Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
DIOLCHGARWCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIOLCHGARWCH. At Olygydd y Tyst. SVR,Dymuna'r Parch O. J. Owens a'r teulu, Talwrn, ger Gwrecsam, ddatgan eu diolchgarwch i'r eglwysi, gweinidogion De a Gogledd, a chyf- eillion oil am y lliaws fynegiadau o gydym- deimlad ddanghoswyd tuag atynt yn eu prof- edigaeth chwerw. L> W. W. I
HELYNT Y GLOWYR. II
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HELYNT Y GLOWYR. At Olygydd y Tyst. I SVR,-Credaf y byddai yn burion peth i Burlais sylwi yn fwy manwl ar yr hyn a ysgrif- ennaf :irni fydd angen iddo fod heb ddeall fy meddwl wedyn. 11 Nid fy amcan yw torri geir- iau wrth ysgrifennu, ond dangos y gwirionedd i bawb a garant wybod hynny. Y mae gennyf berffaith ryddid i farn bersonol fel Burlais,' ond fy mod yn earu amddiffyn y rhai gorthrymedig yn fwy nag ef. Ei ddyled- swydd ef a minnau yw amddiffyn y gwan, a'u cynorthwyo i ddod i'r lan ond y mae efe, fel llawer eraill yn yr oes oleu hOll,' wedi syrthio mor isel nes gosod ei droed ar wddf y glowyr, heb wybod digon am eu helynt cyn gwneud hynny. IirlDywed fod y glowyr a'u cynrychiolwyr mewn anwybod difrifol parthed eu materion eu hunain. Os felly, sut yn y byd y daeth efe i wybod yn well na hwynt ? Fe wyddom yn ddigon da fod y cynrychiolwyr wedi bod yn gwahaniaethu mewn barn ar un cwestiwn arbennig, sef pa un ai gweithio o ddydd i ddydd neu atal gweithio fyddai oreu. Carwn iddo fynnu gwybod drosto ei hun i gael gweled fy mod yn iawn wrth ddweyd mai gwahaniaeth cyn streicio, ac nid ar ol hynny, oedd hwnnw. Beth ddywed am hyn, tybed-fod y cynrychiolwyr yn cydnabod erbyn hyn fod yr ergyd iawn wedi ei rhoddi wrth atal gweithio pan y gwnawd, ac nid gweithio yn y blaen. Tebyg fod Burlais,' fel miloedd eraill, yn tybied fod y glowyr yn ymladd am rywbeth mawr iddynt en hunain. Prin y gellir dweyd fod a fynno cyflog y glowyr a'r mater fel y cyfryw. Yn hytrach, ymladdant dros y dosbarth hwnnw ag sydd yn cael llai na chyflog byw. Wn i ddim a garai Burlais fyw ar bunt lieu lai yn yr wythnos yr adeg gostus yma. Tebyg iawn na charai; a dyna paham yr ym- laddai y glowyr mor ddewr dros eu cyd-ddynion -am y credant fod dyn yn ddyn, ac fod eisiau chware teg arno. Nid rhinwedd mewn dyn yw bod yn ddistaw pan wel un neu ragor o'i frodyr yn cael eu gorthrymu. A chredaf fod Burlais yn byw mewn dosbarth na wyddant ddim yn y byd am anawsterau bywyd. Peidied ef a meddwl fod pawb yn mynd o un eithafion i arall pan yn darllen neu glywed am ambell ddyn yn dweyd rhywbeth dipyn yn ddieithr ambell waith. Y mae hanes y canrifoedd yn profi fod y rhag- weledydd wedi synnu pobl pob oes drwy ei ddy- wediadau. Beth bynnag a ddywedwyd neu a ddywedir, dylai gael ei chwilio a'i brofi yn deg, ac nid collfarnu yn ddidrugaredd. Deallaf fod syniad tra uchel gan Burlais am Mabon. Yr wyf yn berffaith foddlon iddo ond cofied fod dwy ochr bwysig i'r cwestiwn. Yr wyf yn credu mewn rhoddi pob anrhydedd teilwng iddo, ond credaf fod Barker wedi ei faeddu am unwaith, beth bynnag. Gwelir fod Barker wedi siarad ac ymladd fel dyn o'r de- chreu, a gall edrych yn ol gyda llawenydd fel un wedi gwneud ei waith yn onest. Gwyr ef a ninnau bellach nad gwiw siarad a gweithio mae'n rhaid wrth ffordd arall—llai anrhydeddus, ond mwy llwyddiannus. Gresyn fod pethau fel hyn, ond fel hyn y byddant hyd nes daw meistri ein gwlad i edrych ar eu gweithwyr fe dynion a brodyr, ac nid fel rhyw fodau annhraethol is na hwy eu hunain. Gellidmecldwl wrth syniadau Burlais fod y glowyr wedi torri pob rheol yn sam, am eu bod wedi hcrio'r Llywodraeth a gwrthod dyfarniad y cynrychiolwyr fel pe bydd- ent yn rhwym wrthynt. Tybiaf fi mai cario allan genadwri'r glowyr yw gwaith y cynrychiolwyr, ac nid cario allan eu syniadau eu hunain. Neu a ydynt i dderbyn a goddef popeth, fel llygoden dan bawen cath ? Y mae Burlais am ddangos fy mod yn anghyson a mi fy liun ond yr wyf am iddo gofio fy mod yn cadarnhau yr oil a ddywedais o'r blaen y tro yma eto. Carwn iddo dorri lawr fy syniadau drwy roddi eu gwell ond, fel y mae gwaetha'r modd, nis gall. Rhaid iddo gael gwell a chyflawnach gwybodaeth ar y mater hwn nag a fedd. Y mae fy ffydd yn aelodau y Llywodraeth yn gyfryw fel y rhoddaf bob parch iddynt mor belled ag y byddaf yn cydweled a hwynt. Tybed fod Burlais yn credu fod pob peth a wnant yn gywir ? Cyfeiria hefyd fod angen mwy o dalent at fod yn feddyg, neu paham na byddai y glowyr yn mynd yn ddoc- toriaid, a hithau yn talu mor dda yn bresennol ? Dyma paham—pe byddai pawb 31n ddoctoriaid heddyw, byddai rhaid i'r mwyafrif mawr ohonynt droi i fod ynblowyr neu rhywbeth arall ar un- waith. Mae'n rhaid wrth y naill a'r llall-ond rhyfedd y gwahaniaeth sydd yn y cyflogau A sicr wyf na vryt Burlais fod miloedd o lowyr yn gwneud llawer o waith doctoriaid bob dydd. Y maent wedi astudio ambulance am flynyddoedd, a beth yw'r canlyniad (mor belled ag y mae arian yn y cwestiwn)—gosod arian ym mhocedau y meistri a'r doctoriaid, a dim iddynt eu hunain. Dyweded Burlais a ddywedo, mi wn i fod cannoedd o swyddogion ein gwlad yn cael cyflogau uchel iawn am gyflawni swyddau y gallai llawer o lowyr eu cyflawni cystal a hwythau. A sut yn y byd y mae can punt (a llawer llai) yn ddigon i lowr, ac yntau yn wynebu y fath beryglon ? Dengys yn eglur mai nid yr un gwerth sydd ar bob dyn. Mae'n rhaid fod Burlais a minnau wedi gweled adroddiadau gwahanol iawn ynglyn a dyfarniad swyddogion y Llywodraeth cyn gallai fod y fath wahaniaeth rhyngom. Dywedaf eto fod dyfarniad Lloyd George, a'i syniadau cymer- adwyol i'r glowyr, yn profi'r oil a ddywedais. Wrth ystyried sefyllfa pob dyn, mae'n rhaid cofio nas gall siarad ond gyda chynildeb a gofal. Gof- ynna Burlais Paham y terfysga Barker heddyw ? Mae'r atebiad yn amlwg, sef oblegid y pethau nad oeddys wedi eu setlo yn ddigon manwl o'r blaen. Gellir yn hawdd ddeall nad oes modd cytuno ar ddim heb derfysg. Y mae hyn yn amlwg i'r sawl sydd wedi ac yn gwylio y symudiadau. Gellid ychwanegu llawer, ond gadawaf ar hyn, gan obeithio y gwna les i'r rhai hynny sydd mewn angen am y gwir. Yr eiddoch yn gywir, GivOWR. I
I Cwmparc, Treorci. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Cwmparc, Treorci. I Claddedigaeth Miss Nellie May Davies.-Unig ferch y Parch T. L. Davies a Mrs Davies, Glas- fryn Villa, Cwmparc, oedd yr uchod ac ar ol hir gystudd ehedodd ei hysbryd adref at yr Hwn a'i rhoes yn yr oedran cynharol o 27 mlwydd oed. Hiraeth mawr sydd ar ei hoi ar yr aelwyd, yn yr eglwys, ac yn y gymdogaeth. Yr oedd Miss Davies, er yn ieuanc, wedi byw yn hir mewn llawer ystyr. Cymerodd gryn ddiddordeb mewn materion crefyddol a dyngarol. Bu am lawer blwyddyn yn athraw llwyddiaunus yn yr Ysgol Sul, ac ymhob rhan o waith y cysegr cymerai ddiddordeb dwfn. Bu am dymor yn efrydydd yn Ysgol Sir y Porth, a bu yn nodedig o lwydd- iannus tra yno. Gwel llawer cylch o ardal Cwm- parc ei heisieu yn fawr, ond y gwacter a'r hir- aeth mwyaf sydd ar aelwyd Glasfryn Villa. Mae ei chadair yn wag, ei gwen yn eisieu, a'i llais wedi distewi-yr ochr yma ac y mae i'r teulu a'r perthynasau oil ein cydymdeimlad llwyraf yn awr eu profedigaelh. Cafodd ein chwaer angladd barchus—daeth torf enfawr ynghyd i dalu'r gymwynas olaf iddi. Gwasanaethwyd gan y Parch Jacob Jones, Merthyr (ar gais yr ymad- awedig), yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn O. Lloyd Owen, Pontypridd D. T. Henry, Llan- ymddyfri S. H. Sebree, Guernsey a W. Lewis (M.C), Park. Y galarwyr oeddynt y Parch T. L. Davies (tad) Mrs Howells, Pendine Mrs Phillips, St. Clears Mrs Phillips, Pentre Mr a Mrs J. Davies, Merthyr Mr a Mrs J. Jones, Blaengarw Mr a Mrs D. Jones, Treorci Mr a Mrs John John, Cwmparc Miss Sophia Davies, St. Clears Mr William Davies, Caerdydd Mr lyvan Williams, Cefn Misses Gwen, Maggie a Jennie Jones, Treorci; Miss Leah Jones, Blaen- garw Mr Aneurin Jones, New Tredegar Mr a Mrs J. Love, New Tredegar; Mrs Bbenezer Jones, Treorci; Mrs Delahay, Hereford Parch T. S. Davies, Merthyr; Parch Arthur Jones, B.A., Ynysybwl; Mrs Miles, Merthyr Mr John Jones, Chepstow Mr a Mrs Nicholas, Treorci Mr a Mrs J. John, Pentre Mri Isaac a William Davies, Hirwaun. Ymysg y rhai oedd yn bresennol gwelwyd y Parchn J. Williams, Trehafod J. Gwrhyd Lewis, Tonyrefail John Hughes, Blaen- garw; Rowland Hughes, B.D., Tylorstown; J. Walters, Clydach Vale S. Bowen, Treorci J. Oldfield Davies, B.A., Ton Pentre T. L, Jones, Efailisaf; J. C. Jones, Tynewydd; W. A. Jen- kins, Blaenrhondda E. R. Phillips, Neath Abbey; Rhedynog Evans, Treherbert; James Williams, Wattstown G. 0. Roberts, Cwmparc T. Tissington (ficer), Cwmparc a W. J. George, Church Village Cynghorwr W. P. Thomas, Tre- orci Mr W. Jones, M.A., Ysgol Ganolraddol, Porth; Mr E. T. Michael, Treorci, &c. Nodyn prudd arall ar yr amgylchiad oedd anallu mam yr ymadawedig i fod yn y cynhebrwng oherwydd afiechyd. Loes i'w chalon oedd hyn. Anfonwyd plethdorchau drudfawr gan amryw gyfeillion, heblaw ryw 80 o lythyrau o gydymdeimlad, yr hyn roddodd falm a chordial i'r tad a'r fam a'u hunig fachgen. Huned ein chwaer yn dawel hyd fore'r codi, ac na aflonydded neb ar fan fechan ei bedd. Yr Arglwydd a roddodd, yr Arglwydd a gymerodd ymaith bendigedig fyddo enw vr Arglwydd.' Solva. KILMORF,Y.
GALWADAU. 1_
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GALWADAU. 1 TABERNACL, GII,FACH-FARGOED.—Mae Mr. Griffith John Jones, myfyriwr yng Ngholeg Coffa Aberhonddu, wedi ateb yr alwad a gafodd oddiwrth yr eglwys uchod yn gadarnhaol. Bwr- iada. ddechreu ar waith y weinidogaeth ar y trydydd Sul ym Medi, a cheir dyddiad a threfn- "adau yr ordeiniad yn nes ymlaen. Mae y sawl a'i hadwaen yn berffaith sicr y gwna weinidog ym-roddgar iawn, a bydd ei fedr gyda'r plant yn gymorth mawr iddo. Boed i lwyddiant a bendith amlwg ddilyn ei lafur.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Baban wedi ei Barlysu Gwellhad Llwyr o Barlys Maban- aidd gan Dr Cassell's Tablets. Y Mrs Anderson, 12, Bippenden- btreet, Newcastle-on-Tyne, a ddywed Nid oedd fy maban ond yehydig wythnosau oed pan ddechreuodd golli grym, yn gyntaf, ei freichiaQ ac yna ei goesau. Dywedwyd i mi mai parlysiad mabanaidd yd- oedd, ac y cymerai flynyddan cyn y cai wared ohono. Ni thyciai mod d ion cyflredin ddim, ac ai y baban yn fwy diymadferth bob dydd. Aeth yn bur deneu hefyd, ac wylai lawer. O'r diwedd, meddylisis am dreio Dr Cassell's Tablets, Yr oedd y plentyn tua phum mis oed yr adeg houno, ac yn hollol ddiymadfertb. Ar ol ychydig ddognau ymddanghosai yn well; ac fel yr oeddwn yn parhau i roddi iddo y Tablets, dyohwelodd grym yn raddol i'w aelodau byohain, ao adenillodd yr oil a gollodd ac ychwaneg yn ei bwysau, Yn awr pan y mae yn ftwydd oed y mae yn fachgen hoewych, llatbraid, bywiog, a llawn o ynni. Dr. Cassell's Tablets. Mae Dr Oassell's Tablets yn feddyginiaeth ddidwyll a phrofedig at yr hollllurfiau 0 wendid gieuol a ohorff- orol yn yr hen a'r ieuanc. Gan eu bod yn gyfansodd- edig o faeth gieuol a moddion cryfhaol tuhwnt i ddadl, oydnabyddir hwynt fel y driniaeth gartrefol ddiwedd- araf at GIAU DRYLLIEDIG GIAU PARLYSEDIG PARLYSIAD ASGWRN Y CEFN PARLYSIAD MABANAIDD CLEFYD Y GIAU GWENDID GIEUOL DIFFYG CWSG GWENDID Y GWAED AFIECHYD YR ARENNAU ANNHREULIAD ANHWYLDER Y CYLLA CAMFEITHRINIAD AFIECJiYDON NYCHLYD DYCHLAMIAD Y GALON DIHYSBYDDIAD YNNI DADFEILIAD CYNHAROL Maent o werth arbennig i Famau sydd yn Mligu ac yn ystod Uyfnodau Peryglus Bywyd. Gwerthir Dr Uassell's Tablets gan Fferyllwyr ao mewn ystordai drwy yr holl fyd. Prisoedd: 101e, 1/li, a 2/9— mae'r botel 2/9 yn rhatach. Anfonir i chwi brawf- sypyn rhad ar dderbyniad eich enw a'oh cyfeiriad a dau stamp ceiniog at dalu'r treulian. Oyfeiriad: Dr Oassell's Oo., Ltd., 418, Ohester-road, Manchester.