Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

gmuiatettom.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

gmuiatettom. EISTEDDFOD UTICA, N. Y. I. TKAETHAWD AR "HANES GORESGYNIAD Y CYMRY GAN Y SAESON, A'R AMGYLCH- IADAU CYSYLLTIEDIG A HYNY." BEIRNIAD-PARCR. M. A. ELLIS, A. M. FONEDDIGION Y PWYLLGOR: Daeti i'n Haw dri o gyfansoddiadau ar y testyn dyddorol uchod, sef eiddo Caradawc o Lan- carfan, Gwyn ap Nudd, a Owyneddwr. Gellid meddwl fod y tri eystadleuwr hyn ynysgnfenwyr gwych, ac yn llenorion o gryn allu; profa arweddion eu gwaith eu bod yn hen ysgrifenwyr, os nad ya gewri ar faes cystadleuaeth. Darllenasom eu cynyrchion yn bwyllog, manwl a gofalus, yn gymaint, os nad yn fwy felly na dim a ddarllenasom o'r blaen. Ystyriem, ar un llaw, eich bod chwi-foneddigion y pwyll- gor-yn ymddiried ynom nad osodem chwi dan rwymedigaeth i wobrwyo dim ond a ddeuai i fyny a'ch dysgwyliad; ac, ystyr- iem hefyd, ar y Haw arall, fod yr ymgys- tadleuwyr, yn ymddiried ynom nad ym- ddifadem hwythau o'u teilwng wobr. Yr ydym yn ofni. modd bynag, na ddarfu i'r ymgeiswyr, yn y gystadleuaeth hon, ystyried yn ddyladwy beth yw gwir hanfod y testyn. «'Traethawd ar Hanes Goresgyniad y Cymry gan y Saeson, a'r amgylchiadau cysylltiedig a hyny," oedd eisieu; eithr yr hyn a gawsom gan y tri ydyw "IImes Goresgyniad y Cymry," &c.; ie, yr hanes yn syml, ond i raddau yn fanwl, o'r rhyfeloedd ymosodol, diffynol, a chartrefol, y rhai a arweinient, o oes i oes, i lwyr ddarostwng y Cymry dan awdurdod y Saeson, nes o'r diwedd eu huno a hwy fel deiliaid un lywodraeth-y Seisnig. Ac, mewn trefn i gyraedd yr amcan hwn, dyfynir yn fynych a llawn o'r awdwyr hanesiol goreu, ac arall-eirir yn ami, gydag ambell sylw beirniadol yma a thraw. Dylynir llinell yr hanes yn ddydd- orol, a didor, gan arddangos cydnabydd- iaeth a lluaws o awdwyr o fri, Seisnig yn gystal a Chymreig. Ond, wedi'r cwbl, hanes sydd ganddynt, ac nid traethawd ar yr hanes. Prin y credym y cynygiasid gwobr o gwbl am hanes o'r goresgyniad hwn; canys o'r braidd y gallesid dysgwvl i hyny ychwan- egu dim at ein llenoriaer,h, oddieithr fod darganfyddiadau diweddar wedi dwyn ffeithiau newyddion i'r golwg. Ac heblaw hyny, ceir rhai a ddyfarnant lawer o'r hyn a arddelwir yn hanes yn ddim ond ffug; eithr mewn traethawd ar yr hanes, cawsai yr ymgystadleuwyr fantais i brofi cywir- deb a dilysrwydd y cyfryw—dwyn profion mewnol ac amgylchiadol o wirionedd neu geudeb yr hanes. Gallasem ddysgwyl i draethawd ar yr hanes ddwyn i'r golwg yr egwyddorion mawrion a orweddent o dan y ewbl-trychwaliad athronyddol o helynt- ion cynhyrfus yr oesau hyny—beirniad- aeth dreiddlem ar ymddygiadau a chymer- iadau cyhoeddus y pleidiau-tafoliad man- wl a theg o'r honiadau a'r hawliau roddent fodolaeth i'r ymrysoniadau a'r rhyfeloedd a gofnodir yn yr hanes-tynu casgliadau rhesymegol, a diduedd, gan nad yn erbyn 'neu o blaid pwy yr elent—yn gystal ag esgyn grisiau dadblygiad yr egwyddorion hyny a ymgyfunent, o bryd i bryd, mewn mesurau eang er sicrhau dyrchafiad dyfodol y byd mewn gwareiddiad a Christionog- aeth ar raddeg uwch ac eangach nag erioed. Pethau o'r natur yna ddysgwyliem mewn traethawd ar "Hanes Goresgyniad y Cymry gan y Saeson," &c. Eithr nid oes gan yr un o'r tri hyn—Caradawc o Lan- carfan, Gwyn ap Nudd, a Gwyneddwr- draethawd o gwbl, ond hanes ynunig; ac fel hanes, teilyngant ganmoliaeth uehel; llafuriasant yn galed, a chyfansoddasant ysgrifau meithion-eiddo y blaenaf yn 63 tu dal. ar bapyr pedwar-plyg, yr ail yn 168 ar bapyr hir-blyg, a'r trydydd yn 179 mewn ysgrifen fân, llinellau agos, ar bapyr eyffelyb-yr oil yn 310 tu dalen! A meidd- iwn ddyweyd y meddant oil radd uchel o deilyngdod ar eu safle eu hunain; ond, gan nad ydynt o gwbl yn esgyn i safle y traeth- awd ar yr "hanes," nis gallwn ddyfarnu yr un o honynt yn deilwng o'r wobr. Ar air a ehydwybod, oddiwrth yr eiddoch yn wir, Cincinnati, 0. M. A. ELLIS. II. BEIRNIADAETH BARDDONIAETH EIS- TEDDFOD UTICA, CALAN, 1876 BEIRNIAD-DEWI GLAN PERYDDON. 1 Englyn i'r Peiriant Gwnio. Ar y gwrthrych defnyddiol hwn daeth i law unarddeg o gyfansoddiadau. Lied gy- ffredin a di-yni yw y nifer luosocaf o hon- ynt, ac yn arddangos mwy o frys neu ddi- faterwch, hwyrach, nag o ddiffyg gallu yr awdwyr. Dienw-Penill sydd ganddo ef ar ymesur 6 ac S. Mvn i ni gredu mai dyfais ddieflig yw y Peiriant gwmo, a gwylltia am nad yw yn deall barddoniaeth ei wahanol ran- au. 0 gyflwr truenus! Englynologist-Tadoga yntau y ddyfais nodedig hon i'r gelyn, a haera nad yw dda i ddim ondi ddifa nerth a phoeni merched tra y ffaith ydyw, mai y rhyw deg a'i hed- myga fwyaf. Mostyn a Brychan-Cyplyswn y ddau hyn am y credwn eu bod yn bwyta beunydd wrth yr un bwrdd, os nad yn anadlu drwy yr un ffroenau. Aralleiriad yw englyn Brychan o eiddo MostTn. Nid mor es- mwyth ar y glust y seinia y gair cyfan- sawdd "celf-bur," nac ychwaith ddefnydd- ?o y gair "pur" ddwywaith yn y ddau eng- Hefyd, anghywiryw eu haceniad o'r r nVnio," er mai felly y cynanir y.gair jmewii rhtii parthau o Ddeheudir Cynjru. f Ond, ar y cyfan, englynion canmoladwy sydd gan Mostyn, alias Brychan. Pwythwr—Yr un modd a'i frodyr blaen- orol y myn yntau acenu y gair gwnio. Mae yr g h yn neclireu y llinell gyntaf o'i eng- lyn yn bwysau rhy drwm a chaled i'r g fechan, amddifad, sydd yn ei diwedd.— Gyda hyn yna o ffaeieddau, mae ei englyn yn dda ac i'r pwynt. Sylwedydd- Englyn lied gywir o ran cyng- hanedd, oud yn anystwyth yn ei gymalau. Ceir ynddo rai awgrymiadau anghywir, a diwedda yn wanllyd ac afrosgo. St. Joe-Y mae hwn yn rhagori ar Syl- wedydd, er y dichon fod y ddau yn gyfeill- ion, ac yn gwisgo yr un dillad. Anghof- iodd y sant hwn roi y gwant i orwedd yn ei wely priodol yn y llinell gyntaf-rhoes ef yn y-stafell No. 6 yn lie No. 5. Gadawodd allan yr g o'r gair "gwna," yn yr ail linell, a'r arddodiad yn o'r drydedd. Llinell dlos fel cynghanedd yw y ddiweddaf- O'i fain edaf a'i nodwydd." Llywelyn-Englyn cywir fel y cyfryw; ei baladr yn gryf, ond ei esgyll braidd yn weiniaid. Yr un meddylddrych mewn rhan a gyfieir yn y llinell olaf ag sydd yn yr ail; hefyd ni chynwysa yr englyn, gydag eithr- iad o'r llinell gyntaf, ond yr hyn a ellid ei ddweyd am beirianau eraill. Ananifab.-Dyma englyn cydnerth a gwisgi, yn cynwys desgrifiad ffyddlawn o'r Peiriant gwasanaethgar. Gresyn na anfon- asai ei awdwr ef i law ybeirniad bythefnos a thridiau yn gynt. Hen, Wniwr-Dylasai y brawd hwn lyfn- hau a gloewi mwy ar y llinell gyntaf o'i englyn, a gadael allan y gwahan-nod o'i diwedd er gwneyd ffordd ddirwystr i'r synwyr redeg i'r gair cyrch. Gallasai yn hawdd gwtogi yr ail a'r drydedd linell: "Gan lamu dan ga.iu y gyr Y nodwydd heb wniadyr." Prin y mae y Peiriant mor enwog am "lamu" a" ehanu" ag ydyw am chwyrnu. Llinell bert yw yr olaf. Oruffydd y Tàiliwr- EngIyn del a dirod- res. Ni chymeradwywn waith Gruffydd yn dcfnyddio y ffugr o "d^r" (cadarnfa, amddilfynfa,) i osod allan y Peiriant; a gellir ameu y syniad sydd yn y drydedd linell— "I wraig tal gystal a gwr," gan nad pa mor gyfyng yw yr ystyr a rydd ei awdwr iddo. Hefyd, nid ydyw y llinell olaf-y maen clo, mor gaboledig ag a fuasai ddymunol mewn englyn unigol.— Teimlwn fod rhywbeth yn eisiau ynddi, naill ai y fannod y, neu fer linell (dash) rhwng y brif orphwysfa a'r adran ddiwedd- af, er gwneyd y synwyr yn glir. Wedi darllen yr englynion hyn gyda cliryn ofal, a'u clorianu mor deg agy gall- asem, trodd y fantol o blaid Anantfab a Gruffydd y Tailiwr. Y blaenaf yn ddiau yw y goreu, am ei fod yn fwy coeth, a dar- luniadol; ond y mae ei ddiweddarwch yn ei gau allan o'r gystadleuaeth, felly ei ddi- sodlwr yw Gruffydd y Tailiwr; ond y mae yr anafau a grybwyllwyd ar wyneb ei eng- lyn yn ei hagru, ac yn dinystrio ei deilyng- dod fel nas gallwn yn gydwybodol ei ddy- farnu i'w wobrwyo. 2. Chwech Penillilr Dydd. Y DYDD. Wele destyn goleu, swyngar, a barddonol, a diau y dylasai dynu allan fwy na phedwar, neu yn hytrach dri o'n beirdd i ganu arno. Y cyntaf a ymwthia i'n sylw ydyw Alun-Oân led gyffredin a gawn ganddo ef, mewn llawysgrif dlos. Llithrodd i mewn i'w waith yehydig gamsillebiaeth, cymysgiad amserau, yn nghyd a rhai peth- au nad ydynt yn uniongyrehol ar y testyn. Tybiwn mai ieuanc ydyw yr awdwr; os felly, y mae ei ymgais yn dra chanmolad- wy. Na ddigaloned er iddo golli y "Dydd" y tro hwn,daw 'dydd,' ysgatfydd, y gwelir Alun yn dwyn llawryf buddugoliaeth. Y nesaf ydyw Eneidiog blentyn Anian. Yr un nodiadau, i fesur, a ellir eu cymhwyso at yr eiddo yntau. Y mae ei sillebiaeth a'i fydraeth yn lied gywir ar y cyfan; ond afrosgo a gwasgarog ydyw ei gSu felcyfan- soddiad, eto ceir ynddi rai tarawiadau rhag- orol, ac ambell berl dysglaer yn nghanol y "tyrau llwch." Collwyn Dyferl ac Idwal Margam- Y ddau hyit, un ydynt. Talfyriad o benillion y blaenaf ydyw eiddo yr olaf, a rhydd yr awdwr i ni ein dewis o'r ddau gyfansodd- iad; felly, tueddir ni i ddethol y mwyaf di- llyn, barddonol, a chyflawn, sef eiddo Coll- wyn Dyfed. Nid da oedd iddo osod "ed- yn" a "gorllewin" i gyfodli, na'r "coedydd bytholwyrdd" i "lefain" mwy na choed nad ydynt felly, os priodol y syniad o gwbl. Hefyd, dylasai dechreu a diwedd y penill olaf ymdoddi i'w gilydd yn well, gan y teimla y darllenydd fod math o agendor rhyngddynt. Er hyn oil, y mae y gan hon yn gan ddestlus ac awenyddol, yn cynwys gwell a chryfach darluniad o'r "Dydd" nag a gawn gan yr un o'i gydymgeiswyr. Coll- wyn Dyfed a biau y fuddugoliaeth,a rhodd- er iddo y wobr a enillodd. DEWI GLAN PERYDDON. Arwnia, Kansas.

[No title]

[No title]

CANIADAETHEIN HEGLWYSI.

EISTEDDFOD OADEIBIOL PITTSTON,…

[No title]

[No title]