Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HENRY MILES & COMPANY, Popular Milliners. Glovers and & 4 Fancy Drapers. a THE LARGEST AND MOST COMPLETE STOCK OF LADIES' AND CHILDREN'S LONG AND SHORT GLOVES IN ENGLAND. Latest Novelties in all Departments. "THE SIGN OF THE GLOVE," 2.5 & 25a Church St., LIVERPOOL. Telephone No. 7385. -==
Advertising
KEENORA Self- —— SELF- Raising RAISING I FLOUR. FLOUR. I TRY IT! TRY IT! TRY IT! You'll use no other. Sold Retail 2d., 3d., 6d. and Is. per packet From all Grocers and Dealers. Sole Wholesale Agents: Morris & Jones, Liverpool.
Advertising
ROBERTS A EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 Kirkdale Rd., Liverpool. Telephone: 2193 Royal. III —.Ill ■ ■! ■ ^| Are Your Eyes Right ? I Or have you noticed some little sign that B makes you suspect defects? If in doubt H don't delay; don't wait until neglect has H aggravated the defects. Let us test your R eyes by the best methods known. Then, ra if you need them, we can supply Glasses B1 that will give immediate comfort and Hi preserve good vision. |n ARCHER & SONS I Eyesight Specialists, H 73, LORD STREET B Estb. im. LIVERPOOL j Telep'v n e—157Y Birkenhead. Rr amlder ei gwsmeriaid,yn siop HUGHES, Pawb gant eu hangenraid Am siwt newydd bydd, heb baid, Frethynwr i Frythoniaid. John 'hughes Tailor Draper, 24 OXTON ROAD, BIRKENHEAD -==- .A.SK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE. Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL. =y EATY THE TAILORING *:CELEBPATED j THE MATERIALS ON OFFER FOR. T A I LOR S j THIS SEASON ARE EXCEPTIONALLY A MTV AIT TV A A I GOOD, BOTH IN VALUE 8 STYLE LUND UN KUAD | AND WELL WORTH INSPECTION. | ALL CAREFULLY FITTED g lliUKvll 51. I LIVERPOOL E* —™ OWL lqrs JONESS OILCLOTHS LINOLEUMS LAID FREE THIS MONTH. 'Bee Hive/ 59,61,63 Brunswick Road. i-1 100 I ASK FOR I JKYBB&KYBBS) NEW SEASON JAMS j )j Pure and Delicious I 0 0 A 4 • g*0 • g GOOD Artificial -w- g TEETH are B |1 NEEDED BY EVERYONE To Keep the bloom of youth To Keep good looKs. To Keep health. Our Teeth are the results of personal experience and practical knowledge; the former has given us the precise knowledge of our Clients' requirements, the latter to meet those needs in a perfect and satisfactory way. They are both in fit and finish far superior to most Teeth made to-day. Advice and Estimates of Cost, FREE. Mr. Hkly's charges are always moderate. He does not go in for Guinea Sets and such-like things. What he does he does well, and one can be certain of having the highest skill and finest materials at a reasonable outlay. —— H. W. HELY, 13 NORTON ST., ndon Rd. Corner ø ø Liverpool. Tel. 0733 Royal. Established 1884 JOHN LLOYD, -HIGH-CLASS TAILOR- (From T. B. Johnston, Lord St.), 89 HOLT ROAD,
CODI PREGETHWYR.
CODI PREGETHWYR. YMDDANGHOSODD y llythyr canlynol ar y cyntaf yn y Cylchgrawn-cy- hoeddiad Methodistiaid y De—lawer blwyddyn yn ol; a gwel y cyfarwydd arno ol llaw drom un o brif ysgrif- enwyr Cymru. Gan fod y pwnc yn blino pob Cyfundeb Cymreig ar hyn o bryd, nid anfuddiol yn ddiau ei godi yma, a rhoddi cyfle i'r genedl ei ddarllen:— Foneddigion,—Yr wyf wedi bod yng Nghymdeithasfa Llanstephan, a chefais fy nychrynu drwyddof yno gan y teimlad a amlygid am gael rheolau newyddion a mwy caeth gyda golwg ar godi pregethwyr. Chwi wyddoch fod braw ar y pwnc hwn yn ein meddiannu yn gyfnodol daw y dwymyn yma ar ein traws yn ei thro yr un fath a llawer o dwymynau ereill. Weithiau byddwn yn crynnu yn ein hesgidiau rhag ofn Rwsia; bydd yr ofn hwn yn aflonyddu ar ein cwsg, a braidd nad ydym yn disgwyl gweled Rwsiad blewog, barfog, a'i wn yn ei law, wrth erchwyn ein gwely pan ddihunwn. Bryd arall, dychrynir ni gan y Colorado Beetle. Os darganfyddir yn rhywle bryfyn mwy heglog a baglog na phryfaid yn gyffredin -creadur nas gellir dweyd yn bendant i ba lwyth ymysg y pryfaid y perthyna, credir ar unwaith mai y Colorado Beetle sydd wedi goresgyn y wlad, a bydd y ffermwr, druan, yn chwysu ac yn brawychu rhag i'w gnwd pytatws gael ei lwyr ddifetha gan y pryf mileinig hwn. Dryllio'r Rheolau. Yn gyfnodol hefyd, daw scare, codi pregethwyr, ac ymddengys mai tua phum mlynedd sydd ar gyfartaledd rhwng y naill ymweliad a'r Hall. Yr ydym ynghanol brawychiad ar y mater hwn yn .bresennol. Rhywbeth fel hyn yw y drefn gydag ymgeiswyr am y weinidogaeth yn y Cyfarfod Misol y perthynaf fi iddo, a chredaf fod hwn lawn cystal ag unrhyw Gyfarfod Misol yng Nghym- ru, os nad dipyn yn well. Eir yn y blaen ar ffrwst gwyllt i godi pregethwyr bydd y porth mor llydan a'r efengyl, a gellir dweyd, Ni wrthodir neb a ddaw." Gyrrir y cerbyd ar draws y rheol, dros y rheol, tan y rheol, neu y naill du i'r rheol, fel y digwyddo rywffordd a phob ffordd ond ar hyd y rheol. Wedi codi nifer liosog, a'r rhai hynny yn sefyll ar eu traed yn llu mawr iawn, llawer o ba rai fydd yn sparbills meinion, didalent, ac yn anerbyniol gan y wlad, ond yr un fath a Goliath gynt, yn fwy soft yn eu pennau nag yn unman arall, bydd y brodyr yn y Cyfarfod Misol yn dychrynnu rhag eu creadigaethau eu hunain. Siaredir yn ddifrifol fod drws y pulpud yn rhy agored; rhaid brysio i'r Sasiwn nesaf i geisio gwneud y porth yn fwy cyfyng aiff yn panic brawychus yno wrth wrando ar areithiau y brodyr, ac ynghanol dychryn, cynhygir cyfres o reolau i'r pwrpas o gau drws y weinidogaeth rhag pawb ond ym- geiswyr teilwng. Ar ol dadleu y rheolau hyn mewn tair o Sasiynau yn olynol, a hynny yn 01 ac ymlaen, ar draws ac ar hyd, cant eu pasio yn ddeddf, a deallir eu bod i aros mewn grym yr un fath a deddf y Mediaid a'r Pers- iaid, yr hon ni newidir. Ond nid cynt y bydd y cenhadau wedi cyrraedd adref nag y teimlir fod y porth wedi ei wneud yn rhy gul, a'i fod yn cau allan rhyw wr ieuanc cymer- adwy gan y bobl yna dryllir y rheolau newyddion, ac eir yn y blaen fel cynt. Meistri Golygwyr, yr wyf wedi cymeryd trafferth i fyned yn fanwl trwy holl gofnodau Sasiynau y Deheudir, o'r un gyntaf yn Watford hyd y ddiweddaf yn Llanstephan, ac yr wyf yn cael fod y gwahanol reolau a basiwyd ar y mater yn rhifo cant a thrigain a deunaw rhai ohonynt yn croesi eu gilydd, rhai yn cydredeg a'u gilydd, a rhai yn lapio dros eu gilydd fel cen pysgodyn. Yr oeddwn i yn tybio, yn siwr ddigon, fod cynnifer a chant a thrigain a deunaw o ganhwyllau prafi, wedi cael eu gwneud o'r gwer goreu, gan brif ganhwyllwyr y Cyfun- deb, yn ddigon i oleuo holl Iwybr pregethwr o'r cychwyn cyntaf, pan yn arllwys ei deim- lad i glust y pen-flaenor, hyd yr adeg pan y bydd y gadwyn olaf yn cael ei chymeryd i ffwrdd oddi am ei goesau. Ond teimlid yn Llanstephan fod un darn o'r ffordd yn aros yn bur dywyll, er amled y goleuadau, sef pa bryd y mae y pum mlynedd prawf i ddechreu ? Gwir y tybia rhai ddarfod gosod canwyl fawr yng Nghaerfyrddin oedd yn gwneud yr ysmotyn yma mor oleu a'r dydd ond haerai ereill fod y niwlen yn aros ar y llecyn yma byth, a'u bod hwy eu hunain wedi stwmblo arno fwy nag unwaith. Addefid nad oedd gweledigaeth eglur ar y mater yn rheolau sylfaenol y Corff na dim terfynol y tu fewn i gloriau y Testament Newydd yn son am bum mlynedd prawf o gwbl, a bod yr apostol Pedr .yn gweini yr ordinhadau mewn llai na phum mlynedd wedi iddo ddyfod at Grist, chwaithach ddechreu pregethu ond rhaid mai Shion sydd yn anghyfarwyddyneiFeibl, oblegid y mae pum mlynedd prawf yn y Cyffes Ffydd, a sut y gallai fod yno, os nad yw yn y Testament Newydd? Diwedd yr helynt oedd anfon y cwestiwn i'r gwahanol gyfarfodydd misol. Thomas Bombay Longfellow Jones. Yn awr, yr wyf yn eich sicrhau, Meistri Golygwyr, mai nid diffyg .goleuni sydd wrth wraidd y cyffro presennol, ond diffyg gwroldeb yn y gweinidogion a'r blaenoriaid i ddweyd eu barn yn groew, a bod yr ymdrafodaeth wedi ei chychwyn er mwyn peidio ordeinio Thomas Bombay Longfellow Jones. Thomas Jones plaen- oedd y llanc yna pan yn hogyn dyna ei enw bedydd," fel y dywedir, a sut y darfu iddo gael hawl i lusgo un o brif ddinasoedd India i ganol ei enw, nis gwn ond gallaf daflu ffrwd o oleuni ar y Longfellow. Mewn cyfarfod cystadleuol, neu fel y gelwid ef yn yr Jiysbysiad, E isteddfod Fawreddog, a gynhelid yn y gymdogaeth, cynhygid swllt o wobr am y pum pennill goreu ar y "Broga yn trengu;" darfu i'r beirniad clodwiw, yr enwog E os Craig y Deryn, ddyfarnu y wobr i Thomas Bombay Jones, gan ddweyd hefyd fod rhai llinellau yn gyfartal i, os nad yn rhagori ar, eiddo Longfellow, y bardd Americanaidd. Fel y gellid disgwyl, yr oedd Bombay Jones yn llyfu ei wefusau yn flasus ar y ganmoliaeth, a phenderfynodd ar un- waith, er ei fod yn flaenorol yn un o druein- iaid y tri enw," yr ychwanegai Longfellow atynt i'w gwneud yn bedwar, a byth oddiar hynny geilw ei hun yn Thomas Bombay Long- fellow Jones. Heb fod yn hir, cododd chwant pregethu ar Bombay Longfellow Jones bu yn hir yn curo wrth y porth cyn i neb gymer- yd arno glywed, eithr yn y diwedd ei daerni a orfu, ac agorwyd cil y drws iddo. Meddyl- iwyd na ddeuai byth allan o sefyllfa prawf, mai ar dramp tragwyddol o eglwys i eglwys yn cael ei brofi y byddai, eithr trwy hir wasgu agorwyd y drws ychydig yn lletach iddo, a chafodd ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Yr oedd y brawd yn pregethu yn fawreddog tu hwnt, soniai yn ddiddiwedd am y cysawdiau a gwlad y gwawl ehedai ar adenydd dychymyg i fyny mor uchel i'r uchelder, fel mai prin yr oedd y mwyaf craffus yn medru cadw golwg ar flaen ei gynffon, ond rywlun yr oedd yn hynod amhoblogaidd nid oedd ond y mymryn lleiaf o efengyl yn ei bregethau. Wel, pan y dechreuwyd son am ei ordeinio, aeth yn gyffro trwy y gwer- syll ond yr oedd y frawdoliaeth yn rhy wlanenaidd i ddweyd yn blaen wrtho am roddi y pregethu i fyny fel bad job, a dychwel- yd yn ei ol at ei mandrel, eithr aed i chwilio ai ni ellid cael twll yn y rheol ac wedi manwl syllu, cafwyd twll ynddi, neu tybiwyd eu bod wedi cael twll ynddi, a ffwrdd a'r brodyr gyda buandra i ysgwyd y Gym- deithasfa i geisio cael rheol newydd, a hynny dan yr esgus fod yr hen reol yn un dyllog, pan mai gwir achos y cyffro yw eisieu cael rhyw lwybr i gau allan Thomas Bombay Longfellow Jones. A mean fy llythyr hwn yw ceisio perswadio y cyfeillion i beidio ymhel a'r rheolau ymhwedd arnynt i'w gadael fel y, maent ac y mae gennyf dri neu bedwar o resymau dros fy nghais. Blaenor wyf fi, ond yr oedd cefnder i ewythr fy nhad yn arfer cynghori tipyn, ac feallai fod tuedd bregethwrol byth oddiar hynny yn y gwaed, a byddaf yn cael fy hun yn ddiarwybod i mi fy hunan yn codi pennau fel pregethwr. Pennau'm Pregeth. Ym mlaenaf, cadwer mewn cof fod cant a thrigain a deunaw o reolau ar y pwnc yn barod. Credaf [fod yr henGyfundeb anwyl, er cryfed yw asgwrn ei gefn, ymron cael ei lethu i'r ddaear gan y baich anferth a" os chwanegir rheol arall eto, nis gallaf ateb am y canlyniadau. Yr ysgadenyn ol1,f dorrodd gefn yr asyn, onide -? Yn ail, y mae gwneud rheolau caeth er mwyn cadw allan Thomas Bombay Long- fellow Jones, a hynny ar draul rhwystro ordeiniad nifer o bregethwyr ieuainc, sydd ya gymeradwy gan y saint, ac yn argoeli dyfo l yn ddynion defnyddiol, yn anghyfiawnde dybryd. Dywed Sion Pant-y-gwin, os mai un ddafad fydd yn torri dros y clawdd, ac (Parhad ar tudal 2).