Ngliymdeithasfa y T. C. a gynaliwyd yn Mhorthmadoc, darllenwyd Ilythyr odcli- wrth Mr. MOURIS DAVIES, Bangor, o barth i Gofiant a Gweithiau Daniel Boiclands," a phenderfynwyd: 1. Ein bod yn ymgymer- yd a dwyn allan y gwaith hwn, gan anog Mr. Davies i fyned yn mlaen fel ag i or phen ei ysgrifenu. 2. Fod Mr. T. Lewis a'r Parch. Samuel Roberts, Bangor, yn nghyd a Mr. M. Davies, i ymofyn am tend- ers er ei argraffu. Y MAE yr Arglwyddes Clarence Paget wedi cyfansoddi can a elwir Glag-tvour, yr hon syd yn cael derbyniad tra ffafriol. Dy- wedir fod y geiriau a'r gerddoriaeth yn darawiadol a darluniadol. LLENYDDIAETH DEMLYDDOL.—Ysgrifena IOAN PEDR, y Bala, fel y canlyn gyda gol- wg ar gyhoeddiadau Temlyddol Cymru :— Arwydd dda yw fod Dirwest a Theml- yddiaeth yn dylanwadu yn rymus yn yr un cyfeiriad. Nid yn unig defnyddia Teml- yddiaeth Dda gyhoeddiadau oedd eisoes ar y maes, ond rhoddodd fodolaeth i amryw gyfnodolion. a chynyrchodd nifer erfawr o jyirau a pampnledau newyddion. Hyd y nod mewn gwlad fechan, ddwyieithog fel Cymru, y mae bellach gryn swm o gyfan- soddiadau barddonol a rhyddieithyddol ar Ddirwest yn ei gwahanol agweddau wedi eu cylioeddi. Da genym ddeall fod y l'eml- ydd Cyntreig yn Ilwyddo ae yii enill tir, ei fod yn lluosogi yn ei derbynwyr yn gystal a gwella yn ei gynwysiad. Y mae Baner y Band of Hope gan Mr. Mather, Ffestiniog, yn chwifio. Llyfryn difyr ac addysgiadol iawn yw hwn, a thra chymwys i'w ddar- llen a'i adrodd yn y Temlau. Ni byddai o le yn yr Is-demlau, ond byddai yn anmhris- iadwy yn nhemlau y plant. Llyfryn arall tra addysgiadol, ond mwy uclielgeisiol, yw Gwiiioedd y Beibl, gan Mr. R. H. Williams, Aberystwyth. Ymdrinia hwn a phwnc pwysig a dyrys, ag sydd yn gofyn gwybod- aeth a medr angliyffredin i'w benderfynu. Gallwn gymeradwyo yn galonog í sylw dir- westwyr a phawb y llyfr hwn fel cymorth gwerthfawr i gael golwg eang, os nad ter- fynol, ar y cwestiwn. Llyfryn bach defn- yddiol iawn i blant drachefn yw Llais Duw, gan Mr. Rogers, Pembre. Da genyf weled agwedd Feiblaidd y pwnc yn cael cymaint o sylw gan yr holl ysgrifenwyr, ac y mae cynwys y traethodyn hwn yn addysgiadol a phwrpasol iawn i'r plant. Byddai yn dda genyf ddeall fod y llyfrau uchod, ac ereill cyffelyb, yn cael cefnogaeth yn mhob eg- lwys a theml drwy Gymru, ac mewn can- lyniad yn cario dylanwad iachusol ar fil- oedd o feddyliau." TRAETHODAU CYMREIG.—Mae Cymdeith- as y Traethodau yn Llundain wedi cy- hoeddi yn ddiweddar amryw lyfrau a thraethodau yn yr iaith Gymraeg; ac y maent o hyn allan yn bwriadu dwyn traeth- odyn bychan allan bob mis. Y Parch. THOMAS LEVI yw awdwr y rhan fwyaf o'r traethodau hyn; ac y mac efe yn awr yn parotoi at wasanaeth y Gymdeithas Han- e8 Gyfieitlmyr y Beibl yr hwn yn ddiau a ga dderbyniad helaeth. Gosododd y Parch. Dr. Edwards, Bala, achos Cym- deithas y Traethodau o flaen Cymdeithasfa y T. C., a gynaliwyd yn Porthmadoc y mis diweddaf, a phasiwyd yno eu bod yn rhoddi pob cefnogaeth i'r ymdrechion hyn o blaid llenyddiaeth goeth ieuenctyd y Dywys- ogaeth. YR EURGRAWN WESLEYAIDD AM MEJ- HEFIN.-Daetil yr Eurgrawn i'n swyddfa yn amserol y mis presenol, yn llawn o ddar- lleniad dyddorol. 0 flaen y wyneb-ddalen y mae cerflun ar ddur hynod o brydferth o ryw Barch. James S. Thomas, ac mae yr enw a'r gwynebpryd yn Gymreigaidd; a dyna yr oil a allwn ddweyd, gan nad ydym yn adnabod y person. Mae pob rhifyn o'r Eurgrawn yn cynwys arlun o'r celfyddydwaith goreu, 0 ryw wr parchedig perthynol i'r Cyfundeb Wesleyaidd, ond ni roddir gair o eglurhad pwy y.dynt, yr hyn sydd yn fai anesgusodol. Diau yr hoffai holl dderbynwyr y cyhoeddiad gael ychyd- ig 0 hanes bywyd y gwyr parchedig hyn- pwy oeddynt, pa le y ganwyd hwy, nod- weddion eu gweinidogaeth, eu doniau a'u safle yn y Corff Wesleyaidd. Rhwymir yr Eurgrawn yn gyfrol hardd ar ddiwedd blwyddyn; ond peth chwithig ydyw llyfr yn cynwys arluniau deuddeg o weinidogion heb air o SOIl am danynt. Mae; adran draethodol y rhifyn hwn yn cynwys y cyf- ansoddiadau canlynol: CofiantJane, anwyl briod y Parch. W. H. Evans; Gogoniant Cyfryngwr y Testament Newydd; gan y Parch. E. Pugh; Rhagoriaethau Crist fel Pregethwr, gan Vulcan; Pregeth ar Nos Waith, gan y Parch. J. H. Evans; Tra- ddodiad Pregeth, gan y Parch. John Evans; Anerchiad o'r Gadair Ddwyfraich, gan y Parch. W. H. Evans; 0 Liverpool i San Francisco, gan y Parch. John Evans. Mae yr hanes hwn gan Mr. Evans am ei ymwel- iad ag America yn cynyddu yn ei ddydd- ordeb; ac er nad oes ynddo ddim byd han- fodol newydd i ni yma, y mae wedi ei ys- grifenu mewn arddull syml, eto coeth a dyddorol, fel y mae yn anmhosibl peidio ei ddarllen drwyddo ar ol declii-eu. Hwn ydyw f try dydd llythyr, ac nid ydyw yr awdwr wedi myned yn mhellach i'r gor- llewin nan Utica eto. Dichon y bydi iddc gyraedd San Francisco cyn y Nadoiig! BYWYD HEN BERSON LLAKEDWYDD, ganddo ef ei hun. Caernarfon, argrajf icyd a chyhoeddwpd gan Bees & Evans, Swyddfa'r Herald, 1875.—Cynwysa y pampliledyn hwn 104 o dudalenau, 12 plyg, wedi ei argraffu yn dda, mewn liytliyren fras, ddarllenadwy, ar bapyr gwyn I)rydferth.- Ei biij ydyw swllt. 'Rhwydd gyfieithiad ydyw o'r Vicar of Wakeneld, ffug-chwedl enwog y bardd Goldsmith. Dyma fel y dywed y cylioeddwyr yn y rliagymadrodd: 0 holl ysgrifenwyr rhyddieithol y Saeson, nid oes odid un yn fwy dillyn ei arddull a pliur ei foes na'r awdwr liyglod hwn; ac o'i holl ysgrifeniadau ef, nid oes braidd un yn fwy trylawn o wersi buddiol ac o ysbrydiaeth athrylith na'r ffug-chwedl uchod. Derbyniodd y ganmoliaeth uchaf gan feirniaid fei Goethe, Syr Walter Scott, a Thomas De Quincy, heb enwi ugeiniau o rai llai eu galluoedd, ac edrycliir ar y cyfansoddiad fei un o emau gwerthfawrocaf llenyddiaeth Prydain.— Erioed nithynwyd gan na phin na phwynt- il ddarlun mwy naturiol a phrydferth, mwy swynol yn ei symledd a phurach yn ei f ueliedd, na'r hen beriglor. Sicr ydym y bydd i'r neb a ddarlleno yr ystori yn ddeallus deimlo fel y teimlodd Scott, nad oes genym un ffug-chwedl a'i thuedd yn fwy uniongyrchol i'n cymodi a'r natur ddynol, ac i enyn ymddiriedaeth syml a llwyr yn noethineb a daioni Rhaglun- iaeth. Cynygir y chwedl hon yn ei gwisg Gym- reig i'r darllenydd gyda'r hyder ddarfod i ni ymdrechu cadw ysbryd yr hanes yn ffyddlon, os yn anmherffaith; a chyda'r gred hefyd nad yw arddull yr awdwr wedi ei hanmharu yn fawr yn y gwaith o'i cliyfleu. mewn iaith arall. pgr" Gan y tybiwn y bydd yr Hanes yn ddyddorol i ddarllenwyr y DRYCH, yr ydym yn cymeryd y rhyddid o'i ail gyhoeddi. Gweler y Benod gyntaf ar y tudalen cyntaf o'r Rhifyn hwn. THE PEOPLE'S COMMON SENSE MEDICAL ADVISER, By R. V. PIERCE, M. D., Buf- falo, N. Y., 1875.—Math o feddyg teulu- aidd ydyw y llyfr hwn yn cynwys 885 o dudalenau 12 plyg, pris $1 50. Ymdrinir ynddo ar bob math o anhwylderau y mae y teulu dynol yn ddarostyngedig iddynt; ac maey llyfr yn cynwys nifer mawr o arlun- iau eglurhaol a phladiau lliwiedig. Mae Dr. Pierce yn feddyg tra nodedig, ac yn adnabyddus iawn fel blaenor a pherchenog y sefydliad meddygol a adnabyddir wrth yr enw, "The World's Dispensary," VT> Buffalo. Mae oddeutu cant 0 bersonau yn cael gwaith yn y sefydliad, i wneyd cyffeiriau, a'u hanfon i bob parth o'r byd. Dywed golygydd un o newyddiaduron Buffalo, fod unarcheb a dderbyniodd y Dr. o wlad dramor y diwrnod yr oedd efe yno, yn cvraedd y swm mawr o$10,225 60.— Talodd y Dr. mewn tri Mis$2,080 70 am stampiau llythyrau, newyddiaduron, &c. Hwn ydyw y llyfr meddygol rhataf yn y farchnad; ac mae yn cynwys esboniad cytlawn ar bob darganfyddiad newydd mewn anianeg, meddyginiaeth, deddfau iecliyd, &c. LONGEVITY: The means of prolonging life after Middle Age, By JOHN GARDNER, M. D. Boston: William F. Gill and Co., 1875. Amcan awdwr y llyfr hwn ydyw rhoddi cyngorion i bobl wedi pasio y cyf- nod a elwir canol oed, pa fodd i fwynhau bywyd, dedwyddwch a hir hoeclledd) drwy dalu sylw priodol i ddeddfau iechyd.— Golyga nad ydyw y corff yn dechreu dad- feilio, hyd nes yr eir heibio y 63 mlwydd oed, os na fydd y person wedi mawr droseddu deddfau y cyfansoddiad yn llaenorol. Mae hwn yn llyfr gwirioneddol dda; ac wedi ei ysgrifenu mewn iaith sathredig, a hawdd ei deall. Diclion fod rhai o ddamcaniaclau y nicddyg yn eithafol; ond y mae ei gyngorion yn ymarferol a da. Pris y llyfr ydyw $1 50.
[No title]
BIRKNER, III., Gorph. 8.—Saif ylle hwn tua deg milltir i'r dwyrain o ddinas fawr St. Louis, ar y St. Louis & South Eastern Railway. Mae yma wyth o byliau glo bychain, ond nid oes gwaith un pwll ynddynt gyda'u gilydd. Y mae cwmniau tri o honynt wedi tori i lawr o fewn y flwyddyn hon, yr hyn a ddengys amser tlawd dros ben. Telir dwy sent y bwsiel am dori glo: hyny yw, 50 cents y dunell a'r treulion allan o hyny, a gweitliio haner amser. Cymry ydyw y mwyafrif yn y lie hwn, ac y maent yn cynal Ysgol Sabboth- ol, yr hon sydd yn rhifo tua deugain. Y mae yma ysgol bur lewyrchus. Nlid oes, yma un ysgoldy yn gyfleus, na chapel.— Aeth Mr. Harries, un o berchenopdon y Welsh Mining Co., at oruchwyliwr y ffordd haiarn am genad i gynal yr ysgol yn yr orsaf (station), a chyn hynyyr oeddym yn ei chynal o dy i dy. Carem weled rha o weinidogion yr efengyl yn galw gyda ni. Nid oes yr un wedi bod yma ar ol Gwerfyl yn gynar y gauaf diweddaf. Cawsom gwrdd llenyddol yma ddydd Llun, y 5ed o'r mis hwn, a chwrdd llewyrchus iawn ydoedd ag ystyried mai y cyntaf a fu yma erioed ydoedd. Cafwyd adrodd a chanu yn y ddwy iaith, gan mai cynulleidfa gymysg sydd yma. 11 Cymro ydyw blaenor y canu, o'r enw John Vaughan. Mae yn medru y ddwy iaith yn lied dda, ac mae yn help mawr i'r Cymry sydd yma i ddysgu canu Cymraeg. Caw- som wledd ardderchog yr un dydd. Caf- wyd y plant a phobl mewn oed, a'r bobl ieuanc eu digoni a'r danteithion goreu, sef ice cream, lemon-ade, pies, cakes, a can- dies i'r plant. Cymaint a hyn yn bresenol. gan obeithio y cawn fyw yn mhellach i ddanfon tipyn 0 hanes y lie hwn yn y dy~ fodol. D. S. J.