Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Marwolaeth Mr. Jonah Evans,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marwolaeth Mr. Jonah Evans, Y. H., Pontseli. I Bydd yn chwith iawn gan liaws mawr o ddar- llenwyr y TVST ddeall am farwolaeth yr hen fonheddwr parchus Mr. Jonah Evans. Yr oedd Mr. Evans yn frawd i'r Parch. W. Justin Evans a'r diweddar Dr. Herber Evans, ac yr oedd yntau, fel ei frodyr, yn berchen athrylith a doniau hyawdl eithriadol. Ond treuliodd efe ei fywyd mewn cylch mwy cyfyng na hwy er hynny, yn y cylch hwnnw enillodd iddo ei hun radd dda, a gwnaeth waith mawr. Perchid ef fel diacon ffyddlon ym Mryn Seion, ac anwylid ef gan bawb ar gyfrif ei ysbryd caredig a'i law agored i helpu pob achos teilwng yn ol ei allu. Cymerai ran amlwg ym mywyd cyhoeddus ei ardal. Gwasanaethodd am flynyddoedd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, y Cyngor Plwyf a'r Cyngor Sir. Dyrchafwyd ef i fod yn Henadur o'r Cyngor, ac yr oedd ers blynyddoedd yn aelod o'r fainc ynadol. Cyrhaeddodd yr oedran teg o 76, ac wedi cystudd lIed faith hunodd bore Saboth, Hydref 22ain. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol ym meddrod y teulu yng Nghapel Iwan. Gwasanaethwyd yn y ty ac yn y capel gan Dr. B. Davies, y Parch. D. Walters ac eraill. Yr oedd tyrfa fawr o bell ac agos wedi dyfod ynghyd i dangos eu parch i wr a gerid yn fawr.
Porth Eryri.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Porth Eryri. I Marw Cynhaearn.-Dydd SuI, Hydref 22ain, bu farw un o wyr mwyaf hysbys Porthmadog ym mherson Mr. Thomas Jones (Cynhaearn), cyfreithiwr, yn 78 mlwydd oed. Yr oedd ei iechyd yn lied doredig ers blynyddoedd, ond elai ychydig o gwmpas hyd yr wythnos olaf y bu fyw. Cafodd ergyd o'r parlys nos Iau, a bu farw y Sul canlynol. Yr oedd Mr. Jones yn Wr talentog-yn fardd a llenor rhagorol-ond nid ymroddodd i feithrin y pethau hyn ond i raddau prin. Cafodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl am y duchangerdd i'r Llenleidr,' ac efe oedd yr ail oreu yn Eistedd- fod Bangor, 18go, ar y cywydd i'r 'Anffyddiwr.' Golygodd gyfrol o weithiau loan Madog, ac ysgrifennodd fywgraffiad y bardd. Yr oedd yr elfen ddigrifol yn gref iawn ynddo ar hyd ei oes, ac y mae'r stori'n dweyd iddo lorio'r enwog Emrys rai gweithiau yn y cyfeiriad yma ond byddai ei gellwair yn ddiwenwyn bob amser. Bu a'i fryd ar bregethu ym more ei oes, a bu wrthi am gyfnod yn y cwmpasoedd hyn ond y gyfraith goncrodd yr Efengyll ac enillodd radd anrhydeddus yn ei alwedigaeth. Yr oedd yn rhyfeddol o garedig, ac nid ai neb byth ar ei ofyn yn ofer. Brodor o Bwllheli ydoedd, ond daeth i Borthmadog yn ieuanc, a gwnaeth ei gartref crefyddol yn Salem, a chymerai ddi- ddordeb mawr yn yr achos Yll: y lie hyd y diwedd, a bu yn athraw yn yr #-sgol Sul am tua 50 mlynedd. Pan ffurftwyd eglwys yn y Capel Coffa tua'r flwyddyn 1879, rhowd papurau pleidleisio i'r aelodau er mwyn cael allan pwy oedd yn awyddus i ymuno a'r achos newydd. Ysgrifennodd Cynhaearn ar ei bapur, Gwell yw yr hen.' Ym Mhwllheli y claddwyd ei wedd- illion, dydd Iau, Hydref 26ain—y Parch. W. J. Nicholson yn gweinyddu. ¡ Diolchgarwch.—Treuliwyd y trydydd Llun yn Hydref yn wyl gyffredinol yn yr holl gylchoedd hyn i ddiolch am y cynhaeaf. Cafwyd cynull- iadau rhagorol, a chyfarfodydd a llawer o eneiniad arnynt. Al"arweidd-dra.-Dal yn farw iawn y mae masnach y porthladd. Y mae o 15 i 20 o'r llongau a berthynent i'r lie wedi eu gwerthu, a'r agerlong a arferai fynd a dod rhwng yma a Lerpwl unwaith bob wythnos ar hyd y blyn- yddoedd wedi ei gwerthu hefyd i gwinni o Bel- fast. Oni buasai am weithfeydd eraill, sy'n cynhyrchu darpariadau rhyfel, heb fod ymhell o'r Porth" buasai yma le tlawd iawn. Dichon y daw gwawr ar bethau eto. PORTHOR.
LLYTHYRAU AT FY NGHYD-I WLADWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYRAU AT FY NGHYD-I WLADWYR. lyLYTHYR XV. I ANNWYL MR. A MRS. DAVIES,—Diau eich bod yn meddwl llawer y dyddiau yma ynglyn a'r pedair merch sydd gennych bydd yn amser iddynt cyn hir i ymgymeryd a rhyw fath ar alwedigaeth. Ysgrifennais yn ddiweddar at Mr. a Mrs. Edwards ar yr un mater ynglyn a'u bechgyn hwythau, a bydd yn dda gennyf os darllenwch y llythyr hwnnw hefyd, gan fod nifer fawr o'r galwedigaethau fuont yn y gor- ffennol yn agored i fechgyn yn unig yn agored yn awr i ferched hefyd. Y mae'n dda dros ben gennyf fod delfrydau eich teulu yn aruchel fel delfrydau y teulu hwnnw, a'ch bod yn awyddus i'ch plant fod o'r gwasanaeth uchaf i'w cenedl a'u cenhedl- aeth, ac i fod yn Gymry teilwng o'r enw. Ond nid wyf yn sicr eich bod yn credu cymaint mewn rhoi addysg dda i'ch merched ag y mae Mr. a Mrs. Edwards mewn rhoi addysg dda i'w bechgyn. Y mae'r syniad yn eich meddwl mai priodi a wna'r merched, ac na ddylech dreulio arian lawer oherwydd hynny ar eu haddysg. Dyma un o gyfeiliornadau mwyaf rhieni Cymru o dano y mae cyfeiliornad arall, sef mai amcan addysg yn bennaf, os nad yn hollol, yw sicrhau bywioliaeth. Y mae amcan addysg yn fwy aruchel o lawer na hynyna, sef i baratoi dyn i fyw bywyd cyflawn a da, ac i ddatblygu i safle dynoliaeth ar ei goreu. Os edrychwch ar bethau o'r safbwynt yna, fe welwch fod rhoi addysg dda i famau'r dyfodol yn llawn mor bwysig, a dweyd y lleiaf, a rhoi addysg i'r bechgyn. Gwna pob blwyddyn ychwanegol o addysg ysgol a roddwch i'r merched eu bywyd yn llawnach a chyfoethocach ac nid yn unig eu bywyd hwy, ond bywyd eu gwyr a'u plant pan ddaw y rhai hynny. Gwyddoch yn dda mae'r ffordd oreu i godi cenedl yw rhoddi'r addysg oreu i'r mamau, canys y mae ganddynt fwy o lawer i wneud a chodi'r genhedlaeth nesaf nag sydd gan y tadau. Gwn am deuluoedd sydd yn gofalu rhoi addysg dda i'r merched, ac yn gadael i'r bechgyn ymladd eu ffordd goreu y gallent ar ychydig addysg. Gwnant jhynny am eu bod yn credu y gall bachgen ■ymladd ei ffordd yn y byd yn hawddach na merched ar ychydig addysg. Nid wyf yn dweyd eu bod yn gwneud yn deg, ond y maent yn sicr o fod yn agosach i'w lie na'r teuluoedd hynny roddant ysgol dda i'w bechgyn ac a esgeulusant eu merched. Y mae'n dda iawn gennyf weled fod pob un o'r merched yn cael helpu rhywfaint gyda gwaith y ty. Nid ydych chwi, Mrs. Davies, fel cannoedd o famau yn ddigon ffol i feddwl fod gwaith ty yn ddiraddiol i'ch plant. Fe fydd yn rhaid iddynt, ysywaeth, rywbryd ymafael mewn gwaith ty, a goreu po gyntaf y dysgant wneud hynny. A gwn hefyd y byddwch yn ddigon doeth i ddisgwyl ganddynt helpu gyda'r gwaith hwn tra ar eich aelwyd, mor belled ag y gallant ag iddynt gael hollol chware teg at y gwaith astunio fydd ganddynt i'w wneud. Gofaler, wrth gwrs, am beidio eu cadw o'r ysgol i wneud gwaith ty, na'u blino a negeseuau ac yn y blaen fydd yn torri ar yr amser a'r hamdden ddylent gael at eu gwaith ysgol. Nid oes dim yn well na gwaith ty i ddatglybu corff cryf ac iach, ac nid oes dim yn fwy tebyg o wneud merch yn ffroenuchel a diwerth na'i dysgu bod gwaith ty yn rhy isel gwaith iddi hi. Y peth nesaf i chwi benderfynu yw nad oes yr un ohonynt i aros yn y ty o hyd, ond eu bod i fyned allan i'r byd i ennill eu bywiol- iaeth, ac i ddysgu bod yn annibynnol ar bawb yn y mater hwn. Efallai fod gennych ddigon i'w cynnal, efallai nad oes un peth sydd sicr, sef y gwnewch annhegwch mawr a'ch merched os na roddwch iddynt y cyfleustra i weithio ar gyfer sicrhau bywiolaeth. Y plant mwyaf di- werth o bob plant yw'r rhai hynny nad oes arnynt reidrwydd i ymladd exi ffordd eu hunain yn y byd. Nid mater o arian yn unig ydyw, ond mater o ddatblygu eich merched ni ddat- blygir cymeriad heb ddigon o waith a brwydro yn erbyn anawsterau. Peidiwch gwneud, ychwaith, y camsyniad wneir yn ami i feddwl y bydd yn ddigon i'ch merched ddysgu tipyn o ganu a chware perdoneg. Os nad oes gan- ddynt dalent neilltuol yn y cyfeiriad yma, ni ddaw eu llafur a nemor arian i mewn ac os oes, gall eu talent fod yn fagl iddynt. Nid wyf yn dweyd na ddylent ddysgu'r pethau hyn: yn wir, fe ddylai pob merch wneud. Ychwanegant yn ddirfawr at eu gallu i wneud lies mewn gwahanol gyfeiriadau, a rhoddant iddynt hwy ac i eraill o'u cwmpas bleser ychwanegol ac iachus mewn bywyd. Y mae llawer cylch o fywyd yn awr yn agored i ferched. Teimlaf o'm rhan fy hun nad oes dim yn well i ferch o deulu da na bod yn athrawes. Wrth baratoi ar gyfer y gwaith hwn fe ddat- blygir ei chorff a'i meddwl. A pheidiwch bod- loni heb roddi coleg iddynt. Ychydig iawn yw'r gost, a dwy flynedd sydd eisiau ar gyfer ysgol eifennol. Dechreuant, wedi gadael y coleg, ar gyflog o ryw bedwar ugain punt y flwyddyn, ac' ä ymlaen yn raddol i gant a rhagor fel is- athrawes, a deucant a rhagor ambell dro os daw yn brifathrawes ar ysgol fawr. Bydd yr addysg geir yn ddefnyddiol nid yn unig yn eu gwaith, ond bydd o gymorth mawr iddynt mewn cy- sylltiad a'r Ysgol Sul a gwaith cymdeithasol o bob math, ac fe fydd yn help dirfawr iddynt i godi eu plant eu hunain. Fe fydd galw mawr iawn am athrawesau yn y dyfodol agos. Y mae galw mawr ers blynyddoedd yng Nghymru hefyd am weinyddesau a fedrant y Gymraeg mewn ysbydai. Y mae hwn yn waith aruchel ac yn deilwng o bob merth. Fe fydd yn rhaid i ferch fydd am wneud gwaith o'r fath fod yn weddol o gryf o ran corff, fod yn teimlo diddordeb mawr yn y gwaith, ac yn barod i hunanaberthu yn ami, canys y mae'n waith caled. Y mae rhagor o ferched yn paratoi at fod yn feddygon nag erioed. Rhaid fydd cael tipyn o gryfder corff a gallu i ddysgu. Ar ol pum mlynedd o goleg, nid anodd fydd iddynt ennill dau cant ac uchod o bunnau'r flwyddyn. Gwaith pwysig yn gofyn llai o waith, amser ac arian i ymbaratoi, ac yn sicrhau cyflog dda a bywyd o wasanaeth gwerthfawr yw gwaith fel ymwelydd iechyd (health visitor) i gynorthwyo meddygon i ofalu am iechyd plant ac eraill. Y mae llawer iawn o leoedd yn agored i ferched yn y Gwasanaeth Gwladol. Un anhawster ynglyn a'r gwaith hwn yn ami yw gorfodaeth ar ferched ieuainc iawn fyw oddi- cartref. Ceir digon o alwedigaethau eraill, wrth reswm, i ddewis oddiwrthynt nas gallaf yn awr ymdrin a hwynt. Fy amcan yn hyn o lythyr yn bennaf yw dangos mor bwysig yw i chwi roddi i'ch merched yr addysg oreu i'w cym- hwyso at ryw alwedigaeth. Wedi i chwi wneud hyn ni fydd eisiau i chwi ofidio os na fydd arian gennych i'w adael ar ol iddynt bydd pob un ohonynt yn hunanddibynnol, ac wedi cael mesur helaeth o ddiwylliant i'w gwneud o ddefnydd mewn llawer modd yn ymdrechion y dyfodol i godi cymdeithas. Yr eiddoch, AXWEBYD.
Profiad Aberfan.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Profiad Aberfan. IP ,Cyffelyb"'mewn llawer o bethau yw pobl Mer- thyr i bobl Aberfan-yr un teimladau a'r un golygiadau diymdro. Cred y dyn hwn o Aber- fan a wna'r adroddiad a argreffir isod mewn ceisio cynorthwyo eraill fel ad-daliad am yr help a dderbyniodd ei hunan. Mr. E. Jones, 48 Aberfan-road, Aberfan, ger Merthyr, a ddywed -'Pan y cefais arwyddion o anhwylder yr arennau yr oedd fy nghefn a'm hochr yn boenus iawn. Gan y rhaid i mi blygu llawer wrth fy ngorchwyl, teimlwn ef yn waith anodd iawn. Amharwyd cyfundrefn yr arennau drwyddi, ond ar ol pwrcasu amryw bethau a methu cael rhyddhad dechreuais gyda Doan's Backache Kidney Pills. Rhyddhasant fi o'r poenau ar unwaith, gan lanhau'r gyfundrefn droethol. Cymerais gwrs ohonynt, ac yn fuan iachasant fi. Pelennau Doan yw'r feddyginiaeth oreu at yr arennau, a chymeradwyaf hwynt yn gryf i unrhyw berson sydd yn dioddef oddiwrth ofidian yr arennau. (Arwyddwyd) E. Jones.' Gorwedd yr arennau o dan y meingefn. Eu gwaith mawr yw hidlo'r wast gwenwynig a'r gweddill dwfr allan o'r gwaed. Ond pan y maent yn wan gadawant beth o'r wast gwenwynig hwn yn y cyfansoddiad, ac yna dechreuwch deimlo'n hurt, trymaidd a chyffrous, a gellwch cael gur yn y pen, grafel, anhwylderau troethol, chwydd- iadau y dyfrglwyf, crydcymalau a'r glunwst. Cynorthwya Doan's Backache Kidney Pills yr arennau i daflu ymaith y gwenwynau anhyfryd, ac felly i gyrraedd yr achos o'r arwyddion uchod. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwch oddiwrth Foster-McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford-street, London, W. Peid- iwch a gofyn am belennau at ddolur y cefh neu'r arennau, ond gofynnwch yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mr. Jones. 8
+c- *o 0 0 0 C 0 *t<>. t Y…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
:6. Gan fod eglwys Gristionogol yn Rhufain, pa fodd y gellir cyfrif am anwybodaeth yr Iddewon hyn am Gristiouogaeth ? 7. Beth oedd nodwedd y gwirioneddau a ddysgodd Paul i'r rhai a ddaethant ato ef i'w dy ? 8. Pa ddylanwad gafodd y gwirioneddau hyn ar eu meddyliau, ac ymha ystyr y cymhwysir geiriau proffwydoliaeth Esaiah atynt ? 9. Faint o amser y bu Paul yn ei dy ardrethol ei hun yn Rhufain ? A oedd yn garcharor yr amser yma ? Beth oedd ei waith neilltuol ?