Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
'Phone—017 Central. 0 W. GRIFFITHS Tailor, 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. 'Phone—27x Bootle. "Ir Lunt's Boots are VALUE FOR MONEY. Try P a I r Ladies' and Gent's in great variety. 11 PARADISE STREET, The only address Telephone 51 Y Anfield. JOHN JONES, 0 FUNERAL FURNISHER, 19 Preston Grove, E^RP^OL. Style, Quality, Economy, Attention. SUPERIOR WEDDING BROUGHAMS. Estimates including all charges on application. NODER-Nad oes unrhyw gysylltiad rhyngof ag arall o'r un enw.
Family Notices
GENI. JONES—Awst 26, priod Hugh E. Jones, 19 Rodney Street, ar ferch PRIODI. HUGHES—JONES—Awst 31, yn y Capel Mawr, Rhos, William Hughes, ail fab y diweddar R. a Mrs. Hughes, Beaumaris a Sarah Catherine, pedwaredd ferch Mr. a Mrs. Robert Jones, Regent House, School Street, Rhos. IIUGHES-WILLIAMS-Awst 28, 1907, yng nghapel y Trefnyddion Calfinaidd, Engedi, Caernarfon, gan y Parch. John Williams Carno (brawd y briodferch), yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W. G. Hughes, Rhiwlas, ger Bangor, Mr. John Hughes (Monwr), o ffirm Jones & Hughes, Walton, Lerpwl, a Miss Annie Eleanor, merch Mr. W. Williams, Rhiwlas, Bangor. Deg anwylyd Ann Ellen—ddewisodd loan gael ei pherchen A'r ferch wych sy'n awr heb len Rhyw ias ing neu bwys angen." MARW. JONES-Awst 26, yn 19 Rodney Street, anwyl briod Hugh E. Jones. Claddwyd yng nghapel Curig, Awst 29. WILLIAMS-Awst 31, ym mhreswylfod ei mab-yng-nghyfraith, 124 Holt Road, Ler- pwl, Hannah, gweddw Thomas Williams, gynt o Sam, Bodelwyddan. Claddwyd heddyw (ddydd Mercher) ym Modelwyddan.
Advertising
Telephone-261 BootJe. P. LLOYD JONES, Funeral Furnisher, SPecial attention given to removals to and from Wales YORK BUILDINGS, 362 & 364 Stanley Rd., L'pooi (N- ar Bankhall). WEDDING EQUIPAGES. SAVE £ 5; CASH OR HIRE. D. GRIFFITHS & SON, 221 Breck Road, and 103 Waver tree Rd. Liverpool. AND ORGANS 8s. per month by all the leading lXlahers. (JIXAnfield reck Rd. 7y Royal avertree. "fiake Boots That's my business. You buy Boots That's your business. If You place any value on your feet Come and let me build you a pair, don't °*8et. An easy Shoe is equivalent to an easy conscience GUTTERIDGE, -BESPOKE BOOT MAKER, 291 West Derby Rd. My Only Address H. PROCTER, F.B.P.S. The City Phrenologist, Is a Follow and Councillor of the British Phrenolog ical Society (Incor- llohteSix^CertlHcates & Six Gold Medals for Pro. J ficiwcy hi Phrenolog t~ and Hand-reading. r'T^ Mr. Procter has had 1 35 years' Profession- j ( al Experience in Liverpool,and is now J giving Consultation HKALTH, PHRENOLOGY & HANDREADING at 58 Lime St. & 25 Mt. Pleasant
Cymraeg y Pulpud.
Cymraeg y Pulpud. SYR,—-Bum yn meddwl paham yr ydym fel aelodau pwyllgorau eisteddfodol, &c., yn ymboeni ynghylch cadw iaith ein mam yn fyw, pan y mae cynnifer o'n pregethwyr yn ei llurgunio mor echrydus. Digwyddwn fod mewn capel yn Nyffryn Conwy bore Sul cyn y diweddaf,—ie, yn ardal Trebor Mai, Scorpion, Ieuan Glan Geirionydd, a Gwilym Cowlyd ac yr wyf yn sicr y buasent wedi troi yn eu beddau gyda'u gilydd pe clywsent y tiorraeth ddiflas o eiriau Saesneg a arferid gan y pregethwr. Hwyrach, Mr. Golygydd, y byddwch mor garedig a rhoddi y rhestr ganlynol i mewn er mwyn i ddarllenwyr y BKYTHON gael rhyw ddychymyg egwan am y wledd gafn-mochyn a gawsom :— Difyniad o Coleridge :-Genius, talent, nick of the nack, extraordinary, ingredents. Difyniad o Pope :-Unit, to be blessed yn dragywydd (!) design, details, building, fresh, artificial, command, business, ma- jesty, under-current, breakfast, objects, ap- petite, Never is, but always to be," label, distinct, ambiguous, shape, futurity, sproutio, picture, material, turnpike, tramper, chance, job, waste, sap, landio, comical, gloomy, lecio, expensive, landlord, generous, school- master, South. Terfynodd ei bregeth gan obeithio y byddai i'r Hollalluog wneud soil ein natur yn rich i gynhyrchu cropiau o feddyliau." Os ydyw Coleg y Bala yn parhau i anfon pregethwyr fel hyn allan, yr wyf yn meddwl ei bod yn hen bryd ei fwrw i'r llyn, a'i adael yno. Ond yn ol pob golwg, credaf fod gan y rhan fwyaf o'n pregethwyr ieuainc well Cymraeg na llawer o'r tadau pan yn sefyll i fyny yn ddifrifol i ddweyd am Wrthrych y gan bery'n newydd o hyd." Yr eiddoch yn gywir, GLAN FFRYDLAS.
Beirniadu Adrodd ym Mhwllbeli.
Beirniadu Adrodd ym Mhwllbeli. MR. GOL.Mae arnaf awydd gofyn am ychydig o'ch gofod unwaith eto i ddangos geudeb ymresymiad y brodyr o Bwllheli yn eu llythyrau atoch yr wythnos ddiweddaf, i geisio profi cymhwyster eu beirniaid adrodd. Os fy amcan oedd cael diwygiad cyffredinol. dywed Eisteddfodwr Arall ei fod yn methu a gweled paham yr ymosodwn ar feirniaid Pwllheli yn arbennig, &c., &c. Un rheswm paham yr ymosodais arnynt hwy oedd mai yno y digwyddwn fod y diwrnod hwnnw. Rheswm arall oedd eu bod yn engreifftiau teg o'r rhai ddewisir yn gyffredin i feirniadu adrodd a'r trydedd oedd fod ymosodiad ar engraifft neilltuol yn fwy tebyg o gyrraedd yr amcan na rhyw ymosodiad cyffredinol. Nid yw y ffaith fod 42 wedi anfon eu henwau i mewn yng nghystadleuon yr adrodd yn un prawf o ymddiriedaeth yng ngallu a gonestrwydd y beirniaid, fel y tybia E.E." Os ceir yr un 42 i anfon eu henwau i gystadlu eto dan yr un beirniaid, hwyrach y gall E.A." yn rhesymol gasglu fod ganddynt ymddiriedaeth yn y beirniaid. Mae'n ddigon posibl mai nid gwybodaeth am alluoedd y beirniaid, ond diffyg gwybodaeth am danynt, barodd i amryw gystadlu. A fuasai E.A." yn dweyd mai diffyg ymddiriedaeth yn y beirniaid oedd y rheswm mai rhyw hanner dwsin oedd yn cystadlu ar yr adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ? Ymddengys fod syniadau E.A." am gymhwysterau beirniaid yn hynod o gymylog. 'Does dim angen beirniaid i wahaniaethu y cywir a'r anghywir, y rhwydd a'r afrwydd, y chwaethus a'r gwrthun, &.c, &c. Gall y dyn wrth y drws," chwedl Treflawnyd," wneud hynny. Gwahaniaethu rhwng nifer o adroddiadau cywir,rhwng nifer o ymadrodd- wyr rhwydd, rhwng nifer o adroddiadau chwaethus, &c., a dangos y gwahaniaeth hwnnw mewn beirniadaeth glir, ydyw'r gamp ac yr wyf yn meiddio dweyd, Mr. Gol., na chafwyd dim prawf ym meirniad- aeth (?) beirniaid Pwllheli eu bod yn medru dim ar y gamp. Yr hyn sydd yn synnu dyn wrth ddarllen llythyr Carreg yr Imbill ydyw na buasai un sydd wedi talu sylw i adrodd er's blyn- yddau," wedi bod wrth y gwaith o feir- niadu," ".yn cael ei gydnabod yn safon ac awdurdod uchel ar adrodd," "yn alluog i roddi gwersi ar adrodd,yr hyn sydd yn syn, meddwn, ydyw i'r fath, un beidio manteisio ar gyfleustra i gyfrannu rhyw gymaint o ffrwyth ei sylwadaeth i'r cystadleuwyr, neu o leiaf eu hysbysu wrth ba safon y bernid hwy. Yn sicr, buasai sylwadau awdurdodol mor uchel yn berlau amhrisiadwy. Buasai brawddeg o feirniadaeth glir yn fwy o brawf o'i gymhwyster i feirniadu na phennod o ganmoliaeth iddo. Dywed Carreg yr Imbill mai yr unig gymhwyster mewn beirniad a foddlona H.E. & Co. fyddai rhoddi y wobr iddynt hwy. Darllenned eto yr ysgrifennu fu ychydig amser yn ol y cyfeiria ato yn nechreu ei lythyr, a chaiff weled mai buddugwr, ac nid colledwr, oedd yr achwynwr. Cyn térfynu, carwn awgrymu i'r pwyllgor gyfarfod i ddewis beirniaid yn ogystal a thestynau at yr Eisteddfod nesaf, a pheidio gwario eu pros i ddanfon y testynau i'r cystadleuwyr, ond eu cadw i dalu i feirniaid cymwys. HEN EISTEDDFODWR.
At Eisteddfodwyr Maelor.
At Eisteddfodwyr Maelor. HYNAWS OLYGYDD,—Eiddunaf gongl o Ffetan eich BRYTHON bendigedig i erfyn ar Eisteddfodwyr Dyffryn Maelor a'r cwmpas- oedd fabwysiadu rhyw gynllun unedig i barchu coffadwriaeth enwogion y genedl, megis Ceiriog, Eben Fardd, Talhaiarn, Morgan L wyd 0 Wynedd, ac yn y blaen. Y mae ffrwyth awen Ceiriog wedi cael lie ynghalon y genedl, ac yn for yn asgwrn ei gwladgarwch; ac i ddechreu gydag ef, beth pe ymunai pwyllgorau Eisteddfod Corwen, y Rhos, a Bwlchgwyn, i ffurfio Cymdeithas Gorawl ymhob lie i ganu anthem neu anthemau coffhaol am dano ef ac ereill, bob un yn ei dro ? Gellid hefyd gynnwys tonau cynulleidfaol yn y rhaglen, i'w canu yn y cyfarfod. Fe ddygai hyn ei weithiau ef ac ereill i fwy o sylw ac a barai ragor a'u darllen. Yr eiddoch yn wladgar, a chan ddisgwyl y dywed rywun arall air ar hyn, Bwlchgwyn. ALUN T. BOBERTS.
[No title]
--0-- Y mae Mr. Llewelyn Wynne Jones, B.Sc., B.A., wedi ei benodi i swydd bwysig tan Fwrdd Addysg Gwlad yr Aifft, lie y mae i ddechreu ar ei waith ym mis Hydref. Cafodd Mr. Jones ei ddysg ym Mhrifysgol Bangor ac yn Rhydychen.
Yn Ynys Mon ac Arfon
Yn Ynys Mon ac Arfon [GAN BETHMA.] Sasiwn Bangor. Nis gallaf feddwl am roddi adroddiad llawn a manwl o'r holl weithrediadau. Yn ystod y dyddiauIMawrtha Morcher, cynhaliwvd amrywiol gyfarfodydd. Yn y Tabernacl newydd y bu'r cyfarfod cyntaf, pryd y llyw- yddai y Parch. John Williams, y cymedrolwr am y flwyddyn. Son am arian,—sut i'w cael a sut i'w gwario-oedd prif bynciau y cyfarfod hwn. Yr oedd rhai eisieu ychwaneg ahratwon i'r Bala, ac ereill yn erbyn ac er y golyga cael dau athro newydd o Y,400 i jE500, penderfynwyd hysbysebu am rai. Dyled fawr sydd wedi bod ar y Coleg, a sylwodd y trysorydd, Mr. J. R. Davies, Menai Bridge, fod ei dad wedi ymddiswyddo oherwydd fod y ddyled yn fawr a chynhyddol, ac awgrymai y buasai cystal ganddo yntau roddi ei swydd i fyny os bwriedid ychwanegu swm y ddyled. Yr oeddis wedi llwyddo i gael y ddyled i lawr i £ 30, ac ni bu mor isel a hyn er's blynyddau. Cafwyd mwyafrif mawr o blaid hysbysebu am athrawon, ar gynhygiad y Parch. W. Jones, Caernarfon, a chefnogiad y Parch. T. J. Wheldon, M.A. Rhoddwyd caniatad i'r rhai canlynol i sefyll arholiad y Gymdeithasfa eleni :—Mri. Henry K. Jones, B.A., Arfon Morris Thomas, B.A., Ph.D. (Leipsic) D. R. Jones, M.A., Newmarket R. Prys Owen, B.A., Rhyl; Henry Jones, Llanaelhaearn; Hugh Roberts, Pennallt Enoch Lewis Jones, Porthmadog J. R. Jones, Arfon Thomas H. Thomas, Arfon O. J. Robinson, Fflint; Robert Williams, Garregddu David Thomas, Llan- elwy E. G. Miles, Lancashire. Dirwest. Darllenwyd cenadwri o'r Gymanfa Gyff- redinol gyda golwg ar gynnydd meddwdod; ei fod o anhraethol bwys i gael pob blaenor a phregethwr yn llwyr ymwrthodwr; ac fod i'r Cyfundeb osod ei wyneb fel callestr yn erbyn y Fasnach Felltigaid. Pasiwyd i anfon y Genadwri i'r Cyfarfodydd Misol. Caed anerchiad cryf gan y Parch. Ellis Edwards, y Bala, yn galwar hoIldrefiCymru i ddilyn sir Feirionydd drwy ddarpar tai dirwestol i wrthweithio'r tafarnau. Cyfarfod Cyhoeddus. Yn y Tabernacl newydd y cynhaliwyd hwn hefyd, y Parch. John Williams yn llywyddu. Yr oedd y cynhulliad yn lliosog iawn, a mawr ganmolir anerchiad rhagorol y Parch. John Owen, Wyddgrug, ar Rwymedigaeth a dyledswydd ein heglwysi yn wyneb peryglon ein gwlad." Cafwyd sylwadau rhagorol ar y mater gan y Parchn. Hugh Jones (W), J. M. Davies (A.), a'r Parch. John Williams, Gwrecsam. Diffygion y Fugeiliaeth. Yn yr Hen Dabernacl, bore Mercher, agorwyd ar y mater uchod gan y Parch. David Roberts, Abersoch. Daw y mater gerbron eto, gan fod pwyllgor wedi ei ddewis i'w ystyried. Darllenwyd papur ar "Nod- weddion y gwir flaenor gan Mr. J. R. Williams, Pandy Tudur, yng nghyfarfod y blaenoriaid. Dyled y Capelau. Agorwyd llygaid llawer i weled pa mor ddwfn mewn dyled mae y Cyfundeb. Amser yn ol yr oedd capelau costus yn cael eu codi ac ofnaf fod disgwyliad wrth wneud hynny y byddai boneddwr neilltuol yn talu y ddyled. Gwnaeth y gwr da hwnnw yn ardderchog. Posibl ydyw na welir ei gyffelyb. Awgrymodd y Cadeirydd, onibae am haelioni un boneddwr, y buasai y ddyled yn llawer mwy. Pe gallasai pobl fod yn ddistaw," meddai ef, buasai wedi clirio holl ddyledion Methodistiaeth er's talm." Dylai y rhai fethodd olhdw y gyfrinach gael eu troi o'r gyfeillach bob un. Darllennodd Mr. Peter Roberts, Y.H., Llan- elwy, bapur miniog ar ddyledion y capel- au. Yn ol yr ystadegau a gyflwynwyd yn Llanelli yn 1906, y mae y ddyled yn £ 011,578 15s. 2c.cynnydd ar y flwyddyn cynt o £ 79,930 3s. Mae y ddyled wedi cynhyddu y flwyddyn ddiweddaf Y,164,670 17s. 6ch., ac erbyn hyn y mae ymhell dros 9600,000. (1) Mae y rhan fwyaf o'r ddyled i'w phriod- oli i'r ffaith fod capelau mor ddrud yn cael eu hadeiladu. Mae modd cael capelau cyfleus a chwaethus heb fod mor ddrud, ac ai tybed nad cymeradwy gan Berchen y Ty fyddai'r adeilad cysurus, rhatach, ond wedi talu am dano, nag adeilad gwych a drud a dyled arno. Mae organs costus hefyd yn cyfrif am lawer o ddyled. Mae cyd- wybod y Cyfundeb wedi colli ei thynerwch yn y mater, ac yr ydym fel pe wedi anghofio mai nid ty John Jones na John Calfin ydyw yr addoldy, ond mai cysegr y Duw Goruchaf yw. (2) Mae swm y ddyled yn afresymol i Gyfundeb fel yr eiddom ni, a chorff ei ael- odau yn bobl gyffredin. Mae i gyfundeb fel yna fynd i dros chwe chan mil o bunnau o ddyled yn ymddangos i mi yn dra afresymol, os nad yn bechadurus. (3) Mae baich y llogau ar y ddyled yn rhwystr i weithgarwch crefyddol y Cyfundeb. Mae gennym nifer o symudiadau cyfundebol a'u hamcan i ledaenu yr efengyl yn gartrefol a thramor. Mae pob un o'r achosion hyn yn methu cyflawni eu gwaith mewn modd effeithiol o ddiffyg mwy o gynhorthwy ariannol, tra yr ydym ninnau yn talu mwy o log ar ein dyled nag a gesglir gennym at yr holl achosion hyn gyda'u gilydd. Hanes yr Achos yn Arfon. Cyflwynwyd hwn gan Mr. J. C. Roberts, Y.H. Bangor. 'Roedd nifer y capelau yn y sir ar ddiwedd 1905 yn 186, 29 o ystafelloedd cenhadol, a 134 o ysgoldai. Nifer y cyflawn aelodau, 32,671 rhai ar brawf, 359 plant, 12,298 gwrandawyr, 4,880 gyda'u gilydd, 50,208. Nifer aelodau yr Ysgol Sabothol, 35,654. Nid yw tan sanctaidd y Diwygiad wedi diffodd mewn ami i gymdogaeth, a ymhob rhan o'r wlad mae ei effeithiau wedi bod yn dreiddiol a grymus Y Golofn Ddu yw un y gwrthgilio a'r ymadael heb docynau. Dydd Iau. Am 6.30 cynhaliwyd cyfarfodydd pregethu yn y gwahanol gapelau; ac am 8.30 caed seiat gyffredinol. Mater Crist yn Arch- offeiriad;" a chaed sylwadau gan y Parchn. T. J. Wheldon; J. Hughes, Pwllheli; Clement Evans J. Hughes, Lerpwl; J. H. Morris, Lerpwl; R. J. Williams, Lerpwl a W. Thomas, Llanrwst. YnTy capelau drwy y dydd pregethwyd gan y Parchn. J Williams, Brynsiencyn W. E. Prytherch J. Morgan Jones,Caer- dydd Ellis Edwards, Bala T. C. Williams; J. R. Jones, Ffestiniog R. Aethwy Jones, Dr. Egryn Jones ac yn Saesneg gan Richard Roberts, Llunden. Cyfarfod y Bobl Ieuainc. Yn yr Hen Dabernacl am 7 o'r glocli y cynhaliwyd hwn. Cadeirid gan Mr. Peter Roberts, ac anerchid gan Mr. J. Herbert Roberts, A.S., J. Hughes, Lerpwl, a Dr. Egryn Jones. Sasiwn Siom. Siomedig iawn mi gredaf oedd y Sasiwn eleni i'r mwyafrif. Nid oes fawr o son am yr un e'r pregethau a draddodwyd yn yr un o'r addoldai —mwy o gondemnio nag o ganmol glywais gan amryw. Cydnabyddir fod y gwyr da a alwyd i'r Sasiwn yn alluog a dawnus, ond nid ydynt bob amser yn gwneud yr hyn a allant. Gellir cydymdeimlo a phregethwr cyffredin os y bydd yn gwneud yr hyn allo, ond pan mae rhai da yn esgeuluso gwneud hynny, nid yn rhwydd y gellir maddeu iddynt. Yr oedd cyfarfodydd amryw wedi eu cynnal i weddio am dywydd ffafriol, ac am ddylanwad yr Ysbryd Glan. Mi wn i na chafwyd y cyntaf, ac yr wyf yn ofni na chafwyd ar- wyddion amlwg o'r olaf. Yr oedd yn dda ar un ystyr fod y gwlaw wedi hel y gwranda- wyr i'r addoldai. Nis gallesid dweyd pob pregethwr yn yr addoldy, heb son am iddynt bregethu i dyrfa fawr ar y maes. Yr wyf yn cael fy nhemtio i ysgrifennu rhagor i'r cyfeiriad yma.
o BEIRNIADAETHAU EISTEDDFOD…
o BEIRNIADAETHAU EISTEDDFOD CAERNARFON. II. PRYDDEST GOFFA: Llew Llwyfo, Hirlas, Llawdden, Tafolog, Gwyneddon, Pen- cerdd America. FE ymgeisiodd tri ar y testyn hwn. Dyma fel y gosodir hwy yn ol eu teilyngdod gan y tri beirniad :—Silyn—(3) Dan y Don (2): If or Llewelyn (1), Bryniau Cymru. Gwili (3) Ifor Llewelyn (2) Dan y Don (1), Bryniau Cymru. Elphin (3) Ifor Llewelyn (2), Bryniau Cymru (1) Dan y Don. Dyna i chwi beth yw ringio'r changes Nid oes yr un o'r tri beirniad yn unfarn am deilyngdod tri chyfansoddiad. Gwelir fod Dan y Don yn mynd i fyny'r raddfa bob yn step nes cyrraedd y top-yn ol barn Elphin. Mae'n rhaid fod rhywbeth o'i le ar rywun pan y gosodir y salaf ym marn un beirniad yn oreu gan y Hall. Dyma frawddeg neu ddwy o'u beirniadaeth i ddangos y gwahaniaeth barn Elphin ar Dan y Don,-y goreu yn ei farn ef MAE olion diofalwch ar rannau o waith yr ymgeisydd hwn. amryw odlau gwallus wedi dianc i mewn i'w linellau. Nid bob amser, ychwaith, y mae ei gor- fannau yn cydredeg a'i fesur. Ac eithrio y meflau uchod, credaf fod cryn lawer o deilyngdod yn y cyfansoddiad hwn. Er gwaethaf y gwallau mydryddol a no dais, Dan y Don yw y mwyaf boddhaol gennyf fi. Yn ei waith ef y cefais fwyaf o amryw- iaeth a barddoniaeth. Ar yr amod iddo gywiro ei odlau amherffaith, ystyriaf ei fod yn teilyngu y wobr." Barn Gwili am Dan y Don LLECHRES go sech yw'r bryddest hon. Pregethir ynddi drachefn a thrachefn. Ceir ynddi ragymadrodd ar ol rhagymad- rodd, nes peri i ni ddiflasu cyn dod at brif fyrdwn y gerdd. Cyffredin eto yw'r awenyddiaeth." Dyna'r cwbl. Dywed Silin—a'i cyfrifai'n salaf-am dano ANURDDIR y bryddest hon gan wallau gramadegol, a ffurfiau ar eiriau sy'n ddi- enaid a diawdurdod. [Rhydd amryw engreifftiau. J Haua'i atalnodau mor ddi- bris nes gwneud i un feddwl nas gwyr sut i'w defnyddio. Gwelir hefyd aflerwch amlwg mewn camsillebu geiriau. Ond nid dyna feiau gwaethaf Dan y Don. Llac iawn yw morteisiau ei linellau yn ami a cheir ganddo liaws o ddarnau sy'n rhyddiaeth noethlymyn. A'r fath feini melin wrth ei wddf, nid rhyfedd ei fod Dan y Don." Beth am Bryniau Cymru (sef Bryfdir), a gyfrifai Silyn a Gwili yn oreu ? Dyma ddywed Silyn ANADLA ef mewn llawer gloewacli nen na'r lleill, a cheir gwell graen ar ei waith. Gyda phedair llinell o ragymadrodd, daw at ei waith a chana yn ystwyth a llithrig, ac, fel rheol, yn awenyddol, i'r chwe gwr marw. Nid yw'r bryddest heb ei beiau. Anurddo cerdd a wna gair dau faril fel enaid-flodau haws i saethwr cyffredin daro'r nod gyda gwn un faril. Er y beiau a nodwyd, rhagora Bryniau Cymru lawer ar y ddau arall, ac iddo ef y dyfernir y wobr." Dyma ddwed Gwili — DYMA bryddest goffa brydferth iawn. Nid oes llawer o rym awen ynddi, ond y mae yn dyner a thestynol drwyddi oil. Heb betruster gennyf, hon yw'r oreu o gryn fesur." Elphin LLWYDDODD y bradd hwn i dynnu dar- luniau destlus a chywir o'r gwrthrychau, yn arbennig Llew Llwyfo, Tafolog, a Gwyneddon. Ond traethu a disgrifio y mae yn barhaus yn lie barddoni. Ceir fflachiad o awen yn awr ac eilwaith, a thyna'r cwbl. Teimlwn fod ei ddull o drin pob un o'r enwogion yn rhy debyg. Catalogue o briodoleddau yn hytrach na cherdd-goffa sydd gan yr ymgeisydd hwn. Mae yma lawer o dalent, ond ysbrydoliaeth sydd yn brin." Dyna i chwi gymysgfa o farnau." Ymhob pen mae 'piniwn," meddai'r hen air Gwelir fod cymaint gwahaniaeth rhwng y beirniaid ar y testyn hwn ag ar bryddest Branwen,"—ond y mae gwell (neu waeth) i ddod. Y cyfansoddiadau nesaf i gael fy sylw fydd y Caneuon (a) Can Cadeirio'r Bardd; (b) Can Coroni'r Bardd. Ond gan y gwn fod gofod y Gol. yn brin yr wythnos hon, bwriadaf eu gadael hyd y rhifyn nesaf. Gallaf eich sicrhau y byddant yn highly interesting HESGIN.
Glannau'r Mersey
Glannau'r Mersey (Gwel hefyd tudal 8). Mrs. Jane Rogers, Miranda Road. Bu farw y chwaer rinweddol a duwiol uchod Awst 25, yn ei 80ain oed. Y hi oedd aelod hynaf eglwys Anibynol Great Mersey Street. Hebryngwyd hi i dy ei hir gartref ym myn- went Longmoor Lane Awst 29, pryd y gwein- yddwyd yn ddoeth a phwrpasol gan y Parch. J. L. Williams, M.A., B.Sc., y gweinidog. Nodweddid yr hen chwaer anwyl gan amryw ragoriaethau. Yr ydoedd yn neilltuol o ffyddlon i'r capel, ac er ei hoedran, mynychai y moddion hyd bythefnos i'w marwolaeth. Cyfarfu a llawer o brofedigaethau, ond dioddefodd yr oil yn dawel. Yn ei dyddiau olaf murmurai yr adnod honno yn ami, Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw." A diameu fod marw wedi troi yn dragwyddol elw iddi am ei bod wedi byw Crist." "Yno y gorffwys y rhai lluddiedig." Caffed liithau hun dawel ei holl lafur.-J. W. Plant y Pentre yn diolch. Diolch yn fawr i bobl Lerpwl am eu dymun- iadau galonnog, a'u cynhorthwy amserol. Nid ydym yn cofio myned i unrhyw gysfcadl- euaeth gyda chymaint o ewyllys da oddiwrth ein cyfeillion. Diolch yn faivr i'r Wasg, Gymraeg a Saesneg—mae'r pyre Saesneg wedi deffro o'r diwedd. Ond yn bennaf oil diolch yn fawr iawn i bobl y De am y croeso a gawsom. Nis gallwn byth obeithio talu yn ol am y caredigrwydd a ddanghoswyd i ni oil yn Abertawe. Pawb yn gwenu arnom, pawb yn gwneud eu goreu i'n gwneud yn esmwyth a chyfforddus. Arhosai rhai o'r plant yng nghartrefi lie yr oedd y plant yn aelodau o gorau a gystadleuent i'n herbyn ond lwc dda oddiwrth bob un. Da iawn, Cymry Abertawe nis anghofiwn mo'ch caredigrwydd tra bom. --0--
Ymweliod a Blacpwl.
Ymweliod a Blacpwl. MR. GOL.AIae gin i hanas amrantus iawn am nifer o wragedd, reit gall hefyd, fuont ar 'mweliad a Blacpwl yn ddiweddar, ac mae'r dull yr aethon nhw yn ddigri dros ben. Ar yr amod na soniwch chi yr un gair am y peth wrth undyn byw bedyddiol-rhag i mi gael 'y nghrogi, ne rwbath fasa'n brifo mwy na hynny arna i-mi ddeuda i chydig o'r hanas wrtho chi, fel hen ffrynd y gellir ei drystio. Wel, o dref W wir, well imi beidio deyd yr enw hyd yn oed wrtho chi-y cych- wynodd ryw dair ne bedar o wragedd. 'Roedd 'u bryd nhw ar ddwrnod o blesar digymysg, ac nid ychydig oedd eu llawenydd o gael mynd heb eu gwyr, fel tase. 'Roeddan nhw yn cychwyn o W-- mewn hwylia mawr, a ffwrdd a nhw i Gaer. Ac yno, wrth newid dau dren, y dechreuodd eu helbul. 'Doedd pob un o'r merched ddim yn medru rliedeg, a digri oedd yr olwg arnynt yn pwnio y naill a'r llall ymlaen. Beth bynnag i chi, cawsant ddigon o amser i gael eu gwynt atynt cyn mynd o Gaer, achos mi gollson y tren Buon yn chwilio almanacia y trens, a deall- sant fod tren arall i Lerpwl cyn hir iawn. Llwyddasant i gael eu hunain yn hwnnw, a chyrhaeddasant i Lime Street yn saff eu gwala. Ond, cyn wired a'ch bod chi yn y gader yna, Mr. Gol., mi gollson y tren oedd yn mynd o Lerpwl i Preston, ac 'roedd golwg shei iawn arnynt nhw erbyn hyn-wedi colli dau dren yn barod A dyma beth fedrai gwragedd, wedi cael gollyngdod oddiwrth eu gwyr, ei wneud Ond dydi'r hanes ddim ar b-,n eto. Wrth gwrs, yr oeddan nhw mewn pryd i'r tren nesaf ar ol yr un oeddan nhw wedi golli, bob tro, chware teg iddyn nhw. Wel, os ydach chi yn y fan yna, wedi cyrraedd i Preston, aeth y merched llonwiw allan o'r tren, ac i fiawn i un arall—am Blacpwl, bid sicr ond cyn i'r tren hwnnw gychwyn, deallsant mai tua Lerpwl yr oedd ei gorn Allan a nhw, fel sgyfarnogod o'r gwrych, i chwilio am y tren iawn, a thrwy help daethant o hyd iddi. Yr oeddynt, wrth gwrs, yn tynnu tipyn o sylw erbyn hyn a phan ddeallsant eu bod dipyn yn 6d, ebe un ohonynt—mewn ffordd o eglurhad, gan gymeryd ami mai tipyn o ddireidi bwriadol oedd y cwbwl,— We are. out without our husbands to-day." Ac ebai ryw wraig henffel oedd yn y cerbyd, ac wedi gweled i ystyr petha yn bur bell, I should think so, indeed." Waetli i chi yn y byd, i Blacpwl yr aeth y gwragedd diddan o'r diwedd. Yno yr oedd gwr a gwraig yn eu disgwyl i'w croesawu. Yn ystod y chydig amser oedd yn weddill gan- ddynt, aethant am dro ar y car trydan rhwng Blacpwl a Haliflacs. Ar y car y dechreuodd pennod arall o helbul. Chwythodd y gwynt gap y gwr y cyfeiriwyd ato i ffwrdd, ac aeth y car ymhell cyn sefyll. Beth bynnag i chi, aeth y dyn a gollodd ei gap i lawr yn y man, a rhedodd yn ol hyd y ffordd i'w geisio. Yn rhyfedd iawn, daeth o hyd i gap, ond nid ei un ei hun. Daliodd ati i redeg, a daeth o hyd i gap arall, heb ben ynddo, a rhoes hwnnw yn ei boced. Daliodd i redeg, a chafodd y trydydd cap, ac heb ddim sens yn hwnnw chwaith. Wn i ddim a gafodd o'i gap ei hun ai peidio, ond cafodd ei ddewis o dri o rai erill- bargen go lew, hefyd, bygwn i. Wel, 'roedd y gwragedd o VV- i gyrraedd adre erbyn 10 pi em, a'u gwyr i'w cyfarfod yn y stesion. Yr oedd teligram wedi ei anfon i un ohonynt yn hysbysu na ddychwelai y gwragedd hyd fore dranoeth, ond cadwyd yr hysbysiad pwysig oddiwrth un o'r gwyr, a bu y lleill yn ddigon bethma i'w gadw mewn syspens am amser, a gadal iddo astudio tablau y trens o Blacpwl; a holi y swyddogion—wedi gweld nad oedd y gwragedd wedi cyrraedd efo'r tren addawedig. Beth bynnag, rhodd- wyd iddo ollyngodd, a chyrhaeddodd y gwragedd adre bore dranoeth-wedi profi mor dalentog yw gwragedd i wneud eu ffordd o W-- i Blacpwl without our husbands," fel tae SHON IFAN.
Advertising
WALTER E. ROBERTS. R. HUMPHREY JONES Walter Roberts & Co., COAL PROPRIETORS, TIMBER MERCHANTS, 6 SHIP OWNERS. a 4 Oldhall St., Liverpool, Telegrams: IKQUJRB,' L'pool. Tel.: 5581 Central Coal Exporters.—Best House and Steam C(al Coke and Gas Coals. Supply only regular Cou i Merchants by Rail and Sea. Also Private rartii s under certain conditions. Prices and full par- ticulars from Head Office or our N. Wales Agent: Mr* J. E. WILLIAMS, Coal Agent, Pcnrhyndeudrscthf