Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ni lenwir byth sach & dymuniadau. Nid ydyw genedigaeth nchel ond saig wael ar y bwrdd.
HUNANCOFIANT HOCYf neu Yr…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tybad fod yno rwun? Hwrach fod yr hogia wedi cyredd adra i Bwllheli a deud wrth bobol y dre ein bod ni wedi dwad ar draws lot o gasgia rum. Fasa dim yn gneyd i rei o bobol Pwllheli redag yn ffastiach na chlowad hyny, er cymint o ruban glas sy yno. Dyna lie buom mi yn gwrando am fynud, ae yn meddwl mod i yn clowad Ilais o'r tu allan i'r ogo yn deud, Wil Lewis o Lanfair- fechan sy y tu fiawn, efo Bob." Gwrando wedyn-rhwbio fy llygad, ac roedd isio cysgu wedi dwad ata i erbyn hyn yn ofnadwy-tybad fod rhwun wrth ddrws yr ogo? Na 1 Rhaid mae clowad Bob yn chwrnu ddaru mi-toedd dim posib fod neb y tu allan radag hono o'r nos. Am Bob, roedd o yn cysgu fel top, ar ei hyd ar lawr yr ogo. Ond dyma'r mwstwr y tu allan yn mynd yn waeth, a llais rhwun yn deud y dyla nhw nghymryd i a Bob i'r jel os na thyna ni y plancia oddar geg yr ogo er mwyn iddyn nhw gael dwad i fiawn. Sut bynag, toeddwn i ddim am dynu run o'r plancia; mi gae pobol Pwllheli fynd i rwle arall i chwilio am rum i dori eu syched cin y caen nhw ddwad i fiawn at Bob a fina. Gida hyny dyma rw feddwl dychrynllyd ofnadwy yn dwad i mi-hwrach mai nid pobol Pwllheli oedd yn gneyd y twrw y tu allan. Hwrach mai nid pobol yr oes yma oedd yno o gwbwl, ond sprydion y smyglars wedi dwad i nol eu haur a'u petha erill oeddan nhw wedi giddio yn yr ogo er's igeinia lftwar o flynyddoedd. Brensiach mawr meddwl am wynebu yspryd! Fel ron i yn meddwl am betha fel hyn, a wedi dychryn, fy nghalon wedi neidio i fy ngwddw, a dest iawn galw ar Bob i ddeffro gael i ni ei ffaglu allan o'r twll anaearol hwnw oedd yn llawn o fwganod a sprydion smyglars, dyma'r ogo yn sydyn yn dwad yn ola fel canol dydd, ac wrth i mi edrach ar yr ochor gyferbyn a mi, a fy llygad dest neidio o fy mhen gin ddychryn, mi welwn y pridd a'r cerig yn eael eu gwthio allan o ochor yr ogo a rhw ddyn efo lantar yn dwad i fiawn drwddyn nhw! 'Roedd ei ddillad 8 'run fath yn union a dillad y smyglars rheini y mae eu llunia nhw yn llyfra'r ysgol, a phluen fawr yn ei het dair gwalc o, efo belt am ei ganol a dwsina o gyllill a phistols yni hi. 'Ron i yn disgwl ei wel'd o yn fy seuthu fi a Bob yn syth bin am ddwad i'r ogo, ond toedd o ddim yn ymddangos o gwbwl fel tasa fo'n gweld 'run ohonan ni rwsut ar y cynta. Mi gwelwn o yn mynd yn syth at y bocs aur, a dyma fo'n ffendio fod rhywun newydd fod yn y bocs ac yn cymryd aur ohopio fo. Ar hyny dyma lot o ddynion erill, wedi gwisgo run fath ag ynta, i fiawn i'r ogo ar ei ol drw'r un twll ag y daeth o, a mi gwelwn o yn dangos y bocs iddyn nhw, ond toedd run ohonyn nhw'n deud run gair, ne o'r hyn lleia toeddwn i ddim yn eu clowad nhw yn deud dim, er mod i yn eu gweld nhw yn ysgwd eu dyrna, yn 'sgyrnygu eu danadd, ac o'r diwadd yn pwyntio at Bob a fina. Diawst i, roeddan nhw wedi'n gweld ni, o'r diwadd. Ond be oedd yn rhwystro iddyn nhw'n gweld ni, ran hyny, achos roedd Bob a fina yn gorfadd ar ein hyd reit ar ganol llawr yr ogo. Ron i'n methu chwthu gin ddychryn; yn disgwl gweld y dynion rheini yn ein seuthu ni bob mynud, a fel ron i yn dal fy ngwynt mi welwn y cynta ohonyn nhw yn tynu pistol allan o'i belt, rol i'r criw i gid fod yn ym- gynghori efo'u gilidd, ac yn anelu yn syth at fy mhen i, a phan oedd o ar fin tynu y trigger i fy seuthu fi'n farw dyma fi'n riioid naid a sgrech ddychrynllyd drost yr holl ogo —— "Be haru ti Wil," ebra Bob, gan neidio ar ei draed a spio o'i gwmpas wedi dychryn, be welis di i weidai felna ?" 1, dd y ganwll dest wedi gorffan llosgi, a'r ego dest iawn miawn twllwch hollol. "Be haru mi?" ebrwn ina dan godi a rhwbio fy llygid, "lie mae'r dynion yna oedd yn mynd i fy seuthu fi 1" Pwy ddynion," ebra Bob, gan droi i spio o'i gwmpas, "wela i iieb." Rol i mina rwbio fy llygid dipin chwanag a deffro yn iawn fedrwn ina ddim gweld neb chwaith; a toedd yno neb yn yr ogo blaw Bob a fina-wedi syrthio i gysgu ron i a wedi breuddwydio mod i yn gweld y petha ofnadwy welis i. Roedd y bocs a'r aur yno o hyd yn saff; heb ddim twll yn ochr yr ogo, —a wele breuddwyd oedd y ewbl am y dynion rheini! Mi gymrodd dipin o amsar i mi adrodd y breuddwyd wrth Bob, a wedi gorffan dyma fo'n deud, Rhaid ei bod hi'n fora bellach, os nad ydi hi yn mhell ar y dydd, achos rydw i dest llwgu eisio bwyd a dest marw eisio diod. Tyrd i ni fynd allan bendith y tad i ti; rydw i wedi cael digon ar gysgu mewn ogofeydd." Rol codi roedd Bob a fina yn teimlo yn stiff ofnadwy wedi Ixxl yn gorfadd a chysgu am oria ar y ddeuar oer nriawn hen ogo damp, ac roedd artion ni anwyd a'n danadd ni'n curo yn erbyn eu gilydd a'n coesa yn crynu o danon ni. Ffwrdd a ni tia cheg yr ogo, lie ron i wedi rhoid y plancia i fyny y noson gynt i stopio sprydion rhag dwad i fiawn aton ni. Roedd y plancia yno o hyd yn ol reit, a mi welan, wrth edrach drw'r cracia rhyngyn nhw, ei bod hi'n mhell ar y dydd, ond wrth gwrs roedd hi'n hollol dywyll i fiawn yn yr ogo. "Tendia dy hun, Bob," ebrwn wrth fy lifftenant, "gael i mi roid cie i'r plancia yma'n rhydd." Felly gneis i, ond toedd run ohonyn nhw'n syflyd, ac er ein dychryn mi welan fod rhwrai wedi bod yno chydig cin hyny, or tu allan wrth gwrs, yn cario o gwmpas tair ne bedair tunell o gasgia a bocses a phetha felly o'r mor a'u peilio nhw o dan y dorian reit yn erbyn y plancia tra buou ni yn cysgu yn yr ogo fel nad oedd aim posib symud run o'r plancia i ffwrdd, a felly doedd dim posib i Bob a mina ddwad allan! Roedd yno bedair tunell o goods yn erbyn y plancia, a fina a Bob tu fiawn i'r ogo dest llwgu, a neb ar y cyfyl i'n clowad ni yn gweiddi. I fiawn a ni yn ein hola i'r ogo. "Be nawn ni rwan, Bob?" ebrwn wrtho, "mae hi wedi darfod malu arnon ni, mae arna i ofn. Sut gebyst y medra ni fynd allan efo'r holl betha yna wedi eu peilio yn erbyn y plancia?" "Oh, mi ddaw rhwun i'w tynu nhw i ffwrdd a'i certio i Bwllheli toe, medda Bob, ond roedd o yn camgymeryd, achos yn mhen tair ne bedair awr wedyn, pan oedd o a fina dest mynd yn wallgo eisio bwyd a diod, a wedi byta darn o ganwll oedd gynon ni, dyma ni yn mynd at y plancia wedyn, ac wrth spio allan drwy'r agena rhyngyn nhw mi welan ddau blisman o'r tu allan yn sgwrsio, ac wrth i'r naill fynd i ffwrdd un ffordd a'r Hall ffordd arall mi glowan un ohonyn nhw'n deud, "Mae'r petha yma yn reit saff dan y dor- Ian yma nes daw y bobol i'w nhol nhw." Pryd y mae nhw yn dwad ?" ebra'r llall. 0 hyn i ddiwadd yr wsnos. Hwrach ddydd Sadwrn," ebra'r cynta. "Bob," ebrwn wrth fy lifftenant, "glowi di hyna 1 Ddaw yma neb eto tan y Sadwrn, a tydi hi rwan yn ddim ond dydd Mawrth, ac rwyt ti a fina dest wedi llwgu i farwolaeth. Be nawn ni, do wad? Fedrwn ni byth fynd allan o'r twll yma nes bydd y gwds yna wedi cael eu symud oddar y plancia. Oh rydan ni'n siwr o farw yn y fan yma yn y twllwch, a marw o eisio bwyd, a neb yn gwbod lie rydan ni." Ond roedd Bob wedi syrthio wrth fy nhraed i yn gelan, miawn ffit o anwyd ac eisio bwyd-a dim bwyd i ddwad am bedwar dwrnod wedyn (Fw barhau.)