Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
CABAL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CABAL ENWAU cyntaf gweinidogion Siarl II oeddynt Clifford, Ashley, Buckingham, Arlington, a Lauderdale. Os rhoddir llythyren gyntaf pob enw ar ol eu gilydd, ceir y gair Cabal. Dyna'r enw a roddir yn awr gan y Saeson ar unrhyw gymdeithas amcan yr hon yw gwneuthur pethau anghyfreithlawn.
YR AROLYGWR YSGOLION
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR AROLYGWR YSGOLION WEDI arholi dosparth o foneddigesau ieuanc mewn rhyw bynciau sychlyd, trodd yr arolygydd i feirniadu a goganu pobpeth yn gyffredinol, ac yn enwedig y cynllun a fabwysiedid i gyfranu addysg yn yr ysgol hono yn neillduol. Wedi iddo orphen difrio, dechreuodd egluro rhyw gynllun newydd ardderchog oedd efe ei hun wedi ei ddargan. fod. Ac wedi siarad ac ymresymu ei hun allan o anadl, trodd at un o'r athrawesau ieuanc, yr holt, yn anffodus iddi ei hun, oedd wedi syrthio i gwsg, a dywedodd: Yn awr, madam, beth ydych cliwi yn ddyweyd am fy nghynnygiad i ?" 0, syr," ebe'r athrawes, oni fyddai yn well i chwi ofyn i fy mam ?"
Y FFENIAID
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y FFENIAID YN ol traddodiad, yr oedd y Ffeniaid, neu y Ffiniaid yn fllisia cenedlaethol wedi eu sefydlu yn y Werddon gan Fin neu Fionn, mab Cumbal, yr hWll a flodeuai tua'r drydedd ganrif. Ymdyngedai pob uni beidio cymeryd cynnysgaeth hefo gwraig, ond i'w dewis hi oherwydd ei rhinweddau a'i boneddigeidd- rwydd, i beidio gwneyd cam ag unrhyw ddynes; i byth beidio gwrthod helpu y tlawd hyd ag yr oedd yn bosibl ac i beidio dianc oddiar naw o gampwyr. Ereill a ystyriant y Ffeniaid fel cenedlaeth neillduol yr hon a symudodd yn foreu o Germani i Ogledd- barth Ysgotland a'r Werddon ac ereill a gredant mai llygriad ydyw y gair o "Phenic- iaid.
RHANU YR YSPAIL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHANU YR YSPAIL YR oedd Nexlot yr arwerthwr yn ddiweddar yn cael ei flino yn ystod yr arwerthiant gan gynnygion gwirionffol Mr Wagtop. O'r diwedd, wedi colli pob amynedd, edrychodd marehog y morthwyl o'i amgylch, a gwelai yn y gongd gerllaw anifail deudroed o faint- ioli anferth, ymherawdwr mewn nerth corphorol, a gwaeddodd arno Twmi, faint a gymeri di am droi y creadur yna allan ?" Coron," meddai Twmi. O'r goreu," meddai'r arwerthwr, "dyna ben, ti a'i cei." Gan ffugio bod yn ffyrnig, crychu ei eiliau, lledu ei ffroenau felllew, aeth yr hen Dwmi at y cymerwr, a chan ymaflyd yn Wagtop gerfydd ei golar, a sibrydodd yn ei glust nes y clywodd yr holl ystafell: "Yr hen ffrynd, dere di allan gyda fi ac mi gei di hanner yr arian. O'r goreu," meddai Wagtop. Hwre I hwre I" n-ioddai'r gynnulleidfa, a chwarddodd Mr Nexlot gyda hwy gan estyn y pum swlH i Twmi.
PIWYGIO CYMDEITHAS
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PIWYGIO CYMDEITHAS PRYSUR gyda pha beth yn awr Mr Dodger?" Yr ydw i wedi cynllunio cymdeithas i ddiwygio cymdeithas." I ddiwygio cymdeithas? Y mae genych waith aruthrol o'ch blaen, onid oes ?" Yr ydym yn hyderu y gallwn wneyd rhywbeth." Ond bydd eisieu arian ?" Bydd, ac yr ydym yn disgwyl cael o leiaf ddeng mil o bunnau y flwyddyn gan ddyn- garwyr cyfoethog." Nid ydyw deng mil o bunnau ond swm bychan i ymgymeryd a'r fath anturiaeth." Bydd yn llawn digon. Does dim ond tri ohonom yn y gymdeithas. Gwna hyny gyflog o dair mil o bunnau yr un yn y flwyddyn, gan adael y gweddill o fil o bunnau mewn arian sychion tuagat gostau y swyddfa a'r gymdeithas ddiwygiadol ei hunan."
GHWEDL AM MR GLADSTONE
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GHWEDL AM MR GLADSTONE YR oedd y diweddar Mr Russell, golygydd y Scotsman, yn un o'r gwestaion i gyfarfod Mr Gladstone, a chafodd ei hun yn eistedd yn nesaf at Mrs Gladstone. Yn ystod yr ym- ddyddan, gofynodd iddo a oedd ef yn cyd- synio a gwladlywiad Mr Gladstone. Atebodd, Mr Russell: Mewn pobpeth gydag un eithriad—hyny yw, y mae ef yn trethu angenrheidiau bywyd." Yr oedd Mrs Gladstone yn rhyfeddu, ac yn dweyd ei bod hi wedi arfer meddwl fod ei wladlywiad yn hollol i'r gwrthwyneb, ac yna galwodd ar ei gwr i ddweyd wrtho yr hyn a ddywedasai Mr Russell. Gofynodd Mr Gladstone, yn ei ddull pwyllog a difrifol arferol, pa fodd yr oedd yn gallu gwneyd hyny allan. Yna Mr Russell, gyda golwg chwareus, a atebodd. Onid ydych wedi codi y doll ar whisci o bedwar swllt i ddeg swllt y galwyn?"
CARIAD AT EIN GWLAD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CARIAD AT EIN GWLAD 0 BA le y tarddodd y cariad a'r ymlyniad eyffredinol hwn at ein gwlad? Paham y mae y meddwl yn caru edrych yn ol gyda hoffder at olygfeydd boreu oes ? Paham yr ydym yn anadlu awyrgylch ieuenctyd gyda mwy o lawenydd nag un awyrgylch arall? Ai nid oes fro-diroedd ereill mor ddeniadol ac awyrgylch mor loew? Paham y mae enaid dyn bob amser yn ymglymu am y tir hwnw lie y teimlodd gyntaf boen a hyfryd- wch ? Ai yn unig oherwyddmai vno y mae ei gyfeillion a'i berthynasau yn byw ? Ai tybed nad yw y lie hwnw yn rhywbeth heb- law enw ar ein serchiadau cymdeithasol ? Nis gall hyny fod. Y mae gan y dyn mwyaf digymdeithas dan haul ryw wlad a gar yn fwy na'i gilydd. Ceisiwch ei demtio drwy gynnyg iddo baradwys decaf natur, a dodwch ef ar lanau ffrydlifoedd bywiol, dan gysgodion dedwydd cedrwydd Libanus. Agorwch o'i flaen y gwerddonau mwyaf dymunol dan haul. Wedi'r cwbl, efe a gar greigiau ysgrythog ac anghyfaneddleodd gwlad ei enedigaeth. Efe a eistedd i lawr i wylo ar lan afonydd Babilou wrtli golio am ei Seion. aawyl ei hun.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CARNARVON & DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Friday, 2d, Receives the Official Advertisements of four counties; also Government, Legal, and Auction Advertisements, &c. The Times describes this as "the lead ing paper in the northern half of the Principality." The Manchester Examiner also states that it is "the leading Liberal organ for North Wales." "The leading Liberal paper in North Wales.Liverpool Evening Express. Publisher-DANIEL REES, Carnarvon. The 'Herald' Steam Printing Works, HIGH ST., CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. Programmes, Tickets, Dance Cards. Legal Forms, Memorandums, Note Paper. Club Cards, Club Rules, Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rules. Pamphlets, Catalogues, Sermons, Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancy, Accuracy, Neatness, Despatch. BOOKBINDING IN ALL STYLES AT THE LOWEST RATES N ste the Address:- 'HERALD' STEAM PRINTING WORKS HIGH STREET, CARNARVON