Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR MRS ANDREWS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR MRS ANDREWS. Mr Gol.,—Drwy fod fy merch i, Mary Jane, yn arfer canu yn gyhoeddus, ac wedi "Y cael llawer o encores mewn entertainments tuagat gael swp rhad i'r tlodion, a brecwast i blant ysgolion Llanglodfawr yma amser caled y rhew a'r eira, a bod llawer, yn enw- edig fy ngwr i, John Andrews, yn deyd fod yn resyn fod ffasiwn dalent yn cael ei hes- geuluso, o eisio cael addysg gerddorol, a nina.'n bobol abal hefyd, a hitha wedi cael addysg dda mewn clandro a. phetha felly yn yr vsgol ddyddiol, ac yn dallt y Tonic Sol Fah 'ma. mae nhw'n i alw fo i'r dim, ond fod eisio rhiw ychydig o lesns ami hi cyn y gall hi ganu mewn consarts mawr hefo Adelina Patti a'r Prima Donnas yma; mi gawsom gynghor i fyn'd a hi i lawr i'r dref i ymgyngliori a rhai o'r proffesv rs a'r athrawon miwsig yno ac felly, mi cymerais hi i lawr i'r dre hefo'r tren cynta, ond 'chydig mae nhw'n ddallt. Mi ddeydodd y proffeswr cynta—waeth i mi heb na'i enwi fo—fod Mary Jane yn oariu < gormod o'r boracs—beth bynag ydi hwnw. Ac os daliai hi i ganu yn hir felly, y byddai 11 'na ryw leisia ffolseto yn croni ar 'i sgyfant hi; ac mi roedd o'n deyd y dyla hi ddal 'i hanadl o hyd nes bydd hi wedi dysgu soi fudgery. Wel i chi, mi eis a hi at yr athraw arall— dw i ddim yn enwi hwnw chwaith—ac mi ddeydodd hwnw y dyla hi ganu mwy o lawer allan o'i deiogram, a pheidio mygu ei llais hefo'i sarcophagus, yn He rhoid 'i llais i iithro i fyny ar y portamantiw a'r porbaiuio la foche staccato, a bod ei legato hi allan o bob trefn ar hyn o bryd. Dyna'r Hall wedi hyny yn rhoid 'i looking- glass i lawr yn 'i gwddw hi, ac yn deyd fod ei phalancs hi'n rhv fychan, a bod asgwrn bychan ei typhoid hi, yn gystal a'i pholigloiis hi, mewn eyflwr drwg a ddaru mi 'rioed freuddwvdio fod gan Mary Jane gymaint a hyny o bethau yn 'i gwddwg; ac mae arnon ni ofn gadael iddi hi ganu dim yn 'chwaneg rhag i'r beth wirion ladd ei hun. Ond fu gen i 'rioed rw feddwl mawr o'r proffeswrs yma fy hun. Dyna fachgen ifane oIjlanglodfawr yma—Tenorydd yr Entrych— canwr ardderchog pan fydd o mewn hwyl, wedi cael ei berswadio i fyn'd i'r dre at yr athrawon mawr hyny i nol gwersi. Ac wedi iddo gael peth wmbreth o lesns, nes dwad i ganu mewn "style," dyma'r bachgen yn di- gwydd son wrtho fo am gael engagement. Wedi iddo fo blagio tipyn ar yr athraw Yma-dydw i ddim yn enwi hwnw chwaith- am engagement, mi ddeydodd yr athraw wrtho fo nad oedd gyno fo ddim dawn tuagat ganu o gwbwi, y ba&a'n well iddo fo morol am rw swydd arall i eni'll 'i grystyn. Ond rw ddwrnod wedi hyny dyma fo'n cyfarfod y bachgen—Tenorydd yr Entrych—ac yn deyd wrtho fo ei fod o wedi dwad o hyd i engagement iddo fo o'r diwedd. mi 'roedd y bachgen ifanc, wrth gwrs, yn barod i gario'r proffeswr ar ei gefn, gan mor falch oedd o wrth glvwed hyny. "Yn mha le ?" medda fo. "Wel," medda fynta, "mae yma ifarmwr mawr o'r wlad wedi bod yma yn fy holi fi am denor da-tenor all fyn'd i fyny i D flat o ganol 'i frest, i fynd i'r dre i werthu llaeth, ac yr vdw i wedi son wrtho fo am danoch." Dyna i chi beth sydd i'w gael o godlo hefo'r athrawon cerddorol yma. [Wel, wel, mae Mrs Andrews miawn digon o drwbwl; ond mae Mary Jane, fel llawer un, ac fel llythyr hirwyntog ei mam, wedi cael ei thaflu i'r fasged; ac yn y fasged y bvdd hi, ac yn y fasged y dylai hi fod, nes y claw hi a'i main i feddwl, ac i wybod, fod eisie rhwbeth heblaw encore Penny Read- ing i wneyd cantores ohoni hi.-Y PREN- TIS.]

IJLYTHYR IFAN DAFYDD.

Y OWYDDEL A'I WRAIG

YR AMAETHWR YSGOTAIPP A'R…

..'.. MYNYDD CERDDOROL