Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

A$ ♦ Y WERS SABOTHOL ♦ Y WERS…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

A$ ♦ Y WERS SABOTHOL ♦ Y WERS SABOTHOL. 14 § ? ———— 9 f ? WERS RYNGWLADWRIAETHOL. ff 4 0 ? Can y Parch. D. OLIVER, D,D., f? f TREFFYNNON. t <$> ,>>-<>-<>->-<>-<><>-<>-<>-<>0-<>-><><>-<><><>-<><>4> MBDI lofed.- Paul Mewn Dalfa.—Actau xxi. 27-40. Y TESTYN litTRAlDJ).—1 Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o'r pethau a wefaist ac a glywaist.'—Actau xxii. 15. RHAOARWKINIOL YN y bennod hon rhydd Luc hanes taith Paul o Miletus i Jerusalem. 0 Miletus hwyliasant i Coos, ynys fechan tua 40 milltir i'r de o Miletus. Trannoeth daethant i Rhodes, ynys tua 50 mill- tir o Coos. Yna hwyliasant o Rhodes i Patara, prif borthladd Lycia yn Asia Leiaf. Yma gad- awodd Paul a'i gymdeithioii y Hong, a hwylias- ant mewn Hong arall oedd yn myned i Phenice. Tiriasant yn Tyrus, tua 350 milltir i'r dwyrain o Patara, canys yno yr oedd y llong yn dad- lwytho y llwyth.' Arosasant yma saith niwrnod, a daethant o hyd i nifer o Gristionogion yn Tyrus, y rhai a gyngorasant Paul nad elai i fyny i Jerusalem ond yr oedd Paul yn dal yn ben- derfynol i fyned. Pan ddaeth yr amser i hwylio, hebryngwyd hwy i'r llong gan y Cristionogion oedd yn Tyrus, a chawn olygfa tebyg i'r un ym Miletus pan ymadawodd Paul a'r henuriaid o Ephesus. Wedi iddynt dirio yn Ptolemais, yr oedd y fordaith ar ben. Gwnaethant y gweddill o'r daith ar droed. Arhosodd Paul yma ddiwr- nod gyda'r brodyr cyn myned i Cesarea, pellter o 40 milltir. Dyma drydedd ymweliad Paul a Cesarea. Y hi ydoedd prifddinas Rhufain ym Mhalestina, a thrigfod y rhaglaw. Safai ar Ian Mor y Canoldir. Yma yr oedd Phylip yr efeng- ylwr yn byw, ac aethant i'w dy ef. Yr oedd iddo bedair o ferched yn proffwydo. Tra yr ydoedd Paul yn aros gyda'r teulu hwn, daeth Agabns, yr hwn oedd broffwyd, o Jerusalem, i geisio perswadio Paul beidio dyfod i Jerusalem. Ond yr oedd gwroldeb Paul yn gyfryw fel nad oedd dim yn effeithio arno newid ei feddwl, gan y teimlai yn ei ysbryd mai ei ddyledswydd ydoedd myned. Aethant o Cesarea i Jerusalem, a chawsant groesaw gan un Mnason, hen ddis- gybl, a chan frodyr eraill. Wedi gorffwys nos- waith, arweiniwyd hwy drannoeth at Iago a'r lienuriaid. Cyflwynodd Paul y rhoddion oedd ganddo. Derbyniwyd y rhoddion fel ewyllys da y Cristionogion Cenhedlig. Yna rhoddodd Paul adroddiad o'r pethau mawrion a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef. Derbyniwyd yr adroddiad yn llawen a chyda theimladau diolchgar gan Iago a'r henuriaid, ond teimlent yn rhwym i hysbysu Paul am yr elyniaeth a goleddai llawer ato ac er mwyn ei ddiogelwch awgrymasant iddo roddi prawf ymarferol nad oedd yn diystyrru gorchmynion deddf Moses, o'r hyn y cyhuddid ef. Gan nad oedd hynny yn peryglu dim ar y gwirionedd fel yr oedd yn yr Iesu,' cydymffurfiodd a'u cais. Ceir y cynllun yn adnodau 23-26. Y mae gwa- haniaetli barn gyda golwg ar ddoethineb Paul yn cydyniffurfio a'r cynllun. Diau ei fod wedi cydymffurfio gyda'r atncan o syiiiud rhagfarn gamsyniol oddiar feddyliau'r Iddewon Cristiofi- ogol yn ol yr egwyddor a ddysgir ganddo yn 1 Cor. ix. 20. ESBONIADOI,. Adnod 27. A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan wel- sant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylaw arno.' A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod. Y saith niwrnod yr oeddynt dan adduned. Yn ystod dyddiaij'r glanhad (adnod 24) yr oedd yn rhaid i Paul fyned i'r deml yn ami. Yr Iddewon oeddynt 0 Asia. Sef wedi dyfod o wahanol fannau yn Asia Leiaf i'r wyl. Pan welsant Paul yn y deml. Daethant i'r penderfyniad mai diben drwg oedd ganddo. Gelyniaeth eu calon ato oedd yn peri iddynt deimlo mai amcan drwg oedd ganddo. A derfysgasant. yr holl bobl, ac a ddodasant ddwy- law arno. Terfysgasant y bobl trwy eu llefain, gan ymaflyd yn Paul. Adnod 28. Gan lefain, Ha wyr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma y dyn sydd yn dysgu pawb ymhob man yn erbyn y bobl, a'r gyfraith, a'r lie yma ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i'r deml, ac a halogodd y lie sanctaidd hwn.' Gan lefain, Ha wyr Israeliaid. Gan lefain am gynhorthwy, fel pe buasai ef yn ymosod arnynt hwy, ac am ymwthio gyda'i gan- lynwvr i'r cysegr sancteiddiolaf. Nid oedd y waedd ond ffug, er mwyn creu cyffro a drwg- deimlad yn erbyn Paul. Dyma'r dyn, meddent yr ydym wedi ei ddal o'r diwedd rhoddwch help i'w gadw mewn dalfa. Y mae'n dysgu pawb ymhob man yn erbyn pobl Israel a'r gyf- raith a'r deml. Ac ymhellach, y Groegiaid hefyd. Nid oedd rhyddid i'r Cenhedloedd i fyned i mewn i gyntedd yr Iddewon, yr hwn a elwir yma y deml.' Caent fyned i gyntedd y Cenhedloedd, a dim ymhellach. Cyhuddent Paul o ddwyn Groegiaid i'r deml, yr hyn oedd yn groes i orch- ymyn pendant y gyfraith; a'r unig sail oedd ganddynt i'r cyhuddiad oedd eu bod wedi gweled Paul gyda Trophimus yn y ddinas. Adnod 29.—' Canys hwy a welsent o'r blaen Trophimus yr Ephesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i'r deml.' Canys hwy a welsent o'r blaen Trophimus yr Ephesiad yn y ddinas gydag ef. Wedi gweled Trophimus gyda Paul yn y ddinas, dychmygasant ei fod wedi ei gymryd i'r deml. Gall cenfigen ddyfeisio cy- huddiadau. Adnod 30. A chynhyrfwyd y ddinas oil, a'r bobl a redodd ynghyd ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a'i tynasant ef allan o'r deml ac yn ebrwydd caewyd y drysau.' 'A chynhyrfwyd y ddinas oil. Cynhyrfwyd y ddinas gan y cythrwfl oedd yn y deml. Yr oedd yn llawn o Iddewon o bob parth, y rhai a ddaethent i'r wyl, a theimlent barch mawr i sancteiddrwydd y deml. Yr oedd clywed fod neb am ei halogi yn rhwym o'u cynhyrfu'n fawr. Cydredasant am y cyntaf i gyn- tedd y Cenhedloedd. Ymafaelasant yn ffyrnig yn Paul i'w lusgo allan o'r lie cysegredig, rhag y buasai'n cael ei halogi a gwaed. Caewyd drysau cyntedd yr Israeliaid. Adnod 31.-—' Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben-capten y fyddin, fod Jerusalem oil mewn terfysg.' Yn ceisio ei ladd ef. Trwy ei guro. Daeth y gair at ben-capten y fyddin. Danfonwyd gair at ben-capten y fyddin Rufeinig oedd yng nghastell Antonia fod Jerusalem 011 mewn terfysg.' Adnod 32.—■' Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen-capten a'r milwyr, a beidiasant a churo Paul.' Yr hwn allan o law a gymerodd frlwyr a chanwriaid. Yr oedd heddwch a threfn y ddinas dan ei ofal, ac felly y mae'n gweithredu'n uniongyrchol. Pan welsant y pen- capten a'r milwyr, peidiasant a churo Paul, ac achubwyd ef rhag cael ei ladd. Adnod 33.—' Yna y daeth y pen-capten yn nes, ac a'i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef a dwy gadwyn ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai.' Yna y daeth y pen- capten yn nes, ac a'i daliodd el, ac a archodd ei rwymo el. Daeth y pen-capten i'r canol, ac ymaflodd yn Paul i'w gymryd fel charcharor, gan orchymyn ei rwymo ef a, dwy gadwyn wrth ddau filwr, un o bob tu iddo. Edrychai arno fel carcharor peryglus. Yna, wedi ei ddiogelu, gof- ynnodd pwy ydoedd a pha beth a wnaethai i haecldiir fath driniaeth. Adnod 34.—•' Ac anttyw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa ac am nas gallai wybod hys- bysrwydd oherwydd y cythrwfl, efe a orchmvn- nodd ei ddwyn ef i'r castell.' Cyf. Viw., 'A rhai a lefent un petli, a rhai beth arall, ymhlith y dyrfa a phan nas gallasai wybod i sicrwydd gan y cythrwfl, efe a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell.' Ni wyddai'r rhan fwyaf beth oedd ei enw, ac nid oedd yn hawdd dwyn cyhuddiad a fuasai'n ddealladwy i'r pen-capten. Felly llefar- asant amryw bethau ar draws ei gilydd. Gan nas gallasai gael gwybodaeth, gorchmynnodd ei ddwyn i'r castell er mwyn cael gwybodaeth pellach. Adnod 35.—' A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwyr, o achos trais y dyrfa.' Cyf. Diw. 'A phan ddaeth efe ar y grisiau, fe ddarfu iddo gael ei gario gan y milwyr oherwydd creulondeb y dyrfa. Pan ddaeth efe ar y grisiau arweinient i'r castell oddiwrth borth y deml, cymaint oedd cynddaredd y bobl fel y rhuthrasant arno pan oedd yn cael ei ddwyn ymaith, a bu'n rhaid i'r milwyr ei gario. vti-Adnod 36.—' Canys yr oedd Uiaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymaith ag ef.' Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain. Gan na chaw- sent ei ladd, datganent eu dymuniad—' Ymaith ag ef lladder ef. Adnod 37.—* A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i'r castell, efe a ddywedodd wrth y pen- capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt ? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg ? A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i'r castell. Y mae'll debyg ei fod yn aros ar ben y grisiau oedd yn arwain i'r castell, ac mewn diogelwch gefynnodd am ganiatad i'w hannerch. Gofynnodd yn yr iaith Roeg, yr hon ddeallasai'r pen-capten orcu. Gan mai Iddew ydoedd Paul, disgwyliai iddo siarad yn Hebraeg nen Aramaeg. Synnai ei fod yn siarad Groeg, a daeth i'r casgliad ei fod yn rhywun gwahanol i'r hwn a dybiasai. Adnod Onid tydi yw yr Eifftiwr. yr lnvn o flaen y dyddiau hyn a gyfodaist derfysg, ac a arweiniaist i'r anialwch bedair mil o wyr llof- ruddiog ? Cyf. Diw., A gynhyriodd i wrth- ryfel, ac a arweiniodd allan i'r anialwch y pedair mil o wyr o'r llofruddion.' Onid tydi yw yr Eifftiwr ? Y mae ffurf y gofyniad ya arwyddo ei fod yn disgwyl atebiad nacaol. Nid tydi, felly, yw yr Eifftiwr. Adnod 39. A Phaul a ddywedodd, Gwr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Tarsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl.' Cyf. Diw., Ond Paul a 'ddywedodd, Iddew ydwyf :6., o Tarsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid anenwog,' &c. Dywed ei fod yn Iddew trwyadl, o Tarsus yn Cilicia. Gofynna am gennad i wneud amddiffyniad iddo ei hun. Adnod 40. Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd a llaw ar y bobl. Ac wedi gwneuthur distaw- rwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Heb- raeg, gan ddywedyd.' Cyf. Diw., Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd ac a lef- arodd wrthynt yn yr iaith Hebraeg, gan ddy- wedyd.' Wedi cael cennad, llefarodd Paul yn Hebraeg wrth y bobl oddiar risiau'r castell. Y fath ysbryd gwrol a phenderfynol a ddengys efe 1 GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Rhoddwch grynhodeb o daith Paul o Mile- tus i Cesarea. 2. Gyda phwy yr oedd yn aros yn Cesarea ? Pwy oedd Agabus, a beth oedd ei genadwri i Paul ? 3. Wedi cyrraedd Jerusalem, a phwy yr ym- gynghorodd ? 4. Pa beth a wnaeth a'r casgliad a gafodd gan yr cglwysi Cenhedlig ? 5. Paham y cydsyniodd a'r awgrym iddo lan- hau ei hun yn y deml gyda phedwar gwyr a gymerasant adduned ? 6. Pa gyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn ? Ar ba sail ? 7. Paham yr oeddynt yu awyddus i'w ladd ? 8. Pwy oedd y pen-capten, a pha fodd y daeth ef i ymyrryd ? 9. Paham y rhwymodd Paul ? Beth a waeddai y bobl ? 10. Pwy oedd yr Eifftiwr y cyfeirir ato ? 11. Pa fodd y cafodd Paul ganiatad i lefaru wrth y bobl ?

Coleg Bala-Bangor.

Y Parch E. S. Jenkins, Martin's…