Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
TAFFIG WREIDDIOL EV ERTOr (NOBLETT'S). YN CAEL EI WNEYD YN 21, VILLAGE- STREET, EVERTON, LIVERPOOL. Lie yr oedd y Darganfyddwr Gwreiddiol o Everto: Taffi yn trigiannu, a'r hwn a agorodd y masnachd; yn 1790, yn lie yr oedd yn gwneyd ei Thaffi, a'r hwi a bwrcesid gan bob dosparth o bobl, 6'i Mawrhydi lawr, ac a sefydlodd iddo ei hun enw adnabyddus drc yr holl fyd. TAFFI EVERTON Is., 2s., a 5s. y BOCS Gellir eu cael gan unrhyw Confectioner, neu anfone ef (wedi talu y cludiad) o'r Wneuthurfa, 21, Village Street, Everton, Liverpool, ar dderbyniad Is. 6c. 2s. 4Jc; neu 5s. 7ic. PWYSIG I HYSBYSEBWYE, YR HERALD CYMRAEG (A sefydlwyd yn 1854, ac a helaethwyd yn 1859, 1865 1878,1887,1890, a 1892) YW YR HYNAF, MWYAF, RHATAF, GOREI o'r Wythnosolion Cymreig, AC HEFYD EANGAF EI GYLCHRED AD. 61 0 GOLOFNAV HIRION". BOB DYDD MAWRTJ CEINIOG. Yn Eisiau: Dosparthwyr a Gohebwyr lIe nad oes rhai eisoes. REES. C*,A.YYi flitrnn
01 HC EL we HD 0 LC YN F I…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
troad yn y ffordd at y palasdy, a phan mewn llecyn tywyllach na'r gweddill o'r ffordd- oherwydd y coed tewfrig ar bob ochr- tybiodd ei bod yn clywed swn troed yn dynesu ati. Safodd yn llonydd. Pwy sydd yna?" gofynai. Nid oedd lief na neb yn ateb. "Pwy sydd yna," gofynodd eilwaith. Ar hyn gwelai arlliw o ddyn yn dynesu yn gyflym i'w chyfarfod, a phan o fewn dwy- lath iddi, canfu er ei syndod dirfawr mai Pyrs ydoedd. Pyrs," meddai, yn llawen .wrth feddwl y deuai yn ol i Dolgynfi gyda hi. Ar y foment, daeth car Dolgynfi, a neb ond Morris ynddo, i fyny ar ei ffordd tua'r plas, ac wrth oleuni y lampau oedd ar ystlysau y cerbyd, gwelai Maggie Pyrs-fel y tybiai hi yn sicr—yn prysuro ymaifch. Ni welodd ei wyneb ond am eiliad, ond gwelodd ddigon i ganfod ei fod yn edrych yn gyffrous a gwelw fel corph. Gwelodd Morris ef yr un foment, a galwodd ar ei ol, ond er gwrandaw nid oedd neb yn ateb ac ni chlywid trwst cerddediad neb yn prysuro ymaith. Diflanodd y dyn, neu beth bynag ydoedd, mor sydyn ag y daeth. Fel y gallesid disgwyl, dychrynodd Maggie yn enbyd, ac yn wir yr oedd Morris hefyd yn teimlo iasau oerion ar hyd ei gefn, ac wedi codi yr eneth i'r ear, gyrodd ymaith mor gyflym ag y medrai, gan gyrhaedd iard y plas cyn pen ychydig eiliadau wedy'n. Y cyntaf welodd Maggie ar ol myn'd i fewn oedd Harri. Welsoch chwi Pyrs ?" gofynodd yn gyffrous. "Pwy—pie? Gwel'd Pyrs? Pa bryd?" gofynai hwnw, "naddo, mae Pyrs wedi myn'd i Gaer er y boreu." Rhedodd Maggie i fyny i ystafell Mrs Llwyd, ac aeth Harri ar ei hoi. Yno, er dychryn i'r ddau, cawsant Mrs Llwyd yn gorwedd ar lawr yr ystafell, yn hollol an- ymwybodol; y lamp yn oleu ar y bwrdd. Yr oedd yn amlwg fod yr hen wraig wedi syrthio ar y llawr o'r gadair. Wedi galw y gwasanaethyddion i'r ystafell, a defnyddio moddion priodol, adferwyd Mrs Llwyd i'w hymwybyddiaeth. Y pethcyntaf a wnaeth oedd edrych yn syffrous a hanner dyryslyd o'i chwmpas, a gofyn, Pie mae o ?" Pwy, mam bach," gofynai Harri. wy II Fy machgen-fy nghyntaf-anedig." Gwelwodd Harri pan glywodd hyn. Mae Pyrs wedi myn'd i Gaer, mam." II 0, ydi-Pyrs dy frawd ydi hwnw, machgen i; ond p'le mae Ni chafodd orphen. Canfu Harri beth oedd am ofyn, a thorodd ar ei thraws rhag i Maggie glywed y cwestiwn— Daw Pyrs yn ol yn mhen tridiau, mam." Yna gan droi at Maggie, dywedodd, Gwell i ni adael mam am dipyn i ddod ati ei hun y mae yn ddyryslyd o ran ei meddwl, fel yr ydych yn gwel'd." Wedi myn'd allan o'r ystafell gyda Harri, trodd Maggie ato a gofynodd, "Yrwan, Harri Llwyd, beth ydyw ystyr hyn oil ? Dywedwch y gwir." "0, dim ond fod mam wedi meddwl ei bod wedi gwel'd rhywbeth neu rhywun. Wedi myn'd i gysgu a'i phen ar y bwrdd, efallai, a syrthio felly ar lawr, neu efallai iddi freuddwydio Twt, lol, Peidiwch meddwl y medrwch fy nallu fi fel yna. Gwelais i Pyrs ar y ffordd o flaen y ty yma wrth ddod yma yrwan. A ddaeth ef yn ol o Gaer ?" "Naddo," ac yr oedd yr olwg o benbleth ac ofn welwyd ar wynebpryd Harri yn swyddfa Mr Wynn y diwrnod cynt yn dod yn ol drachefn. Yn gweled na chaffai hi yr un csboniad ar y digwyddiad rhyfedd yma gan Harri, estynodd y papyr iddo roddwyd i'w gofal gan Mr Hopcyn. Hwdiwch," meddai, "roae f'ewyrth yn anfon hwn i chwi." Cymerodd Harri ef yn awchus, ac wedi gorchymyn Morris i gymeryd Maggie adref yn y cerbyd, aeth i'w ystafell i agor a darllen y papyr. Dilynwn ef yno am ychydig. Y peth cyntaf a wnaeth oedd darllen y papyr. Gwelwai ei wyneb wrth wneyd hyny, ac erbyn iddo orphen da oedd iddo fod cadair gerllaw, iddo ymdaflu iddi, gan faint ei gyffro. Wedi adfeddiannu ei hun ychydig, agorodd ddror yn y ddesc, tynodd allan ohoni y tystysgrifau ddygwyd iddo gan Mr Wynn, ac agorodd o'u plith dystysgrif genedigaeth Pyrs, yr hon, fel y cofia y dar- llenydd, oedd fel y canlyn :— Enw—Pierce. Dyddiad genedigaeth, Medi laf, 1884; lie genedigaeth, Caerlleon. Enw'r tad, John Harris; enw'r fain, Mary Harris-enw morwynol, Tyson." Gwelai fod y Pyrs oedd gan ei dad a'i fam yn y capel ar nos Sul, Hydref 20fed, 1847, yn faban bach ychydig fisoedd oed, yn ol tystiolaeth y cofnodiad o ddyddiadur Mr Hopcyn ond yn ol y dystysgrif genedigaeth rhaid ei fod yr adeg hono dros dair blwydd oed. Yr oedd yma wahaniaeth dirfawr, gwahaniaeth gwir bwysig, ac yr oedd hyn yn cryfhau yr ofnad oedd eisoes wedi gafael yn Harri-sef mai nid hanner brawd Maggie oedd Pyrs Llwyd, Dolgynfi, wedi'r cwbl, ond fod yr hanner brawd hwnw lawn tair blwydd yn hynach na Pyrs. Ond pwy oedd Pyrs, Dolgynfi, felly ? Tybed ei fod yn frawd iddo ef, ac yn wir etifedd Dolgynfi ? A pha le yr oedd hanner brawd Maggie—yr hwn, wrth gwrs, oedd yn hanner brawd iddo yntau, sef yn fab i Mari Llwyd, o John Harries. Cofiodd Harri am y "drychiolaeth" o Pyrs oedd yn crwydro'r ardal, ac, yaa ol pob tebyg, wedi bod y noson liono hyd yn nod yn Dol- gynfi. Cofiodd hefyd am y cwestiwn ofynodd ei fam pan aeth ef a Maggie i'r ystafell- Pa le y mae fy nghyntafanedig?" Dyna'r gwir esboniad a» y peth," meddai Harri wrtho ei hun ar ol pendroni uwchben y papyrau am lawn hanner awr—" tyst- ysgrif genedigaeth Pyrs Harris, mab fy mam o John Harris, tad Maggie, yw hon gefais gan Wynn; a rhaid fod Pyrs fy mrawd yn wir frawd i mi, ac mai efe welodd yr hen weinidog yn blentyn bach ychydig fisoedd oed yn y capel yn 1847. Os dyma y gwir esboniad, beth fedraf fi wneyd i attal Pyrs briodi Maggie, ac i'w droi o Dolgynfi ? Dim! Mae ganddo hawi i Dolgynfi ac i briodi Maggie. Ond, na-er iddo fod yn fab i'm tad a'm mam, nis gall fod yn fab cyfreithlawn iddynt, oblegid yn Mai, 1847, y priodasant, yn ol tystysgrif Wynn, a ganwyd finnau yn mhen y flwyddyn. Wel, sut bynag, mae arnaf ofn fod Wynn a minnau wedi syrthio i'r pwll gWiwytf geiiym ar gyfer Pyrs. Ond chaiff ef ddim ceinio £ werth o eiddo Dolgynfi, oblegid plenty anghyfreithlawn fy nhad a'm mam ydyw, chaiff ef ddim byw efo Maggie ychwaith a ol priodi os medraf fi ei rwystro rywffordc Buasai yn dda genyf gael gafael yn drychiolaeth yna, gallai fod o help i m yn enwedig os ydyw mor debyg i Pyrs a mae pobl yn ddyweyd ei fod. Hwnyna Y1 hanner brawd Maggie, a chyntaf-anedig f mam, yr wyf yn awr yn siwr. Rhaid i n anfon am Wynn gynted gallaf." (I'w barhau.)